Neidio i'r prif gynnwy

2. Tir

Mae camau y mae’n rhaid i chi eu dilyn cyn prynu gwartheg neu ddod yn gyfrifol am wartheg ar eich daliad.

Beth yw daliad?

Mae ffermydd, marchnadoedd da byw, lladd-dai, canolfannau crynhoi a chasglu yn enghreifftiau o ddaliadau ac mae gan bob un ohonynt yn cael rhif o dan y system rifo Sir/Plwyf/Daliad (CPH).

Sut i gael rhif CPH?

I gael rhif CPH, bydd gofyn yn gyntaf ichi  

I’r rheini sydd eisoes yn gwsmeriaid, defnyddiwch y system 'Rheoli fy CPH' ar RPW Ar-lein.

Pan fyddwch yn cael tir newydd neu’n rhoi’r gorau i dir yr ydych yn cadw gwartheg arno, rhaid i chi ddiweddaru manylion eich tir ar Rheoli Fy CPH.

Cael marc buches

Bydd angen i chi gysylltu â’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) i gael ‘marc buches’ (herd mark) ar gyfer eich daliad ac i gofrestru fel ceidwad da byw.

Bydd marc y fuches yn rhan o rif adnabod unigryw’r anifail a fydd wedi’i brintio ar dagiau clust eich gwartheg. Bydd angen marc buches arnoch chi cyn i chi allu:

  • prynu tagiau newydd, yn barod i’w defnyddio pan gaiff llo ei eni ar eich daliad
  • archebu tag yn lle un sydd wedi’i golli neu ei ddifrodi (er y bydd union yr un rhif ar y tag cyfnewid ag ar yr un gafodd ei golli neu ei ddifrodi)

Prynu Tagiau Clust

I archebu’ch tagiau clust, bydd angen eich rhif CPH a march eich buches arnoch.  Gwasanaeth Adnabod Unigryw Da Byw Prydain (LUIS) sy’n gyfrifol am neilltuo rhifau adnabod ac am eu rhoi i’r cyflenwyr cymeradwy iddynt gael eu printio ar y tagiau clust.  Fe welwch restr o gyflenwyr a’u cynnyrch ar wefan Llywodraeth y DU.