Neidio i'r prif gynnwy

1. Cyflwyniad

Rhaid i unrhyw un sy'n gyfrifol am wartheg ddilyn y gofynion a bennir  gan y Rheoliadau Adnabod Gwartheg.

‘Ceidwad gwartheg’ yw unrhyw berson sy’n gyfrifol am wartheg, boed yn barhaol neu dros dro. Mae hyn yn cynnwys wrth gludo gwartheg neu mewn man crynhoi. Nid y ceidwaid o reidrwydd fydd perchenogion yr anifeiliaid a gallant fod yn:  

  • ffermwyr
  • pobl sy’n rhedeg marchnadoedd a mannau crynhoi da byw
  • cludwyr
  • delwyr sy’n cadw anifeiliaid
  • pobl sy’n rhedeg lladd-dai a gwalfeydd
  • pobl sy’n cadw gwartheg fel anifeiliaid anwes

Mewn dogfennau swyddogol, mae’r term ‘gwartheg’ bob tro’n golygu’r tair rhywogaeth (gwartheg, bison a byfflo) os na ddywedir yn wahanol.

Mae yna bethau yn ôl y gyfraith y mae gofyn i geidwaid gwartheg eu gwneud, cyn ac ar ôl i’r anifail ddod o dan eu gofal.