Yn y canllaw hwn
5. Genedigaethau
Pan fydd llo’n cael ei eni, rhaid dilyn y rheoliadau adnabod gwartheg. Mae’r rheini’n cynnwys:
- rhoi tagiau clust ar y llo, un ar bob clust
- gwneud cais am basbort gwartheg
- rhoi manylion y llo ar gofrestr y fuches
Tagio
Rhaid i Geidwaid:
- archebu stoc o dagiau clust swyddogol oddi wrth gyflenwyr cofrestredig i’w rhoi ar loi newydd anedig;
- nodi marc y fuches a CPH y daliad wrth archebu tagiau;
- peidio ag archebu mwy o dagiau nag a fyddai’n cael eu defnyddio mewn blwyddyn;
- gofalu bod tagiau clust sydd heb eu defnyddio eto yn cael eu cadw mewn lle diogel;
Bydd angen rhoi ‘prif dag’ ac ‘ail dag’ ar bob anifail, gyda’r ddau’n dangos yr un rhif adnabod unigryw. Rhaid i’r prif dag fod yn dag baner melyn plastig y gallwch ei ddarllen o bell. Gallwch ei roi ar y naill glust neu’r llall.
Dim ond yr wybodaeth ganlynol fydd ar y prif dag:
- logo’r Goron
- cod y wlad (‘UK’)
- marc y fuches
- digid gwirio
- rhif 5 digid unigryw’r anifail
Rhaid rhoi’r ail dag ar y glust arall. Dylai fod yr un wybodaeth arno ag sydd ar y prif dag, ond gallwch roi gwybodaeth reoli arno hefyd a sglodyn EID.
Y dyddiadau cau ar gyfer gwneud cais am dag:
| Llo | Gosod y Tag Cyntaf | Gosod yr Ail Dag | Tagiau Newydd |
|---|---|---|---|
| Godro | Cyn pen 36 awr ar ôl ei eni | Cyn pen 20 diwrnod ar ôl ei eni |
Cyn pen 28 diwrnod |
| Eidion | Cyn pen 20 diwrnod ar ôl ei eni | ||
| Bison | Cyn pen 9 mis ar ôl ei eni neu wrth ei ddiddyfnu (pa un bynnag sy’n digwydd gyntaf) | ||
Tagiau Electronig ar gyfer Gwartheg (EID Gwartheg)
Mae amser cyflwyno Dyfeisiau Adnabod Electronig ar wartheg (BEID) yng Nghymru yn agosáu, gyda chyhoeddi'r crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus ar Gweithredu Trefn o Adnabod Gwartheg yn Electronig yng Nghymru.
Ar ôl edrych yn ofalus ar yr holl ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu mynd yn ei blaen â chyflwyno Tagiau Adnabod Electronig (BEID) ar gyfer lloi newydd-anedig yng Nghymru, gan ddefnyddio technoleg Amledd Isel (LF).
Disgwylir cyflwyno BEID ar gyfer lloi newydd-anedig yng Nghymru yn 2027. Bydd canllawiau ar ddefnyddio tagiau EID Gwartheg yn cael eu cyhoeddi cyn hir. Rydyn ni’n eich cynghori i archebu dim ond digon o dagiau confensiynol ar gyfer y lloi rydych yn eu disgwyl yn 2026.
Am ragor o wybodaeth, gweler Tagiau gwartheg: pryd fydd Dyfeisiau Adnabod Electronig Buchol yn cael eu cyflwyno.
