Neidio i'r prif gynnwy

8. Marwolaethau

Os oes gwartheg yn marw ar eich daliad yn hytrach na chael eu lladd, rhaid cofnodi’r farwolaeth a rhoi gwybod i’r BCMS.

Rhaid rhoi gwybod i Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS) am farwolaeth unrhyw wartheg ar eich daliad cyn pen 7 diwrnod ar ôl iddynt farw. Gallwch wneud hynny drwy ddefnyddio’r dulliau sydd i’w gweld yn Adran 3.

Rhaid i chi hefyd ddiweddaru cofrestr y daliad cyn pen 7 diwrnod. Pan fydd y carcas yn gadael eich daliad, rhaid i chi ei gofnodi fel symudiad ‘ymadael’.

Marwolaeth anifail cofrestredig 

Ar ôl rhoi gwybod am farwolaeth anifail, rhaid ichi anfon y pasbort a/neu’r ddogfen gofrestru (CPP35) yn ôl i’r BCMS. Rhaid i’r pasbort gyrraedd cyn pen 7 diwrnod ar ôl y farwolaeth. Postiwch y pasbort i:

BCMS, Curwen Road, Workington, CA14 2DD

Cofiwch, os ydych wedi cofnodi marwolaeth ar eich daliad ar-lein neu dros y ffôn, nid oes angen llenwi adran manylion y farwolaeth ar y pasbort cyn i chi ei anfon at y BCMS.  Os oes gan yr anifail basbort un dudalen, rhaid ticio’r blwch i ddangos eich bod wedi cofnodi’r farwolaeth yn electronig.

Lladd ar y fferm

Os yw milfeddyg neu weithredwr lladd-dy yn lladd anifail ar eich daliad ac yn ei gymryd i ladd-dy i’w drin, rhaid i chi lenwi adran manylion y farwolaeth yn y pasbort ac anfon y pasbort gyda’r anifail i’r lladd-dy.

Os yw anifail yn cael ei ladd a'i drin ar eich daliad, rhaid i chi lenwi'r adran manylion marwolaeth yn y pasbort. Rhaid i'r pasbort ddangos bod yr anifail wedi marw ar y fferm neu'r daliad a rhaid anfon y pasbort yn ôl at y BCMS.

Rhoi gwybod am farwolaeth llo sydd heb ei gofrestru

Os bydd llo’n marw cyn ei dagio, yr unig beth sydd angen i chi ei wneud yw diweddaru cofrestr eich daliad trwy gofnodi dyddiad geni llo a’i farwolaeth wrth fanylion ei fam.

Os bydd llo’n marw ar ôl ei dagio ond cyn i chi wneud cais am basbort, rhaid i chi roi gwybod i’r BCMS ei fod wedi marw. Byddan nhw’n tynnu rhif tag clust yr anifail marw oddi ar y gwymplen o dan ‘Cofrestru Genedigaethau’. Os ydych eisoes wedi anfon y cais am basbort, rhowch wybod i’r BCMS ei fod wedi marw.