Neidio i'r prif gynnwy

9. Cofrestr y fuches

Mae’n bwysig bod pawb sy’n cadw gwartheg yn llenwi cofrestr buches. Rhaid cadw’r gofrestr yn gyfoes a sicrhau ei bod ar gael i unrhyw un sy’n gofyn am gael ei gweld. Gallech gael eich cosbi neu hyd yn oed eich erlyn am beidio â’i dangos.

Rydyn ni’n eich cynghori i ddefnyddio llyfryn cofrestr y fuches.

Os ydych chi’n hapus â’ch cofrestr electronig neu gofrestr debyg, croeso i chi barhau i’w defnyddio.

Ond gofalwch fod eich cofrestr yn cofnodi’r wybodaeth y mae’n templed ar gyfer y gofrestr yn gofyn amdani, sef:

  • 1 – tag clust
  • 2 – dyddiad geni
  • 4 – brîd
  • 5 – rhyw
  • 6 – rhif tag clust y fam (neu’r fam fenthyg) (mae manylion y tad yn opsiynol)
  • 7 – dyddiad symud
  • 8 – CPH neu ddaliad man cychwyn y symudiad
  • 9 – dyddiad y symudiad neu farwolaeth
  • 10 – CPH neu ddaliad pen taith symudiad

Cadwch eich cofrestr mewn lle diogel ac os ydych yn defnyddio cofrestr electronig, crëwch fersiwn wrth gefn.

Nid oes angen cadw cofrestr bapur a chofrestr electronig. Gwnaiff y naill neu’r llall y tro.

Dyma’r gofynion o ran cofnodi ar gofrestr eich buches:

  • Genedigaethau
    • 7 diwrnod – Godro
    • 30 diwrnod – Eidion
  • Symudiadau – 36 awr
  • Marwolaeth – 7 diwrnod

Rhaid i chi gadw’ch cofrestr am 10 mlynedd ar ôl y dyddiad olaf a gafodd ei gofnodi yn eich cofrestr.

Am ragor o wybodaeth

Llywodraeth Cymru: cofrestru a symudiadau gwartheg

E-bost: adnaboddabyw@llyw.cymru

Taliadau Gwledig Cymru:

Canolfan Gyswllt: 0300 062 5004

E-bost: rpwonline@llyw.cymru

 

Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion

Swyddfa Adrannol Iechyd Anifeiliaid
Doc Fictoria
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1EP

Ffôn: 0300 303 8268

E-bost: apha.cymruwales@apha.gov.uk

 

Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain

Curwen Road
Workington
Cumbria
CA14 2DD

Ffôn: 0345 050 3456

E-bost: bcmsenquiries@rpa.gov.uk