Neidio i'r prif gynnwy

4. Sut i roi gwybod

Gallwch ddefnyddio’r dulliau canlynol i roi gwybod i’r BCMS am enedigaethau, symudiadau a marwolaethau:

Dim cyswllt â’r rhyngrwyd?

Os nad oes gennych gysylltiad â’r rhyngrwyd ar eich fferm, gallwch roi gwybod i’r BCMS am enedigaethau, symudiadau a marwolaethau trwy 

  • ffonio llinell CTS
    • Cymraeg 0345 011 1213
    • Saesneg 0345 011 1212
  • gofyn i’ch asiant wneud hynny drosoch chi

Mae CTS Ar-lein a’r llinellau hunan-wasanaeth ar gael bob awr o’r dydd, bob dydd o’r flwyddyn. Amserau agor llinell gymorth y BCMS yw Llun – Gwener 9.30am-5pm. Mae hi ar gau dros y penwythnosau ac ar wyliau banc. Codir tâl galwad leol.

Meddalwedd y fferm

Gallwch ddefnyddio meddalwedd eich fferm i’ch helpu i:

  • gadw cofnodion eich fferm yn gyfoes
  • anfon gwybodaeth am enedigaethau, symudiadau a marwolaethau at y CTS ar amser sy’n gyfleus i chi
  • anfon gwybodaeth mewn ffordd ddiogel a dibynadwy a chael cadarnhad ei bod wedi cyrraedd ac nad oes camgymeriadau yn yr wybodaeth.

Peidio â Rhoi Gwybod

Os na fyddwch wedi rhoi gwybod am enedigaeth, symudiad neu farwolaeth gwartheg o fewn yr amser statudol, byddwch yn euog o drosedd. Gallai hynny olygu:

  • cosbi’r cymorthdaliadau rydych yn eu hawlio*, a/neu
  • eich cael yn euog o drosedd.

Daw’r troseddau hyn i’r amlwg:

  • wrth archwilio’ch gwartheg
  • pan welir bod gwybodaeth anghywir wedi’i rhoi i’r CTS neu fod anifail wedi’i gofnodi fwy nag unwaith neu fod gwybodaeth ar goll
  • pan ymchwilir i anghysonderau ym manylion symudiadau

*Bydd ceidwaid nad ydynt yn hawlio cymhorthdal yn cael eu harchwilio hefyd ac o’u cael yn euog o drosedd, gallent gael eu dirwyo a/neu eu carcharu.