Yn esbonio pan na fydd yn ofynnol i ddarparwr gofal plant, chwarae neu weithgareddau i blant gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru.
Cynnwys
Beth yw'r Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd?
Arolygiaeth Gofal Cymru sy'n cofrestru ac yn arolygu darparwyr gwasanaethau gwarchod plant a gofal dydd yng Nghymru. Gall hyn gynnwys y canlynol:
- gwarchodwyr plant
- gofal dydd llawn
- gofal dydd sesiynol
- gofal plant y tu allan i oriau ysgol
- crèches
- darpariaeth chwarae mynediad agored
Fodd bynnag, nid yw'n ofynnol i bob person/darparwr sy'n cynnig gofal plant, chwarae a gweithgareddau i blant gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru. Mae set o eithriadau yn nodi amgylchiadau lle nad oes angen i bersonau/darparwyr gofrestru yn seiliedig ar ffactorau fel:
- y math o ddarpariaeth
- oriau gweithredu
- cydberthynas â'r plentyn
- ble mae'r gofal yn cael ei roi
- oedran y plant
Mae'n annhebygol y bydd unrhyw gais i gofrestru fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd, a gyflwynir gan berson/darparwr nad yw'n ofynnol iddo gofrestru, yn cael ei gymeradwyo.
Mae'r gyfraith ynghylch pryd mae'n rhaid i warchodwyr plant a phersonau/darparwyr gofal dydd yng Nghymru gofrestru i'w chael ym Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 a Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 ar hyn o bryd.
Beth yw Eithriadau presennol 2010 a phryd y byddant yn cael eu disodli gan Eithriadau newydd 2026?
Mae Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 wedi cael ei adolygu gan Lywodraeth Cymru. Bydd yn cael ei ddisodli gan Orchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Dirymu a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2026 a fydd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2027. Bydd cyfnod pontio o flwyddyn o 1 Ebrill 2027. Yn ystod y cyfnod pontio, bydd angen i bersonau/darparwyr y bydd yn ofynnol iddynt gofrestru o dan y fframwaith cyfreithiol newydd unwaith y daw Gorchymyn 2026 i rym wneud cais i gofrestru a pharatoi eu darpariaeth er mwyn bodloni'r gofynion rheoleiddio ar gyfer darparwyr cofrestredig. Bydd angen i geisiadau gyrraedd Arolygiaeth Gofal Cymru erbyn 31 Mawrth 2028.
Bydd yr eithriadau newydd a nodir yng Ngorchymyn 2026 yn orfodadwy o 1 Ebrill 2028. O'r pwynt hwnnw, gallai unrhyw berson/darparwr y nodwyd ei bod yn ofynnol iddo gofrestru gan Arolygiaeth Gofal Cymru, nad yw wedi cymryd camau i gofrestru unwaith y daw'r eithriadau newydd i rym, fod yn destun camau gorfodi o dan adran 7 o Bolisi ar Sicrhau Gwelliant a Gorfodi Arolygiaeth Gofal Cymru ar ôl y dyddiad hwn.
Yn ystod y cyfnod hyd at 1 Ebrill 2027, bydd angen i ddarparwyr nad ydynt wedi cofrestru weithredu o fewn yr eithriadau a nodir yng Ngorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010. Yn ystod y cyfnod hwn, gall personau/darparwyr ddechrau ystyried pa newidiadau, os o gwbl, y byddai angen iddynt eu gwneud i'w gwasanaeth cyn i'r eithriadau newydd ddod i rym.
Sut i ddefnyddio'r canllawiau hyn ar gyfer Gorchymyn Eithriadau 2026
Mae'r eithriadau'n cwmpasu ystod o amgylchiadau lle nad oes angen cofrestru o dan Orchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Dirymu a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2026 (‘Gorchymyn Eithriadau 2026’) a dylid darllen y canllawiau hyn ar y cyd â'r ddeddfwriaeth honno.
Mae'r canllawiau hyn wedi'u strwythuro i gyd-fynd â'r eithriadau unigol a nodir yng Ngorchymyn Eithriadau 2026. Dylai unigolion/darparwyr ystyried pob rhan o'u darpariaeth ar wahân. Ar gyfer pob rhan, dylent yn gyntaf nodi'r eithriad sydd fwyaf perthnasol yn ôl pob golwg ac ystyried a ydynt yn bodloni ei amodau yn ymarferol. Os nad ydynt yn bodloni'r meini prawf i weithredu o dan yr eithriad hwnnw, dylent ystyried:
- a oes eithriad arall yn gymwys
- a oes angen cofrestru o dan Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010
- a ellid addasu'r gwasanaeth er mwyn bodloni amodau eithriad cymwys
Bydd p'un a fydd eithriad yn gymwys yn dibynnu ar amgylchiadau penodol y ddarpariaeth. Os ydych yn ansicr, cysylltwch ag Arolygiaeth Gofal Cymru.
Nid oes angen i berson/darparwr fodloni pob eithriad yng Ngorchymyn Eithriadau 2026 i weithredu'r rhan honno o'i ddarpariaeth heb gofrestru. Dim ond un eithriad perthnasol sydd angen bod yn gymwys i berson/darparwr er mwyn i amgylchiadau penodol y rhan honno o'i ddarpariaeth gael eu heithrio o'r gofyniad i gofrestru (ar yr amod bod amodau'r eithriad hwnnw'n cael eu bodloni'n llawn).
Nid yw gweithredu ar sail wirfoddol, ynddo'i hun, yn golygu bod person / darparwr wedi'i eithrio rhag cofrestru. Rhaid i'r eithriad perthnasol fod yn gymwys o hyd, a rhaid bodloni ei holl amodau'n llawn.
Rhagor o wybodaeth am gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch a ddylai person/darparwr fod wedi'i gofrestru, neu a yw gwasanaeth yn gweithredu o fewn unrhyw un o ddarpariaethau Gorchymyn Eithriadau 2026, dylech gysylltu ag Arolygiaeth Gofal Cymru.
Esboniadau ac enghreifftiau o Eithriadau 2026
Darpariaeth â therfyn amser
Nodir hyn yn Erthygl 4 ar gyfer gwarchod plant ac Erthygl 11 ar gyfer gofal dydd.
Esboniad
Os bydd person/darparwr yn gweithredu darpariaeth am ddwy awr yn union neu lai y dydd a bod pob plentyn sy'n mynychu yn dair oed o leiaf, nid oes angen iddo gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru.
Os bydd person/darparwr yn gweithredu darpariaeth am ddwy awr yn union neu lai y dydd a bod plant dwy oed neu iau yn bresennol, bydd yn ofynnol iddo gofrestru oni bai bod rhiant y plentyn yn aros yn y fangre ac yn gallu ailddechrau gofalu am y plentyn heb oedi gormodol ar gais y darparwr. At ddibenion y canllawiau hyn, byddai “heb oedi gormodol” fel arfer yn cael ei ddehongli i olygu ailddechrau gofal mewn dim mwy na phum munud, oni bai bod amgylchiadau eithriadol.
Os caiff cofrestriad gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd cofrestredig ei atal dros dro gan Arolygiaeth Gofal Cymru, ni all ddefnyddio'r eithriad hwn i ddarparu gofal yn ystod yr ataliad dros dro, hyd yn oed am ddwy awr neu lai.
Am ragor o fanylion, gweler Sut i ddefnyddio'r canllawiau hyn ar gyfer Gorchymyn Eithriadau 2026.
Enghreifftiau
Clwb ar ôl ysgol
Mae ysgol yn cynnal clwb ar ôl ysgol ar safle'r ysgol am 1 awr a 55 munud y dydd. Mae pob plentyn sy'n mynychu yn dair oed o leiaf. Nid yw'n ofynnol i'r ysgol gofrestru fel darparwr gofal dydd gan fod yr amser gweithredu yn llai na dwy awr y dydd ac nid oes unrhyw blant sy'n mynychu yn ddwy oed neu'n iau.
Sesiynau lluosog
Mae cylch chwarae yn cynnal dwy sesiwn y dydd, ac mae pob sesiwn yn para awr. Mae pob plentyn yn dair oed. Nid yw'n ofynnol i'r cylch chwarae gofrestru fel darparwr gofal dydd gan fod cyfanswm yr oriau y darperir gofal yn ystod y dydd yn dwy awr ac nid oes unrhyw blant sy'n mynychu yn ddwy oed neu'n iau.
Crèche grŵp cymorth rhieni
Mae grŵp o blant dwy oed ac iau yn cael gofal gan crèche. Mae'r plant yn y crèche am awr tra bydd eu rhieni mewn dosbarth magu plant mewn ystafell yn yr un adeilad. Gellir galw ar y rhieni i ddod at eu plentyn ar unrhyw adeg a gallent ailddechrau gofalu am eu plant mewn llai na phum munud. Nid yw'n ofynnol i'r crèche gofrestru fel darparwr gofal dydd gan fod y rhieni'n aros yn y fangre a gallent ailddechrau gofalu am y plentyn heb oedi gormodol.
Crèche grŵp ffydd
Mae grŵp o blant dwy oed ac iau yn cael eu gadael yng ngofal crèche a gaiff ei gynnal gan grŵp ffydd am ddwy awr yn union tra bydd eu rhieni'n addoli. Mae'r addoli'n digwydd yn y prif adeilad tra bo'r plentyn yn y neuadd yn y fangre. Gellir galw ar y rhiant i ddod at ei blentyn ar unrhyw adeg a gallai fod gyda'r plentyn mewn llai na phum munud. Nid yw'n ofynnol i'r crèche gofrestru fel darparwr gofal dydd oherwydd gallai'r rhieni ailddechrau gofalu am y plentyn heb oedi gormodol.
Crèche dosbarth iaith
Mae grŵp o blant dwy oed ac iau yn cael gofal gan staff awdurdod lleol am 90 munud tra bydd eu rhieni'n cymryd rhan mewn dosbarth iaith. Mae'r dosbarth yn cael ei gynnal mewn adeilad gwahanol sydd 15 munud i ffwrdd ar droed. Mae'n ofynnol i'r crèche gofrestru fel darparwr gofal plant gan nad yw'r rhieni'n aros yn y fangre ac ni fyddai'r rhiant yn gallu dychwelyd at ei blentyn heb oedi gormodol oherwydd y pellter.
Grŵp mewn lifrai
Mae grŵp mewn lifrai yn cynnal sesiwn wythnosol mewn neuadd gymunedol am 1 awr a 45 munud. Mae pob plentyn sy'n mynychu rhwng pump a saith oed. Nid yw'n ofynnol i'r grŵp gofrestru fel darparwr gofal dydd gan fod yr amser gweithredu yn llai na dwy awr y dydd ac nid oes unrhyw blant sy'n mynychu yn ddwy oed neu'n iau.
Clwb chwaraeon
Mae ysgol nofio yn cynnal gwersi 30 munud i blant dwy oed. Mae'r rhieni'n aros am eu plant yn yr ystafelloedd newid cyfagos. Nid yw'n ofynnol i'r ysgol nofio gofrestru fel darparwr gofal dydd gan fod y rhieni'n aros yn y fangre a gallent ailddechrau gofalu am y plentyn heb oedi gormodol.
Atal dros dro
Mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi atal cofrestriad gwarchodwr plant dros dro wrth i ymchwiliad diogelu gael ei gynnal gan awdurdod lleol. Ni all y gwarchodwr plant ddibynnu ar yr eithriad hwn i weithredu am unrhyw gyfnod o amser tra bo'r ataliad dros dro ar waith.
Prif ofalwyr, perthnasau a phersonau sy’n cyd-fyw
Nodir hyn yn Erthygl 5 ar gyfer gwarchod plant.
Esboniad
Ni all rhieni, perthnasau, gofalwyr maeth na phobl sy'n byw yn yr un aelwyd â phlentyn gofrestru i ofalu am y plentyn.
Nid yw'r eithriad yn gymwys os yw perthynas neu berson sy'n byw yn yr un aelwyd â'r plentyn yn gofalu amdano y tu allan i gartref y plentyn ac os yw hefyd yn gofalu am blant eraill nad ydynt yn perthyn i'r unigolyn nac yn byw gydag ef.
Ystyr ‘perthynas’ yw llys-riant, tad-cu/taid neu fam-gu/nain, brawd, chwaer, ewythr, modryb, neu gefnder cyntaf (gan gynnwys unrhyw berson sydd yn y berthynas honno yn rhinwedd priodas neu bartneriaeth sifil neu berthynas deuluol barhaus).
Am ragor o fanylion, gweler Sut i ddefnyddio'r canllawiau hyn ar gyfer Gorchymyn Eithriadau 2026.
Enghreifftiau
Gofalu am berthynas yng nghartref y plentyn
Mae tad-cu/taid neu fam-gu/nain yn gofalu am ei (h)wyrion ddau ddiwrnod yr wythnos yng nghartref y plant eu hunain tra bo'r rhieni'n gweithio. Dim ond am y plant hynny y mae'n gofalu. Nid yw'n ofynnol i'r unigolyn gofrestru fel gwarchodwr plant am ei fod yn berthynas sy'n gofalu am blant y mae'n perthyn iddynt.
Gofalu am berthynas yng nghartref y gofalwr
Mae modryb yn gofalu am ei nith yn rheolaidd yng nghartref y fodryb. Nid yw'n gofalu am blant eraill. Nid yw'n ofynnol iddi gofrestru fel gwarchodwr plant am ei bod yn berthynas a dim ond am y plentyn hwnnw mae'n gofalu.
Byw yn yr un aelwyd
Mae brawd neu chwaer hŷn yn gofalu'n rheolaidd am frawd neu chwaer iau yn eu cartref teuluol a rennir. Nid yw'n ofynnol i'r unigolyn gofrestru fel gwarchodwr plant am ei fod yn perthyn i'r plentyn ac yn byw yn yr un aelwyd ag ef.
Gofalwr maeth sy'n gofalu am blant maeth sydd wedi'u lleoli gydag ef
Mae gofalwr maeth yn gofalu am blant maeth sydd wedi'u lleoli gydag ef gan yr awdurdod lleol, yn ei gartref ei hun. Nid yw'r gofalwr maeth yn gofalu am blant eraill. Nid yw'n ofynnol i'r unigolyn gofrestru fel gwarchodwr plant gan mai gofalwr maeth y plant maeth ydyw.
Perthynas sy'n gofalu y tu allan i gartref y plentyn ac am blant eraill
Mae modryb yn gofalu am ei nai yn ei chartref ac mae hefyd yn bwriadu gofalu am blant o deuluoedd eraill ar yr un pryd. Nid yw'n gallu gweithredu o dan yr eithriad hwn, oherwydd bod y gofal mewn cartref nad yw'r plentyn yn byw ynddo ac mae darpariaeth hefyd ar gael i blant nad yw'r gofalwr yn perthyn iddynt.
Aelod o'r aelwyd sy'n rhedeg gofal grŵp yn rhywle arall
Mae ffrind i'r teulu, nad yw'n perthyn i unrhyw aelod ohono, sy'n byw yn yr un aelwyd â'r plentyn yn gofalu amdano mewn neuadd bentref, ynghyd â phlant o rai teuluoedd eraill. Nid yw'n gallu gweithredu o dan yr eithriad hwn am nad yw'r gofal yn cael ei ddarparu yng nghartref y plentyn, nid yw'r gofal yn cael ei ddarparu mewn mangre ddomestig ac mae'r ddarpariaeth ar gael i blant nad yw'n perthyn iddynt.
Darparu gofal yng nghartref y plentyn neu mewn mangre annomestig drwy gytundeb rhieni
Nodir hyn yn Erthygl 6 ar gyfer gwarchod plant ac Erthygl 13 ar gyfer gofal dydd.
Esboniad
Nid yw'n ofynnol i berson/darparwr gofrestru fel gwarchodwr plant os yw'n gofalu am blentyn/plant un neu ddau deulu ar y tro a bod y gofal yn cael ei ddarparu'n gyfan gwbl neu'n bennaf yn un o'r cartrefi teuluol hynny neu'r ddau ohonynt. Mae angen i'r person/darparwr gytuno ar y trefniadau gofal gyda'r holl rieni yn ysgrifenedig neu ar lafar.
Nid yw'n ofynnol i berson/darparwr gofrestru fel darparwr gofal dydd os yw'n gofalu am blentyn/plant un neu ddau deulu ar y tro a bod y gofal yn cael ei ddarparu mewn mangre annomestig a ddewiswyd gan y ddwy set o rieni. Mae angen i'r person/darparwr gytuno ar y trefniadau gofal gyda phob rhiant yn ysgrifenedig neu ar lafar.
Am ragor o fanylion, gweler Sut i ddefnyddio'r canllawiau hyn ar gyfer Gorchymyn Eithriadau 2026.
Enghreifftiau
Gofalu am un teulu yng nghartref y teulu
Mae rhiant yn cyflogi au pair i ofalu am ei ddau blentyn yng nghartref y teulu. Cytunir ar y trefniant yn uniongyrchol rhwng y rhiant a'r au pair. Nid yw'n ofynnol i'r au pair gofrestru fel gwarchodwr plant oherwydd darperir y gofal yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng nghartref y teulu o dan gytundeb gyda'r rhieni.
Gofalu am ddau deulu yng nghartref y teuluoedd
Mae dwy set o rieni yn cytuno i gyflogi nani ar y cyd i ofalu am blant y ddau deulu. Mae'r nani yn gofalu am y plant yng nghartref un teulu yn bennaf, gan dreulio rhai dyddiau yng nghartref y teulu arall. Weithiau mae'r nani yn mynd â'r plant allan i leoedd fel parc neu grŵp plant bach, ond mae'r prif ofal yn digwydd yng nghartref y naill deulu neu'r llall. Mae'r ddwy set o rieni wedi cytuno ar y trefniant a'r telerau gofal. Nid yw'n ofynnol i'r nani gofrestru fel gwarchodwr plant oherwydd darperir y gofal yng nghartrefi'r plant sy'n cael gofal yn bennaf, o dan gytundeb gyda'r ddau deulu.
Gofalu am fwy na dau deulu yng nghartref y teuluoedd
Mae tair set o rieni yn cytuno i gyflogi unigolyn sy'n carco ar y cyd i ofalu am eu plant am noson tra bydd y rhieni'n mynd allan. Mae'r unigolyn sy'n carco yn gofalu am bob plentyn gyda'i gilydd yng nghartref un teulu ac mae'n cael ei dalu am ddarparu'r gofal. Ni all yr unigolyn sy'n carco weithredu o dan yr eithriad hwn oherwydd bod y gofal yn cael ei ddarparu i blant o fwy na dau deulu.
Gofal mewn mangre annomestig i un teulu
Mae teulu sy'n aros mewn gwesty yn cyflogi unigolyn sy'n carco i ofalu am eu plentyn yn ystafell westy'r teulu tra bo'r rhieni'n mynd i briodas sy'n digwydd mewn rhan arall o'r gwesty. Mae'r rhieni'n trefnu'r gofal gan yr unigolyn sy'n carco yn uniongyrchol, a nhw sy'n dewis mai'r ystafell yn y gwesty yw'r man lle caiff y gofal ei ddarparu. Nid yw'n ofynnol i'r unigolyn sy'n carco gofrestru fel darparwr gofal dydd oherwydd bod y gofal yn cael ei ddarparu i un teulu yn unig, a darperir y gofal mewn mangre annomestig a ddewiswyd gan y rhieni o ganlyniad i gytundeb a wnaed gyda'r rhieni.
Gofal mewn mangre annomestig i ddau deulu
Mae dau deulu sy'n aros yn yr un gwesty yn cytuno i rannu unigolyn sy'n carco i ofalu am eu plant gyda'i gilydd yn ystafell un teulu tra bo'r ddwy set o rieni yn mynd i ddigwyddiad mewn rhan arall o'r gwesty. Y rhieni sy'n dewis yr ystafell a chaiff y gofalwr ei drefnu o dan gontract gwasanaeth y cytunwyd arno gyda'r ddau deulu. Nid yw'n ofynnol i'r gofalwr gofrestru fel darparwr gofal dydd oherwydd bod y gofal yn cael ei ddarparu mewn mangre annomestig a ddewiswyd gan y rhieni, o dan gytundeb a wnaed rhwng yr unigolyn sy'n carco a'r ddwy set o rieni.
Gofal mewn mangre annomestig i fwy na dau deulu
Mae pedwar teulu’n cytuno i gyflogi person ar y cyd i ofalu am eu plant mewn neuadd gymunedol leol yn ystod gwyliau’r ysgol. Mae'r person yn cael ei dalu am ddarparu'r gofal. Ni all y gofalwr weithredu o dan yr eithriad hwn oherwydd bod y gofal yn cael ei ddarparu i blant o fwy na dau deulu.
Darparu gofal arall yng nghartref y plentyn a darparu gofal gan ddarparwr gwasanaeth cymorth cartref
Nodir hyn yn Erthygl 7 ar gyfer gwarchod plant ac Erthygl 15 ar gyfer gofal dydd.
Esboniad
Nid oes angen i berson/darparwr gofrestru fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd os:
- bydd y gofal yn cael ei ddarparu yng nghartref y plentyn
- os bydd yn cael ei gyflogi i ddarparu hyn fel rhan o wasanaeth cymorth cartref, wedi'i gofrestru o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016
- mae'r gofal wedi cael ei drefnu gan riant y plentyn, yr awdurdod lleol neu Fwrdd Iechyd Lleol
Mae hyn yn gymwys p'un a yw'r gofal yn cael ei ddarparu'n uniongyrchol gan ddarparwr y gwasanaeth neu gan rywun mae'n ei gyflogi.
Ystyr cymorth cartref yw ‘[g]ofal a chymorth [a ddarperir] i berson nad yw, oherwydd ei hyglwyfedd neu ei angen (ac eithrio hyglwyfedd neu angen nad yw ond yn codi oherwydd bod y person yn ifanc), yn gallu ei ddarparu ar ei gyfer ef ei hun’. Fel arfer, darperir hyn i ddiwallu'r anghenion gofal a chymorth a aseswyd ar gyfer y plentyn.
I gael rhagor o wybodaeth am Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, ewch i Canllaw i gofrestru: Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
Am ragor o fanylion, gweler Sut i ddefnyddio'r canllawiau hyn ar gyfer Gorchymyn Eithriadau 2026.
Enghreifftiau
Cymorth cartref a drefnwyd gan yr awdurdod lleol
Mae awdurdod lleol yn trefnu i wasanaeth cymorth cartref rheoleiddiedig ddarparu gofal i blentyn yn ei gartref ei hun. Darperir y gofal gan staff a gyflogir gan ddarparwr y gwasanaeth cymorth cartref. Felly, nid yw'n ofynnol i'r gweithwyr gofal gofrestru fel gwarchodwyr plant, ac nid yw'n ofynnol i ddarparwr y gwasanaeth gofrestru fel darparwr gofal dydd, oherwydd darperir y gofal yng nghartref y plentyn ei hun, fel rhan o wasanaeth cymorth cartref rheoleiddiedig.
Cymorth a drefnwyd gan riant
Mae rhiant yn trefnu i wasanaeth cymorth cartref rheoleiddiedig ddarparu gofal i'w blentyn yng nghartref y teulu. Gallai fod yn gwneud hyn drwy ddefnyddio ei arian ei hun, neu drwy ddefnyddio taliad uniongyrchol gan yr awdurdod lleol neu'r bwrdd iechyd. Nid yw'n ofynnol i'r gweithwyr gofal gofrestru fel gwarchodwyr plant, ac nid yw'n ofynnol i ddarparwr y gwasanaeth gofrestru fel darparwr gofal dydd, oherwydd darperir y gofal yng nghartref y plentyn ei hun, fel rhan o wasanaeth cymorth cartref rheoleiddiedig.
Gofal a drefnwyd gan Fwrdd Iechyd Lleol
Mae Bwrdd Iechyd Lleol yn trefnu cymorth cartref rheoleiddiedig i blentyn ag anghenion iechyd ychwanegol. Darperir y gofal yng nghartref y plentyn gan staff a gyflogir gan wasanaeth rheoleiddiedig. Nid yw'n ofynnol i'r gweithwyr gofal gofrestru fel gwarchodwyr plant, ac nid yw'n ofynnol i ddarparwr y gwasanaeth gofrestru fel darparwr gofal dydd, oherwydd darperir y gofal fel rhan o wasanaeth cymorth cartref rheoleiddiedig.
Gofal a ddarperir y tu allan i gartref y plentyn
Mae darparwr cymorth cartref rheoleiddiedig yn cynnig sesiynau grŵp rheolaidd i blant mewn lleoliad cymunedol yn hytrach nag yng nghartrefi'r plant eu hunain. Mae rhieni'r plant yn dod â'r plant i'r ddarpariaeth ac yn eu casglu wedyn. Yn ystod y sesiwn, mae'r plant yng ngofal y darparwr cymorth cartref. Ni fyddai'r eithriad hwn yn gymwys am nad yw'r gofal yn cael ei ddarparu yng nghartref y plentyn. Yn y sefyllfa hon, mae'r darparwr wedi ymestyn ei gynnig y tu hwnt i'r hyn y gellir ei reoleiddio fel gwasanaeth cymorth cartref ac ni fyddai'n gallu gweithredu o dan yr eithriad hwn.
Gofal a ddarperir y tu allan i'r cartref yn rhannol
Mae gwasanaeth cymorth cartref rheoleiddiedig yn darparu gofal i blentyn yn ei gartref ond mae hefyd yn mynd â phlant o'u cartrefi i'r gymuned ar adegau i ddatblygu sgiliau bywyd. Mae'r gofal bob amser yn dechrau ac yn gorffen yng nghartref y plentyn ac mae wedi'i gwmpasu gan y cofrestriad cymorth cartref. Ni fyddai angen i'r darparwr gofrestru fel gwarchodwr plant na darparwr gofal dydd oherwydd bod y gofal yn cael ei ddarparu fel rhan o wasanaeth cymorth cartref rheoleiddiedig.
Gofal nad yw'n rhan o wasanaeth cymorth cartref rheoleiddiedig
Mae rhiant yn defnyddio taliadau uniongyrchol i gyflogi cynorthwyydd personol, neu'n ei gyflogi'n uniongyrchol ar sail hunangyflogedig, i ddarparu gofal i'w blentyn yng nghartref y teulu. Mae'r cynorthwyydd personol yn cael ei gyflogi neu ei gontractio'n uniongyrchol gan y rhiant ac nid yw'n gweithio ar ran gwasanaeth cymorth cartref rheoleiddiedig. Gan nad yw'n darparu gofal drwy wasanaeth sydd wedi'i gofrestru o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (RISCA), ni all weithredu o dan yr eithriad hwn.
Gofal nad yw'n rhan o wasanaeth cymorth cartref rheoleiddiedig
Mae rhiant yn defnyddio taliadau uniongyrchol i dalu am wasanaethau micro-ofalwr i ddarparu gofal i'w blentyn yng nghartref y teulu. Mae'r gwasanaeth micro-ofal yn bodloni'r eithriadau o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (RISCA) ac nid oes angen iddo gofrestru fel gwasanaeth cymorth cartref. Gan nad yw wedi'i gofrestru o dan RISCA, ni all weithredu o dan yr eithriad hwn ar gyfer gwarchod plant a gofal dydd.
Darparu gofal yng nghwrs cyfeillgarwch
Nodir hyn yn Erthygl 8 ar gyfer gwarchod plant.
Esboniad
Nid yw'n ofynnol i berson/darparwr gofrestru fel gwarchodwr plant pan fydd yn gofalu am blant yng nghwrs cyfeillgarwch ac nad oes unrhyw daliad yn cael ei wneud.
Ystyr ‘taliad’ yw arian, neu rywbeth sydd â gwerth ariannol. Nid yw'n cynnwys nwyddau na gwasanaethau a ddarperir yn lle hynny.
Am ragor o fanylion, gweler Sut i ddefnyddio'r canllawiau hyn ar gyfer Gorchymyn Eithriadau 2026.
Enghreifftiau
Gofal achlysurol rhwng ffrindiau
Mae rhiant yn gofyn i ffrind ofalu am ei blentyn am brynhawn tra bydd yn mynd i apwyntiad. Ni wneir taliad am y gofal. Nid yw'n ofynnol i'r ffrind gofrestru fel gwarchodwr plant gan fod y gofal yn cael ei ddarparu yng nghwrs cyfeillgarwch ac nad oes unrhyw daliad yn cael ei wneud.
Gofal plant cilyddol rhwng teuluoedd
Mae dau deulu sy'n ffrindiau yn cymryd eu tro yn gofalu am blant ei gilydd ar ôl ysgol yn rheolaidd. Nid oes unrhyw arian yn newid dwylo, ac mae'r trefniant yn seiliedig ar gymorth cydfuddiannol yn hytrach na thaliad. Nid yw'n ofynnol i'r rhieni gofrestru fel gwarchodwyr plant gan fod y gofal yn cael ei ddarparu yng nghwrs cyfeillgarwch ac na chaiff unrhyw daliad ei wneud.
Rhiant sy'n lletya ('hosting' yn Saesneg) plant
Mae rhiant yn gwahodd tri o ffrindiau ei blentyn i'w cartref am brynhawn o chwarae. Mae rhieni'r plant sy'n ymweld yn cytuno i'r gofal, ni wneir unrhyw daliad, ac mae'r trefniant yn anffurfiol. Mae'r rhiant sy'n lletya'r plant yn goruchwylio'r plant tra byddant yn chwarae. Nid yw'n ofynnol i'r rhiant gofrestru fel gwarchodwr plant gan fod y gofal yn cael ei ddarparu yng nghwrs cyfeillgarwch ac nad oes unrhyw daliad yn cael ei wneud.
Help anffurfiol gyda chydnabyddiaeth fach i ddiolch
Mae person yn gofalu am blentyn ei ffrind am ychydig oriau. I ddiolch iddo, mae'r rhiant yn rhoi bocs o siocledi i'w ffrind. Nid yw hyn yn cyfrif fel taliad. Nid yw'n ofynnol i'r ffrind gofrestru gan fod y gofal yn cael ei ddarparu yng nghwrs cyfeillgarwch ac nad oes unrhyw daliad yn cael ei wneud.
Taliad wedi'i wneud
Mae rhiant yn talu swm penodol o arian i ffrind bob wythnos i ofalu am ei blentyn ar ôl ysgol. Mae'r gofal yn cael ei ddarparu yng nghartref y ffrind. Ni all y ffrind weithredu o dan yr eithriad hwn, er ei fod yn cael ei ddarparu yng nghwrs cyfeillgarwch, oherwydd bod y ffrind yn cael ei dalu am ddarparu'r gofal.
Cynorthwywyr gwarchod plant
Nodir hyn yn Erthygl 9 ar gyfer gwarchod plant.
Esboniad
Nid yw'n ofynnol i gynorthwywyr gwarchod plant gofrestru fel gwarchodwr plant yn eu rhinwedd eu hunain os byddant yn gweithio o dan reolaeth uniongyrchol gwarchodwr plant cofrestredig. Byddai angen i'r gwarchodwr plant cofrestredig ddilyn canllawiau yn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer gofal plant rheoleiddiedig sy'n nodi o dan ba amodau y gellir gadael cynorthwywyr gwarchod plant cymwysedig yn gyfrifol am blant.
Am ragor o fanylion, gweler Sut i ddefnyddio'r canllawiau hyn ar gyfer Gorchymyn Eithriadau 2026.
Enghreifftiau
Cynorthwyydd gwarchod plant
Mae gwarchodwr plant yn cyflogi cynorthwyydd cymwysedig i'w helpu i ofalu am blant. Y cynorthwyydd yn unig fydd yn gyfrifol am blant sy'n cael eu gwarchod am awr bob bore a phob prynhawn tra bydd y gwarchodwr plant yn cludo plant i'r ysgol ac oddi yno. Mae'r gwarchodwr plant a'r cynorthwyydd yn gweithredu o fewn y canllawiau a nodir yn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ynghylch yr amgylchiadau lle gellir gadael cynorthwywyr gwarchod plant cymwysedig yn gyfrifol am blant ar eu pen eu hunain. Nid yw'n ofynnol i'r cynorthwyydd gofrestru fel gwarchodwr plant am ei fod yn gweithio o dan gyfarwyddyd y gwarchodwr plant cofrestredig.
Cynorthwyydd gwarchod plant
Mae gwarchodwr plant cofrestredig yn cyflogi cynorthwyydd cymwysedig sy'n cael ei adael ar ei ben ei hun yn gyfrifol am blant sy'n cael eu gwarchod yn rheolaidd am dros ddwy awr ar unrhyw adeg, sef cyfanswm o fwy na thair awr y dydd, pan fydd y gwarchodwr plant cofrestredig yn rhedeg lleoliad cofrestredig arall. Nid yw'r gwarchodwr plant ar gael i gyfarwyddo'r gofal plant yn ystod yr amseroedd hynny. Mae'r cynorthwyydd yn agor ac yn cau'r lleoliad, yn cwblhau prosesau trosglwyddo gyda rhieni, yn mynd â'r plant allan ac yn gwneud penderfyniadau o ddydd i ddydd am eu gofal heb oruchwyliaeth. O dan yr amgylchiadau hyn, nid yw'r cynorthwyydd yn gweithio o dan gyfarwyddyd a rheolaeth y gwarchodwr plant cofrestredig. Mae'n darparu gofal plant yn annibynnol, felly ni all weithredu o dan yr eithriad hwn.
Darparu gofal yn achlysurol
Nodir hyn yn Erthygl 12 ar gyfer gofal dydd.
Esboniad
Os bydd person/darparwr yn gweithredu darpariaeth mewn lleoliad penodol am bum diwrnod neu lai mewn unrhyw flwyddyn galendr a bod yr holl blant sy'n mynychu yn dair oed neu'n hŷn, nid yw'n ofynnol iddo gofrestru fel darparwr gofal dydd. Bydd angen i'r darparwr hysbysu Arolygiaeth Gofal Cymru yn ysgrifenedig, o'r dyddiadau y mae'n bwriadu rhedeg y gwasanaeth, cyn y diwrnod gweithredu cyntaf y flwyddyn honno.
Os bydd person/darparwr yn gweithredu darpariaeth mewn lleoliad penodol am bum diwrnod neu lai mewn unrhyw flwyddyn galendr a'i fod yn darparu gofal i blant dwy oed ac iau, nid yw'n ofynnol iddo gofrestru os bydd rhiant/rhieni'r plant yn aros yn y fangre ac yn gallu ailddechrau gofalu am y plant heb oedi gormodol ar gais. At ddibenion y canllawiau hyn, byddai “heb oedi gormodol” fel arfer yn cael ei ddehongli i olygu dim mwy na phum munud, oni bai bod amgylchiadau eithriadol.
Bydd angen i'r person/darparwr hysbysu Arolygiaeth Gofal Cymru o'r dyddiadau y mae'n bwriadu rhedeg y gwasanaeth, cyn y diwrnod gweithredu cyntaf y flwyddyn honno.
Am ragor o fanylion, gweler Sut i ddefnyddio'r canllawiau hyn ar gyfer Gorchymyn Eithriadau 2026.
Enghreifftiau
Chwarae mynediad agored mewn sawl lleoliad
Mae darparwr chwarae mynediad agored yn gweithredu am bedair awr y dydd, ar bum diwrnod y flwyddyn mewn dau leoliad gwahanol, sef cyfanswm o ddeg diwrnod y flwyddyn. Ystod oedran y plant yw pedair i 11 oed. Nid yw'n ofynnol iddo gofrestru fel darparwr gofal dydd am nad yw'n cynnig gofal am fwy na phum diwrnod mewn lleoliad unigol ac mae pob plentyn sy'n mynychu yn bedair oed o leiaf.
Crèche symudol
Mae darparwr crèche ar gyfer priodasau yn gweithredu mewn gwahanol leoliadau yn ystod y flwyddyn, fel y'i contractiwyd gan y priodferched a'r priodfeibion. Mae pob sesiwn yn fwy na dwy awr ac mae plant rhwng dim a 12 oed yn cael gofal ar gais eu rhieni. Nid yw'r darparwr yn gweithredu am fwy na phum diwrnod mewn unrhyw leoliad priodas unigol, ac mae rhieni plant dau oed neu’n iau yn aros yn y fangre. Nid yw'n ofynnol iddo gofrestru gan nad yw'r darparwr yn gweithredu am fwy na phum diwrnod y flwyddyn yn y lleoliad dan sylw a gall y rhieni ailddechrau gofalu am y plant heb oedi gormodol.
Crèche mewn digwyddiad
Mae sefydliad yn rhedeg crèche i blant dwy oed ac iau ochr yn ochr â chynhadledd a gynhelir dros ddau ddiwrnod mewn gwesty mawr. Mae'r rhieni yn mynychu hyfforddiant mewn adeilad arall ar safle'r gwesty; ni ellir tarfu ar y rhieni tra byddant yn y digwyddiad ac ni allant ddychwelyd yn gyflym ar gais. Er bod y ddarpariaeth yn gweithredu am lai na phum diwrnod mewn un lleoliad, mae'n ofynnol i'r darparwr gofrestru fel darparwr gofal dydd. Mae hyn am fod y plant yn ddwy oed ac iau a bod eu rhieni'n gadael y fangre ac ni allant ailddechrau gofalu am y plant heb oedi gormodol.
Clwb gwyliau
Mae darparwr yn rhedeg clwb gwyliau i blant rhwng chwech a deg oed mewn canolfan hamdden am chwe diwrnod yn ystod y flwyddyn. Er bod y sesiynau wedi'u gwasgaru ar draws gwyliau ysgol gwahanol, mae cyfanswm y dyddiau yn y ganolfan hamdden yn fwy na phump. Mae'n ofynnol i'r darparwr gofrestru fel darparwr gofal dydd oherwydd ei fod yn gweithredu am fwy na phum diwrnod mewn blwyddyn galendr yn yr un lleoliad.
Darparu gofal mewn gwasanaethau llety rheoleiddiedig eraill
Nodir hyn yn Erthygl 14 ar gyfer gofal dydd.
Esboniad
Nid yw'n ofynnol i berson / darparwr gofrestru fel darparwr gofal dydd os yw'r gofal mae'n ei ddarparu i blentyn yn cael ei roi fel rhan o wasanaeth cartref gofal, gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth preswyl ysgol arbennig, sydd wedi'i gofrestru o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
Nid yw'n ofynnol i berson / darparwr gofrestru fel darparwr gofal dydd os darperir y gofal i blentyn sy'n glaf mewn ysbyty.
Mae hyn yn gymwys p'un a yw'r gofal yn cael ei ddarparu'n uniongyrchol gan ddarparwr y gwasanaeth neu gan rywun mae'n ei gyflogi.
Am ragor o fanylion, gweler Sut i ddefnyddio'r canllawiau hyn ar gyfer Gorchymyn Eithriadau 2026.
Enghreifftiau
Gwasanaeth cartref gofal
Mae plentyn yn byw mewn cartref plant sydd wedi'i gofrestru gan ddarparwr gwasanaeth o dan Ran 1 o Ddeddf 2016. Darperir gofal a chymorth gan staff y cartref fel rhan o'i weithrediad. Nid yw'n ofynnol i ddarparwr y gwasanaeth gofrestru fel darparwr gofal dydd gan fod y gofal yn rhan o wasanaeth cartref gofal rheoleiddiedig.
Canolfan breswyl i deuluoedd
Mae canolfan breswyl i deuluoedd yn darparu llety a chymorth i deuluoedd. Mae'r staff yn darparu gofal sy’n cyd-fynd â’r diffiniad o “ofal cysylltiedig” i'r plant sy'n byw yn y ganolfan fel rhan o'r gwasanaeth rheoleiddiedig sy'n cefnogi'r teulu cyfan; felly, nid yw'n ofynnol i ddarparwr y gwasanaeth gofrestru fel darparwr gofal dydd.
Llety diogel
Rhoddir plentyn mewn gwasanaeth llety diogel. Darperir gofal a goruchwyliaeth gan y staff fel rhan o'r gwasanaeth rheoleiddiedig hwnnw; felly, nid yw'n ofynnol i ddarparwr y gwasanaeth gofrestru fel darparwr gofal dydd.
Gwasanaeth preswyl ysgol arbennig
Mae plentyn yn aros rhwng un a phedair noson ysgol yr wythnos mewn gwasanaeth preswyl ysgol arbennig. Darperir gofal a chymorth gan y staff fel rhan o'r gwasanaeth rheoleiddiedig; felly, nid yw'n ofynnol i ddarparwr y gwasanaeth gofrestru fel darparwr gofal dydd.
Gofal yn yr ysbyty
Mae plentyn yn cael triniaeth yn yr ysbyty fel claf. Mae'r staff nyrsio a chymorth hefyd yn darparu gofal i'r plentyn fel rhan o brif weithgarwch yr ysbyty. Nid yw'n ofynnol i'r darparwr gofrestru fel darparwr gofal dydd gan fod y gofal yn cael ei ddarparu i glaf fel rhan o'i ofal iechyd yn yr ysbyty.
Darparu gofal mewn ysgol
Nodir hyn yn Erthygl 16 ar gyfer gofal dydd.
Esboniad
Nid yw'n ofynnol i berson/darparwr gofrestru fel darparwr gofal dydd os yw'n gofalu am blant tair oed a throsodd mewn ysgol a bod y gofal a ddarperir yn gysylltiedig â darparu'r addysg.
Mae ‘cysylltiedig’ yn cyfeirio at ofal sy'n deillio'n naturiol o ddarparu addysg mewn ysgol, megis goruchwylio plentyn a chefnogi ei lesiant yn ystod gweithgareddau'r ysgol. Gall gofal gynnwys gofal personol arferol i blentyn ifanc nad yw'n ymwneud â rhan bersonol o'r corff, megis helpu gyda hylendid a chyflwyniad cyffredinol, helpu i wisgo dillad allanol, neu annog y plentyn i reoli ei ofal personol ei hun. Nid yw'n cynnwys newid cewynnau na helpu i ddefnyddio'r toiled. Darperir y gofal fel rhan o weithrediad arferol yr ysgol.
Am ragor o fanylion, gweler Sut i ddefnyddio'r canllawiau hyn ar gyfer Gorchymyn Eithriadau 2026.
Enghreifftiau
Gofal y tu allan i'r diwrnod ysgol
Mae ysgol yn cynnal clwb gofal plant ar ôl ysgol i blant rhwng tair a saith oed ar ôl i'r gwersi ddod i ben am y diwrnod. Ni all weithredu o dan yr eithriad hwn am nad yw'r gofal hwn yn cael ei ddarparu yn ystod y diwrnod ysgol ac nid yw'n gysylltiedig â darparu addysg.
Plant dwy oed neu iau
Mae ysgol yn cynnig addysg y blynyddoedd cynnar i blant dwy oed. Caiff y ddarpariaeth ei chynnal ar safle'r ysgol ac mae'n dilyn amserlen strwythuredig. Mae'n ofynnol i'r darparwr gofrestru fel darparwr gofal dydd am nad yw'r plant sy'n mynychu yn dair oed eto.
Darparu coetsio neu ddysgu
Nodir hyn yn Erthygl 17 ar gyfer gofal dydd.
Esboniad
Nid yw'n ofynnol i berson/darparwr gofrestru fel darparwr gofal dydd os yw'n darparu coetsio neu ddysgu mewn un neu ddau fath penodol o weithgaredd (chwaraeon, y celfyddydau mynegiannol a chreadigol, cymorth addysgol, ac astudiaethau crefyddol neu ddiwylliannol), ac mae unrhyw ofal a ddarperir yn gysylltiedig â'r gweithgaredd hwnnw.
Nid yw'r eithriad hwn yn gymwys:
- os bydd y plant yn ddwy oed neu'n iau
- os bydd y plant yn dair neu bedair oed a bydd unrhyw blentyn unigol o'r oedran hwn yn mynychu'r ddarpariaeth coetsio a dysgu am fwy na dwy awr mewn un diwrnod
‘Gofal cysylltiedig’ yw gofal sy'n eilaidd i ddarparu coetsio neu ddysgu ac yn deillio'n naturiol ohono. Rhaid mai prif ddiben y sesiwn yw darparu coetsio neu ddysgu, a dylai unrhyw ofal a ddarperir fod yn gyfyngedig i'r hyn sy'n rhesymol angenrheidiol i alluogi plentyn i gymryd rhan yn ddiogel ac yn effeithiol. Gall hyn gynnwys goruchwyliaeth yn ystod egwylion byr ar gyfer bwyd / diod neu ymateb i broblem cymorth cyntaf fach. Lle mae rhan sylweddol o'r sesiwn yn ymwneud â goruchwylio, diddanu neu ofalu am blant ar wahân i'r coetsio neu'r dysgu, mae'n annhebygol y bydd y gofal yn syrthio o dan y diffiniad o ofal cysylltiedig ac, yn hytrach, mae'n bosibl y bydd yn gyfystyr â gofal plant.
Mae 'cymorth addysgol' yn cynnwys cymorth yn y meysydd dysgu a phrofiad a nodir yn adran 3 (1) Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 – Y Celfyddydau Mynegiannol, Iechyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Mathemateg a Rhifedd, a Gwyddoniaeth a Thechnoleg.
Am ragor o fanylion, gweler Sut i ddefnyddio'r canllawiau hyn ar gyfer Gorchymyn Eithriadau 2026.
Enghreifftiau
Coetsio a dysgu aml-weithgaredd
Mae darparwr yn cynnig coetsio pêl-droed a thennis (chwaraeon), ynghyd â darpariaeth ddysgu dawns a chanu (y celfyddydau mynegiannol a chreadigol). Mae'r plant yn treulio hanner y sesiwn ar y ddau fath o weithgaredd. Mae'n cynnig dau o'r mathau penodol o weithgareddau (chwaraeon, a'r celfyddydau mynegiannol a chreadigol). Nid yw'n darparu gweithgareddau heb goetsio o unrhyw fath arall ar unrhyw adeg yn ystod y sesiwn. Mae pob plentyn sy'n mynychu yn bump oed a throsodd. Nid yw'n ofynnol i'r darparwr gofrestru fel darparwr gofal dydd.
Coetsio a dysgu aml-weithgaredd
Mae darparwr yn cynnig sesiynau am fwy na dwy awr lle gall plant yn dysgu sut i baentio, yn astudio Sbaeneg ac yn cael eu coetsio mewn badminton. Mae pob un o'r tri gweithgaredd hyn yn perthyn i fath gwahanol o weithgaredd (y celfyddydau mynegiannol a chreadigol, astudiaethau diwylliannol a chwaraeon). Mae'n ofynnol i'r darparwr gofrestru fel darparwr gofal dydd gan fod y ddarpariaeth coetsio a dysgu hon yn cwmpasu mwy na dau fath o weithgaredd.
Coetsio a dysgu aml-weithgaredd
Mae darparwr yn cynnig coetsio ar gyfer gymnasteg am hanner sesiwn pum awr. Am weddill y sesiwn, mae'n darparu amrywiaeth o weithgareddau corfforol chwarae rhydd fel castell neidio a gemau parasiwt. Mae'r plant yn gwylio ffilmiau ac yn darllen llyfrau ar ddechrau a diwedd y sesiwn. Mae pob plentyn sy'n mynychu yn bump oed a throsodd. Mae'n ofynnol i'r darparwr gofrestru fel darparwr gofal dydd gan fod amrywiaeth o weithgareddau yn cael eu cynnig am fwy na dwy awr, yn ogystal â'r ddarpariaeth coetsio a dysgu.
Coetsio a dysgu aml-weithgaredd
Mae darparwr yn cynnig darpariaeth ddysgu ar gyfer mathemateg, ynghyd â chyfle i ddysgu sut i baentio a thynnu llun. Mae'n cynnig dau o'r mathau penodol o weithgareddau (cymorth addysgol a'r celfyddydau mynegiannol a chreadigol). Mae rhai o'r plant sy'n mynychu yn dair neu bedair oed ac yn mynychu am fwy na dwy awr y dydd. Mae'n ofynnol i'r darparwr gofrestru fel darparwr gofal dydd gan fod y plant tair neu bedair oed yn mynychu am fwy na dwy awr y dydd.
Coetsio a dysgu aml-weithgaredd a ddarperir yn Gymraeg
Mae darparwr yn rhedeg clwb dydd Sadwrn i blant rhwng pump ac 11 oed. Mae'r sesiwn yn para tair awr ac yn cynnwys coetsio tennis a chelf, a gyflwynir gan athrawon arbenigol. Caiff yr holl gyfarwyddiadau eu darparu drwy gyfrwng y Gymraeg. Nid yw'n ofynnol i'r darparwr gofrestru fel darparwr gofal dydd gan ei fod yn cynnig darpariaeth coetsio neu ddysgu mewn dau fath penodol o weithgaredd (chwaraeon a'r celfyddydau mynegiannol a chreadigol), ac mae unrhyw ofal a ddarperir yn gysylltiedig â'r gweithgareddau hynny.
Grŵp mewn lifrai
Mae sefydliad gwirfoddol mewn lifrai yn cyfarfod mewn neuadd gymunedol un noson yr wythnos ac yn cynnal sesiynau ar wahân ar gyfer grwpiau oedran gwahanol (e.e. pedair i saith oed a saith i ddeg oed). Mae'r sesiynau'n para dwy awr neu lai. Caiff y sesiynau eu harwain gan arweinwyr gwirfoddol sy'n oedolion hyfforddedig ac maent yn dilyn rhaglen datblygu ieuenctid strwythuredig, gan gynnwys dysgu gwerthoedd ac addewidion a rennir, datblygu sgiliau drwy weithgareddau bathodyn, a chymryd rhan mewn seremonïau a thraddodiadau. Mae unrhyw ofal a ddarperir yn gysylltiedig â darparu'r rhaglen. Nid yw'n ofynnol i'r darparwr gofrestru fel darparwr gofal dydd gan ei fod yn darparu coetsio a dysgu mewn dau fath penodol o weithgaredd (cymorth addysgol ac astudiaethau diwylliannol), mae unrhyw ofal yn gysylltiedig ac mae plant pedair oed yn mynychu am ddwy awr neu lai.
Gwersyll dros nos grŵp mewn lifrai
Mae grŵp mewn lifrai yn cynnal gwersyll penwythnos (gan gynnwys aros dros nos) i blant rhwng naw ac 11 oed. Mae'r rhaglen yn strwythuredig ac yn cael ei harwain gan arweinwyr sy'n oedolion hyfforddedig, ac mae'n cynnwys coetsio a dysgu ar gyfer cyfeiriannu, sgiliau awyr agored (chwaraeon) a heriau adeiladu tîm dan arweiniad (cymorth addysgol). Mae unrhyw ofal a ddarperir yn gysylltiedig â'r coetsio a'r dysgu hynny. Nid yw'n ofynnol i'r darparwr gofrestru fel darparwr gofal dydd gan ei fod yn cynnig darpariaeth coetsio a dysgu mewn chwaraeon ac cymorth addysgol ac mae pob plentyn sy'n mynychu yn naw oed neu drosodd.
Grwpiau ffydd
Mae man addoli yn cynnal clybiau gwyliau dyddiol i blant. Caiff pob sesiwn ei chynnal am gyfanswm o dair awr ac mae pob plentyn sy'n mynychu yn bump oed a throsodd. Maent yn darllen o'u llyfr sanctaidd, yn ymarfer ar gyfer drama sy'n ailadrodd stori grefyddol ac yn gwneud gweithgareddau celf yn seiliedig ar eu ffydd. Nid yw'n ofynnol i'r darparwr gofrestru fel darparwr gofal dydd gan fod pob gweithgaredd yn ymwneud â dysgu sy'n gysylltiedig ag un gweithgaredd penodol (astudiaethau crefyddol) ac mae pob plentyn sy'n mynychu yn bump oed a throsodd.
Coetsio neu ddysgu ar gyfer plant tair a phedair oed
Mae darparwr yn cynnig dosbarth dawns strwythuredig i blant tair a phedair oed mewn lleoliad cymunedol. Mae'r sesiwn yn para 90 munud ac yn cynnwys gweithgareddau wedi'u coetsio dan arweiniad hyfforddwr. Caiff tair sesiwn eu cynnal mewn diwrnod, ac mae pob plentyn yn mynychu uchafswm o un sesiwn y dydd. Mae unrhyw ofal a ddarperir yn gysylltiedig â'r coetsio. Nid yw'n ofynnol i'r darparwr gofrestru fel darparwr gofal dydd gan fod y plant yn dair neu bedair oed ac ni fydd plant unigol yn mynychu am fwy na dwy awr ar ddiwrnod unigol.
Darpariaeth dysgu fel grŵp i blant sy'n cael eu haddysgu gartref
Bedair gwaith yr wythnos, mae darparwr yn cynnig sesiynau cymorth addysgol i grŵp o blant sy'n cael eu haddysgu gartref mewn lleoliad cymunedol. Mae pob plentyn rhwng pump a deg oed. Mae pob plentyn yn mynychu am ddeuddydd yr wythnos. Mae'r sesiynau'n para chwe awr ac yn cael eu harwain gan diwtor sy'n darparu addysgu strwythuredig drwy'r cyfnod. Fel mewn ysgol, mae'r plant yn cael egwylion byr i gael byrbrydau, cinio ac amser chwarae. Mae unrhyw ofal a ddarperir yn gysylltiedig â'r dysgu. Nid yw'n ofynnol i'r darparwr gofrestru fel darparwr gofal dydd gan fod y ddarpariaeth yn ymwneud â choetsio a dysgu, yn cwmpasu un math penodol o weithgaredd ‘cymorth addysgol’, ac mae pob plentyn sy'n mynychu yn bump oed neu drosodd. Fodd bynnag, dylai darparwyr nodi y gall gofynion cyfreithiol eraill fod yn berthnasol mewn perthynas â darparu addysg i blant sy’n cael eu haddysgu gartref neu gofrestru ysgol annibynnol. Dylai darparwyr gyfeirio at y canllawiau Addysg Ddewisol yn y Cartref i gael gwybodaeth am ofynion ar ddarparwyr sy'n cynnig cymorth addysgol i blant sy'n cael eu haddysgu gartref. Mae'n ofynnol i ddarparwyr gofrestru fel ysgol annibynnol os ydynt yn gweithredu mewn modd sy'n bodloni'r diffiniad cyfreithiol o ysgol annibynnol. Yn y bôn, os yw'n bodloni'r meini prawf ac yn darparu addysg sydd wedi'i fwriadu i ddarparu holl addysg, neu ran sylweddol o holl addysg plentyn ac yn atal y posibilrwydd y gellid darparu addysg amser llawn yn rhywle arall. Gwelera Cofrestru ysgolion annibynnol: canllawiau am ragor o wybodaeth.
Clwb gwyliau aml-weithgaredd
Mae darparwr yn rhedeg clwb gwyliau i blant rhwng pump ac 11 oed. Mae'r sesiwn yn para pedair awr ac yn cynnwys chwarae rhydd, gemau bwrdd, crefftau, chwarae yn yr awyr agored a ffilm. Mae'r staff yn goruchwylio'r plant at ddibenion diogelwch a llesiant, ond nid ydynt yn darparu addysg, coetsio na dysgu strwythuredig ar gyfer unrhyw weithgaredd. Mae'n ofynnol i'r darparwr gofrestru fel darparwr gofal dydd gan nad yw'n cynnig darpariaeth coetsio a dysgu ac mae'n gweithredu am fwy na dwy awr y dydd.
Cymorth addysgol
Mae darparwr yn rhedeg clwb astudio ar ddydd Sadwrn i blant rhwng pump a saith oed. Mae pob sesiwn yn para tair awr ac yn cael ei harwain gan diwtor sy'n darparu cymorth addysgol strwythuredig mewn mathemateg. Gall y plant gael egwyl fer dan oruchwyliaeth i gael byrbryd, ac mae unrhyw ofal a ddarperir yn gysylltiedig â'r dysgu. Nid yw'n ofynnol i'r darparwr gofrestru fel darparwr gofal dydd gan fod y ddarpariaeth yn ymwneud â choetsio a dysgu mewn un math penodol o weithgaredd (cymorth addysgol), mae unrhyw ofal yn gysylltiedig, ac mae'r plant yn bump oed neu drosodd.
Astudiaethau Diwylliannol
Mae sefydliad cymunedol yn cynnal grŵp astudiaethau diwylliannol i blant rhwng pump ac 11 oed. Mae'r sesiwn yn para tair awr ac mae'n cynnwys dysgu strwythuredig mewn hanes diwylliannol, traddodiadau ac iaith y gymuned. Mae'r plant hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau celf, cerddoriaeth neu adrodd straeon sy'n gysylltiedig â'r dysgu hwnnw. Mae unrhyw ofal a ddarperir yn gysylltiedig â'r dysgu. Nid yw'n ofynnol i'r darparwr gofrestru fel darparwr gofal dydd gan fod y ddarpariaeth yn ymwneud â choetsio a dysgu mewn dim mwy na dau fath penodol o weithgaredd (astudiaethau diwylliannol), ac mae pob plentyn sy'n mynychu yn bump oed neu drosodd.
Gwasanaethau ieuenctid
Nodir hyn yn Erthygl 18 ar gyfer gofal dydd.
Esboniad
Nid yw'n ofynnol i berson / darparwr gofrestru fel darparwr gofal dydd os bydd pob plentyn sy'n mynychu yn 11 oed o leiaf, mae unrhyw ofal a ddarperir yn gysylltiedig â darparu'r gwasanaeth ieuenctid ac mae taliad nominal neu ddim taliad am y gwasanaeth.
Yn y cyd-destun hwn, mae ‘gwasanaeth ieuenctid’ yn golygu gweithgareddau sy'n annog, yn galluogi neu'n cynorthwyo plant 11 oed a throsodd i gymryd rhan yn effeithiol mewn gweithgareddau hamdden, addysg a hyfforddiant, neu fywyd eu cymunedau.
Mae 'cysylltiedig' yn golygu bod unrhyw ofal yn eilaidd i ddarparu'r gweithgarwch gwaith ieuenctid. Rhaid mai gweithgarwch y gwasanaeth ieuenctid yw diben a ffocws y sesiwn, a dylai unrhyw ofal fod yn gyfyngedig i'r hyn sydd ei angen yn rhesymol i oruchwylio a chefnogi'r sesiwn yn ddiogel (er enghraifft, goruchwyliaeth wrth i'r rhai sy'n bresennol gael egwyl fer am ddiod/byrbryd neu ddelio â phroblem cymorth cyntaf fach).
Mae ‘taliad nominal’ yn golygu cyfraniad tuag at adennill costau rhesymol.
Am ragor o fanylion, gweler Sut i ddefnyddio'r canllawiau hyn ar gyfer Gorchymyn Eithriadau 2026.
Enghreifftiau
Clwb ieuenctid
Mae sefydliad yn cynnal clwb ieuenctid i bobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed mewn canolfan gymunedol. Mae'r sesiynau'n canolbwyntio ar weithgareddau cymdeithasol, trafodaethau grŵp a gemau, gyda gweithwyr cymorth ieuenctid yn goruchwylio ac yn cefnogi'r bobl ifanc. Ni chodir ffi i fynychu. Nid yw'n ofynnol i'r darparwr gofrestru fel darparwr gofal dydd gan mai gwasanaeth ieuenctid yw'r gwasanaeth ac mae unrhyw ofal a ddarperir yn gysylltiedig â gweithgarwch y gwasanaeth ieuenctid.
Grŵp ieuenctid cymunedol
Mae sefydliad yn cynnal grŵp ieuenctid wythnosol i blant 11 a 12 oed, gan gynnig gweithgareddau hamdden a gweithdai sgiliau. Codir ffi fach. Nid yw'n ofynnol i'r darparwr gofrestru fel darparwr gofal dydd gan mai gwasanaeth ieuenctid i blant 11 oed a throsodd yw'r gweithgaredd, ni ddarperir unrhyw ofal a dim ond taliad nominal sy'n ofynnol.
Clwb ar ôl ysgol sy'n codi mwy na ffi nominal
Mae darparwr yn cynnal clwb ar ôl ysgol i blant rhwng 11 a 14 oed ac mae'n codi £15 y sesiwn. Mae pob sesiwn yn para dwy awr a hanner. Er bod y sesiynau'n cynnwys rhai gemau a gweithgareddau grŵp, y prif ddiben yw darparu gofal dan oruchwyliaeth rhwng diwedd y diwrnod ysgol a phan fydd y rhieni'n casglu eu plant. Gan fod y ffi yn fwy na ffi nominal, nid yw'r gofal yn cyd-fynd â’r diffiniad o “ofal cysylltiedig” ac mae plant 12 oed ac iau yn mynychu, mae'n ofynnol i'r darparwr gofrestru.
Gwasanaethau ieuenctid wrth bontio
Nodir hyn yn Erthygl 19 ar gyfer gofal dydd.
Esboniad
Nid oes angen i berson/darparwr gofrestru os yw'n cynnig gwasanaeth ieuenctid wrth bontio i blant deg neu 11 oed, lle mae unrhyw ofal a roddir yn gysylltiedig â darparu'r gwasanaethau ieuenctid wrth bontio. Mae'r rhain yn wasanaethau sy'n cefnogi datblygiad addysgol, personol a chymdeithasol plant yn ystod eu cyfnod pontio o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd, a lle na chodir unrhyw ffi neu ffi nominal yn unig.
Am ragor o fanylion, gweler Sut i ddefnyddio'r canllawiau hyn ar gyfer Gorchymyn Eithriadau 2026.
Enghreifftiau
Rhaglen pontio i’r ysgol
Mae darparwr gwasanaeth ieuenctid yn cyflwyno rhaglen fer i blant deg ac 11 oed yn ystod tymor yr haf, gan eu helpu i baratoi ar gyfer yr ysgol uwchradd. Mae'r gweithgareddau'n cynnwys trafodaethau grŵp, ymarferion adeiladu tîm a dysgu am amgylchedd yr ysgol uwchradd. Codir ffi fach. Nid yw'n ofynnol i'r darparwr gofrestru fel darparwr gofal dydd gan fod y gwasanaeth yn cefnogi datblygiad addysgol, personol a chymdeithasol plant deg ac 11 oed yn ystod y cyfnod pontio a dim ond taliad nominal sy'n ofynnol.
Grŵp pontio i wasanaeth ieuenctid
Mae darparwr gwasanaeth ieuenctid yn cynnal grŵp wythnosol i blant deg ac 11 oed i'w cyflwyno i weithgareddau sydd ar gael drwy'r gwasanaeth ieuenctid unwaith y byddant yn 11 oed. Ni chodir ffi, ac mae unrhyw ofal a ddarperir yn gysylltiedig â darparu'r cymorth. Nid yw'n ofynnol i'r darparwr gofrestru fel darparwr gofal dydd gan mai gwasanaeth ieuenctid wrth bontio yw hwn ac mae'r holl blant sy'n mynychu yn ddeg neu 11 oed.
Gweithwyr gofal plant
Nodir hyn yn Erthygl 20 ar gyfer gofal dydd.
Esboniad
Nid yw'n ofynnol i weithwyr gofal plant gofrestru os ydynt yn cael eu cyflogi gan ddarparwr gofal dydd cofrestredig.
Byddai angen i'r darparwr gofal dydd cofrestredig ddilyn canllawiau yn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer gofal plant rheoleiddiedig sy'n nodi o dan ba amodau y gellir gadael gweithwyr gofal plant yn gyfrifol am blant.
Am ragor o fanylion, gweler Sut i ddefnyddio'r canllawiau hyn ar gyfer Gorchymyn Eithriadau 2026.
Enghreifftiau
Gweithiwr gofal plant sy'n cael ei gyflogi mewn meithrinfa
Mae meithrinfa yn cyflogi gweithwyr gofal plant i ofalu am blant. Nid yw'n ofynnol i'r gweithwyr gofal plant eu hunain gofrestru fel darparwyr gofal dydd gan eu bod yn gweithio o dan gyfarwyddyd y cyflogwr ac mae eu cyflogwr wedi'i gofrestru fel darparwr gofal dydd yn ei rinwedd ei hun.
Gweithiwr gofal plant sy'n darparu gwasanaeth carco y tu allan i'w rôl mewn meithrinfa
Mae gweithiwr gofal plant yn cael ei gyflogi gan feithrinfa sydd wedi'i chofrestru i ddarparu gofal dydd. Gyda'r nos ac ar benwythnosau, mae'r gweithiwr gofal plant hefyd yn cynnig gwasanaeth carco am dâl i deuluoedd yng nghartrefi'r plant eu hunain neu mewn gwestai. Er bod gwaith yr unigolyn yn y feithrinfa wedi'i gwmpasu gan gofrestriad y feithrinfa, mae'r gwasanaeth carco ar wahân ac nid yw wedi'i gynnwys o dan y cofrestriad hwnnw. Felly ni fyddai'n gallu gweithredu o dan yr eithriad hwn i ddarparu'r elfen garco y tu allan i'w gyflogaeth.
Gweithiwr gofal plant sy'n gweithredu darpariaeth y tu allan i'w rôl mewn meithrinfa
Mae gweithiwr gofal plant yn cael ei gyflogi gan feithrinfa sydd wedi'i chofrestru i ddarparu gofal dydd. Mae'r gweithiwr gofal plant hefyd yn rhedeg gwasanaeth gofal dydd cwbl ar wahân sy'n cynnig gofal i blant rhwng tair a 12 oed am hyd at wyth awr pan fydd eu rhieni'n gweithio ar benwythnosau. Mae gwaith y gweithiwr gofal yn y feithrinfa wedi'i gwmpasu gan gofrestriad y feithrinfa. Mae'r gofal dydd ar y penwythnos ar wahân i'w gyflogaeth ac nid yw'n cael ei gynnal o dan gofrestriad y feithrinfa ac ni fyddai'n gallu gweithredu o dan yr eithriad hwn.
Diogelu
Fel person/darparwr sy'n gweithio gyda phlant, mae gennych gyfrifoldeb i ddiogelu plant.
Ystyr diogelu yw:
- cadw pobl yn ddiogel rhag camdriniaeth, esgeulustod neu niwed
- gwybod beth i'w wneud os byddwch yn meddwl bod rhywun yn wynebu risg
Mae gwybod beth i'w wneud, pryd i'w wneud a sut i'w wneud, yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. Gall camdriniaeth, esgeulustod a niwed gael effaith ddinistriol ar unigolion a gall arwain at effeithiau sylweddol a thrawma ar yr unigolyn ac ar aelodau'r teulu neu'n ehangach. Dyma pam y gall sicrhau bod prosesau diogelu da ar waith helpu i amddiffyn plant ac oedolion/unigolion.
I'r rhai nad ydynt wedi cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i unigolion, grwpiau neu sefydliadau sy'n cynnig gweithgareddau neu wasanaethau i blant ddilyn cyngor o fewn Gweithio gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl: Cod Ymarfer Diogelu. Bydd hyn yn helpu i ddangos bod trefniadau rhesymol ar waith i sicrhau diogelwch plant.
Mae'r trefniadau hyn yn cynnwys cael polisi amddiffyn plant, arweinydd diogelu dynodedig, gwybodaeth i rieni/gofalwyr, arferion recriwtio a chyflogi diogel (e.e. cymwysterau, hunaniaeth, gwirio geirdaon a gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) a hyfforddiant, goruchwyliaeth a chymorth priodol i staff/gwirfoddolwyr.
Nid yw eithriad rhag cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru yn diddymu eich cyfrifoldeb i ddiogelu plant. Dylai trefniadau diogelu fod yn gymesur â'r gweithgaredd sy'n cael ei ddarparu a lefel y cyswllt â phlant, ond dylent bob amser gynnwys camau clir ar gyfer nodi pryderon, ymateb i’r pryderon hynny ac adrodd amdanynt. Dylai plant wybod â phwy y gallant siarad os ydynt yn teimlo'n anniogel neu'n bryderus, a dylid rhoi gwybodaeth glir i rieni a gofalwyr am y trefniadau diogelu sydd ar waith. Dylai gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, lle bo hynny'n briodol, fod yn rhan o arferion ehangach ar gyfer recriwtio, goruchwylio a diogelu ac ni ddylid dibynnu arnynt fel yr unig fesur diogelwch.
Mae gweithgaredd a reoleiddir yn waith na ddylai person sydd wedi'i wahardd ei wneud. Dylid deall bod y diffiniad cyfreithiol o weithgaredd a reoleiddir gyda phlant yn cwmpasu rhai rolau, gweithgareddau a swyddi sy'n cynnwys cyswllt rheolaidd ac agos â phlant ac felly'n gymwys ar gyfer gwiriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gyda gwiriad o'r Rhestr Gwahardd ar gyfer Plant. Mae'r rhain yn cynnwys gweithgareddau penodol heb oruchwyliaeth gyda phlant a gwaith mewn sefydliadau penodol fel ysgolion, lleoliadau gofal plant a lleoliadau gwasanaethau plant. Mae'r meini prawf cymhwystra yn gymwys p'un a yw'r unigolyn yn gyflogedig neu'n gwirfoddoli ac maent yn seiliedig ar ddyletswyddau'r rôl. Gweithgaredd a reoleiddir gyda phlant yng Nghymru a Lloegr.
Mae chwe bwrdd diogelu rhanbarthol ledled Cymru a all ddarparu gwybodaeth a chyngor, gan gynnwys am gyfleoedd hyfforddi lleol sydd am ddim a sut i roi gwybod am unrhyw bryderon a'u cofnodi.
Os ydych yn gwybod neu'n amau bod plentyn yn profi neu wedi profi camdriniaeth, esgeulustod neu niwed, neu'n wynebu risg o hyn, rhowch wybod i wasanaethau cymdeithasol eich awdurdod lleol. Ceir manylion ar wefan yr awdurdod lleol perthnasol.
Os gallai plentyn wynebu risg uniongyrchol o niwed, dylech gysylltu â'r gwasanaethau brys gan ddefnyddio 999 yn ddi-oed. Os hoffech roi gwybod am bryder neu ddigwyddiad lle nad oes risg uniongyrchol o niwed, cysylltwch â'r gwasanaethau brys gan ddefnyddio 101. O dan y ddau fath o amgylchiadau, dylech hefyd roi gwybod am y pryder i wasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol.
Ceir rhagor o fanylion ar lwyfan Gweithdrefnau Diogelu Cymru, a all roi adnoddau a hyfforddiant ichi ar ddiogelu a Chanllawiau Ymarfer Cymru Gyfan. Bydd rhain yn eich helpu i ddeall arwyddion a symptomau camdriniaeth, esgeulustod a niwed o fath arall, ac yn eich cyfeirio at ffynonellau eraill o gymorth ac arweiniad.
