Neidio i'r prif gynnwy

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i greu cyfrif defnyddiwr er mwyn ffeilio Treth Trafodiad Tir ar-lein, fel cyfreithiwr neu drawsgludydd.

Bydd angen i’ch sefydliad fod wedi’i gofrestru cyn y gallwch gofrestru i greu cyfrif defnyddiwr.

Gwasanaeth ar-lein Awdurdod Cyllid Cymru

Cyn i chi ddechrau

Os nad ydych yn siŵr a oes cyfrif eisoes yn bodoli, cysylltwch â ni.

Bydd angen rhif cofrestru eich sefydliad arnoch oddi wrth eich gweinyddwr ar-lein er mwyn cofrestru. Gall y gweinyddwr ddod o hyd iddo ar ei dudalen ‘Rheoli defnyddwyr ar-lein’.

Darllenwch delerau ac amodau ein gwasanaethau ar-lein a’n polisi preifatrwydd.

Sut i greu cyfrif defnyddiwr

  1. Rhowch eich cyfeiriad e-bost a dewiswch Anfon cod dilysu.
  2. Bydd cod dilysu gan Microsoft yn cael ei anfon i’r cyfeiriad e-bost hwn. Mae angen i chi ddefnyddio'r cod o fewn 10 munud.
  3. Os na fyddwch yn ei dderbyn ar unwaith, edrychwch yn eich ffolder 'junk' neu 'sbam'. Cysylltwch â ni os nad ydych wedi ei dderbyn.
  4. Ar ôl ei dderbyn, mewnbynnwch y cod dilysu a dewiswch Dilysu cod.
  5. Dewiswch a chadarnhewch gyfrinair, yna dewiswch Creu.
  6. Bydd y sgrin nesaf yn gofyn am eich enw, rhowch hwn a dewiswch Nesaf.
  7. Rhowch rif cofrestru eich sefydliad gan eich gweinyddwr ar-lein.
  8. Bydd eich cyfrif yn cael ei greu. Dywedwch wrth eich gweinyddwr ar-lein, er mwyn iddo allu eich actifadu.

Cymorth

Cysylltwch â ni os oes angen unrhyw gymorth arnoch gyda’r broses hon.