Neidio i'r prif gynnwy

Dysgwch sut i ychwanegu, dileu, ac uwchraddio defnyddwyr i fod yn weinyddwyr ar gyfer cyfrif ar-lein Treth Trafodiadau Tir (TTT) eich sefydliad.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Sut i greu cyfrif defnyddiwr gweinyddwr

  1. Rhowch yr un cyfeiriad e-bost ar gyfer y gweinyddwr ar-lein ag a ddefnyddiwyd gennych wrth gofrestru'r sefydliad a dewiswch Anfon cod dilysu.
  2. Bydd Microsoft yn anfon cod dilysu i’r cyfeiriad e-bost hwn. Mae angen i chi ddefnyddio'r cod o fewn 10 munud.
  3. Os na fyddwch yn ei dderbyn ar unwaith, edrychwch yn eich ffolder 'sothach' neu 'sbam'. Cysylltwch â ni os nad ydych wedi ei dderbyn.
  4. Ar ôl ei dderbyn, mewnbynnwch y cod dilysu a dewiswch Dilysu rhif.
  5. Crëwch a chadarnhewch gyfrinair, yna dewiswch Creu.
  6. Bydd y sgrin nesaf yn gofyn am eich enw, rhowch hwn a dewiswch Nesaf.
  7. Rhowch rif cofrestru eich sefydliad a anfonwyd atoch gennym ni.
  8. Bydd eich cyfrif defnyddiwr yn cael ei actifadu'n awtomatig.

Gwasanaeth ar-lein Awdurdod Cyllid Cymru

Peidiwch â rhannu manylion eich cyfrif a'ch cyfrinair. Os oes angen mynediad ar rai eraill yn eich sefydliad, gallant greu cyfrif defnyddiwr newydd. Yna gall y gweinyddwr ar-lein eu hactifadu er mwyn caniatáu mynediad.

Rheoli defnyddwyr ar gyfer eich sefydliad

Fel gweinyddwr ar-lein cofrestredig, gallwch:

  • actifadu a dadactifadu defnyddwyr
  • uwchraddio defnyddwyr i fod yn weinyddwyr neu eu newid i fod yn ddefnyddiwr

Mae'r fideo hwn yn dangos i chi sut i reoli defnyddwyr ar-lein gam wrth gam:

Sut i ychwanegu defnyddwyr ar-lein

I ychwanegu defnyddiwr ar-lein at gyfrif ar-lein eich sefydliad:

  1. Rhaid i'r defnyddiwr newydd greu cyfrif defnyddiwr newydd i ddechrau.
  2. Yna, rhaid i weinyddwr ar-lein y sefydliad ei actifadu er mwyn iddynt allu ffeilio a gweld ffurflenni treth.

Sut i actifadu defnyddwyr newydd

Gall gweinyddwyr weld defnyddwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer cyfrif ar-lein gyda'u sefydliad ar y dudalen rheoli defnyddwyr ar-lein. Ar y dudalen hon gallwch ddewis defnyddwyr sy'n aros i gael eu hactifadu a newid eu 'statws defnyddiwr’ i wedi’i actifadu.

Yna gall defnyddwyr sydd wedi'u hactifadu:

  • gyflwyno ffurflenni treth
  • gweld ffurflenni drafft a rhai sydd wedi’u cyflwyno gan eich sefydliad

Ychwanegu a thynnu gweinyddwr arall

Gall gweinyddwyr uwchraddio defnyddwyr i fod yn weinyddwyr drwy newid eu 'math o ddefnyddiwr' yn y system ar unrhyw adeg. Gallwch hefyd eu newid yn ôl i fod yn ddefnyddwyr.

Fel gweinyddwr, byddant yn gallu rheoli a diweddaru’r rhestr defnyddwyr.

Os nad oes gan eich sefydliad weinyddwr ar-lein am eu bod wedi gadael, cysylltwch â ni.

Sut i ddadactifadu defnyddwyr

Os bydd defnyddiwr yn gadael y sefydliad neu os nad oes angen mynediad arno mwyach, dylai gweinyddwr ei ddadactifadu ar unwaith.

I ddadactifadu defnyddiwr:

  1. Ewch i rheoli defnyddwyr ar-lein.
  2. Dewiswch y defnyddiwr.
  3. Dewiswch golygu manylion y defnyddiwr.
  4. Newidiwch statws y defnyddiwr i wedi’i ddadactifadu.
  5. Dewiswch arbed.

Os bydd yn gadael eich sefydliad dros dro, gall gweinyddwr ei ddadactifadu a dilyn y camau sut i actifadu i'w ailactifadu yn ddiweddarach.

Cymorth

Os oes angen help arnoch gydag unrhyw un o'r prosesau hyn, cysylltwch â ni.