Neidio i'r prif gynnwy

Sut i greu a golygu'r cynnwys ar ffurf 'casgliad' ar LLYW.CYMRU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pryd i'w ddefnyddio

Cyn bod modd creu neu olygu cynnwys, mae angen i chi ddarllen a deall y canlynol:

Dylech hefyd gael fersiwn o'r cynnwys yn barod i'w gyhoeddi.

Defnyddiwch gasgliad i ddiwallu angen defnyddwyr i ddod o hyd i grŵp o gynnwys ar sail rhywbeth arall heblaw pwnc. Er enghraifft:

Gallwch ychwanegu cynnwys i fwy nag un casgliad.

Peidiwch â chreu casgliad:

  • yn lle isbynciau, isbynciau yw ein prif ffordd o gadw cynnwys mewn grŵp
  • ar gyfer cynnwys nad oes ei hangen gyda'i gilydd, neu na fyddai disgwyl eu canfod gyda'i gilydd
  • yn hytrach na system rheoli cofnodion
  • ar gyfer un cyhoeddiad

Sut i'w greu

Cysylltwch â'r Tîm Digidol Corfforaethol i greu casgliad. Unwaith iddo gael ei greu, gallwch ei addasu ac ychwanegu cynnwys iddo. 

Golygu casgliad presennol

  1. Mewngofnodi i GOV.WALES a LLYW.CYMRU.
  2. Dewch o hyd i'r casgliad naill ai drwy edrych ar y wefan i'r cyhoedd neu drwy ddewis Workbench yna All recent content. Rhaid i chi wneud hyn ar GOV.WALES gan fod yn rhaid i'r cynnwys Saesneg gael ei olygu'n gyntaf.
  3. Agorwch y casgliad.
  4. Dewiswch EDIT DRAFT neu NEW DRAFT.
  5. Os oes angen, golygwch y maes Title.
  6. Os oes angen, golygwch y maes Summary.
  7. Dewiswch Add Collection Section  ac ychwanegwch bennawd
  8. Teipiwch enw'r dudalen yr ydych am greu dolen iddi yn y blwch o dan NODES WITH OVERRIDE.
  9. Dewiswch y dudalen gywir o'r gwymplen.
  10. Os ydych am ddefnyddio teitl gwahanol ar gyfer y dudalen yn y casgliad, rhowch hyn yn y blwch Custom text
  11. Gallwch ailadrodd camau 7 i 9 ar gyfer mwy o dudalennau yn y casgliad. 
  12. I ychwanegu is-bennawd defnyddiwch Add Collection Section  ac yna dilynwch gamau 7 i 9.
  13. Tagiwch i'r Topics perthnasol.
  14. Os yw cynnwys wedi dod gan sefydliad, neu os yw'n sôn am sefydliad, llenwch y maes EXTERNAL ORGANISATIONS.
  15. Rhowch Review Date.
  16. Llenwch Revision log message (all languages) gan roi crynodeb byr o'r newidiadau.
  17. Dewiswch Save and Create New Draft.
  18. I ychwanegu'r Gymraeg, dewiswch TRANSLATE.
  19. Dewiswch Add o'r rhes gyda'r label Welsh.
  20. Diweddarwch pob maes gyda'r testun Cymraeg.
  21. I arbed newidiadau heb eu gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Create New Draft (this translation). I arbed newidiadau a'i gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Publish (this translation).
  22. Unwaith i chi gyhoeddi'r Gymraeg a'r Saesneg, gwnewch yn siŵr bod y ddwy iaith yn gywir o ran gosodiad y dudalen, a bod y dolenni i gyd yn gweithio.

Yr elfennau sydd ar gael

Rhestr o ba elfennau sydd ar gael a sut i'w defnyddio os oes hawl gwneud hynny.

Paragraphs: add collection section

Rhaid i chi ddefnyddio'r adran casgliad i roi dolenni i gynnwys yr ydych yn eu rhoi mewn grŵp.

Paragraphs: content

Ni ddylai fod angen i ddefnyddio'r paragraff cynnwys mewn casgliadau. Rhowch gyd-destun gan ddefnyddio:

  • teitl y dudalen
  • crynodeb y dudalen
  • teitlau'r adrannau
  • crynodebau'r adrannau

Paragraphs: accordion

Peidiwch â defnyddio'r paragraff acordion mewn casgliadau.

Paragraphs: related links

Peidiwch â defnyddio'r paragraff dolenni perthnasol mewn casgliadau.

Paragraphs: call out message

Peidiwch â defnyddio'r paragraff neges alw mewn casgliadau.

Paragraphs: contact details

Dilynwch y diffiniad manylion cyswllt i ychwanegu gwybodaeth gyswllt, er enghraifft, rhif ffôn.

Internal links (node)

Defnyddiwch i greu dolenni at tua 5 o dudalennau sydd â chysylltiad agos ag anghenion defnyddwyr sy'n cael eu diwallu gan y casgliad.

Internal links (terms)

Dylech osgoi defnyddio dolenni mewnol ('terms'). Mae'r dolenni hyn yn rhaid at bynciau, ac fel arfer mae'r briwsion bara eisoes wedi dod o hyd i'r pwnc perthnasol.

External links

Dilynwch y diffiniad dolenni bach ochr i greu dolenni at gynnwys sydd â chysylltiad uniongyrchol ag anghenion y defnyddiwr sy'n cael eu diwallu gan eich cynnwys.