Neidio i'r prif gynnwy

Sut i greu a golygu'r cynnwys ar ffurf 'cyhoeddiad: asesiad effaith' ar LLYW.CYMRU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pryd i'w ddefnyddio

Cyn bod modd creu neu olygu cynnwys, mae angen i chi ddarllen a deall y canlynol:

Dylech hefyd gael fersiwn o'r cynnwys yn barod i'w gyhoeddi.

Defnyddiwch ar gyfer dogfennau sy’n asesu effaith mentrau newydd neu newidiadau i ddeddfwriaeth, er enghraifft:

  • asesiadau effaith
  • asesiadau effaith ar gydraddoldeb a dadansoddiadau
  • effaith ar gydraddoldeb
  • arfarniadau cynaliadwyedd integredig
  • nodi'r effaith ar y system gyfiawnder
  • arfarniadau cynaliadwyedd

Ychwanegwch dim ond un asesiad effaith at bob cyhoeddiad: asesiad effaith. Er enghraifft, un ar gyfer asesiad o’r effaith ar hawliau plant ac un arall ar gyfer asesiad o’r effaith ar y Gymraeg.

Rhowch wahanol asesiadau effaith sy’n ymwneud â’r un maes polisi at ei gilydd mewn grŵp gan ddefnyddio casgliad.

Teitlau a chrynodebau

Mae teitlau yn dilyn y patrwm a ganlyn:

  • enw’r polisi: enw’r math o asesiad effaith

Er enghraifft:

  • Rhaglen cydlyniant cymunedol: asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb

Mae’r mwyafrif o grynodebau yn dilyn y patrwm a ganlyn:

  • Sut y gall ‘enw’r polisi’ effeithio ar ‘ddisgrifiad o’r effeithiau a aseswyd gan yr asesiad effaith’

O ran dibenion chwilio a hybu dealltwriaeth, efallai y byddai’n well geirio pethau’n wahanol yn y crynodeb i ddisgrifio’r polisi a’r math o asesiad effaith. Er enghraifft, os mai’r teitl yw:

  • Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru): asesiad o’r effaith ar ddiogelu data

Gellid ysgrifennu’r crynodeb fel a ganlyn:

  • Sut y gall y bil i wneud tomenni glo a chwareli nad ydynt yn cael eu defnyddio yn fwy diogel effeithio ar breifatrwydd a data personol pobl

Defnyddiwch y teitlau safonol a ganlyn ar gyfer enwau asesiadau effaith:

  • asesiad effaith integredig
  • asesiad effaith rheoleiddiol
  • asesiad o’r effaith ar hawliau plant
  • asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb
  • asesiad o’r effaith ar y Gymraeg
  • nodi’r effaith ar y system gyfiawnder
  • asesiad o’r effaith ar gyfiawnder
  • asesiad o’r effaith ar fioamrywiaeth
  • asesiad o’r effaith ar ddiogelu data
  • asesiad effaith prawfesur gwledig
  • asesiad o’r effaith ar y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol
  • asesiad effaith sgrinio iechyd
  • asesiad o’r effaith ar iechyd

Defnyddiwch y patrymau a ganlyn ar gyfer crynodebau:

  • asesiad effaith integredig: crynodeb o ‘disgrifiad o’r polisi’ a’i effeithiau disgwyliedig
  • asesiad effaith rheoleiddiol: costau a manteision tebygol ‘disgrifiad o’r newid deddfwriaethol’, er enghraifft, ‘costau a manteision tebygol diwygio contract gwasanaethau deintyddol cyffredinol y GIG’
  • asesiad effaith integredig strategol: effeithiau disgwyliedig penderfyniadau a wneir yn ‘enw’r gyllideb’
  • asesiad o’r effaith ar hawliau plant: sut y gall ‘disgrifiad o’r polisi’ effeithio ar hawliau plant
  • asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb: sut y gall ‘disgrifiad o’r polisi’ effeithio ar bobl â nodweddion gwarchodedig
  • asesiad o’r effaith ar y Gymraeg: sut y gall ‘disgrifiad o’r polisi’ effeithio ar y Gymraeg a’r rhai sy’n ei siarad
  • nodi’r effaith ar y system gyfiawnder: asesiad ar gyfer y Weinyddiaeth Gyfiawnder o effeithiau’r ‘disgrifiad o’r polisi’
  • asesiad o’r effaith ar gyfiawnder: sut y gall ‘disgrifiad o’r polisi’ effeithio ar y system gyfiawnder
  • asesiad o’r effaith ar fioamrywiaeth: sut y gall ‘disgrifiad o’r polisi’ effeithio ar fioamrywiaeth yn yr ardaloedd cyfagos
  • asesiad o’r effaith ar ddiogelu data: sut y gall ‘disgrifiad o’r polisi’ effeithio ar breifatrwydd a data personol pobl
  • asesiad effaith prawfesur gwledig: sut y gall ‘disgrifiad o’r polisi’ effeithio ar fusnesau a chymunedau gwledig
  • asesiad o’r effaith ar y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol: sut y gall ‘disgrifiad o’r polisi’ effeithio ar y rhai o dan anfantais oherwydd eu hamgylchiadau economaidd a chymdeithasol
  • asesiad effaith sgrinio iechyd: mae’r asesiad hwn yn penderfynu a oes angen asesiad llawn o’r effaith ar iechyd o ran ‘disgrifiad o’r polisi’
  • asesiad o’r effaith ar iechyd: sut y gall ‘disgrifiad o’r polisi’ effeithio ar iechyd a llesiant cymunedau

I gael cyngor mwy cyffredinol, cyfeiriwch at y canllawiau yn teitlaucrynodebau.

Sut i'w greu

Creu cyhoeddiad: asesiad effaith newydd

  1. Mewngofnodi i GOV.WALES a LLYW.CYMRU.
  2. Dewiswch y wedd Workbench yn LLYW.CYMRU (rhaid i chi ddechrau ar y wefan Saesneg).
  3. Dewiswch Create content.
  4. Dewiswch Publication.
  5. Dewiswch Impact Assessment o'r maes Publication.
  6. Llenwch y maes Title.
  7. Llenwch y maes Summary.
  8. Os yw eich dogfen yn un HTML, dewiswch HTML document o'r ddewislen PUBLICATION DOCUMENTS a dewiswch Add new publication document.
  9. Cwblhewch y maes Name gyda document title. Gwnewch yn siŵr bod eich dogfen yn cydymffurfio gyda'r canllawiau enwau dogfennau. Defnyddiwch y maes File i lanlwytho eich ffeil.
  10. Teipiwch enw'r ddogfen HTML i'r maes HTML document a dewiswch y ddogfen gywir.
  11. Os yw'r ddogfen ond ar gael yn Gymraeg neu Saesneg yn unig, dewiswch yr iaith honno o'r fwydlen Language availability.
  12. Pan fo pob maes wedi cwblhau, dewiswch Create publication document.
  13. Dilynwch gamau 7 i 11 i ychwanegu mwy o ddogfennau HTML.
  14. I ychwanegu dogfen nad yw'n HTML, dewiswch Publication document o'r ddewislen PUBLICATION DOCUMENTS a dewiswch Add new publication document.
  15. Cwblhewch y maes Name gyda document title. Gwnewch yn siŵr bod eich dogfen yn cydymffurfio gyda'r canllawiau enwau dogfennau. Defnyddiwch y maes File i lanlwytho eich ffeil.
  16. Os yw eich dogfen mewn fformat PDF, dewiswch Generate thumbnail i greu cryno-lun yn awtomatig.
  17. Os nad yw'r ddogfen yn PDF, rhaid i chi greu cryno-lun a'i lanlwytho. Dylai'r cryno-lun fod yn 160px (Ll) x 230px (U). Defnyddiwch y maes Thumbnail i lanlwytho cryno-lun.
  18. Os yw'r ddogfen ond ar gael yn Gymraeg neu Saesneg yn unig, dewiswch yr iaith honno o'r fwydlen Language availability.
  19. Pan fo pob maes wedi cwblhau, dewiswch Create publication document.
  20. Dilynwch gamau 13 i 18 i ychwanegu mwy o ddogfennau sydd ddim yn HTML.
  21. Os oes mwy o gynnwys gyda chi, dewiswch Add Content a gludo cynnwys y dudalen i'r maes Content. Bydd y cynnwys yma'n ymddangos o dan y dogfennau ar y dudalen.
  22. Tagiwch i'r Topics perthnasol.
  23. Os yw cynnwys wedi dod gan sefydliad, neu os yw'n sôn am sefydliad, llenwch y maes EXTERNAL ORGANISATIONS.
  24. Ychwanegwch hyd at 5 dolen fewnol INTERNAL LINKS (NODE) i gynnwys sy'n uniongyrchol berthnasol i anghenion y defnyddiwr sy'n cael eu diwallu gan y cyhoeddiad: asesiad effaith.
  25. Ni ddylech fel arfer lenwi'r maes INTERNAL LINKS (TERMS). Mae'r cyhoeddiad: asesiad effaith naill ai'n berthnasol i bwnc felly wedi'i dagio iddo, neu'n cynnwys dolenni at dudalennau sy'n diwallu anghenion penodol defnyddwyr.
  26. Er mwyn creu dolen i wefan arall, dewiswch Add External Link.
  27. I arbed ac addasu eto cyn cyhoeddi dewiswch Save and Create New Draft. I arbed a dewis pryd i gyhoeddi yn y dyfodol, rhowch ddddiad ac amser yn SCHEDULING OPTIONS (gallwch ehangu'r maes yma sydd fel arfer i'r dde o'r prif feysydd addasy). Yna dewiswch Save and Approve to go live.
  28. I ychwanegu'r Gymraeg, dewiswch TRANSLATE.
  29. Dewiswch Add o'r rhes gyda'r label Welsh.
  30. Diweddarwch pob maes gyda'r testun Cymraeg.
  31. I arbed newidiadau heb eu gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Create New Draft (this translation). I arbed newidiadau a'u gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and publish (this translation). I arbed a chyhoeddi ar y dyddiad a ddewiswyd yng ngham 27, ar ôl dewis Save and Make Draft (this translation) dewiswch Save and Approve to go live (this translation).
  32. Gwnewch yn siwr bod y Gymraeg a'r Saesneg yn yr un stâd gyhoeddi a gwiriwch y ddwy iaith, er enghriafft i sicrhau bod y gosodiad yn gywir a bod y dolenni'n gweithio.

Golygu cyhoeddiad: asesiad effaith presennol

  1. Dewch o hyd i'r cyhoeddiad: asesiad effaith presennol naill ai drwy edrych ar y wefan i'r cyhoedd neu drwy ddewis Workbench yna All recent content. Rhaid i chi wneud hyn ar GOV.WALES gan fod yn rhaid i'r cynnwys Saesneg gael ei olygu'n gyntaf.
  2. Agorwch y cyhoeddiad: asesiad effaith.
  3. Dewiswch EDIT DRAFT neu NEW DRAFT.
  4. Golygwch y cyhoeddiad: asesiad effaith.
  5. Llenwch Revision log message (all languages) gan roi crynodeb byr o'r newidiadau.
  6. I arbed newidiadau heb eu gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Create New Draft (this translation). I arbed newidiadau a'u gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and publish (this translation).
  7. Gwnewch yr un newidiadau i'r fersiynau Cymraeg a Saesneg o'r cyhoeddiad: asesiad effaith.

Yr elfennau sydd ar gael

Rhestr o ba elfennau sydd ar gael a sut i'w defnyddio os oes hawl gwneud hynny.

Paragraphs: content

Mae'r paragraff cynnwys yn ddewisol ar gyfer cyhoeddiad: asesiad effaith. Gellir ei ddefnyddio i roi mwy o wybodaeth i sicrhau'r defnyddiwr eu bod wedi dod o hyd i'r wybodaeth y maent eu heisiau. Gall hefyd helpu bodloni angen y defnyddiwr heb agor y cynnwys, er enghraifft drwy grynodeb o brif argymhellion adroddiad.

Paragraphs: accordion

Peidiwch â defnyddio'r paragraff acordion ar gyhoeddiad: asesiad effaith.

Paragraphs: related links

Peidiwch â defnyddio'r paragraff dolenni perthnasol ar gyhoeddiad: asesiad effaith.

Paragraphs: contact details

Peidiwch â defnyddio'r paragraff manylion cyswllt ar gyhoeddiad: asesiad effaith.

Paragraphs: call out message

Peidiwch â defnyddio'r paragraff neges alw ar gyhoeddiad: asesiad effaith.

Paragraphs: iFrame

I’w ddefnyddio’n unig i fewnblannu fideo YouTube.