Neidio i'r prif gynnwy

Sut i greu a golygu'r cynnwys ar ffurf 'dogfen HTML' ar LLYW.CYMRU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pryd i'w ddefnyddio

Cyn bod modd creu neu olygu cynnwys, mae angen i chi ddarllen a deall y canlynol:

Dylech hefyd gael fersiwn o'r cynnwys yn barod i'w gyhoeddi.  Fel arfer bydd dogfen HTML wedi ei rhannu i adrannau gyda phenawdau.

Defnyddiwch ar gyfer: 

  • fersiwn html o gyhoeddiad

Sut i'w greu

Creu dogfen HTML newydd

  1. Mewngofnodwchi i GOV.WALES a LLYW.CYMRU.
  2. Dewiswch y wedd Workbench yn LLYW.CYMRU (rhaid i chi ddechrau ar y wefan Saesneg).
  3. Dewiswch Create content.
  4. Dewiswch HTML document.
  5. Llenwch y maes Title.
  6. Llenwch y maes Summary.
  7. Dewiswch Add Content Section.
  8. Llenwch y maes  Section title .
  9. Dewiswch Add Content a gludo cynnwys y dudalen i'r maes Content.
  10. Dilynwch gamau 6 i 8 ar gyfer mwy o adrannau cynnwys.
  11. Tagiwch i'r Topics perthnasol.
  12. Os yw cynnwys wedi dod gan sefydliad, neu os yw'n sôn am sefydliad, llenwch y maes EXTERNAL ORGANISATIONS.
  13. Ychwanegwch hyd at 5 dolen fewnol INTERNAL LINKS (NODE) i gynnwys sy'n uniongyrchol berthnasol i anghenion y defnyddiwr sy'n cael eu diwallu gan y ddogfen HTML.
  14. Ni ddylech fel arfer lenwi'r maes INTERNAL LINKS (TERMS). Mae'r ddogfen HTML naill ai'n berthnasol i bwnc felly wedi'i dagio iddo, neu'n cynnwys dolenni at dudalennau sy'n diwallu anghenion penodol defnyddwyr.
  15. Er mwyn creu dolen i wefan arall, dewiswch Add External Link.
  16. Dad-ddewiswch Generate automatic URL alias.
  17. Rhowch alias URL addas, yn seiliedig ar deitl  ddogfen, ac ychwanegwch '-html' i'r alias URL. Darllenwch enwi ffeiliau a dogfennau HTML i gael cyngor ar greu alias URL.
  18. Gwiriwch y dyddiadau First Published a LAST UPDATED.
  19. Dewiswch Save and Create New Draft.
  20. I ychwanegu’r Gymraeg, dewiswch TRANSLATE.
  21. Dewiswch Add o'r rhes gyda'r label Welsh.
  22. Diweddarwch pob maes gyda'r testun Cymraeg.
  23. I gadw newidiadau heb eu gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Create New Draft (this translation). I arbed newidiadau a'i gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Publish (this translation).
  24. Unwaith i chi gyhoeddi'r Gymraeg a'r Saesneg, gwnewch yn siŵr bod y ddwy iaith yn gywir o ran gosodiad y dudalen, a bod y dolenni i gyd yn gweithio.

Golygu dogfen HTML presennol

  1. Mewngofnodwchi i GOV.WALES a LLYW.CYMRU.
  2. Dewch o hyd i'r ddogfen HTML presennol naill ai drwy edrych ar y wefan i'r cyhoedd neu drwy ddewis Workbench yna All recent content. Rhaid i chi wneud hyn ar GOV.WALES gan fod yn rhaid i'r cynnwys Saesneg gael ei olygu'n gyntaf.
  3. Agorwch y ddogfen HTML.
  4. Dewiswch EDIT DRAFT neu NEW DRAFT.
  5. Golygwch y ddogfen HTML.
  6. Llenwch Revision log message (all languages) gan roi crynodeb byr o'r newidiadau.
  7. Newid y dyddiad LAST UPDATED. Mae camau 6 a 7 ar gyfer newidiadau cynnwys yn unig. Peidiwch â defnyddio ar gyfer typos a newidiadau fformat.
  8. I arbed newidiadau heb eu gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Create New Draft (this translation). I arbed newidiadau a'u gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Publish (this translation).
  9. Gwnewch yr un newidiadau i'r fersiynau Cymraeg a Saesneg o'r ddogfen HTML.

Yr elfennau sydd ar gael

Rhestr o ba elfennau sydd ar gael a sut i'w defnyddio os oes hawl gwneud hynny.

Paragraphs: content section

Defnyddiwch y paragraff adran cynnwys i dorri tudalennau hirach yn llai gyda phenawdau.

Paragraphs: content

Rhaid i chi ddefnyddio'r paragraff cynnwys ar gyfer y rhan fwyaf o gynnwys y dudalen.

Paragraphs: accordion

Peidiwch â defnyddio'r paragraff acordion ar ddogfen HTML. 

Paragraphs: related links

Peidiwch â defnyddio'r paragraff dolenni cysylltiedig ar ddogfen HTML.

Paragraphs: call out message

Peidiwch â defnyddio neges alw ar ddogfen HTML.

Paragraphs: contact details

Dilynwch y diffiniad manylion cyswllt i ychwanegu gwybodaeth gyswllt, er enghraifft, rhif ffôn.

Paragraphs: iFrame

I’w ddefnyddio’n unig i fewnblannu fideo YouTube.

Internal links (node)

Defnyddiwch i greu dolenni at tua 5 o dudalennau sydd â chysylltiad agos ag anghenion y defnyddiwr sy'n cael eu diwallu gan y canllaw hwn.

Internal links (terms)

Dylech osgoi defnyddio dolenni mewnol ('terms'). Mae'r dolenni hyn yn rhaid at bynciau, ac fel arfer mae'r briwsion bara eisoes wedi dod o hyd i'r pwnc perthnasol.

External links

Dilynwch y diffiniad dolenni bach ochr i greu dolenni at gynnwys sydd â chysylltiad uniongyrchol ag anghenion y defnyddiwr sy'n cael eu diwallu gan eich cynnwys.