Neidio i'r prif gynnwy

Sut i greu a golygu'r cynnwys ar ffurf 'hysbysiad: datganiad cabinet' ar LLYW.CYMRU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pryd i'w ddefnyddio

Cyn bod modd creu neu olygu cynnwys, mae angen i chi ddarllen a deall y canlynol:

Dylech hefyd gael fersiwn o'r cynnwys yn barod i'w gyhoeddi.

Defnyddiwch ar gyfer:

  • Datganiadau cabinet yn unig

Sut i'w greu

Creu hysbysiad: datganiad cabinet newydd

  1. Mewngofnodi i GOV.WALES and LLYW.CYMRU.
  2. Dewiswch y wedd Workbench yn LLYW.CYMRU (rhaid i chi ddechrau ar y wefan Saesneg).
  3. Dewiswch Create content.
  4. Dewiswch Announcement.
  5. Dewiswch Cabinet statement o'r maes Announcement Type.
  6. Llenwch y maes Title. Dylai pob teitl gychwyn gyda 'Datganiad ysgrifenedig:' neu 'Datganiad llafar:'.
  7. Llenwch y maes Summary.
  8. Os oes delwedd, dewiswch Choose File o'r maes Image.
  9. Peidiwch â defnyddio'r maes META IMAGES .
  10. Dewiswch Add Content a gludo cynnwys y dudalen i'r maes Content.
  11. Tagiwch i'r Topics perthnasol.
  12. Os yw cynnwys wedi dod gan sefydliad, neu os yw'n sôn am sefydliad, llenwch y maes EXTERNAL ORGANISATIONS.
  13. Ychwanegwch hyd at 5 dolen fewnol INTERNAL LINKS (NODE) i gynnwys sy'n uniongyrchol berthnasol i anghenion y defnyddiwr sy'n cael eu diwallu gan yr hysbysiad: datganiad cabinet.
  14. Ni ddylech fel arfer lenwi'r maes INTERNAL LINKS (TERMS). Mae'r hysbysiad: datganiad cabinet naill ai'n berthnasol i bwnc felly wedi'i dagio iddo, neu'n cynnwys dolenni at dudalennau sy'n diwallu anghenion penodol defnyddwyr.
  15. Er mwyn creu dolen i wefan arall, dewiswch Add External Link.
  16. I arbed ac addasu eto cyn cyhoeddi dewiswch Save and Create New Draft. I arbed a dewis pryd i gyhoeddi yn y dyfodol, rhowch ddddiad ac amser yn SCHEDULING OPTIONS (gallwch ehangu'r maes yma sydd fel arfer i'r dde o'r prif feysydd addasy). Yna dewiswch Save and Approve to go live.
  17. I ychwanegu’r Gymraeg, dewiswch TRANSLATE.
  18. Dewiswch Add o'r rhes gyda'r label Welsh.
  19. Diweddarwch pob maes gyda'r testun Cymraeg.
  20. I arbed newidiadau heb eu gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Create New Draft (this translation). I arbed newidiadau a'i gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Publish (this translation). I arbed a chyhoeddi ar y dyddiad a ddewiswyd yng ngham 16, ar ôl dewis Save and Make Draft (this translation) dewiswch Save and Approve to go live (this translation).
  21. Gwnewch yn siwr bod y Gymraeg a'r Saesneg yn yr un stâd gyhoeddi a gwiriwch y ddwy iaith, er enghriafft i sicrhau bod y gosodiad yn gywir a bod y dolenni'n gweithio.

Golygu hysbysiad: datganiad cabinet presennol

  1. Dewch o hyd i'r hysbysiad: datganiad cabinet presennol naill ai drwy edrych ar y wefan i'r cyhoedd neu drwy ddewis Workbench yna All recent content. Rhaid i chi wneud hyn ar GOV.WALES gan fod yn rhaid i'r cynnwys Saesneg gael ei olygu'n gyntaf.
  2. Agorwch yr hysbysiad: datganiad cabinet.
  3. Dewiswch EDIT DRAFT neu NEW DRAFT.
  4. Golygu hysbysiad: datganiad cabinet presennol.
  5. Llenwch Revision log message (all languages) gan roi crynodeb byr o'r newidiadau.
  6. I arbed newidiadau heb eu gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Create New Draft (this translation). I arbed newidiadau a'i gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Publish (this translation).
  7. Gwnewch yr un newidiadau i'r fersiynau Cymraeg a Saesneg o'r hysbysiad: datganiad cabinet.

Yr elfennau sydd ar gael

Rhestr o ba elfennau sydd ar gael a sut i'w defnyddio os oes hawl gwneud hynny.

Paragraphs: content

Rhaid i chi ddefnyddio'r paragraff cynnwys ar gyfer y rhan fwyaf o gynnwys y dudalen.

Paragraphs: accordion

Peidiwch â defnyddio'r paragraff acordion ar hysbysiad: datganiad cabinet.

Paragraphs: related links

Peidiwch â defnyddio'r paragraff dolenni perthnasol ar hysbysiad: datganiad cabinet.

Paragraphs: call out message

Peidiwch â defnyddio'r paragraff neges alw ar hysbysiad: datganiad cabinet.

Paragraphs: contact details

Dilynwch y diffiniad manylion cyswllt i ychwanegu gwybodaeth gyswllt, er enghraifft, rhif ffôn.

Paragraphs: inline document

Defnyddiwch ddogfen fewnol i lanlwytho ffeil sy'n berthnasol yng nghyd-destun yr hysbysiad: datganiad cabinet yn unig.

Peidiwch â'i ddefnyddio i gyhoeddi dogfen:

  • sydd eisoes wedi cyhoeddi ar LLYW.CYMRU, yn hytrach rhowch ddolen i'r ddogfen
  • ddylai gael ei gyhoeddi fel tudalen ar wahân ar LLYW.CYMRU, hysbysiad er enghraifft

Paragraphs: iFrame

I’w ddefnyddio’n unig i fewnblannu fideo YouTube.

Internal links (node)

Defnyddiwch i greu dolenni at tua 5 o dudalennau sydd â chysylltiad agos ag anghenion y defnyddiwr sy'n cael eu diwallu gan yr hysbysiad: datganiad cabinet.

Internal links (terms)

Dylech osgoi defnyddio dolenni mewnol ('terms'). Mae'r dolenni hyn yn rhaid at bynciau, ac fel arfer mae'r briwsion bara eisoes wedi dod o hyd i'r pwnc perthnasol.

External links

Dilynwch y diffiniad dolenni bach ochr i greu dolenni at gynnwys sydd â chysylltiad uniongyrchol ag anghenion y defnyddiwr sy'n cael eu diwallu gan eich cynnwys.