Crynodeb perfformiad a gweithgaredd y GIG: Hydref a Tachwedd 2025
Adroddiad yn crynhoi data am weithgarwch a pherfformiad yn y GIG yng Nghymru ar gyfer Hydref a Tachwedd 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Crynodeb misol o berfformiad a gweithgarwch GIG Cymru. Mae tueddiadau tymor hir yn cael sylw yn ein hadroddiadau blynyddol, Tueddiadau yng ngweithgarwch gofal brys a gofal mewn argyfwng y GIG a Tueddiadau yng ngweithgarwch gofal a gynlluniwyd y GIG.
Mae data yn cael ei ddarparu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) ac Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST). Ceir rhagor o fanylion ar y data ym mhob maes pwnc ar StatsCymru.
Prif bwyntiau
Gwasanaethau brys (Tachwedd)
Ym mis Tachwedd, cafodd y gwasanaeth ambiwlans 828 o alwadau porffor, sef tua 2.4% o'r holl alwadau, a 4,732 o alwadau coch, sef tua 13.4% o'r holl alwadau.
Yng nghyswllt cleifion ag ataliad y galon y rhoddwyd cynnig ar eu dadebru, roedd cylchrediad digymell wedi dychwelyd (ROSC) i 19.5% ohonynt erbyn iddynt gyrraedd yr ysbyty, gostyngiad o’i gymharu â’r mis blaenorol.
Yr amseroedd ymateb canolrifol ar gyfer galwadau porffor a choch oedd 7 munud 5 eiliad, ac 8 munud 27 eiliad yn y drefn honno, sydd ill dau’n fyrrach na'r mis blaenorol.
Ym mis Tachwedd, roedd ychydig o dan 89,700 o ymweliadau â’r holl adrannau brys, sef 2,988 o ymweliadau ar gyfartaledd bob dydd; roedd hyn 131 yn llai bob dydd ar gyfartaledd nag yn y mis blaenorol.
Roedd y perfformiad wedi gwaethygu yn erbyn y targed o bedair awr, ond roedd y perfformiad wedi gwella ychydig yn erbyn y targed o ddeuddeg awr o’i gymharu â’r mis blaenorol.
Roedd yr amser cyfartalog a gafodd ei dreulio mewn adrannau achosion brys yn hirach na’r mis blaenorol – cyfanswm o 2 awr a 53 munud.
Rhestrau aros am driniaeth (Hydref)
Oherwydd pryderon am ansawdd y data, mae data ar restrau aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth (RTT) ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi'u hatal dros dro. Roedd hyn yn dilyn pryderon am anghysondeb ym maint y rhestrau aros a adroddwyd ac anghysondeb â lefelau gweithgarwch gweithredol. Mae adolygiad o brosesau casglu a dilysu data wedi dod i’r casgliad nad oedd carfan o gleifion – yr oedd eu llwybrau wedi cael eu dyrannu i ddarparwyr annibynnol – wedi cael eu cynnwys mewn ffurflenni data. Nodwyd mân broblemau eraill gyda’r data hefyd. Mae BIPBC yn mynd ati i gywiro'r materion hyn ar frys ac rydym yn disgwyl ailddechrau adrodd ar BIPBC a Chymru gyfan ym mis Ionawr 2026. Mae'n bosibl y bydd rhai diwygiadau dilynol yn cael eu gwneud i ddata hanesyddol BIPBC, ond mae ymchwiliadau'n awgrymu ei bod yn debygol mai mân newidiadau fydd y rhain, ac mai bach iawn fydd eu heffaith ar dueddiadau hirdymor yr adroddwyd arnynt yn flaenorol.
Yn y cyfamser, mae ystadegau RTT wedi'u cyhoeddi heb gynnwys data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Darperir cyngor ac arweiniad yn y cyhoeddiad ystadegol ar y dehongliad priodol o'r ystadegau hyn, o ystyried nad yw'r data'n cwmpasu Cymru gyfan.
Mae'r prif ystadegydd wedi cyhoeddi blog sy'n disgrifio'r sefyllfa bresennol o ran y data ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a'r camau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r materion.
Diagnosteg a therapïau (Hydref)
Roedd nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros am wasanaethau diagnostig wedi cynyddu i ychydig dros 133,600 ym mis Hydref, sef y ffigur uchaf ar gofnod. Roedd y nifer a oedd yn aros mwy nag wyth wythnos (y targed ar gyfer yr amser aros hiraf) wedi gostwng i ychydig dros 44,400.
Roedd nifer y llwybrau a oedd yn aros am therapïau wedi cynyddu i ychydig o dan 57,900 a’r nifer a oedd yn aros mwy na phedair wythnos ar ddeg (y targed ar gyfer yr amser aros hiraf) wedi cynyddu i ychydig o dan 4,600.
Gwasanaethau canser (Hydref)
Dechreuodd 2,137 o bobl eu triniaeth ddiffiniol gyntaf ym mis Hydref, 41 yn llai na’r mis blaenorol. Bu gostyngiad yn nifer y cleifion a gafodd wybod nad oedd canser arnynt i 14,533. Roedd y perfformiad wedi gwella o’i gymharu â’r targed 62 diwrnod ym mis Hydref, gan godi i 59.4%.
Galwadau ambiwlans
Hyd at fis Gorffennaf 2025 roedd galwadau 999 i’r gwasanaeth ambiwlans yn cael eu categoreiddio fel rhai coch (lle mae bywyd yn y fantol), rhai ambr (difrifol ond nid yw bywyd yn y fantol) neu rai gwyrdd (achosion nad ydynt yn rhai brys).
Ar 1 Gorffennaf cafodd model ymateb newydd ei roi ar waith, gan gyflwyno dau gategori ymateb newydd yn lle'r categori coch blaenorol. Y categorïau newydd yw porffor: Ataliad, ar gyfer ataliad y galon ac ataliad anadlol, a choch: Argyfwng, ar gyfer trawma mawr a digwyddiadau eraill lle mae cleifion mewn risg sylweddol o ataliad y galon neu ataliad anadlol os na fyddant yn cael ymateb cyflym.
Mae galwadau nad ydyn nhw’n borffor nac yn goch yn dal i gael eu rheoli fel rhai ambr neu wyrdd ar hyn o bryd, ond mae gwaith yn cael ei wneud i greu categorïau newydd sy'n adlewyrchu'r gwahanol fathau o alwadau llai brys. Bydd y rhain yn cael eu hychwanegu at y fframwaith perfformiad yn nes ymlaen.
Bydd data hyd at fis Mehefin 2025 yn seiliedig ar y model ymateb blaenorol yn dal ar gael ar StatsCymru, fodd bynnag, ni fydd modd eu cymharu â'r mesurau newydd. Bydd ystod ehangach o ddangosyddion ansawdd yn cael eu cyhoeddi gan Gyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru. Mae’r diweddariad hwn gan y Prif Ystadegydd yn rhoi rhagor o wybodaeth am gefndir y mesurau perfformiad ambiwlansys newydd.
Gweithgarwch
Ffigur 1: nifer y galwadau ambiwlans brys porffor a choch, fesul mis [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 1: siart linell yn dangos bod nifer y galwadau porffor a choch wedi bod yn gymharol sefydlog ers mis Gorffennaf 2025.
Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
[Nodyn 1]: Mae diffiniadau manwl o’r mesurau ar gael yn yr adroddiad ansawdd.
Mesurau gweithgaredd a pherfformiad ambiwlansys, ar StatsCymru
Ym mis Tachwedd, derbyniodd gwasanaeth ambiwlans Cymru 828 o alwadau porffor (tua 2.4% o'r holl alwadau), sy’n ostyngiad o'i gymharu â mis Hydref. Derbyniwyd 4,732 o alwadau coch (tua 13.4% o'r holl alwadau), sy'n gynnydd o'i gymharu â mis Hydref.
Perfformiad
Targedau
- Ar gyfer galwadau porffor a choch, targedau’r amser ymateb canolrifol a'r 90ain canradd yw 6-8 munud ac o dan 20 munud yn y drefn honno.
Ffigur 2: cyfradd cylchrediad digymell wedi dychwelyd (ROSC), fesul mis [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 2: siart linell yn dangos gostyngiad yn y cyfraddau cylchrediad digymell wedi dychwelyd yn ystod y misoedd diwethaf.
Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
[Nodyn 1]: Mae diffiniadau manwl o’r mesurau ar gael yn yr adroddiad ansawdd.
Mesurau gweithgaredd a pherfformiad ambiwlansys, ar StatsCymru
Yng nghyswllt cleifion ag ataliad y galon y rhoddwyd cynnig ar eu dadebru, roedd cylchrediad digymell wedi dychwelyd (ROSC) i 19.5% ohonynt erbyn iddynt gyrraedd yr ysbyty, gostyngiad o’i gymharu â’r mis blaenorol.
Ffigur 3: amseroedd ymateb canolrifol a’r 90ain canradd ar gyfer galwadau ambiwlans brys porffor a choch (munudau ac eiliadau), fesul mis [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 3: siart linell sy'n dangos bod yr amseroedd ymateb canolrifol a’r 90ain canradd yn fyrrach ar gyfer galwadau porffor na galwadau coch, ac mae pob un yn gymharol sefydlog yn ddiweddar.
Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
[Nodyn 1]: Mae diffiniadau manwl o’r mesurau ar gael yn yr adroddiad ansawdd.
Mesurau gweithgaredd a pherfformiad ambiwlansys, ar StatsCymru
Yr amser ymateb canolrifol ar gyfer galwadau porffor oedd 7 munud 5 eiliad, sy’n fyrrach na mis Hydref. Y 90ain ganradd (y pwynt lle’r oedd 90% o'r ymatebion yn gyflymach a 10% yn arafach) oedd 17 munud 16 eiliad.
Ar gyfer galwadau coch, gostyngodd y canolrif i 8 munud 27 eiliad a gostyngodd y 90ain ganradd hefyd, i 20 munud 43 eiliad.
Ar gyfer galwadau porffor a choch, targedau’r amser ymateb canolrifol a'r 90ain canradd yw 6-8 munud ac 20 munud yn y drefn honno.
Ffigur 4: amserol canolrifol i’r diffibriliwr gyrraedd, i ddechrau cyfarwyddyd CPR, ac i adnabod ataliad y galon (mm:ee), fesul mis [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 4: siart linell yn dangos bod yr amseroedd canolrifol i adnabod ataliad y galon ac i ddechrau cyfarwyddyd CPR wedi gostwng ychydig yn ddiweddar, tra bo’r amser canolrifol i'r diffibriliwr gyrraedd wedi cynyddu.
Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
[Nodyn 1]: Mae diffiniadau manwl o’r mesurau ar gael yn yr adroddiad ansawdd.
Mesurau gweithgaredd a pherfformiad ambiwlansys, ar StatsCymru
Yr amser canolrifol i’r diffibriliwr gyrraedd oedd 5 munud a 57 eiliad, yr amser canolrifol i ddechrau cyfarwyddyd CPR oedd 4 munud a 5 eiliad, a'r amser canolrifol i adnabod ataliad ar y galon oedd 2 funud ac 8 eiliad.
Adrannau achosion brys
Gweithgarwch
Ffigur 5: cyfartaledd yr ymweliadau ag adrannau achosion brys, a derbyniadau i ysbytai o ganlyniad i ymweld ag adrannau achosion brys mawr y dydd, fesul mis [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 5: siart linell yn dangos tuedd gynyddol yn gyffredinol o ran ymweliadau ag adrannau achosion brys.
Ffynhonnell: Set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Adrannau achosion brys: ymweliadau yn ôl oedran a rhyw, mis Ebrill 2016 ymlaen, ar StatsCymru
[Nodyn 1]: Mae’r siart yn dangos nifer yr ymweliadau ag adrannau achosion brys mawr ac unedau mân anafiadau, a nifer y derbyniadau i’r ysbyty ar ôl mynd i adrannau achosion brys mawr yn unig.
Ym mis Tachwedd, cafwyd ychydig o dan 89,700 o ymweliadau â’r holl adrannau achosion brys, sef 2,988 o ymweliadau ar gyfartaledd bob dydd; roedd hyn 131 yn llai bob dydd ar gyfartaledd nag yn y mis blaenorol.
Derbyniwyd ychydig dros 14,400 o gleifion i’r ysbyty ar ôl bod mewn adrannau achosion brys mawr. Roedd hyn 5.6% yn llai na’r mis blaenorol.
Perfformiad
Targedau
- Dylai 95% o gleifion newydd dreulio llai na 4 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
- Ni ddylai’r un claf orfod aros mwy na 12 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
Ffigur 6: canran y cleifion sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr mewn adrannau achosion brys, fesul mis
Disgrifiad o ffigur 6: siart linell yn dangos bod canran y cleifion a gafodd eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr mewn adrannau achosion brys wedi bod yn gymharol sefydlog dros y blynyddoedd diwethaf, rhwng 60 a 70%.
Ffynhonnell: Set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Ym mis Tachwedd, roedd 65.1% o gleifion wedi treulio llai na 4 awr mewn adrannau achosion brys, o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Roedd hyn yn is na’r mis blaenorol, ac mae’n dal yn gymharol isel o’i gymharu ag ystadegau hanesyddol.
Yr amser aros canolrifol oedd 2 awr a 53 munud, sef 5 munud yn hirach na’r mis blaenorol. Mae’r amseroedd aros yn amrywio yn ôl oedran, yr amser o’r dydd a diwrnod yr wythnos. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adroddiad Tueddiadau yng ngweithgarwch gofal brys a gofal mewn argyfwng y GIG.
Ffigur 7: cleifion sy'n aros mwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o adrannau achosion brys y GIG, fesul mis
Disgrifiad o ffigur 7: siart linell yn dangos bod nifer y cleifion sy’n aros mwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau mewn adrannau achosion brys wedi bod yn gymharol sefydlog yn ddiweddar, sef tua 10,000 o gleifion.
Ffynhonnell: Set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Ym mis Tachwedd, roedd 10,111 o gleifion wedi aros 12 awr neu fwy. Roedd hyn 381 (3.6%) yn llai na’r mis blaenorol.
Apwyntiadau cleifion allanol
Gweithgarwch
Ffigur 8: atgyfeiriadau dyddiol cyfartalog ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol, fesul mis
Disgrifiad o ffigur 8: siart linell yn dangos atgyfeiriadau cleifion allanol, sydd wedi bod yn amrywio gyda’r duedd am i fyny.
Ffynhonnell: Set Ddata Atgyfeirio Cleifion Allanol, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Atgyfeiriadau cleifion allanol, mis Ebrill 2012 ymlaen, ar StatsCymru
Ar gyfartaledd, roedd 4,914 o atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol wedi’u gwneud bob dydd ym mis Hydref. Mae hyn yn gynnydd o 0.1% (3 yn fwy o atgyfeiriadau bob dydd ar gyfartaledd) o’i gymharu â mis Medi.
Diagnosteg a therapïau
Gweithgarwch
Ffigur 10: llwybrau cleifion sy’n aros am wasanaethau diagnostig a therapi, fesul mis [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 10: siart linell yn dangos tuedd am i fyny o ran nifer y llwybrau cleifion sy’n aros am wasanaethau diagnostig a therapi.
Ffynhonnell: Amseroedd aros gwasanaethau diagnostig a therapi, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
[Nodyn 1]: O fis Ebrill 2024 ymlaen, nid oedd llwybrau awdioleg a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach.
Ym mis Hydref, roedd ychydig dros 133,600 o lwybrau cleifion yn aros am brofion diagnostig, sef cynnydd o 3.4% o’i gymharu â’r mis blaenorol, a'r ffigur uchaf ar gofnod.
Ym mis Hydref, roedd ychydig dan 57,900 o lwybrau cleifion yn aros am therapïau, sef gostyngiad o 0.3% o’i gymharu â’r mis blaenorol.
Perfformiad
Targedau
- Yr amser aros hiraf i gael profion diagnostig penodol yw 8 wythnos.
- Yr amser aros hiraf i gael gwasanaethau therapi penodol yw 14 wythnos.
- Fe wnaeth y cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio roi Gwanwyn 2024 yn ddyddiad targed ar gyfer cyflawni'r targedau hyn.
Ffigur 11: llwybrau cleifion sy’n aros yn hirach na’r amser targed am wasanaethau diagnostig a therapi, fesul mis [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 11: siart linell yn dangos tuedd amrywiol mewn llwybrau diagnostig sy'n aros mwy nag 8 wythnos, gyda llwybrau therapïau sy'n aros mwy na 14 wythnos yn dangos tuedd am i lawr yn ddiweddar.
Ffynhonnell: Amseroedd aros gwasanaethau diagnostig a therapi, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
[Nodyn 1]: O fis Ebrill 2024 ymlaen, nid oedd llwybrau awdioleg a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach, sy’n golygu nad oes modd eu cymharu â data hyd at fis Mawrth 2024.
Ym mis Hydref, roedd ychydig dros 44,400 o lwybrau'n aros yn hirach na'r amser targed am wasanaethau diagnostig, gostyngiad o 7.1% o'i gymharu â mis Medi.
Roedd ychydig o dan 4,600 o lwybrau therapïau yn aros yn hirach na'r amser targed, gostyngiad o 1.5%.
Roedd yr amser aros canolrifol ar gyfer profion diagnostig yn 4.7 wythnos, 0.3 wythnos yn fyrrach nag ym mis Medi, ac ar gyfer gwasanaethau therapi roedd yn 4.2 wythnos, yr un fath ag ym mis Medi.
Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth
Nid oes ffigurau ar gyfer Cymru gyfan ar gael ar hyn o bryd oherwydd problemau gyda data Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Bydd y data'n cael ei gyhoeddi pan fydd y problemau wedi’u datrys. Yn y cyfamser, mae ystadegau RTT wedi cael eu cyhoeddi ac eithrio'r data ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae cyngor ac arweiniad yn y cyhoeddiad ystadegol ar ddehongli'r ystadegau hyn yn briodol, o ystyried nad yw'r data'n cwmpasu Cymru gyfan.
Oedi wrth ryddhau cleifion o ysbyty
Mae oedi wrth ryddhau cleifion o ysbyty yn digwydd pan fydd claf sy’n barod i’w ryddhau’n glinigol yn methu gadael yr ysbyty oherwydd nad yw’r gofal a’r cymorth parhaus angenrheidiol na’r llety addas ar ei gyfer ar gael yn rhwydd. Mae'r ffigurau'n cynrychioli nifer yr oedolion a oedd yn barod i ddychwelyd adref neu symud ymlaen i gam nesaf eu gofal, a gafodd dros 48 awr o oedi cyn trosglwyddo. Mae'r data yn gipolwg ar oedi ar ddiwrnod penodol bob mis, sy'n golygu nad yw’n rhoi cyfanswm yr oedi dros y mis. Mae ffigurau ar gael ar gyfer nifer yr achosion unigol o oedi a chyfanswm cyfatebol nifer y diwrnodau o oedi a brofwyd gan y cleifion hynny.
Ffigur 16: nifer yr achosion o oedi mewn llwybrau gofal a chyfanswm y diwrnodau o oedi, fesul mis
Disgrifiad o ffigur 16: siartiau llinell sy'n dangos nifer yr achosion o oedi a chyfanswm y diwrnodau o oedi.
Ffynhonnell: Oedi yn achos llwybrau gofal, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Ym mis Tachwedd, roedd ychydig o dan 1,500 o ddigwyddiadau oedi yn achos llwybrau gofal ar y diwrnod y casglwyd y data, gostyngiad o’i gymharu â’r ffigur ym mis Hydref. Roedd cyfanswm y diwrnodau cronnol o oedi ar gyfer y cleifion hynny ychydig dan 63,600, sy'n ostyngiad o'i gymharu â'r ffigur ym mis Hydref.
Gwasanaethau canser
Gweithgarwch
Ffigur 17: llwybrau amheuaeth o ganser a gaewyd yn y mis, fesul mis a chanlyniad
Disgrifiad o ffigur 17: siart linell yn dangos nifer y llwybrau cleifion a gafodd wybod nad oes canser arnynt, sy’n amrywio, a’r nifer sy’n dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf, sy’n gymharol sefydlog.
Ffynhonnell: Llwybr Amheuaeth o Ganser, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Ym mis Hydref, fe wnaeth 2,137 o lwybrau ddechrau triniaeth canser, 41 yn llai nag ym mis Medi. Cafodd 14,533 o lwybrau eu cau, ar ôl i gleifion gael gwybod nad oedd ganddynt ganser, gostyngiad o 3.9%. Roedd 17,651 o lwybrau newydd ag amheuaeth o ganser, cynnydd o 372 (2.2%) ers mis Medi. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y llwybrau newydd a agorwyd wedi bod yn gymharol sefydlog.
Perfformiad
Targed
- Dylai o leiaf 75% o gleifion ddechrau cael triniaeth o fewn 62 diwrnod (heb ohiriadau) ar ôl i'r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf.
Ffigur 18: canran y llwybrau lle dechreuodd y claf ei driniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed, fesul mis
Disgrifiad o ffigur 18: siart linell yn dangos bod canran y cleifion sy'n dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod i’r amheuaeth o ganser wedi bod rhwng 50% a 65% yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda thuedd bach am i fyny.
Ffynhonnell: Llwybr Amheuaeth o Ganser, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Ym mis Hydref, roedd 59.4% o’r llwybrau wedi dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod ar ôl i’r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf. Roedd hyn 0.6 pwynt canran yn uwch na’r mis blaenorol.
Sylw i Fyrddau Iechyd Lleol
Mae perfformiad byrddau iechyd lleol yn cael ei drafod yn y datganiad chwarterol ar berfformiad y GIG ar gyfer byrddau iechyd lleol yng Nghymru. Ar gyfer y misoedd pan nad yw’r datganiad hwn yn cael ei gynhyrchu, bydd dadansoddiadau cryno yn cael eu darparu yn yr adran hon.
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Mae’r holl wybodaeth am ansawdd a methodoleg mewn perthynas â’r datganiad ystadegol hwn ar gael yn adroddiad ansawdd y crynodeb o berfformiad a gweithgarwch y GIG.
Statws ystadegau swyddogol
Dylai'r holl ystadegau swyddogol ddangos safonau’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig).
Ystadegau swyddogol achrededig yw’r rhain. Cawsant eu hadolygu'n annibynnol gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR) ym mis Gorffennaf 2012. Maent yn cydymffurfio â’r safonau dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.
Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â’r safonau a ddisgwylir fel rhan o achrediad. Os byddwn yn dechrau pryderu ynghylch p’un a yw’r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â’r Swyddfa yn brydlon. Gellir dileu neu atal achrediad ar unrhyw adeg pan nad yw’r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo’r safonau’n cael eu hadfer.
Cyfeirir at Ystadegau swyddogol achrededig (OSR) fel Ystadegau Gwladol yn Neddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007.
Datganiad cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau
Mae ein harferion ystadegol yn cael eu rheoleiddio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau. Mae’r Swyddfa’n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai holl gynhyrchwyr ystadegau swyddogol lynu wrthynt.
Cynhyrchir a chyhoeddir ein holl ystadegau yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau er mwyn gwella eu dibynadwyedd, eu hansawdd a’u gwerth. Nodir y rhain yn Natganiad Cydymffurfio Llywodraeth Cymru.
Mae’r ystadegau swyddogol achrededig hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.
Dibynadwyedd
Daw’r ystadegau hyn o amryw o ffynonellau sy’n deillio o systemau data gweinyddol a ddefnyddir ar draws y GIG yng Nghymru. Darperir data ar y gwasanaeth 111, galwadau ambiwlans 999 ac amseroedd ymateb ambiwlansys gan Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST), a chesglir yr holl ffynonellau data eraill gan Fyrddau Iechyd Lleol Cymru a’u darparu i Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) er mwyn eu galluogi i gael eu casglu ar lefel genedlaethol.
Bwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru (WISB), sef ceidwad y Broses Sicrwydd Safonau Gwybodaeth, sy’n goruchwylio’r casgliadau data. Mae’r Bwrdd yn mandadu casgliadau data drwy’r GIG a Byrddau Iechyd Lleol, yn arfarnu safonau gwybodaeth ac yn rhoi sicrwydd ar faterion sy’n ymwneud â chyfrinachedd a chydsyniad.
Caiff y ffigurau a gyhoeddir eu crynhoi gan ddadansoddwyr proffesiynol, gan ddefnyddio’r data a’r dulliau cymhwyso diweddaraf sydd ar gael, yn ogystal â’u barn broffesiynol a’u sgiliau dadansoddi.
Cyhoeddir yr ystadegau hyn ymlaen llaw yn yr adran Ystadegau ac Ymchwil ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae mynediad at y data wrth brosesu wedi'i gyfyngu i’r rhai sy’n ymwneud â chynhyrchu’r ystadegau, sicrhau ansawdd ac at ddibenion gweithredol. Mae mynediad cyn rhyddhau’r ystadegau yn cael ei gyfyngu i dderbynyddion cymwys yn unol â’r Cod Ymarfer (Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig).
Ansawdd
Mae ystadegau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yn glynu wrth y Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy’n ategu piler Ansawdd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac egwyddorion ansawdd allbynnau ystadegol y System Ystadegol Ewropeaidd.
Sefydlir safonau a diffiniadau data gan Fwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru (WISB). Rhoddir arweiniad i’r sefydliadau sy’n darparu data, a darperir hyfforddiant i staff sy’n gyfrifol am gasglu’r data yn y tarddiad. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn casglu ac yn dilysu data ac mae’n gwneud ymholiadau’n uniongyrchol i’r byrddau iechyd ynghylch data afreolaidd a data sydd ar goll. Cyn i Iechyd a Gofal Digidol Cymru ddarparu setiau data wedi’u dilysu i Lywodraeth Cymru, mae’r byrddau iechyd yn cymeradwyo’r holl ddata. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn darparu setiau data wedi’u dilysu i Lywodraeth Cymru, lle mae dadansoddwyr yn prosesu’r data i gynhyrchu’r ystadegau cyfanredol yn y fformat sydd ei angen i’w cyhoeddi. Cyn eu cyhoeddi, mae Llywodraeth Cymru yn cynnal gwiriadau dilysu terfynol a gallai gyflwyno ymholiadau yn eu cylch i Iechyd a Gofal Digidol Cymru a’r byrddau iechyd. Mae uwch ystadegwyr yn llofnodi’r datganiad ystadegol cyn ei gyhoeddi.
Gwerth
Pwrpas y datganiad ystadegol hwn a’r data cysylltiedig a gyhoeddir ar StatsCymru yw: darparu tystiolaeth ar gyfer datblygu polisi; rhoi gwybod i’r cyfryngau a’r cyhoedd yn ehangach am weithgarwch a pherfformiad GIG Cymru; galluogi darparwyr gwasanaethau fel Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i fonitro eu perfformiad eu hunain.
Mae ystadegau dibynadwy ar faint y gweithgarwch a wneir yn y GIG, hyd rhestrau aros, amseroedd ymateb ambiwlansys ac amseroedd aros am driniaethau canser yn hanfodol i roi gwybod i ddefnyddwyr am gyflwr gwasanaethau’r GIG a pherfformiad Llywodraeth Cymru a’r Byrddau Iechyd Lleol. Mae’r gwasanaethau hyn yn cael effaith sylweddol ar fywydau dinasyddion, a rhoddir cryn sylw i’r pynciau hyn yn y cyfryngau ac mewn trafodaethau gwleidyddol.
Mae’r wybodaeth a gyhoeddir yma hefyd yn cefnogi cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol: Cymru Iachach.
Mae amseroldeb y data yn golygu bod yr wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei darparu gan ddefnyddio data dibynadwy.
Mae croeso i chi gysylltu â ni’n uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau am y ffordd rydym yn bodloni’r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu â’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau drwy anfon e-bost at regulation@statistics.gov.uk neu drwy wefan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru, sef: Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru wneud y canlynol: (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag sy’n rhesymol yn ymarferol, wneud y canlynol: (a) cyhoeddi'r dangosyddion fel y’u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae’r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli’r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig, ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau sydd wedi eu cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif i gefnogi’r dangosyddion cenedlaethol a gallent gael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn cysylltiad â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.
Diweddariad nesaf
22 Ionawr 2026
Hoffem gael adborth gennych
Rydym yn croesawu unrhyw adborth am unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Gellir anfon yr adborth drwy e-bost i’r cyfeiriad hwn ystadegau.iechyd@llyw.cymru.
