Cydgynhyrchu yn Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth: ymchwil gwersi a ddysgwyd o brototeip cydweithredol Llywodraeth Cymru a'r Tasglu Hawliau Pobl Anabl - Atodiadau
Nod yr ymchwil hon oedd asesu pa mor ymarferol oedd hi i gydgynhyrchu Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth. Mae'r canfyddiadau yn seiliedig ar ddau brosiect cydweithredol sy'n archwilio argymhellion a gynigir gan y tasglu.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Atodiad A: canllaw pwnc
Prosiect Ymchwil Gwersi a Ddysgwyd am Gydgynhyrchu: canllaw pwnc ar gyfer cyfweliadau
Gwahoddwyd aelodau a chyn-aelodau’r tîm cydgynhyrchu i rannu eu barn trwy feddwl am y canllaw pwnc a'r daflen gymorth ar gyfer pob cam o'r prosiect yr oeddent yn rhan ohono. Hoffem gasglu eich profiadau a'ch barn chi eich hun ar y prosiect i ddeall pa wersi y gallwn eu dysgu y gellid eu cymhwyso i Brosiectau Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth yn y dyfodol ac yn ehangach na hynny.
Yn eich atebion, ceisiwch roi enghreifftiau penodol a pherthnasol o gamau'r prosiect roeddech chi'n rhan ohono. Darparwyd taflen gymorth i gyd-fynd â’r canllaw pwnc i’ch atgoffa o'r hyn a ddigwyddodd ar bob cam o'r prosiect. Os ydych eisiau i mi eich atgoffa am unrhyw gam yn ystod y cyfweliad, rhowch wybod i mi.
Anfonwyd taflen wybodaeth atoch trwy e-bost cyn y cyfweliad hwn. Roedd y ddogfen hon yn rhoi gwybodaeth am yr ymchwil ac yn egluro mai eich dewis chi yw cymryd rhan neu beidio. Er y bydd yr wybodaeth sy’n cael ei chasglu fel rhan o'r cyfweliad hwn yn ddienw, mae’r rolau clir a’r gwahanol berthnasoedd gwaith o fewn y prosiect cydgynhyrchu’n golygu na allwn warantu anhysbysrwydd llwyr. Byddwch felly’n cael cyfle i edrych dros y trawsgrifiad yn dilyn y cyfweliad hwn. Oes gennych unrhyw gwestiynau cyn i ni ddechrau?
Cyn i ni ddechrau, ydych chi'n hapus i mi ddechrau trawsgrifio?
Ar gyfer y cyfwelydd: Gofynnwch yr holl gwestiynau craidd sydd mewn print trwm. Dylai cyfwelwyr geisio cadw at amser ac ystyried faint o amser sy'n cael ei dreulio ar y cwestiynau cyntaf er mwyn sicrhau bod digon o amser i gael ymatebion i’r holl gwestiynau yn y canllaw pwnc. Cyfeiriwch at y crynodebau o’r gwahanol gamau os bydd yr ymatebwyr angen eu hatgoffa o unrhyw beth.
Cwestiwn 1
A gawn ni ddechrau gyda throsolwg byr o'ch rôl o fewn y prosiect cydgynhyrchu?
Cwestiwn 2
Pa gam(au) o'r prosiect oeddech chi'n rhan ohono/ohonynt? [Cyfwelydd i nodi’r camau i gynorthwyo llwybr y cwestiynau]
Cwestiwn 3
Beth oedd prif gyflawniadau'r prosiect yn ei gyfanrwydd (ac a allwch chi ddweud pam)?
Nawr byddaf yn gofyn i chi feddwl am y gwerth ychwanegol a gafwyd o gydweithio ar gamau penodol o'r cydgynhyrchu.
Cwestiwn 4
Beth oedd y gwerth ychwanegol o gydweithio fel tîm: What was the added value from working together as a team (Llwybr yn dibynnu ar gyfranogiad y cyfranogwr):
- pan oedd yr ymchwil yn cael ei gyd-ddylunio ar gamau cynharaf y prosiect? (Gallwch gyfeirio at gamau 1-3 yn y daflen gymorth i helpu os oes angen)
- yn ystod ymchwil y Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd, yn cynnwys cynllunio, cyflwyno, dadansoddi ac adrodd?
- yn ystod ymchwil y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Byw'n Annibynnol, yn cynnwys cynllunio, cyflwyno, dadansoddi ac adrodd?
- gan feddwl am y prosiect yn ei gyfanrwydd?
Cwestiynau i ysgogi ymatebion
- A wnaeth wella ansawdd yr ymchwil? Sut?
- Beth oedd gwahanol gyfraniadau unigolion (e.e., sgiliau, gwybodaeth, amser, arian, rhwydweithiau, ac ati)?
- A gafodd profiadau bywyd a gwahanol safbwyntiau eu rhannu a’u hystyried?
- Sut wnaeth unigolion elwa o'u cyfranogiad? A oedd y buddion hyn yn ddigon gwerthfawr i’w gwneud yn werth cymryd rhan?
Cwestiwn 5
Ar gamau cynnar y prosiect, cyd-ddyluniwyd gweledigaeth y prosiect gan aelodau'r prosiect. Bwriad y weledigaeth hon oedd pennu’r ffyrdd o weithio er mwyn i gydgynhyrchu fodloni nodau'r ymchwil.
Cytunwyd y dylai aelodau "weithio mewn partneriaeth gyfartal, dysgu sut i gynhyrchu ymchwil gyda'i gilydd, cynnwys cadeiryddion gweithgorau tasglu heb eu gorlethu, cyhoeddi adroddiadau o safon dda fel ymchwil wedi'i chyd-gynhyrchu a'i chyd-ysgrifennu”.
- A yw hyn yn adlewyrchu'r hyn y mae cydgynhyrchu yn ei olygu i chi? Os na, pam ddim/beth mae cydgynhyrchu’n ei olygu i chi?
- I ba raddau ydych chi'n teimlo bod y prosiect yn adlewyrchu'r weledigaeth y cytunwyd arni ar gyfer cydgynhyrchu?
Cwestiwn 6
O ystyried y prosiect cydgynhyrchu yn ei gyfanrwydd, i ba raddau ydych chi'n teimlo eich bod chi ac unigolion eraill wedi gallu cydgynhyrchu? (yn seiliedig ar y weledigaeth gytunedig uchod ar gyfer y prosiect cydgynhyrchu)
Ceisiwch roi enghreifftiau o unrhyw ran o'r prosiect yr ydych chi'n meddwl y byddent yn berthnasol neu'n bwysig.
Cwestiynau i ysgogi ymatebion (cydgynhyrchu cyffredinol)
- Pa mor ddylanwadol ac wedi’ch grymuso oeddech chi ac eraill?
- A oedd unrhyw beth yn cyfyngu ar eich cyfranogiad llawn mewn cydgynhyrchu (e.e., rheolau statudol, ffyrdd GSR o weithio)?
- Ydych chi'n meddwl bod hyn wedi amrywio trwy wahanol gamau’r prosiect ac os felly, sut?
Cwestiynau i ysgogi ymatebion (model cymdeithasol)
- Pa mor hygyrch oedd y prosiect? A oedd yna unrhyw enghreifftiau o arfer da? A oedd yna unrhyw rwystrau?
- Pa mor dda gafodd y model cymdeithasol o anabledd ei roi ar waith?
Cwestiwn 7
Cafodd y prosiect cydgynhyrchu ei sefydlu fel prosiect Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth (GSR).
A oedd yna agweddau ar sut y cafodd y prosiect cyffredinol ei redeg a oedd yn helpu cydgynhyrchu? (Ymlaen i gwestiwn b yn dibynnu ar gyfranogiad y cyfranogwr)
Cwestiynau i ysgogi ymatebion
- Beth weithiodd yn dda o ran rheolaeth prosiect? (e.e. amserlenni, cynllunio prosiectau, staffio a dyrannu adnoddau ariannol)
- Sut helpodd egwyddorion Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth (e.e. gwrthrychedd, didueddrwydd, fformatio adroddiad GSR) yn ystod y prosiect?
A oedd unrhyw enghreifftiau o le gweithiodd hyn yn dda:
- Yn ystod camau cynnar y prosiect? (Gallwch gyfeirio at gamau 1 i 3 yn y daflen gymorth i helpu os oes angen)
- Yn ystod ymchwil y Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd, yn cynnwys cynllunio, cyflwyno, dadansoddi ac adrodd?
- Yn ystod ymchwil y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Byw'n Annibynnol, yn cynnwys cynllunio, cyflwyno, dadansoddi ac adrodd?
- Ar draws y prosiect yn ei gyfanrwydd gan gynnwys rheoli adnoddau a phrosiectau (cam 6 yn y daflen gymorth) a sut y gwnaethom weithio gyda'n gilydd (cam 7 yn y daflen gymorth)?
A oedd yna agweddau ar sut y cafodd y prosiect cyffredinol ei redeg a oedd yn rhwystro cydgynhyrchu?
Cwestiynau i ysgogi ymatebion
- Beth wnaeth ddim gweithio’n dda o ran rheolaeth prosiect? (e.e., amserlenni, cynllunio prosiectau, staffio a dyrannu adnoddau ariannol)
- A wnaeth egwyddorion Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth (er enghraifft, gwrthrychedd, didueddrwydd, fformatio adroddiad GSR), rheolau neu ffyrdd o weithio weithredu fel rhwystr i gydgynhyrchu? Os do, sut?
A oedd unrhyw enghreifftiau o le na wnaeth hyn weithio’n dda:
- Yn ystod camau cynnar y prosiect? (Gallwch gyfeirio at gamau 1 i 3 yn y daflen gymorth i helpu os oes angen)
- Yn ystod ymchwil y Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd, yn cynnwys cynllunio, cyflwyno, dadansoddi ac adrodd?
- Yn ystod ymchwil y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Byw'n Annibynnol, yn cynnwys cynllunio, cyflwyno, dadansoddi ac adrodd?
- Ar draws y prosiect yn ei gyfanrwydd gan gynnwys rheoli adnoddau a phrosiectau (cam 6 yn y daflen gymorth) a sut y gwnaethom weithio gyda'n gilydd (cam 7 yn y daflen gymorth)?
Cwestiwn 8
Beth yw'r prif wersi ar gyfer ymchwil gymdeithasol Llywodraeth Cymru yn y dyfodol i'w galluogi i adlewyrchu'n well brofiad bywyd o anabledd?
Cwestiynau i ysgogi ymatebion
- Beth wnaethom ni y dylai prosiectau'r dyfodol yn ddelfrydol ei fabwysiadu?
- Beth y gellid ei wella neu ei wneud yn wahanol i oresgyn rhwystrau ar gyfer unrhyw brosiectau yn y dyfodol?
Cwestiwn 9
Oes unrhyw beth arall yr hoffech ei ychwanegu sydd heb ei drafod heddiw?
Diolchwch i'r cyfranogwr am eu hamser.
Atodiad B: taflen wybodaeth ymchwil ategol ar gyfer aelodau allanol y tîm cydgynhyrchu
Taflen wybodaeth ymchwil ar gyfer cyfranogwyr ymchwil
Pwy sy'n gwneud yr ymchwil?
Mae'r ymchwil hwn yn cael ei gynnal gan Lab Cydgynhyrchu Cymru.
Pam mae'r ymchwil yn cael ei gynnal?
Roedd y prosiect cydgynhyrchu yn brototeip ar gyfer cynnwys rhanddeiliaid yn Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth (GSR). Ystyriwyd fod hon yn ffordd bwysig o ddysgu sut i wella ansawdd ymchwil gymdeithasol y dibynnir arni i lywio penderfyniadau sy'n effeithio ar fywydau pobl. Mae cydgynhyrchu yn cynnwys rhannu penderfyniadau ac 'asedau' (a allai gynnwys sgiliau, gwybodaeth neu rwydweithiau). Nod cyffredinol y prosiect ymchwil gwersi a ddysgwyd oedd deall i ba raddau y mae'n bosibl i ymchwilwyr cymdeithasol y llywodraeth gydgynhyrchu ymchwil gymdeithasol. Hoffem nodi pa lefel o gyfranogiad sy'n ymarferol ar wahanol gamau o brosiect. Er enghraifft, pan nad yw'n bosibl rhannu'r holl benderfyniadau am brosiect, pryd mae'n briodol cyd-ddylunio, ymgynghori neu hysbysu. Yn ogystal, roedd bwriad i’r ymchwil ystyried unrhyw wersi ar gymhwyso'r model cymdeithasol o anabledd i GSR.
Pam rydw i wedi cael fy ngwahodd i gymryd rhan?
Fel aelod neu gyn-aelod o'r tîm cydgynhyrchu, rydych wedi cael eich gwahodd yn benodol i gymryd rhan i rannu eich barn. Rydym am gasglu safbwyntiau, profiadau a chanfyddiadau holl aelodau a chyn-aelodau’r prosiect cydgynhyrchu.
Beth fydd cymryd rhan yn ei olygu?
Hoffem gasglu barn naill ai drwy gyfweliad lled-strwythuredig un-i-un drwy alwad fideo gyda chynrychiolydd o Lab Cydgynhyrchu Cymru neu gallwch gyflwyno ymateb ysgrifenedig. Cyn cymryd rhan, byddwn yn gofyn i chi gydsynio ar lafar i nodi eich bod yn barod i gymryd rhan ac yn deall beth mae eich cyfranogiad yn ei olygu. P'un a ydych chi'n cymryd rhan mewn cyfweliad neu'n cyflwyno ymateb ysgrifenedig, byddwn yn sicrhau eich bod yn derbyn y canllaw pwnc (y cwestiynau y byddwn yn eu gofyn) yn ogystal â thaflen gymorth canllaw pwnc ymlaen llaw.
Oes rhaid i mi gymryd rhan?
Na, mae eich cyfranogiad yn y prosiect ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol. Eich dewis chi yw cymryd rhan a does dim rhaid i chi roi rheswm dros wrthod. Os ydych chi'n cytuno i gymryd rhan yn yr ymchwil, gallwch wrthod ateb unrhyw gwestiynau a ofynnir.
Beth fydd yn digwydd i'm gwybodaeth bersonol a'r recordiad o'r drafodaeth?
Gweler yr Hysbysiad Preifatrwydd sy'n cyd-fynd â'r daflen wybodaeth ymchwil hon, sy'n disgrifio sut y byddwn yn trin eich gwybodaeth bersonol a’r recordiad o’r drafodaeth ar-lein yn ddiogel.
Sut bydd fy nata’n cael ei ddefnyddio?
Bydd yr holl drawsgrifiadau neu gyflwyniadau ysgrifenedig yn cael eu gwneud yn ddienw ac yna'n cael eu dadansoddi'n thematig. Bydd y dadansoddiad thematig yn cael ei ddefnyddio i lunio adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llyw.Cymru. Gall hyn gynnwys dyfyniadau uniongyrchol o’r hyn yr ydych yn ei ddweud wrthym Bydd Ymchwilwyr Cymdeithasol Llywodraeth Cymru sy'n arwain y prosiect hwn yn cyhoeddi'r adroddiad terfynol ar ffurf HTML (Cymraeg a Saesneg) a bydd hyn yn cynnwys crynodeb gweithredol. Bydd y crynodeb hygyrch hefyd yn cael ei gyhoeddi yn Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ac ar ffurf Hawdd ei Ddeall.
Ydych chi wedi ystyried unrhyw faterion moesegol posibl a allai godi?
Ydyn, a bydd hyn yn ystyriaeth barhaus. Cyn i’r prosiect hwn ddechrau aeth Ymchwilwyr Cymdeithasol Llywodraeth drwy restr wirio moeseg lawn. Nodwyd dwy risg foesegol. Y risg gyntaf yw mwy o berygl o ragfarn oherwydd bod y prosiect hwn yn cael ei arwain gan Ymchwilwyr Cymdeithasol Llywodraeth Cymru ac nad yw'n cael ei gyflawni trwy ddull cydgynhyrchu. Mae sawl peth yn cael ei wneud i liniaru a lleihau rhagfarn posibl, gan gynnwys comisiynu sefydliad annibynnol a fydd yn casglu eich barn ac yn ymgymryd â dadansoddiad thematig. Y sefydliad hwn yw Lab Cydgynhyrchu Cymru, sydd â dealltwriaeth a phrofiad o gydgynhyrchu. Bydd Lab Cydgynhyrchu Cymru yn rhannu trawsgrifiadau dienw neu ymatebion ysgrifenedig dienw gydag Ymchwilwyr Cymdeithasol Llywodraeth Cymru. Rydym hefyd wedi penodi 'adolygwr cymheiriaid' academaidd annibynnol i wirio'r cwestiynau y byddwn yn eu gofyn i gyfranogwyr ymchwil cyn i’r gwaith maes ddechrau, y themâu sy'n dod i'r amlwg o'r dadansoddiad data yn ogystal â'r adroddiad drafft terfynol.
Yr ail risg a nodwyd yw’r perygl o ddatgelu pwy ydi rhywun yn y canfyddiadau sy’n cael eu hadrodd. Yn anffodus, ni allwn warantu anhysbysrwydd llwyr o ystyried maint y sampl, rolau gwahanol aelodau'r prosiect cyd-gynhyrchu, a'r perthnasoedd gwaith a ddatblygwyd drwy gydweithio’n agos. Er mwyn lliniaru'r risg hon, os byddwch yn dewis cael eich cyfweld yn hytrach na darparu ymateb ysgrifenedig, cewch gyfle i adolygu, diwygio neu olygu unrhyw ddyfyniadau o'r trawsgrifiad a gynhyrchir. Bydd cyfranogwyr yn cael 7 diwrnod ar ôl i'r trawsgrifiad gael ei gynhyrchu i wneud unrhyw ddiwygiadau. Wedi hynny ni fydd newidiadau pellach yn bosibl. Fodd bynnag, bydd hefyd gyfle ychwanegol i chi adolygu'r adroddiad drafft fel y gallwch wirio eich bod yn fodlon â sut mae eich safbwyntiau wedi'u nodi’n ysgrifenedig a'u cynrychioli ac i wirio am unrhyw destun a allai ddatgelu eich hunaniaeth yn anfwriadol.
Beth os oes gennyf ymholiad neu bryder?
Lles unigolion yw ein blaenoriaeth bob amser. Os ydych chi eisiau siarad â ni am unrhyw beth, cysylltwch â'r ymchwilwyr arweiniol a gallwn drefnu galwad os oes angen neu ymateb drwy e-bost.
Diolch am ystyried cymryd rhan yn y prosiect ymchwil hwn.
