Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair

Mae’n bleser gennyf gyflwyno Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar Gydraddoldeb ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ionawr 2023 a 31 Rhagfyr 2023.  

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi trosolwg o’r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo a chryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol sy’n ganolog i waith Llywodraeth Cymru a’n gweledigaeth ar gyfer Cymru. 

Rydyn ni’n credu mewn trin pob person yn deg, yn enwedig y rheini sy’n wynebu’r gwahaniaethu, yr anfantais a’r ymyleiddio mwyaf.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio i hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol a meithrin cysylltiadau da. Rydym hefyd yn gweithio i ddod ag eglurder a dealltwriaeth i’r angen i sefydliadau’r Sector Cyhoeddus ystyried y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus wrth ddatblygu camau gweithredu ac ymyriadau ar y lefelau cenedlaethol a lleol. 

Fel rhan o’r gwaith o ddatblygu Cynllun Cydraddoldeb Strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024 i 2028, ar 18 Mawrth 2024, yn dilyn ymgynghoriad 12 wythnos a ddaeth i ben ar 12 Chwefror 2024, cyhoeddwyd ein Hamcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol newydd ar gyfer y pedair blynedd nesaf. 

Mae llawer o waith ar ôl i’w wneud wrth i ni barhau i gryfhau a hybu cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Edrychaf ymlaen at barhau i weithio mewn partneriaeth. 

Lesley Griffiths AS 
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol

Pennod 1: cyflwyniad

Mae’r adroddiad hwn, sy’n rhoi sylw i'r cyfnod rhwng 1 Ionawr 2023 a 31 Rhagfyr 2023, yn egluro sut mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio i gyflawni ei hamcanion cydraddoldeb. 

Mae’n polisïau a’n penderfyniadau’n cael eu llywio gan y bobl hynny sy’n cael eu heffeithio’n fwyaf uniongyrchol ganddynt. Mae cydweithio ag arbenigwyr, grwpiau cydraddoldeb, unigolion a chymunedau sydd â phrofiad bywyd yn darparu cymorth a chyngor er mwyn ein helpu i ddeall anghenion, problemau, rhwystrau a phrofiadau pob person a chymuned yng Nghymru gan gynnwys y rhai sydd â nodweddion gwarchodedig fel y’u diffiniwyd yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Mae hynny'n un o ofynion ein Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol i Gymru. 

Drwy gydol y cyfnod dan sylw yn yr adroddiad hwn, bu Gweinidogion Cymru yn ymgysylltu gyda grwpiau sy’n gweithio i hyrwyddo cydraddoldeb er mwyn deall eu blaenoriaethau a’r heriau maen nhw’n eu hwynebu bob dydd.

Mae gan Lywodraeth Cymru nifer o grwpiau rhanddeiliaid, a thrwyddynt rydym yn ymgysylltu’n rheolaidd i drafod a bwrw ymlaen â materion cydraddoldeb. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Fforwm Cynghori’r Gweinidog ar Heneiddio
  • Y Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl
  • Y Tasglu Hawliau Pobl Anabl
  • Fforwm Hil Cymru
  • Y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol
  • Bwrdd Trosolwg Strategol Cenedl Noddfa a’r Bwrdd Partneriaeth
  • Y Fforwm Cymunedau Ffydd
  • Y Fforwm Cydraddoldeb Rhywedd
  • Bwrdd Crwn Urddas Mislif
  • Grŵp Cynghori Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol/bi, Trawsryweddol/pobl draws, Cwiar neu’n holi (LHDTC+) (yn cael ei gynnull)
  • Grŵp Cynghori ar Hawliau Dynol
  • Grŵp Cynghorol y Gyllideb ar Gydraddoldeb
  • Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV)

Mae’r grwpiau hyn (sy’n cael eu cadeirio neu eu mynychu gan Weinidogion Cymru neu uwch swyddog Llywodraeth Cymru) yn galluogi rhanddeiliaid cydraddoldeb i ymgysylltu’n uniongyrchol ac yn rheolaidd â’r lefelau uchaf o lywodraeth ar faterion sy’n peri pryder iddynt.

Mae’r adroddiad hwn hefyd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill yn y Sector Cyhoeddus wedi cyflawni gofynion Dyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus. 

Mae’n amlinellu’r ffordd rydym wedi defnyddio ein cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb i gynnwys cydraddoldeb yn ein gwaith o ddatblygu polisïau a gwneud penderfyniadau.  Yn ogystal â lleihau’r risg y bydd ein penderfyniadau’n arwain at effeithiau negyddol, mae’r ddeddfwriaeth yn ein hysgogi i ystyried sut gallwn ni gyfrannu’n gadarnhaol at y gwaith o hybu cydraddoldeb i bawb.

Mae gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) ddyletswydd statudol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2006 i adrodd yn rheolaidd i Senedd y DU ar y graddau y mae cydraddoldeb a hawliau dynol yn gwella ym Mhrydain. 

Cynhyrchodd y Comisiwn ei gyfres gyntaf o adroddiadau ar gyfer Prydain, Cymru a’r Alban yn 2010. Dilynwyd hyn gan ‘A yw Cymru’n Decach?’ EHRC (2015) ac ‘A yw Cymru’n decach?’ (EHRC, 2018) a’u hadroddiadau partner ar gyfer Prydain a’r Alban. 

Cyhoeddwyd adroddiad yr EHRC Monitor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2023: A yw Cymru’n decach? ym mis Tachwedd 2023 a darparodd dystiolaeth gynhwysfawr a newydd i yrru ac ategu gwaith gwneuthurwyr polisi ac asiantaethau darparu sy’n ceisio creu Cymru decach. 

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried y dystiolaeth a’r argymhellion a gyflwynwyd yn Adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Bydd hyn yn cael ei ddefnyddio i lywio’r gwaith o ddatblygu ymyriadau yn y dyfodol a datblygu polisïau, gan gynnwys ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024 i 2028. 

Pennod 2: cyflawni dyletswyddau cydraddoldeb a Deddfwriaeth Hawliau Dynol

Mae fframwaith cynhwysfawr o ddeddfwriaeth Cymru a’r DU, yn ogystal â chonfensiynau a chytuniadau rhyngwladol, yn ategu cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys deddfau sy’n ymwneud ag agweddau penodol ar fywyd a gwaith, fel cyflogaeth, addysg, iechyd neu gyfiawnder, yn ogystal â’r rheini sy’n ymwneud â grwpiau penodol o bobl fel ffoaduriaid, pobl anabl neu blant. 

Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Mae’r adroddiad hwn yn cyflawni ein dyletswyddau o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ac mae’n egluro’r hyn rydym wedi’i wneud i ymgorffori gofynion adrodd statudol deddfwriaeth cydraddoldeb yn ein polisïau a’n harferion, yn enwedig Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED) a Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol Cymru. 

Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i roi sylw dyledus i’r egwyddor y dylai pawb gael cyfle cyfartal. Mae’r ddyletswydd hefyd yn sicrhau ein bod ni’n rhoi pwys ar hyrwyddo cydraddoldeb.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod dyletswydd ar y sector cyhoeddus i roi sylw dyledus, wrth iddo wneud ei waith, i’r angen i wneud y canlynol:

  • dileu achosion o wahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon
  • hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a’r rhai nad ydynt
  • meithrin perthynas dda rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a’r rhai nad ydynt

Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED) yw enw’r ddyletswydd hon.  Er mwyn i gyrff cyhoeddus penodol yng Nghymru berfformio’n well a dangos eu bod yn cydymffurfio â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, deddfodd Llywodraeth Cymru i gyflwyno dyletswyddau cydraddoldeb penodol i Gymru. Mae’r dyletswyddau hyn, a nodir yn  Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 (y cyfeirir atynt hefyd fel Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol Cymru) yn berthnasol i sefydliadau penodol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru a restrwyd yn y rheoliadau, ac a elwir yn ‘awdurdodau rhestredig’.

Mae Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol Cymru yn gosod cyfrifoldebau ar y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru o ran ymgysylltu, asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb, gwahaniaethau o ran cyflog, caffael, gwybodaeth am gydraddoldeb a chyflogaeth, a threfniadau adrodd ac adolygu. Cyhoeddir yr adroddiad hwn yn unol â rheoliad 16 o Reoliadau 2011 er mwyn dangos bod Llywodraeth Cymru yn cydymffurfio â’r ddyletswydd gyffredinol. 

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Mae Deddf Cydraddoldeb Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn nodi dyletswydd i ddatblygu’n gynaliadwy gyda’r bwriad o wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’n cynnwys 7 nod llesiant a 5 ffordd o weithio. Mae rhagor o fanylion i’w cael yn Atodiad B: Deddfau Penodol Cymru.

Mae Cynlluniau Cydraddoldeb Strategol Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at yr holl nodau llesiant, ac yn benodol yn cefnogi cynnydd tuag at:

  • Cymru sy’n fwy cyfartal: cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth yw eu cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau economaidd-gymdeithasol)
  • Cymru o gymunedau cydlynus: cymunedau deniadol, hyfyw, diogel sydd â chysylltiadau da
  • Cymru iachach: cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle mae modd deall dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol

Bydd y 5 ffordd o weithio, atal, cynnwys, cydweithio ac integreiddio yn y tymor hir yn llywio ein gwaith o gyflawni yn erbyn ein Hamcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol a’r camau gweithredu a fydd yn helpu i sicrhau ein bod yn eu cyflawni.

Gyda’i gilydd, mae’r 7 nod llesiant a’r 5 ffordd o weithio a ddarperir gan y Ddeddf wedi cael eu llunio i gefnogi ac i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus sy’n diwallu anghenion y presennol heb amharu ar allu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.

Er mwyn gwneud y mwyaf o’n cyfraniad at y nodau llesiant, rydym yn canolbwyntio ar feysydd lle gallwn gael yr effeithiau / gwelliant mwyaf rhwng 2024 a 2028. 

Y Rhaglen Lywodraethu 2021 i 2026

Mae’r fersiwn diwygiedig hwn o’r Rhaglen Lywodraethu yn ymgorffori’r Cytundeb Cydweithio: 2021. Roedd y cyfrifoldeb dros yr ymrwymiadau sy’n cyfrannu’n uniongyrchol at ein hamcanion llesiant yn nwylo’r Prif Weinidog a’r Cabinet llawn gan fod y rhain yn galw am y lefel uchaf o gydlynu ac integreiddio ar draws y llywodraeth gyfan.

Gweinidogion oedd yn ysgwyddo cyfrifoldeb uniongyrchol dros yr ymrwymiadau sy’n weddill. Rhoddwyd yr un pwyslais ar y ddwy set o ymrwymiadau, mae’r gwahaniaeth rhwng y 2 yn adlewyrchu’r dyraniad cyfrifoldebau ac nid eu pwysigrwydd na’u blaenoriaeth gymharol.

Yn y meysydd hynny sy’n dod o dan y Cytundeb Cydweithio, bu Gweinidogion yn gweithio gyda Phlaid Cymru dan delerau’r Cytundeb.

Ar ben hynny, mae amcanion llesiant yn nodi sut y byddwn yn defnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i helpu i gyflawni ein Rhaglen Lywodraethu, ac i gyfrannu cymaint â phosibl at y 7 nod llesiant cyffredin cenedlaethol.

Mae ein Rhaglen Lywodraethu a’n hamcanion llesiant yn ategu ac yn cefnogi ein Hamcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol. Maen nhw’n cryfhau’r broses o weithredu Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol Cymru drwy wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru mewn ffordd gynaliadwy.

Er bod y rhaglen wedi’i chynllunio i wella ffyniant a bywydau holl ddinasyddion Cymru, rydym wedi gwneud nifer o ymrwymiadau penodol sy’n ymwneud â dathlu amrywiaeth a chymryd camau i ddileu anghydraddoldeb ledled Cymru. 

Dathlu amrywiaeth a gweithredu i ddileu anghydraddoldeb o bob math

Byddwn yn:

  • gweithredu ac ariannu’r ymrwymiadau a wnaed yn ein Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol (cyfeirir ato bellach fel y “Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol”)
  • edrych ar ddeddfwriaeth i fynd i’r afael â bylchau cyflog ar sail rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, ethnigrwydd, anabledd, a ffurfiau eraill ar wahaniaethu
  • sicrhau bod cyrff cyhoeddus a’r rhai sy’n cael arian cyhoeddus yn mynd i’r afael â gwahaniaethau cyflog
  • treialu dull o ymdrin â’r Incwm Sylfaenol
  • sicrhau bod hanes a diwylliant ein cymunedau Du, Asiaidd, ac Ethnig Leiafrifol yn cael eu cynrychioli’n briodol drwy fuddsoddi ymhellach yn ein sector diwylliannol a’n rhwydwaith amgueddfeydd
  • sicrhau bod ein system trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru’n fwy hygyrch i bobl anabl
  • parhau â’n partneriaeth gref â mudiadau gwirfoddol ar draws ein holl gyfrifoldebau
  • rhoi targedau ar waith ynghylch Cyllidebu ar sail Rhyw
  • Cryfhau’r Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol i gynnwys ffocws ar drais yn erbyn menywod ar y stryd ac yn y gweithle yn ogystal â’r cartref
  • sefydlu unedau tystiolaeth gwell i gasglu data ar Gydraddoldeb, Hil ac Anabledd
  • Ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau (UNCRPD) a’r Confensiwn ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod (CEDAW) yng nghyfraith Cymru

Mae adroddiad ar gynnydd yn erbyn pob un o’r ymrwymiadau a nodir yn ein Rhaglen Lywodraethu wedi cael ei gyhoeddi yn Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru 2023.

Deddfwriaeth Hawliau Dynol

Mae Deddf Hawliau Dynol 1998 (HRA) yn ymgorffori hawliau a nodir yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (ECHR) yng nghyfraith ddomestig y DU. Mae’r Ddeddf Hawliau Dynol hefyd wedi’i gwreiddio yn neddfwriaeth sefydlu Llywodraeth Cymru sy’n golygu na all Gweinidogion Cymru weithredu’n anghydnaws â’r Ddeddf Hawliau Dynol, ac mae’n sicrhau bod yn rhaid i holl ddeddfwriaeth y Senedd gyd-fynd â’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (ECHR).

Y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol (UDHR) a sefydlwyd yn 1948 yw sail pob cytundeb hawliau dynol rhyngwladol, y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol a’r Ddeddf Hawliau Dynol. Roedd y Ddeddf hon yn sefydlu hawliau a rhyddid i bawb mewn perthynas â’r hawl i gyfiawnder cyfartal, cyfle cyfartal ac urddas cyfartal am y tro cyntaf.

Rhaid i weithredoedd Llywodraeth Cymru fod yn gydnaws â rhwymedigaethau rhyngwladol. Mae hyn yn cynnwys saith Cytuniad Hawliau Dynol Rhyngwladol Craidd y Cenhedloedd Unedig sydd wedi’u llofnodi a’u cadarnhau gan y DU

  • confensiwn ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu ar sail Hil
  • cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol
  • cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol
  • confensiwn ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod 
  • confensiwn yn erbyn Artaith a Thriniaeth neu Gosb Greulon, Annynol neu Israddol Arall 
  • confensiwn ar Hawliau’r Plentyn
  • confensiwn ar Hawliau Pobl Anabl

Cyfraith Hawliau Dynol Ryngwladol

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig eraill i adrodd ar gynnydd o ran cyflawni ein rhwymedigaethau o dan gyfraith hawliau dynol ryngwladol i Gyrff Cytuniad y Cenhedloedd Unedig. Yn y cyfnod yn arwain at Adolygiad Cyfnodol y Cenhedloedd Unedig o Hawliau Dynol yn y DU, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru drosolwg o’i Cham Gweithredu i gryfhau hawliau dynol yng Nghymru: 2018 i 2022

Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru 2021 i 2026 yn cynnwys ymrwymiadau i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl a’r Confensiwn ar Ddileu pob math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod.

Grŵp Cynghori ar Hawliau Dynol

Yn 2022 fe wnaethom sefydlu Grŵp Cynghori ar Hawliau Dynol (HRAG) i oruchwylio camau gweithredu sy’n deillio o Adroddiad Ymchwil cryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru 2021. Mae aelodaeth y grŵp hwn yn cynnwys aelodau o’r sector cyfreithiol, y byd academaidd, y trydydd sector, cymdeithas sifil a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru i sicrhau ymgysylltiad cryf wrth i’r gwaith fynd rhagddo. Yn ystod cyfnod yr adroddiad hwn, bu’r Darpar Gwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip yn cyd-gadeirio’r Grŵp Cynghori hwn. Mae’r Gweinidog dros Bartneriaeth Gymdeithasol hefyd yn mynychu’r cyfarfodydd. Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am waith y Grŵp hwn ar gael yn Atodiad 3 yr adroddiad hwn.

Pennod 3: cryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru

Amcanion a Chamau Gweithredu Cydraddoldeb Strategol Llywodraeth Cymru 

Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o Amcanion Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod dan sylw yn yr adroddiad hwn.   

Mae Atodiad 2 yn nodi’r amcanion strategol ar gyfer cynllun 2020 i 2024. Mae Atodiad 3 yn rhoi enghreifftiau o gynnydd yn erbyn yr amcanion. Mae gweithgarwch a gafodd gefnogaeth gan ein rhaglen allweddol i Gyllido Cydraddoldeb a Chynhwysiant yn cael ei ddisgrifio ym Mhennod 5.

Nid yw’r enghreifftiau sydd yn yr adroddiad hwn a’r atodiadau yn rhestr gyflawn o’r gwaith tuag at gyflawni’r Amcanion Cydraddoldeb.

Trosolwg o Gynlluniau Cydraddoldeb Strategol Llywodraeth Cymru

Mae ein Cynlluniau Cydraddoldeb Strategol yn nodi:

  • Y sail gyfreithiol y mae’r cynlluniau hynny wedi eu seilio arnynt
  • Y brif dystiolaeth ynghylch cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru a oedd wedi dylanwadu ar ddatblygiad y cynlluniau hynny gan bwyso’n drwm ar ymchwil ac adroddiadau’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, “A yw Cymru’n Decach?”
  • Cyfres o gamau gweithredu yr oeddem yn anelu at eu cyflawni, i gefnogi nodau ac amcanion pob cynllun

Mae pob cynllun yn cwmpasu cyfnod o 4 blynedd.  Cyhoeddwyd Cynllun Cydraddoldeb Strategol Llywodraeth Cymru 2020 i 2024  ym mis Ebrill 2020. 

Mae’r cynllun yn cynnwys Nodau, Amcanion a Chamau Gweithredu Hirdymor. 

  • Nodau Hirdymor: Mae’r nodau hyn yn ymwneud â chryfhau a hybu cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru, yr ydym yn disgwyl y byddant yn dal yn berthnasol y tu hwnt i’r cyfnod sy’n cael sylw yn y cynllun hwn.
  • Ar gyfer pob un o’r nodau hirdymor, rydym wedi pennu un Amcan Cydraddoldeb ar gyfer Llywodraeth Cymru rhwng 2020 a 2024. Mae’r amcanion hyn yn perthyn yn agosach na’r nodau hirdymor i rôl a phwerau Llywodraeth Cymru. Maen nhw’n ofyniad statudol ac yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i gyflawni Dyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus. 
  • Mae’r Amcanion hyn yn cael eu hategu gan Gamau Gweithredu mesuradwy, sy’n dangos sut bydd Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei hamcanion. 

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi enghreifftiau o gamau a gymerwyd i gefnogi’r gwaith o gyflawni ein hamcanion. Mae’r amcanion strategol wedi’u nodi’n llawn yn Atodiad 2, gydag enghreifftiau ychwanegol o berfformiad yn eu herbyn yn Atodiad 3. Mae Pennod 5 yn rhoi gwybodaeth am rywfaint o’n cyllid sy’n cefnogi cydraddoldeb a chynhwysiant.

Cryfhau a Hyrwyddo Hawliau Dynol yng Nghymru

Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad clir i hyrwyddo a diogelu hawliau dynol ac mae hyn wedi’i wreiddio yn neddfwriaeth sefydlu Llywodraeth Cymru.

Grŵp Cynghori ar Hawliau Dynol

Yn 2022 fe wnaethom sefydlu Grŵp Cynghori ar Hawliau Dynol (HRAG) i oruchwylio a chynghori ar gamau gweithredu sy’n deillio o Adroddiad Ymchwil Cryfhau a Hyrwyddo Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru 2021. Mae gan y grŵp hwn aelodaeth eang gan gynnwys y sector cyfreithiol, y byd academaidd, y trydydd sector, cymdeithas sifil a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru er mwyn i ni allu elwa ar amrywiaeth o arbenigedd. Yn ystod cyfnod yr adroddiad hwn, bu’r Darpar Gwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip yn cyd-gadeirio’r Grŵp Cynghori hwn. Roedd y Gweinidog dros Bartneriaeth Gymdeithasol hefyd yn mynychu’r cyfarfodydd. Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am waith y Grŵp hwn ar gael yn Atodiad 3 yr adroddiad hwn.

Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn ein hymrwymo i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau (UNCRPD) a’r Confensiwn ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod (CEDAW).  

Gweithgor Opsiynau Deddfwriaethol (LOWG)

Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Gweithgor Opsiynau Deddfwriaethol (LOWG) sy’n cwmpasu sut y gallem gyflawni ein hymrwymiadau ymgorffori. Ym mis Ebrill 2023, cyflwynodd y LOWG adroddiad interim gweithredol gan fabwysiadu dull eang o ran ymgorffori. Mae’r LOWG yn parhau i ddadansoddi’r cytundebau ar sail hawliau i ganfod beth y gellir ei gyflawni drwy ddeddfwriaeth Cymru. Bydd angen inni ystyried yn ofalus amheuon yn y setliad datganoli wrth benderfynu sut i fwrw ymlaen â hyn. 

Iaith Arwyddion Prydain (BSL)

Iaith Arwyddion Prydain yw iaith gyntaf neu ddewis iaith y gymuned Fyddar yn y DU. Ers 2004, mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod Iaith Arwyddion Prydain (BSL) fel un o ieithoedd Cymru.

Ym mis Chwefror 2021, cynhaliodd Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain (BDA) archwiliad o bolisïau a darpariaeth Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yn Llywodraeth Cymru. Mae swyddogion y BDA a’r Gangen Cydraddoldeb wedi gweithio gydag arweinwyr Polisi Llywodraeth Cymru i sefydlu pa waith sy’n cael ei wneud mewn perthynas â BSL.

Cyhoeddwyd Adroddiad Archwilio’r BDA gan y BDA ar 14 Chwefror 2023. Cyhoeddwyd datganiad ysgrifenedig ar y dyddiad cyhoeddi yn croesawu’r adroddiad a’r argymhellion. Hefyd, cyhoeddwyd cyfieithiad o’r datganiad ysgrifenedig i Iaith Arwyddion Prydain. 

Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu’r adroddiad ac yn cydnabod yr angen i fabwysiadu dull croestoriadol wrth ymateb i argymhellion yr Archwiliad. Mae bwrw ymlaen â chamau gweithredu o Archwiliad y BDA yn gofyn am gynllun hirdymor ar gyfer newid a bydd angen ymrwymiad a ffocws parhaus. Mae’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl yn bwrw ymlaen â rhywfaint o’r gwaith hwn.    

Fe wnaethom sefydlu Grŵp Cyfathrebu Hygyrch i oresgyn rhwystrau a gwella mynediad at wybodaeth yn ystod pandemig COVID-19. Roedd y Grŵp yn cynnwys amrywiaeth eang o bobl a sefydliadau, gan gynnwys pobl fyddar, pobl fyddar sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a phobl drwm eu clyw. Datblygodd y Grŵp gyfres o ganllawiau i holl staff Llywodraeth Cymru yn y sefydliad i weithio arnynt i helpu i gynhyrchu cyfathrebiadau a oedd yn hygyrch i bawb. Mae’r ddogfen wedi ei chyhoeddi ar fewnrwyd Llywodraeth Cymru ei hun er mwyn i staff gael mynediad ati. 

Rydym yn cydnabod bod llawer mwy i’w wneud i ddatblygu dull cydlynol o hyrwyddo a chefnogi Iaith Arwyddion Prydain ac rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r materion hyn.

Cydlyniant Cymunedol

Mae’r Rhaglen Cydlyniant Cymunedol yn ariannu 8 tîm ar draws Cymru i ddarparu cymorth rheng flaen i gymunedau, gan gynnwys ymgysylltu mwy uniongyrchol i helpu i fonitro a lleddfu tensiynau, yn ogystal â gwaith codi ymwybyddiaeth parhaus o ran troseddau casineb. 

Yn dilyn adolygiad annibynnol o’r Rhaglen Cydlyniant Cymunedol, cytunodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip ym mis Ionawr 2023 i barhau i ariannu’r Rhaglen rhwng 2023 a 2024 i sicrhau y bydd y gwaith gwerthfawr hwn yn parhau yng Nghymru. 

Defnyddiwyd canfyddiadau ac argymhellion yr adolygiad i lunio a llywio meysydd gwaith y timau cydlyniant yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu ar lawr gwlad a gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau perthnasol, i hyrwyddo a meithrin cydlyniant cymunedol.

Mae’r Rhaglen Cydlyniant yn rhan hanfodol o’n hymateb i faterion sy’n dod i’r amlwg ac nad oedd modd eu rhagweld sy’n effeithio ar gymunedau yng Nghymru, ac mae’r timau cydlyniant yn cydweithio’n frwd â’r partneriaid perthnasol, fel yr heddlu a phartneriaid diogelwch cymunedol, i gefnogi cymunedau yn ystod y digwyddiadau hyn.

Cyflogaeth Pobl Anabl

Rydym yn canolbwyntio ar gefnogi pobl anabl i gael gwaith neu i fod yn hunangyflogedig drwy ein rhaglenni cyflogadwyedd, darparu cyngor ac arweiniad gyrfa drwy Cymru’n Gweithio, a helpu’r gweithlu presennol i ddatblygu sgiliau newydd a dod o hyd i waith newydd.

Mae’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl wedi cytuno ar 10 maes blaenoriaeth ar gyfer ei waith, sy’n cynnwys ystod eang o gyfrifoldebau Gweinidogol ac a fydd yn ymwneud ag ymrwymiadau perthnasol y Rhaglen Lywodraethu, sy’n cynnwys Cyflogaeth ac incwm.

Mae camau gweithredu i gefnogi pobl anabl i gael gwaith neu hunangyflogaeth wedi’u nodi yn ein cynllun ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau. Rydym yn darparu amrywiaeth o raglenni a gwasanaethau cyflogadwyedd, gan gynnwys Twf Swyddi Cymru a Mwy, Prentisiaethau, a Cymru’n Gweithio, sy’n cynnig cyngor a chymorth gyrfaoedd. Rydym hefyd yn darparu cymhelliant ariannol, o £2000 y dysgwr, i gyflogwyr sy’n recriwtio prentis anabl hyd at ddiwedd mis Mawrth 2024. 

Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i gyflogwyr i helpu i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r model cymdeithasol o anabledd, hyrwyddo manteision cyflogi gweithlu amrywiol, a deall sut i recriwtio, cadw a chefnogi gweithwyr anabl. 

Mae hyn yn cynnwys pecyn cymorth i gyflogwyr, cyngor ac arweiniad ar Busnes Cymru, modiwl E-ddysgu ar y model cymdeithasol o anabledd, a’n tîm o Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl. 

Mae hyrwyddo gweithleoedd cyfartal, amrywiol a chynhwysol yn rhan annatod o’n hagenda Gwaith Teg ac rydym yn gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol â chyflogwyr ac undebau llafur ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, i gynyddu ymwybyddiaeth o hawliau a chyfrifoldebau yn y gweithle a hyrwyddo arferion gorau. 

Mae ein gwaith yn parhau i gael ei lywio gan Weithgor Cyflogaeth Pobl Anabl.  Mae’r Grŵp yn rhoi cyngor ac arweiniad i Lywodraeth Cymru ar faterion a blaenoriaethau sy’n dod i’r amlwg ar gyfer cyflogaeth pobl anabl yng Nghymru er mwyn helpu gyda’r nod o gynyddu nifer y bobl anabl sy’n cael gwaith.

Y Tasglu Hawliau Pobl Anabl

Mae’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl wedi cael ei sefydlu i chwalu’r rhwystrau a’r anghydraddoldebau sy’n wynebu pobl anabl yng Nghymru. Mae’r Tasglu’n gweithio ar y cyd â phobl sydd â phrofiad ac arbenigedd uniongyrchol, sefydliadau pobl anabl, arweinwyr polisi Llywodraeth Cymru a chyrff/sefydliadau eraill sydd â diddordeb. 

Mae’r gwaith yn seiliedig ar ddealltwriaeth gyffredin o’r model cymdeithasol o anabledd, hawliau dynol, profiad bywyd a chyd-gynhyrchu, ac mae’n cael ei ddarparu gan y gweithgorau canlynol: 

  • gwreiddio a deall y Model Cymdeithasol o Anabledd (ar draws Cymru) 
  • mynediad at wasanaethau (gan gynnwys cyfathrebu a thechnoleg)
  • byw’n annibynnol: gofal cymdeithasol 
  • byw’n annibynnol: iechyd 
  • teithio 
  • cyflogaeth ac incwm 
  • tai fforddiadwy a hygyrch 
  • plant a phobl ifanc 
  • mynediad at gyfiawnder 
  • llesiant 

Y Ddyletswydd economaidd-gymdeithasol

Daeth y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol i rym yng Nghymru ar 31ain Mawrth 2021. Mae’r Ddyletswydd yn mynnu bod cyrff cyhoeddus perthnasol, gan gynnwys Gweinidogion Cymru, yn rhoi sylw dyledus i’r angen i leihau anghydraddoldebau a wynebir o ganlyniad i anfantais Economaidd-gymdeithasol wrth wneud penderfyniadau strategol.

Bydd ystyried i anghydraddoldebau canlyniadau sy’n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol wrth galon ein penderfyniadau yn ein galluogi i symud tuag at Gymru decach a mwy ffyniannus.  Mae tudalen benodol ar y wefan wedi cael ei datblygu i fod yn gartref i adnoddau sy’n cefnogi gweithredu’r ddyletswydd hon.

Mae’r trafodaethau cynnar ag arweinwyr cyrff cyhoeddus wedi bod yn gadarnhaol ac mae’n ymddangos bod y Ddyletswydd wedi cael ei chroesawu. Ceir enghreifftiau o gyrff cyhoeddus yn integreiddio’r Ddyletswydd mewn fframweithiau cynllunio ac adrodd, fel y fframwaith cynllunio tîm canolraddol ar gyfer cyrff iechyd. 

Mae adroddiad Llywodraeth Cymru, ‘Gweithredu’r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol: Adolygiad o dystiolaeth am anfantais economaidd gymdeithasol ac anghydraddoldebau canlyniadau yn darparu crynodeb o’r brif dystiolaeth mewn cysylltiad â sut mae anfantais economaidd-gymdeithasol yn effeithio ar bobl yng Nghymru. Mae’n canolbwyntio’n benodol ar sut mae’n effeithio ar y rheini sydd â nodweddion gwarchodedig yn ogystal â chymunedau lle a buddiant.

Ar ben hynny, er mwyn cefnogi cyrff cyhoeddus ymhellach i fodloni gofynion y Ddyletswydd, mae offeryn tracio cynnydd ar gael ar dudalen we benodol y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol.

Cynllun Gweithredu ar gyfer Cymru Wrth-hiliol

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu cenedl wrth-hiliol erbyn 2030.

Mae ein Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, a lansiwyd ar 7 Mehefin 2022 wedi’i adeiladu ar werthoedd gwrth-hiliaeth ac mae’n galw am ddim goddefgarwch o ran pob anghydraddoldeb hiliol.

Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae camau wedi cael eu cymryd ar draws Llywodraeth Cymru i weithio tuag at ein gweledigaeth o wneud Cymru yn genedl wrth-hiliol erbyn 2030.

Ym mis Rhagfyr 2023 fe wnaethom gyhoeddi’r Cynllun Gweithredu cyntaf ar gyfer Cymru Wrth-hiliol: Adroddiad Blynyddol 2022 i 2023.

Efallai nad yw effaith ein gwaith yn amlwg eto ym mhrofiad bywyd cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, ond mae sylfeini pwysig wedi cael eu gosod.  Ar ben hynny, rydym yn disgwyl i’r rheini rydym yn eu hariannu fynd i’r afael â hiliaeth ac mae hyn wedi’i nodi’n glir yn ein llythyrau cylch gwaith a’n trefniadau ariannol.

Er mwyn cyflawni sector cyhoeddus Gwrth-hiliol yng Nghymru, byddwn yn ceisio:

  • dangos ymrwymiad amlwg i wrth-hiliaeth, gan gynnwys drwy:
    • newid ymddygiad a gwerthoedd
    • defnyddio camau gweithredu cadarnhaol
    • recriwtio
    • cynnydd
    • uwch arweinyddiaeth
    • cynrychiolaeth ar fyrddau
  • gwreiddio ffyrdd o weithio i fynd i’r afael â hiliaeth, gan gynnwys drwy:
    • defnyddio pob dull i fynd i’r afael â hiliaeth
    • defnyddio data a thystiolaeth
    • llunio polisïau
    • defnyddio cyllid a grantiau
  • ymgysylltu a chyflawni gwasanaethau gwrth-hiliaeth, gan gynnwys:
    • ymwybyddiaeth ddiwylliannol a chymhwysedd diwylliannol yn ein cyfathrebiadau
    • gwasanaethau iaith a chyfieithu ar y pryd
    • gwasanaethau eirioli
  • gwreiddio atebolrwydd a dangos cynnydd

Mae ein strwythur llywodraethu ac atebolrwydd ArWAP bellach ar waith. Mae Un ar ddeg o Gynrychiolwyr Amrywiaeth ac 8 Arbenigwr drwy Brofiad yn helpu i ddal y Llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus yn atebol a dod â phrofiadau ac arbenigedd uniongyrchol i’n helpu i gyflawni’n well. Mae’r Grŵp Atebolrwydd Allanol hwn, dan gadeiryddiaeth yr Athro Emmanuel Ogbonna a Dr Andrew Goodall, Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru, yn cwrdd bob dau fis. 

Mae pedwar o Gynullwyr Fforwm Rhanbarthol Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn cael eu recriwtio a byddant yn ein dal yn atebol o ran ein heffaith, ac yn gweithredu fel cyfrwng rhwng awdurdodau lleol a’n cymunedau lleiafrifoedd ethnig. 

Lansiwyd y gyfres o weminarau misol, ‘Tyfu Gyda’n Gilydd: y daith tuag at Gymru wrth-hiliol erbyn 2030’ gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip ar 25 Medi 2023. Mae’r gyfres hon yn rhannu cynnydd a heriau yn erbyn nodau a chamau gweithredu ArWAP. Mae’r gweminarau’n agored i’r cyhoedd yn ehangach a’u nod yw dyfnhau ymgysylltiad â chymunedau, darparu fforwm ar gyfer rhannu arferion da, a datblygu ein dealltwriaeth ar y cyd o wrth-hiliaeth.  

Lansiodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ymgynghoriad ac ymchwiliad i weithredu’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol: Cymru Wrth-hiliol. Bydd argymhellion yr ymchwiliad hwn yn bwysig o ran cyfrannu at fersiwn nesaf y Cynllun. 

Mae ArWAP yn cael ei ddiweddaru i ganolbwyntio ar y mentrau mwyaf effeithiol.  Bydd y fersiwn nesaf yn cwmpasu 2024 i 2026. Bydd y ffocws yn parhau ar fireinio nodau a chamau gweithredu presennol (os oes angen) i gryfhau gweithredu a mesur. 

Y sector cyhoeddus ehangach, y trydydd sector a’r sector preifat sy’n cael ei ariannu gan y Llywodraeth

Mae gennym gyfrifoldeb arweiniol dros y sector cyhoeddus, y trydydd sector a’r sefydliadau sector preifat hynny rydym yn eu hariannu. Byddwn yn dal y sefydliadau hynny i gyfrif, drwy ein Grŵp Atebolrwydd, i gyflawni 5 cam gweithredu craidd:

  1. Ymrwymiad cryf i arwain drwy esiampl a dangos gwerthoedd ac ymddygiad gwrth-hiliol, cynrychiolaeth ar bob lefel o’r sefydliad ac mewn mesurau atebolrwydd.
  2. Cyfranogiad ym mhob grŵp sy’n gwneud penderfyniadau ac uwch grŵp arwain mewn ffordd sy’n ei gwneud hi’n bosibl clywed profiadau bywyd pobl o leiafrifoedd ethnig a gweithredu arnynt.
  3. Cyflawni gofynion sylfaenol Deddf Cydraddoldeb 2010 o leiaf a chyhoeddi canlyniadau mewn fforwm/llwyfan agored a hygyrch.
  4. Sicrhau safonau sylfaenol a darparu gwasanaethau sy’n ddiwylliannol sensitif a phriodol, gan gynnwys darparu cyfieithu a chyfieithu ar y pryd.
  5. Sicrhau bod polisïau a phrosesau cwyno cadarn ar gyfer aflonyddu hiliol yn cael eu dilysu er boddhad grwpiau lleiafrifoedd ethnig.

Cymorth i bobl LHDTC+

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau’n ymroddedig i sicrhau mai Cymru yw’r wlad fwyaf cyfeillgar i Bobl LHDTC+ yn Ewrop. Mae Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer Pobl LHDTC+ yng Nghymru, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2023 yn cryfhau’r mesurau diogelu ar gyfer pobl LHDTC+, yn hyrwyddo cydraddoldeb i bawb ac yn helpu i gydlynu camau gweithredu ar draws y llywodraeth a thu hwnt. 

Rydyn ni nawr yn canolbwyntio ar weithredu a chael effaith sylweddol a chadarnhaol ar fywydau pobl LHDTC+ yng Nghymru.

Mae modd monitro’r diweddariadau a’r cynnydd yn erbyn pob cam gweithredu a gweithgarwch yn y Cynllun ar y Cynllun Gweithredu ar gyfer Pobl LHDTC+ yng Nghymru: Traciwr diweddaru cynnydd a gyhoeddwyd gennym yn gynharach eleni.  

Rydym yn gweithio i gynhyrchu Fframwaith Asesu Gwerthusadwyedd i fesur effaith y Cynllun Gweithredu ar gyfer Pobl LHDTC+ a lansiwyd Grŵp Cynghori yn ddiweddar.

Lansiwyd bwletin y Cynllun Gweithredu LHDTC+ gyda’r adnodd Tracio hefyd. 

Arferion Trosi neu Therapi

Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i ddefnyddio’r holl bwerau sydd ar gael i roi terfyn ar arferion trosi yng Nghymru ac i geisio datganoli unrhyw bwerau ychwanegol angenrheidiol. 

Rydym yn gweithio’n agos gyda Phlaid Cymru i fwrw ymlaen â hyn, gan gynnwys ceisio cyngor cyfreithiol i bennu’r holl ysgogiadau y gallwn eu defnyddio i roi gwaharddiad ar waith yng Nghymru, ar gyfer cyfeiriadedd rhywiol a rhywedd.

Rhwng mis Ionawr a mis Gorffennaf 2023, fe wnaeth Gweithgor o Arbenigwyr gyfarfod a rhoi cyngor ar y camau y gallem eu cymryd i sicrhau diogelwch i’r holl bobl LHDTC+ a gwahardd arferion trosi yng Nghymru. 

Ym mis Mai 2023, comisiynwyd Laurel Research Consulting Ltd gan Lywodraeth Cymru i gynnal ymchwil gyda’r nod o ddeall mwy am brofiadau arferion trosi ymysg pobl 18 oed a hŷn yng Nghymru. Defnyddir tystiolaeth o'r ymchwil hon i lywio datblygiad polisi yn y dyfodol, teilwra ymgyrch ymwybyddiaeth, a helpu i gynllunio a gwella darpariaeth gwasanaethau cymorth mewn perthynas ag arferion trosi yng Nghymru.

Ym mis Mawrth 2024, fe wnaethom lansio ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o wasanaethau cymorth ar gyfer goroeswyr arferion trosi a chontractio gwasanaeth cymorth pwrpasol ar gyfer goroeswyr arferion trosi, sy’n cwmpasu Cymru ac sy’n darparu adnoddau dwyieithog.

Pennod 4: Tystiolaeth a Llywodraethu Tystiolaeth Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru

Mae’r bennod hon yn egluro sut mae Llywodraeth Cymru yn casglu ac yn defnyddio tystiolaeth i lywio a chefnogi ei gwaith i hyrwyddo a diogelu cydraddoldeb. Mae hyn yn cynnwys amlinelliad o sylfaen dystiolaeth cydraddoldeb ehangach Llywodraeth Cymru, diweddariad ar gynnydd yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd. 

Y sylfaen dystiolaeth ar gyfer cydraddoldeb 

Er mwyn ystyried y nodau yn y ddyletswydd gyffredinol, mae angen i ni gael digon o dystiolaeth o’r effaith y mae ein polisïau a’n harferion yn ei chael, neu’n debygol o’i chael, ar bobl sydd â gwahanol nodweddion gwarchodedig.

Yn ystod 2023, aethom ati i gyhoeddi amrywiaeth eang o allbynnau ystadegol ac ymchwil a oedd yn ein helpu ni i ddeall effaith ein polisïau, a lle mae angen i ni wneud mwy. Roeddent hefyd wedi galluogi ein rhanddeiliaid i weld lle mae angen gwneud rhagor o gynnydd a’n dal ni’n atebol. Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei hymchwil a’i hystadegau yn Ystadegau ac Ymchwil Llywodraeth Cymru

Mae rhai o’r allbynnau ystadegol hyn yn cynnwys y canlynol:

  • Adroddiad Llesiant Cymru 2023, Cyhoeddwyd is-adroddiad ar ethnigrwydd ochr yn ochr â hyn
  • Cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd yng Nghymru (Cyfrifiad 2021)
  • Iechyd, anabledd a darparu gofal di-dâl yng Nghymru (Cyfrifiad 2021)
  • Gwahaniaethau grwpiau ethnig o ran iechyd, tai, addysg a statws economaidd yng Nghymru (Cyfrifiad 2021)
  • Canlyniadau pobl anabl mewn iechyd, tai, addysg a statws economaidd (Cyfrifiad 2021)
  • Dadansoddiad o nodweddion y boblogaeth yn ôl amddifadedd ardal (Cyfrifiad 2021)

Fe wnaethom y canlynol hefyd:

Defnyddiwyd yr wybodaeth hon, yn ogystal ag arweiniad pellach gan ein timau dadansoddi, i lywio ein Hasesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb; ein cyngor i Weinidogion ynghylch polisïau newydd arfaethedig neu newidiadau i bolisïau; a chyfraniadau i sesiynau ymchwiliadau Pwyllgorau. Rydym yn mynd ati’n gyson i wella’r trefniadau ar gyfer nodi a chasglu gwybodaeth am gydraddoldeb, lle bynnag y bo hynny’n ymarferol ac yn gost-effeithiol. 

Er mwyn gwella ein gwybodaeth am gydraddoldeb, rydym wedi parhau i symud ymlaen â’r canlynol: 

Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd 

Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i sefydlu’r Unedau Tystiolaeth yn ei Rhaglen Lywodraethu 2021 mewn ymateb i’r angen am dystiolaeth gryfach i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau yng Nghymru. Ym mis Ionawr 2022, sefydlodd Llywodraeth Cymru 3 Uned Dystiolaeth wahanol, pob un â’i rhaglen dystiolaeth a’i harweinydd ei hun: 

  • Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil
  • Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Anabledd

Mae’r Unedau Tystiolaeth yn cydweithio fel yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd gyda Strategaeth Tystiolaeth Cydraddoldeb gyffredinol i sicrhau synergedd, effeithiolrwydd, effeithlonrwydd a chydlyniant. Cenhadaeth yr Unedau Tystiolaeth yw gwella argaeledd, ansawdd, manylder a hygyrchedd tystiolaeth am unigolion â nodweddion gwarchodedig a nodweddion cysylltiedig er mwyn inni lwyr ddeall y lefel a’r mathau o anghydraddoldeb ledled Cymru. Bydd hyn yn galluogi’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i ddatblygu polisïau mwy gwybodus ac i asesu a mesur eu heffaith. Bydd hyn yn ein gyrru tuag at ganlyniadau gwell i bobl sydd â nodweddion gwarchodedig a chysylltiedig, ac yn cyfrannu at ein nod o ‘Gymru sy’n fwy cyfartal’ fel y nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. 

Mae nifer o heriau sylweddol y bydd yr Unedau Tystiolaeth yn eu hwynebu wrth gyflawni’r Strategaeth Tystiolaeth Cydraddoldeb ac maen nhw wedi ymrwymo i weithio gyda chymunedau a rhanddeiliaid i fynd i’r afael â rhai o’r rhwystrau sy’n bodoli. Mae’r rhain yn cynnwys ymddiriedaeth o ran darparu data a sicrhau bod data gweladwy yn cyfrannu at newid go iawn. 

Amlinellir rhai diweddariadau ar rai o’n prosiectau penodol isod:

Casglu a chyhoeddi data Cyrff Sector Cyhoeddus Cymru 2022 i 2023

Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddeall amrywiaeth aelodau byrddau ar draws cyrff cyhoeddus sy’n cael eu rheoleiddio gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru. Cyhoeddwyd dau Arolwg peilot a oedd yn casglu gwybodaeth am amrywiaeth y Bwrdd a’r gweithlu i gyrff yn y sector cyhoeddus a oedd yn cael eu rheoleiddio gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus. Mae’r arolygon bellach wedi cau, ac mae’r Unedau Tystiolaeth yn casglu ymatebion ac yn crynhoi’r canfyddiadau. 

Archwiliad data cydraddoldeb 

Rydym wedi cynnal archwiliad cydraddoldeb o ddata a ddefnyddir i gynhyrchu Ystadegau Swyddogol gan Wasanaethau Ystadegol mewn gwasanaethau gwybodaeth a dadansoddi. Cynhaliwyd asesiad cychwynnol o’r ffynonellau data a’r allbynnau sy’n cynnwys gwybodaeth am gydraddoldeb ac sy’n cael eu defnyddio a’u cynhyrchu gan wasanaethau ystadegol. Ar hyn o bryd mae'r Unedau Tystiolaeth yn diweddaru archwiliad data KAS ac yn gweithio gyda chydweithwyr KAS i ddatblygu ein dealltwriaeth o'r rhwystrau a'r galluogwyr o ran bylchau data. Mae’r Unedau Tystiolaeth yn bwriadu cyhoeddi cam 1 yn gynnar yn 2024.

Adroddiad Llesiant Cymru

Fel rhan o’n hymrwymiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad y 7 nod llesiant, cyhoeddwyd fersiwn newydd o’n hadroddiad Llesiant Cymru 2023. Mae’n cynnwys pennod ynghylch ‘Cymru sy’n Fwy Cyfartal’, sy’n rhoi crynodeb o’r ystadegau cydraddoldeb diweddaraf sy’n berthnasol i Gymru. 

Sampl dichonoldeb lleiafrifoedd yn hwb i Arolwg Cenedlaethol Cymru

Cynhaliwyd ymchwil desg a chyflwynwyd papur i’r Prif Ymchwilydd Cymdeithasol ar ddyfodol Arolwg Cenedlaethol Cymru. Bydd yr Unedau Tystiolaeth yn ceisio treialu ar raddfa fach yng Ngwanwyn 2024.

Gwerthuso Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol

Mae’r Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil yn edrych ar ddatblygu fframwaith gwerthuso effaith cynhwysfawr ar gyfer y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.  Mae hyn yn cynnwys fframwaith gwerthuso effaith y cytunwyd arno. Mae’r Grŵp Atebolrwydd Allanol, a sefydlwyd ym mis Ionawr 2023, yn parhau i gefnogi’r Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar sail Hil i siapio datblygiad y dangosyddion drwy greu is-grŵp tystiolaeth.

Ymchwil ynghylch sut y gellir casglu gwybodaeth i adlewyrchu’r model cymdeithasol o anabledd

Nod y gwaith hwn yw datblygu cyfres o gwestiynau, opsiynau ymateb, a chanllawiau sy’n adlewyrchu’r Model Cymdeithasol o Anabledd, i’w ymgorffori mewn ymchwil gymdeithasol yn y dyfodol a galluogi dull gweithredu safonol a chyson. Aeth y tendr yn fyw ar GwerthwchiGymru ym mis Tachwedd 2023, a’r dyddiad cau yw  8fed Ionawr 2024.

Ymchwil a Chyd-gynhyrchu’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl 

Mae’r Unedau Tystiolaeth wedi ffurfio partneriaeth â’r Tasgu Hawliau Pobl Anabl (DRT) a’r Rhaglen Ymchwil Fewnol i gyd-gynhyrchu tystiolaeth a’i defnyddio i brofi a chryfhau dichonoldeb rhai o’r blaenoriaethau sydd eisoes wedi’u cyd-gynhyrchu gan Weithgorau DRT. Gwahoddwyd Cadeiryddion y Gweithgorau i gyd-ddylunio’r ymchwil ochr yn ochr â dadansoddwyr a swyddogion polisi Llywodraeth Cymru. 

Safonau casglu data rhyw a rhywedd

Mae gwaith cwmpasu wedi cael ei wneud i nodi i ba raddau mae’r safonau hunaniaeth rhyw a rhywedd yn diwallu anghenion polisi Llywodraeth Cymru. Mae cynnig ymchwil ar gyfer Llywodraeth Cymru i sefydlu ei chwestiynau safonol ei hun a chanllawiau cysylltiedig ar y pynciau hyn wedi cael ei ddatblygu yn unol â safonau GSS.

Cyn bo hir, bydd yr Unedau Tystiolaeth yn comisiynu cam cyntaf y gwaith hwn. Bydd hyn yn cynnwys adolygiad desg o gwestiynau a gynlluniwyd ar gyfer casglu data ar nodweddion cydraddoldeb hunaniaeth rhyw a rhywedd yn rhyngwladol, ac ymgynghoriad anffurfiol gyda sefydliadau rhanddeiliaid i ddeall a oes anghenion ar wahân yng Nghymru yn y maes hwn.

Asesiad o’r Gallu i werthuso’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Pobl LHDTC+

Rydym wedi contractio Asesiad Gwerthusiadwyedd o’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Pobl LHDTC+. Mae’r cyfarfod cychwynnol a’r sgyrsiau cwmpasu wedi cael eu cynnal ac mae gwaith maes yn cael ei gynllunio. Bydd yr Unedau Tystiolaeth yn parhau i weithio’n agos gyda chydweithwyr polisi ar draws y sefydliad i sicrhau bod anghenion polisi’n cael eu diwallu, a bod ymgysylltu â phartneriaid allanol a chymunedau LHDTC+ cael ei gynnal mewn modd sensitif. 

Pennod 5: cyllid ar gyfer cydraddoldeb a chynhwysiant

Mae ein Rhaglen Cydraddoldeb a Chynhwysiant wrth galon ein gwaith i feithrin cydraddoldeb a chynhwysiant yng Nghymru, ac mae’n galluogi darparu cymorth, ymgysylltiad a gwasanaeth i gymunedau amrywiol a grwpiau allweddol.  Darperir cyllid i nifer o sefydliadau arbenigol sy’n gweithio gyda’r rheini sydd ar lawr gwlad i ddarparu cymorth lle bo angen. 

Rydym wedi dyfarnu contractau ar gyfer Canolfan Cymorth Casineb newydd Cymru a’r Gwasanaeth Cymorth Ceisio Lloches newydd, sydd wedi cymryd lle ein Canolfan Genedlaethol Adrodd am Droseddau Casineb a Chymorth a’r Rhaglen Hawliau Lloches ers 1 Ebrill 2022. Cymorth i Ddioddefwyr Cymru a chonsortiwm dan arweiniad Cyngor Ffoaduriaid Cymru (dan yr enw Gwasanaeth Noddfa Cymru) oedd y cynigwyr llwyddiannus, yn y drefn honno.

Crynodeb o’r cyllid a ymrwymwyd ar gyfer 2022 i 2023
Sefydliad Dyraniad 
Cymorth i Ddioddefwyr, Canolfan Adrodd am Droseddau Casineb a Chymorth £432,000
Anabledd Cymru (Uwch) Grant Cydraddoldeb a Chynhwysiant £150,000
Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST) £106,667
Tros Gynnal Plant (Uwch)£192,000
Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru £120,000
Rhaglen mentora Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal£41,000
Digwyddiad We Belong Here     £24,750
Triniaeth Deg i Fenywod Cymru (FTWW)£43,647
Plan International UK£22,328
Stonewall Cymru£100,000
Cyngor Ffoaduriaid Cymru, Gwasanaeth Noddfa Cymru           £636,983
Cyfanswm £1,869,375

Cymerwyd camau ychwanegol gennym i wella ansawdd y data monitro perfformiad a gasglwyd gan y sefydliadau hynny a oedd yn cael eu hariannu gan Raglen Cydraddoldeb a Chynhwysiant Llywodraeth Cymru. Rhoddwyd cefnogaeth i bob sefydliad ddatblygu mesurau perfformiad sy’n canolbwyntio mwy ar ganlyniadau. Er enghraifft, roedd hyn yn cynnwys sefydliadau yn cael gwybodaeth am ganran yr unigolion sydd, ar ôl cael cyngor a chymorth, yn gwybod mwy am y gwasanaethau a’r cymorth sydd ar gael iddynt ac yn teimlo bod eu lleisiau’n fwy tebygol o gael eu clywed.  

Casineb: Cymorth i Ddioddefwyr Cymru

Mae Canolfan Cymorth Casineb Cymru, sy’n cael ei rhedeg gan Cymorth i Ddioddefwyr Cymru, yn darparu cymorth ac eiriolaeth annibynnol am ddim i bawb sy’n dioddef troseddau casineb, ac mae ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Mae’r Ganolfan yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys cymorth emosiynol, cyfeirio, cyfarfodydd wyneb yn wyneb, eiriolaeth/cyswllt â’r Heddlu, cyngor diogelwch personol, atebion ymarferol a chymorth cyfiawnder adferol. Mae’r Ganolfan hefyd yn cynnig gwasanaeth troseddau casineb cenedlaethol sy’n addas i blant a phobl ifanc.

Mae’r Ganolfan wedi datblygu Fforwm Eiriolaeth Profiad Bywyd (LEAF) i gynnwys cyn-ddefnyddwyr y gwasanaeth, er mwyn ceisio gwella’r gwasanaeth yn barhaus. Mae LEAF yn cynnwys cyn-ddefnyddwyr gwasanaeth. Defnyddir adborth LEAF i adolygu’r gwasanaeth, megis trefn gwyno’r Ganolfan.

Roedd tîm Hyfforddiant ac Ymgysylltu’r Ganolfan yn darparu hyfforddiant codi ymwybyddiaeth o droseddau casineb i amrywiaeth o gynulleidfaoedd ledled Cymru, gyda’r nod o gynyddu’r nifer yr adroddiadau o droseddau casineb a chynyddu amlygrwydd y gwasanaeth. 

Rhwng Ionawr a Rhagfyr 2023 derbyniodd y gwasanaeth 2,257 o atgyfeiriadau ar gyfer dioddefwyr troseddau casineb a rhoddodd gymorth i dros 580 o ddioddefwyr troseddau casineb. Darparwyd cymorth mewn 89% o’r achosion lle nodwyd anghenion. Cafodd y gwasanaeth 72 o adroddiadau trydydd parti a 190 o hunan-atgyfeiriadau. Roedd 82% o’r cleientiaid naill ai’n fodlon neu’n fodlon iawn â’r gwasanaeth yn ystod y cyfnod hwn. 

Anabledd: Anabledd Cymru

Anabledd Cymru yw’r corff sy’n cynrychioli pobl anabl a’u sefydliadau yng Nghymru, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill i sicrhau bod safbwyntiau pobl anabl yn cael eu clywed.

Mae Anabledd Cymru wedi defnyddio cyllid y Rhaglen Cydraddoldeb a Chynhwysiant i gefnogi’r gwaith o gyflawni ymrwymiadau allweddol Llywodraeth Cymru sy’n gysylltiedig â’n Fframwaith a’n Cynllun Gweithredu ar Anabledd, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2019.

Cafodd Anabledd Cymru hefyd £72,000 o gyllid o Gronfa Bontio'r Undeb Ewropeaidd i ddarparu rhaglen gymorth i gynyddu capasiti yn sgil gadael yr UE ar gyfer sefydliadau pobl anabl a’u rhanddeiliaid ledled Cymru. Mae Anabledd Cymru hefyd wedi ennill y contract i gyflwyno Cronfa Mynediad i Swydd Etholedig, sy’n brosiect peilot a fydd yn cynnig cymorth i ymgeiswyr anabl yn etholiadau’r Senedd ac mewn etholiadau Llywodraeth Leol.

Bu Anabledd Cymru hefyd â rhan allweddol yn y gwaith o ddatblygu Gweithredu ar Anabledd: Hawl i Fyw’n Annibynnol (gweler isod), gyda'r Prif Weithredwr yn cadeirio'r Grŵp Llywio a oedd yn goruchwylio datblygiad y fframwaith newydd.

Gweithredu ar anabledd: hawl i fyw'n annibynnol

Cafodd ein Fframwaith ‘Gweithredu ar Anabledd:  Hawl i Fyw’n Annibynnol’ ei gyhoeddi ar 18 Medi 2019. Mae’r Fframwaith wedi cael ei ddatblygu ar y cyd â phobl anabl a’r sefydliadau sy’n eu cynrychioli. 

Mae Cynllun Gweithredu i gyd-fynd â’r Fframwaith, ac mae’r cynllun hwnnw'n nodi camau blaenoriaeth sydd ar waith ar draws Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â rhai o’r prif rwystrau a nodwyd yn cynnwys trafnidiaeth, cyflogaeth, tai a mynediad i adeiladau a lleoedd. 

Dywedodd pobl anabl wrthym fod gweithredu ar lefel leol yn hanfodol, felly mae’r Fframwaith wedi’i ddylunio i roi anogaeth gref i Wasanaethau Cyhoeddus Cymru, cyflogwyr a sefydliadau ar bob lefel i gymryd sylw ac i weithredu.

Mae’n nodi’r egwyddorion, y cyd-destun cyfreithiol a’r ymrwymiadau sy’n sail i’n holl waith gyda phobl anabl ac ar eu cyfer, a sut rydym yn cyflawni ein rhwymedigaethau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl.

Mae’r Fframwaith yn seiliedig ar y ‘Model Cymdeithasol o Anabledd’, sy'n cydnabod bod angen gweddnewid cymdeithas, a chael gwared ar rwystrau er mwyn i bobl anabl allu cyfrannu’n llawn.

Dros gyfnod yr adroddiad hwn, gyda chymorth cyllid Llywodraeth Cymru, mae Anabledd Cymru wedi: 

  • cynnal 11 digwyddiad ar gyfer 477 o gyfranogwyr ledled Cymru, gyda’r nod o sicrhau bod gan bobl anabl a’u sefydliadau yr wybodaeth a’r sgiliau i hyrwyddo hawliau anabledd a chydraddoldeb, ac i herio gwahaniaethu yn eu hardal leol
  • cynnal arolwg Costau Byw a grwpiau ffocws gan arwain at wybodaeth newydd ar eu gwefan Costau Byw Anabledd Cymru yn ogystal â chyflwyno’r wybodaeth hon i’r Fforwm Cydraddoldeb Anabledd
  • cyflwyno tystiolaeth i Bwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd a’r Pwyllgor Addysg, Plant a Phobl Ifanc
  • cynnal Cynhadledd Flynyddol hybrid ar bobl anabl a chynrychiolaeth yn y cyfryngau ar 17eg Hydref 2023 ac wedi cynhyrchu adroddiad gwerthuso blynyddol ar gyfer y gynhadledd ac adroddiad ar bobl anabl a’r cyfryngau o ganlyniad i’r gynhadledd. cymryd rhan yng Ngwrandawiad Rhagarweiniol Ymchwiliad COVID:19.
  • Lansio eu Prin yn Goroesi: Effaith yr Argyfwng Costau Byw ar Bobl Anabl yng Nghymru ym mis Gorffennaf 2023 a’i gyflwyno yn y Fforwm Cydraddoldeb Anabledd ym mis Medi 2023 ac mewn digwyddiad i Weinidogion ac Aelodau’r Senedd ym mis Tachwedd 2023
  • darparu cynrychiolaeth yn y Cenhedloedd Unedig yn Genefa ar gyfer Adolygiad y Confensiwn ar Hawliau Pobl ag Anableddau (UNCRPD) y DU a chyflwyno adroddiad cysgodol
  • cynnal uwchgynhadledd Sefydliadau Pobl Anabl Gogledd Cymru fel digwyddiad ar-lein ym mis Medi 2023

Yn ogystal, cadeiriodd Prif Weithredwr Anabledd Cymru Weithgor Byw’n Annibynnol (Gofal Cymdeithasol) y Tasglu Hawliau Pobl Anabl sydd bellach wedi adrodd ar yr amcanion arfaethedig i’r Tasglu. 

Hil: Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig Cymru (EYST)

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu EYST i gyflawni rhaglen Cymru Gyfan ar gyfer Ymgysylltu â Phobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Mae’r rhaglen yn cyflogi swyddogion yng Nghasnewydd, Caerdydd, Abertawe a Wrecsam i ymgysylltu ag unigolion, grwpiau a sefydliadau pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ledled Cymru, ac i gasglu eu barn a’u profiadau. Ei nod yw creu sylfaen dystiolaeth ar gyfer dylanwadu ar bolisïau Llywodraeth Cymru er mwyn adlewyrchu ac ymateb yn well i anghenion cymunedau lleiafrifoedd ethnig.

Mae’r rhaglen yn cefnogi’r amcanion canlynol:

  • ymgysylltu â chymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ac ymgynghori â nhw, ar faterion sy’n effeithio arnynt
  • cynrychioli cymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ar grwpiau rhanddeiliaid perthnasol Llywodraeth Cymru
  • cefnogi’r sector cydraddoldeb hiliol a lleiafrifoedd ethnig
  • arddangos, uno a chryfhau lleisiau dros gydraddoldeb hiliol yng Nghymru
  • darparu gwybodaeth am gydraddoldeb hiliol i randdeiliaid allweddol yng Nghymru
  • helpu i ddarparu cronfa fwy amrywiol o bobl sy’n gwneud penderfyniadau mewn bywyd cyhoeddus a phenodiadau cyhoeddus

Mynychodd 417 o bobl drafodaethau Fforwm Eyst yn ystod 2022 i 2023. Mae’r themâu a drafodwyd yn cynnwys:

  • Trafodaeth gymunedol ar newid yn yr hinsawdd, mannau gwyrdd a materion cefn gwlad
  • O ble ydych chi’n dod? Hunaniaeth a Pherthyn yng Nghymru
  • Hil a Thai, Tai dan Arweiniad y Gymuned
  • Sut mae tlodi yn effeithio ar yr argyfwng gordewdra
  • Iechyd meddwl plant a phobl ifanc, Beth mwy allwn ni ei wneud?
  • Mae gan bawb yr hawl i geisio a mwynhau lloches!
  • Ydy Pobl Hŷn Ethnig Leiafrifol yn Anweledig? 
  • Masnachu Pobl a Chaethwasiaeth Fodern
  • Dod yn Gymru Wrth-hiliol, Sut allwch chi chwarae rhan?

Mae EYST yn parhau i gael cyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi sefydliadau ar lawr gwlad, ledled Cymru, ac i gynnig cyngor a’u cyfeirio at sefydliadau a phrosiectau partneriaeth perthnasol. Mae EYST hefyd wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddatblygu ein Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.

Sipsiwn, Roma a Theithwyr, Tros Gynnal Plant Cymru (TGP)

Mae Tros Gynnal Plant Cymru yn Elusen Gofrestredig sy’n darparu cefnogaeth a gwasanaethau eiriolaeth i blant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru. Mae Teithio Ymlaen wedi’i gontractio i ddarparu cyngor, cefnogaeth a gwasanaethau eiriolaeth unigol a chymunedol, ac mae’n gweithio ochr yn ochr â theuluoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr ar faterion fel llety, safleoedd, cynllunio, hawliau a chael gafael ar wasanaethau. Mae gan y prosiect 3 nod eang:

  1. cyngor ac Eiriolaeth
  2. hawliau a chyfranogiad
  3. mynd i’r afael â gwahaniaethu

Mae llinell gyngor radffôn ar waith yn ystod yr wythnos 808 802 0025. Mae’r rhif wedi cael ei ledaenu drwy daflenni, cardiau hysbysebu, ar lafar gwlad drwy sesiynau ymgysylltu, gwaith maes a digwyddiadau rheolaidd, a thrwy rwydweithiau, gan gynnwys cyfeiriaduron partneriaid a chyfryngau cymdeithasol. Mae tîm ymgysylltu Teithio Ymlaen yn darparu gwasanaeth gwaith maes gan ymweld yn rheolaidd â safleoedd a lleoliadau cymunedol. Atgyfeiriadau wyneb yn wyneb ac ar lafar yw’r ffordd fwyaf poblogaidd o gysylltu â chymunedau o hyd. 

Mae’r prosiect Teithio Ymlaen yn gweithio i sicrhau bod cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn gallu cymryd rhan mewn ymgynghoriadau a chyfleoedd eirioli ac yn cael lleisio’u barn, ac ymgysylltu â llunwyr polisïau a darparwyr gwasanaethau ar faterion sy’n effeithio ar y cymunedau hyn yng Nghymru neu ledled y DU.   

Bu cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn ymgysylltu â’r gwaith o ddatblygu ein Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Mae eu fforymau ieuenctid yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc gwrdd â phobl sy’n gwneud penderfyniadau, ochr yn ochr â grwpiau cymunedol a phrosiectau ymchwil cymheiriaid (ar ddatblygu safleoedd, addysg, gwella gwasanaethau iechyd er enghraifft). Mae'r cymunedau hefyd yn cael cynrychiolaeth gadarnhaol drwy Senedd Ieuenctid Cymru a gweithgareddau diwylliannol. Mae Teithio Ymlaen yn gweithio gyda sefydliadau, gan gynnwys y Fforwm Ieuenctid Cenedlaethol, ac mae wedi datblygu côr ‘Sêr y Sipsiwn’ cyntaf Cymru, sy’n cynnwys pobl o bob oed o’r gymuned Roma. 

Mae Teithio Ymlaen wedi cael y dasg o wneud i’r gymuned deimlo’n fwy hyderus i herio a rhoi gwybod am ddigwyddiadau hiliol, digwyddiadau casineb, troseddau casineb ac iaith casineb. Drwy weithio gyda phartneriaid fel Cymorth i Ddioddefwyr maent wedi helpu i godi ymwybyddiaeth o’r dulliau o roi gwybod am droseddau casineb a’r gefnogaeth sydd ar gael drwy’r gwasanaeth cynghori; i wedi datblygu poster penodol, a chreu cysylltiadau cryfach â swyddogion troseddau casineb yr heddlu drwy ymgysylltu a hyfforddiant.

Rhywedd: Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru (WEN)

Elusen Gofrestredig yw Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru (WEN), sy’n gweithio tuag at gydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru. Mae ganddo rwydwaith cynyddol o aelodau yn cynnwys unigolion a sefydliadau. Mae cyllid wedi cael ei ddarparu i gefnogi gwaith cydraddoldeb rhwng y rhywiau Llywodraeth Cymru. Dyma yw ei amcanion:

  • arweinyddiaeth amrywiol a chyfartal mewn bywyd gwleidyddol a chyhoeddus
  • cryfhau, gwireddu a gwreiddio hawliau menywod yng Nghymru
  • bod gofal (gyda thâl ac yn ddi-dâl) yn cael ei werthfawrogi a’i rannu

Mae WEN Cymru yn cysylltu â’i rwydwaith o aelodau er mwyn casglu anghenion a phrofiadau bywyd menywod a merched yng Nghymru i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed. Mae’n defnyddio’r wybodaeth a’r dystiolaeth a gesglir i helpu i lywio ei ymateb i ymgynghoriadau ac ymgysylltiad â llunwyr polisi, yng Nghymru a’r DU.

Cafodd digwyddiadau am ddim ar-lein Caffi WEN eu sefydlu yn sgil Covid-19 fel cyfle i ddod â lleisiau menywod at ei gilydd i edrych yn fanwl ar faterion a rhannu atebion ar nifer o themâu yn ymwneud ag anghydraddoldebau a ddaeth i’r amlwg yn sgil y pandemig. Roedd y themâu a drafodwyd eleni yn cynnwys cefnogi menywod sy’n ffoaduriaid ac yn geiswyr lloches yng Nghymru, yr ymgyrch Gwneud Gofal yn Deg, a Maniffesto Hawliau Menywod Cymru ar gyfer Etholiad Cyffredinol y DU.

Yn 2021, dechreuodd WEN Cymru weithio gydag ysgolion a grwpiau ieuenctid ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod (IWD). Cynhyrchodd WEN Cymru becyn cymorth i gefnogi athrawon a gweithwyr ieuenctid i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, gan herio stereoteipiau rhywedd a thynnu sylw at ragfarn ar sail rhywedd a rhywiaeth gyda’u dosbarthiadau a’u grwpiau. Ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2023, derbyniodd pob ysgol yng Nghymru y pecyn cymorth.  

Cynhaliwyd y Diwrnod ‘We Belong Here’ yn y Senedd ar 21 Hydref 2023. Gyda dros 200 o bobl yn bresennol, llwyddodd y digwyddiad i ddod ag amrywiaeth eang o fenywod at ei gilydd i archwilio cyfranogiad mewn bywyd cyhoeddus neu wleidyddol, dysgu am y camau sy’n gysylltiedig ac ymgysylltu â menywod sydd eisoes mewn bywyd cyhoeddus neu wleidyddol yng Nghymru. 

Rhywedd: Rhaglen mentora Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal

Mae’r rhaglen fentora Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal yn cael ei harwain gan Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru mewn partneriaeth ag Anabledd Cymru, y Tîm Cymorth Ieuenctid a Lleiafrifoedd Ethnig (EYST) a Stonewall.  Nod y cynllun trawstoriadol yw cynyddu amrywiaeth cynrychiolaeth mewn bywyd cyhoeddus a gwleidyddol yng Nghymru. Mae wedi’i ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru.

Mae’r cynllun yn rhoi cymorth i 100 o bobl sy’n cael eu mentora ac yn helpu’r rhai sy’n cymryd rhan i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau, adnoddau a gwybodaeth i’w paratoi ar gyfer rôl mewn bywyd cyhoeddus drwy gyfrwng rhaglen o ddiwrnodau hyfforddi, sesiynau gweithdy, mentora a chymorth gan gymheiriaid. 

Rhywedd: Triniaeth Deg i Fenywod Cymru (FTWW)           

Triniaeth Deg i Fenywod Cymru yw’r unig elusen yng Nghymru sy’n cael ei harwain gan gleifion ac sy’n ymroddedig i gydraddoldeb iechyd menywod. Mae’n gweithio i gyfrannu lleisiau a safbwyntiau menywod (anabl) at dri maes polisi: Hawliau Anabledd, Cydraddoldeb Rhywedd, Urddas Mislif. Mae’r dystiolaeth o brofiad byw a gasglwyd gan y rhwydwaith yn helpu i lywio ei ymateb i ymgynghoriadau, cyfrannu at ymchwil, ymgysylltu â llunwyr polisïau, a chodi proffil materion drwy amrywiaeth o sianeli cyfryngau.

Plan International UK

Mae Plan International UK yn elusen plant fyd-eang. Yng Nghymru, maent yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau hawliau merched, fel rhan o’r Gydweithfa Hawliau Merched. Ym mis Mai 2023, cynhaliwyd digwyddiad ganddynt yn y Senedd a ddaeth ag amrywiaeth o randdeiliaid a phobl sy’n gwneud penderfyniadau o bob cwr o Gymru at ei gilydd i archwilio sut mae creu Cymru fwy diogel i ferched.

Mae nifer o ddigwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb wedi cael eu cynnal, a gafodd gefnogaeth dda ac a oedd yn rhoi sylw i bynciau gan gynnwys effaith y cyfryngau cymdeithasol ar iechyd meddwl pobl ifanc, ‘dangos a dweud’, ac ailgynllunio hyfforddiant ar enethdod.

LHDTC+ Stonewall Cymru

Mae Stonewall Cymru wedi cael arian grant i fod yn gorff sy’n cynrychioli pobl LHDTC+ yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill i sicrhau bod safbwyntiau pobl LHDTC+ yn cael eu clywed. 

Mae’r cyllid yn cael ei ddarparu er mwyn galluogi Stonewall i wneud y canlynol:

  • ymgysylltu â Chymunedau LHDTC+
  • grymuso pobl a chynghreiriaid LHDTC+
  • cryfhau lleisiau LHDTC+
  • cryfhau gwasanaethau eiriolaeth, gwybodaeth a chynghori

Fel rhan o’r cyllid hwn, mae Stonewall Cymru wedi parhau i redeg Caffis Stonewall Cymru, sydd â’r nod o gynnwys pobl LHDTC+ yng Nghymru sydd â hunaniaethau sy’n croestorri a darparu llwyfan i rymuso eraill. Mae cynyddu ymgysylltiad â chymunedau traws i glywed eu llais ac i ymgyrchu ar eu rhan wedi bod yn weithgaredd allweddol. 

Mae gwaith sy’n ymwneud â chwaraeon wedi cynnwys digwyddiadau sy’n galluogi trafodaethau ystyrlon, rhannu a llwyfannu clybiau ar lawr gwlad, a chreu canllawiau arfer gorau ar gyfer cyrff chwaraeon a chlybiau ar lawr gwlad i greu lle cynhwysol i bobl LHDTC+. 

Yn ystod y cyfnod hwn, mae Stonewall wedi gweithio gyda sefydliadau a grwpiau LHDTC+ ledled Cymru i ddeall yn well yr heriau maen nhw’n eu hwynebu a chynrychioli’r safbwyntiau a’r materion hyn yn well yn eu hymgysylltiad â Llywodraeth Cymru, gan sicrhau bod lleisiau pobl LHDTC+ yn cael eu clywed a’u hystyried wrth lunio polisïau cyhoeddus a dylunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus. 

Balchder (Pride)

Parhaodd cefnogaeth Llywodraeth Cymru i Pride Cymru yn 2023 gyda £50,000 o gyllid a oedd yn cynnwys noddi prif ddigwyddiad Pride yng Nghaerdydd. Fe wnaethom hefyd gefnogi 9 digwyddiad Balchder Llawr Gwlad ledled Cymru. 

  • Balchder Abertawe
  • Balchder Gogledd Cymru (Caernarfon)
  • Balchder y Bont-faen
  • Balchder y Gelli
  • Balchder y Fenni
  • Balchder Bae Colwyn
  • Balchder yn y Porth (Casnewydd)
  • Glitter Pride gan Glitter Cymru
  • Balchder Merthyr 

Ffoaduriaid a cheiswyr lloches

Nid yw polisi mudo wedi’i ddatganoli, felly Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am atebion i rai materion pwysig. Rydym yn gweithio gyda’r Swyddfa Gartref ac adrannau eraill yn Llywodraeth y DU, yn ogystal â rhanddeiliaid yng Nghymru, i wella amodau yng Nghymru.

Cafodd consortiwm dan arweiniad Cyngor Ffoaduriaid Cymru ei gontractio i ddarparu Gwasanaeth Noddfa Cymru (WSS) o 1 Ebrill 2022 ymlaen a bydd yn cael ei gefnogi am o leiaf 3 blynedd. Yn ystod y flwyddyn ariannol 2022 i 2023, darparodd Llywodraeth Cymru £692,420 i gonsortiwm dan arweiniad Cyngor Ffoaduriaid Cymru i ddarparu’r gwasanaeth hwn. Yn ystod y cyfnod hwn, darparwyd cyllid ychwanegol i ddarparu gwasanaethau a chymorth i’r rheini sy’n cyrraedd Cymru o Wcráin dan y Cynllun Cartrefi i Wcráin, gan gynnwys drwy lwybr Uwch Noddwr Cymru. 

Mae cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y consortiwm hwn wedi galluogi Cyngor Ffoaduriaid Cymru a’i bartneriaid i weithio tuag at yr amcanion canlynol:

  • cryfhau sgiliau a gallu ceiswyr lloches a ffoaduriaid, a chryfhau’r gefnogaeth sydd ar gael ar eu cyfer er mwyn iddyn nhw greu eu bywyd yng Nghymru, gan eu hannog i ddeall a chymryd rhan yn y gymuned ehangach
  • cefnogi a galluogi pobl sy’n ceisio noddfa i gael llais
  • codi ymwybyddiaeth o faterion sy’n ymwneud â mudo ymysg y cyhoedd yn gyffredinol

Mae Gweithwyr Achosion wedi darparu sesiynau gwaith achos i gleientiaid ar draws 4 ardal wasgaru Cymru. Dyma brif ffocws eu gwaith:

  • atal digartrefedd ac amddifadedd
  • cynnig cyngor a chymorth ynghylch caledi
  • cyfeirio at wasanaethau statudol perthnasol ynghylch diogelu a llesiant
  • cydweithio â’r Swyddfa Gartref, cynrychiolwyr cyfreithiol a rhanddeiliaid allweddol eraill 

Mae Asylum Justice wedi parhau i roi cymorth cyfreithiol i gannoedd o geiswyr lloches nad ydynt yn gallu cael gafael ar gymorth cyfreithiol o ffynonellau eraill. Mae llawer o’u cleientiaid yn rhai y mae eu ‘Apeliadau Hawliau wedi’u Dileu’ (ARE) ac mae angen cymorth arnynt i gyflwyno hawliadau o’r newydd. Maent hefyd yn cefnogi apeliadau, aduniadau teuluol a chodi’r cyfyngiadau ‘dim mynediad at arian cyhoeddus’. Mae gwaith Asylum Justice yn amhrisiadwy, gan mai dyna’n aml yw’r gobaith olaf am gefnogaeth gyfreithiol i lawer o geiswyr lloches agored i niwed yng Nghymru.

Aeth Fforymau Eiriolaeth ar-lein ym mis Mai 2020, ac mae dros 200 o bobl wedi mynd iddynt. Mae’r pynciau a drafodwyd â chynrychiolwyr perthnasol wedi cynnwys addysg, gofal iechyd, brechiadau, y Swyddfa Gartref, llety a phandemig COVID-19. 

Mae Gwasanaeth Noddfa Cymru, a’i bartneriaid (gan gynnwys Cyngor Ffoaduriaid Cymru) yn rhan o Glymblaid Ffoaduriaid Cymru, sy’n cefnogi’r gwaith o gyflawni ‘Cynllun Cenedl Noddfa’ Llywodraeth Cymru.

Mae ein gwefan Noddfa Dewis llwybr yn rhoi amrywiaeth o wybodaeth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches am eu hawliau gan gynnwys adrannau ar iechyd, addysg a chyflogaeth. Mae’r wefan yn galluogi defnyddwyr i gael mynediad at dros 100 o ieithoedd a meddalwedd testun-i-lais i sicrhau bod y safle’n hygyrch i nifer fwy o bobl sy’n ceisio lloches. 

Rydym wedi parhau i ddarparu cyllid i Clearsprings Ready Homes i ymestyn mynediad i’r rhyngrwyd i’r holl letyau noddfa ledled Cymru er mwyn galluogi mynediad at wasanaethau ar-lein, dosbarthiadau ESOL a chysylltiadau â ffrindiau teuluol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i ddarparu cyllid i gefnogi trafnidiaeth am ddim  i ffoaduriaid a’r rhai sy’n chwilio am warchodaeth ryngwladol yng Nghymru yn unol â’n gweledigaeth Cenedl Noddfa.

Atodiad 1: ein dyletswyddau cyfreithiol

Deddf Cydraddoldeb 2010: Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 (Deddf 2010) yn disodli deddfau gwrth-wahaniaethu blaenorol ar gyfer Cymru, Lloegr a’r Alban, gan eu cyfuno mewn un Ddeddf. Mae’r Ddeddf yn amddiffyn pobl rhag gwahaniaethu oherwydd: 

  • oedran
  • anabledd
  • ailbennu rhywedd
  • priodas a phartneriaeth sifil
  • beichiogrwydd a mamolaeth
  • hil
  • crefydd neu gred
  • rhyw
  • cyfeiriadedd rhywiol

Gelwir y categorïau hyn yn ‘nodweddion gwarchodedig’. 

Mae Deddf 2010 hefyd wedi cyflwyno Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED), sydd â thri nod cyffredinol. Rhaid i’r rhai sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd roi sylw dyledus i’r angen i wneud y canlynol: 

  • dileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth ac ymddygiad arall sydd wedi’i wahardd gan y Ddeddf 
  • hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a’r rheini nad ydynt yn ei rhannu 
  • meithrin perthynas dda rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a’r rhai nad ydynt yn ei rhannu

Nod Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yw sicrhau bod y rhai sy’n ddarostyngedig iddi yn ystyried hyrwyddo cydraddoldeb yn eu gweithgareddau o ddydd i ddydd. I Lywodraeth Cymru, mae hyn yn cynnwys siapio polisïau, gwasanaethau darparu ac mewn perthynas â’n gweithwyr.

Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 (y rheoliadau)

Yng Nghymru, mae’r cyrff cyhoeddus sydd wedi’u rhestru yn Rhan 2 o Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn ddarostyngedig hefyd i ddyletswyddau penodol a geir yn y Rheoliadau. Gelwir y Rheoliadau hyn hefyd yn ddyletswyddau cydraddoldeb penodol i Gymru. 

Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 

Mae ‘awdurdodau rhestredig’ yn cyfeirio at gyrff cyhoeddus a restrir yn Rhan 2 o Atodlen 19.  Pan fyddwn yn cyfeirio at ‘sector cyhoeddus Cymru’ neu rywbeth tebyg, rydym yn cyfeirio at y cyrff hynny a restrir yn yr atodlen ac sy’n ddarostyngedig i ddyletswyddau cydraddoldeb penodol i Gymru yn unig. 

Nod Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 (Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol Cymru) yw galluogi Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus i gael ei chyflawni’n well. Maen nhw’n gwneud hynny drwy fynnu, er enghraifft, fod amcanion cydraddoldeb yn cael eu cyhoeddi ynghyd ag asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb, gofynion ymgysylltu, adroddiadau cynnydd, casglu data a mwy. Rhaid i’r amcanion cydraddoldeb, yn eu hanfod, geisio mynd i’r afael ag anghydraddoldebau sy’n gysylltiedig â’r 9 nodwedd warchodedig a nodir yn Neddf 2010. 

Rheoliad 16: adroddiadau blynyddol

Mae Pennod 1 yn yr adroddiad hwn yn cydymffurfio’n rhannol â rheoliad 16 o’r Rheoliadau sy’n darparu ar gyfer y dyletswyddau cydraddoldeb penodol i Gymru, sy’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad bob blwyddyn yn nodi sut maen nhw’n cydymffurfio â’r dyletswyddau penodol. 

Mae Pennod 1 yn cynnwys nifer o ddatganiadau cynnydd sy’n amlinellu sut rydym yn cydymffurfio â’r dyletswyddau penodol, gan gynnwys y rheini sy’n ymwneud ag ymgysylltu, tystiolaeth ynghylch cydraddoldeb ac asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb.

Deddf Llywodraeth Cymru 2006 

Mae’r ddyletswydd yn adran 77 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (“Deddf 2006”) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud trefniadau priodol er mwyn helpu i sicrhau bod eu swyddogaethau’n cael eu cyflawni gan roi sylw dyledus i’r egwyddor o sicrhau cyfle cyfartal i bawb.

Mae’r ddyletswydd hon yn pwysleisio ymhellach y pwysigrwydd y mae Gweinidogion yn ei roi ar brif ffrydio cydraddoldeb yn eu gwaith a sicrhau y rhoddir sylw dyledus i hynny wrth wneud eu penderfyniadau. Mae’r ddyletswydd o dan Ddeddf 2006 yn sicrhau ein bod yn rhoi pwys ar hyrwyddo cydraddoldeb, yn ogystal â chyflawni ein cyfrifoldebau dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys enghreifftiau ac astudiaethau achos sy’n amlinellu sut rydym wedi arfer ein swyddogaethau gan roi sylw dyledus i'r egwyddor o gyfle cyfartal i bawb. 

Y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol

Mae Adran 45 o Ddeddf Cymru 2017 yn datganoli’r pŵer i Weinidogion Cymru gychwyn y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol i Lywodraeth Cymru. 

Mae hyn yn golygu cyflwyno Rhan 1, Adran 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol). 

Mae’r ddyletswydd yn berthnasol i gyrff cyhoeddus cymwys, yr ystyrir eu bod wedi bodloni’r ‘prawf’ o dan adran 2(6) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. 

Wrth i gyrff cyhoeddus penodedig wneud penderfyniadau strategol fel ‘penderfynu ar flaenoriaethau a phennu amcanion’, mae’r ddyletswydd yn ei gwneud hi’n ofynnol iddynt ystyried sut gallai eu penderfyniadau helpu i leihau’r anghydraddoldebau sy’n gysylltiedig ag anfantais economaidd-gymdeithasol. 

Mae Llywodraeth Cymru yn diffinio’r term “anfantais economaidd-gymdeithasol” i olygu “Byw mewn amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd llai ffafriol na phobl eraill yn yr un gymdeithas”.

Bydd y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn sicrhau bod y rheini sy’n gwneud penderfyniadau strategol: 

  • yn ystyried tystiolaeth ac effaith bosibl drwy ymgynghori ac ymgysylltu
  • yn deall barn ac anghenion y rheini y mae'r penderfyniad yn effeithio arnynt, yn enwedig y rheini sydd dan anfantais economaidd-gymdeithasol
  • yn croesawu her a chraffu
  • yn sbarduno newid yn y ffordd y caiff penderfyniadau eu gwneud a'r ffordd y mae llunwyr penderfyniadau yn gweithredu

Mae amrywiaeth eang o ddeunyddiau ar gael i helpu unigolion a sefydliadau yn y Sector Cyhoeddus, gan gynnwys Cymru sy’n Fwy Cyfartal: Y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol ac Y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol: canllawiau ac adnoddau i gyrff cyhoeddus.

Atodiad 2: amcanion cydraddoldeb strategol 2020 i 2024

Mae ein Hamcanion Cydraddoldeb yn cyfrannu at fodloni 3 gofyniad y ddyletswydd gyffredinol ac yn ein helpu i weithio tuag at Gymru sy’n fwy cyfartal. Maent yn amlinellu ein hymrwymiad i ddileu’r rhwystrau sy’n cyfyngu ar gyfleoedd ac sy’n llesteirio dyheadau. Maent yn ceisio mynd i’r afael ag anghydraddoldebau hirdymor, sydd wedi’u sefydlu’n ddwfn, ac sy’n aml yn pontio’r cenedlaethau ar gyfer y rheini sydd â nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.  

Nod hirdymor 1: dileu anghydraddoldeb sy’n deillio o dlodi

Amcan Cydraddoldeb 1 Llywodraeth Cymru: Erbyn 2024, byddwn yn gwella canlyniadau ar gyfer y rheini sydd fwyaf mewn perygl o fyw ar aelwydydd incwm isel, yn enwedig y rheini sydd â nodweddion gwarchodedig, drwy liniaru effaith tlodi, gwella cyfleoedd a lleihau’r anghydraddoldebau y mae’r rheini sy’n byw mewn tlodi yn eu hwynebu. [Mesurir drwy amrywiaeth o ddata, gan gynnwys data sy’n ymwneud â HBAI (Cartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog)]. 

Nod hirdymor 2: mesurau amddiffyn cydraddoldeb a hawliau dynol cryf a blaengar i bawb yng Nghymru 

Amcan Cydraddoldeb 2 Llywodraeth Cymru: Erbyn 2024, byddwn yn cwblhau ymchwiliadau i ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru sicrhau fframwaith cydraddoldeb a hawliau dynol integredig sy’n hyrwyddo canlyniadau a chyfle cyfartal ac sy’n gallu helpu i ddileu gwahaniaethu ar gyfer pob grŵp o bobl sydd ag un neu ragor o nodweddion gwarchodedig [Mesurir drwy waith y Grŵp Llywio Hyrwyddo a Chryfhau Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.]

Nod hirdymor 3: bydd anghenion a hawliau pobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig yn flaenllaw yn y broses o gynllunio a darparu pob gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru

Amcan Cydraddoldeb 3 Llywodraeth Cymru: er mwyn gweithio tuag at feithrin cyfle a chanlyniadau cyfartal i bawb yng Nghymru, byddwn yn parhau i sicrhau bod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (SPED) a dyletswyddau cydraddoldeb penodol i Gymru ym mhopeth a wnawn, ac yn gweithio i annog sefydliadau eraill yn y Sector Cyhoeddus i ddilyn ein hesiampl. Drwy fabwysiadu dull gweithredu sy’n seiliedig ar ddileu rhwystrau sy’n atal pobl rhag cyflawni eu potensial (gan gynnwys, er enghraifft, cyflog cyfartal, neu ddilyn esiampl y Model Cymdeithasol o Anabledd), byddwn yn creu polisïau a gwasanaethau gwell i bawb. [Mesurir drwy wella trefniadau adrodd ar Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a newidiadau i reoliadau penodol i Gymru.]

Nod hirdymor 4: bydd Cymru’n arwain y byd o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Mae Cymru sy’n gyfartal o ran rhywedd yn golygu rhannu pŵer, adnoddau a dylanwad yn gyfartal rhwng pob menyw, dyn a phobl anneuaidd

Amcan Cydraddoldeb 4 Llywodraeth Cymru: byddwn yn dechrau cyflawni gweledigaeth ac egwyddorion yr Adolygiad o Gydraddoldeb rhwng y Rhywiau. [Mesurir drwy ddatblygu’r Adroddiad a’r Map ar gyfer ymgorffori egwyddorion ffeministaidd ar draws Llywodraeth Cymru.] 

Nod hirdymor 5: dileu cam-drin, aflonyddu, troseddau casineb a bwlio sy’n seiliedig ar hunaniaeth

Amcan Cydraddoldeb 5 Llywodraeth Cymru: erbyn 2024, byddwn yn sicrhau bod dioddefwyr sy’n dioddef cam-drin, aflonyddu, trosedd casineb neu fwlio o ganlyniad i gael un neu ragor o nodweddion gwarchodedig yn cael mynediad at gyngor a chymorth i fyw heb ofn a heb gael eu cam-drin.  [Mesurir drwy fonitro adroddiadau ar droseddau casineb, gwasanaethau a ddarperir gan Gymorth i Ddioddefwyr, cwnselwyr mewn ysgolion, monitro adroddiadau ar fwlio, ymatebion yr Arolwg Cenedlaethol ynghylch ofn troseddau / erledigaeth]

Nod hirdymor 6: Cymru o gymunedau cydlynus sy’n gydnerth, yn deg ac yn gyfartal

Amcan Cydraddoldeb 6 Llywodraeth Cymru: erbyn 2024, byddwn yn datblygu fframwaith monitro i fesur cynnydd tuag at gydlyniant cymunedol ac yn meithrin cysylltiadau da rhwng pob grŵp, gan adeiladu ar ein polisïau a’n hymyriadau presennol. [Mesurir gan fwy o fetrigau yn y Dangosyddion Cenedlaethol ar gyfer Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Dangosyddion Integreiddio’r Swyddfa Gartref].

Nod hirdymor 7: gall pawb yng Nghymru gymryd rhan mewn bywyd gwleidyddol, bywyd cyhoeddus a bywyd pob dydd

Amcan Cydraddoldeb 7 Llywodraeth Cymru: erbyn 2024, byddwn yn cynyddu amrywiaeth y rhai sy’n gwneud penderfyniadau mewn bywyd cyhoeddus a phenodiadau cyhoeddus, gan edrych ar feysydd lle mae angen cymryd rhagor o gamau gweithredu i sicrhau cydbwysedd gwell o amrywiaeth ymysg y rheini sy’n gwneud penderfyniadau a chanfod ac ymchwilio i ddulliau i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb. [Mesurir drwy’r % o unigolion o grwpiau gwarchodedig sy’n cael swyddi gwneud penderfyniadau mewn rolau cyhoeddus a gwleidyddol.]

Nod hirdymor 8: bydd y sector cyhoeddus yng Nghymru yn arwain y ffordd fel sefydliadau a chyflogwyr cynhwysol ac amrywiol sy’n dangos esiampl

Amcan Cydraddoldeb 8 Llywodraeth Cymru: erbyn 2024, bydd Llywodraeth Cymru yn gyflogwr sy’n dangos esiampl, gan gynyddu amrywiaeth, chwalu rhwystrau a chefnogi staff o bob cefndir i gyflawni eu potensial, a sicrhau cyfle cyfartal i bawb. [Mesurir drwy ddata amrywiaeth ym maes cyflogaeth a recriwtio a’r Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol.]

Atodiad 3: crynodeb o’r cynnydd tuag at Amcanion Cydraddoldeb

Mae’r atodiad hwn yn crynhoi’r cynnydd tuag at gyflawni’r nodau a’r amcanion yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020 i 2024.  Mae’r enghreifftiau isod yn enghreifftiau darluniadol, ac nid ydynt yn adlewyrchu’r ystod lawn o gamau a gymerwyd yn ystod y cyfnod hwn. 

Nod hirdymor 1: dileu anghydraddoldeb a achosir gan dlodi

Amcan 1: erbyn 2024, byddwn yn gwella canlyniadau ar gyfer y rheini sydd fwyaf mewn perygl o fyw ar aelwydydd incwm isel, yn enwedig y rheini sydd â nodweddion gwarchodedig, drwy liniaru effaith tlodi, gwella cyfleoedd a lleihau’r anghydraddoldebau y mae’r rheini sy’n byw mewn tlodi yn eu hwynebu. [Mesurir drwy amrywiaeth o ddata, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â HBAI (Cartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog)]

Cynnydd

Mae Llywodraeth Cymru yn adrodd yn flynyddol yn erbyn perfformiad sefydliadau cyflenwi sy’n darparu addasiadau tai. Buddsoddwyd cyfanswm o £31 miliwn mewn 64 cynllun ledled Cymru drwy’r Gronfa Tai â Gofal yn 2022 i 2023. 

Mae’r Gronfa wedi cefnogi newid sylweddol yn y ddarpariaeth o wasanaethau llety sy’n agos at gartref ar gyfer plant ag anghenion cymhleth, gan fuddsoddi mewn 19 o gynlluniau preswyl i blant, a 5 cynllun llety trosiannol, llety seibiant neu lety brys ar gyfer plant a phobl ifanc. 

Mae buddsoddiadau eraill yn cynnwys 14 cynllun byw â chymorth ar gyfer oedolion ag anabledd dysgu; 12 cynllun i bobl hŷn; a 6 chynllun llety â chymorth ar gyfer oedolion a theuluoedd sydd ag anghenion iechyd meddwl ac anghenion gofal eraill. 

Cafodd £23 miliwn o’r gyllideb £60 miliwn ei flaenoriaethu ar gyfer buddsoddi yn y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro.

Nod hirdymor 2: Mesurau amddiffyn cydraddoldeb a hawliau dynol cryf a blaengar i bawb yng Nghymru                       

Amcan 2: erbyn 2024, byddwn yn cwblhau ymchwiliadau i ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru sicrhau fframwaith cydraddoldeb a hawliau dynol integredig sy’n hyrwyddo canlyniadau a chyfle cyfartal ac sy’n gallu helpu i ddileu gwahaniaethu ar gyfer pob grŵp o bobl sydd ag un neu ragor o nodweddion gwarchodedig [Mesurir drwy waith y Grŵp Llywio Hyrwyddo a Chryfhau Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.]

Cynnydd

Mae Rhaglen Lywodraethu 2021 i 2026 Llywodraeth Cymru yn cynnwys ymrwymiadau i ymgorffori yng nghyfraith Cymru Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig 1. ar gyfer Dileu pob math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod a 2. ar Hawliau Pobl Anabl.

Mae ein hadroddiad ymchwil i Gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru, a gyhoeddwyd ar 26 Awst 2021, wedi archwilio ystod o faterion cysylltiedig a bydd yn goleuo ein gwaith yn y dyfodol. Gellir gweld ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad yma Adroddiad ymchwil Cryfhau a Hyrwyddo Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru: Ymateb Llywodraeth Cymru

Er mwyn goruchwylio’r gwaith hwn, rydym wedi sefydlu Grŵp Cynghori ar Hawliau Dynol (HRAG).  dan gyd-gadeiryddiaeth y Darpar Gwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip. Mae’r Grŵp yn monitro ac yn cynghori ar y pum prif ffrwd waith sy’n deillio o’r ymchwil (opsiynau deddfwriaethol; canllawiau; adolygu Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol Cymru; asesu a hyrwyddo effaith) ac yn cysylltu â’n fforymau cydraddoldeb eraill a gwaith sy’n deillio o’r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru.

Mae’r Gweithgor Opsiynau Deddfwriaethol (LOWG), un o is-bwyllgorau’r Grŵp Cynghori ar Hawliau Dynol, yn rhoi cyngor ar y camau nesaf i fwrw ymlaen â’r gwaith o ymgorffori Hawliau yng Nghymru. Mae’r LOWG wedi cyflwyno adroddiad interim.  Mae’r argymhellion cychwynnol yn galw am ddadansoddiad dyfnach o erthyglau’r cytuniad ar sail hawliau i ganfod beth y gellir ei gyflawni drwy ddeddfwriaeth Cymru.

Nod hirdymor 3: mae anghenion a hawliau pobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig yn flaenllaw yn y broses o gynllunio a darparu pob gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru

Amcan 3: er mwyn gweithio tuag at feithrin cyfle cyfartal a chanlyniadau i bawb yng Nghymru, byddwn yn parhau i sicrhau bod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a dyletswyddau cydraddoldeb penodol i Gymru ym mhopeth a wnawn, ac yn gweithio i annog sefydliadau eraill yn y Sector Cyhoeddus i ddilyn ein hesiampl. Drwy fabwysiadu dull gweithredu sy’n seiliedig ar ddileu rhwystrau sy’n atal pobl rhag cyflawni eu potensial (gan gynnwys, er enghraifft, cyflog cyfartal, neu ddilyn esiampl y Model Cymdeithasol o Anabledd), byddwn yn creu polisïau a gwasanaethau gwell i bawb. [Mesurir drwy wella trefniadau adrodd ar Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a newidiadau i reoliadau penodol i Gymru.] 

Cynnydd

Gan weithio gyda phlant a phobl ifanc agored i niwed a’u teuluoedd yn y system cyfiawnder teuluol, rhaglen Amrywiaeth a Chynhwysiant Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (CAFCASS) Cymru yw ein dull gweithredu a’n hymrwymiad i ddeall a gwerthfawrogi amrywiaeth, gan gydnabod bod pob plentyn yn unigolyn a gwerthfawrogi a hyrwyddo amrywiaeth yn ein gweithlu.

Rydym wedi sefydlu dull newydd o gasglu gwybodaeth am amrywiaeth mewn perthynas â phob Defnyddiwr Gwasanaeth, sy’n sail i’n gwaith ym mhob achos unigol yn ogystal ag adeiladu darlun o’n poblogaeth o Ddefnyddwyr Gwasanaeth.

Rydym yn adolygu’r wybodaeth sydd eisoes wedi’i chasglu i lywio’r gwaith o ddatblygu gwasanaethau ymhellach, fel datblygu canllawiau ynghylch sut rydym yn ymateb i Ddefnyddwyr Gwasanaeth gyda heriau cyfathrebu. 

Bydd yr wybodaeth a gesglir yn cael ei chasglu a’i dadansoddi ddwywaith y flwyddyn yn Cafcass Cymru.  Bydd hefyd ar gael gyda'r data dienw arall a rennir drwy’r Banc Data Cyswllt Gwybodaeth Ddienw Diogel (Banc Data SAIL), sy’n galluogi ymchwil academaidd i ystyried pwy sy'n rhan o achosion llys teulu a'r canlyniadau i'r plant a'r teuluoedd hynny.

Nod hirdymor 4: y bydd Cymru’n arwain y byd o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau

Amcan 4: byddwn yn dechrau cyflawni gweledigaeth ac egwyddorion yr Adolygiad o Gydraddoldeb rhwng y Rhywiau. [Mesurir drwy ddatblygu’r Adroddiad a’r Map ar gyfer ymgorffori egwyddorion ffeministaidd ar draws Llywodraeth Cymru.]

Cynnydd

Cynhaliodd Fforwm Cydraddoldeb Rhywiol, sy’n dwyn ynghyd randdeiliaid sy’n gweithio ar faterion cydraddoldeb rhywiol o bob rhan o Gymru, ei bedwar cyfarfod cyntaf. 

Mae’r Cynllun Gweithredu Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yn defnyddio’r argymhellion a wnaed yn adroddiad Chwarae Teg, Gwneud nid Dweud adolygiad o gydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru. Mae’r adroddiad hwn yn nodi bod gweledigaeth newydd ar gyfer cydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru yn galw am ddull prif ffrydio cydraddoldeb sy’n cynnwys cyllidebu ar sail rhyw fel elfen hanfodol. 

Mae cynnydd wedi’i wneud yn erbyn yr holl argymhellion yn yr Adolygiad Cydraddoldeb Rhywiol.  Mae 50 wedi’u cwblhau ac mae’r gweddill yn mynd rhagddynt. Mae rhai argymhellion yn gofyn am newid strwythurol hirdymor er mwyn gwreiddio cydraddoldeb. Mae’r cynnydd hyd yma yn adlewyrchu hyn. Mae’r cynnydd yn cynnwys:

  • cyflwyno’r strategaeth galluogrwydd polisi
  • y gwaith prif ffrydio cydraddoldeb
  • mabwysiadu croestoriadedd mewn cynlluniau cydraddoldeb
  • y diweddariadau a’r gwelliannau i’r asesiad effaith integredig
  • a’r cynlluniau peilot cyllidebu ar sail rhyw a’r gwaith i archwilio’r ffordd orau o’u gwreiddio ar draws y sefydliad

Roedd y Map yn cynnwys argymhellion a oedd yn nodi ystod o gamau gweithredu tymor canolig i Lywodraeth Cymru eu cymryd ar draws meysydd polisi gan gynnwys iechyd, addysg a sgiliau, tlodi a diwygio lles, cyflogaeth, gofal plant, trafnidiaeth a VAWDASV. Mae’r gwaith ym mhob un o’r meysydd hyn yn parhau. 

Mae cynnydd yn cael ei fesur drwy bob ymarfer penodi a gynhelir gan dimau CST ar gyfer Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru (WGSB) y maent yn gyfrifol amdanynt. Mae gan y Cyrff Diwylliant a Noddir gydbwysedd da rhwng y rhywiau ar eu Byrddau, gyda naill ai nifer cyfartal o aelodau gwrywaidd a benywaidd neu ychydig yn fwy o aelodau benywaidd na gwrywaidd e.e. ar hyn o bryd, mae gan Amgueddfa Cymru 7 o ddynion a 9 o fenywod, mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru 7 o ddynion a 7 o fenywod, mae gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru 4 o ddynion a 5 o fenywod. (Noder: gan fod yr adroddiad hwn yn ddatganiad o gynnydd ar adeg benodol, gall Aelodaeth y Bwrdd newid).

Nod hirdymor 5: dileu cam-drin, aflonyddu, troseddau casineb a bwlio sy’n seiliedig ar hunaniaeth 

Amcan 5: Erbyn 2024, byddwn yn sicrhau bod dioddefwyr sy’n dioddef cam-drin, aflonyddu, trosedd casineb neu fwlio o ganlyniad i gael un neu ragor o nodweddion gwarchodedig yn cael mynediad at gyngor a chymorth i fyw heb ofn a heb gael eu cam-drin. [Mesurir drwy fonitro adroddiadau ar droseddau casineb, gwasanaethau a ddarperir gan Gymorth i Ddioddefwyr, cwnselwyr mewn ysgolion, monitro adroddiadau ar fwlio, ymatebion yr Arolwg Cenedlaethol ynghylch ofn troseddau/erledigaeth]

Cynnydd

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Canolfan Cymorth Casineb Cymru, sy’n cael ei rhedeg gan Cymorth i Ddioddefwyr Cymru, i ddarparu cymorth cyfrinachol ac eiriolaeth am ddim i bawb sy’n dioddef troseddau casineb, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Mae’r cymorth yn cael ei ddarparu dros y ffôn, wyneb yn wyneb neu ar-lein.

Cafodd ystadegau cenedlaethol yn ymwneud â Troseddau Casineb, Cymru a Lloegr, 2022 i 2023 ail argraffiad eu rhyddhau gan y Swyddfa Gartref ar 2 Tachwedd 2023, sy’n dangos gostyngiad o 4% mewn troseddau casineb a gofnodwyd ledled Cymru o’i gymharu â 2021 i 2022. Mae hyn yn debyg i’r gostyngiad cyffredinol o 5% ar draws Cymru a Lloegr. Dyma’r gostyngiad blynyddol cyntaf ers i’r Swyddfa Gartref ddechrau casglu data cymaradwy yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2013 ar gyfer Cymru, a Lloegr a Chymru yn gyffredinol.

Mae’r Swyddfa Gartref yn nodi y credwyd bod cynnydd mewn troseddau casineb a gofnodwyd gan yr heddlu cyn y flwyddyn hon wedi’u sbarduno gan welliannau mewn cofnodi troseddau gan yr heddlu a gwell adnabyddiaeth o’r hyn sy’n gyfystyr â throsedd casineb.

Cofnodwyd 6,041 o droseddau casineb ar draws pedair Ardal Heddlu Cymru, ac o’r rhain roedd:

  • 3,727 (62%) yn droseddau casineb hil
  • 1,225 (20%) yn droseddau casineb cyfeiriadedd rhywiol
  • 287 (5%) yn droseddau casineb crefyddol
  • 849 (14%) yn droseddau casineb anabledd
  • 302 (5%) yn droseddau casineb trawsryweddol

Mae’r cyfrannau hyn yn debyg i 2021 i 2022, gyda chynnydd bach ar gyfer statws crefyddol a thrawsryweddol (rhwng 4% yn 2021 a 2022). Mae’n bosibl i un trosedd casineb gael fod â mwy nag un ffactor cymhellol, a dyna pam mae’r rhifau uchod yn cyfateb i fwy na 6,041 a 100 y cant. 

O’i gymharu â 2021 i 2022, roedd cynnydd yn nifer y troseddau casineb â statws crefyddol neu drawsryweddol fel ffactorau cymell a gofnodwyd, ac roedd gostyngiadau mewn troseddau casineb gydag anabledd, hil a chyfeiriadedd rhywiol fel ffactorau cymell a gofnodwyd:

  • gostyngiad o 8% (1,329 i 1,225) mewn troseddau casineb cyfeiriadedd rhywiol
  • gostyngiad o 4% (3,888 i 3,727) mewn troseddau casineb hil
  • gostyngiad o 2% (864 i 849) mewn troseddau casineb anabledd
  • gostyngiad o 22% (247 i 302) mewn troseddau casineb trawsryweddol
  • gostyngiad o 26% (227 i 287) mewn troseddau casineb crefydd

Gwelwyd cynnydd yn y cofnodi yn Ardal Heddlu Gwent, a gostyngiad yn nifer yr Ardaloedd Heddlu sy’n weddill yng Nghymru. Mae’r cynnydd yng Ngwent yn dilyn cynnydd mawr rhwng 2020 a 2021 a 2021 a 2022, pan welodd yr Ardal Heddlu hon gynnydd o 82% yn nifer y troseddau casineb a gofnodwyd.

  • Dyfed Powys: 750 o droseddau casineb (gostyngiad o 9% o 2021 i 2022)
  • Gwent: 1,358 o droseddau casineb (cynnydd o 10% o 2021 i 2022)
  • Gogledd Cymru: 1,3466 o droseddau casineb (gostyngiad o 11% o 2021 i 2022)     
  • De Cymru: 2,587 o droseddau casineb (gostyngiad o 5% o 2021 i 2022)

Rhwng 2012 a 2013 a 2022 a 2023 mae troseddau casineb a gofnodwyd gan heddluoedd Cymru wedi cynyddu 242%, o 1,765 i 6,041. Mae’n ansicr i ba raddau y mae’r cynnydd a welwyd dros y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i’r patrwm o welliannau mewn cofnodi gan yr heddlu neu’n cynrychioli cynnydd gwirioneddol mewn troseddau casineb.

Nod hirdymor 6: Cymru o gymunedau cydlynus sy’n gydnerth, yn deg ac yn gyfartal

Amcan 6: Erbyn 2024, byddwn yn datblygu fframwaith monitro i fesur cynnydd tuag at gydlyniant cymunedol ac yn meithrin cysylltiadau da rhwng pob grŵp, gan adeiladu ar ein polisïau a’n hymyriadau presennol. [Mesurir gan fwy o fetrigau yn y Dangosyddion Cenedlaethol ar gyfer Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Dangosyddion Integreiddio’r Swyddfa Gartref].

Cynnydd

Mae ein Rhaglen Cydlyniant Cymunedol yn ariannu wyth tîm ledled Cymru i ddarparu cymorth rheng flaen i gymunedau. Yn dilyn adolygiad annibynnol o’r Rhaglen Cydlyniant Cymunedol, cytunodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip y dylai’r Rhaglen barhau i gael ei hariannu hyd 2025 i 2026 i sicrhau y gall y gwaith gwerthfawr barhau yng Nghymru. Mae canfyddiadau ac argymhellion yr adolygiad annibynnol wedi siapio a llywio ein blaenoriaethau yn y maes hwn, a bydd hyn yn cael ei ddefnyddio fel llwyfan i adeiladu gwaith yn y dyfodol a sut rydym yn monitro hyn.

Eleni, mae gwaith y Rhaglen Cydlyniant hefyd wedi bod yn hollbwysig yn ein helpu i gefnogi llywodraeth leol i gymryd rhan yn y gwaith o adsefydlu a gwasgaru ceiswyr lloches o Affganistan dros y misoedd diwethaf, yn ogystal â’n hymateb o ran cefnogi ffoaduriaid o Wcráin. 

Nod hirdymor 7: gall pawb yng Nghymru gymryd rhan mewn bywyd gwleidyddol, bywyd cyhoeddus a bywyd pob dydd

Amcan 7: erbyn 2024, byddwn yn cynyddu amrywiaeth y rhai sy’n gwneud penderfyniadau mewn bywyd cyhoeddus a phenodiadau cyhoeddus, gan edrych ar feysydd lle mae angen cymryd rhagor o gamau gweithredu i sicrhau cydbwysedd gwell o ran amrywiaeth ymysg y rheini sy’n gwneud penderfyniadau a chanfod ac ymchwilio i ddulliau i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb. [Mesurir drwy’r % o unigolion o grwpiau gwarchodedig sy’n cael swyddi gwneud penderfyniadau mewn rolau cyhoeddus a gwleidyddol.]

Cynnydd

Cafodd ein Strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer penodiadau cyhoeddus ei lansio ym mis Chwefror 2020. Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, a gyhoeddwyd yn 2022, yn nodi ymrwymiadau i ymgysylltu’n rhagweithiol â Chadeiryddion Byrddau i wella arweinyddiaeth o ran gwrth-hiliaeth ac i dreialu proses casglu data ar gyfer nodweddion cydraddoldeb Cyrff Sector Cyhoeddus a reoleiddir. 

Mae gwaith yn mynd rhagddo yn ein Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi i edrych ar gasglu data demograffig presennol gan Fyrddau. 

Cytunodd y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip ar gyllid i gefnogi cysgodi swyddi ar gyfer pobl o grwpiau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a phobl anabl ar Fyrddau. Bydd hyn yn sicrhau piblinell brofiadol i benodiadau cyhoeddus. Bydd hefyd yn sicrhau cydraddoldeb cyflog i bobl sy’n cysgodi swyddi.

Rydym wedi recriwtio 13 o Uwch Aelodau Annibynnol o’r Panel o gefndiroedd eang ac amrywiol (wedi’u recriwtio drwy broses gystadleuol). 

Rydym hefyd wedi comisiynu rhaglenni hyfforddi i alluogi pobl i ennill y sgiliau i wneud cais i fod yn aelod o Fwrdd. Maent wedi’u hanelu at bobl anabl yn ogystal â phobl o gymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Cafodd y rhaglenni hyfforddi eu rhoi ar waith ym mis Gorffennaf 2022 a byddant yn rhedeg tan 31 Mawrth 2024.

Nod hirdymor 8: bydd y sector cyhoeddus yng Nghymru yn arwain y ffordd fel sefydliadau a chyflogwyr cynhwysol ac amrywiol sy’n dangos esiampl 

Amcan 8: erbyn 2024, bydd Llywodraeth Cymru yn gyflogwr sy’n dangos esiampl, gan gynyddu amrywiaeth, chwalu rhwystrau a chefnogi staff o bob cefndir i gyflawni eu potensial, a sicrhau cyfle cyfartal i bawb. [Mesurir drwy ddata amrywiaeth ym maes cyflogaeth a recriwtio a’r Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol.]

Ein hamcan cyffredinol, a nodir yng Nghynllun Cydraddoldeb Strategol 2020 i 2024 Llywodraeth Cymru, yw y bydd Llywodraeth Cymru yn gyflogwr sy’n dangos esiampl drwy gynyddu amrywiaeth drwy:

  • fynd i’r afael yn benodol â thangynrychiolaeth pobl anabl a phobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig ar bob lefel o’r sefydliad a thangynrychiolaeth menywod mewn rolau uwch
  • cael gwared ar rwystrau
  • cefnogi prentisiaethau o gymunedau amrywiol
  • galluogi staff o bob cefndir i gyflawni eu potensial, gan greu cyfle cyfartal i bawb

Mae strategaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant y gweithlu Llywodraeth Cymru: 2021 i 2026 yn gosod targedau uchelgeisiol. Mewn recriwtio allanol:

  • erbyn 2026, rydym yn anelu i 20% o’r bobl rydym yn eu penodi fod yn anabl a bydd 20% o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig
  • erbyn 2030, ein nod yw cynyddu hyn fel bod 30% o’r bobl rydyn ni’n eu penodi yn anabl, er mwyn gwneud cynnydd mwy o ran y tangynrychiolaeth fawr iawn o bobl anabl yn ein sefydliad
  • bydd dros 50% o’r penodiadau i’r Uwch Wasanaeth Sifil yn Llywodraeth Cymru rhwng nawr a 2026 yn fenywod

Wrth recriwtio’n fewnol, ein dyheadau yw:

  • dyrchafu staff anabl ar lefel sy’n uwch na’u cyfran o’r boblogaeth, er mwyn mynd i’r afael â thangynrychiolaeth ar bob lefel yn y sefydliad
  • hyrwyddo staff o leiafrifoedd ethnig ar lefel sy’n uwch na’u cyfran o’r boblogaeth, er mwyn mynd i’r afael â thangynrychiolaeth ar bob lefel yn y sefydliad
  • i dros 50% o’r dyrchafiadau i’r Uwch Wasanaeth Sifil fod yn fenywod

Cynnydd

Caiff cynnydd ar ein targedau ei fesur yn flynyddol, mewn blwyddyn galendr. 

Mae Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar Gydraddoldeb Cyflogwyr 2021 i 2022 yn nodi’r cynnydd a wnaed yn erbyn y 6 targed recriwtio ar gyfer y flwyddyn galendr 2021, a oedd yn dangos bod pedwar o’r 6 tharged recriwtio wedi cael eu cyrraedd. 

Rhagorwyd ar y targedau 50% ar gyfer dyrchafu a recriwtio menywod yn allanol i’r Uwch Wasanaeth Sifil. 

Rhagorwyd ar y targed i staff Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig gael eu dyrchafu ar gyfraddau uwch na’u cyfran o boblogaeth Llywodraeth Cymru.

Roedd y targed cyfatebol ar gyfer staff anabl yn unol â’r targed a osodwyd. 

Fodd bynnag, ni chyrhaeddwyd y targedau 20% ar gyfer recriwtio pobl o leiafrifoedd ethnig a phobl anabl yn allanol, gyda’r cyfrannau’n gweld ychydig iawn o newid ers y flwyddyn flaenorol.

Bydd Adroddiad Blynyddol Cydraddoldeb Cyflogwyr 2022 i 2023 yn cael ei gyhoeddi cyn 31ain Mawrth 2023.