Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae canlyniadau Cyfnod Allweddol 3 yn ymwneud â phlant 14 oed. Ni chasglwyd y data yn 2020 a 2021 oherwydd y pandemig coronafeirws (COVID-19). Dechreuodd cwricwlwm newydd i Gymru gael ei gyflwyno mewn ysgolion a lleoliadau ym mis Medi 2022. O ganlyniad, nid yw canlyniadau asesiadau athrawon y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2 yn cael eu casglu mwyach.

Mae’r holl ddata yn yr adroddiad hwn yn cael ei gasglu gan Lywodraeth Cymru oddi wrth ysgolion mewn datganiad electronig o’r enw Casgliad Data Cenedlaethol (NDC).

Canlyniadau ar gyfer pob disgybl

Mae’r Dangosydd Pwnc Craidd (DPC) yng Nghyfnod Allweddol 3 yn cynrychioli canran y disgyblion sy’n cyflawni’r lefel ddisgwyliedig (lefel 5 neu uwch), yn seiliedig ar asesiadau athrawon, mewn Saesneg neu Gymraeg (iaith gyntaf), Mathemateg a Gwyddoniaeth gyda’i gilydd ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3, 14 oed.

Ffigur 1: Canran y disgyblion a gyflawnodd y DPC Cyfnod Allweddol 3, 1999 i 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: siart llinell sy'n dangos fod canran y disgyblion a gyflawnodd y DPC yng Nghyfnod Allweddol 3 wedi cynyddu ym mhob blwyddyn rhwng 2007 a 2018 ond mae wedi gostwng ers hynny.

Canran y disgyblion a gyflawnodd y DPC Cyfnod Allweddol 3 (StatsCymru)

  • Cyflawnodd 77% o ddisgyblion y DPC yng Nghyfnod Allweddol 3 yn 2023, i lawr o 78% yn 2022 ac 86% yn 2019.
  • Gallai'r cwymp rhwng 2019 a 2022 fod yn rhannol oherwydd yr aflonyddwch i ysgolion a achoswyd gan bandemig y coronafeirws (COVID-19).

Ffigur 2: Canran y disgyblion a gyflawnodd lefelau Cyfnod Allweddol 3, yn ôl pwnc, 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart bar wedi'i stacio sy'n dangos bod mwy na 85% o ddisgyblion wedi cyflawni o leiaf y lefel ddisgwyliedig o Lefel 5 neu uwch ym mhob pwnc craidd yn 2023. Cyflawnodd mwy na hanner y disgyblion Lefel 6 neu uwch ym mhob pwnc.   

Canran y disgyblion a gyflawnodd lefelau Cyfnod Allweddol 3 yn y pynciau craidd (StatsCymru)

[Nodyn 1] Mae D (datgymhwyso) yn cynrychioli disgyblion sydd wedi’u datgymhwyso o dan adrannau 113 i 116 o Ddeddf Addysg 2002, neu ddisgyblion na allai athrawon ddarparu asesiad ar eu cyfer. Mae N yn cynrychioli disgyblion na ddyfarnwyd lefel iddynt am resymau heblaw datgymhwyso.

Canlyniadau ar gyfer gwrywod a benywod

Ffigur 3: Canran y gwrywod a benywod a gyflawnodd y DPC Cyfnod Allweddol 3, 1999 i 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart llinell sy'n dangos bod canran y menywod sy'n cyflawni'r dangosydd pwnc craidd yng Nghyfnod Allweddol 3 wedi bod yn uwch na gwrywod ym mhob blwyddyn ers 1999, ond mae'r bwlch yn llai ers 2015 nag mewn blynyddoedd blaenorol.

Canran y disgyblion a gyflawnodd y DPC Cyfnod Allweddol 3, yn ôl rhyw (StatsCymru)

  • Cyflawnodd 79.6% o fenywod a 74.4% o wrywod y DPC yng Nghyfnod Allweddol 3 yn 2023, bwlch o 5.2 pwynt canran; dyma'r bwlch lleiaf ers dechrau casglu data yn 1999.
Tabl 1: Canran y gwrywod a benywod a gyflawnodd y lefel disgwyliedig yn y pynciau craidd Cyfnod Allweddol 3, 2023
Pwnc Benyw Gwryw
Saesneg 89.0 81.6
Cymraeg 91.0 81.8
Mathemateg 85.5 84.8
Gwyddoniaeth 88.2 85.1
Dangosydd Pynciau Craidd 79.6 74.4
Darllen, Ysgrifennu a Mathemateg 80.0 72.9
Darllen, Ysgrifennu, Mathemateg
a Gwyddoniaeth
77.6 70.5

Mae'r tabl yn dangos bod canran uwch o fenywod na gwrywod wedi cyflawni'r lefel ddisgwyliedig yng Nghyfnod Allweddol 3 ym mhob pwnc craidd yn 2023.

  • Roedd y bwlch rhwng benywod a gwrywod yn y ganran a gyflawnodd o leiaf y lefel ddisgwyliedig yn fwyaf yn y Gymraeg (9.2 pwynt canran) a'r lleiaf mewn Mathemateg (0.7 pwynt canran).
  • Y bwlch rhwng benywod a gwrywod yng nghanran y disgyblion a gyflawnodd o leiaf y lefel ddisgwyliedig mewn Darllen ac Ysgrifennu (Cymraeg neu Saesneg) a Mathemateg ac mewn Darllen ac Ysgrifennu (Cymraeg neu Saesneg), Mathemateg a Gwyddoniaeth oedd 7.1 a 7.2 pwynt canran yn y drefn honno yn 2023.

Canlyniadau yn ôl hawl i gael prydau ysgol am ddim

Mae disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim os yw eu teuluoedd yn derbyn rhai budd-daliadau/taliadau cymorth. Yn dilyn dilysu data am brydau ysgol am ddim ar gyfer mis Ionawr 2023, daeth yn amlwg fod nifer y disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim drwy'r meini prawf modd wedi cael eu gor-gofnodi yn 2020 i 2022, a allai gael effaith fach ar gymariaethau rhwng 2022 a blynyddoedd eraill. Gweler nodiadau ansawdd am ragor o wybodaeth. Nid yw'n bosibl adolygu'r data hwn. Gweler Canlyniadau cyfrifiad ysgolion: ym mis Ionawr 2023 am fwy o wybodaeth.

Ffigur 4: Canran y disgyblion a gyflawnodd y DPC Cyfnod Allweddol 3, yn ôl hawl i brydau ysgol am ddim (PYD), 2005 i 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart llinell yn dangos bod y bwlch yng nghanran y disgyblion nad ydynt yn gymwys i gael PYD a disgyblion a oedd yn gymwys i gael PYD ddim a gyflawnodd y dangosydd pwnc craidd yng Nghyfnod Allweddol 3 ar ei isaf rhwng 2016 a 2019.

Canran y disgyblion a gyflawnodd y DPC Cyfnod Allweddol 3, yn ôl hawl i brydau ysgol am ddim (PYD) (StatsCymru)

  • Cyflawnodd 83% o ddisgyblion nad ydynt yn gymwys i gael PYD a 55% o ddisgyblion sy’n gymwys i gael PYD y DPC yng Nghyfnod Allweddol 3 yn 2023, bwlch o 27 pwynt canran; mae hyn yn fwy na’r bwlch o gwmpas 20 pwynt canran a welwyd yn y pedair blynedd cyn y pandemig coronafeirws (COVID-19); gostyngodd y bwlch pob blwyddyn rhwng 2008 a 2018
Tabl 2: Canran y disgyblion a gyflawnodd lefelau Cyfnod Allweddol 3 yn y pynciau craidd, yn ôl hawl i brydau ysgol am ddim (PYD), 2023
Pwnc Dim yn gymwys i PYD Gymwys i PYD
Saesneg 89.6 69.3
Cymraeg 88.6 70.0
Mathemateg 89.6 68.8
Gwyddoniaeth 90.6 72.5
Dangosydd Pynciau Craidd 82.8 55.5

Mae'r tabl yn dangos bod y bwlch rhwng disgyblion nad ydynt yn gymwys i gael PYD a disgyblion sy'n gymwys i gael PYD yn y ganran a gyflawnodd o leiaf y lefel ddisgwyliedig yn fwyaf mewn Mathemateg (20.8 pwynt canran) ac yn lleiaf mewn Gwyddoniaeth (18.1 pwynt canran).

Gwybodaeth pellach

Mae canlyniadau Cyfnod Allweddol 3 yn y pynciau craidd yng Nghyfnod Allweddol 3 ar gael ar StatsCymru.

Yn gyffredinol:

  • roedd canlyniadau disgyblion o gefndir ethnig Tsieineaidd neu Tsieineaidd Prydeinig yn uwch na disgyblion o gefndiroedd ethnig eraill
  • cafodd disgyblion a oedd yn astudio Saesneg fel Iaith Ychwanegol ganlyniadau uwch lle cawsant eu cofnodi fel ‘cymwys’ neu ‘rhugl’
  • cafodd disgyblion â lefelau is o anghenion dysgu ychwanegol neu anghenion addysgol arbennig ganlyniadau uwch
  • cafodd disgyblion a enid yn gynharach yn y flwyddyn academaidd ganlyniadau uwch na disgyblion a enid yn ddiweddarach yn y flwyddyn
  • mae hyn yn gyson â dadansoddiad o flynyddoedd blaenorol

Mae canlyniadau Cyfnod Allweddol 3 ar gyfer pynciau di-graidd hefyd i'w gweld ar StatsCymru. Y pynciau di-graidd yw Celf a dylunio, Dylunio a thechnoleg, Daearyddiaeth, Hanes, Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Ieithoedd Tramor Modern, Cerddoriaeth, Addysg Gorfforol a Chymraeg ail iaith.

Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007 ac sy’n golygu eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu fod yr ystadegau swyddogol yn cwrdd â’r safonau uchaf o ddibynadwyaeth, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd o’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Ceir eu dyfarnu fel statws Ystadegau Gwladol yn dilyn asesiad gan fraich rheoli Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig. Mae’r Awdurdod yn ystyried os ydy’r ystadegau yn cwrdd â’r safonau uchaf o gydymffurfiad â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ychwanegu i benderfyniadau a dadlau cyhoeddus. Cadarnhawyd dynodiad yr ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol ym mis Gorffennaf 2010 yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer (Saesneg yn unig).

Ers yr adolygiad diweddaraf gan Swyddfa ar gyfer Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol:

  • wedi'i ychwanegu at a gwella'r wybodaeth am ddimensiynau ansawdd a disgrifio cysylltiadau â pholisi.
  • darparu mwy o ddata ar StatsCymru.
  • gwella'r fformat i gynnwys siartiau sy'n rhoi mewnwelediad pellach i rywfaint o'r wybodaeth allweddol.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw i gynnal cydymffurfiad â’r safonau a ddisgwylir o Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu os yw’r ystadegau yma yn dal i gwrdd â’r safonau priodol, byddwn yn trafod hyn yn brydlon gyda’r Awdurdod. Gall statws Ystadegau Gwladol gael ei diddymu ar unrhyw bryd pan mae’r safonau uchaf heb eu cynnal, a’i ddyfarnu unwaith eto pan mae’r safonau yn cael eu hadfer.

Mae’r adran hon yn rhoi crynodeb o’r wybodaeth am yr allbwn hwn o dan bum agwedd ar ansawdd: Perthnasedd, Cywirdeb, Amseroldeb a Phrydlondeb, Hygyrchedd ac Eglurder, a Chymaroldeb. Mae hefyd yn ymdrin â materion penodol sy’n ymwneud ag ansawdd data 2023, ac yn disgrifio’r offeryn rheoli ansawdd a ddefnyddir yn y maes gwaith hwn.

Perthnasedd

Caiff yr ystadegau eu defnyddio gan swyddogion yn Llywodraeth Cymru a'r tu allan iddi i fonitro tueddiadau addysgol, ac fel llinell sylfaen ar gyfer dadansoddi pellach o'r data sylfaenol. Dyma rai o'r prif ddefnyddwyr:

  • gweinidogion a Gwasanaeth Ymchwil y Senedd
  • aelodau Senedd Cymru
  • polisï addysg o fewn Llywodraeth Cymru
  • rhannau eraill o Lywodraeth Cymru
  • y gymuned ymchwil
  • AALlau, ysgolion a chonsortia
  • Estyn
  • myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
  • dinasyddion unigol, cwmnïau preifat a'r cyfryngau

Mae'r ystadegau hyn yn cael eu defnyddio mewn sawl ffordd. Dyma rai enghreifftiau:

  • cefndir cyffredinol ac ymchwil
  • i'w cynnwys mewn adroddiadau a bwletinau
  • cyngor i Weinidogion
  • cynnig gwybodaeth sy'n sail i'r broses o wneud penderfyniadau ym maes polisi addysg yng Nghymru, gan gynnwys ad-drefnu ysgolion
  • maes addysg Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru
  • i ategu gwaith ymchwil ym maes cyrhaeddiad addysgol

Cywirdeb

Mae Llywodraeth Cymru'n cydweithio'n agos ag ysgolion ac Awdurdodau Lleol er mwyn sicrhau bod yr holl ddata'n cael eu dilysu cyn cyhoeddi'r tablau. Os bydd unrhyw anomaleddau yn y data o'u cymharu â'r flwyddyn flaenorol, mae Llywodraeth Cymru yn herio ysgolion ac Awdurdodau Lleol ynglŷn â’r anomaleddau hynny yn y data. Mae'r data terfynol yn cael eu cymeradwyo gan ysgolion ac Awdurdodau Lleol bob blwyddyn. Mae data’n cael ei goladu i ffurflen electronig o’r enw Casglu Data Cenedlaethol (NDC) a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru drwy DEWi, system trosglwyddo data ar-lein ddiogel a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru. Fel rhan o'r broses, ceir nifer o gamau awtomatig i ddilysu a gwirio'r synnwyr, er mwyn sicrhau data o ansawdd uchel.

Mae rhagor o wybodaeth am lefelau Cyfnod Allweddol 3 i'w gweld yn y Nodiadau cwblhau technegol Casgliad Data Cenedlaethol a chanllawiau cwricwlwm 2008.

Yn dilyn datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog dros Addysg yng Ngorffennaf 2018, ac ymgynghoriad a orffennodd yn Ionawr 2018, ni fyddwn bellach yn cyhoeddi data'r Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3 ar lefel ysgol, awdurdod na chonsortia. Mae hwn yn gam sylweddol i ffwrdd o gasglu gwybodaeth am berfformiad pobl ifanc fesul ysgol at ddibenion atebolrwydd.

Gostyngodd canran y disgyblion sy’n cyflawni o leiaf y lefel ddisgwyliedig yn 2019 ym mhob pwnc craidd/maes dysgu ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen ac ar gyfer y ddau Gyfnod Allweddol. Gallai hyn fod yn adlewyrchiad o’r newidiadau hyn, lle mae prif ddiben asesiadau athrawon wedi dechrau symud yn ôl at ddysgwyr unigol ac i ffwrdd o ddwyn ysgolion i gyfrif.

Yn dilyn dilysu data am brydau ysgol am ddim ar gyfer mis Ionawr 2023, daeth i'r amlwg y gallai nifer y disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim drwy'r meini prawf modd fod wedi cael eu gor-gofnodi yn 2020 i 2022, a allai gael effaith fach ar gymariaethau rhwng 2022 a blynyddoedd eraill. Y bwlch yng nghanran y disgyblion a gyflawnodd y DPC Cyfnod Allweddol 3 yn ôl hawl i PYD oedd 25.0 pwynt canran yn 2022. Mae'r bwlch yn 24.7 pwynt canran os yw pob disgybl sy'n gymwys i gael PYD neu warchodaeth drosiannol yn cael eu cynnwys.

Tabl 3: Canran y disgyblion sy'n cyflawni dangosyddion pwnc craidd Cyfnod Allweddol 3, yn ôl cymhwyster prydau ysgol am ddim (PYD) a gwarchodaeth drosiannol (TP), 2022
Mesur DPC CA3
Gymwys i PYD 59.0
Dim yn gymwys i PYD 84.0
Gymwys i PYD neu TP 60.0
Dim yn gymwys i PYD neu TP 84.7

Amseroldeb a phrydlondeb

Roedd DEWi ar gael i lanlwytho ffeiliau ar 16 Mai 2023. Gofynnwyd i ysgolion gyflwyno data ar gyfer pob disgybl ar gofrestr yr ysgol ar 16 Mai yn barod ar gyfer Profion Darllen Cenedlaethol perthnasol y Cyfnod Sylfaen/Cyfnodau Allweddol. Yna, gofynnwyd i ysgolion ac Awdurdodau Lleol ddilysu eu data o fewn y cyfnod dilysu, a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2023.

Hygyrchedd ac eglurder

Mae’r Datganiad Ystadegol Cyntaf hwn yn cael ei hysbysebu ymlaen llaw ac yna ei gyhoeddi ar yr adran Ystadegau o wefan Llywodraeth Cymru. Yn cyd-fynd ag ef mae Taenlen Dogfen a mae tablau manylach ar StatsCymru, gwasanaeth y gellir ei ddefnyddio am ddim sy’n caniatáu i ymwelwyr weld, trin, creu a lawrlwytho data.

Cyfatebolrwydd

Nid yw data ar gyfer Cymeu yn gyfatebol i ddata o wledydd eraill y DU.

Deddf Allegiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021. yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016. 

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Steve Hughes
E-bost: ystadegau.ysgolion@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Ystadegau Gwladol

SFR: 75/2023