Neidio i'r prif gynnwy

Cyfnewid cwotâu pysgodfeydd a threfniadau lesio a gwrthdaro posibl â'r Rhwymedigaeth Lanio.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Os nad oes gan Aelod-Wladwriaeth ddigon o gwotâu ar gyfer rhai rhywogaethau efallai y bydd modd iddo gyfnewid cwotâu ag Aelod-Wladwriaethau eraill. Gelwir hyn yn gyfnewid cwota ar lefel ryngwladol. Gall cyfnewid cwotâu a threfniadau lesio ddatrys problemau o ran effeithlonrwydd o fewn y dyraniadau cychwynnol. Caiff y cwota ei lesio a'i gyfnewid, gan drosglwyddo'r cwota i'r gweithredwyr effeithlon. Mae hynny’n golygu:

  • gall cyfarpar cyfalaf gael eu defnyddio i'r eithaf
  • costau sefydlog cyfartalog is
  • caiff cwotâu eu defnyddio'n llawn

O fewn pysgodfeydd cymysg gallai cwch fod â chwota ar gyfer mwy nag un rhywogaeth. Gall hyn achosi gwrthdaro o dan y rhwymedigaeth lanio. Efallai nad oes gan y cwch gwota digonol ar gyfer dalfeydd diangen ond bydd yn rhaid iddo eu glanio. Gall hyn o bosibl roi stop ar bysgota, a chaiff ei alw’n yn senario atal.

Mae canllawiau am gyfnewid cwotâu ar lefel ryngwladol i'w gweld ar wefan Llywodraeth y DU.

Mae'r canllawiau hyn yn pennu'r broses y bydd gweinyddiaethau pysgodfeydd y DU yn ei dilyn. Mae'n ystyried y goblygiadau sydd ynghlwm wrth geisiadau i gyfnewid cwotâu ar lefel ryngwladol o ystyried y bygythiadau presennol ynghylch rhywogaethau atal. 

Mae'n ategu'r darpariaethau yn Rheolau Rheoli Cwotâu y DU. Nid yw'r canllawiau, fodd bynnag, yn cynnwys rhestr o stociau rhywogaethau atal. Nid oes rhestr oherwydd mae angen osgoi unrhyw ragdybiaeth o ran:

  • dim ond stociau rhestredig a gaiff eu hystyried
  • caiff ceisiadau yn cynnwys stociau rhestredig eu gwrthod