Neidio i'r prif gynnwy

O dan reoliad sylfaenol y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin, mae dyletswydd i gadw a glanio pob pysgodyn a fyddai'n flaenorol wedi'i daflu yn ôl i'r môr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Os ydych yn glanio gwastraff pysgod gan gydymffurfio â hynny, rhaid ichi gael gwared arno mewn ffyrdd penodol.

Ni chaniateir gwerthu pysgod sy'n rhy fach i'w bwyta’n uniongyrchol gan bobl.

Mae'r marchnadoedd lle y byddai’r pysgod hyn yn cael eu defnyddio at ddibenion eraill yn cynnwys:

  • blawd pysgod
  • olew pysgod
  • abwyd
  • bwyd anifeiliaid anwes
  • cynhyrchion fferyllol
  • cynnyrch cosmetig.

Pan nad yw pysgod yn rhan o gadwyn i'w bwyta gan bobl, rhaid i'r broses gydymffurfio â'r Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid.

Cofiwch mai ni sy’n cyflawni’r rolau rheoli a gorfodi yma yng Nghymru. Yn Lloegr, DEFRA a'r Sefydliad Rheoli Morol sy'n gwneud hynny.

Ymgysylltu â rhanddeiliaid

Rydym wedi dod â grŵp o randdeiliaid ynghyd sydd â diddordeb yn y ffordd y caiff gwastraff pysgod ei reoli ar y tir. Nid yw'n debygol y bydd llawer o wastraff o'r fath yn cael ei lanio yng Nghymru yn unol â'r rhwymedigaeth lanio. Ond, bydd y grŵp hwn yn cyfarfod yn ôl yr angen i adolygu'r sefyllfa wrth iddi ddatblygu.