Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin yn set o reolau i reoli fflydoedd pysgota'r UE a gwarchod stociau o bysgod.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wedi'i ddylunio i reoli adnodd cyffredin, mae'n:

  • rhoi mynediad cyfartal i ddyfroedd a thir pysgota'r UE i bob fflyd pysgota Ewropeaidd
  • caniatáu i bysgotwyr gystadlu'n deg
  • ei gwneud hi'n bosibl rheoli pysgodfeydd o ddydd i ddydd drwy drwyddedu (ee cychod pysgota, cwotâu ac ati)
  • cynnig ymgysylltiad cenedlaethol a diwydiannol drwy ddull rheoli llai canolog

Cynaliadwyedd

Efallai fod stociau'n adnewyddadwy, ond maent yn gyfyngedig. Serch hynny, mae rhai o'r stociau hyn o bysgod yn cael eu gorbysgota. Pwrpas y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin yw gwneud yn siŵr bod diwydiant pysgota Ewrop:

  • yn gynaliadwy
  • yn peidio â bygwth maint a chynhyrchiant y boblogaeth pysgod dros y tymor hir

Er ei bod yn bwysig gwneud y mwyaf o ddalfeydd, rhaid cael cyfyngiadau. Mae'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin yn mabwysiadu dull gofalus sy'n:

  • cydnabod effaith gweithgareddau dynol ar bob rhan o'r ecosystem
  • ceisio gwneud fflydoedd pysgota'n fwy detholus o ran yr hyn maent yn ei ddal
  • ceisio cael gwared ar yr ymarfer o ollwng pysgod dieisiau

Mae angen i ni wneud yn siŵr nad yw ymarferion pysgota yn niweidio gallu poblogaethau pysgod i atgenhedlu. Felly, mae'n rhaid i'r cyfyngiadau dal a osodir rhwng 2015 a 2022 fod yn gynaliadwy a chynnal stociau o bysgod yn y tymor hir.

Diwygio'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin

Mae'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin yn rhan o becyn o fesurau sy'n cynnwys:              

Ymysg y diwygiadau hyn mae:

  • yr ymrwymiad glanio pelagig a'r ymrwymiad glanio dyfnforol (a elwir yn waharddiadau gollwng)
  • yr angen i sicrhau'r "Cynnyrch Cynaliadwy Mwyaf" ar gyfer yr holl brif bysgodfeydd erbyn 2020
  • rhagor o ddealltwriaeth a rheolaeth ar lefel genedlaethol a rhanbarthol o ran rheoli fflydoedd a chyfleoedd pysgota