Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin yn cynnwys dyletswydd gyfreithiol i gadw a glanio pysgod, gan gynnwys y rheini a fyddai wedi cael eu gollwng yn y gorffennol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwynwyd y rhwymedigaeth lanio ar sail ranbarthol. Yn y DU mae rhanbarth Môr y Gogledd a rhanbarth Dyfroedd y Gogledd-orllewin, sy'n cynnwys holl ddyfroedd Cymru.

Mae cyngor cynghori rhanbarthol wedi'i sefydlu ar gyfer pob ardal forol. Mae'r cyngor hwn yn cynnwys rhanddeiliaid o aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud â physgodfeydd. Mae'r cyngor yn cynnig cyngor ac yn cyflwyno argymhellion i Gomisiwn yr UE.

Cafodd y rhwymedigaeth lanio ei chyflwyno ar wahân ar gyfer y ddau brif grŵp o rywogaethau yn Rhanbarth Dyfroedd y Gogledd-orllewin. Cafodd gwahanol ddulliau ac amserlenni eu mabwysiadu ar gyfer rhywogaethau pelagig a rhywogaethau dyfnforol.