Yn esbonio'r termau allweddol sy'n ymwneud â chyfreithiau Cymru.
A
Adolygiad barnwrol
Mae achos adolygiad barnwrol yn gais i adolygu cyfreithlondeb deddfiad, penderfyniad, gweithred neu fethiant i weithredu, a hynny mewn perthynas ag arfer swyddogaeth gyhoeddus. Mae proses adolygiad barnwrol yn galluogi’r llysoedd i graffu ar gyfreithlondeb gweithredoedd (ac anweithredoedd) cyrff cyhoeddus.
Adran anweinidogol y Llywodraeth
Adran o lywodraeth y DU nad oes ganddi Weinidog y Goron yn bennaeth arni, ac felly nad yw’n rhan o lywodraeth ganolog. Mae adrannau anweinidogol y llywodraeth yn tueddu i fod yn fwy annibynnol ar ddylanwad gwleidyddol a’r Llywodraeth o’u cymharu ag adrannau Gweinidogion. Mae llawer ohonynt yn cyflawni swyddogaeth reoleiddio neu archwilio. Mae enghreifftiau’n cynnwys y Comisiwn Elusennau a Chofrestrfa Tir Ei Fawrhydi.
Aelodau’r Senedd
Mae’r Senedd yn cynnwys 96 o Aelodau etholedig. Cyfeirir atynt hefyd fel ASau.
Athrawiaeth Ram
Dyma’r athrawiaeth sy’n dal bod gan weinidogion y llywodraeth hawl i arfer unrhyw bwerau y mae gan y Goron hawl i’w harfer, ac eithrio pan fyddant wedi eu rhwystro rhag gwneud hynny, drwy statud. Mewn geiriau eraill, mae’r athrawiaeth yn golygu bod ganddynt holl bwerau person naturiol ac felly (yn wahanol i gorfforaeth statudol fel awdurdod lleol) nid oes angen iddynt ddangos bod ganddynt bŵer neu awdurdod statudol dros unrhyw weithred y gallant fod eisiau ei chyflawni. Syr Greville Ram, y cyn Brif Gwnsler Seneddol, a fynnodd yr athrawiaeth ym 1945. Nid yw athrawiaeth Ram yn gymwys i Weinidogion Cymru, sy’n cael eu pŵer drwy statud.
Awdurdod Cyllid Cymru
Sefydlwyd Awdurdod Cyllid Cymru at ddibenion casglu trethi datganoledig yng Nghymru. Ers 1 Ebrill 2018, mae’r Awdurdod wedi bod yn gyfrifol am weinyddu’r Dreth Trafodiadau Tir (TTT) a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi (TGT). Mae’r Awdurdod hefyd yn gyfrifol am gasglu’r Ardoll Ymwelwyr a’i rheoli, ac am reoli’r gwaith o gofrestru llety ymwelwyr.
Gweler canllawiau ynghylch cofrestru llety ymwelwyr.
Gweler y canllaw gam wrth gam i’r Ardoll Ymwelwyr ar gyfer darparwyr llety ymwelwyr.
Awdurdod lleol
Cyfeiriad yw hwn at gyrff llywodraeth leol, megis cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol. Mae gan awdurdodau lleol amrywiaeth eang o bwerau llywodraethol sydd wedi eu dirprwyo iddynt, i’w defnyddio ar gyfer llywodraethu eu hardaloedd. Mae hyn yn cynnwys swyddogaethau i wella llesiant yn eu hardaloedd, pwerau i wneud is-ddeddfau, a chodi cyllid drwy ardrethi annomestig a’r dreth gyngor. Yn aml nhw yw’r awdurdod a enwir at ddibenion statudol penodol, gan gynnwys yr awdurdod addysg lleol a’r awdurdod cynllunio lleol.
Awdurdodau Parciau Cenedlaethol
Cafodd awdurdod parc cenedlaethol ei sefydlu ar gyfer pob parc cenedlaethol yng Nghymru ar 23 Tachwedd 1995. Y tri awdurdod parc cenedlaethol yw Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Mae gan awdurdod parc cenedlaethol amryw o swyddogaethau, pwerau a dyletswyddau yn cynnwys mynd ar drywydd dibenion gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol ardal; a meithrin llesiant economaidd a chymdeithasol cymunedau lleol o fewn y parc cenedlaethol.
Awdurdodau Tân ac Achub
Mae swyddogaethau craidd yr awdurdodau tân ac achub wedi eu gosod allan yn Neddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 ac maent yn cynnwys diffodd tanau, gwarchod bywyd ac eiddo mewn tanau, achub pobl mewn damweiniau traffig ar y ffordd a hyrwyddo diogelwch tân. Mae tri awdurdod tân ac achub yng Nghymru.
B
Balotau ar gyfer deddfwriaeth a gynigir gan Aelod
O bryd i’w gilydd, bydd y Llywydd yn cynnal balot i ddewis Aelod a gaiff ofyn am gytundeb i gyflwyno Bil Aelod.
Barnwriaeth
Term torfol am farnwyr, llysoedd a thribiwnlysoedd Cymru a Lloegr. O dan athrawiaeth gwahanu pwerau, nid yw’r farnwriaeth yn gwneud cyfraith statudol (cyfrifoldeb y ddeddfwrfa yw hynny) nac yn gorfodi’r gyfraith (sef cyfrifoldeb y weithrediaeth). Yn lle hynny, mae’n dehongli’r gyfraith ac yn ei chymhwyso i ffeithiau’r achos o dan sylw. Mae’r farnwriaeth hefyd yn gyfrifol am ddatblygu cyfraith gyffredin Cymru a Lloegr yn ogystal ag egwyddorion cyfraith weinyddol.
Bil
Cyfraith arfaethedig yw Bil. Os bydd y Senedd yn cymeradwyo’r cynigion, bydd y Bil yn barod i ddod yn Ddeddf. Cyn y gall Bil ddod yn Ddeddf gan Senedd Cymru, rhaid i’r Brenin ei gymeradwyo: y Cydsyniad Brenhinol yw hyn. Yn aml defnyddir y term “deddfwriaeth sylfaenol” wrth gyfeirio at Ddeddfau.
C
Comisiwn y Senedd
Dyma gorff corfforedig Senedd Cymru, sy’n gyfrifol am ddarparu eiddo, staff a gwasanaethau i gynorthwyo Aelodau’r Senedd. Mae pump o gomisiynwyr yn arwain y Comisiwn: y Llywydd a phedwar Aelod arall a enwebwyd gan y prif bleidiau gwleidyddol.
Comisiynydd Plant Cymru
Prif nod Comisiynydd Plant Cymru yw diogelu a hyrwyddo hawliau a lles plant a phobl ifanc yng Nghymru. Cafodd y Comisiynydd Plant ei sefydlu o dan Ran 5 o Deddf Safonau Gofal 2000, a gafodd ei diwygio gan Ddeddf Comisiynydd Plant Cymru 2001.
Gweler gwefan Comisiynydd Plant Cymru.
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn sicrhau bod buddiannau pobl 60 oed neu hŷn yng Nghymru yn cael eu diogelu a’u hyrwyddo. Mae hefyd yn ffynhonnell gwybodaeth, eiriolaeth a chymorth i’r bobl hŷn yma a’u cynrychiolwyr. Mae rôl a phwerau statudol y Comisiynydd wedi eu nodi yn Neddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 a Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2007.
Gweler gwefan Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn
Cytuniad rhyngwladol sy’n cydnabod hawliau dynol plant, a ddiffinnir fel personau hyd at 18 oed. Mae gwledydd sy’n cadarnhau’r Confensiwn yn cael eu rhwymo iddo gan gyfraith ryngwladol. Mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, sy’n cynnwys aelodau o wledydd ar draws y byd, yn monitro cydymffurfiaeth â’r Confensiwn. Yng Nghymru, mae Gweinidogion Cymru o dan ddyletswydd i roi sylw i’r darpariaethau craidd yn Rhan 1 o’r Confensiwn (a darpariaethau penodol o fewn protocolau dewisol y Confensiwn) wrth arfer eu swyddogaethau (gweler adran 2 o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011). Mae’r Mesur yn grymuso Gweinidogion Cymru i wneud gorchymyn sy’n cymhwyso’r Mesur i bersonau ifanc hefyd (personau sydd wedi troi’n 18 ond sydd o dan 25), er nad yw’r pŵer hwn wedi cael ei ddefnyddio hyd yn hyn.
Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol
Cytuniad rhyngwladol i warchod hawliau dynol a rhyddid sylfaenol yn Ewrop. Cadarnhaodd y Deyrnas Unedig y Confensiwn ym 1951 a chafodd ei ymgorffori’n uniongyrchol yng nghyfraith y DU gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Confensiwn Sewel
Er ei bod wedi rhoi pwerau deddfu i ddeddfwrfeydd datganoledig Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, mae Senedd y DU yn cadw ei sofraniaeth o hyd ac felly mae’n dal yn gallu deddfu ar unrhyw fater datganoledig ei hun. Confensiwn Sewel yw’r enw a roddir ar y protocol na fydd Senedd y DU fel arfer yn deddfu ar fater datganoledig heb gydsyniad y ddeddfwrfa ddatganoledig o dan sylw. Bydd Senedd Cymru yn rhoi ei chydsyniad drwy basio cynnig cydsyniad deddfwriaethol (CCD). Mae’r confensiwn wedi ei enwi ar ôl yr Arglwydd Sewel, cyn Is-Ysgrifennydd Seneddol yr Alban, a draethodd ar yr egwyddor yn ystod hynt Deddf yr Alban 1998.
Corff Adnoddau Naturiol Cymru
Corff a noddir gan Lywodraeth Cymru ac a gafodd ei greu gan Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012. Daeth yn gyfrifol am waith Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru. Ei ddiben yw sicrhau bod adnoddau naturiol Cymru’n cael eu cynnal, eu gwella a’u defnyddio’n gynaliadwy yn awr ac i’r dyfodol. Mae wedi mabwysiadu’r enw ‘Cyfoeth Naturiol Cymru’.
Coron
Cyfeiriad tra chyfreithiol at y Brenin sy’n teyrnasu yn ei rym sofran, lle mae ganddo’r awdurdod goruchaf. Mae’r Goron yn gysyniad pwysig yn system gyfreithiol y DU: yn hanesyddol roedd pob pŵer llywodraethol wedi’i freinio yn y Goron. Er gwaethaf sofraniaeth Senedd y DU, a bod yn fanwl gywir mae pwerau cyfreithiol yn dal i ddod o’r Goron. Mae Gweinidogion Llywodraeth y DU yn Weinidogion y Goron, sy’n golygu eu bod yn arfer swyddogaethau’r Goron. Nid yw Gweinidogion Cymru yn Weinidogion y Goron; serch hynny maent yn arfer eu swyddogaethau ar ran y Goron. Gweler hefyd y cofnod ar gyfer “uchelfraint frenhinol”.
Cronfa Gyfunol Cymru
Cyfrif banc canolog Llywodraeth y DU yw’r gronfa gyfunol. Caiff trethi ac enillion eraill y llywodraeth eu talu i mewn i’r gronfa gyfunol a’u defnyddio i ariannu gwariant cyhoeddus. Yng Nghymru, y cyfrif banc canolog cyfatebol yw cronfa gyfunol Cymru. Caiff yr holl arian a delir i Weinidogion Cymru, y Prif Weinidog neu’r Cwnsler Cyffredinol, Swyddfa Archwilio Cymru, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a Chomisiwn y Senedd eu talu i mewn i Gronfa Gyfunol Cymru, a’u defnyddio i ariannu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Cwestiwn Gorllewin Lothian
Y cwestiwn a gafodd ei ofyn gan Tam Dalyell, AS Gorllewin Lothian, ym 1977:
Am ba hyd y bydd etholaethau yn Lloegr ac Aelodau Anrhydeddus Lloegr yn goddef o leiaf 119 o Aelodau Anrhydeddus o’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn cael effaith bwysig, ac yn aml effaith dyngedfennol, ar wleidyddiaeth Brydeinig a hwythau heb unrhyw lais o ran yr un materion yn yr Alban, yng Nghymru, ac yng Ngogledd Iwerddon?
Mae’r cwestiwn o ran maint cyfranogiad ASau yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn Senedd y DU ar ôl datganoli yn bwnc llosg yn y ddadl gyfoes ar ddyfodol datganoli yn y DU.
This question of the extent of participation by Scottish, Welsh and Northern Irish MPs in the UK Parliament after devolution is a live issue in the present day debate on the future of devolution in the UK.
Cwnsler Cyffredinol
Mae’r Cwnsler Cyffredinol yn aelod o Lywodraeth Cymru ac mae’n Swyddog y Gyfraith iddi, sef prif gynghorydd cyfreithiol y Llywodraeth a’i chynrychiolydd yn y llysoedd. Mae gan y Cwnsler Cyffredinol swyddogaethau statudol penodol, gan gynnwys y pŵer i atgyfeirio Biliau Senedd Cymru at y Goruchaf Lys am benderfyniad ynghylch cymhwysedd deddfwriaethol.
Cydsyniad Brenhinol
Cyn y gall Bil ddod yn Ddeddf, rhaid cael cymeradwyaeth y Brenin. Y Cydsyniad Brenhinol yw hyn a dyma gam terfynol y broses ddeddfu. Rhaid i bob Bil (gan Senedd Cymru a chan Senedd y DU) gael y Cydsyniad Brenhinol cyn y daw’n gyfraith.
Cyfansoddiad
Mae cyfansoddiad yn diffinio sefydliadau llywodraethol gwladwriaeth a’u pwerau. Yn y mwyafrif o wledydd, mae’r cyfreithiau sy’n nodi’r cyfansoddiad yn bwysicach nag unrhyw fathau eraill o gyfreithiau, ond yn y DU mae’r cyfreithiau ynglŷn â’r cyfansoddiad yn rhan o gyfraith arferol y wlad. Yn ogystal â chyfreithiau, mae cyfansoddiad y DU yn dibynnu i raddau helaeth ar gonfensiynau a chyd-ddealltwriaeth ynghylch sut y dylai sefydliadau llywodraeth weithredu. Yn rhannol am y rheswm hwn, mae’r cyfansoddiad hefyd yn un “anghodeiddiedig” (h.y. nad yw wedi ei drefnu mewn un cod). Felly, er bod y mwyafrif o gyfreithiau sy’n ymwneud â’r cyfansoddiad yn rhai ysgrifenedig, nid ydynt wedi eu hysgrifennu gyda’i gilydd, yn gyfleus, mewn un lle. O ran Cymru, Deddf Llywodraeth Cymru 1998 a Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yw cyfansoddiad datganoledig Cymru, i bob pwrpas.
Cyfarfod Llawn
Dyma’r term a ddefnyddir i ddisgrifio cyfarfod llawn y 96 o Aelodau’r Senedd yn y Siambr (sef prif siambr adeilad y Senedd) i fwrw ymlaen â busnes y Senedd.
Cyfraith a gymathwyd
Y corff o gyfreithiau a ddeilliodd o aelodaeth y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd, ac a ddargedwir fel cyfraith ddomestig yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.
Cyfraith weinyddol
Cyfraith weinyddol (a elwir weithiau yn “gyfraith gyhoeddus”) yw’r corff o gyfraith sy’n ceisio sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn gweithredu o fewn eu pwerau ac mewn ffordd sy’n gyfreithlon, yn rhesymol ac yn deg.
Cyfreithiau
Rheolau y bydd senedd, llywodraeth neu gorff arall sydd wedi ei awdurdodi’n briodol yn penderfynu arnynt yw’r rhain. Maent yn dweud wrth bobl beth y gellir ac na ellir ei wneud, a hynny mewn ardal benodol, mewn gwlad gyfan, mewn casgliad o wledydd, neu’n fyd-eang / yn rhyngwladol. Gelwir y cyfreithiau a wneir gan Senedd Cymru yn Ddeddfau.
Y Cyfrin Gyngor
Mae’r Cyfrin Gyngor yn gorff ffurfiol o gynghorwyr i’r Brenin fel Monarch. Ar y cyfan mae ei aelodaeth yn cynnwys uwch wleidyddion sydd (neu sydd wedi bod) yn aelodau o Dŷ’r Cyffredin neu Dŷ’r Arglwyddi neu’r deddfwrfeydd datganoledig. Mae’r Prif Weinidog yn Aelod o’r Cyfrin Gyngor ac mae’n cynghori’r Brenin ar faterion sy’n ymwneud â Chymru. Mae’r Cyngor yn cynghori’r Sofran yn ffurfiol ar arfer yr Uchelfraint Frenhinol ac mae’r rhain, gyda’i gilydd (fel “y Brenin yn y Cyfrin Gyngor”), yn cyhoeddi offerynnau gweithredol a elwir yn Orchmynion yn y Cyfrin Gyngor. Mae’r Cyngor hefyd yn cynghori’r Brenin ar gyhoeddi Siarteri Brenhinol, a ddefnyddir i roi statws arbennig i gyrff corfforedig, a statws dinas neu fwrdeistref i awdurdodau lleol. Mae’r Brenin yn y Cyfrin Gyngor hefyd yn cyflawni swyddogaethau barnwrol penodol, er yn ymarferol mae’r gwaith o glywed a phenderfynu ar achosion yn cael ei wneud gan Bwyllgor Barnwrol y Cyfrin Gyngor yn gyfan gwbl.
Cymhwysedd deddfwriaethol
Mae cymhwysedd deddfwriaethol yn diffinio a oes gan ddeddfwrfa y pŵer i basio deddfau mewn perthynas â mater penodol. Os bydd Senedd Cymru yn pasio cyfraith sydd y tu hwnt i’w chymhwysedd deddfwriaethol, nid yw’r ddeddf honno yn gyfraith ddilys.
Cynnig
Caiff cynnig ei wneud er mwyn cael penderfyniad gan y Senedd.
Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y Cynulliad)
Dyma oedd enw Senedd Cymru pan gafodd ei sefydlu ym 1999. Newidiwyd ei enw ar 6 Mai 2020 i adlewyrchu ei statws fel senedd genedlaethol ar ôl cael pwerau pellach, sef yn refferendwm (Cymru) 2011 yn arbennig.
Cyngor cymuned
Cynghorau cymuned a thref yw lefel llawr gwlad llywodraethu lleol yng Nghymru. Mae dros 730 o gynghorau cymuned a thref yng Nghymru. Mae rhai yn cynrychioli poblogaeth o lai na 200 o bobl, tra bo eraill yn cynrychioli dros 45,000 o bobl. Eu pwrpas yw gwella ansawdd bywyd a’r amgylchedd i ddinasyddion yn eu hardaloedd.
Cyngor Partneriaeth Cymru
Bwriad Cyngor Partneriaeth Cymru yw hyrwyddo cydweithio a chydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol. Ei brif gyfrifoldebau yw:
- annog deialog rhwng Gweinidogion Cymru a llywodraeth leol ar faterion sy’n effeithio ar lywodraeth leol yng Nghymru, yn unol ag adrannau 72 a 73 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006
- darparu atebolrwydd gwleidyddol torfol dros weithredu i wella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd gwasanaethau cyhoeddus
Gweler y dudalen ar wahân ynghylch Cyngor Partneriaeth Cymru.
Cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru
Cyrff cyhoeddus sy’n cael eu hariannu’n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru ond heb fod yn rhan o Lywodraeth Cymru. Mae ganddynt bwerau cyfreithiol a freiniwyd ynddynt ac maent, i raddau amrywiol, yn annibynnol yn weithredol oddi wrth Lywodraeth Cymru. Gall swyddogaethau’r llywodraeth sy’n cael eu cyflawni ganddynt fod yn weinyddol, yn rheoleiddiol, yn fasnachol, yn rhai sy’n cynghori, neu gallant ymwneud â datrys anghydfodau. Ymysg y cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru mae Cyfoeth Naturiol Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru a Medr.
D
Datganoli
Yn y Deyrnas Unedig, gall olygu:
- y broses o roi’r pŵer i basio deddfwriaeth (sef cymhwysedd deddfwriaethol) i’r tair deddfwrfa genedlaethol yn y Deyrnas Unedig (Senedd Cymru, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon), ac o drosglwyddo swyddogaethau gweithredol o Lywodraeth y DU i Weinidogion Cymru, Gweinidogion yr Alban a Gweinidogion neu Adrannau Gogledd Iwerddon
- datganoli o fewn Lloegr, hynny yw, trosglwyddo pwerau a chyfrifoldebau o lywodraeth ganolog y DU i awdurdodau rhanbarthol neu leol
Deddf Cymru 2014
Mae Deddf Cymru 2014 yn diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006, gan wneud newidiadau i’r cyfansoddiad datganoledig yng Nghymru. Ymysg pethau eraill, mae wedi ychwanegu pwerau cyfyngedig i godi trethi at gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, a phan gaiff ei gweithredu’n llawn bydd yn rhoi pwerau benthyg ehangach i Weinidogion Cymru.
Deddf gan Senedd Cymru
Ar hyn o bryd mae gan Senedd Cymru y pŵer i wneud cyfreithiau ar unrhyw faterion nas cedwir yn ôl gan Senedd y DU o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Caiff cynigion ar gyfer cyfreithiau newydd (sef Biliau) eu cyflwyno gerbron y Senedd. Os bydd y Senedd yn cymeradwyo’r cynigion, bydd y Bil yn barod i ddod yn Ddeddf. Cyn y gall Bil ddod yn Ddeddf gan Senedd Cymru, rhaid i’r Brenin ei gymeradwyo: y Cydsyniad Brenhinol yw hyn. Yn aml defnyddir y term “deddfwriaeth sylfaenol” wrth gyfeirio at Ddeddfau.
Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig
Cyfraith sy’n cael ei gwneud gan Senedd y Deyrnas Unedig (DU). Caiff cynigion ar gyfer cyfreithiau newydd (sef Biliau) eu trafod yn Nhŷ’r Arglwyddi a Thŷ’r Cyffredin. Os bydd dau dŷ Senedd y DU yn pleidleisio o blaid y cynigion, bydd y Bil yn barod i ddod yn Ddeddf. Cyn y gall Bil ddod yn Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig, rhaid i’r Brenin ei gymeradwyo: y Cydsyniad Brenhinol yw hyn.
Deddf Hawliau Dynol
Mae Deddf Hawliau Dynol 1998 yn ymgorffori’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yng nghyfraith y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn galluogi dinasyddion y DU i orfodi eu hawliau o dan y Confensiwn yn uniongyrchol yn llysoedd y DU, yn hytrach na thrwy fynd â’u hachosion i Lys Hawliau Dynol Ewrop.
Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (Deddf 1998)
Y ddeddfwriaeth a roddodd gam cyntaf llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru ar waith. Fe sefydlodd Gynulliad Cenedlaethol Cymru fel corff gweithredol gyda phwerau i wneud is-ddeddfwriaeth mewn meysydd pwnc penodol. Cafodd y rhan fwyaf o Ddeddf 1998 ei dirymu ar 3 Mai 2007 a’i disodli gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Deddf 2006)
Y ddeddfwriaeth a drodd Gynulliad Cenedlaethol Cymru (sef Senedd Cymru erbyn hyn) yn ddeddfwrfa sydd â phwerau deddfu sylfaenol llawn. Fe greodd hefyd Lywodraeth Cynulliad Cymru (sydd wedi ei hailenwi’n Llywodraeth Cymru bellach) fel corff ar wahân sy’n gyfrifol am arfer pwerau gweithredol yng Nghymru, ac sy’n atebol i’r Senedd.
Deddfau Addysg
Term diffiniedig sy’n cwmpasu rhestr benodol o statudau sy’n ymwneud â chyfreithiau addysg. Mae’r diffiniad yn ymddangos yn adran 578 o Ddeddf Addysg 1996. Mae hyn yn caniatáu cymhwyso termau amrywiol eraill sy’n cael eu diffinio yn Neddf Addysg 1996 i bob Deddf Addysg o’r gorffennol ac yn y dyfodol.
Deddfau Eglwys Cymru
Mae’r term hwn yn cyfeirio at Ddeddf Eglwys Cymru 1914, Deddf Eglwys Cymru (Eiddo Bydol) 1919 a Deddf Eglwys Cymru (Claddfeydd) 1945, gyda’i gilydd. Maent yn rhan o’r gyfraith statud sy’n berthnasol i’r Eglwys ddatgysylltiedig yng Nghymru.
Deddfwrfa
Corff deddfu lle caiff cyfreithiau newydd eu trafod a’u cytuno. Cyfeirir ati’n aml fel senedd. Mae’n craffu ar benderfyniadau’r llywodraeth ac yn dwyn y llywodraeth i gyfrif. Yng Nghymru, Senedd Cymru yw’r ddeddfwrfa. Caiff y llywodraeth ei galw’n weithrediaeth.
Deddfwriaeth
Term cyffredinol am gyfreithiau a’r broses o’u gwneud.
Deddfwriaeth sylfaenol
Mae hyn yn cyfeirio at y cyfreithiau a gaiff eu pasio gan Senedd y DU, Senedd yr Alban, Cynulliad Gogledd Iwerddon a Senedd Cymru.
Dirprwy Weinidogion Cymru
Caiff Dirprwy Weinidogion Cymru eu penodi o blith Aelodau’r Senedd gan y Prif Weinidog. Eu prif rôl yw cynorthwyo’r Prif Weinidog a Gweinidogion Cymru i gyflawni eu swyddogaethau.
E
Egwyddor Carltona
Yr egwyddor sy’n golygu y caiff gweision sifil arfer y mwyafrif o swyddogaethau ar ran Gweinidogion y Llywodraeth heb i’r swyddogaethau hynny gael eu dirprwyo’n benodol iddynt. Mae’r egwyddor yn deillio o’r gyfraith achosion ac mae’n cwmpasu gweision sifil Llywodraeth Cymru yn arfer swyddogaethau ar ran y Prif Weinidog, Gweinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol.
F
Fformiwla Barnett
Mecanwaith anstatudol sy’n cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth y DU i bennu faint o wariant cyhoeddus i’w ddyrannu i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Os bydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi arian newydd, caiff fformiwla Barnett ei ddefnyddio i gyfrifo cyfran Cymru o’r arian newydd hwnnw. Mater i Lywodraeth Cymru yw dewis sut i ddefnyddio’r arian hwnnw, yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth Senedd Cymru.
G
Gorchmynion Cychwyn
Mae gorchmynion cychwyn yn pennu’r dyddiad pan ddaw deddfwriaeth sylfaenol i rym. Mae’r gorchmynion hyn yn fath o is-ddeddfwriaeth nad yw, fel rheol, yn ddarostyngedig i unrhyw weithdrefn ffurfiol yn y Senedd. Er hynny, pan fyddant yn cael eu gwneud ar ffurf offeryn statudol Cymreig, cânt eu gosod gerbron y Senedd. Ar adegau, gall gorchmynion cychwyn fod ar ffurf rheoliadau cychwyn, ond maent yn cyflawni’r un diben. Commencement
Gorchmynion trosglwyddo swyddogaethau
Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor yw’r rhain, a wnaed gan Ei Fawrhydi’r Brenin er mwyn trosglwyddo swyddogaethau gweithredol. O ran Cymru, mae hyn yn golygu trosglwyddo swyddogaethau oddi wrth Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (yn ystod cam cyntaf datganoli yng Nghymru) neu i Weinidogion Cymru, y Prif Weinidog neu’r Cwnsler Cyffredinol (yn dilyn gweithredu Deddf Llywodraeth Cymru 2006). Y prif orchymyn trosglwyddo swyddogaethau yw Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999. Cafodd y swyddogaethau a roddwyd i’r Cynulliad Cenedlaethol (fel yr oedd ar y pryd) drwy’r Gorchymyn hwnnw eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn dilyn gweithredu Deddf Llywodraeth Cymru 2006.
Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol
Offeryn sy’n newid cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru, os caiff yr offeryn ei gymeradwyo gan Senedd Cymru a dau Dŷ Senedd y DU.
Y Goruchaf Lys yw llys uchaf y Deyrnas Unedig. Mae’n gwrando ar apeliadau ynghylch pwyntiau dadleuadwy o’r gyfraith sydd o’r pwys cyhoeddus mwyaf, a hynny ar gyfer y Deyrnas Unedig i gyd mewn achosion sifil; ac ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon mewn achosion troseddol. Mae’r Goruchaf Lys hefyd yn penderfynu a yw’r awdurdodau gweithredol a deddfwriaethol datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi gweithredu o fewn eu pwerau neu’n bwriadu gwneud hynny, neu wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ddyletswydd arall a osodwyd arnynt.
Gwas sifil
Rhywun sy’n cael ei gyflogi gan adran neu asiantaeth lywodraethol. Caiff Gweinidogion Cymru benodi pobl i fod yn aelodau staff Llywodraeth Cymru fel rhan o’r Gwasanaeth Sifil Cartref. Gweinyddiaeth anwleidyddol yw staff Llywodraeth Cymru, sy’n cynorthwyo Gweinidogion Cymru, ni waeth pa blaid sydd mewn grym. Mae gweision sifil yn cael eu rheoli gan god ymddygiad llym sy’n helpu i sicrhau didueddrwydd gwleidyddol, gweinyddu effeithlon, llywodraethu da a rheolaeth dda ar arian cyhoeddus.
Gweinidog y Goron
Deilydd swydd weinidogaethol sydd wedi’i benodi gan Ei Fawrhydi y Brenin. Nid yw Gweinidogion Cymru yn Weinidogion y Goron. Yn hytrach, maent yn dal swydd statudol o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, er eu bod yn cyflawni eu swyddogaethau ‘ar ran’ y Goron (gweler adran 57(2) o’r Ddeddf).
Gweinidogion Cymru
Gweinidogion Cymru, y Prif Weinidog, Dirprwy Weinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol, gyda’i gilydd, yw aelodau Llywodraeth Cymru. Caiff Gweinidogion Cymru eu penodi gan y Prif Weinidog o dan adran 48 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Gweithdrefn annilysu’r Senedd
Mae gweithdrefn annilysu’r Senedd yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl iddynt wneud offeryn statudol Cymreig (OSC), osod yr offeryn hwnnw gerbron Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r is-ddeddfwriaeth gael ei gwneud. Yna, mae gan Senedd Cymru gyfnod o 40 o ddiwrnodau (heb gynnwys unrhyw amser pan fydd Senedd Cymru wedi ei diddymu neu ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i wrthwynebu’r OSC. Os yw’r Senedd yn gwrthwynebu’r offeryn, mae’r OSC hwnnw’n cael ei annilysu, sy’n golygu na ellir gwneud dim byd pellach odano, a rhaid ei ddirymu.
Gweithdrefn gadarnhaol (ddrafft)
Gweler gweithdrefn gymeradwyo’r Senedd.
Gweithdrefn gadarnhaol (gwnaed)
Gweler gweithdrefn gadarnhau’r Senedd.
Gweithdrefn gadarnhau’r Senedd
Mae gweithdrefn gadarnhau’r Senedd yn gymwys pan fydd Deddf yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth na chaiff ond parhau mewn grym os bydd y Senedd yn cytuno arni wedyn. Gall yr amserlenni o ran pryd y mae’r Senedd yn cadarnhau’r ddeddfwriaeth amrywio, ond fel rheol bydd un o Weinidogion Cymru yn gwneud offeryn statudol Cymreig o’r math hwn a bydd yr offeryn yn dod i rym bron ar unwaith.
Gweithdrefn gymeradwyo’r Senedd
Mae gweithdrefn gymeradwyo’r Senedd yn darparu na chaiff Gweinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth ar ffurf offeryn statudol Cymreig (OSC) oni bai bod y Senedd wedi pasio cynnig i gymeradwyo drafft o’r is-ddeddfwriaeth. Yn aml, mae’r weithdrefn hon yn cael ei chadw ar gyfer is-ddeddfwriaeth fwy arwyddocaol.
Gweithdrefn negyddol
Gweler gweithdrefn annilysu’r Senedd.
Gweithrediaeth
Term a ddefnyddir i ddisgrifio’r Llywodraeth ac i wahaniaethu rhyngddi a’r ddeddfwrfa, neu’r senedd. Yng Nghymru, y weithrediaeth yw Llywodraeth Cymru, a’r ddeddfwrfa yw Senedd Cymru. Mae’r weithrediaeth yn gwneud polisïau ac yn rhoi deddfwriaeth ar waith.
Gwelliannau (i Fil)
Newidiadau a awgrymir i destun Bil ac sy’n cael eu cynnig gan Aelodau’r Senedd (gan gynnwys y rheini sydd hefyd yn Weinidogion Cymru). Bydd yr Aelodau wedyn yn pleidleisio o blaid neu yn erbyn y newidiadau. Os derbynnir y newidiadau, maent yn dod yn rhan o’r Bil.
I
Is-ddeddfwriaeth
Deddfwriaeth a wneir yn unol â phwerau sydd wedi eu dirprwyo gan ddeddfwriaeth sylfaenol (hynny yw, Deddf gan Senedd y DU neu Ddeddf neu Fesur gan Senedd Cymru) neu sydd wedi eu his-ddirprwyo gan ddarn arall o is-ddeddfwriaeth. Mae amryw o enwau’n cael eu rhoi ar offerynnau o natur ddeddfwriaethol sy’n cael eu gwneud wrth arfer pwerau dirprwyedig, gan gynnwys Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor, gorchmynion, rheoliadau, rheolau, cynlluniau, cyfarwyddydau, is-ddeddfau a gwarantau. Mae’r rhan fwyaf o is-ddeddfwriaeth a wneir gan Weinidogion Cymru yn cael ei gwneud drwy gyfrwng offeryn statudol Cymreig. Cyfeirir at is-ddeddfwriaeth hefyd fel deddfwriaeth ddirprwyedig (ni elwir is-ddeddfwriaeth yn “ddeddfwriaeth eilradd”).
Ll
Llysoedd
Mae’r llysoedd yn rhan o Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi. Mae Cymru a Lloegr yn dod o fewn un awdurdodaeth gyfreithiol ac maent yn rhannu’r un system llysoedd a thribiwnlysoedd. Y llysoedd sy’n gyfrifol am weinyddu cyfiawnder mewn materion sifil, troseddol a gweinyddol (cyfraith gyhoeddus) yn unol â rheolaeth y gyfraith. Mae’r llysoedd hefyd yn dehongli’r gyfraith, ac mae llawer o egwyddorion sylfaenol cyfraith y DU yn deillio o benderfyniadau’r llysoedd yn hytrach nag o ddeddfwriaeth.
Llywodraeth Cymru (Llywodraeth Cynulliad Cymru)
Llywodraeth Cymru yw llywodraeth ddatganoledig Cymru. Mae’n cynnwys Prif Weinidog Cymru, Gweinidogion Cymru, y Cwnsler Cyffredinol a staff. Ei henw blaenorol oedd ‘Llywodraeth Cynulliad Cymru’; cafodd ei hailenwi’n ‘Llywodraeth Cymru’ yn ymarferol yn 2011 ac yn gyfreithiol yn Neddf Cymru 2014.
Llywydd
Mae Senedd Cymru yn ethol Llywydd a Dirprwy Lywydd o blith Aelodau’r Senedd. Mae rôl y Llywydd wedi’i osod allan yn Rheolau Sefydlog Senedd Cymru. Mae swyddogaethau’r Llywydd yn cynnwys cadeirio’r Cyfarfod Llawn, cynnal trefn, pennu’r cwestiynau ynghylch dehongli neu gymhwyso’r Rheolau Sefydlog a chynrychioli Senedd Cymru yn ei hymwneud â chyrff eraill o fewn y Deyrnas Unedig a’r tu allan iddi. Mae’n cyfateb i Lefarydd Tŷ’r Cyffredin.
M
Materion a gedwir yn ôl
Ni chaiff Deddfau’r Senedd ymwneud ag unrhyw fater a gedwir yn ôl yn Atodlen 7A i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Cymru 2017), megis caethwasiaeth fodern, trydan, a meddyginiaethau.
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (MCD)
O dan Reol Sefydlog 29 y Senedd, rhaid i aelod o Lywodraeth Cymru osod memorandwm (“memorandwm cydsyniad deddfwriaethol” / “MCD”) mewn perthynas ag unrhyw Fil sy’n cael ei ystyried yn Senedd y DU ac sy’n gwneud darpariaeth mewn perthynas â Chymru sy’n rhoi sylw i faterion datganoledig. Rhoddir cydsyniad y Senedd drwy gyfrwng cynnig cydsyniad deddfwriaethol.
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (MCOS)
Mae Rheol Sefydlog 30A yn nodi ei bod yn ofynnol i aelod o Lywodraeth Cymru osod memorandwm (sef memorandwm cydsyniad offeryn statudol) mewn perthynas ag unrhyw offeryn statudol a osodir gerbron Senedd y DU gan Weinidogion y DU, os oes angen cydsyniad y Senedd ar yr offeryn statudol hwnnw gan ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Memorandwm Esboniadol
Rhaid llunio Memorandwm Esboniadol i gyd-fynd â phob Bil ac offeryn statudol Cymreig a gyflwynir gerbron y Senedd. Yn y Memorandwm Esboniadol, nodir yr amcanion polisi a’r gost o roi’r ddeddfwriaeth ar waith. Mae gofynion amrywiol o ran yr hyn sydd i’w gynnwys mewn Memorandwm Esboniadol, ac o ran Biliau nodir y rhain yn Rheolau Sefydlog y Senedd.
Mesurau
Yn ystod y Trydydd Cynulliad (Mai 2007 - Mawrth 2011), galwyd y cyfreithiau a wnaed gan Senedd Cymru yn Fesurau.
O
Offeryn statudol Cymreig
Gweler offeryn statudol ac offeryn statudol Cymreig.
Offeryn statudol ac offeryn statudol Cymreig
Math o ddogfen sy’n cynnwys is-ddeddfwriaeth. Pan fo statud yn rhoi pŵer i’r Ysgrifennydd Gwladol neu i Weinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth, ei chadarnhau neu ei chymeradwyo, yn aml mynegir bod y pŵer hwnnw yn gallu cael ei arfer drwy offeryn statudol.
Bellach, gelwir offerynnau statudol a wneir yn gyfan gwbl gan Weinidogion Cymru neu awdurdod datganoledig Cymreig arall yn offerynnau statudol Cymreig (OSCau). Mae offerynnau a wneir ar y cyd gan Weinidogion Cymru ac awdurdod annatganoledig, fel Ysgrifennydd Gwladol y DU, yn cael eu gwneud ar ffurf offerynnau statudol.
Rhoddodd Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 sail statudol i’r diffiniad o offeryn statudol Cymreig, a sefydlodd gyfres ar wahân ar gyfer OSCau. O dan Ddeddf 2019, mae Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru yn dyrannu rhif unigryw i bob OSC. Yn flaenorol, roedd offerynnau a wnaed gan Weinidogion Cymru yn rhan o gyfres offerynnau statudol y DU.
Mae gweithdrefnau’r Senedd yn gymwys o ran craffu ar offerynnau statudol Cymreig: gweler y cofnodion ar gyfer gweithdrefn gymeradwyo’r Senedd, gweithdrefn gadarnhau’r Senedd, a gweithdrefn annilysu’r Senedd.
P
Penodiadau cyhoeddus
Mae yna reolau ynglŷn â’r broses y mae’n rhaid i Weinidogion (gan gynnwys Gweinidogion Cymru) ei dilyn wrth benodi pobl i fyrddau cyrff cyhoeddus. Mae’r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus yn rheoleiddio’r penodiadau hyn gyda’r nod o sicrhau eu bod yn cael eu gwneud ar sail haeddiant yn dilyn proses deg, agored a thryloyw, a heb duedd na dylanwad gwleidyddol. Nid yw’r Comisiynydd yn goruchwylio penodi Gweision Sifil (cyfrifoldeb Comisiwn y Gwasanaeth Sifil yw hynny) na phenodiadau barnwrol (sef cyfrifoldeb y Comisiwn Penodiadau Barnwrol).
Gweler gwefan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus.
Prif gyngor
At ddibenion llywodraeth leol, mae Cymru wedi ei rhannu’n 22 o siroedd a bwrdeistrefi sirol, neu ‘brif ardaloedd’. O ran pob prif ardal mae yna gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol, a elwir hefyd yn ‘brif gyngor’.
Prif Weinidog
Prif Weinidog Cymru yw pennaeth Llywodraeth Cymru a chaiff ei benodi gan y Brenin yn dilyn enwebiad gan Aelodau’r Senedd.
Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd
Clerc y Senedd yw Prif Weithredwr Comisiwn y Senedd hefyd, a dyma’r sawl sy’n atebol am effeithiolrwydd y gwasanaeth. Y Clerc, yn ogystal, yw Prif Swyddog Cyfrifyddu y Comisiwn. Y swyddog cyfrifyddu sy’n gyfrifol am sicrhau bod arian trethdalwyr yn cael ei wario yn unol â’r gyfraith ac â rheolau a gynlluniwyd i sicrhau y caiff ei wario’n briodol ac yn dryloyw.
R
Refferendwm
Pleidlais pan fo’r holl etholwyr yn cael eu gwahodd i bleidleisio ar gynnig penodol. Fel rheol mae refferendwm yn gofyn cwestiwn sydd â gwir arwyddocâd i gyfansoddiad y DU. Cafodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei sefydlu ar ôl refferendwm ym 1997, pan bleidleisiodd mwyafrif o’r pleidleiswyr yng Nghymru o blaid creu cynulliad i Gymru a oedd â phwerau datganoledig. Yn dilyn refferendwm pellach yn 2011, cafodd pwerau deddfu Senedd Cymru (a elwid gynt yn Gynulliad Cenedlaethol Cymru) eu hestyn.
Rheolau Sefydlog
Dyma’r rheolau ysgrifenedig sy’n llywodraethu trafodion y Senedd. Er mwyn gwneud unrhyw newid i’r Rheolau Sefydlog, rhaid cael penderfyniad gan Senedd Cymru sydd wedi’i basio gan fwyafrif o ddwy ran o dair neu fwy (o dan adran 31 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006). Mae’r Rheolau Sefydlog yn cwmpasu popeth o lwon yr Aelodau i fusnes mewn pwyllgorau ac yn y Cyfarfod Llawn, i’r gweithdrefnau ar gyfer ystyried a phasio Deddfau’r Senedd.
Gweler y Rheolau Sefydlog ar senedd.cymru.
Rhyddid gwybodaeth
Mae’r cyfreithiau ynghylch rhyddid gwybodaeth yn gosod rhwymedigaeth ar gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru ac awdurdodau cyhoeddus eraill yng Nghymru, i ddarparu gwybodaeth benodol os bydd cais amdani. Pwrpas y cyfreithiau hyn yw gwella tryloywder ac atebolrwydd ym myd llywodraeth ac mewn materion cyhoeddus. O anghenraid, mae amryw o eithriadau rhag gorfod datgelu gwybodaeth, gan gynnwys pan fo angen gwneud hynny er budd diogelwch cenedlaethol, a phan fo’r wybodaeth yn cael ei chadw yn amodol ar rwymedigaeth gyfrinachedd. Gweler yn arbennig Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, sef Deddf sydd wedi arwain at yr ymadrodd ‘Cais Rhyddid Gwybodaeth’ neu ‘FOI request’ yn Saesneg.
S
Senedd
Grŵp o wleidyddion etholedig sy’n trafod ac yn deddfu.
Senedd Cymru (y Senedd)
Mae Senedd Cymru yn cynnwys 96 o Aelodau o bob rhan o Gymru. Cânt eu hethol gan bobl Cymru i’w cynrychioli nhw a’u cymunedau, i ddeddfu ar gyfer Cymru, i gytuno ar drethi Cymreig ac i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gwneud ei gwaith yn iawn.
Siarter Frenhinol
Dogfen ffurfiol sy’n cael ei chyhoeddi gan y Brenin yn rhoi hawl neu bŵer i unigolyn neu i gorff corfforedig. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn enghraifft o gorff a sefydlwyd gan Siarter Frenhinol.
Gweler gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Sofraniaeth seneddol
Sofraniaeth seneddol yw conglfaen cyfansoddiad y DU. Mae’r egwyddor yn golygu mai Senedd y DU yw prif awdurdod cyfreithiol y DU, sy’n gallu creu neu ddiweddu unrhyw gyfraith. Ni all y llysoedd ddirymu ei deddfwriaeth ac ni all unrhyw Senedd basio cyfreithiau na all Senedd yn y dyfodol eu newid.
Swyddogaethau o ran y Gymraeg
O dan adran 61 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i wneud unrhyw beth y maent yn ei ystyried yn briodol i gefnogi’r Gymraeg. O dan adran 78 o’r Ddeddf honno, mae’n ofynnol iddynt fabwysiadu strategaeth y Gymraeg i hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg; rhestrir gofynion pellach mewn perthynas â’r strategaeth yn Neddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025. Mae’r Gymraeg yn fater datganoledig y caiff Senedd Cymru basio cyfreithiau yn ei gylch. Ymysg pethau eraill, sefydlodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 Gomisiynydd y Gymraeg, sy’n gyfrifol am hybu a hwyluso defnydd o’r Gymraeg. Sefydlodd y Mesur hefyd Safonau’r Gymraeg, ac o dan y rhain mae’n rhaid i Weinidogion Cymru, a phersonau eraill, gydymffurfio â’r safonau (sef dyletswyddau) a nodir yn eu hysbysiad cydymffurfio perthnasol.
Gweler gwybodaeth am Safonau’r Gymraeg ar wefan Comisiynydd y Gymraeg.
T
Treth Gwarediadau Tirlenwi (TGT)
Ers 1 Ebrill 2018, mae’r dreth dirlenwi wedi cael ei disodli yng Nghymru gan y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (TGT). Telir TGT pan gaiff gwastraff ei waredu mewn safleoedd tirlenwi. Mae’n cael ei chodi yn ôl pwysau’r gwastraff. Mae TGT yn cael ei gweinyddu gan Awdurdod Cyllid Cymru, a gweithredwyr tirlenwi yng Nghymru sy’n talu’r dreth. Mae cyfraddau TGT yn cael eu pennu gan Weinidogion Cymru a’u cymeradwyo gan Senedd Cymru.
Treth Trafodiadau Tir (TTT)
Ar 1 Ebrill 2018, cafodd Treth Dir y Dreth Stamp ei disodli yng Nghymru gan y Dreth Trafodiadau Tir (TTT). Mae TTT yn dreth sy’n cael ei thalu yng nghyswllt eiddo preswyl / dibreswyl neu ddarn o dir yng Nghymru dros werth penodol. Mae TTT yn cael ei chasglu gan Awdurdod Cyllid Cymru. Mae cyfraddau a bandiau gwahanol ar gyfer gwahanol fathau o eiddo. Mae’r cyfraddau a’r bandiau ar gyfer TTT yn cael eu pennu gan Weinidogion Cymru a’u cymeradwyo gan Senedd Cymru.
Trethi Cymru
Ar 1 Ebrill 2018, cafodd trethi sy’n berthnasol i Gymru yn unig eu casglu am y tro cyntaf mewn dros 800 mlynedd:
- Disodlwyd Treth Dir y Dreth Stamp yng Nghymru gan y Dreth Trafodiadau Tir (TTT).
- Disodlwyd y Dreth Dirlenwi yng Nghymru gan y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (TGT).
Ers 6 Ebrill 2019, mae pobl sydd â’u prif fan preswylio yng Nghymru, ac sy’n talu treth incwm, wedi bod yn talu Cyfraddau Treth Incwm Cymru.
Tribiwnlys
Llysoedd arbenigol y mae eu barnwyr a’u haelodau yn gwrando ar amrywiaeth eang o achosion ynddynt, fel achosion treth, cyflogaeth, a mewnfudo a lloches. Mae’r Uwch Dribiwnlys a’r Tribiwnlys Apêl Cyflogaeth yn gwrando ar apeliadau sy’n herio rhai penderfyniadau gan dribiwnlysoedd.
Mae rhai o’r awdurdodaethau unigol y mae tribiwnlysoedd yn ymdrin â nhw yn rhai sy’n ymwneud â’r DU gyfan, er enghraifft mewnfudo a lloches; ac mae eraill yn cwmpasu rhannau o’r DU, er enghraifft mae Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru yn cwmpasu Cymru yn unig.
Caiff rhai tribiwnlysoedd eu gweinyddu drwy awdurdodau lleol (er enghraifft, y paneli gwaharddiadau ysgol); rhai gan y llywodraeth – sef, yng Nghymru, Llywodraeth Cymru o ran Tribiwnlysoedd Cymru; ac eraill drwy Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi.
Sefydlodd Deddf Cymru 2017 rôl Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru i oruchwylio’r tribiwnlysoedd Cymreig datganoledig a restrir yn y Ddeddf honno. Caiff Tribiwnlysoedd Cymru eu hariannu gan Lywodraeth Cymru ond maent yn gweithredu’n annibynnol ar y Llywodraeth.
Tribiwnlys Haen Gyntaf
U
Uchelfraint Frenhinol
Mae gan y Goron amryw o bwerau a breintiau cynhenid yn y gyfraith gyffredin. Gyda’i gilydd, gelwir y rhain yn ‘uchelfraint Frenhinol’. Maent yn deillio o ddefnydd cyffredin a chydnabyddiaeth farnwrol. Mae’r uchelfraint yn cynnwys rhai pwerau gweithredol sy’n bwysig iawn o ran swyddogaethau’r Wladwriaeth, fel creu cytuniadau, cyhoeddi rhyfel a heddwch ac anfon lluoedd i sefyllfaoedd o wrthdaro milwrol. Mae nifer fach o bwerau uchelfraint yn rhai na all neb ond y Brenin eu harfer, neu drwy ei orchymyn personol penodol ei hun, ond mae’r mwyafrif yn cael eu harfer yn anuniongyrchol gan Weinidogion yn enw’r Goron.
Ultra vires
Yng nghyd-destun y gyfraith gyhoeddus, mae’r term hwn yn disgrifio rhywbeth sy’n cael ei wneud gan gorff cyhoeddus nad yw o fewn rhychwant y pwerau a roddwyd iddo.
Uwch Dribiwnlys
Y
Ysgrifennydd Gwladol
Ceir nifer o Ysgrifenyddion Gwladol: Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ac ati. Mae’r dyletswyddau ysgrifenyddol yn cael eu rhannu ymhlith nifer o bersonau, pob un yn gyfrifol am adran lywodraethol wahanol. Fodd bynnag, dim ond un swydd Ysgrifennydd Gwladol sy’n bodoli, ac o dan y gyfraith mae pob Ysgrifennydd Gwladol yn gallu cyflawni dyletswyddau pob adran neu unrhyw un ohonynt. Pan fo deddfwriaeth yn rhoi swyddogaethau i’r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â mater sydd wedi ei ddatganoli o ran Cymru, yn y mwyafrif o achosion mae’r swyddogaeth yn nwylo Gweinidogion Cymru erbyn hyn.
