Yn y canllaw hwn
1. Beth yw’r Ardoll Ymwelwyr
Mae’r Ardoll Ymwelwyr yn dreth ar arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr. Rydych yn hunanasesu’r dreth hon. Mae'n berthnasol i'r ardaloedd lle mae’r cyngor lleol wedi ei chyflwyno.
Yng Nghymru, mae gan gynghorau’r pŵer i ddechrau’r Ardoll Ymwelwyr ar naill ai 1 Ebrill neu 1 Hydref bob blwyddyn.
Mae'r ardoll yn berthnasol (i ddarparwyr llety ymwelwyr):
- yn yr ardaloedd lle mae'r cyngor lleol yn ei chyflwyno yn unig
- os ydych yn cymryd archebion ar gyfer arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr
- i archebion gan ymwelwyr o unrhyw le o'r byd, gan gynnwys o Gymru
Rhaid i gynghorau lleol ymgynghori â’r trigolion lleol cyn dechrau'r ardoll. Rhaid iddyn nhw gyhoeddi dyddiad dechrau'r ardoll 12 mis ymlaen llaw os byddan nhw’n penderfynu ei ddechrau. Rhaid i gynghorau lleol wario’r Ardoll Ymwelwyr ar wella twristiaeth leol.
Bydd Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn casglu ac yn rheoli'r ardoll ar ran cynghorau lleol.
