Neidio i'r prif gynnwy

3. Gwybod a oes rhaid i chi dalu

Gan eich bod chi’n darparu llety ymwelwyr, chi fydd yn gyfrifol am dalu’r Ardoll Ymwelwyr.

Byddwch yn gyfrifol am dalu'r ardoll hyd yn oed os byddwch yn dewis trosglwyddo cost yr ardoll i’ch ymwelwyr.

Os ydych chi'n defnyddio asiant

Byddwch yn gallu defnyddio asiant i ffeilio'ch ffurflen ardoll a thalu'r ardoll. Ond chi fydd yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn ei wneud yn gywir ac yn brydlon.