Yn y canllaw hwn
7. Pryd y mae'n rhaid i chi ffeilio a thalu
Rhaid i chi gyflwyno eich ffurflenni ardoll yn seiliedig ar faint o dreth sy’n ddyledus.
£1,000 neu lai yn ddyledus mewn blwyddyn
Cewch ddewis ffeilio a thalu unwaith y flwyddyn neu bob 3 mis.
Newid pa mor aml rydych yn ffeilio a thalu
Gallwch newid pa mor aml rydych yn ffeilio a thalu ar ddechrau pob blwyddyn cyfrifyddu. Ond dim ond os ydych wedi talu llai na £1,000 mewn blwyddyn ac wedi talu ar amser.
Mwy na £1,000 yn ddyledus mewn blwyddyn
Rhaid i chi ffeilio a thalu bob 3 mis.
Ffeilio a thalu unwaith y flwyddyn
Dyddiadau’r cyfnod cyfrifyddu
Mae'r cyfnod cyfrifyddu’r ardoll yn rhedeg o 1 Ebrill hyd 31 Mawrth.
Rhaid i chi dalu'r ardoll ar yr arosiadau sy’n digwydd yn y cyfnod hwn.
Eich dyddiad cau i ffeilio a thalu
Rhaid i chi gyflwyno a thalu eich ffurflen ardoll erbyn 31 Mai bob blwyddyn.
Er enghraifft, rhaid i chi ffeilio a thalu erbyn 31 Mai 2028 ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu o 1 Ebrill 2027 i 31 Mawrth 2028.
Mynd dros £1,000
Byddwn yn eich newid i ffeilio a thalu bob 3 mis os yw eich ffurflen ardoll dros £1,000.
Ffeilio a thalu bob 3 mis
Bydd gennych 60 diwrnod ar ôl diwedd pob cyfnod cyfrifyddu 3 mis i ffeilio a thalu eich ardoll.
| Cyfnod cyfrifyddu (y cyfnodau o 3 mis y byddwch yn talu'r ardoll arnyn nhw) | Dyddiad cau i gyflwyno eich ffurflen ardoll a thalu |
|---|---|
| 1 Ebrill tan 30 Mehefin | 29 Awst |
| 1 Gorffennaf tan 30 Medi | 29 Tachwedd |
| 1 Hydref tan 31 Rhagfyr | 1 Mawrth (neu 29 Chwefror mewn blwyddyn naid) |
| 1 Ionawr tan 31 Mawrth | 30 Mai |
Os yw eich archebion yn pontio dau gyfnod cyfrifyddu
Defnyddiwch ddyddiad gadael y gwesteion i benderfynu i ba gyfnod cyfrifyddu y mae'r arhosiad yn perthyn. Talwch ardoll yr arhosiad cyfan o dan y cyfnod hwnnw.
Er enghraifft, daw John a Mary i aros yn eich gwesty ar 25 Mehefin. Maen nhw'n gadael ar 5 Gorffennaf. Felly, mae eu holl arhosiad yn cael ei gyfrif yng nghyfnod cyfrifyddu 1 Gorffennaf i 30 Medi.
