Yn y canllaw hwn
4. Faint y mae'n rhaid i chi ei dalu
Gwybod pryd mae'n rhaid i chi dalu ardoll ar arosiadau, a phryd nad oes angen ei dalu.
I ba arosiadau y mae’r ardoll yn gymwys
Mae’r Ardoll Ymwelwyr yn cael ei chodi ar ddwy gyfradd.
Talu cyfradd is yr ardoll
75 ceiniog y pen y noson ar gyfer oedolion (18 oed a hŷn) sy'n aros mewn:
- pabell ar lain gwersylla (gan gynnwys y rhai dros dro ar gyfer digwyddiadau a gwyliau)
- ystafell a rennir mewn hostel, tŷ bync, bothy, neu ystafell aml-wel
Talu cyfradd uwch yr ardoll
£1.30 y pen y noson i westeion o bob oed (gan gynnwys babanod) sy'n aros mewn:
- gwestai, gwely a brecwast a thai llety
- llety hunanarlwyo, gan gynnwys:
- cabanau
- chalets
- bythynnod
- llety gwyliau
- parciau carafannau
- cytiau bugail
- safleoedd glampio
- cartrefi (fel Airbnb)
- carafannau, cartrefi modur, neu faniau gwersylla ar y canlynol:
- lleiniau gwersylla
- ardaloedd wedi’u neilltuo (er enghraifft, maes parcio tŷ tafarn)
- llety dros dro ar gyfer digwyddiadau (fel podiau glampio ar gyfer gwyliau)
- unrhyw fath arall o lety
Os bydd niferoedd eich gwesteion yn newid
Rhaid talu'r ardoll yn seiliedig ar nifer y gwesteion ar yr archeb.
Nid oes angen i chi gadw cofnod o newidiadau yn nifer yr ymwelwyr sy’n aros o ddydd i ddydd yn ystod eu harhosiad.
Cymhwyso TAW
Rhaid i chi dalu eich TAW i CThEF.
Darllenwch y canllawiau ar gymhwyso TAW ar yr Ardoll Ymwelwyr.
Arosiadau nad ydych chi'n talu'r ardoll arnyn nhw
Nid ydych yn talu’r Ardoll Ymwelwyr ar gyfer:
- plant dan 18 oed sy'n aros mewn:
- pabell ar lain gwersylla (gan gynnwys y rhai dros dro ar gyfer digwyddiadau a gwyliau)
- ystafell a rennir mewn hostel, tŷ bync, bothy, neu ystafell aml-wel
- arosiadau sydd:
- wedi'u canslo neu pan na ddaeth yr ymwelwyr
- yn cael eu darparu gan gyngor lleol i fod yn gartref dros dro
- yn 1 archeb am 32 noson neu fwy
Gwesteion sy'n aros am 32 noson neu fwy
Os yw eich gwesteion yn gwneud 1 archeb i aros am 32 noson neu fwy, ni fyddwch yn talu'r ardoll ar yr arhosiad hwnnw. Nid oes angen i'r nosweithiau hynny fod yn olynol.
Er enghraifft, mae Josh eisiau aros yn eich gwesty am 20 noson ym mis Ebrill ac 20 noson ym mis Mehefin. Mae'n eu harchebu gyda'i gilydd mewn 1 archeb. Mae ei archeb ar gyfer 40 noson. Nid ydych yn talu'r ardoll ar arhosiad Josh.
Arosiadau dros nos gweithwyr, contractwyr, neu brentisiaid
Nid oes angen i chi dalu'r ardoll pan fydd eich gweithwyr, eich contractwyr neu eich prentisiaid yn aros dros nos. Ond, dim ond os yw aros yn eich llety yn rhan o'u gwaith.
Er enghraifft, mae hyn yn berthnasol i'r canlynol:
- aelod staff sy'n gweithio yn eich llety ar adeg yr arhosiad
- gweithwyr sy’n aros dros nos i fynd i gyfarfodydd busnes neu ddigwyddiadau
