Neidio i'r prif gynnwy

Gwiriwch sut i gymhwyso TAW fel darparwr llety ymwelwyr sy'n talu Ardoll Ymwelwyr yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Medi 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Os ydych chi wedi'ch cofrestru at ddibenion TAW

Mae TAW yn berthnasol i gyfanswm yr hyn y mae gwesteion yn ei dalu am eu harhosiad. 

Bydd hyn yn cynnwys Ardoll Ymwelwyr os ydych yn dewis trosglwyddo ei gost i'ch gwesteion.

Darllenwch y canllawiau ar godi ffioedd ardoll ac ad-dalu eich gwesteion.

Talu eich TAW

Ni ddylech gynnwys eich TAW (Treth ar Werth) ar eich ffurflenni Ardoll Ymwelwyr. 

Os ydych wedi cofrestru at ddibenion TAW, mae'n rhaid i chi dalu:

  • Ardoll Ymwelwyr i Awdurdod Cyllid Cymru
  • TAW i CThEF

Cael rhyddhad rhag TAW

Gallech gael rhyddhad ar arosiadau sy’n para 29 neu fwy o nosweithiau yn olynol.

Darllenwch y canllawiau ar TAW a gwestai a llety gwyliau (ar gael yn Saesneg yn unig). 

Os nad ydych wedi cofrestru at ddibenion TAW

Os ydych yn penderfynu codi eich prisiau neu godi ffioedd ardoll, bydd yn cyfrif tuag at eich trosiant trethadwy ar gyfer TAW. Ac efallai y bydd angen i chi gofrestru at ddibenion TAW.

Cael cyngor

Gallwch gael cyngor ar TAW gan CThEF (ar gael yn Saesneg yn unig) neu'ch cyfrifydd.