Gwiriwch eich opsiynau ar gyfer talu costau’r Ardoll Ymwelwyr a gwybod pryd ddylech ad-dalu eich gwesteion.
Cynnwys
Cyflwyniad
Gallwch dalu costau’r ardoll drwy:
- eu hamsugno
- codi eich prisiau
- codi ffioedd ardoll
Amsugno’r ardoll
Os ydych chi'n amsugno’r ardoll, rydych yn gwneud y canlynol:
- cadw’r un prisiau
- ddim yn ychwanegu unrhyw ffioedd ardoll
Ond byddwch dal yn gyfrifol am dalu'r ardoll.
Codi eich prisiau
Gallwch godi eich prisiau er mwyn talu'r ardoll y mae'n rhaid i chi ei thalu.
Codi ffioedd ardoll
Rhoi gwybod i westeion yn gynnar
Dylech newid eich hysbysebion i ddangos eich bod yn codi ffioedd ardoll.
Dangos ffioedd ardoll
Dylai eich archebion ddangos:
- y ffioedd ardoll ychwanegol
- pris yr arhosiad
- cyfanswm pris yr archeb
Gofyn i'ch ymwelwyr dalu
Gallwch ofyn i'ch gwesteion dalu'r ardoll ar unrhyw adeg.
Er enghraifft, pan fyddan nhw’n:
- archebu’r arhosiad
- cyrraedd y llety
- gadael y llety
Ad-dalu eich gwesteion
Pryd ddylech chi ad-dalu'ch gwesteion
Os ydych chi'n codi'r ardoll ymlaen llaw, dylech ad-dalu eich ymwelwyr yn yr achosion canlynol:
- maen nhw’n canslo eu harcheb
- dydyn nhw ddim yn ymddangos
Pryd i beidio ag ad-dalu'ch gwesteion
Os yw'r arhosiad wedi digwydd, nid oes rhaid i chi ad-dalu eich gwesteion.
Gall gwesteion hawlio ad-daliadau gan Awdurdod Cyllid Cymru os yw un o’r canlynol yn berthnasol:
- maen nhw’n gofalu am berson anabl
- maen nhw’n ddigartref dros dro yn ystod yr arhosiad
- maen nhw’n aros am resymau iechyd neu ddiogelwch
Defnyddio llwyfannau archebu
Gallai eich platfform archebu, er enghraifft Airbnb neu Booking.com, eich helpu i ychwanegu ffioedd ardoll ar eich archebion. Holwch nhw am ragor o fanylion.
Cymhwyso TAW
Mae'r ardoll yn cyfrif tuag at eich trosiant trethadwy at ddibenion TAW.
Darllenwch ein canllawiau ar gymhwyso TAW i’r Ardoll Ymwelwyr.
Cymorth
Cysylltu ag Awdurdod Cyllid Cymru am gymorth ynglŷn â ffurflenni a thaliadau Ardoll Ymwelwyr.
