Yn y canllaw hwn
5. Cadw cofnodion ardoll da
Bydd angen i chi gadw cofnodion er mwyn cyfrifo faint o ardoll y mae’n rhaid i chi ei dalu pan fyddwch yn ffeilio'ch ffurflenni Ardoll Ymwelwyr.
Rhaid i'r cofnodion ar gyfer pob archeb gynnwys:
- faint o ymwelwyr sy’n aros
- faint o nosweithiau maen nhw wedi’u harchebu
Rhaid i chi hefyd gadw cofnodion ar arosiadau pan na fydd gofyn i chi dalu'r ardoll amdanyn nhw, gan gynnwys:
- sawl arhosiad sy’n 32 noson neu fwy sydd o un archeb
- nifer y plant o dan 18 oed yn aros mewn pabell neu'n rhannu ystafell mewn hostel, tŷ bync, neu bothy neu ystafell gysgu
- arosiadau sy’n cael eu darparu gan gyngor lleol fel llety dros dro
Am faint sydd raid i chi gadw eich cofnodion
Rhaid i chi gadw'r cofnodion hyn am o leiaf 6 blynedd ar ôl cyflwyno eich ffurflen ardoll. Efallai y bydd angen i chi newid eich systemau cadw cofnodion er mwyn sicrhau eich bod yn cydymffurfio.
