Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Mae'r Warant i Bobl Ifanc yn un o ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu, a lansiwyd gan Weinidog yr Economi ym mis Tachwedd 2021. Nod y Warant i Bobl Ifanc yw cynnig cymorth i bobl ifanc rhwng 16 i 24 oed yng Nghymru ennill lle mewn addysg neu hyfforddiant, dod o hyd i swydd neu ddod yn hunangyflogedig.

Mae'r Warant i Bobl Ifanc yn dwyn ynghyd amrywiaeth eang o raglenni a mentrau i bobl ifanc sydd â'r nod o wella darpariaeth ym maes cyflogadwyedd, menter a sgiliau er mwyn rhoi'r cymorth cywir, ar yr adeg gywir, ar gyfer anghenion amrywiol pobl ifanc ledled Cymru.

Dyma'r cyntaf mewn cyfres o adroddiadau eleni a fydd yn darparu data ansoddol a meintiol yn ogystal â dadansoddi.

Cerrig milltir cenedlaethol

Yn yr hirdymor, mae'r Warant i Bobl Ifanc yn anelu at sicrhau bod 90% o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050 – yn unol â Charreg Filltir Genedlaethol Llywodraeth Cymru.

Yng Nghymru, mae'r amcangyfrifon[troednodyn 1] dros dro diweddaraf yn awgrymu bod cyfran y bobl ifanc 16-18 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) wedi cynyddu i 13.6% yn 2021, o gymharu â 11.7% yn 2020. Mae'r cynnydd hwn wedi cael ei ysgogi'n bennaf gan gynnydd yn y gyfradd anweithgarwch economaidd[troednodyn 2] (heb gynnwys myfyrwyr) ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed, ond gwelwyd ychydig o gynnydd mewn diweithdra. Ar gyfer pobl ifanc 19 i 24 oed, mae'r amcangyfrifon terfynol ar gyfer 2020 yn nodi mae'r gyfran nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant wedi ostwng ychydig i 15.8%, ac yna fod cynnydd amcangyfrifedig yn 2021 i 16.3%.

Yn ôl amcangyfrifon dros dro, roedd 84.5% o bobl rhwng 16 a 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant yn 2021, i lawr o 85.4% yn 2020.

Mae Arolwg diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol y Llu Llafur hefyd yn dangos cynnydd mewn diweithdra ar lefel y DU ar gyfer pobl ifanc 16 i 24 oed: A06 SA: Educational status and labour market status for people aged from 16 to 24 (seasonally adjusted) - Office for National Statistics (ons.gov.uk)

Amcangyfrir bod y nifer y bobl ifanc yng Nghymru yn 2020[troednodyn 3] rhwng 16 a 24 oed yn 346,000, sef ychydig dros 1 o bob 10 person yng Nghymru. Mae nifer y bobl ifanc wedi bod yn gostwng ers 2012 pan oedd amcangyfrif bod 375,000 o bobl ifanc.

Mae'r amcangyfrifon poblogaeth a ddefnyddir i gyfrifo cyfraddau NEET wedi'u haddasu i oedran fel ar 31 Awst (sail blwyddyn academaidd) ac felly nid ydynt yn cyfateb i'r ffigurau hyn.

Amcangyfrir y bydd nifer y bobl ifanc yn aros yn sefydlog ac yna'n cynyddu o 2025 i 369,000 erbyn 2032[troednodyn 4]. Amcangyfrir wedyn y bydd yn dirywio, erbyn 2041 disgwylir i nifer y bobl ifanc fod o dan 320,000.

Yn Atodiad 1 rydym wedi rhoi manylion am yr allbynnau ystadegol a'r setiau data pellach sy'n berthnasol i'r Warant, a fydd ochr yn ochr â'n Sgwrs Genedlaethol (gweler yr adran nesaf) ac ystod o waith arolygu a gwerthuso eraill, yn llywio'r gwaith o ddylunio a monitro'r rhaglen.

Ein nod yw darparu dadansoddiad llawnach o'r data a'r canfyddiadau sy'n dod i'r amlwg yn ddiweddarach yn y flwyddyn gan nodi bod y ffynonellau'n ymwneud â chymysgedd o flynyddoedd academaidd ac ariannol gyda rhai angen eu dilysu cyn eu cyhoeddi.

Flwyddyn yn ddiweddarach

Beth mae pobl ifanc yn ei ddweud?

Mae'r to ifanc wedi wynebu amgylchiadau eithriadol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. 

Mae'r Prince's Trust[troednodyn 5] wedi nodi bod dros 60% o bobl ifanc 16-25 oed wedi dweud eu bod yn ofni am ddyfodol eu cenhedlaeth, gydag un o bob tri yn pryderu na fydd eu rhagolygon gwaith byth yn gwella yn sgil y pandemig a'r argyfwng costau byw.

Yn sgil hynny, wrth wraidd ein Gwarant i Bobl Ifanc eleni yw ein Sgwrs Genedlaethol a datblygu ein gallu i glywed am y problemau y maent yn eu hwynebu ac yn eu deall.

Nodwyd gennym fod[troednodyn 6] y genhedlaeth bresennol yn fwy darbodus, difrifol ac ymwybodol o'r hinsawdd na chenedlaethau blaenorol. Ymhlith eu prif flaenoriaethau mae addysg, cyflogaeth a'u rhagolygon ar gyfer y dyfodol.

Maent hefyd yn cael eu hystyried yn amddiffynwyr amrywiaeth, sydd fel arfer yn adeiladu ar y sylfeini a osodwyd gan y genhedlaeth flaenorol.

Mae pobl ifanc hefyd yn cydbwyso eu hawydd am gysylltiad drwy'r amser a'r dechnoleg ddiweddaraf a phryderon ynglŷn â phreifatrwydd a diogelwch.

Yn anffodus, mae hefyd yn genhedlaeth sy'n wynebu cryn rwystrau o ran iechyd meddwl a hyder.

Yn ôl y Resolution Foundation[troednodyn 7], rhwng 2006 a 2021, ar draws y DU, mae anweithgarwch economaidd oherwydd problemau iechyd hirdymor wedi bod yn codi i ddynion a menywod ifanc.

Cododd anweithgarwch economaidd oherwydd problemau iechyd hirdymor 45,000 i ddynion ifanc (i gyrraedd 91,000) ac i 28,000 i fenywod ifanc (i gyrraedd 70,000). Mae'r cynnydd mwyaf miniog wedi bod mewn anweithgarwch economaidd oherwydd problemau iechyd meddwl.

Mae ein ffocws parhaus ar bobl ifanc sydd (neu sydd mewn perygl o ddod) nid mewn addysg, cyflogaeth, neu hyfforddiant yn hollbwysig er mwyn inni fynd i'r afael â bygythiad cynffon hir o fod yn ddi-waith neu'n economaidd anweithgar flynyddoedd yn ddiweddarach. Byddem yn cyhoeddi Rhan Un - Adroddiad Sgwrs Genedlaethol fis nesaf (Chwefror 2023).

Pa gynnydd rydyn ni wedi'i wneud?

Rydym eisoes wedi gweithredu'n bendant ar ffyrdd o wella sut rydym yn nodi'r bobl ifanc hynny y gallai fod angen cymorth ychwanegol fwyaf arnynt:

  • rydym wedi gwella ein rhaglenni presennol a lansio dulliau newydd er mwyn bod yn fwy effeithiol wrth gefnogi pobl infanc
  • ymgysylltu â busnes a rhoi hwb i gymorth cychwynnol, a
  • chanolbwyntio ar gynwysoldeb

Gwella ein rhaglenni presennol a lansio dulliau newydd

Bydd y Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid ar ei newydd wedd yn chwarae rhan allweddol yn y broses o adnabod pobl ifanc yn gynnar sydd dan berygl o ddod nid mewn addysg, cyflogaeth, neu hyfforddiant hyd at 18 oed.

Mae'n seiliedig ar ddeall eu hanghenion, rhoi trefniadau cymorth neu ddarpariaeth briodol ar waith a monitro eu cynnydd. Mae'r Fframwaith hefyd yn cyd-fynd â'n hymrwymiad i atal digartrefedd ieuenctid ac mae'n ceisio sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu nodi a'u cefnogi cyn eu bod mewn argyfwng.

Ar ôl rhoi mwy o ffocws ar gyflogaeth, rydym wedi gweld dros 20,000 o ymyriadau drwy ein gwasanaethau cyflogadwyedd yn unig, gyda thros 11,000 o bobl ifanc yn dechrau ar ein rhaglenni cyflogadwyedd. 

Ym mis Ebrill, lansiwyd Twf Swyddi Cymru+, gan ddisodli'r rhaglenni Twf Swyddi Cymru a Hyfforddeiaethau presennol Cymru.

O dan Twf Swyddi Cymru+ mae pobl ifanc 16-18 oed yn cael cefnogaeth unigol i'w harfogi gyda'r hyder, sgiliau, a'r profiad i fynd i fewn i addysg bellach, ddod o hyd i swydd a pharhau i fod mewn cyflogaeth Mae cymorthdaliadau cyflog hyd at 50% o gyflogau'r chwe mis cyntaf a hyfforddiant yn y swydd ar gael i fusnesau sy'n cyflogi pobl ifanc rhwng 16 ac 18 oed trwy'r cynllun.

Ers ei lansio (ac erbyn Medi 2022) mae 3,470 o unigolion wedi dechrau Twf Swyddi Cymru+ hyd yn hyn, gyda 1,270 o'r rheiny wedi cwblhau eu rhaglenni a gyda dros 50% wedi cael canlyniad positif hyd yn hyn.

Rydym hefyd wedi cysylltu mynediad at gymorth Twf Swyddi Cymru+ i'r rhai sy'n rhan o'n Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol ac rydym yn ystyried rhagor o gydweithio i gynyddu'r pecyn o gymorth y gall y rhai sy'n gadael gofal ac eraill o gefndiroedd cymhleth ddewis ohono.

Mae Cymunedau Dros Waith a Mwy wedi gweld gallu mentora ychwanegol i helpu pobl sydd ymhellaf i ffwrdd o'r farchnad lafur i gael cyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth. Mae dros 3,400 o bobl ifanc wedi cael cymorth o dan y cynllun ers lansio'r Warant i Bobl Ifanc, gyda dros 1,500 yn symud ymlaen i gyflogaeth hyd yn hyn.

Mae mwy na 6,500 o bobl ifanc wedi cael cymorth drwy ein casgliad o raglenni cyflogadwyedd cymunedol.

Ym mis Mehefin, lansiwyd ReAct+ gan adeiladu ar lwyddiant y rhaglenni ReAct blaenorol ac ehangu'r cymhwysedd i'r rhai rhwng 18 a 24 oed ac nid mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Mae ganddo gapasiti i ddarparu cefnogaeth sy'n cael ei harwain gan y galw i hyd at 5,400 o bobl ifanc bob blwyddyn, gan gynnwys grantiau hyfforddiant galwedigaethol a chymorth cyflog yn ogystal â chymorth ymarferol gyda gofal plant a chostau trafnidiaeth. Bydd data canlyniadau ac allbynnau ar gael yn ddiweddarach eleni (2023), o ystyried mai dim ond chwe mis y bu'r rhaglen yn weithredol.

Erbyn mis Ebrill, roedd yna eisoes 18,675 o brentisiaethau pob oed a ddechreuwyd, ers dechrau tymor y Senedd hwn. Mae data ar brentisiaethau a ddechreuwyd yn cael ei gyhoeddi'n chwarterol. Rydym yn parhau i ddarparu buddsoddiad sylweddol yn ein rhaglen brentisiaethau flaenllaw - gan weithio yn erbyn cefndir o her economaidd ac ansicrwydd sylweddol, sy'n cael ei waethygu gan golli cyllid yr UE sydd ar ddod.

Er mwyn helpu i oresgyn hyn, bydd £18m ychwanegol yn cael ei fuddsoddi mewn prentisiaethau bob blwyddyn o 2023-24 ymlaen, mae hyn yn amlygu ein hymrwymiad i ddarparu rhaglen sy'n canolbwyntio ar gyfleoedd uwchsgilio llwyddiannus ac o ansawdd uchel. Byddwn yn defnyddio'r cyllid hwn i gynnal ein ffocws ar flaenoriaethau sgiliau technegol, anghenion yr economi sylfaenol a'r sectorau galw uchel fel Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant ac i gyfrannu tuag at ein huchelgeisiau sero net

Ymgysylltu â busnes a rhoi hwb i gymorth cychwynnol 

O ran ymgysylltu â busnesau, mae ein rhaglen ‘Yn gefn i chi’ –rhaglen Busnes Cymru yn darparu'r prif lwyfan nid yn unig ar gyfer cefnogi busnesau ond yn eu cynnwys wrth ddatblygu pobl ifanc - o brentisiaethau a Go Wales i Bartneriaeth Busnes Addysg Gyrfa Cymru. Bydd gwasanaethau newydd Busnes Cymru (a ragwelir ar gyfer gweithredu o fis Ebrill 2023) wedi nodi eu bod yn ymgysylltu â thua 60,000 o fusnesau/darpar fusnesau newydd posibl sy'n rhan o'r flwyddyn.

Ym mis Hydref fe wnaethom gyhoeddi bod gan bob coleg Addysg Bellach yng Nghymru Biwro Cyflogaeth a Menter o’r radd flaenaf, gan ddarparu ehangder o gymorth cyflogaeth a chyfleoedd i symleiddio'r broses o drosglwyddo o ddysgu i weithio.

Er mwyn codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o fusnesau newydd, mae Syniadau Mawr Cymru yn estyn allan i bobl ifanc mewn ysgolion, colegau, prifysgolion a grwpiau cymunedol drwy rwydwaith o fodelau rôl entrepreneuraidd, gan gyflwyno amrywiaeth o weithdai a digwyddiadau. Ers 1 Hydref 2021, maent gyda'i gilydd wedi darparu 2,137 o weithdai i gyrraedd 79,188 o bobl ifanc i helpu i ddatblygu eu gwybodaeth am fusnes, codi dyheadau a dealltwriaeth o'r camau nesaf tuag at hunangyflogaeth. 

Rhwng 1 Hydref 2021 a 30 Tachwedd 2022, roedd Syniadau Mawr Cymru, fel rhan o wasanaeth Busnes Cymru wedi rhoi cyngor a chymorth busnes i 1,901 o bobl ifanc dan 25 oed; Dechreuodd 185 o bobl ifanc fusnes. 

Gan ganolbwyntio ar estyn allan i grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli mewn busnes newydd, datganodd y cleientiaid a gymerodd ran fel: 51% yn fenywod, 7% Lleiafrifoedd Du, Asiaidd, Ethnig ac 8% yn anabl.

Rydym hefyd wedi rhoi hwb i gefnogaeth pobl ifanc drwy grant Dechrau Busnes Pobl Ifanc. Wedi'i lansio ym mis Gorffennaf 2022, mae 120 o gleientiaid yn gweithio gyda chynghorwyr busnes i adolygu syniadau busnes a datblygu eu cynlluniau busnes i wneud cais am y grant.  Ers hynny mae 75 o bobl ifanc, oedd yn ddi-waith cyn hynny, wedi cael grant. (Ceir tabl llawn o ddyfarniadau grant a wnaed i bobl ifanc o'r grant Rhwystrau i Ddechrau 2021 a Grant Dechrau Business y Warant  i Bobl Ifanc 2022 gan Awdurdod Lleol a demograffeg ar dudalen 14).

Cynwysoldeb

Mae'r Gwarant yn rhan o gynllun peilot cyllidebu rhywedd Llywodraeth Cymru - lle rydym yn ystyried tystiolaeth a data newydd sy'n dod i'r amlwg o ran rhywedd a nodweddion eraill – gyda'r nod o ail-glustnodi adnoddau i fynd i'r afael â rhwystrau/materion a nodwyd.

Rydym wedi comisiynu adolygiad – disgwylir adroddiad ym mis Mai 2023 – ar gefnogi pobl ifanc sy'n segur yn economaidd i oresgyn rhwystrau rhyng-swyddogaethol i gael mynediad at a chynnal eu nodau.

Mae manyleb rhaglen Twf Swyddi Cymru+ yn cynnwys camfeydd y mae'n rhaid i Gontractwyr gymryd camau cadarnhaol i fynd i'r afael â rhwystrau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu o ganlyniad i anawsterau a brofir gan grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli, a'u bod yn cael eu monitro'n rheolaidd. Mae'n ofynnol i Cymru'n Gweithio fonitro atgyfeiriadau yn ôl oedran, rhyw, ethnigrwydd a statws anabledd, gan gynnwys data a dadansoddiad gan asiantaethau atgyfeirio a chyfraddau cyfranogiad meincnodi yn erbyn cyfartaleddau lleol a chenedlaethol; a chymryd camau cadarnhaol i wella cyfranogiad a chyrhaeddiad gan grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflogi rhwydwaith o Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl, gyda chefnogaeth Ymgynghorwyr Cyflogaeth Pobl Anabl Busnes Cymru, i ddarparu cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth i gyflogwyr ledled Cymru. Ar gyfer rhaglenni fel prentisiaethau, mae gennym fathodyn 'Cyflogwr Hyderus i'r Anabl' lle rydyn ni wedi gweithio gyda sefydliad sydd wedi gwneud ymrwymiadau penodol i recriwtio, a chadw pobl anabl. Mae'r bathodyn yn cael ei arddangos ar hysbysebion prentisiaeth a ffurflenni cais.

Rydym hefyd yn parhau i redeg ein Bydd Bositif, sydd â'r nod o roi negeseuon a chymorth cadarnhaol i bobl ifanc er mwyn eu galluogi i ddechrau neu newid stori eu bywyd. Lansiwyd yr ymgyrch mewn ymateb i effaith COVID-19 a'i nod yw gwrthsefyll agweddau negyddol ynglŷn â rhagolygon gwaith a'r heriau i iechyd meddwl a wynebir gan bobl ifanc.

Yn bwysig ddigon, mae gwasanaeth Cymru'n Gweithio bellach yn cynnig un llwybr syml tuag at gymorth ynghyd â chyngor gyrfaoedd annibynnol, proffesiynol. Fel y gwasanaeth cyngor ac arweiniad annibynnol ar yrfaoedd mae mewn sefyllfa ddelfrydol i angori'r Warant i Bobl Ifanc â nifer o wahanol raglenni a chymunedau ledled Cymru. Mae Cymru'n Gweithio hefyd yn goruchwylio'r gwahanol adroddiadau perfformiad ar y Warant i Bobl Ifanc. Mae Cymru'n Gweithio hefyd sy'n goruchwylio adroddiadau perfformiad amrywiol ar yr Warant. Mae Cymru'n Gweithio yn rhan o fudiad Gyrfa Cymru ac mae ganddo ficro-wefan Cymru'n Gweithio sy'n cynnwys dolenni sy'n symud cwsmeriaid yn llyfn rhwng y ddau safle yn dibynnu ar eu hanghenion neu eu pwrpas wrth ymweld â'r safle.

Mae bron 11,000 o bobl ifanc wedi ymwneud â Cymru'n Gweithio ers i'r Warant ddechrau. I'r rhai sy'n ymgysylltu trwy Cymru'n Gweithio gwyddom mai cyflogaeth yw'r gyrchfan fwyaf cyffredin, ac yna hyfforddiant yna addysg

Cafodd y Pecyn cymorth addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith (CWRE) ei ddiweddaru hefyd yn 2022. Mae ysgolion yn gyfrifol am gyflawni o dan y cwricwlwm newydd ac mae canllawiau CWRE wedi'u datblygu i gefnogi ysgolion i ddarparu rhaglen CWRE hoffus ar draws pob maes dysgu a phrofiad. Bydd hyn hefyd yn cynnwys rhaglen o ymgysylltu â chyflogwyr a phrofiadau gwaith.

Mae'r cynnig addysg yn parhau i fod yn rhan allweddol o'r Warant, yn enwedig i'r garfan o ddysgwyr sydd fel arfer heb gyflawni'n dda yn eu haddysg ysgol ac nad oes ganddynt syniad clir o'u llwybr galwedigaethol.

Yn ystod y pandemig, mae absenoldeb wedi bod y gwaethaf ymysg blwyddyn 11. I gefnogi'r dysgwyr hyn i baratoi ar gyfer arholiadau, gwnaethom ariannu darpariaeth £1.28 miliwn o gymorth pontio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn wedi'i dargedu i'w cefnogi i symud ymlaen gyda hyder a gwneud penderfyniadau gwybodus ynghylch pontio i'r camau nesaf, gan gynnwys addysg bellach ac addysg uwch.

Rydym hefyd wedi darparu £8.5 miliwn o gyllid pontio penodol i golegau a dosbarthiadau chweched dosbarth ysgolion i gefnogi pobl ifanc wrth iddynt bontio i gam nesaf eu haddysg neu eu gyrfa, gan alluogi gweithgareddau megis mentora, sesiynau blasu a thiwtora ychwanegol.

Yn ogystal, sefydlwyd yr Adolygiad Cymwysterau Galwedigaethol i ddiwygio cymwysterau ac ehangu'r ystod o gymwysterau galwedigaethol 'a wnaed ar gyfer Cymru' ochr yn ochr ag Adolygiadau Sector Cymwysterau Cymru. Rydym yn edrych yn benodol ar sut mae polisi cymwysterau yn cefnogi dysgwyr wrth iddynt bontio drwy'r cyfnod 14-19.

Yn ystod argyfwng costau byw, mae'n bwysicach nag erioed bod pob mesur yn cael ei gymryd i sicrhau bod pawb, waeth beth yw eu cefndir, yn gallu cael mynediad at addysg uwch. Yn y gorffennol rydym wedi penderfynu bod cyfradd y gefnogaeth i fyfyrwyr yn gysylltiedig â gwerth y Cyflog Byw Cenedlaethol.

Yn y flwyddyn ariannol 2023-24 bydd cyfradd y cymorth cynnal a chadw a delir i fyfyrwyr addysg uwch llawn a rhan-amser o Gymru yn cynyddu 9.4% ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24, yn amodol ar y rheoliadau sy'n cael eu gwneud yn gynnar ym mis Chwefror. Ar y llaw arall, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynnydd o 2.8% i fyfyrwyr sy'n byw fel arfer yn Lloegr.

Mae Llywodraeth Cymru'n parhau i ddarparu'r system gyllid i fyfyrwyr mwyaf blaengar yn y DU.

Mae Datganiad Llafar 22 Tachwedd gan y Gweinidog Addysg yn rhoi diweddariad o'n cynlluniau i wneud Cymru'n genedl ail gyfle.

Ar 13 Rhagfyr, rhoddodd Gweinidog yr Economi Ddatganiad Llafar i Senedd Cymru ar hynt yr YPG a'r camau nesaf.

Allbynnau Ystadegol/Setiau Data sy'n berthnasol i'r Warant i Bobl Ifanc

Ceir amrywiaeth o gyhoeddiadau ystadegol Llywodraeth Cymru sy'n berthnasol i'r Warant i Bobl Ifanc. Mae'r rhain yn ymdrin ag amrywiaeth o feysydd pwnc, gan gynnwys ystadegau'r farchnad lafur ar gyfer pobl ifanc, cyfranogiad ac ystadegau canlyniadau ar gyfer nifer o sectorau addysg, ac ystadegau sy'n gysylltiedig â rhaglenni cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru. Rhestrir hefyd nifer o gyhoeddiadau eraill sy'n darparu gwybodaeth gyd-destunol ddefnyddiol am bobl ifanc yng Nghymru.

Ystadegau am y farchnad lafur a/neu statws addysg pobl ifanc

Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a'r farchnad lafur | LLYW.CYMRU

  • Cyhoeddwyd yn flynyddol, fel arfer ym mis Gorffennaf.
  • Yn darparu gwybodaeth am weithgareddau dysgu pobl ifanc 16 i 24 oed a'u statws yn y farchnad lafur.
  • Mae hefyd yn rhoi'r prif fesur o bobl ifanc sy'n NEET.
  • Cyhoeddwyd y data yn ôl rhywedd. Mae cyfyngiadau'r data yn golygu nad oes modd dadgyfuno'r prif fesur o NEET yn ôl nodweddion gwarchodedig eraill ar hyn o bryd.

Pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) | LLYW.CYMRU

  • Cyhoeddwyd yn chwarterol (fel arfer Ionawr, Ebrill, Gorffennaf a Hydref).
  • Mae'r datganiad hwn yn crynhoi'r ystadegau sydd ar gael ynglŷn â phobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth, na hyfforddiant (NEET) yng Nghymru, o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth.
  • Mae'r amcangyfrifon hyn yn fwy amserol ond llai ystadegol gadarn na'r prif fesur.
  • Amcangyfrifon a gyhoeddwyd, wedi'u dadansoddi yn ôl oedran, anabledd, ethnigrwydd, a rhanbarth am gyfnod cyfartalog o dair blynedd.

Ystadegau'r farchnad lafur (Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth) | LLYW.CYMRU

  • Cyhoeddwyd yn chwarterol
  • Mae'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn cyfuno samplau atgyfnerthu'r Arolwg o'r Llafurlu. Yr Arolwg o'r Llafurlu yw'r brif ffynhonnell o hyd ar gyfer prif ddangosyddion ar gyfer y farchnad lafur ar lefel Cymru. Mae'r sampl fwy o faint gan yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn golygu bod modd llunio amcangyfrifon ar lefel awdurdod lleol ac ar gyfer is-grwpiau o'r boblogaeth.
  •  Cynhwysir adran ar bobl ifanc 16-24 oed (yn ôl rhyw).

Hynt disgyblion

  • Arolwg blynyddol o bobl ifanc sydd wedi gadael yr ysgol yw hynt disgyblion, a gynhelir gan Gyrfa Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.
  • Mae Gyrfa Cymru dan rwymedigaeth gytundebol i ddarparu data i Lywodraeth Cymru ar hynt disgyblion o bob ysgol a gynhelir ac ysgolion anghenion arbennig sydd o fewn oedran gadael ysgol neu’n hŷn.
  • Mae’r arolwg yn rhoi ciplun defnyddiol o hynt disgyblion er mwyn rhoi gwybodaeth i staff gyrfaoedd wrth iddynt weithio gyda chleientiaid, rhieni, athrawon a chyflogwyr.
  • Mae’r data a gesglir hefyd yn gymorth gwerthfawr i bartneriaid sy’n rhan o’r broses o gynllunio cyfleoedd dysgu, hyfforddi a chyflogaeth.

Ystadegau Addysg Eraill/Ffynonellau

Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd | LLYW.CYMRU

  • Cyhoeddwyd yn chwarterol (fel arfer Chweforr, Mai, Awst, Tachwedd).
  • Cynhwysir data yn ôl rhanbarth domisil, math o raglen, grŵp oedran, sector, rhywedd, ethnigrwydd anabledd a blwyddyn academaidd.
  • Hefyd yn cynnwys mesur o gynnydd tuag at y targed rhaglen y Llywodraeth o 125,000

Addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith, a dysgu cymunedol | LLYW.CYMRU

  • Cyhoeddwyd yn flynyddol, fel arfer mis Chwefror.
  • Gwybodaeth am ddysgwyr sydd wedi cofrestru a'u gweithgareddau yn ôl oedran, rhywedd, ethnigrwydd, anabledd, rhanbarth domisil, dull astudio, math o raglen a lefel astudio.

Mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16 (cyrchfannau dysgwyr) | LLYW.CYMRU

  • Cyhoeddwyd yn flynyddol, fel arfer mis Medi.
  • Cyrchfannau dysgwyr yn chweched dosbarth ysgolion, addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith yn ystod y flwyddyn academaidd ar ôl gadael eu rhaglen dysgu ôl-16.
  • Mae'n darparu mesurau o gyflogaeth barhaus a/neu ddysgu parhaus.
  • Mae dadansoddiadau ar gael yn ôl math o raglen, lefel, rhywedd, oedran, ethnigrwydd, degradd amddifadedd, darpariaeth AAA a chymhwystra prydau ysgol am ddim yn ystod addysg orfodol.

Mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16 (cyflawniad) | LLYW.CYMRU

  • Cyhoeddwyd yn flynyddol, fel arfer mis Chwefror.
  • Cyflawniad yn ystod chweched dosbarth ysgolion a cholegau AB.
  • Wedi'u gohirio am ddwy flynedd yn ystod y pandemig ond bydd data ar gyfer y flwyddyn academaidd 2021/22 yn cael eu cyhoeddi ym mis Chwefror 2023.
  • Dadansoddiadau yn ôl math o raglen, lefel, oedran, rhywedd a degradd amddifaddedd. Caiff rhagor o ddadansoddiadau eu cynnwys yn y datganiad nesaf.

Mesurau canlyniadau dysgwyr ar gyfer addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion yn y gymuned | LLYW.CYMRU

  • Cyhoeddwyd yn flynyddol, fel arfer mis Chwefror.
  • Data ar ganlyniadau dysgwyr yn ôl lefel astudio, math o nod dysgu, maes sector/pwnc, rhywedd, oedran, rhanbarth domisil, degradd amddifadded ac ethnigrwydd
  • Wedi'u gohirio am ddwy flynedd yn ystod y pandemig ond bydd data ar gyfer y flwyddyn academaidd 2021/22 yn cael eu cyhoeddi ym mis Chwefror 2023.

Myfyrwyr mewn addysg uwch

  • Cyhoeddwyd yn flynyddol, fel arfer Ionawr.
  • Manylion cofrestru a chymwysterau myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn academaidd. Gwybodaeth ychwanegol am StatsCymru.

Canlyniadau cyfrifiad ysgolion

  • Cyhoeddwyd yn flynyddol, fel arfer Gorffennaf.
  • Yn cynnwys ystadegau am niferoedd dysgwyr mewn adrannau chweched dosbarth ysgolion a'u nodweddion.

Lefel y cymwysterau uchaf a ddelir gan oedolion o oed gweithio | LLYW. CYMRU

  • Cyhoeddwyd yn flynyddol, fel arfer mis Ebrill.
  • Cyflwynir ystadegau ar lefel y cymwysterau uchaf a ddelir gan oedolion o oed gweithio (18 i 64) yng Nghymru
  • Cynhwysir dadansoddiad ar gyfer y grŵp 18-24 oed.
  • Mae dadansoddiadau eraill yn cynnwys rhyw, ethnigrwydd, awdurdod lleol, statws cyflogaeth a'r Gymraeg.

Global Entrepreneurship Monitor (GEM)

  • Mae GEM yn creu mynegai o weithgaredd entrepreneuraidd cyfnod cynnar (a elwir yn TEA), a gyhoeddwyd fel arfer Medi.;
  • Yn cyflwyno lefel entrepreneuriaeth ieuenctid yng Nghymru drwy demograffeg gyda chwestiynau penodol ar ddyheadau pobl ifanc am entrepreneuriaeth a'u gweithgarwch entrepreneuriaeth cyfnod cynnar (TEA). 

Eiddo deallusol, busnesau newydd a spin-offs | HESA

  • Yr Arolwg Busnes Addysg Uwch a Rhyngweithio Cymunedol (HEBCI) yw'r prif gyfrwng ar gyfer mesur cyfaint a chyfeiriad rhyngweithio rhwng darparwyr a busnes AU y DU, a'r gymuned ehangach.

Arolwg Canlyniadau Graddedigion

  • Cyflwynir yr arolwg gan HESA (Higher Education Statistics Agency).
  • Arolwg Canlyniadau Graddedigion yw'r arolwg cymdeithasol blynyddol mwyaf yn y DU ac mae'n cyfleu safbwyntiau a statws cyfredol graddedigion. Bydd gofyn i'r holl raddedigion a gwblhaodd gwrs addysg uwch gymryd rhan yn yr arolwg 15 mis ar ôl iddynt orffen eu hastudiaethau.

Ystadegau Twf Swyddi Cymru+: Ebrill i Fehefin 2022 | LLYW.CYMRU

  • Gwybodaeth am raglenni dysgu Twf Swyddi Cymru+ a'r dysgwyr sy'n cofrestru â nhw.
  • Mae hwn yn ddatganiad newydd. Caiff y prif ystadegau eu cyhoeddi bob chwarter gyda datganiad blynyddol manylach sy'n dadansoddi data yn ôl nodweddion gwarchodedig.

Estyn Adroddiad Blynyddol | Annual Report – 2021-2022 (gov.wales)

  • Adroddiad blynyddol gan Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant Cymru ar beth sy'n mynd yn dda a beth sydd angen ei wella o ran addysg ac hyfforddiant yng Nghymru.

Llesiant Cymru

Llesiant Cymru | LLYW.CYMRU

  • Diweddariad blynyddol ar y cynnydd sy'n cael ei wneud yng Nghymru tuag at gyflawni'r 7 nod llesiant. Mae'n rhoi naratif ynglŷn â thueddiadau gyda'r dangosyddion cenedlaethol a chynnydd yn erbyn cerrig milltir.

Llesiant Cymru: dangosyddion cenedlaethol | LLYW.CYMRU

  • Tudalennau HTML ar bob un o'r dangosyddion cenedlaethol (gyda dolenni i wybodaeth ychwanegol)

Llesiant Cymru 2022: llesiant plant a phobl ifanc | LLYW.CYMRU

  • Adroddiad untro a gyhoeddwyd ym mis Medi 2022.

Poblogaeth Cymru

Amcangyfrifon canol y flwyddyn o'r boblogaeth (set swyddogol amcangyfrifon poblogaeth Cymru).

• Mae'r amcangyfrifon canol blwyddyn yn cyfeirio at y boblogaeth ar 30ain Mehefin o'r flwyddyn gyfeirio ac yn cael eu cyhoeddi'n flynyddol.

Amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol

  • Mae'r rhagamcanion hyn yn arwydd o faint a strwythur posibl poblogaeth Cymru
  • Mae rhagamcanion poblogaeth yn destun ansicrwydd ac yn seiliedig ar dybiaethau ar dueddiadau'r dyfodol o ran ffrwythlondeb, marwolaethau a mudo. Nid yw effeithiau pandemig y coronafeirws (COVID-19) ar ymddygiad demograffig yn glir eto ac mae hyn yn cyfrannu at fwy o ansicrwydd.

Amcanestyniadau is-genedlaethol o’r boblogaeth (awdurdodau lleol): 2018 i 2043

• Mae'r rhagamcanion hyn yn arwydd o faint a strwythur posibl poblogaeth awdurdodau lleol ar gyfer y cyfnod rhwng 2018 a 2043 yn ôl rhyw ac un flwyddyn oed.

• Nid yw'r rhagamcanion yn ragolygon. Dydyn nhw ddim yn ceisio rhagweld effaith polisïau'r llywodraeth, newid amgylchiadau economaidd

Grantiau i bobl ifanc o grant Rhwystrau i Ddechrau 2021 a Grant Dechrau Busnes y Warant Pobl Ifanc 2022

Grantiau hunangyflogaeth: Hydref 2021 i Dachwedd 2022

Cais wedi ei dderbyn

% o'r ceisiadau a gyflwynir gan ALl

Ddi - waith

Cyfanswm ceisiadau a ddyfarnwyd

%

Blaenau Gwent

2

1.0%

2

2

1.1%

Pen-y-Bont

15

7.7%

13

13

7.1%

Caerffili

13

6.7%

11

11

6.0%

Caerdydd

19

9.8%

19

17

9.3%

Sir  Gâr

7

3.6%

7

7

3.8%

Ceredigion

6

3.1%

6

6

3.3%

Conwy

7

3.6%

7

6

3.3%

Sir Ddinbych

6

3.1%

6

6

3.3%

Sir y Fflint

11

5.7%

10

10

5.5%

Gwynedd

6

3.1%

6

6

3.3%

Ynys Môn

7

3.6%

7

7

3.8%

Merthyr Tydful

3

1.5%

2

2

1.1%

Sir Fynwy

5

2.6%

5

5

2.7%

Castell-nedd Port Talbot

10

5.2%

10

10

5.5%

Casnewydd

9

4.6%

9

9

4.9%

Sir Penfro

1

0.5%

1

1

0.5%

Powys

7

3.6%

7

7

3.8%

Rhondda Cynon Taf

8

4.1%

7

7

3.8%

Abertawe

23

11.9%

24

23

12.6%

Torfaen

11

5.7%

10

10

5.5%

Bro Morgannwg

12

6.2%

12

12

6.6%

Wrecsam

6

3.1%

6

5

2.7%

 

194

100.0%

187

182

100.0%

Asesir demograffeg ar gam ymgeisio gyda chleientiaid yn datgan:

  • 53% Benyw, 46% Gwryw ac 1% arall; 
  • 8% Ethnig, Du, Asiaidd a Lleiafrifol;
  • 15% anabl;
  • 1.5% Dinasyddion nad ydynt yn y DU.

Troednodiadau

[1]  Pobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET): Ebrill 2021 i Fehefin 2022

[2] Ystyr economaidd anweithgar yw bod yn ddi-waith a ddim yn chwilio am swydd.

[3] Yr amcangyfrif diweddaraf o ganol y flwyddyn: Mid-year population estimates QMI - Office for National Statistics (ons.gov.uk)

[4] Y rhagamcanion poblogaeth genedlaethol diweddaraf Sail-2020 (llyw.cymru). Gwybodaeth am answadd: National population projections QMI - Office for National Statistics

[5New research from The Prince’s Trust reveals almost half of young people in the UK feel anxious about their future on a daily basis | News and views | About The Trust | The Prince's Trust (princes-trust.org.uk)

[6] The Principles, Passions and Pressures of Generation Z – adroddiad Golley Slater ar gyfer Llywodraeth Cymru (ar gael are gais)

[7Not working: Resolution Foundation