Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae nifer y plant sy'n derbyn gofal a chymorth yn cynnwys dim ond y plant hynny (o dan 18 oed) a oedd â chynllun gofal a chymorth ar waith am dri mis neu fwy ar ddyddiad y cyfrifiad sef 31 Mawrth, h.y. roedd y cynllun gofal a chymorth ar waith ar neu cyn 1 Ionawr 2022 ac roedd yn parhau i fod ar waith ar 31 Mawrth 2022.

Mae hyn yn cynnwys plant sydd â chynllun gofal a chymorth sydd:

  • yn cael eu cefnogi gan eu teuluoedd neu'n annibynnol
  • yn derbyn gofal ac yng ngofal awdurdod lleol neu wedi eu lletya gan yr awdurdod
  • ar y gofrestr amddiffyn plant ac yn destun cynllun diogelu rhyngasiantaethol

Gall y plant hyn fod â chynllun cymorth hefyd os ydynt yn darparu gofal i rywun arall a gall y plant hyn fod yn yr ystâd ddiogel (h.y. llety cadw ieuenctid, carchar neu lety mechnïaeth).

Mae plant a oedd yn derbyn gofal ac ar y gofrestr amddiffyn plant yn cael eu cyfrif fel plant sy'n derbyn gofal at ddibenion y datganiad hwn.

Mae data newydd yn seiliedig ar y sefyllfa ar 31 Mawrth 2022.

Cyhoeddir y data sydd wedi'u cynnwys yn y datganiad hwn a gwybodaeth bellach ar gyfer awdurdodau lleol unigol ar StatsCymru.

Prif bwyntiau

  • Roedd 17,189 o blant yn derbyn gofal a chymorth ar 31 Mawrth 2022, cynnydd o 179 (1%) o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn cyfateb i 278.9 o blant fesul 10,000 o blant o dan 18 oed.
  • Mae nifer a chyfradd gyffredinol y plant sy'n derbyn gofal a chymorth sydd wedi'u cynnwys yn y Cyfrifiad Plant sy'n Derbyn Gofal a Chymorth (CRCS) wedi cynyddu'n gyson bob blwyddyn ers i ddata ddechrau cael eu casglu ar 31 Mawrth 2017.
  • Roedd 6,972 o blant yn derbyn gofal gan awdurdod lleol ac roedd 2,339 o blant ar y gofrestr amddiffyn plant. Roedd 139 o blant yn derbyn gofal ac ar y gofrestr amddiffyn plant (wedi'u cynnwys yng nghyfanswm y plant sy'n derbyn gofal). Nid oedd y 7,878 o blant oedd yn weddill yn derbyn gofal ac nid oeddent ar y gofrestr amddiffyn plant.
  • Risg o gam-drin neu esgeulustod, neu gam-drin neu esgeulustod gwirioneddol, oedd y rheswm mwyaf cyffredin pam fod plant wedi dechrau derbyn gofal a chymorth a dyma’r prif reswm ar gyfer 51% o blant a oedd yn derbyn gofal a chymorth.
  • Salwch meddwl rhieni oedd y ffactor capasiti rhianta a gofnodwyd amlaf ac roedd yn bresennol ar gyfer 43% o blant a oedd yn derbyn gofal a chymorth.
  • O’r plant sy'n derbyn gofal a chymorth sydd wedi’u paru i Gronfa Ddata Genedlaethol y Disgyblion rhwng 5 a 15 oed, roedd gan 55% hawl i brydau ysgol am ddim ac roedd gan 54% anghenion dysgu ychwanegol neu anghenion addysgol arbennig. Roedd y cyfrannau hyn yn uwch nag ar gyfer pob disgybl o oedran ysgol statudol (23% a 18% yn y drefn honno).
  • Cyflawnodd 42% o blant sy'n derbyn gofal a chymorth, sydd wedi’u paru i Gronfa Ddata Genedlaethol y Disgyblion 13 neu 14 oed, y Dangosydd Pwnc Craidd yng Nghyfnod Allweddol 3 o'i gymharu â 78% o holl ddisgyblion Cymru.

Nifer y plant sy'n derbyn gofal a chymorth

Er mwyn cael cynllun gofal a chymorth, bydd plant wedi cael asesiad o'u hanghenion gofal a chymorth. Bydd yr asesiad wedi dod i'r casgliad mai dim ond drwy gynllun gofal a chymorth y gellir diwallu anghenion y plentyn.

Ffigur 1: Plant sy'n derbyn gofal a chymorth ar 31 Mawrth, 2017 i 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart bar wedi'i stacio sy'n dangos bod nifer y plant sy'n derbyn gofal a chymorth wedi cynyddu'n gyson ers 2017 pan ddechreuwyd casglu data.

Ffynhonnell: Cyfrifiad plant sy'n derbyn gofal a chymorth, Llywodraeth Cymru

Plant sy'n derbyn gofal a chymorth yn ôl awdurdod lleol a statws derbyn gofal ar StatsCymru

[r] Diwygiwyd y data ers eu cyhoeddi'n flaenorol.

Mae nifer y plant sy'n derbyn gofal a chymorth wedi bod ar gynnydd ac wedi cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn ers 2017. Mae'r gyfradd fesul 10,000 o blant o dan 18 oed sy'n derbyn gofal a chymorth hefyd wedi cynyddu bob blwyddyn ac roedd yn 278.9 ar 31 Mawrth 2022. Gweler yr wybodaeth ansawdd a methodoleg i weld datganiad ansawdd data ar gyfer data poblogaeth.

Nid oedd bron i hanner (46%) y plant sy'n derbyn gofal a chymorth yn derbyn gofal nac ar y gofrestr amddiffyn plant yn 2022. Gostyngodd y gyfran hon i ddechrau o 2017 ond cynyddodd o 43% yn 2021. Cynyddodd cyfran y plant sy'n derbyn gofal a chymorth a oedd yn derbyn gofal bob blwyddyn rhwng 2017 a 2020 ond gostyngodd yn 2022.

Mae cyfran y plant ar y gofrestr amddiffyn plant wedi aros ar oddeutu 14% ers 2017. Ar gyfer y plant hynny ar y gofrestr amddiffyn plant ar 31 Mawrth 2022, roedd y mwyafrif wedi'u hychwanegu at y gofrestr o dan y categori cam-drin emosiynol.

Nodweddion plant sy'n derbyn gofal a chymorth

Cesglir gwybodaeth sy'n disgrifio nodweddion plant sy'n derbyn gofal a chymorth.

Oedran

Ffigur 2: Plant sy'n derbyn gofal a chymorth yn ôl oedran, 31 Mawrth 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart bar yn dangos bod y rhan fwyaf o blant oedd yn derbyn gofal a chymorth ar 31 Mawrth 2022 rhwng 10 a 15 oed.

Ffynhonnell: Cyfrifiad plant sy'n derbyn gofal a chymorth, Llywodraeth Cymru

Plant sy'n derbyn gofal a chymorth yn ôl awdurdod lleol a grŵp oedran ar StatsCymru

Roedd 20% o'r holl blant a oedd yn derbyn gofal a chymorth o dan 5 oed, roedd 26% yn 5 i 9 oed, roedd 40% yn 10 i 15 oed ac roedd 14% o blant a oedd yn derbyn gofal a chymorth yn 16 oed neu'n hŷn ar 31 Mawrth 2022.

Mae cyfran y plant sy'n derbyn gofal a chymorth sy'n 1 i 4 oed wedi gostwng ers 2017 (o 19% i 16%). Mae cyfran y plant sy'n derbyn gofal a chymorth sy'n 11 i 15 oed wedi cynyddu dros yr un cyfnod (o 36% i 40%). Mae cyfrannau ar gyfer grwpiau oedran eraill wedi aros yn weddol gyson.

Roedd plant sy’n derbyn gofal a chymorth a oedd ar y gofrestr amddiffyn plant yn gyffredinol yn iau na phlant eraill oedd yn derbyn gofal a chymorth. Roedd plant sy'n derbyn gofal a phlant nad ydynt yn derbyn gofal nac ar y gofrestr amddiffyn plant yn hŷn ar y cyfan.

Ethnigrwydd

Ffigur 3: Plant sy'n derbyn gofal a chymorth yn ôl grŵp ethnig, 31 Mawrth 2022 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart bar yn dangos lle cofnodwyd ethnigrwydd, roedd 91% o blant oedd yn derbyn gofal a chymorth ar 31 Mawrth 2022 yn Wyn.

Ffynhonnell: Cyfrifiad plant sy'n derbyn gofal a chymorth, Llywodraeth Cymru

Plant sy'n derbyn gofal a chymorth yn ôl ethnigrwydd a statws derbyn gofal ar StatsCymru

[Nodyn 1]  Nid yw plant sydd â data neu grŵp ethnig coll wedi eu cynnwys. Yn 2022, roedd 1,489 o blant (9%) â data grŵp ethnig coll neu anhysbys.

Ar 31 Mawrth 2022, lle cofnodwyd ethnigrwydd, roedd 91% o blant a oedd yn derbyn gofal a chymorth yn dod o grŵp ethnig Gwyn. Roedd 4% o blant yn dod o grŵp ethnig cymysg, roedd 2% o grŵp ethnig Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig, roedd 1% yn dod o grŵp ethnig Du, Affricanaidd, Caribïaidd neu Ddu Prydeinig ac roedd 1% yn dod o grwpiau ethnig eraill. Roedd y cyfrannau ar gyfer pob grŵp ethnig yn debyg o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Roedd bron i hanner (49%) y plant sy'n derbyn gofal a chymorth o grwpiau ethnig cymysg yn derbyn gofal o'i gymharu â dwy ran o bump (39%) o blant o grwpiau ethnig eraill na nodwyd uchod. Roedd cyfran lai o blant o grwpiau ethnig Du, Affricanaidd, Caribïaidd neu Ddu Prydeinig ar y gofrestr amddiffyn plant ac roedd cyfran uwch ohonynt ddim yn derbyn gofal a ddim ar y gofrestr amddiffyn plant o'i gymharu â grwpiau ethnig eraill.

Roedd cyfran uwch o blant oedd yn derbyn gofal a chymorth yn dod o grŵp ethnig Gwyn o'i gymharu â'r boblogaeth gyffredinol o dan 18 oed yn ôl Cyfrifiad 2021 (SYG) (91% o'i gymharu â 90%). Roedd cyfran y plant sy'n derbyn gofal a chymorth o grŵp ethnig Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig yn is o'i gymharu â'r boblogaeth gyffredinol (2% o'i gymharu â 4%).

Anabledd

Roedd 22% o'r plant oedd yn derbyn gofal a chymorth yn anabl; lle'r oedd gan y plentyn nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar ei allu i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd ar 31 Mawrth 2022. Mae'r ganran hon wedi bod yn gymharol sefydlog dros y blynyddoedd diwethaf. Roedd gan dros draean (37%) o'r plant nad oedd yn derbyn gofal ac nad oedd ar y gofrestr amddiffyn plant anabledd, o'i gymharu â 10% o blant sy'n derbyn gofal a 5% o blant ar y gofrestr amddiffyn plant.

Roedd canran y plant anabl a oedd yn derbyn gofal a chymorth yn llawer uwch na'r ganran ar gyfer plant yn y boblogaeth gyffredinol, lle nododd 3% o'r boblogaeth gyffredinol o dan 18 oed fod ganddynt broblem iechyd hirdymor neu anabledd sy'n cyfyngu llawer ar eu gweithgareddau o ddydd i ddydd (yn ôl Cyfrifiad 2021 (SYG)).

Ffigur 4: Y 5 categori amhariad uchaf a adroddwyd ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a chymorth, 31 Mawrth 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart bar yn dangos mai diffyg canfyddiad o'r risg o berygl corfforol oedd y categori amhariad mwyaf cyffredin a adroddwyd ar gyfer plant a oedd yn derbyn gofal a chymorth ar 31 Mawrth 2022.

Ffynhonnell: Cyfrifiad plant sy'n derbyn gofal a chymorth, Llywodraeth Cymru

Anableddau plant sy'n derbyn gofal a chymorth yn ôl mesur a blwyddyn ar StatsCymru

Cofnodwyd diffyg canfyddiad o'r risg o berygl corfforol fel categori penodol o amhariad ar gyfer bron i dri chwarter (70%) o'r holl blant anabl. Roedd bron i ddwy ran o bump (57%) o blant anabl wedi'u cofnodi fel rhai ag amhariad ar eu lleferydd, eu clyw neu eu golwg. Ar gyfer y plant hynny yr adroddwyd eu bod â chategorïau penodol o amhariadau, dim ond un categori a gofnodwyd ar gyfer 28% o blant tra bod yr wyth categori wedi'u cofnodi ar gyfer 8% o blant.

Rhywedd

Roedd 55% o'r plant oedd yn derbyn gofal a chymorth yn wrywaidd a 45% yn fenywaidd ar 31 Mawrth 2022. Mae'r cyfrannau hyn wedi bod yn sefydlog ers i ddata gael ei gasglu gyntaf yn 2017. Gweler gwybodaeth ansawdd a methodoleg am ddatganiad ansawdd data ar gyfer data rhywedd.

Plant sy’n ceisio lloches

Roedd llai nag 1% o blant oedd yn derbyn gofal a chymorth yn blant sy'n ceisio lloches ar 31 Mawrth 2022; roedd y rhan fwyaf ohonynt ar eu pen eu hunain yn hytrach nag yn rhan o deuluoedd a oedd yn ceisio lloches, ac yn derbyn gofal. Roedd mwy o wrywod na benywod yn blant sy'n ceisio lloches fel mewn blynyddoedd blaenorol.

Iaith

Cofnodwyd gwybodaeth am yr iaith a ffefrir gan y plentyn ar gyfer pob plentyn ond tri o blant 3 oed a hŷn ar 31 Mawrth 2022. Saesneg oedd yr iaith a ffefrir gan 93% o blant, ac yna Cymraeg (3%). Mae hwn yn batrwm tebyg i'r blynyddoedd blaenorol.

Yr angen am ofal a chymorth

Fel rhan o asesiad plentyn, nodir ei anghenion am ofal a chymorth. Os yw asesiad plentyn yn arwain at ddarparu cynllun gofal a chymorth, cofnodir y prif reswm pam y dechreuodd plentyn dderbyn gofal a chymorth gan wasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol.

Ffigur 5: Plant sy'n derbyn gofal a chymorth yn ôl yr angen am ofal a chymorth, 31 Mawrth 2022 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart bar yn dangos bod y rhan fwyaf o blant a oedd yn derbyn gofal a chymorth ar 31 Mawrth 2022 wedi dechrau derbyn gofal a chymorth oherwydd y risg o gam-drin neu esgeulustod, neu gam-drin neu esgeulustod gwirioneddol.

Ffynhonnell: Cyfrifiad plant sy'n derbyn gofal a chymorth, Llywodraeth Cymru

Plant sy'n derbyn gofal a chymorth yn ôl awdurdod lleol a'r categori anghenion ar StatsCymru

[Nodyn 1] Categorïau eraill o angen yw ymddygiad cymdeithasol annerbyniol, anabledd neu salwch rhieni, absenoldeb rhieni ac amhariad mabwysiadu. Mae dadansoddiad llawn ar gael ar StatsCymru.

Dechreuodd ychydig dros hanner (51%) yr holl blant a oedd yn derbyn gofal a chymorth ar 31 Mawrth 2022 wneud hynny oherwydd y risg o gam-drin neu esgeulustod, neu gam-drin neu esgeulustod gwirioneddol. Dyma'r categori anghenion mwyaf cyffredin ers dechrau casglu data yn 2017 ond mae'n gyfran ychydig yn is nag yn 2021 (52%). Roedd y gyfran yn uwch ar gyfer plant a oedd yn derbyn gofal neu ar y gofrestr amddiffyn plant (65% a 59% yn y drefn honno) o'i gymharu â phlant nad oeddent yn derbyn gofal ac nad oeddent ar y gofrestr amddiffyn plant (35%). Roedd hyn hefyd yn amrywio yn ôl oedran gyda'r gyfran uchaf o blant yn dechrau derbyn gofal a chymorth oherwydd camdriniaeth neu esgeulustod yn y grŵp oedran o dan 1 oed; gostyngodd hyn yn ôl oedran.

Anabledd neu salwch y plentyn oedd y prif reswm dros ddechrau derbyn gofal a chymorth ar gyfer 16% o blant sy'n derbyn gofal a chymorth. Roedd hyn yn amrywio yn ôl oedran gyda'r gyfran isaf o blant yn dechrau derbyn gofal a chymorth oherwydd anabledd neu salwch yn y grŵp oedran o dan 1 oed; roedd hyn yn cynyddu gydag oedran. At ei gilydd, nid oedd 86% o blant a oedd yn dechrau derbyn gofal a chymorth oherwydd anabledd neu salwch yn derbyn gofal nac ar y gofrestr amddiffyn plant; mae hyn wedi gostwng o oddeutu 92% yn y blynyddoedd blaenorol.

Camweithrediad teuluol oedd y rheswm y gwnaeth 16% o blant ddechrau derbyn gofal a chymorth, ac yna teulu mewn straen acíwt ar gyfer 12% o blant. Roedd ymddygiad cymdeithasol annerbyniol, anabledd neu salwch rhieni, absenoldeb rhieni ac amhariad mabwysiadu yn llawer llai cyffredin. Mae'r cyfrannau hyn wedi aros yn weddol sefydlog ers 2017.

Ffactorau rhianta

Cofnodwyd gwybodaeth am bum ffactor yn ymwneud â rhieni'r plentyn a allai effeithio ar eu gallu i fod yn rhiant. Efallai bod y ffactorau hyn wedi bod yn bresennol yn y cam atgyfeirio neu efallai eu bod wedi codi ers atgyfeirio. Efallai bod un neu fwy o ffactorau wedi cael eu cofnodi ar gyfer pob plentyn ac felly gellir cyfrif plant o dan fwy nag un ffactor.

Ffigur 6: Plant sy'n derbyn gofal a chymorth yn ôl ffactorau rhieni a gofnodwyd, 31 Mawrth 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Siart bar yn dangos mai salwch meddwl rhieni oedd y ffactor capasiti rhianta a gofnodwyd amlaf ar gyfer plant a oedd yn derbyn gofal a chymorth y darparwyd gwybodaeth ar eu cyfer ar 31 Mawrth 2022.

Ffynhonnell: Cyfrifiad plant sy'n derbyn gofal a chymorth, Llywodraeth Cymru

Ffactorau rhieni plant sy'n derbyn gofal a chymorth yn ôl mesur a blwyddyn ar StatsCymru

Roedd gan 60% o blant a oedd yn derbyn gofal a chymorth, ac yr oedd gwybodaeth ar gael ar eu cyfer, o leiaf un ffactor capasiti rhianta wedi'i gofnodi fel un sy'n bresennol ar 31 Mawrth 2022. Roedd canrannau'r plant lle cofnodwyd ffactorau capasiti rhianta yn 2022 yn debyg i 2021 ac yn uwch nag ar gyfer blynyddoedd blaenorol.

Salwch meddwl rhieni oedd y ffactor capasiti rhianta a gofnodwyd amlaf. Adroddwyd hyn ar gyfer 43% o'r plant y darparwyd gwybodaeth ar eu cyfer, cynnydd sylweddol o 29% yn 2017. Dilynwyd hyn gan rieni'n camddefnyddio sylweddau neu alcohol a cham-drin domestig. Roedd y ddau ffactor hyn wedi'u hadrodd ar gyfer 31% o blant y darparwyd gwybodaeth ar eu cyfer ym mis Mawrth 2022.

Cofnodwyd salwch corfforol rhieni ar gyfer 15% o blant oedd yn derbyn gofal a chymorth; nid oedd ychydig dros hanner (51%) o'r plant hyn yn derbyn gofal nac ar y gofrestr amddiffyn plant. Cofnodwyd anableddau dysgu rhieni ar gyfer 8% o blant sy'n derbyn gofal a chymorth. Nododd cyfran uwch o blant sy'n derbyn gofal anableddau dysgu rhieni fel ffactor sy'n bresennol na'r rhai nad oeddent yn derbyn gofal, fel yn y blynyddoedd blaenorol.

Roedd cyfran y plant a nododd ffactorau rhieni yn is ar gyfer y rhai nad oeddent yn derbyn gofal ac nid ar y gofrestr amddiffyn plant ar gyfer pob ffactor ac eithrio salwch corfforol rhieni.

Iechyd

Casglwyd gwybodaeth am iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau, a hefyd pa mor gyfredol oedd gwiriadau gwyliadwriaeth iechyd, gwiriadau deintyddol ac imiwneiddiadau plant yn y grwpiau oedran perthnasol.

Iechyd meddwl

Casglwyd data ar iechyd meddwl ar gyfer plant 10 oed a throsodd. Ar gyfer y plant hynny lle roedd gwybodaeth ar gael, cofnodwyd bod gan 18% broblem iechyd meddwl ar 31 Mawrth 2022. Mae hyn yn gynnydd bychan o 17% yn y flwyddyn flaenorol.

Adroddwyd bod gan gyfran uwch o bobl ifanc 16 i 17 oed (25%) broblem iechyd meddwl na'r rhai rhwng 10 a 15 oed (16%). Adroddwyd bod gan gyfran uwch o blant sy'n derbyn gofal a chymorth nad oeddent yn derbyn gofal ac nad oeddent ar y gofrestr amddiffyn plant broblem iechyd meddwl (20%) na'r rhai a oedd naill ai'n derbyn gofal neu ar y gofrestr amddiffyn plant (17%).

Ar gyfer 49% o blant sy'n derbyn gofal a chymorth ac â phroblem iechyd meddwl roedd salwch meddwl rhieni wedi’i gofnodi fel ffactor sy'n bresennol, o'i gymharu â 38% ar gyfer pob plentyn 10 oed a hŷn yn y Cyfrifiad Plant sy'n Derbyn Gofal a Chymorth.

Camddefnyddio sylweddau

Casglwyd data ar gamddefnyddio sylweddau ar gyfer plant 10 oed a throsodd. Ar gyfer y plant hynny lle roedd gwybodaeth ar gael, cofnodwyd bod gan 7% broblem camddefnyddio sylweddau ar 31 Mawrth 2022. Mae hyn yn gyfran debyg i'r flwyddyn flaenorol.

Adroddwyd bod cyfran uwch o bobl ifanc 16 i 17 oed (15%) â phroblem camddefnyddio sylweddau na'r rhai rhwng 10 a 15 oed (5%). Adroddwyd bod gan gyfran uwch o blant ar y gofrestr amddiffyn plant (9%) broblem camddefnyddio sylweddau na'r rhai sy'n derbyn gofal neu ddim yn derbyn gofal a ddim ar y gofrestr amddiffyn plant (7%).

Ar gyfer 36% o blant sy'n derbyn gofal a chymorth a oedd â phroblem camddefnyddio sylweddau roedd rhieni yn camddefnyddio sylweddau neu alcohol wedi'i gofnodi fel ffactor sy’n bresennol, o’i gymharu â 25% ar gyfer pob plentyn 10 oed a hŷn yn y Cyfrifiad Plant sy'n Derbyn Gofal a Chymorth. Ar gyfer 43% o blant sy'n derbyn gofal a chymorth a oedd â phroblem camddefnyddio sylweddau roedd salwch meddwl rhieni wedi'i gofnodi fel ffactor presennol.

Gwiriadau iechyd

Casglwyd data archwiliadau iechyd ar gyfer plant 5 oed neu iau. Ar gyfer y plant hynny lle roedd gwybodaeth ar gael, roedd gwiriadau gwyliadwriaeth iechyd 92% ohonynt yn gyfredol ar 31 Mawrth 2022; mae'r gyfran hon wedi cynyddu o 80% yn 2017. Roedd cyfran y plant sy'n derbyn gofal yr oedd eu gwiriadau iechyd yn gyfredol (95%) yn uwch nag ar gyfer plant eraill ar y gofrestr amddiffyn plant neu blant nad oeddent yn derbyn gofal (86% a 92% yn y drefn honno).

Gwiriadau deintyddol

Casglwyd data archwiliadau deintyddol ar gyfer plant 5 oed a throsodd. Ar gyfer y plant hynny lle roedd gwybodaeth ar gael, roedd gwiriadau deintyddol 68% ohonynt yn gyfredol ar 31 Mawrth 2022; mae'r gyfran hon wedi gostwng o uchafbwynt o 87% yn 2019. Roedd cyfran y plant sy'n derbyn gofal yr oedd eu gwiriadau deintyddol yn gyfredol (71%) yn uwch nag ar gyfer plant eraill ar y gofrestr amddiffyn plant neu blant nad oeddent yn derbyn gofal (55% a 67% yn y drefn honno).

Imiwneiddiadau

Ar gyfer pob plentyn lle darparwyd gwybodaeth, roedd imiwneiddiadau 93% yn gyfredol ar 31 Mawrth 2022; mae hyn yn gyfran debyg i'r ddwy flynedd flaenorol ac yn llawer uwch na chyn 2020 (pan oedd tua 83%). Roedd cyfran y plant ar y gofrestr amddiffyn plant yr oedd eu himiwneiddiadau'n gyfredol (87%) yn is nag ar gyfer plant sy'n derbyn gofal neu ddim yn derbyn gofal a ddim ar y gofrestr amddiffyn plant (94% a 93% yn y drefn honno).

Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig

Adroddwyd am Anhwylderau ar y Sbectrwm Awtistig (ASD) ar gyfer 12% o blant sy'n derbyn gofal a chymorth ar 31 Mawrth 2022, cyfran debyg i'r blynyddoedd blaenorol. Roedd dros dri chwarter (77%) o'r plant a gofnodwyd fel rhai ag ASD yn fechgyn.

O'r plant 5 i 15 oed hynny sy'n derbyn gofal a chymorth ar 31 Mawrth 2022, adroddwyd bod gan 14% ASD. Mae hyn yn cymharu â 2% ar gyfer pob disgybl 5 i 15 oed yng Nghymru (yn ôl y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (StatsCymru) Chwefror 2022).

Addysg

Mae Rhif Unigryw'r Disgybl (UPN) yn cael ei gasglu ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a chymorth ac mae'n caniatáu paru plant yn ddienw yn y grwpiau oedran perthnasol â Chronfa Ddata Genedlaethol y Disgyblion fel y gellir crynhoi cofnodion addysgol heb orfod casglu'r wybodaeth hon gan awdurdodau lleol. Drwy'r adran hon o'r datganiad dyfynnir oedran disgyblion ar 31 Awst 2021. Gweler gwybodaeth ansawdd a methodoleg ar gyfer datganiad ansawdd data ar ddata addysg.

Prydau ysgol am ddim

Mae disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim os yw eu teuluoedd yn cael rhai budd-daliadau/taliadau cymorth.

Roedd 55% o'r plant sy'n derbyn gofal a chymorth rhwng 5 a 15 oed a oedd wedi'u paru i Gronfa Ddata Genedlaethol y Disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Roedd hyn yn amrywio rhwng plant sy'n derbyn gofal a chymorth a oedd yn derbyn gofal (42%) a phlant nad oeddent yn derbyn gofal (63%). Roedd cyfran uwch o blant nad oeddent yn derbyn gofal ond ar y gofrestr amddiffyn plant yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim o'i gymharu â phlant nad oeddent yn derbyn gofal a ddim ar y gofrestr amddiffyn plant. Mae'r cyfraddau hyn wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae hyn yn cymharu â 23% o ddisgyblion o oedran ysgol statudol y gwyddwn sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ym mis Chwefror 2022. Mae rhagor o wybodaeth ac ystadegau ar ddisgyblion yng Nghymru sydd â hawl i brydau ysgol am ddim i'w gweld ar StatsCymru a datganiadau ystadegol Canlyniadau'r Cyfrifiad Ysgolion.

Anghenion dysgu ychwanegol ac anghenion addysgol arbennig

Mae gan blentyn anghenion arbennig os oes ganddo anawsterau sy'n gofyn am ddarpariaeth addysgol arbennig. Efallai y bydd gan ddisgyblion ag anghenion addysgol arbennig Ddatganiadau gan yr awdurdod lleol neu efallai y bydd eu hanghenion wedi'u nodi gan yr ysgol (naill ai o dan Gweithredu gan yr Ysgol neu Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy). O 1 Medi 2021 efallai y bydd gan ddysgwyr Gynlluniau Datblygu Unigol a gynhelir gan yr ysgol neu'r awdurdod lleol.

Roedd gan 54% o blant sy'n derbyn gofal a chymorth rhwng 5 a 15 oed ac wedi'u paru i Gronfa Ddata Genedlaethol y Disgyblion anghenion dysgu ychwanegol neu anghenion addysgol arbennig. Roedd hyn yn amrywio rhwng plant sy'n derbyn gofal a chymorth a oedd yn derbyn gofal (46%) a phlant nad oeddent yn derbyn gofal (59%). Roedd gan gyfran uwch o blant nad oeddent yn derbyn gofal ac nad oeddent ar y gofrestr amddiffyn plant anghenion dysgu ychwanegol neu anghenion addysgol arbennig o gymharu â phlant nad oeddent yn derbyn gofal ond ar y gofrestr amddiffyn plant. Mae'r cyfraddau hyn wedi gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae dadansoddiadau pellach yn ôl y math o ddarpariaeth i'w gweld ar StatsCymru.

Mae hyn yn cymharu â 18% o ddisgyblion o oedran ysgol statudol y gwyddom sydd ag anghenion dysgu ychwanegol neu anghenion addysgol arbennig ym mis Chwefror 2022. Mae rhagor o wybodaeth ac ystadegau ar ddisgyblion yng Nghymru sydd ag anghenion dysgu ychwanegol neu anghenion addysgol arbennig ar gael ar StatsCymru a datganiadau ystadegol Canlyniadau'r Cyfrifiad Ysgolion.

Cyrhaeddiad yng Nghyfnod Allweddol 3

Mae'r Dangosydd Pwnc Craidd yng Nghyfnod Allweddol 3 yn cynrychioli canran y disgyblion sy'n cyflawni Lefel 5 neu uwch, yn seiliedig ar asesiadau athrawon, mewn Saesneg neu Gymraeg (iaith gyntaf), Mathemateg a Gwyddoniaeth ar y cyd ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3, yn 14 oed.

Roedd 42% o blant sy'n derbyn gofal a chymorth sy'n 13 neu 14 oed ac wedi'u paru i Gronfa Ddata Genedlaethol y Disgyblion wedi cyflawni'r Dangosydd Pwnc Craidd yng Nghyfnod Allweddol 3. Roedd hyn yn amrywio rhwng plant sy'n derbyn gofal a chymorth a oedd yn derbyn gofal (49%) a phlant nad oeddent yn derbyn gofal (36%). Cyflawnodd cyfran ychydig yn uwch o blant nad ydynt yn derbyn gofal ac nid ar y gofrestr amddiffyn plant y Dangosydd Pwnc Craidd yng Nghyfnod Allweddol 3 o'i gymharu â phlant nad ydynt yn derbyn gofal ond ar y gofrestr amddiffyn plant.

Mae hyn yn cymharu â 78% o holl ddisgyblion Cymru yn 2022. Cyflawnodd cyfran uwch o ferched na bechgyn y Dangosydd Pwnc Craidd yng Nghyfnod Allweddol 3 ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a chymorth a phob disgybl yng Nghymru. Mae rhagor o wybodaeth ac ystadegau ar gyflawniad disgyblion yng Nghymru yng Nghyfnod Allweddol 3 ar gael ar StatsCymru a datganiadau ystadegol Cyflawniad academaidd disgyblion.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

O 2016-17 mae data lefel unigol mewn perthynas â phlant sy'n derbyn gofal a chymorth wedi cael eu casglu drwy'r cyfrifiad Plant sy'n derbyn gofal a chymorth.

Mae'r casgliad yn nodi plant sydd â chynllun gofal a chymorth fel y manylir arno yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Deddfwriaeth y DU). Mae'r ddogfen ganllaw casglu data yn darparu esboniadau o'r eitemau data a'r categorïau ymateb a gesglir o fewn y casgliad data.

Amcangyfrifon o'r boblogaeth

Cyfrifwyd cyfradd y plant sy'n derbyn gofal a chymorth fesul 10,000 o'r boblogaeth o dan 18 oed yn seiliedig ar amcangyfrifon canol blwyddyn 2021 wedi'u hail-seilio a ddarparwyd gan yr ONS. Bydd cyfraddau plant sy'n derbyn gofal a chymorth ar gyfer 2017 i 2020 yn cael eu diwygio yn dilyn cyhoeddi amcangyfrifon canol blwyddyn wedi'u hail-seilio.

Rhywedd

Ar gyfer plant trawsryweddol, cofnodir eu hunaniaeth rhywedd ar hyn o bryd. Bydd anneuaidd yn cael ei gynnwys fel categori ar gyfer casgliad data 2023-24.

Addysg

Mae Rhif Unigryw'r Disgybl yn caniatáu paru plant sy'n derbyn gofal a chymorth yn ddienw yn y grwpiau oedran perthnasol gyda Chronfa Ddata Genedlaethol y Disgyblion. Gellir crynhoi cofnodion am yr hawl i brydau ysgol am ddim, anghenion addysgol arbennig a chyrhaeddiad ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a chymorth heb orfod casglu'r wybodaeth hon gan awdurdodau lleol. Yn gyffredinol, roedd 82% o blant sy'n derbyn gofal a chymorth a oedd â Rhif Unigryw'r Disgybl wedi'u paru i Gronfa Ddata Genedlaethol y Disgyblion. Roedd Rhif Unigryw'r Disgybl ar goll ar gyfer 16% o blant ar 31 Mawrth 2022.

Mae dadansoddiad ar addysg yn seiliedig ar blant o oedran ysgol statudol, h.y. a oedd eisoes yn bump oed neu'n hŷn adeg Cyfrifiad Plant sy'n Derbyn Gofal a Chymorth, ond nad oeddent eto wedi cyrraedd eu pen-blwydd yn 16 oed ar ddiwedd blwyddyn ysgol 2021/22. Mae hyn yn dileu'r effaith o gael gwahanol ddarpariaeth yn lleol ar gyfer y rhai dan bump oed a'r chweched dosbarth. Gan ddefnyddio'r oedran ysgol statudol hwn, roedd 10,277 o blant yn derbyn gofal a chymorth yr oedd Rhif Unigryw'r Disgybl yn cyfateb i'r cronfeydd data addysg (cyfradd cyfateb o 89%).

Dyfynnir oedran disgyblion ar 31 Awst 2021. Mae hyn yn cyfeirio at ddechrau'r flwyddyn academaidd ac mae'n gyfeiriad defnyddiol o ran bod disgyblion fel arfer yn trosglwyddo o ysgol gynradd a gynhelir i ysgol uwchradd, ac yn symud ar ôl hynny drwy'r system ysgol uwchradd, yn ôl eu hoedran ar 31 Awst.

Diwygiadau

Gwnaed mân ddiwygiadau fel rhan o brosesu data 2022 y cytunwyd arnynt gan awdurdodau lleol. Effeithiodd hyn ar ddata ar gyfer 2021 a 2018. Mae diwygiadau a wnaed i ddata'r blynyddoedd blaenorol wedi'u labelu â "r".

Dynodiad ystadegol

Cyhoeddir yr ystadegau hyn fel ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad. Mae rhagor o wybodaeth am ddynodi'r ystadegau hyn ar gael yn yr ohebiaeth rhwng Llywodraeth Cymru a'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegol.

Mae gofynion casglu data ar gyfer y cyfrifiad Plant sy'n Derbyn Gofal a Chymorth wedi cael eu hadolygu'n ddiweddar ac mae gofynion data wedi'u hadnewyddu wedi'u cyhoeddi ar gyfer blwyddyn adrodd 2023-24. O 2023-24 bydd y cyfrifiad yn gasgliad blwyddyn lawn. Mae Adran 1, Manylion Craidd, yn cael ei chwblhau ar gyfer pob plentyn sydd â chynllun gofal a chymorth ar unrhyw adeg yn y flwyddyn ariannol. Mae Adran 2, Manylion Gofal a Chymorth, yn cael ei chwblhau dim ond ar gyfer y rhai sydd â chynllun gofal a chymorth gweithredol ar 31 Mawrth 2024.

Caiff Adroddiad Ansawdd ei gyhoeddi maes o law.

Datganiad ansawdd

Mae'r ffigurau hyn yn adlewyrchu'r sefyllfa ar 31 Mawrth 2022. Cynhaliwyd ymarfer sicrwydd ansawdd gydag awdurdodau lleol. Nid yw pob awdurdod lleol wedi darparu canlyniadau llawn.

Roedd gwybodaeth ethnigrwydd ar goll ar gyfer 9% o blant.

Roedd data ffactorau rhieni ar goll ar gyfer bron pob plentyn mewn un awdurdod lleol. Roedd gan awdurdodau lleol eraill ddata coll ar gyfer rhai plant. Yn gyffredinol, roedd data ffactorau gallu rhieni ar goll ar gyfer 7% o blant.

Roedd data iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau ar goll ar gyfer bron pob plentyn 10 oed a throsodd mewn un awdurdod lleol. Roedd gan awdurdodau lleol eraill ddata coll ar gyfer rhai plant. Yn gyffredinol, roedd data iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau ar goll ar gyfer 7% o blant.

Roedd data gwiriadau iechyd ar goll ar gyfer dros 90% o blant 5 oed neu iau mewn dau awdurdod lleol. Roedd gan awdurdodau lleol eraill ddata coll ar gyfer rhai plant. Yn gyffredinol, roedd data gwiriadau iechyd ar goll ar gyfer 14% o blant.

Roedd data archwiliadau deintyddol ar goll ar gyfer dros 90% o blant 5 oed a throsodd mewn tri awdurdod lleol. Roedd gan awdurdodau lleol eraill ddata coll ar gyfer rhai plant. Yn gyffredinol, roedd data archwiliadau deintyddol ar goll ar gyfer 15% o blant.

Cyfrifwyd canrannau yn y datganiad hwn yn seiliedig ar y plant hynny lle darparwyd gwybodaeth hysbys ac maent wedi'u talgrynnu i'r canran agosaf. Lle nad oes gwybodaeth ar gael, nodir hynny yn glir ar StatsCymru.

Nid yw rhywfaint o'r wybodaeth am addysg wedi'i diweddaru. Gyda chyflwyno'r Cwricwlwm newydd i Gymru o fis Medi 2022 ymlaen, nid oedd angen asesiadau diwedd y Cyfnod Sylfaen ac asesiadau diwedd Cyfnod Allweddol 2 yn 2022. Ar ôl cael eu hatal dros dro yn 2020 a 2021 oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19), casglwyd canlyniadau Cyfnod Allweddol 3 ar gyfer 2022, ond nid oedd angen asesiadau mewn ysgolion arbennig. Nid yw'r Ystadegau Gwladol ar bresenoldeb ar gael ar gyfer blynyddoedd ysgol 2019/20, 2020/21 a 2021/22.

Roedd data imiwneiddiadau ar goll ar gyfer dros 90% o blant mewn dau awdurdod lleol. Roedd gan awdurdodau lleol eraill ddata coll ar gyfer rhai plant. Yn gyffredinol, roedd data imiwneiddiadau ar goll ar gyfer 10% o blant.Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ansawdd yn y datganiad ystadegol ar gyfer 31 Mawrth 2019.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn rhoi saith nod llesiant ar waith ar gyfer Cymru. Maent yn anelu at greu Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang, â chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog a lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o'r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae'n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau llesiant, a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol ger bron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fydd Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, rhaid iddynt (a) gyhoeddi'r dangosyddion diwygiedig a (b) gosod copi ohonynt ger bron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn ger bron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r gyfres a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai'r ystadegau sydd wedi'u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd gynnig naratif ategol i'r dangosyddion cenedlaethol a gellid eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â'u hasesiadau llesiant lleol a'u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Bethan Sherwood
E-bost: ystadegau.gwascymdeithasol@llyw.cymru
 
Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 102/2023