Neidio i'r prif gynnwy

Mae £30 miliwn i gael ei fuddsoddi i wella trafnidiaeth gyhoeddus ac annog twf economaidd, yn ôl cyhoeddiad gan Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mai 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd y 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru eu gwahodd i gyflwyno cynigion ar gyfer cyllid Grant Trafnidiaeth Leol Llywodraeth Cymru i gyflawni prosiectau a fydd yn: 

  • cefnogi blaenoriaethau economaidd ar gyfer swyddi a thwf
  • lleihau segurdod economaidd drwy roi mynediad diogel a fforddiadwy at addysg, gwasnaethau allweddol a chyflogaeth, yn enwedig i’r rhai hynny sy’n byw mewn cymunedau difreintiedig neu wledig
  • cysylltu cymunedau
  • annog teithio actif a chynaliadwy
  • gwella dibynadwyedd trafnidiaeth gyhoeddus a lleihau amseroedd teithio 

Wedi asesu’r ceisiadau, mae Ken Skates, y Gweinidog Trafnidaieth wedi cyhoeddi:

  • y bydd £22.6 miliwn yn cael ei ddyrannu i 22 o brosiectau ar draws 15 o awdurdodau lleol fydd yn golygu gwella segurdod economaidd, gwella mynediad at gyflogaeth, annog dulliau iachach o deithio a chysylltu cymunedau. 
  • bydd £3.531 miliwn yn cael ei ddyrannu i brosiect Metro Gogledd Cymru i gyflawni 10 o gynlluniau ar draws 4 o awdurdodau lleol.    
  • bydd £4.1 miliwn yn cael ei ddyrannu i gefnogi 17 o gynlluniau ar draws 13 o Awdurdodau Lleol i leihau tagfeydd bysiau ac oedi ar goridorau trafnidiaeth gyhoeddus strategol.

Meddai Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: 

Mae’r granitau hyn yn fuddsoddiad sylweddol i wella trafnidiaeth gyhoeddus a chefnogi twf econoaidd yn lleol wrth inni weithio i helpu adferiad economaidd y wlad o bandemig y coronafeirws. 

Dwi’n hynod falch bod y cynlluniau hyn yn cynnwys gwelliannau i annog mwy o bobl yng Nghymru i gerdded a beicio, yn enwedig gan ein bod yn gwybod y bydd teithio llesol yn bwysicach nag erioed wrth inni weithio i reoli lledaeniad y clefyd heintus hwn. 

Bydd y grantiau hyn yn golygu y caiff dros £20 miliwn ei fuddsoddi i wella trafnidiaeth gyhoeddus integredig.  Mae hyn yn cynnwys £3.6 miliwn i ddechrau adeiladu y ganolfan fysiau newydd ym Merthyr Tudful, rhywbeth yr wyf yn awyddus iawn i’w weld yn mynd yn ei flaen. 

Yng ngogledd Cymru rwyf yn ymrwymo dros £2.2 miliwn i ddarparu gwasanaeth gwell, mwy effeithlon i deithwyr drwy wella amseroedd teithio ar fysiau a chyfleusterau i deithwyr yn Sir y Fflint, ac er mwyn gwneud hynny mae £380,000 arall wedi ei fuddsoddi yn ardal Cyngor Conwy.

Mae ein prif brosiect, prosiect Metro Gogledd Cymru, yn rhan allweddol o raglen y llywodraeth hon i ddarparu system drafnidiaeth mwy integredig ac effeithlon i’r rhanbarth, a bydd hefyd yn derbyn hwb o £3.5 miliwn.