Neidio i'r prif gynnwy

Amcanestyniadau o boblogaeth y parciau cenedlaethol ar sail 2018

Cafodd amcanestyniadau o boblogaeth y parciau cenedlaethol ar sail 2018 eu cyhoeddi ar 5 Chwefror 2021. Mae'r amcanestyniadau yn dynodi maint a strwythur oedran posibl y boblogaeth yn y dyfodol ar gyfer parciau cenedlaethol yng Nghymru yn ystod y cyfnod o 2018 i 2043.

Fodd bynnag, mae'r datganiad yn canolbwyntio ar 10 mlynedd cyntaf cyfnod yr amcanestyniad, gan fod amcanestyniadau'n tueddu i fynd yn fwyfwy ansicr yn y tymor hwy, oherwydd bod tueddiadau yn gallu newid dros y cyfnod hwnnw. Nid rhagolygon yw'r amcanestyniadau. Nid ydynt yn ceisio rhag-weld effaith polisïau'r llywodraeth, newidiadau mewn amgylchiadau economaidd, na ffactorau eraill (megis pandemig y coronafeirws) ar boblogaeth y dyfodol.

Prif bwyntiau am 2018 i 2028

  • Amcanestynnir y bydd poblogaethau Bannau Brycheiniog ac Arfordir Penfro yn cynyddu 3.5% (1,190) a 2.5% (550) yn y drefn honno.
  • Amcanestynnir y bydd poblogaeth Eryri yn gostwng 1.9% (480).
  • Amcanestynnir y bydd y tri pharc cenedlaethol yn gweld cynnydd canrannol mawr yn nifer y bobl 65 oed neu hŷn, a chynnydd mwy yn nifer y bobl 75 oed neu hŷn.

Amcanestyniadau aelwydydd parciau cenedlaethol ar sail 2018

Cafodd amcanestyniadau o aelwydydd y parciau cenedlaethol ar sail 2018 eu cyhoeddi ar 5 Mai 2021. Mae'r amcanestyniadau yn dynodi nifer a chyfansoddiad aelwydydd yn y parciau cenedlaethol ar gyfer y cyfnod o 2018 i 2043.  

Fodd bynnag, mae'r datganiad yn canolbwyntio ar 10 mlynedd cyntaf cyfnod yr amcanestyniad, gan fod amcanestyniadau'n tueddu i fynd yn fwyfwy ansicr yn y tymor hwy, oherwydd bod tueddiadau yn gallu newid y cyfnod hwnnw. Nid rhagolygon yw'r amcanestyniadau. Nid ydynt yn ceisio rhag-weld effaith polisïau'r llywodraeth, newid mewn amgylchiadau economaidd, na factorau eraill (fel pandemig y coronafeirws) ar boblogaeth aelwydydd yn y dyfodol.

Prif bwyntiau am 2018 i 2028

  • Amcanestynnir y bydd nifer yr aelwydydd ym mhob un o'r tri pharc cenedlaethol yn cynyddu erbyn 2028.
  • Amcanestynnir bydd nifer yr aelwydydd yn cynyddu 4.8% (bron 730) ym Mannau Brycheiniog, 5.3% (550) yn Arfordir Sir Benfro a 0.3% (40) yn Eryri.
  • Amcanestynnir mai aelwydydd un person ac aelwydydd dau berson heb blant fydd y math mwyaf cyffredin o aelwyd ar gyfer pob un o'r tri pharc cenedlaethol.

Dangosyddion cynnar o faint a strwythur oedran poblogaeth y DU, 2020

Cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) 'Dangosyddion cynnar o faint a strwythur oedran poblogaeth y DU, 2020' ar ei gwefan ddydd Gwener 16 Ebrill. Mae hyn cyn ei chyhoeddiad blynyddol arferol o amcangyfrifon canol blwyddyn y boblogaeth, sydd i'w gyhoeddi yn haf 2021. Mae'r cyhoeddiad yn darparu dangosyddion cynnar o boblogaeth y DU yn unig, ac nid yw ar gael ar gyfer unrhyw un o'r gwledydd cyfansoddol.

Ar 30 Mehefin 2020

  • Mae'r dangosydd cynnar o faint poblogaeth y DU yn awgrymu bod poblogaeth y DU, erbyn canol 2020, wedi tyfu i 67.1 miliwn, sy'n gynnydd blynyddol o 0.5% o ganol 2019, sef y cynnydd blynyddol isaf ers y flwyddyn hyd at ganol 2003.
  • Mae dangosyddion cynnar poblogaeth y DU yng nghanol 2020 yn awgrymu bod y boblogaeth 0.12% yn llai na'r hyn a ragfynegwyd ar gyfer canol 2020 (yn yr amcanestyniadau cenedlaethol o'r boblogaeth ar sail 2018
  • Mae'r dangosyddion cynnar ar gyfer canol 2020 yn awgrymu, ar gyfer y grŵp oedran hynaf, 80 oed a throsodd, fod gwahaniaeth mwy (-0.67%) gymharu ag amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol 2018. Mae gwahaniaethau cymedrol o ran pobl 70-79 oed, pobl 60-69 oed, pobl 30-39 oed a phlant 0-9 oed hefyd.

Er mwyn rhoi syniad o faint posibl poblogaeth y DU ar gyfer cyfnod mwy diweddar, mae'r ONS wedi creu pum senario mudo rhyngwladol am y chwe mis hyd at ddiwedd 2020.

Ar 31 Rhagfyr 2020

  • Ar gyfer y senario o 100,000 o fudo net, byddai poblogaeth y DU erbyn diwedd 2020 0.15% yn fwy nag yng nghanol 2020.
  • Ar gyfer y senario o 100,000 o fudo net negyddol, byddai poblogaeth y DU erbyn diwedd 2020 102,000 (-0.15%) yn llai nag yng nghanol 2020.

Dylid defnyddio ffigurau poblogaeth diwedd blwyddyn 2020 yr ONS at ddibenion dangosol yn unig ac maent yn amcanestyniadau sy'n seiliedig ar ymddygiad demograffig a arsylwyd ac amrywiaeth o senarios mudo rhyngwladol posibl.  

Gwnaed rhagdybiaethau i ddatblygu'r ystadegau hyn a dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol o'r rhain. Bwriad yr ystadegau a gyhoeddir yw rhoi cipolwg cynnar ar faint, oedran a dosbarthiad rhyw posibl poblogaeth y DU cyn i'r set lawn o amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn gael eu cyhoeddi yn yr haf.

Amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol y Swyddfa Ystadegau Gwladol: adborth gan ddefnyddwyr Ebrill 2021

Cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yr adroddiad cryno 'Amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol ac is-genedlaethol – adborth gan ddefnyddwyr: Ebrill 2021' ar 19 Ebrill.

Mae hwn yn cynnwys trosolwg o'r ymatebion i'r gwahoddiad i roi adborth ar yr amserlenni ar gyfer amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol ac is-genedlaethol yn y dyfodol.

O ganlyniad i adborth gan ddefnyddwyr ac mewn ymateb i bandemig y coronafeirws (COVID-19), y bwriad yw cyhoeddi prif amcanestyniad poblogaeth cenedlaethol ar gyfer pob un o wledydd cyfansoddol y DU ac ar gyfer y DU gyfan yn unig, heb unrhyw amcanestyniadau amrywiadol. Bwriedir cyhoeddi'r rhain fis Rhagfyr 2021 (gweler calendr datganiadau  y Swyddfa Ystadegau Gwladol lle bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi ymlaen llaw) a cânt eu galw'n 'amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol dros dro ar sail 2020' gan ddefnyddio set wedi'i diweddaru o dybiaethau demograffig.

Wrth gyhoeddi’r amcanestyniadau hyn, cynhwysir manylion llawn, canllawiau ar eu defnydd a data cysylltiedig. Defnyddir y term 'dros dro' yn y teitl cyhoeddi i adlewyrchu'r bwlch rhwng prif amcanestyniadau ac amcanestyniadau dilynol 2020, a fydd yn ymgorffori data sy'n ymwneud ag ystadegau poblogaeth sy'n deillio o Gyfrifiad 2021. Gwneir hynny hefyd i gydnabod bod hwn yn gyfnod o ansicrwydd ym mlwyddyn sylfaen canol 2020 ac wrth osod tybiaethau demograffig hirdymor yn dilyn pandemig y coronafeirws.

Llywodraeth Cymru fydd yn gwneud penderfyniadau ar amserlenni'r amcanestyniadau poblogaeth is-genedlaethol a'r amcanestyniadau aelwydydd yng Nghymru yn y dyfodol. Caiff y penderfyniadau hyn eu llywio gan yr adborth hwn gan ddefnyddwyr yn ogystal â thrwy ymgysylltu â defnyddwyr yn lleol.

Ystadegau Mudo Rhyngwladol

Mae'r ONS wedi cyhoeddi cyfres o erthyglau yn ddiweddar sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau o ran mesur mudo rhyngwladol: Trawsnewid y system ystadegau poblogaeth a mudo - diweddariadau

Ystadegau'r Gymraeg

Ar 31 Mawrth, cafodd y canlyniadau ar gyfer y Gymraeg yn yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth ar gyfer y flwyddyn o fis Hydref 2020 i fis Medi 2020 eu cyhoeddi.

Ers canol mis Mawrth 2020, mae’r Arolwg Cenedlaethol o’r Boblogaeth wedi'i gynnal dros y ffôn yn unig. Mae'r ONS yn parhau i fonitro effaith y newid yn null cynnal yr arolwg ar amcangyfrifon yr Arolwg Cenedlaethol ac mae'n bwriadu gwneud diwygiadau pellach i ddata’r Arolwg ar gyfer 2020 (yn dilyn diwygiadau i amcangyfrifon Gorffennaf 2019 i Fehefin 2020, ac i amcangyfrifon Ebrill 2019 i Fawrth 2020). Un rheswm dros eu diwygio ymhellach yw bod amcangyfrifon yr Arolwg yn cael eu pwysoli yn ôl yr amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol. Gan fod yr amcanestyniadau presennol wedi’u seilio ar 2018, maent wedi’u seilio ar dueddiadau demograffig sy'n rhagflaenu’r pandemig COVID-19. Ar hyn o bryd mae'r ONS yn dadansoddi’r cyfansymiau poblogaeth a ddefnyddir yn y broses bwysoli ac mae'n bwriadu gwneud addasiadau lle y bo’n briodol. Mae'r canrannau a gyhoeddwyd ar sail yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn parhau’n gadarn. Fodd bynnag, dylid bod yn ofalus wrth drin niferoedd a newidiadau yn y niferoedd. Bydd hyn yn effeithio'n arbennig ar amcangyfrifon ar gyfer gwlad enedigol, cenedligrwydd, ethnigrwydd ac anabledd.

Cyfrifiad 2021

Dydd Sul 21 Mawrth oedd dyddiad Cyfrifiad 2021 yng Nghymru ac yn Lloegr.

Cyhoeddodd yr ONS, sy'n gyfrifol am y cyfrifiad yng Nghymru ac yn Lloegr, ddatganiad i'r wasg ar 4 Mai i roi gwybod bod 97% o aelwydydd wedi ymateb i Gyfrifiad 2021 ledled Cymru a Lloegr. Mae pob awdurdod lleol wedi gweld dros 90% o aelwydydd yn ymateb.

Nod yr ONS yw cyhoeddi canfyddiadau cychwynnol Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr rhwng mis Mawrth a mis Ebrill 2022.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.