Cylchlythyr demograffeg Ystadegau Cymru: Rhagfyr 2025
Cylchlythyr Rhagfyr 2025 ar gyfer defnyddwyr ystadegau Cymru ar yr ystadegau diweddaraf am boblogaeth, mudo, cartrefi a’r Gymraeg.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol yn seiliedig ar 2022
Ar 20 Tachwedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol yn seiliedig ar 2022. Mae'r amcanestyniadau'n darparu syniad o faint a strwythur oed posibl y boblogaeth yn y dyfodol ar gyfer awdurdodau Lleol yng Nghymru yn ystod y cyfnod o ganol 2022 i ganol 2047.
Mae'r datganiad yn cynnwys amcanestyniadau ar gyfer awdurdodau lleol yn seiliedig ar 2022, sy'n cynnwys amcanestyniadau amrywiadol o'r boblogaeth, ac yn rhoi trosolwg eang o'r prif ganlyniadau.
Yn ystod y cyfnod rhwng canol 2022 a chanol 2032:
- amcanestynnir y bydd y boblogaeth yn cynyddu ym mhob un o’r 22 o awdurdodau lleol.
- yr awdurdodau lleol yr amcanestynnir y bydd y cynnydd mwyaf yn eu poblogaeth yw Caerdydd (cynnydd o 10.5%), Casnewydd (cynnydd o 10.2%) a Bro Morgannwg (cynnydd o 9.9%).
- mae hyn yn cymharu â chynnydd a amcanestynnir o 5.9% yn y boblogaeth ar gyfer Cymru yn amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn seiliedig ar 2022.
- yr awdurdodau lleol yr amcanestynnir y bydd y cynnydd lleiaf yn eu poblogaeth yw Merthyr Tudful (cynnydd o 1.0%), Caerffili (cynnydd o 1.2%) a Wrecsam (cynnydd o 1.3%).
- amcanestynnir y bydd pob awdurdod lleol, ac eithrio Casnewydd, yn gweld gostyngiad yn nifer y plant a phobl ifanc rhwng 0 a 15 oed.
- amcanestynnir y bydd y boblogaeth 65 oed neu’n hŷn yn cynyddu ym mhob awdurdod lleol.
- ar gyfer pob awdurdod lleol, mae’r cynnydd yn y boblogaeth a amcanestynnir yn cael ei yrru'n bennaf gan fudo net positif.
Byddwn yn cyhoeddi amcanestyniadau poblogaeth ar gyfer y parciau cenedlaethol yn seiliedig ar 2022 ar wahân cyn gynted â phosibl, unwaith y byddwn wedi derbyn yr holl ddata mewnbwn sydd ei angen ar gyfer parciau cenedlaethol.
Amcanestyniadau aelwydydd awdurdodau lleol yn seiliedig ar 2022
Ar 20 Tachwedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru hefyd amcanestyniadau aelwydydd awdurdodau lleol yn seiliedig ar 2022. Mae'r amcanestyniadau'n rhoi syniad o nifer yr aelwydydd, a'u cyfansoddiad, yng Nghymru yn y dyfodol ar gyfer y cyfnod rhwng canol 2022 a chanol 2047.
Mae'r datganiad yn cynnwys amcanestyniadau ar gyfer awdurdodau lleol yn seiliedig ar 2022, sy'n cynnwys amcanestyniadau amrywiadol o aelwydydd, ac yn rhoi trosolwg eang o'r prif ganlyniadau.
Yn ystod y cyfnod rhwng canol 2022 a chanol 2032:
- amcanestynnir i nifer yr aelwydydd yng Nghymru gynyddu oddeutu 98,500, neu 7.2%, i 1.46 miliwn, a hynny’n bennaf oherwydd cynnydd mewn aelwydydd un person.
- amcanestynnir i nifer yr aelwydydd gynyddu ym mhob awdurdod lleol.
- amcanestynnir mai ym Mro Morgannwg (cynnydd o 11.7%) a Chaerdydd (cynnydd o 11.1%) y bydd y cynnydd canrannol mwyaf yn nifer yr aelwydydd.
- amcanestynnir i nifer yr aelwydydd un oedolyn heb blant gynyddu fwyaf o bob math o aelwyd.
- amcanestynnir i nifer yr aelwydydd un person sy’n cynnwys person 60 oed neu hŷn gyfrif am bron i dri ym mhob pum o’r aelwydydd hyn erbyn canol 2032.
- amcanestynnir y bydd nifer y bobl sy’n byw mewn aelwydydd preifat, neu’r ‘boblogaeth aelwydydd’, yn cynyddu tua 172,400 (5.6%) i 3.25 miliwn.
Byddwn yn cyhoeddi amcanestyniadau cartrefi ar gyfer y parciau cenedlaethol yn seiliedig ar 2022 ar wahân cyn gynted â phosibl, unwaith y byddwn wedi cyfrifo'r amcanestyniadau poblogaeth ar gyfer y parciau cenedlaethol.
Ymgynghoriad ar bynciau Cyfrifiad 2031
Ar 28 Hydref, lansiodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch Cyfrifiad 2031: Ymgynghoriad ar y Cynnwys ar gyfer Cymru a Lloegr (SYG) sy'n casglu tystiolaeth ynghylch pa bynciau y dylid eu cynnwys yn y cyfrifiad nesaf yng Nghymru a Lloegr. Bydd yn cau ar 4 Chwefror 2026.
Bydd Cyfrifiad 2031 yn elfen graidd o'r system ystadegau poblogaeth a mudo yn y dyfodol. Gan adeiladu ar lwyddiant Cyfrifiad 2021, bydd yn cael ei gynllunio i ddarparu ystadegau o ansawdd uchel sy'n diwallu anghenion defnyddwyr. Bydd hefyd yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer diwallu anghenion ystadegau poblogaeth yn y dyfodol ar draws y degawd, gan ddefnyddio'r ffynonellau gorau sydd ar gael.
Prif nod yr ymgynghoriad yw cefnogi'r gwaith o ddewis pynciau ar gyfer Cyfrifiad 2031, a chasglu tystiolaeth i gefnogi datblygu cwestiynau ac allbynnau'r cyfrifiad. Yn ogystal, bydd yr ymgynghoriad yn llywio gweithgareddau SYG y tu hwnt i Gyfrifiad 2031, gan gynnwys blaenoriaethu datblygu ystadegau gweinyddol a'r gwaith parhaus o adolygu safonau wedi'u cysoni Gwasanaeth Ystadegol Llywodraeth y DU ar gyfer casglu data. Mae SYG yn gweithio'n agos gyda phob un o'r llywodraethau datganoledig i gefnogi cydlyniant ledled y DU, wrth ddiwallu anghenion unigryw pob gwlad.
Amcangyfrifon poblogaeth yn ôl ardal allbwn, etholaeth, ardal iechyd a chategorïau daearyddol eraill yng Nghymru a Lloegr
Ar 7 Tachwedd, cyhoeddodd SYG 'small area population estimates for Wales and England: mid-2023 and mid-2024, revised mid-2022' (SYG). Mae hyn yn cynnwys ardaloedd allbwn ehangach, ardaloedd iechyd, wardiau etholiadol ac etholaethau seneddol.
Mae data ar gyfer canol 2022 wedi cael eu diwygio. Mae'r diwygiadau hyn yn sicrhau bod amcangyfrifon canol 2022 yn cyd-fynd ag amcangyfrifon poblogaeth awdurdodau lleol diwygiedig ar gyfer canol 2022, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf.
Bydd tablau StatsCymru yn cael eu diweddaru maes o law.
Diweddariad chwarterol SYG ar Ystadegau Poblogaeth a Mudo: Tachwedd 2025
Ar 7 Tachwedd, cyhoeddodd SYG ei 'update on population and migration statistics' (SYG). Mae'n amlinellu ei gwaith o ran gwella'r ffordd y mae'n amcangyfrif poblogaeth a mudo, gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau a chynnydd SYG.
Mudo rhyngwladol hirdymor y DU, dros dro: y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2025
Ar 27 Tachwedd, cyhoeddodd SYG 'provisional long-term international migration estimates for the UK' (SYG). Mae hyn yn cwmpasu'r cyfnod o'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2012 hyd at y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2025, ac mae rhai diwygiadau yn cael eu gwneud i ddata'r blynyddoedd blaenorol.
Dim ond ar lefel y DU y mae amcangyfrifon ar gael. Cyfeiriwch at y data a gyhoeddwyd gan y SYG fel rhan o’r datganiad amcangyfrifon poblogaeth i weld yr amcangyfrifon mudo diweddaraf ar gyfer Cymru.
Mae dulliau gwell ar gyfer amcangyfrif mudo dinasyddion Prydain a dinasyddion yr UE + (SYG) wedi cael eu rhoi ar waith yn y datganiad hwn o amcangyfrifon mudo rhyngwladol hirdymor. Bydd hyn yn dileu unrhyw ddibyniaeth ar yr Arolwg Teithwyr Rhyngwladol ac yn gwella'r wybodaeth y mae SYG yn ei darparu.
Ar 18 Tachwedd, cyhoeddodd y SYG erthyglau ymchwil sy'n esbonio'r fethodoleg newydd, ochr yn ochr â datganiad yn esbonio ei effaith ar amcangyfrifon mudo net cyffredinol rhwng 2021 a 2024 (SYG). Mae'r erthyglau yn cynnwys 'Implementing new methods for estimating the international migration of British nationals, progress update: Tachwedd 2025 (SYG)' ac 'Implementing new methods for estimating the international migration of EU+ nationals, progress update: Tachwedd 2025' (SYG).
Amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer y DU: canol 2023
Ar 26 Hydref, cyhoeddodd yr SYG 'population estimates for mid-2024 for the UK' (SYG). Mae hyn yn dilyn cyhoeddi amcangyfrifon canol 2023 ar gyfer Cymru a Lloegr (a gyhoeddwyd ar 30 Gorffennaf), ac yn ymgorffori amcangyfrifon ar gyfer Gogledd Iwerddon a gynhyrchwyd gan Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac amcangyfrifon ar gyfer yr Alban a gynhyrchwyd gan Gofnodion Cenedlaethol yr Alban.
Amcangyfrifon o bobl hen iawn yn y DU, gan gynnwys pobl dros 100 mlwydd oed: canol 2002 i ganol 2024
Ar 21 Hydref, cyhoeddodd SYG amcangyfrifon o bobl hen iawn (SYG), gan gynnwys y rhai dros 100 mlwydd oed, ar gyfer Cymru a Lloegr rhwng canol 2002 a chanol 2024. Mae'r dadansoddiad hwn yn darparu amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn blynyddol ar gyfer pobl sy'n 90 oed neu'n hŷn yn ôl rhyw ac oedran blwyddyn unigol hyd at 105 oed neu'n hŷn. Cynhyrchwyd setiau data ar gyfer Cymru a Lloegr ar wahân yn ogystal ag ar y cyd.
