Neidio i'r prif gynnwy

Y newyddion diweddaraf am y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CADY).

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Tachwedd 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Llinell amser newydd ar gyfer sefydlu y gofrestr o ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru

Yn ddiweddar, gwnaethom gyhoeddi ymgynghoriad ar dair set o Reoliadau drafft yn unol â gweithredu Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022. Hwn fydd y cyntaf o nifer o gamau tuag at sefydlu cofrestr o ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru gan y Comisiwn.

Yn dilyn adborth gan randdeiliaid yr effeithir arnynt fwyaf gan y newidiadau hyn, mae’r gofrestr bellach wedi’i threfnu i gael ei sefydlu ym mis Gorffennaf 2026 a’r trefniadau rheoleiddio cysylltiedig yn cael eu rhoi ar waith yn llawn ym mlwyddyn academaidd 2027 i 2028.

Bydd hyn yn caniatáu digon o amser i hwyluso trosglwyddiad llyfn ac effeithiol o'r trefniadau presennol i'r system gofrestru newydd. Disgwylir i’r gwaith o ddatblygu’r system newydd gan y Comisiwn, a’i ymgynghoriad â’r rhai yr effeithir arnynt, ddechrau yn ystod 2024 a 2025.

Myfyrdodau cynnar y Prif Swyddog Gweithredol

Swyddog Gweithredol y Comisiwn newydd ar 4 Medi 2023.

Yma, mae'n rhannu myfyrdodau o'i wythnosau cyntaf yn y swydd:

Mae'n 35 diwrnod ers i'r Tîm Sefydlu a minnau ddechrau. Mae wedi hedfan heibio, ac rydym wedi cyflawni llawer, ac mae llawer iawn ar ôl i'w wneud.

Mae pawb yn ymwybodol o'r angen am bontio'n ddidrafferth wrth i'r Comisiwn fynd yn 'fyw' ar 1 Ebrill, ac rydym yn gweithio'n ddiflino i sicrhau bod hynny'n digwydd.

Mae llu o weithgareddau y tu ôl i'r llenni i ni wrth i ni sefydlu systemau cyfrifiadurol newydd, prosesau Adnoddau Dynol, a phopeth arall sydd ei angen ar sefydliad newydd. Un diweddariad cyffrous yw bod y broses o baru staff Llywodraeth Cymru a staff CCAUC gyda swyddi yn strwythur cychwynnol y Comisiwn newydd ar waith ar hyn o bryd, a bydd yn dod i ben yn fuan.

Fis diwethaf fe gadarnhaodd Llywodraeth Cymru bod y Gweinidog wedi penderfynu mai lleoliad pencadlys y Comisiwn fydd 2 Capital Quarter yng Nghaerdydd. Rwyf am adeiladu amgylchedd swyddfa cydweithredol, ac rwy'n gobeithio croesawu llawer ohonoch i'n swyddfeydd newydd bywiog i weithio gyda'n gilydd wrth i ni adeiladu tuag at ddyfodol cyffrous ar gyfer addysg ôl-16 yng Nghymru.

Rwyf wedi dechrau trefnu cyfarfodydd gydag rhanddeiliaid allweddol - os nad ydych wedi clywed gennyf eto ac eisiau trafod datblygiad y Comisiwn, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â mi neu fy nhîm. Dwi eisiau i'r Comisiwn fod yn agored a chydweithredol, ac mae hynny'n dechrau efo fi!

Ddydd Gwener, 6 Hydref fe wnaethom hefyd gynnal cyfarfod bwrdd cyntaf y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, carreg filltir bwysig.

Ymunodd saith Aelod cyntaf y Bwrdd â mi a'r Cadeirydd, Julie Lydon, a'r Dirprwy Gadeirydd, David Sweeney. Mae gan y Bwrdd gyfoeth o arbenigedd a bydd yn cyfarfod yn rheolaidd rhwng nawr ac Ebrill. Cyn bo hir, bydd Llywodraeth Cymru yn recriwtio ar gyfer aelodau ychwanegol o'r bwrdd gyda phwyslais ychwanegol ar ddod â phrofiadau amrywiol ac amrywiaeth o syniadau.

Rwy'n edrych ymlaen at siarad â chi i gyd yn rheolaidd yn ystod y misoedd nesaf wrth i ni weithio tuag at fis Ebrill, ac yn y tymor hirach tuag at adeiladu system addysg ôl-16 ragorol, gydgysylltiedig i Gymru.

Pethau y gallech fod wedi'u colli

  • Ydych chi’n meddwl tybed sut y gallai sefydlu'r Comisiwn effeithio ar eich sector yn benodol? Nod set o daflenni ffeithiau thematig yw rhoi trosolwg cryno o sut y bydd sefydlu'r Comisiwn yn effeithio ar wahanol rannau o'r sector addysg. Nod y taflenni ffeithiau yw darparu gwybodaeth wedi'i theilwra i wahanol grwpiau o randdeiliaid, gan eu galluogi i gyfathrebu'n effeithiol y diwygiadau o fewn eu rhwydweithiau. Er mwyn cyflawni hyn, mae’r taflenni ffeithiau wedi’u creu gyda ffocws thematig yn hytrach nag ymagwedd eang, gan alluogi rhanddeiliaid i ddeall sut mae’r diwygiadau’n ymwneud yn uniongyrchol â’u sefyllfaoedd penodol nhw. Gobeithiwn y bydd hyn yn eich galluogi i gyfleu'r newidiadau mewn ffordd gryno.
  • Lansiwyd ymgynghoriad yn ceisio barn rhanddeiliaid ar y diwygiad i Ddeddf yr Economi Ddigidol 2017 mewn perthynas â’r Comisiwn yn gynharach y mis hwn a daw i ben ar 22 Rhagfyr. Byddem yn ddiolchgar pe gallech ddosbarthu'r ddolen i unrhyw bartïon â diddordeb.