Neidio i'r prif gynnwy

3. Cyllid a chymhwystra

Mae busnesau o bob maint ac ar draws pob sector yn gymwys.

Bydd y rhan fwyaf o’r hyfforddiant yn cael ei wneud gan y cyflogwr sy’n gweithio gyda darparwr hyfforddiant dan gontract.

Y cyflogwr sy’n gyfrifol am dalu cyflog y prentis ac am unrhyw hyfforddiant ychwanegol. Ceir cefnogaeth ar gyfer costau hyfforddi drwy’r rhaglen brentisiaethau.

Mae’n bwysig gweithio gyda darparwr hyfforddiant yn fuan iawn yn y broses. Gall roi cymorth, cefnogaeth ac arweiniad ichi.

Cymhellion

Er mwyn helpu busnesau i recriwtio person anabl rydym yn cynnig cymhellion tan 31 Gorffennaf 2027.

Taliad cymhelliant ar gyfer cyflogi pobl anabl

  • bydd cyflogwyr sy’n recriwtio prentis anabl yn gymwys i dderbyn cymelldaliad cyflogwr o £2,000 fesul dysgwr
  • cyfyngir y taliadau i 10 o ddysgwyr anabl fesul busnes
  • nid yw cymelldaliadau ond yn berthnasol i brentisiaethau a gyflwynir ar lefelau 2 i 5 yn unig, ac nid ydynt yn berthnasol i brentisiaethau gradd

Ni chewch ymgeisio os:

  • ydych yn recriwtio ar gontract dim oriau
  • ydych chi’n defnyddio model rhannu prentisiaeth
  • nodir bod gan ddysgwr anabledd ar ôl iddo gael ei recriwtio

Bydd cymhellion ar gael drwy eich darparwr hyfforddiant.