Neidio i'r prif gynnwy

1. Trosolwg

Ers blwyddyn academaidd 2010 i 2011, mae Llywodraeth Cymru wedi dileu hyd at £1,500 o ddyled myfyrwyr sy'n deillio o fenthyciad cynhaliaeth ar gyfer cwrs israddedig amser llawn. Caiff hyn ei wneud ar gyfer benthyciad cynhaliaeth cymwys, hy benthyciad cynhaliaeth cyntaf y myfyriwr a drefnwyd o flwyddyn academaidd 2010 i 2011. Caiff y cynllun dileu ei roi ar waith pan fydd yn dechrau ad-dalu ei fenthyciad.