Ymgynghoriad ar Gymalau Gweithiau Cyhoeddus Cymdeithasol: Cymalau enghreifftiol a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023
Hoffem gael eich barn ar Gymalau Gweithiau Cyhoeddus Cymdeithasol drafft sy'n ofynnol i weithredu Rhan 3 o Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar Gymalau Gweithiau Cyhoeddus Cymdeithasol drafft sy'n ofynnol i weithredu Rhan 3 o Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 (y cyfeirir ati o hynny ymlaen fel y Ddeddf). Mae Gweinidogion Cymru yn ceisio adborth gan y sector cyhoeddus yng Nghymru, cyflogwyr, undebau llafur, partneriaid cymdeithasol ac unrhyw bartïon eraill â diddordeb cyn cyhoeddi Cymalau Gweithiau Cyhoeddus Cymdeithasol.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn gwahodd safbwyntiau ar y Cymalau Gweithiau Cyhoeddus Cymdeithasol a gynigir o dan Ran 3 o'r Ddeddf. Mae'r cymalau hyn wedi'u llunio i gael eu cynnwys mewn contractau (gweithiau) adeiladu sy'n werth dros £2m.
Nid ydym yn ceisio barn ar fwriad y polisi am fod bwriad y polisi wedi'i gadarnhau ac wedi'i seilio yn y Ddeddf. Mae'r ymgynghoriad hwn yn gwahodd safbwyntiau ynghylch a yw'r Cymalau Gweithiau Cyhoeddus Cymdeithasol yn adlewyrchu bwriad y polisi yn gywir.
Gofynnir i ymatebwyr nodi a ydynt yn cytuno neu'n anghytuno â'r cwestiwn a godir o dan bob adran. Os bydd ymatebwyr yn anghytuno neu'n anghytuno'n gryf, cânt gyfle i esbonio eu rhesymau. Dylai sylwadau ganolbwyntio ar b'un a yw bwriad y polisi wedi cael ei drosi'n gywir yn y cymalau. Hefyd, mae tri chwestiwn ynglŷn â'r Gymraeg.
Mae'r gweithgarwch ymgysylltu helaeth blaenorol â rhanddeiliaid, cwmpas wedi'i dargedu y cymalau, a'r bwriad i ymgysylltu ymhellach â rhanddeiliaid wedi ein galluogi i leihau'r cyfnod ymgynghori o 12 wythnos i 8 wythnos. Mae hyn yn sicrhau y gellir cyhoeddi'r Cymalau Gweithiau cyn y dyddiad arfaethedig y daw Rhan 3 o'r Ddeddf i rym. Yn ei dro, bydd hyn yn galluogi Awdurdodau Contractio i roi gofynion Rhan 3 ar waith yn llawn o'r dyddiad y byddant yn dod i rym, gan sicrhau manteision iddyn nhw a'r cyhoedd yn gyffredinol.
Cefndir
Mae adran 27 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi cymalau enghreifftiol ar gyfer contractau adeiladu mawr (“cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol”) sydd wedi eu cynllunio i sicrhau’r gwelliannau o ran llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol a restrir yn y Tabl yn is-adran (2) a ddangosir isod.
Categori a gwelliannau
- Taliadau: Sicrhau a gorfodi taliadau prydlon.
- Cyflogaeth: Darparu cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc, pobl hŷn, pobl ddi-waith hirdymor, pobl ag anableddau (mae Rheoliadau Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2026 drafft yn disodli'r term hwn â “pobl anabl”) neu bobl a all fel arall fod o dan anfantais (er enghraifft oherwydd eu hil, eu crefydd neu eu cred, eu rhyw, eu hunaniaeth rhywedd neu eu cyfeiriadedd rhywiol).
- Cydymffurfiaeth: Sicrhau cydymffurfedd â rhwymedigaethau cyfreithiol mewn perthynas â hawliau cyflogaeth (gan gynnwys yr isafswm cyflog a chyflog byw - Cyfraddau'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol a'r Cyflog Byw Cenedlaethol), iechyd a diogelwch, a chynrychiolaeth undebau llafur.
- Hyfforddiant: Darparu hyfforddiant priodol i weithwyr.
- Is-gontractio: Darparu cyfleoedd i fusnesau bach a chanolig a sefydliadau gwirfoddol i gyflawni gweithiau, cyflenwi cynhyrchion neu ddarparu gwasanaethau.
- Yr Amgylchedd: Gwneud rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, defnyddio deunyddiau cynaliadwy, cydnerthedd rhag effaith newid hinsawdd, lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, a gwella’r amgylchedd naturiol a bioamrywiaeth yn ofynnol.
Y Ddyletswydd Caffael Cymdeithasol Gyfrifol
Mae'n ofynnol i'r Awdurdodau Contractio a restrir yn Atodlen 1 i'r Ddeddf i gymryd camau gweithredu penodol o ran contractau adeiladu mawr fel rhan o'u dyletswydd caffael cymdeithasol gyfrifol. Cafodd y ddyletswydd hon ei chynnwys yn y Ddeddf i adlewyrchu pwysigrwydd cryfhau'r cysylltiad rhwng gofynion sy'n rhan o'r weithdrefn gaffael, dyletswyddau rheoli contract a diwydrwydd dyladwy mewn cadwyni cyflenwi adeiladu mawr.
Mae'r ddyletswydd a'r cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol yn ceisio lleihau a dileu cydymffurfedd gwael â rhwymedigaethau cyfreithiol mewn perthynas â hawliau cyflogaeth, gan gynnwys mewn perthynas ag arferion cyflogaeth annheg ac anghyfreithlon, y gall fod yn anodd mynd i'r afael â nhw drwy gadwyni cyflenwi hir a chymhleth. Bydd hefyd yn helpu i sicrhau bod rhwymedigaethau contractiol yn cael eu cyflawni drwy gydol oes y contract.
Y ddyletswydd yn y Ddeddf a osododd ar Awdurdodau Contractio yw:
- Rhoi sylw i'r cymalau cyhoeddedig
- Ystyried a ddylai'r contract gynnwys y cymalau cyhoeddedig
- Cymryd pob cam rhesymol i gynnwys y cymalau cyhoeddedig
- Cymryd pob cam rhesymol i sicrhau y gellir gweithredu'r cymalau cyhoeddedig
- Wrth reoli'r contract, cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y cymalau cyhoeddedig sydd wedi'u cynnwys yn y contract yn cael eu gweithredu
Cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol mewn is-gontractau
Os yw Awdurdod Contractio yn bwriadu cynnwys cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol mewn contract adeiladu mawr y mae'n cytuno arnynt â chontractwr, mae adran 28 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r Awdurdod Contractio gymryd pob cam i sicrhau bod y rhwymedigaethau yn y cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol yn cael eu gweithredu pan fydd y contractwr yn ymrwymo i is-gontract ag is-gontractwr.
Hysbysu Gweinidogion Cymru
Mae adran 29 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdod Contractio hysbysu Gweinidogion Cymru:
- os nad yw'r awdurdod yn bwriadu cynnwys cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol yn y contract - er ei fod wedi ystyried pa un ai i wneud hynny yn unol ag adran 25(1)(b)
- os nad oes cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol wedi eu cynnwys yn y contract - er bod yr awdurdod wedi cymryd pob cam rhesymol yn unol ag adran 25(1)(c)(i)
- os nad oes unrhyw broses ar waith i sicrhau bod rhwymedigaethau mewn cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol yn cael eu gweithredu - er bod yr awdurdod wedi cymryd pob cam rhesymol yn unol ag adran 25(1)(c)(ii)
- os nad oes unrhyw broses ar waith i sicrhau bod rhwymedigaethau mewn cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol yn cael eu gweithredu pan fo’r contract yn cael ei is-gontractio - er bod yr awdurdod wedi cymryd pob cam rhesymol yn unol ag adran 28(2)
Ymateb Gweinidogion Cymru
Mae adran 30 o'r Ddeddf yn manylu ar y camau gweithredu y mae'n rhaid i Weinidogion Cymru eu cymryd wrth ymateb i hysbysiad.
Pan fo hysbysiad yn dod i law, caiff Gweinidogion Cymru ofyn i'r Awdurdod Contractio ddarparu rhagor o wybodaeth a dogfennaeth er mwyn iddynt allu penderfynu a ydynt am dderbyn y rhesymau a roddwyd.
Os nad yw Gweinidogion Cymru yn fodlon ar y rhesymau a roddwyd, gallent gyfarwyddo'r Awdurdod Contractio i gymryd pob cam rhesymol i gynnwys y cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol.
Bydd yr hysbysiad, y rhesymau ac unrhyw gyfarwyddyd eu cyhoeddi, a bydd is-grŵp caffael cyhoeddus Cyngor y Bartneriaeth Gymdeithasol yn cael ei hysbysu.
Y Camau nesaf
Ar ôl ystyried ymatebion i'r ymgynghoriad, bydd y fersiwn derfynol o'r cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol yn cael ei chyhoeddi gan Weinidogion Cymru.
Cwestiynau
Cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol mewn contractau adeiladu mawr
1. I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno bod y “cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol” enghreifftiol yn bodloni'r gofynion o dan adran 27 o'r Ddeddf mewn perthynas â Thaliadau – “Sicrhau a gorfodi taliadau prydlon”?
2. I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno bod y “cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol” enghreifftiol yn bodloni'r gofynion o dan adran 27 o'r Ddeddf mewn perthynas â Chyflogaeth - “Darparu cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc, pobl hŷn, pobl ddi-waith hirdymor, pobl ag anableddau neu bobl a all fel arall fod o dan anfantais (er enghraifft oherwydd eu hil, eu crefydd neu eu cred, eu rhyw, eu hunaniaeth rhywedd neu eu cyfeiriadedd rhywiol)?
3. I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno bod y “cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol” enghreifftiol yn bodloni'r gofynion o dan adran 27 o'r Ddeddf mewn perthynas â Chydymffurfedd – “Sicrhau cydymffurfedd â rhwymedigaethau cyfreithiol mewn perthynas â hawliau cyflogaeth (gan gynnwys yr isafswm cyflog a chyflog byw ), iechyd a diogelwch, a chynrychiolaeth undebau llafur”?
4. I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno bod y “cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol” enghreifftiol yn bodloni'r gofynion o dan adran 27 o'r Ddeddf mewn perthynas â Hyfforddiant – “Darparu hyfforddiant priodol i weithwyr”?
5. I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno bod y “cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol” enghreifftiol yn bodloni'r gofynion o dan adran 27 o'r Ddeddf mewn perthynas ag Is-gontractio – “Darparu cyfleoedd i fusnesau bach a chanolig a sefydliadau gwirfoddol i gyflawni gweithiau, cyflenwi cynhyrchion neu ddarparu gwasanaethau”?
6. I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno bod y “cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol” enghreifftiol yn bodloni'r gofynion o dan adran 27 o'r Ddeddf mewn perthynas â'r Amgylchedd – “Gwneud rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, defnyddio deunyddiau cynaliadwy, cydnerthedd rhag effaith newid hinsawdd, lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, a gwella’r amgylchedd naturiol a bioamrywiaeth yn ofynnol”?
Cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol mewn is-gontractau
7. I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno y gall y “cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol” enghreifftiol gael eu gweithredu mewn is-gontractau?
Defnyddio gyda gwahanol fathau o gontract
8. I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno y gall y “cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol” enghreifftiol gael eu defnyddio mewn mathau o gontract a ddefnyddir yn gyffredin h.y. Contract Peirianneg Newydd (NEC), Tribiwnlys Cyd-gontractau (JCT)?
Nodiadau esboniadol
9. I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno bod y Nodiadau Esboniadol a ddarparwyd ar gyfer y “cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol” enghreifftiol yn ddigonol ac yn ddefnyddiol?
Y Gymraeg
10. Beth fyddai effeithiau tebygol y “cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol” enghreifftiol ar y Gymraeg yn eich barn chi? Hoffem glywed yn arbennig am unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.
A oes unrhyw gyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol, yn eich barn chi?
A oes unrhyw gyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol, yn eich barn chi?
10b: Yn eich barn chi, a ellid llunio neu newid y “cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol” enghreifftiol er mwyn iddynt:
- gael effeithiau cadarnhaol neu effeithiau mwy cadarnhaol ar ddefnyddio'r Gymraeg a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg; neu
- liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg?
10c: Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi ymdrin â nhw'n benodol, defnyddiwch y lle hwn i'w nodi:
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 19 Ionawr 2026, drwy unrhyw un o'r ffyrdd a ganlyn:
- llenwi ein ffurflen ar-lein
- lawrlwytho, llenwi ein ffurflen ymateb a’i hanfon ar e-bost at: YmgynghoriadCaffaelCymdeithasolGyfrifolCyhoeddus@llyw.cymru
- lawrlwytho, llenwi ein ffurflen ymateb a’i phostio i:
Y Grŵp Gwasanaethau Corfforaethol ac Arolygiaethau
Yr Is-adran Caffael Masnachol
Y Tîm Deddfwriaeth Caffael
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
- i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- (o dan amgylchiadau penodol) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
- (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
- (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
- i wneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei dal ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw:
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Rhif ffôn:
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ac unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad.
Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e))
Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, gall hyn hefyd gynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn golygu'r manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.
Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gall fod rhwymedigaeth gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i ddatgelu rhai mathau o wybodaeth.
Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau cyhoeddedig hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.
Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig
Rhif: WG51731
Mae'r ddogfen hon ar gael yn y Saesneg hefyd.
Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.
