Neidio i'r prif gynnwy

Drwy Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, bydd y Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol yn prosesu eich data personol i ddarparu cymorth a chefnogaeth i weithwyr gofal cymdeithasol rhyngwladol, sydd wedi cael eu dadleoli neu sydd i fod i gael eu dadleoli o ganlyniad i ddirymu trwydded noddi eu cyflogwr, neu sy'n chwilio am waith arall. Bydd data personol gan gyflogwyr gofal cymdeithasol sydd eisiau defnyddio'r gwasanaeth hefyd yn cael eu prosesu.

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd ar gyfer y data personol, a byddwn yn eu prosesu yn unol â'n tasg gyhoeddus a'r awdurdod swyddogol a freiniwyd ynom i ddatblygu a rheoli gwasanaethau cymorth hanfodol ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol rhyngwladol:

  • sydd â fisa dilys i weithio yn y DU
  • sydd wedi cael eu dadleoli neu sydd i fod i gael eu dadleoli o ganlyniad i ddirymu trwydded noddi eu cyflogwr
  • sy'n chwilio am waith arall

Ni fydd data personol sy'n ymwneud â gweithwyr gofal cymdeithasol yn cael eu rhannu â thrydydd partïon. Byddwn yn rhannu gwybodaeth a ddarperir gan gyflogwyr, gan gynnwys:

  • enw'r cyflogwr/darparwr gofal cymdeithasol
  • y math o wasanaeth
  • cyfeiriad y gwasanaeth
  • manylion cyswllt y swyddog perthnasol
  • swyddi gwag presennol â thrydydd partïon gan gynnwys â gweithwyr gofal cymdeithasol a Llywodraeth y DU (Hybiau Cymorth Rhanbarthol yn Lloegr)

Dim ond i gefnogi a chynorthwyo gweithwyr tramor i ddod o hyd i waith arall y bydd data yn cael eu rhannu.

Bydd yr holl ddata personol a ddarperir yn cael eu storio ar weinyddion diogel.

Bydd eich data personol yn cael eu cadw am gyfnod y gwasanaeth cymorth, ac am gyfnod o chwe mis o leiaf ar ôl hynny. Bydd y data yn cael eu dinistrio'n ddiogel unwaith y penderfynir nad oes eu hangen mwyach.

Eich hawliau

O dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu inni neu sydd gennym amdanoch chi. Yn benodol, mae gennych yr hawliau canlynol:

  • gweld copi o’ch data eich hun
  • gofyn inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • gwrthwynebu neu gyfyngu ar y prosesu (o dan amgylchiadau penodol)
  • i'ch data gael eu ‘dileu’ (o dan amgylchiadau penodol)
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Rhif ffôn: 01625 545 725 neu 0303 123 1113
Gwefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r data a ddarperir, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru