Cynllun Cartrefi Clyd Nyth: adroddiad blynyddol 2025 i 2026
Sut mae Cynllun Nyth wedi gwneud cartrefi aelwydydd incwm isel yng Nghymru yn gynhesach ac yn fwy effeithlon o ran ynni rhwng 2025 a 2026.
Ar y dudalen hon
Mae'r adroddiad hwn yn defnyddio data gosod a ddarparwyd gan yr asiant cyflenwi, British Gas (rhan o grŵp Centrica plc), a data gwasanaeth cyngor a ddarperir gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni (EST). Mae'r adroddiad yn ymwneud â’r cyfnod rhwng 01 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2026.
Y prif bwyntiau
Y prif lwyddiannau
- Rhwng mis Ebrill 2025 a mis Mawrth 2026, rhoddodd Nyth gyngor ynghylch arbed ynni wedi'i deilwra i 11,113 o aelwydydd.
- Rhwng mis Ebrill 2025 a mis Mawrth 2026, gosododd Nyth welliannau effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi fel systemau gwresogi, boeleri, inswleiddio, paneli solar a phympiau gwres mewn 1,436 o gartrefi, gan helpu aelwydydd sy'n agored i niwed i leihau costau ynni.
- Sicrhaodd llwybr argyfwng pwrpasol gymorth brys i 962 o'r aelwydydd bregus hyn nad oedd ganddynt wres na dŵr poeth, gan ddarparu ymyriadau cyflym i wneud cartrefi yn gynnes ac yn ddiogel.
- Mae uwchraddiadau ôl-osod ac atgyfeiriadau argyfwng yn lleihau biliau ynni cartrefi tua £573 a £605 y flwyddyn yn y drefn honno, a rhagwelir y byddant yn arbed dros 92,000 a 22,000 tunnell o garbon dros eu hoes, gan ddangos manteision ariannol ac amgylcheddol mawr.
- Roedd cwynion yn ystod y cyfnod Ebrill 2025 a Mawrth 2026 yn cyfrif am lai nag 1% o'r 1,436 o uwchraddiadau effeithlonrwydd ynni cartrefi, sy'n dangos boddhad uchel iawn.
- Roedd y cynllun yn cynnig cymorth i aelwydydd nad oeddent ar y grid, gan fynd i'r afael â'r costau uwch sy'n gysylltiedig â systemau gwresogi trydan, olew neu danwydd solet traddodiadol.
- Roedd y gwasanaeth cynghori annibynnol yn gwarantu arweiniad diduedd a safonau darparu a oedd yn gyson uchel ac ar gael i bawb.
- Cafodd prosesau sicrhau ansawdd ac archwilio cadarn eu hymgorffori drwy gydol y cynllun, gan sicrhau cydymffurfiaeth â safonau technegol, diogelu arian cyhoeddus, ac ysgogi gwelliant parhaus wrth ddarparu gwasanaethau.
Proffil y 1,436 o dderbynwyr gafodd becynnau gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi a gyflwynwyd rhwng mis Ebrill 2025 a mis Mawrth 2026
- Roedd ychydig dros draean o'r aelwydydd a oedd wedi cael gwelliannau yn hŷn, gyda phennaeth yr aelwyd yn 65 oed neu'n hŷn mewn 36% o achosion, gan gynnwys 21% yn 75 oed a hŷn.
- Roedd y rhan fwyaf o osodiadau mewn cartrefi perchen-feddiannydd, gan gyfrif am 80% o achosion, gyda 14% mewn cartrefi rhent preifat a 6% mewn cartrefi lle nad oedd y math o ddeiliadaeth yn hysbys (naill ai perchen-feddiannydd neu rent preifat).
- Roedd 12% o aelwydydd a gefnogwyd yn dibynnu ar systemau gwresogi trydan, olew neu danwydd solet traddodiadol, sydd fel arfer yn ddrytach i'w rhedeg.
- Y mathau o eiddo mwyaf cyffredin oedd cartrefi teras canol a thai pâr, a oedd yn cynrychioli dros 62% o'r holl osodiadau gyda'i gilydd. Mae hyn yn adlewyrchu'n fras broffil stoc Cymru.
Effaith effeithlonrwydd ynni'r 1,436 o becynnau gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi a osodwyd rhwng mis Ebrill 2025 a mis Mawrth 2026
- Cyn y gwelliannau, roedd effeithlonrwydd ynni yn isel iawn, gyda 49% o gartrefi â sgôr effeithlonrwydd ynni o F neu G, sy'n dystiolaeth o inswleiddio gwael a chostau gwresogi uchel.
- Ar yr adeg y rhoddwyd y data, roedd sgôr effeithlonrwydd ynni wedi cael ei chofnodi ar gyfer 765 o gartrefi yn dilyn gwneud y gwelliannau. Cyflawnodd dros 64% o'r rhain sgôr effeithlonrwydd ynni o C neu uwch, sy'n dangos gwelliant sylweddol mewn perfformiad ynni.
- Nid oedd unrhyw gartrefi'n parhau i fod â'r sgôr isaf o F neu G ar ôl yr ymyriadau, gan ddangos effaith drawsnewidiol uwchraddiadau Nyth ar effeithlonrwydd ynni cartrefi.
Cyrraedd aelwydydd sy'n agored i niwed
Defnyddiwyd dadansoddiadau cwsmeriaid a gwybodaeth sy'n deillio o ddata, wedi'u datblygu ers i Nyth ddechrau yn 2011, i lywio gwaith ymgysylltu ac allgymorth, er mwyn sicrhau bod cyfathrebu priodol yn cyrraedd y cwsmeriaid sydd ei angen fwyaf.
Roedd hyn yn cynnwys:
- hyrwyddo gwefan Nyth gyda 52,307 o ddefnyddwyr rhwng mis Ebrill 2025 a mis Mawrth 2026.
- ymgyrch post uniongyrchol a gyrhaeddodd 35,609 o aelwydydd sy'n agored i niwed yng Nghymru.
- cwis cyngor ar-lein a gwblhawyd gan 1,791 o aelwydydd.
- talu am hysbysebion Facebook a Google wedi'u targedu at gwsmeriaid cymwys ledled Cymru.
- cefnogi byrddau iechyd, elusennau a sefydliadau cymunedol ledled Cymru i gyrraedd aelwydydd a allai elwa ar ein cyngor a'n cymorth.
Cyngor a chymorth
Derbyniodd pob cwsmer a ffoniodd linell gymorth Nyth gyngor a chymorth wedi'u teilwra gan y tîm cynghori i sicrhau eu bod yn derbyn y cymorth mwyaf priodol i gyd-fynd â'u hanghenion penodol. Roedd hyn yn cynnwys cyngor ynghylch arbed ynni ac effeithlonrwydd dŵr, pecyn o welliannau effeithlonrwydd ynni cartrefi am ddim ar gyfer cwsmeriaid cymwys, a chyfeirio ac atgyfeirio at amrediad o wasanaethau cymorth.
Rhwng mis Ebrill 2025 a mis Mawrth 2026, cefnogodd Nyth 11,113 o aelwydydd â cyngor a chymorth wedi'u teilwra. Roedd y nifer uchaf o aelwydydd a gynorthwywyd, 969, yn byw yn Rhondda Cynon Taf, ac yna Sir Gaerfyrddin gyda 909.
Ffigur 1: nifer yr aelwydydd a gafodd gyngor a chymorth gan Nyth yn ôl awdurdod lleol, fis Ebrill 2025 i fis Mawrth 2026
Disgrifiad o ffigur 1: Siart bar sy'n dangos nifer yr aelwydydd a gafodd gyngor a chymorth gan Nyth ym mhob awdurdod lleol.
Ffynhonnell: Adroddiadau rheoli Nyth
Cymorth trydydd parti
Atgyfeiriodd Nyth aelwydydd at sefydliadau eraill fel y gallant ddarparu cymorth pellach pan oedd hynny'n briodol. Gall aelwyd dderbyn mwy nag un atgyfeiriad; roedd cyfanswm o 909 o atgyfeiriadau.
Ffigur 2: y math o atgyfeiriadau a wnaed at drydydd parti, fis Ebrill 2025 i fis Mawrth 2026
Disgrifiad o ffigur 2: Siart gylch yn dangos cyfran pob math o atgyfeiriad a wnaed at drydydd parti, yn seiliedig ar bob un o'r 909 o atgyfeiriadau.
Ffynhonnell: Adroddiadau rheoli Nyth
Gwirio'r Hawl i Fudd-daliadau (506 o atgyfeiriadau, 56%)
Roedd tua 56% o atgyfeiriadau ar gyfer gwirio'r hawl i fudd-daliadau. Mae hyn yn sicrhau bod aelwydydd yn cael yr holl gymorth ariannol y maent yn gymwys ar ei gyfer, gan helpu i wella fforddiadwyedd a lleihau tlodi tanwydd.
Cofrestru ar gyfer y Gwasanaethau Blaenoriaeth (224 o atgyfeiriadau, 25%)
Roedd bron i hanner yr holl atgyfeiriadau i Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth y Grid Cenedlaethol. Mae'r gwasanaeth hwn yn helpu cwsmeriaid bregus drwy gynnig cymorth ychwanegol gan gyflenwyr ynni a'r grid cenedlaethol, megis rhybuddion ymlaen llaw am doriadau pŵer a chymorth â blaenoriaeth yn ystod argyfyngau.
Gofal a Thrwsio (176 o atgyfeiriadau, 19%)
Roedd pump y cant o'r atgyfeiriadau at Gofal a Thrwsio, sy'n darparu cymorth ymarferol i bobl hŷn neu anabl i gynnal ac addasu eu cartrefi, gan eu cefnogi i fyw'n annibynnol.
Talebau Banc Tanwydd (3 atgyfeiriad, llai na 1%)
Cyflwynwyd nifer fach o atgyfeiriadau (<1%) trwy dalebau Banc Tanwydd Llywodraeth Cymru sy'n darparu credyd brys ar gyfer mesuryddion rhagdalu i helpu aelwydydd mewn argyfwng.
Pecynnau gwella effeithlonrwydd ynni cartref
Helpodd Cynllun Nyth aelwydydd mewn tlodi tanwydd, gan leihau biliau ynni drwy welliannau effeithlonrwydd ynni am ddim i'w cartrefi.
Aseswyd cwsmeriaid a gysylltodd â Nyth am gyngor a chymorth am eu cymhwysedd i dderbyn pecyn o welliannau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim.
Y meini prawf ar gyfer gwelliannau i'r cartref oedd:
- Bod aelod o'r aelwyd yn derbyn budd-dal sy'n dibynnu ar brawf modd neu bod yr eiddo yn cyrraedd trothwy incwm isel, a bod yr eiddo yn eiddo preifat neu'n cael ei rentu â sgôr ynni dangosol o E, F neu G; neu
- Bod aelod o'r aelwyd yn byw gyda chyflwr iechyd (mewn eiddo preifat neu rentu â sgôr D, E, F, G), ac yn derbyn budd-dal sy'n dibynnu ar brawf modd neu bod incwm y cartref islaw trothwyon diffiniedig.
Data meini prawf iechyd
Mae Cynllun Nyth yn cynnwys llwybr ar wahân i bobl â chyflyrau iechyd penodol sydd ar incwm isel. I fod yn gymwys, rhaid i gartref fod â sgôr EPC o D neu is (sgôr SAP 68 neu is), a rhaid i rywun yn yr aelwyd fod â chyflwr iechyd cymwys. Mae cyflyrau iechyd yn cynnwys clefydau anadlol (heintiau anadlol, bronco-gywasgiad mewn asthma, a chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint), clefyd cylchredol (gan gynnwys clefyd cardiofasgwlaidd, strociau a thrawiadau ar y galon)\iechyd meddwl (gan gynnwys iselder, gorbryder, seicosis ac anhwylder deubegynol) dementia, anhwylderau deallusol a datblygiadol. Mae rhagor o fanylion ar gael yma meini prawf cymhwysedd Nyth.
Rhwng Ebrill 2025 a Mawrth 2026, aseswyd 4,142 o aelwydydd yng Nghymru o dan y llwybr iechyd. O'r rhain, roedd 1,070 yn bodloni'r meini prawf iechyd a chartrefi a chawsant eu hatgyfeirio ar gyfer asesiad incwm. Wedyn, ar ôl pasio'r asesiad incwm, roedd 800 o aelwydydd yn gymwys i gael cymorth.
Roedd y rhan fwyaf o aelwydydd a aseswyd yn cynnwys oedolion hŷn, sef 57%, ag o leiaf un person 60 oed neu'n hŷn. Roedd llawer o gartrefi'n aneffeithlon o ran ynni, gyda 48% â sgôr o E, F neu G. Roedd incwm aelwydydd ar y cyfan yn isel, gyda 46% yn ennill llai nag 80% o'r trothwy incwm.
Ffigur 3: aelwydydd wedi'u hatgyfeirio ar gyfer asesiad incwm o dan y meini prawf iechyd, yn ôl categori o aelwyd agored i niwed, fis Ebrill 2025 i fis Mawrth 2026 [Nodyn 1] [Nodyn 2]
Disgrifiad o ffigur 3: Siart bar sy'n dangos canran yr aelwydydd wedi'u hatgyfeirio o dan y meini prawf iechyd, yn ôl categori o aelwyd agored i niwed.
Ffynhonnell: Adroddiadau rheoli Nyth
[Nodyn 1] Mae meini prawf cymhwysedd Nyth yn darparu dadansoddiad manwl o'r meini prawf iechyd a'r trothwyon incwm
[Nodyn 2] Gall aelwyd sy'n cael ei hatgyfeirio am asesiad incwm o dan y meini prawf iechyd fod o dan fwy nag un categori o aelwyd agored i niwed.
Y broses ar gyfer gosod pecynnau gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi
Fel rhan o'r gwaith o ddarparu cymorth i denantiaid mewn cartrefi rhent preifat, gweithiodd Nyth mewn partneriaeth a Rhentu Doeth Cymru i sicrhau bod landlordiaid preifat wedi'u cofrestru'n swyddogol cyn gwneud gwelliannau ar eu heiddo.
Ar gyfer pob cwsmer a gafodd ei atgyfeirio gan y gwasanaeth cynghori:
- ymwelodd asesydd cymwys â chartref y cwsmer i gynnal asesiad o'r tŷ cyfan;
- nodwyd potensial technegol a chyfyngiadau ar osod effeithlonrwydd ynni, ynni adnewyddadwy a mesurau gwresogi carbon isel yn yr eiddo; a
- chadarnhaodd a oedd y cwsmer yn gymwys.
Yna defnyddiwyd yr wybodaeth dechnegol gan arbenigwyr annibynnol i ddatblygu argymhellion ar y mesur penodol neu gyfuniad o fesurau sy'n addas ac yn gost-effeithiol ar gyfer pob eiddo unigol.
Sicrhaodd tîm Nyth fod yr holl ganiatadau a chydsyniadau a oedd eu hangen (landlordiaid, cynllunio ac ati) ar waith a bod gofynion trydydd parti (cysylltiadau nwy, tynnu asbestos ac ati) wedi cael eu cwblhau cyn cytuno gyda'r cwsmer ar y dyddiadau gosod.
Roedd rhwydwaith o osodwyr yng Nghymru yn darparu'r gwasanaethau gosod o dan reolaeth tîm Nyth. Cafodd y pecyn o welliannau ei archwilio ar ôl iddo gael ei osod, gyda gwaith i unioni unrhyw diffygion a nodwyd yn cael ei wneud mewn modd cyflym ac yn effeithiol.
Cafodd pecynnau gwella effeithlonrwydd ynni cartref Nyth eu llunio ar gyfer cartrefi unigol, felly nid oedd pecyn safonol o fesurau – ond gallent fod wedi cynnwys boeler newydd, system gwres canolog neu inswleiddio llofft, ac efallai bod rhai wedi cynnwys technolegau mwy newydd fel paneli solar, pympiau gwres ffynhonnell aer ac inswleiddio waliau allanol.
Rhwng mis Ebrill 2025 a mis Mawrth 2026 roedd y rhan fwyaf o osodiadau effeithlonrwydd ynni yn systemau gwresogi (ailosod boeleri neu wresogyddion dŵr LPG), gan gyfrif am oddeutu 31% o'r holl fesurau. Roedd mesurau ynni solar ac ynni adnewyddadwy eraill yn cyfrif am 37% o'r gosodiadau. Roedd pympiau gwres ffynhonnell aer a silindrau dŵr poeth cysylltiedig yn llawer llai cyffredin, gan gyfrif am 1% o'r holl osodiadau.
Ffigwr 4: Gosodiadau Nyth yn ôl y math o fesur, Ebrill 2025 i fis Mawrth 2026
Disgrifiad o ffigur 1: Siart gylch yn dangos cyfran y gosodiadau Nyth yn ôl math o fesur.
Ffynhonnell: Adroddiadau rheoli Nyth
Rhwng Ebrill 2025 a mis Mawrth 2026, gosododd Nest 1,436 o becynnau gwella effeithlonrwydd ynni. Roedd y nifer uchaf o osodiadau yn Rhondda Cynon Taf gyda 164, ac yna Abertawe gyda 130.
Ffigur 5: pecynnau gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi yn ôl awdurdod lleol, fis Ebrill 2025 i fis Mawrth 2026
Disgrifiad o ffigur 5: Siart bar sy'n dangos nifer y pecynnau gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi wedi'u darparu gan awdurdodau lleol drwy Nyth, yn ôl awdurdod lleol.
Ffynhonnell: Adroddiadau rheoli Nyth
Nodweddion aelwydydd y rhai a dderbyniodd becynnau gwella
Mae'r adran hon yn rhoi crynodeb o'r aelwydydd a dderbyniodd becynnau gwella effeithlonrwydd ynni cartref Nyth rhwng mis Ebrill 2025 a mis Mawrth 2026, wedi'u rhannu yn ôl nodweddion aelwydydd. Rhoddir gwybodaeth am aelwydydd a dderbyniodd gyngor yn gynharach yn yr adroddiad. Mae delweddau manwl i'w gweld ar ein dangosfwrdd rhyngweithiol a thablau cyhoeddedig.
Proffil tlodi tanwydd:
Nod Nyth yw helpu pobl i drechu tlodi tanwydd. Yn ystod y broses ymgeisio gychwynnol, gofynnwyd i ddeiliaid tai gadarnhau incwm eu cartref. Aseswyd yr wybodaeth hon yn erbyn costau rhedeg wedi'u modelu ar gyfer eu cartref. Roedd hyn yn caniatáu i dîm cynghori Nyth asesu a oedd y cwsmer yn byw mewn tlodi tanwydd.
Cafodd aelwydydd yr aseswyd eu bod yn gwario dros 10% o'u hincwm ar filiau ynni eu hystyried yn rhai sy'n byw mewn tlodi tanwydd, gydag aelwydydd sy'n gwario dros 20% yn cael eu hystyried yn rhai sy'n byw mewn tlodi tanwydd difrifol.
Roedd mwy na thraean o aelwydydd sy'n derbyn pecyn gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi wedi dweud eu bod o'r farn eu bod yn byw mewn tlodi tanwydd difrifol. Dywedodd tua 32% eu bod mewn tlodi tanwydd, a dywedodd 46% eu bod mewn tlodi tanwydd difrifol. Nid oedd y 14% arall yn ystyried eu bod mewn tlodi tanwydd ac nid oedd 8% wedi darparu gwybodaeth.
Mae'r ffigurau hyn yn seiliedig ar statws wedi'i hunan-adrodd ac nid ydynt o reidrwydd yn adlewyrchu cymhwysedd ar gyfer y cynllun, sy'n cael ei bennu drwy feini prawf ehangach. Felly, ni ddylid dehongli'r gyfran sy'n dweud nad ydynt mewn tlodi tanwydd yn dystiolaeth o gam-dargedu.
Oedran Person Cyfeirio'r Cartref
Person Cyfeirio'r Cartref yw'r person sy'n berchen ar yr eiddo, neu'r person y mae'r eiddo yn cael ei rentu yn ei enw. Os yw'r eiddo o dan berchnogaeth mwy nag un person neu'n cael ei rentu ar y cyd, y person cyfeirio yw'r person â'r incwm uchaf. Os yw'r incwm yr un peth, dewisir y person hynaf.
Roedd aelwydydd â Pherson Cyswllt y Cartref 65 oed neu hŷn yn cyfrif am 36% o aelwydydd a oedd wedi derbyn pecyn gwella ynni cartrefi drwy'r Rhaglen Nyth. Roedd gan 20% arall o aelwydydd a oedd wedi derbyn gwelliannau berson cyfeirio rhwng 55 a 64 oed. I'r gwrthwyneb, tuag 11% yn unig o aelwydydd a oedd wedi derbyn gwelliannau oedd â pherson cyfeirio rhwng 16 a 34 oed.
Deiliadaeth
Roedd y rhan fwyaf o aelwydydd a oedd wedi derbyn pecyn gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi drwy Cynllun Nyth yn berchen-feddianwyr. Roedd tua 80% o'r derbynwyr yn berchen ar eu cartrefi, roedd 14% mewn llety rhent preifat, a nodwyd 6% yn anhysbys (naill ai'n berchen-feddiannydd neu rentu preifat). Ni ariannodd cynllun Nyth gynlluniau uwchraddio tai cymdeithasol gan fod cynlluniau cyllid Llywodraeth Cymru ar wahân at y diben hwnnw.
Incwm net
Roedd gan aelwydydd a oedd wedi derbyn pecyn gwella effeithlonrwydd ynni gartrefi incwm isel yn gyffredinol. Dywedodd tua 49% fod ganddynt incwm blynyddol net o dan £15,000 ar gyfer pob aelod o'r aelwyd wedi'u cyfuno, gyda 33% yn ennill rhwng £15,000 a £25,000. Dim ond 18% oedd ag incwm yn uwch na £25,000.
Nodweddion gwarchodedig
Casglwyd gwybodaeth am nodweddion gwarchodedig fel grŵp ethnig a statws anabledd. Fodd bynnag, roedd gormod o ymatebion anhysbys neu wybodaeth ar goll i ganiatáu dadansoddiad neu adrodd ystyrlon o'r data hyn. Byddwn yn adolygu ac yn atgyfnerthu ein prosesau casglu data yn y blynyddoedd i ddod i wella cyflawnrwydd a chefnogi dadansoddiadau mwy cadarn o ddata ar nodweddion gwarchodedig.
Nodweddion y cartrefi
Mae'r adran hon yn rhoi crynodeb o'r aelwydydd a dderbyniodd becynnau gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi Nyth rhwng mis Ebrill 2025 a mis Mawrth 2026, wedi'u rhannu yn ôl nodweddion eu cartrefi. Rhoddir gwybodaeth am aelwydydd a dderbyniodd gyngor yn gynharach yn yr adroddiad. Mae delweddau manwl i'w gweld ar ein dangosfwrdd rhyngweithiol a thablau cyhoeddedig.
Math o eiddo
Eiddo teras canol a phâr oedd y mathau o eiddo mwyaf cyffredin ymhlith aelwydydd sy'n derbyn pecyn gwella effeithlonrwydd ynni cartref, gan gyfrif am 32% a 30% o'r derbynwyr yn y drefn honno. Roedd eiddo diwedd teras yn cyfrif am 12% o'r derbynwyr, ac roedd byngalos hefyd yn cyfrif am 12%. Roedd eiddo ar wahân yn cyfrif am 11% o'r derbynwyr. Fflatiau oedd yn cyfrif am 2% o'r derbynwyr. Mae'r cyfrannau hyn yn adlewyrchu nodweddion y cartrefi a oedd wedi derbyn gwelliannau ac nid ydynt yn adlewyrchu'r cyfrannau yn y stoc dai gyfan.
Nifer yr ystafelloedd gwely
Roedd cartrefi llai yn fwy tebygol o dderbyn pecyn gwella effeithlonrwydd ynni cartref. Roedd bron i hanner (49%) y derbynwyr yn byw mewn cartrefi gyda dwy ystafell wely neu lai, a 41% yn byw mewn cartrefi tair ystafell wely. Dim ond 10% oedd yn byw mewn eiddo â phedair ystafell wely neu fwy. Mae'r patrwm hwn yn adlewyrchu'r ffaith bod aelwydydd incwm is neu incwm sengl, sydd mewn mwy o berygl o dlodi tanwydd, fel arfer yn byw mewn cartrefi llai, rhatach yn hytrach na maint y cartref ei hun yn peri tlodi tanwydd.
Oedran yr eiddo
Roedd cartrefi hŷn yn fwy tebygol o dderbyn uwchraddiadau effeithlonrwydd ynni. Adeiladwyd tua 44% o'r cartrefi a dderbyniodd gymorth cyn 1930, 10% rhwng 1930 a 1949, a 21% rhwng 1950 a 1966. Adeiladwyd yr 15% arall rhwng 1967 a 1982, gyda dim ond 10% wedi'u hadeiladu ar ôl 1982. Mae'r diffyg inswleiddio modern a systemau gwresogi effeithlon mewn llawer o gartrefi hŷn yn cynyddu'r angen am welliannau.
Prif system wresogi a math o danwydd
Roedd gan y rhan fwyaf o aelwydydd a oedd wedi derbyn pecyn gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi foeler yn brif system wresogi (93%). Roedd 88% o aelwydydd yn defnyddio nwy prif gyflenwad yn brif fath o danwydd.
Mae systemau gwresogi canolog yn cynnwys: systemau boeler gyda rheiddiaduron, aer cynnes a systemau eraill fel gwres o dan y llawr a systemau cymunol.
Cysylltiad nwy
Roedd y rhan fwyaf o aelwydydd a oedd wedi derbyn pecyn gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi wedi'u cysylltu â nwy prif gyflenwad (88%). Mae cartrefi heb gysylltiad nwy yn aml yn dibynnu ar danwydd amgen, fel olew neu LPG, a all fod yn ddrytach ac yn llai effeithlon.
Math o wal ac insiwleiddio
Rhwng Ebrill 2025 a Mawrth 2026, roedd gan tua hanner (47%) y cartrefi a dderbyniodd becyn gwella effeithlonrwydd ynni cartref waliau ceudod. Roedd gan 42% arall waliau solet, 4% â math o wal anhysbys, 4% waliau wedi'u hadeiladu gan system, a 3% wedi inswleiddio waliau solet wedi'u hinswleiddio.
Lleoliad: categori trefol neu wledig
At ddibenion adrodd Nyth, mae ardaloedd awdurdodau lleol wedi'u grwpio yn ddau gategori yn seiliedig ar ddosbarthiad a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru ar ddechrau'r cynllun Nyth 2 yn 2018.
Trefol Pob ardal awdurdod lleol ac eithrio Ynys Môn, Ceredigion, Gwynedd, Sir Benfro a Phowys.
Gwledig: Ynys Môn, Ceredigion, Gwynedd, Sir Benfro a Phowys.
Mae'r grwpio daearyddol hwn wedi cael ei ddefnyddio'n gyson ers dechrau'r cynllun Nyth 2 ac mae'n darparu sail ar gyfer yr holl ddadansoddiadau trefol/gwledig a gyflwynir yn yr adroddiad hwn.
Roedd 86% o'r cartrefi a oedd wedi derbyn gwelliannau mewn ardaloedd trefol, a dim ond 14% oedd mewn ardaloedd gwledig.
Gwella effeithlonrwydd ynni.
Mae gwelliannau effeithlonrwydd ynni cartrefi Nyth, gan gynnwys uwchraddiadau ôl-osod ac atgyfeiriadau argyfwng, wedi arwain at arbedion biliau ynni wedi'u hamcangyfrif o £573 a £605 yn y drefn honno, fesul aelwyd y flwyddyn, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i aelwydydd sy'n byw mewn tlodi tanwydd. .
Effeithlonrwydd ynni: Sgôr SAP a band EPC
Y Weithdrefn Asesu Safonol (SAP) yw dull Llywodraeth y DU ar gyfer asesu effeithlonrwydd ynni cartrefi. Mae'n cynhyrchu sgôr o 1 i 100, sydd wedyn yn cael ei grwpio yn fandiau Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) A i G, gyda band A yn cynrychioli'r cartrefi mwyaf effeithlon o ran ynni a band G y lleiaf effeithlon o ran ynni. Mae'r Weithdrefn Asesu Safonol Data Llai Manwl (RdSAP) yn fersiwn symlach o'r SAP a ddefnyddiwyd i asesu cartrefi presennol.
Mae Cynllun Nyth yn defnyddio RdSAP i gyfrifo sgôr SAP cartref cyn ac ar ôl gosod mesurau effeithlonrwydd ynni. Mae hyn yn helpu i asesu a fyddai'r mesurau arfaethedig i wella effeithlonrwydd ynni'r cartref yn gost-effeithiol. Mae Nyth fel arfer yn cefnogi cartrefi mewn bandiau EPC is, sef G i D, sy'n cyfateb i sgoriau SAP o 0 i 68 ac yn nodi effeithlonrwydd ynni gwael a chostau rhedeg uchel. Ar ôl gosod gwelliannau, mae'r sgôr SAP yn cael ei diweddaru i adlewyrchu'r mesurau sydd wedi'u gosod mewn gwirionedd, gan y gall pecynnau newid oherwydd materion technegol neu ddewisiadau cwsmeriaid.
Newidiadau ym mand yr EPC cyn ac ar ôl gosod pecynnau gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi
Cyn gwelliannau, roedd gan y rhan fwyaf o aelwydydd effeithlonrwydd ynni isel iawn. Roedd tua 18% ym mand G yr EPC, 31% ym mand F a 20% ym mand E.
Mae'r newid ym mand yr EPC yn cael ei ysgogi'n bennaf gan y gosodiadau a argymhellwyd. Fodd bynnag, mewn rhai achosion mae deiliaid tai yn dewis peidio â derbyn yr holl fesurau wedi'u cynnig, sy'n effeithio ar fand terfynol yr EPC. Ar ôl gwneud y gwelliannau, gwellodd effeithlonrwydd ynni yn sylweddol.
Ar yr adeg y darparwyd y data, allan o 1,436 o aelwydydd a gefnogwyd, roedd gan 765 o'u cartrefi sgôr effeithlonrwydd ynni wedi'i gofnodi ar ôl eu gosod. Symudodd tua dwy ran o dair (64%) o aelwydydd i fand C a chyrhaeddodd 16% band B. Dim ond 32% a oedd yn parhau i fod ym mand D, 4% ym mand E, 1% ym mand F ac nid oedd yr un yn aros ym mand G.
Ffigwr 6: Sgôr effeithlonrwydd ynni cyn ac ar ôl gosod pecynnau gwella effeithlonrwydd ynni cartref [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 6: Siart far sy'n dangos y sgôr effeithlonrwydd ynni cyn ac ar ôl gosod pecynnau gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi.
Ffynhonnell: Adroddiadau rheoli Nyth
[Nodyn 1] Mae'r data yn seiliedig ar becynnau gwella effeithlonrwydd ynni cartref a osodwyd rhwng Ebrill 2025 a Mawrth 2026. O'r 1,436 o aelwydydd a oedd wedi derbyn cymorth, mae 765 wedi cofnodi sgôr SAP ar ôl gosod y pecynnau. Nid oedd sgoriau SAP ar ôl gosod ar gael ar yr adeg y darparwyd yr wybodaeth ar gyfer 671 o aelwydydd.
Arbedion cartrefi: costau, ynni ac allyriadau carbon deuocsid
Mae data ar arbedion cartrefi wedi cael ei gofnodi ar wahân ar gyfer gwasanaeth safonol Nyth, lle mae'r broses PAS2035 yn cael ei dilyn o'r cychwyn cyntaf, mae asesiad o'r tŷ cyfan yn cael ei gynnal gyntaf ac mae set lawn o argymhellion yn llywio'r pecyn gwella effeithlonrwydd ynni.
Mae angen cymorth ar unwaith ar aelwydydd sy'n cael eu hatgyfeirio drwy'r llwybr argyfwng. O ganlyniad, cymerir camau brys i adfer gwres a dŵr poeth. Wedyn cynigir asesiad i gwsmeriaid ar gyfer mesurau effeithlonrwydd ynni pellach ac, os cânt eu derbyn, caiff y rhain eu gosod yn ddiweddarach.
Rhwng Ebrill 2025 a Mawrth 2026, yr arbediad cost blynyddol cyfartalog o ganlyniad i osodiadau Nyth ar draws cynllun Nyth safonol a llwybr argyfwng oedd £594, a chyfanswm yr arbedion CO2 gydol oes oedd 29,122 tunnell.
Rhwng y cyfnod hwnnw, amcangyfrifwyd y byddai pecynnau effeithlonrwydd ynni cartrefi drwy wasanaeth safonol Nyth yn arbed tua £573 y flwyddyn i aelwydydd ar filiau ynni, sy'n cyfateb i tua 85,946 megajoule o ynni bob blwyddyn. Mae'r dadansoddiad hefyd yn dangos y gostyngiad disgwyliedig yn ystod oes mewn allyriadau carbon i aelwydydd sydd wedi derbyn gwelliannau, gyda chyfanswm yr allyriadau yn gostwng dros 6,607 tunnell o CO2
| Awdurdod Lleol | Arbediad Blynyddol Cyfartalog mewn Costau Tanwydd (£oedd) | Cyfanswm y CO2 wedi'i arbed yn ystod oes | Cyfartaledd Ynni Defnyddio Arbedion (megajoules) |
|---|---|---|---|
| Blaenau Gwent | 460 | 179 | 81,211 |
| Pen-y-bont ar Ogwr | 598 | 422 | 93,668 |
| Caerffili | 575 | 567 | 101,881 |
| Caerdydd | 553 | 441 | 92,505 |
| Sir Gaerfyrddin | 618 | 317 | 81,993 |
| Ceredigion | 1004 | 169 | 88,922 |
| Conwy | 535 | 234 | 88,176 |
| Sir Ddinbych | 581 | 263 | 108,026 |
| Sir y Fflint | 678 | 134 | 100,807 |
| Gwynedd | 679 | 89 | 91,082 |
| Ynys Môn | 589 | 97 | 62,164 |
| Merthyr Tudful | 516 | 272 | 68,483 |
| Sir Fynwy | 564 | 69 | 74,918 |
| Castell-nedd Port Talbot | 527 | 337 | 73,502 |
| Casnewydd | 527 | 381 | 84,968 |
| Sir Benfro | 586 | 282 | 84,967 |
| Powys | 587 | 177 | 67,079 |
| Rhondda Cynon Taf | 509 | 652 | 77,009 |
| Abertawe | 532 | 681 | 85,835 |
| Torfaen | 556 | 330 | 95,758 |
| Bro Morgannwg | 598 | 413 | 101,635 |
| Wrecsam | 939 | 100 | 81,785 |
| Cyfanswm | 573 | 6,607 | 85,946 |
Ffynhonnell: Adroddiadau rheoli Nyth
Disgrifiad o Dabl 1: Dadansoddiad o arbedion ynni wedi'u modelu fesul aelwyd sydd wedi derbyn mesurau yn ôl awdurdod lleol, gydag arbediad cyfartalog wedi'i amcangyfrif o £573 y flwyddyn neu 85,946 megajoule (unedau ynni) y flwyddyn.
Rhwng Ebrill 2025 a Mawrth 2026, amcangyfrifwyd y byddai pecynnau effeithlonrwydd ynni cartref wedi'u cyflawni drwy atgyfeiriad argyfwng yn arbed tua £605 y flwyddyn ar filiau ynni i aelwydydd, sy'n cyfateb i tua 21,208 megajoules o ynni bob blwyddyn. Mae'r dadansoddiad hefyd yn dangos y gostyngiad disgwyliedig mewn allyriadau carbon ar gyfer yr aelwydydd hyn sydd wedi derbyn gwelliannau, gyda chyfanswm yr allyriadau yn gostwng dros 22,515 tunnell o CO2.
| Awdurdod Lleol | Arbediad Blynyddol Cyfartalog mewn Costau Tanwydd (£oedd) | Cyfanswm y CO2 wedi'i arbed yn ystod oes | Cyfartaledd Ynni Defnyddio Arbedion (megajoules) |
|---|---|---|---|
| Blaenau Gwent | 616 | 822 | 21,632 |
| Pen-y-bont ar Ogwr | 602 | 1,129 | 21,414 |
| Caerffili | 637 | 1,623 | 21,380 |
| Caerdydd | 665 | 2,104 | 20,777 |
| Sir Gaerfyrddin | 654 | 1,869 | 21,590 |
| Ceredigion | 509 | 355 | 21,048 |
| Conwy | 558 | 887 | 20,728 |
| Sir Ddinbych | 510 | 600 | 20,275 |
| Sir y Fflint | 585 | 727 | 20,044 |
| Gwynedd | 442 | 458 | 20,291 |
| Ynys Môn | 517 | 282 | 21,371 |
| Merthyr Tudful | 675 | 658 | 21,815 |
| Sir Fynwy | 700 | 433 | 20,810 |
| Castell-nedd Port Talbot | 659 | 1,586 | 20,990 |
| Casnewydd | 610 | 1,302 | 20,850 |
| Sir Benfro | 574 | 858 | 21,585 |
| Powys | 550 | 601 | 20,985 |
| Rhondda Cynon Taf | 632 | 2,770 | 22,370 |
| Abertawe | 599 | 1,842 | 21,270 |
| Torfaen | 574 | 686 | 20,900 |
| Bro Morgannwg | 610 | 524 | 21,139 |
| Wrecsam | 518 | 402 | 20,230 |
| Cyfanswm | 605 | 22,515 | 21,208 |
Ffynhonnell: Adroddiadau rheoli Nyth
Disgrifiad o Dabl 2: Dadansoddiad o arbedion ynni (llwybr argyfwng) wedi'u modelu fesul aelwyd sydd wedi derbyn mesurau yn ôl awdurdod lleol, gydag arbediad cyfartalog amcangyfrifedig o £605 y flwyddyn neu 21,208 megajoule (unedau ynni) y flwyddyn.
Buddsoddi gan Lywodraeth Cymru
Rhwng Hydref 2025 a Mawrth 2026, buddsoddodd Llywodraeth Cymru £27.5 miliwn wrth gyflawni Cynllun Nyth. Er mwyn sicrhau gwerth am arian cyhoeddus, ac er mwyn sicrhau bod cymorth y cynllun yn gallu cyrraedd cymaint o bobl â phosibl, mae gan Nyth drothwy o £35k fesul aelwyd. Mae unrhyw brosiect uwchlaw'r trothwy hwn yn gofyn am sicrwydd ychwanegol a chymeradwyaeth cyn bwrw ymlaen. Roedd y gwariant cyfartalog fesul pecyn o fesurau/cartrefi sy'n derbyn cymorth ar ei uchaf ym Mro Morgannwg, sef £17.7k, ac wedyn Merthyr Tudful ar £16.5k. Gwynedd oedd â'r gwariant cyfartalog isaf, sef £10.7k.
Mae gwahaniaethau mewn gwariant cyfartalog yn cael eu pennu gan ystod o nodweddion eiddo a chyfyngiadau penodol yn ogystal â dewisiadau aelwydydd.
Ffigur 7: gwariant cyfartalog fesul aelwyd ar welliannau effeithlonrwydd ynni cartrefi yn ôl awdurdod lleol, mis Ebrill 2025 i fis Mawrth 2026
Disgrifiad o ffigur 7: Siart bar yn dangos y gwariant cyfartalog fesul aelwyd ar welliannau effeithlonrwydd ynni cartrefi yn ôl awdurdod lleol. Mae gwariant cyfartalog yn amrywio rhwng awdurdodau lleol oherwydd bod gwahanol gartrefi angen gwahanol fathau o welliannau effeithlonrwydd ynni.
Ffynhonnell: Adroddiadau rheoli NYTH
Ansawdd a boddhad deiliaid tai
Mae contractwr annibynnol yn cael ei gyflogi i sicrhau ansawdd Cynllun Nyth. Mae'r contractwr yn adolygu gwaith y gwasanaeth ar sail risg, gyda lefel uwch o graffu ar osodiadau mwy cymhleth a risg uwch. Mae gan yr asiant cyflawni darged o 98% o osodiadau yn pasio'r arolygiad y tro cyntaf. Rhagorwyd ar y targed hwn, gyda 98.3% o'r gosodiadau yn pasio'r tro cyntaf.
Rhwng Ebrill 2025 a Mawrth 2026, gosodwyd 1,436 o becynnau effeithlonrwydd ynni cartref. Dim ond 1.3% o'r holl osodiadau oedd y ganran o gwynion gan gwsmeriaid y cytunwyd arnynt yn ystod y cyfnod hwn, yn erbyn targed i weld dim mwy na 3% o gwynion dilys – sy'n dangos lefel uchel o foddhad.
Ar draws yr holl ddeiliaid tai a dderbyniodd gyngor neu welliannau drwy'r cynllun, anfonwyd 5,217 o arolygon post i gasglu adborth ar foddhad â'r gwasanaeth. Anfonwyd un arolwg fesul aelwyd unigryw a dim ond pan oedd yr aelwyd wedi cytuno i Gytundeb Diogelu Data (DPA) y cynllun. Cafodd ymatebion eu monitro drwy gydol pob cam o daith y cwsmer, gyda 880 o ddeiliaid tai yn ateb y cwestiwn am berfformiad cyffredinol y gwasanaeth, a dywedodd 92% ohonynt eu bod yn fodlon.
Ar wahân i'r ymarfer hwnnw , mae British Gas yn mesur boddhad cwsmeriaid â'r gosodiadau, a'r gyfradd foddhad ar gyfer y cyfnod Ebrill 2025 i Fawrth 2026 oedd 96%.
Tystebau
Mae'r cynllun Nest yn parhau i wneud gwahaniaeth ystyrlon i aelwydydd ledled Cymru, gan helpu cwsmeriaid i sicrhau cartrefi cynhesach a mwy cyfforddus wrth wella effeithlonrwydd ynni a lleihau dibyniaeth ar wresogi costus neu annibynadwy. Mae'r adborth cadarnhaol a gafwyd gan gwsmeriaid yn dangos effaith bywyd go iawn y cymorth a ddarperir drwy'r cynllun. Mae enghreifftiau o adborth cwsmeriaid yn cynnwys:
Mae'r gwres a'r cynhesrwydd yn ein heiddo nawr yn sefydlog. Mae'n braf bod gennym ynni glanach, gwyrddach a dim amrywiad o brisiau olew.
Roedd yn newid mawr i ni. Ar ôl cymaint o amser heb wresogi dibynadwy a dŵr poeth, mae cael cartref cynnes eto wedi rhoi tawelwch meddwl gwirioneddol i ni.
Roedd [y peirianwyr] a aeth [i'r eiddo] yn gwrtais, yn gwneud gwaith da ac nid oedd unrhyw beth yn broblem iddyn nhw. Roedd yn braf gweld dynion ifanc fel yna heddiw.
Ni fyddai'r peirianwyr yn gadael nes iddyn nhw gael y system wresogi yn rhedeg yn gywir ac ni wnaethant adael tan 7pm. Roedd [y peirianwyr] yn garedig iawn, yn effeithlon ac yn hyfryd iawn.
Cyswllt
Ewch i NYTH i gael rhagor o wybodaeth am Gynllun Nyth, gan gynnwys sut i gysylltu â'r tîm.
