Neidio i'r prif gynnwy

Yn y canllaw hwn

2. Pwy sy'n gymwys

Gwiriwch a ydych yn gymwys i gael gwelliannau effeithlonrwydd ynni i'r cartref am ddim gan Nyth.

Gallech fod yn gymwys i gael gwelliannau effeithlonrwydd ynni i'r cartref am ddim os ydych yn bodloni'r 3 amod isod:

  • rydych yn berchen ar eich cartref neu'n ei rentu drwy drefniant preifat (nid drwy awdurdod lleol neu gymdeithas dai) 
  • rydych yn derbyn budd-dal sy'n destun prawf modd neu rydych yn byw mewn aelwyd incwm isel
  • mae gan eich cartref sgôr ased o 54 (EPC E) neu lai; neu sgôr asedau o 68 (EPC D) neu lai lle mae gennych chi neu aelod o'ch aelwyd gyflwr cronig o ran anadlu, cylchrediad y gwaed neu gyflwr iechyd meddwl

Gwiriwch eich sgôr EPC ar GOV.UK neu cysylltwch â ni a byddwn yn eich helpu. 

Budd-daliadau sy'n destun prawf modd

Y budd-daliadau sy'n destun prawf modd sy'n gymwys yw:

  • Credyd Treth Plant (incwm o dan £18,660 y flwyddyn)
  • Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (nid yw gostyngiadau a disgowntiau yn gymwys ar eu pen eu hunain)
  • Budd-dal Tai
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
  • Cymhorthdal Incwm
  • Credyd Pensiwn
  • Credyd Cynhwysol
  • Credyd Treth Gwaith (incwm o dan £18,660 y flwyddyn)

Aelwyd sydd ar incwm is

Mae aelwyd ag incwm sy'n is na 60% o'r cyfartaledd canolrifol yn cael ei ystyried yn aelwyd incwm is ar gyfer y cynllun hwn. Ni fyddwn yn cyfrif unrhyw daliadau neu fudd-daliadau sy'n gysylltiedig ag anabledd fel incwm.

Bydd eich trothwy yn dibynnu ar oedran a nifer y bobl yn eich aelwyd. Mae tabl 1 i 3 yn dangos enghreifftiau.

Tabl 1: Trothwyon incwm ar gyfer cwpl gyda phlant neu heb blant

Math o aelwydTrothwy wythnosolTrothwy misolTrothwy blynyddol 
Cwpwl heb plant£373£1,615£19,383
Cwpl gydag un plentyn dan 14 oed£447

£1,938

 

£23,259
Cwpl gydag un plentyn 14 oed neu drosodd£496£2,148£25,779
Cwpl gyda dau o blant dan 14 oed£522£2,261£27,136
Cwpl gyda dau o blant 14 oed neu drosodd£619£2,681£32,176

Tabl 2: Trothwyon incwm ar gyfer oedolyn sengl gyda phlant neu heb blant

Math o aelwydTrothwy wythnosolTrothwy misolTrothwy blynyddol 
Aelwyd 1 oedolyn heb plant£250£1,082£12,987
1 oedolyn gydag un plentyn o dan 14 oed£324£1,405£16,863
1 oedolyn gydag un plentyn 14 oed neu drosodd£373£1,615£19,383
1 oedolyn gyda dau o blant o dan 14 oed £399£1,728£20,740
1 oedolyn gyda dau o blant 14 oed neu drosodd£496£2,148£25,779

Tabl 3: Trothwyon incwm ar gyfer oedolion sy’n cael y pensiwn y wladwriaeth

Math o aelwydTrothwy wythnosolTrothwy misolTrothwy blynyddol 
Pensiynwr sengl£250£1,082£12,987
Cwpwl sy'n bensiynwyr£373£1,615£19,383

Os nad yw eich aelwyd wedi’i ddisgrifio yn y tablau yma, rhowch galwad i’n cynghorwyr os gwelwch yn dda, ar 0808 808 2244 (Dydd Llun i Ddydd Gwener rhwng 9am a 6pm).

Meini prawf cymhwystra iechyd

Os ydych yn byw mewn aelwyd EPC D mae'n rhaid i aelod o'r aelwyd fod yn byw gyda chyflwr iechyd cronig gan gynnwys:

  • Clefyd anadlol (heintiau anadlol, broncoddarwasgiad yn gysylltiedig ag asthma a chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint)
  • Clefyd cylchrediad y gwaed (gan gynnwys clefyd cardiofasgwlaidd, strôc a thrawiad ar y galon)
  • Materion iechyd meddwl (gan gynnwys iselder, gorbryder, seicosis ac anhwylderau deubegynol, dementia, anhwylderau deallusol ac anhwylderau datblygu)