Neidio i'r prif gynnwy

3. Gwneud cais

Ffoniwch Nyth am ddim ar 0808 808 2244 (Dydd Llun i Ddydd Gwener rhwng 9am i 6pm) neu wneud cais am alwad yn ôl gan Nyth.

Rydyn ni'n deall nad yw siarad dros y ffôn yn opsiwn gorau i bawb. Os oes gennych chi anhawster clyw, os ydych yn niwroamrywiol, neu os ydych yn cael unrhyw drafferthion wrth gyfathrebu dros y ffôn, mae croeso i chi gysylltu â ni trwy e-bost yn advicewales@est.org.uk.

Croesawir galwadau ac e-byst yn Gymraeg.

Os nad ydych yn credu eich bod yn gymwys neu os nad ydych yn siŵr, gallwch barhau i gysylltwch â ni am gyngor effeithlonrwydd ynni. Gallwn helpu gyda grantiau eraill, tariffau ynni a gwirio a oes gennych hawl i unrhyw fudd-daliadau.

Os ydych yn gymwys, byddwn yn trefnu bod asesydd yn ymweld â chi ac yn casglu mwy o wybodaeth am eich cartref. Bydd hyn yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu pecyn cymorth wedi'i deilwra sy'n benodol i chi a'ch cartref.