Neidio i'r prif gynnwy

Llywodraethu a gweithredu'r rhaglen

  1. Targedu cymorth ariannol ar fentrau datgarboneiddio effaith uchel.
  2. Goruchwylio gweithrediad y cynllun cyflawni strategol a sicrhau perthnasedd parhaus.
  3. Meithrin gweithlu o staff sy'n hinsawdd-ddeallus, ac sy'n teimlo eu bod wedi'u grymuso i hyrwyddo arferion cynaliadwy a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd drwy eu rolau.
  4. Sefydlu dull cenedlaethol i gyflymu lledaeniad a graddfa arferion cynaliadwy ar draws GIG Cymru.

Adeiladau a thir

  1. Bydd defnydd ynni a chyfleustodau adeiladau yn cael ei reoli a'i leihau'n weithredol.
  2. Nodi cyfleoedd (cyfalaf a chynnal a chadw) yn weithredol i ddatgarboneiddio adeiladau'r GIG.
  3. Bydd cynlluniau datgarboneiddio asedau yn cael eu gweithredu i ddatgarboneiddio adeiladau'r GIG.
  4. Bydd y gwaith gwres a phŵer cyfunedig presennol yn cael ei gynnal ar ei effeithlonrwydd mwyaf tan ddiwedd ei oes. Ni fydd unrhyw orsaf gwres a phŵer cyfunedig tanwydd ffosil arall yn cael ei gosod, ond bydd gwres a phŵer cyfunedig adnewyddadwy yn cael ei gefnogi.
  5. Bydd cyfleoedd ynni adnewyddadwy yn cael eu datblygu i gynyddu gweithgareddau cynhyrchu ynni a sicrhau y bydd tir y GIG yn cael ei ddefnyddio hyd eithaf ei botensial.
  6. Bydd contractwyr gofal sylfaenol a chymunedol, perchnogion busnesau a landlordiaid yn ceisio gwella effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio eu hadeiladau.
  7. Bydd pob adeilad newydd ac adnewyddiad mawr yn cyd-fynd â'r dehongliad Cymreig newydd o safon adeiladu carbon sero net y GIG.
  8. Ymgysylltu'n rhagweithiol â landlordiaid a thenantiaid ar draws eiddo ar brydles i ysgogi gweithrediadau adeiladu carbon isel.

Fflyd

  1. Bydd sefydliadau’r GIG yn rheoli ac yn monitro gweithgareddau teithio yn weithredol o fewn eu sefydliad i nodi a gweithredu cyfleoedd i wneud y defnydd gorau o effeithlonrwydd fflydoedd.
  2. Bydd sefydliadau'r GIG yn diffinio eu dull o ymdrin â seilwaith gwefru Cerbydau Trydan (EVCI) er mwyn nodi, blaenoriaethu a gosod EVCI
  3. Bydd pob cerbyd a brynwyd neu brydleswyd gan GIG Cymru yn Gerbydau Di-allyriadau (ZEVs) lle bynnag y bo'n ymarferol bosibl. Os nad yw'n bosibl, bydd cerbydau hybrid a cherbydau allyriadau isel iawn yn cael eu prynu neu brydlesu yn lle.

Teithio gan staff a gweithio gartref

  1. Nodi a chyfleu arferion gorau i hyrwyddo teithio cynaliadwy ac arferion gweithio ystwyth gan staff.
  2. Ymgorffori a hyrwyddo hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy (llwybr newydd, strategaeth trafnidiaeth Cymru 2021) ym mhob agwedd ar gynllunio a pholisïau teithio.

Caffael

  1. Cryfhau arferion rheoli data ar draws cadwyn gyflenwi GIG Cymru i wella gwelededd i allyriadau cyflenwyr, amlygiad i risg hinsawdd, a strategaethau lliniaru.
  2. Creu a chymhwyso trefn Cymru gyfan i ddylunio, asesu ac olrhain gweithgareddau caffael sy'n cefnogi darpariaeth carbon isel ac effeithlon o ran adnoddau.
  3. Gweithio ar y cyd â chontractwyr gofal sylfaenol i ddatgarboneiddio arferion gweithredol, gan gynnwys ystyried defnyddio mecanweithiau contractio.
  4. Pontio caffael trydan i gyd-fynd â'r egwyddorion ar gyfer caffael trydan adnewyddadwy o ansawdd a nodir gan Gyngor Adeiladau Gwyrdd y DU (UKGBC).
  5. Optimeiddio rheoli stoc ac ymddygiadau defnydd i wella effeithlonrwydd adnoddau a lleihau gwastraff deunyddiau.

Gwasanaethau clinigol

  1. Integreiddio cynaliadwyedd amgylcheddol i ddatblygu a monitro canllawiau clinigol.
  2. Manteisio i’r eithaf ar effaith gynaliadwy atebion digidol a data mewn darpariaeth glinigol drwy werthuso eu manteision amgylcheddol a blaenoriaethu arloesi graddadwy.

Gwastraff

  1. Lleihau effaith amgylcheddol cynhyrchu gwastraff ar draws GIG Cymru drwy gynyddu ailddefnyddio ac atgyweirio, meithrin dysgu dan arweiniad cyfoedion a chryfhau systemau gwahanu ac ailgylchu gwastraff.