Neidio i'r prif gynnwy

1: Targedu cymorth ariannol ar gyfer mentrau datgarboneiddio effaith uchel

1a: Ymgynghori, cwmpasu, dylunio a lansio ffrwd ariannu datgarboneiddio bwrpasol i olynu'r Gronfa Ystadau wedi'i Thargedu (TEF) cyn iddi ddod i ben yn 2027

Perchnogion arfaethedig: Llywodraeth Cymru; NWSSP SES (Gwasanaeth Ystadau Arbennig Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru).

Gweithredu erbyn: Rhagfyr 2026.

1b: Ymgorffori mecanwaith strwythuredig o fewn prosesau cynllunio gweithredol i gefnogi mentrau cynaliadwyedd amgylcheddol dan arweiniad staff

Perchnogion arfaethedig: pob sefydliad y GIG; SPPC (Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol).

Gweithredu erbyn: yn dibynnu ar amserlenni IMTP (Cynllun Tymor Canolig Integredig).

2: Goruchwylio gweithrediad y cynllun cyflawni strategol a sicrhau perthnasedd parhaus

2a: Mewn ymgynghoriad â sefydliadau'r GIG, bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu llwyddiant gweithredu'r cynllun cyflawni strategol ac yn rhoi diweddariad

Perchnogion arfaethedig: Llywodraeth Cymru.

Gweithredu erbyn: Rhagfyr 2027.

3: Meithrin gweithlu o staff sy'n hinsawdd-ddeallus, ac sy'n teimlo eu bod wedi'u grymuso i hyrwyddo arferion cynaliadwy a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd drwy eu rolau

3a: Creu strategaeth cynllun datblygu hinsawdd-ddeallus sy'n amlinellu sut y gellir integreiddio egwyddorion cynaliadwyedd amgylcheddol ar draws pob ffrwd gwaith ar gyfer pob grŵp staff

Perchnogion arfaethedig: grŵp hinsawdd-ddeallus; AaGIC (Addysg a Gwella Iechyd Cymru).

Gweithredu erbyn: Rhagfyr 2026.

3b: Sefydlu sianel gyfathrebu ac ymgysylltu cynaliadwyedd amgylcheddol Cymru gyfan; yn ogystal, archwilio a gweithredu cyfleoedd i ymgysylltu ymwelwyr a chleifion mewn ymdrechion cynaliadwyedd amgylcheddol

Perchnogion arfaethedig: grŵp hinsawdd-ddeallus.

Gweithredu erbyn: Mai 2026.

3c: Creu dull cyfathrebu sefydliadol, neu gynllun, i gynnal cefnogaeth ac adeiladu momentwm ar gyfer gweithredu ar hinsawdd

Perchnogion arfaethedig: pob sefydliad y GIG.

Gweithredu erbyn: adroddiad blynyddol.

3d: Datblygu strategaeth gweithlu i gefnogi cyflawniad ‘Darparu gofal iechyd cynaliadwy: datganiad o’r sefyllfa’

Perchnogion arfaethedig: pob sefydliad y GIG.

Gweithredu erbyn: Rhagfyr 2026.

4: Sefydlu dull cenedlaethol i gyflymu lledaeniad a graddfa arferion cynaliadwy ar draws GIG Cymru

4a: Datblygu offeryn gwerthuso safonol i asesu, olrhain ac adrodd ar yr effaith glinigol, amgylcheddol ac economaidd arloesi, gan alluogi gwaith gwerthuso a chymharu cyson ar draws GIG Cymru

Perchnogion arfaethedig: NWSSP (Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru), Perfformiad a Gwelliant y GIG, Llywodraeth Cymru.

Gweithredu erbyn: Medi 2026.

4b: Creu dull neu gynllun cyfathrebu i gynnal cymorth ac adeiladu momentwm ar gyfer gweithredu ar hinsawdd; olrhain cyrhaeddiad a llwyddiant wrth i weithgareddau cyfathrebu fynd rhagddynt

Perchnogion arfaethedig: pob sefydliad y GIG.

Gweithredu erbyn: adroddiad blynyddol.

4c: Creu storfa genedlaethol o brosiectau peilot wedi'u gwerthuso, gan gynnwys data effaith carbon, mewnwelediadau gweithredu, a statws mabwysiadu, i gefnogi dysgu ar y cyd a thryloywder

Perchnogion arfaethedig: NWSSP, Perfformiad a Gwelliant y GIG, Llywodraeth Cymru.

Gweithredu erbyn: Ionawr 2027.