Cynllun cyflawni strategol datgarboneiddio GIG Cymru 2025 i 2030 - Rhan 8: Teithio staff a gweithio gartref
Ein cynllun i leihau effaith amgylcheddol GIG Cymru a chefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer sero net yn y sector cyhoeddus.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
16: Nodi a chyfleu arferion gorau i hyrwyddo teithio cynaliadwy ac arferion gweithio ystwyth gan staff
16a: Datblygu arolwg safonol ar deithio, cymudo a gweithio gartref staff i gasglu mewnwelediadau demograffig a seiliedig ar rolau sy'n gysylltiedig ag ymddygiadau cymudo a gweithio gartref, rhwystrau i arferion carbon isel, ac effeithiolrwydd canfyddedig atebion
Perchnogion arfaethedig: NWSSP (Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru).
Gweithredu erbyn: Rhagfyr 2026.
16b: Cynnal arolwg teithio, cymudo a gweithio gartref staff y sefydliad i gasglu data sylfaenol a nodi cyfleoedd i gynyddu'r defnydd o arferion teithio a gweithio gartref carbon isel
Perchnogion arfaethedig: pob sefydliad y GIG.
Gweithredu erbyn: Mai 2027 ac yn flynyddol wedi hynny.
16c: Casglu ac adolygu polisïau a chanllawiau teithio a gweithio gartref y sefydliad i nodi enghreifftiau o arferion gorau wrth hyrwyddo arferion cynaliadwy; dosbarthu canllawiau i'r byrddau iechyd a'r ymddiriedolaethau
Perchnogion arfaethedig: NWSSP.
Gweithredu erbyn: Rhagfyr 2026.
16d: Ymgysylltu â thimau AD a chyfreithiol i gynnal adolygiad a diweddariad Cymru gyfan o lwfansau ad-dalu milltiroedd ar gyfer defnydd cerbydau cwmni a milltiroedd fflyd lwyd i ysgogi defnyddio cerbydau di-allyriadau a rhannu lifftiau y tu hwnt i gerbydau â phŵer peiriant tanio mewnol
Perchnogion arfaethedig: NWSSP.
Gweithredu erbyn: Rhagfyr 2026.
16e: Cryfhau'r adran trafnidiaeth a gweithio’n glyfar o'r 'Fframwaith Gofal Sylfaenol Gwyrddach' (yn seiliedig ar ganfyddiadau 16b ac 16c) i annog contractwyr i gynnig cymhellion ychwanegol megis cyfleoedd cynllun beicio i'r gwaith i staff a chaffael cerbydau trydan drwy aberthu cyflog
Perchnogion arfaethedig: Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Gweithredu erbyn: Mawrth 2027.
16f: Darparu cyngor ac adnoddau wedi'u targedu (er enghraifft drwy'r fewnrwyd) i gefnogi gweithio gartref carbon isel, gan gynnwys canllawiau ar arferion effeithlon o ran ynni ac ymwybyddiaeth o fesurau datgarboneiddio domestig
Perchnogion arfaethedig: NWSSP, grŵp hinsawdd-ddeallus.
Gweithredu erbyn: Gorffennaf 2026.
17: Ymgorffori a hyrwyddo hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy (llwybr newydd, strategaeth trafnidiaeth Cymru 2021) ym mhob agwedd ar gynllunio a pholisïau teithio
17a: Datblygu cynllun teithio staff sy'n amlinellu dull sefydliadol o annog hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy ac ymgorffori siarteri teithio iach ar draws teithio staff, gan gynnwys cymudo a theithio busnes
Perchnogion arfaethedig: ymddiriedolaethau a byrddau iechyd rhanbarthol.
Gweithredu erbyn: Mai 2028.
17b: Creu canllaw hawdd ei ddefnyddio sy'n mapio opsiynau trafnidiaeth carbon isel ymarferol ar gyfer staff a'r cyhoedd, gan gynnwys llwybrau, manylion hygyrchedd, ac awgrymiadau teithio cynaliadwy
Perchnogion arfaethedig: pob sefydliad y GIG.
Gweithredu erbyn: Medi 2026.
