Neidio i'r prif gynnwy

13: Bydd sefydliadau’r GIG yn rheoli ac yn monitro gweithgareddau teithio yn weithredol o fewn eu sefydliad i nodi a gweithredu cyfleoedd ar gyfer gwneud y gorau o effeithlonrwydd fflydoedd

13a: Darparu hyfforddiant gyrru effeithlon neu eco i staff y mae'n ofynnol iddynt yrru'n rheolaidd (hynny yw mwy nag unwaith yr wythnos) fel rhan o'u rôl (gan gynnwys teithio i'r gwaith mewn cerbyd sy'n eiddo i'r gweithwyr)

Perchnogion arfaethedig: pob sefydliad y GIG.

Gweithredu erbyn: Mawrth 2027.

13b: Bydd system delemateg wedi'i gosod ym mhob cerbyd GIG newydd sy'n eiddo i neu ar brydles adeg gwerthu neu brydlesu

Perchnogion arfaethedig: pob sefydliad y GIG.

Gweithredu erbyn: Rhagfyr 2025.

14: Bydd sefydliadau'r GIG yn diffinio eu dull o ymdrin â seilwaith gwefru Cerbydau Trydan (EVCI) er mwyn nodi, blaenoriaethu a gosod EVCI

14a: Diffinio dull pob sefydliad ei hun o hwyluso a manteisio ar gyllid ar gyfer EVCI ar gyfer staff ac ymwelwyr ar safleoedd y GIG; bydd hyn yn ystyried y capasiti grid sydd ar gael mewn safleoedd a'r gofyniad i flaenoriaethu gwasanaethau rheng flaen

Perchnogion arfaethedig: pob sefydliad y GIG (gan gynnwys AaGIC (Addysg a Gwella Iechyd Cymru)).

Gweithredu erbyn: Mawrth 2027.

14b: Bydd timau trafnidiaeth a thimau ystadau yn cydweithio i ddatblygu cynllun seilwaith gwefru EVCI clir, wedi'i deilwra i ofynion penodol y sefydliad ac yn cyd-fynd â gofynion caffael cerbydau di-allyriadau ym menter 15a

Perchnogion arfaethedig: pob sefydliad y GIG.

Gweithredu erbyn: cwblhau’r cynllun ym mis Rhagfyr 2027.

14c: Gosod seilwaith EVCI ar safleoedd y GIG fel y'i nodir yng nghynllun seilwaith gwefru cerbydau trydan yn unol â chanllawiau arfer gorau pwyntiau gwefru cerbydau trydan GIG Cymru (lle bo'n berthnasol)

Perchnogion arfaethedig: pob sefydliad y GIG.

Gweithredu erbyn: gweler menter 15a.

14d: Datblygu polisi clir sy'n amlinellu dull pob sefydliad o ariannu gosod gwefru gartref lle mae gweithwyr yn cael cerbydau trydan sy'n eiddo i'r GIG neu wedi'u prydlesu ar gyfer eu rolau

Perchnogion arfaethedig: pob sefydliad y GIG.

Gweithredu erbyn: Mawrth 2027.

14e: Darparu ffordd gyfleus i weithwyr a fydd yn gyrru cerbyd trydan ar gyfer eu gwaith gael mynediad at bwyntiau gwefru ar draws yr ardaloedd lle maent yn gweithio

Perchnogion arfaethedig: pob sefydliad y GIG.

Gweithredu erbyn: Medi 2026.

14f: Cadw grŵp fflyd a thrafnidiaeth Cymru Gyfan er mwyn helpu i nodi cyfleoedd EVCI ar y cyd, cefnogi prosesau dyrannu cyllid, rhannu arferion gorau, a chynllunio gweithredu, yn enwedig mewn achosion lle mae safleoedd yn cael eu defnyddio ar y cyd (er enghraifft mae ambiwlansys yn ymweld â nifer o adrannau damweiniau ac achosion brys)

Gweithredu erbyn: Mawrth 2026.

15: Bydd pob cerbyd a brynwyd neu brydleswyd gan GIG Cymru yn gerbydau di-allyriadau (ZEVs) lle bynnag y bo'n ymarferol bosibl; os nad yw'n bosibl, bydd cerbydau hybrid a cherbydau allyriadau isel iawn yn cael eu prynu neu brydlesu yn lle

15a: Alinio prynu neu brydlesu cerbydau gyda’r targedau canlynol:

2025:

Bydd cerbydau safonol newydd (trydan llai nag 3.5 tunnell fetrig neu lai nag 4.25 tunnell fetrig) yn gerbydau di-allyriadau (hybrid drwy eithriad).

Lle nad yw cerbydau di-allyriadau yn ymarferol oherwydd cyfyngiadau ystod, dylid caffael cerbydau hybrid llawn.

Dim ond lle gellir dangos y bydd y cerbyd yn defnyddio modd cerbyd trydan yn unig am o leiaf 75% o'i filltiroedd y dylid ystyried cerbydau trydan hybrid plygio i mewn.

Lle nad yw'r un o'r opsiynau uchod, sef cerbyd di-allyriadau, hybrid llawn na cherbyd trydan hybrid plygio i mewn, yn ymarferol nac ar gael, dylid prynu neu brydlesu cerbyd sydd ag allyriadau nwyon tŷ gwydr is na'r eraill yn ei ddosbarth (hynny yw y gorau yn ei ddosbarth).

Bydd cerbydau nwyddau ysgafn a thrwm newydd yn bodloni safon fodern y dyfodol ar gyfer cerbydau allyriadau isel iawn yn eu dosbarth ac yn gerbydau di-allyriadau lle mae amgylchiadau'n caniatáu (er enghraifft cludo nwyddau ysgafnach yn rheolaidd).

2026: 

Bydd cerbydau arbenigol newydd (trydan llai nag 3.5 tunnell fetrig neu lai nag 4.25 tunnell fetrig) (er enghraifft faniau oergell) o leiaf yn gerbydau hybrid neu LCEV (Cerbyd Trydan Masnachol Dyletswydd Ysgafn), ond yn gerbydau di-allyriadau lle bynnag y bo'n ymarferol bosibl. Bydd cerbydau'n parhau i ddefnyddio technoleg arloesol ar gyfer gofynion arbenigol (er enghraifft systemau ategol solar ffotofoltäig).

2027:

Bydd pob cerbyd ymateb unigol newydd yn gerbydau di-allyriadau (hybrid drwy eithriad). Dylai cerbydau a gaffaelwyd cyn y dyddiad hwn fod yn gerbydau di-allyriadau lle bo modd.

2030:

Bydd ambiwlansys brys newydd yn gerbydau di-allyriadau (hybrid neu LCEV drwy eithriad).

Dylai byrddau iechyd neu ymddiriedolaethau barhau i archwilio cyfleoedd lleol ar gyfer seilwaith trafnidiaeth carbon isel wrth iddynt godi (er enghraifft ffynonellau trafnidiaeth carbon isel lleol, peiriannau torri gwair trydan, ac ati) a'u gweithredu os ystyrir bod hynny'n ymarferol.

Perchnogion arfaethedig: pob sefydliad y GIG.

Gweithredu erbyn: yn unol â thestun y fenter.

15b: Cymryd rhan weithredol mewn treialon ac ymchwil ar gyfer ambiwlansys brys trydan ac adrodd bob 2 flynedd ar barodrwydd i grŵp fflyd a thrafnidiaeth Cymru gyfan

Perchnogion arfaethedig: WAST (Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru).

Gweithredu erbyn: Rhagfyr 2027, 2029, 2031.

15c: Parhau i ymchwilio i'r farchnad a chymryd rhan mewn treialon cerbydau trydan (er enghraifft cludo nwyddau canolig) a cherbydau tanwydd amgen eraill ac adrodd bob 2 flynedd ar barodrwydd i grŵp fflyd a thrafnidiaeth Cymru gyfan

Perchnogion arfaethedig: NWSSP (Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru).

Gweithredu erbyn: Rhagfyr 2027, 2029, 2031.