Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogi'r economi wledig a'r newid i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn disgrifio’n hymrwymiadau i gefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy, ac i weithredu hefyd i ymateb i'r argyfwng hinsawdd a helpu i wrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Darperir cymorth ariannol i ffermwyr, rheolwyr tir a sectorau gwledig cysylltiedig drwy fframwaith cymorth hyblyg, ac mae cynlluniau – gan gynnwys Cynllun Cynefin Cymru– yn cyfrannu at y themâu canlynol:

  • rheoli tir ar lefel fferm
  • gwelliannau amgylcheddol ar ffermydd
  • effeithlonrwydd ac arallgyfeirio ar ffermydd
  • rheoli tir ar lefel tirwedd
  • coetiroedd a choedwigaeth
  • cadwyni cyflenwi bwyd a ffermio

Nod y fframwaith yw cefnogi camau gweithredu sy’n ymateb i'r heriau ac i’r cyfleoedd sydd ar gael, a llywio’r gwaith parhaus o ddatblygu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy – cynllun a fydd yn gwobrwyo ffermwyr am y gwaith y maent yn ei wneud ar hyn o bryd i leihau eu hôl troed carbon, gwella'r amgylchedd a chynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy.

Mae rhagor o wybodaeth am y themâu a'r cynlluniau sy'n cael eu datblygu ar gael yn: Rhwydwaith Gweldig Cymru (ar Busness Cymru).

Adran A: cyflwyniad

Mae’r ddogfen hon yn rhoi arweiniad i ffermwyr unigol a Chymdeithasau Pori Glastir Tir Comin sy’n gwneud cais i ymuno â’r cynllun. Darllenwch y darnau sy’n berthnasol i’ch cais.

Cynllun amaeth-amgylcheddol sy’n seiliedig ar arwynebedd yw Cynllun Cynefin Cymru ac mae ar gael i bob ffermwr cymwys yng Nghymru.

Amcanion y cynllun yw:

  • diogelu tir cynefin a oedd o dan Glastir yn 2023 hyd at amser cyflwyno’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS)
  • ychwanegu rhagor o dir cynefin nad yw o dan gynllun rheoli ar hyn o bryd, i fod o dan fesurau tir cynaliadwy cyn ymuno â’r SFS
  • cynnal y cymorth amgylcheddol ar gyfer tir comin

Trwy ychwanegu a chadw tir o dan fesurau rheoli, bydd y cynllun yn cyfrannu at amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy:

  • cynhyrchu bwyd a nwyddau eraill yn gynaliadwy
  • lliniaru’r newid yn yr hinsawdd ac addasu iddo
  • cynnal a gwella gwytnwch ecosystemau a’u manteision, a
  • gwarchod a gwella adnoddau cefn gwlad a diwylliannol, annog mynediad y cyhoedd iddyn nhw ac i ymwneud â nhw, a chynnal y Gymraeg a hyrwyddo a hwyluso’r defnydd ohoni. Trwy wneud, diwallu anghenion cenedlaethau heddiw heb amharu ar allu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw a chyfrannu at gyflawni amcanion llesiant adran 4 Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015

Darllenwch ganllawiau a llyfryn rheolau Cynefin Cymru cyn cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb. Os ydych yn meddwl y gallech fod yn gymwys i gael cymorth o dan y cynllun a’ch bod am wneud cais, darllenwch Adran F Gwneud Cais i Gynllun Cynefin Cymru a’r llyfryn Sut i Lenwi

Cyfnod Ymgeisio

Bydd y ffenest Datgan Diddordeb yn agor 29 Medi 2023 ac yn cau 10 Tachwedd 2023. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael cynnig contract fydd yn dechrau ar 1 Ionawr 2024 ac yn para 12 mis.

Nid ydym eto wedi cadarnhau’r gyllideb fydd yn cael ei neilltuo ar gyfer y ffenest hon ond bydd wedi’i chadarnhau cyn dyfarnu’r contractau.

Caiff unrhyw newidiadau eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru, GWLAD a lle bo gofyn, byddwn yn cysylltu â chi’n uniongyrchol.

Rhan 1: canllaw i fusnesau unigol

Adran B: Cynllun Cynefin Cymru

Pwy sy’n gymwys

Rydych yn gymwys os ydych yn bodloni’r meini prawf isod:

  • rydych wedi’ch cofrestru gyda Llywodraeth Cymru ac wedi cael Cyfeirnod Cwsmer (CRN). I gael canllawiau ar sut i gofrestru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru neu ffoniwch Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW ar 0300 062 5004.
  • rhaid ichi:
    • fod yn gynhyrchydd cynradd cynhyrchion amaethyddol
    • bod â 3ha o dir amaethyddol cymwys yng Nghymru sydd wedi'i gofrestru gydag RPW neu
    • gallu dangos mwy na 550 o oriau llafur safonol

Byddwn yn edrych a ydych wedi hawlio taliad o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) neu gynllun Glastir Organig i gadarnhau a ydych yn gynhyrchydd cynradd cynhyrchion amaethyddol a bod gennych 3ha o dir amaethyddol cymwys yng Nghymru.

Os nad ydych wedi cyflwyno hawliadau i’r naill gynllun na'r llall neu os na allwn gadarnhau bod gennych y tir, bydd yn rhaid ichi gyflwyno tystiolaeth ddogfennol gyda'ch datganiad o ddiddordeb i gadarnhau’ch bod yn gynhyrchydd cynradd cynhyrchion amaethyddol a'ch bod yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd naill ai ar sail 3ha o dir neu ar sail 550 o oriau llafur safonol.

Mae cynhyrchwyr cynradd cynhyrchion amaethyddol yn cynnwys y sectorau ffermio canlynol:

  • cnydau âr
  • eidion
  • llaeth
  • geifr
  • garddwriaeth (gan gynnwys hydroponeg a phlanhigion dŵr)
  • moch
  • dofednod
  • defaid
  • cadw gwenyn

I fod yn gymwys am gontract, rhaid bod gennych o leiaf 0.1ha o gynefin cymwys.

Nid oes terfyn uchaf i faint o dir y gellir ei gynnwys yng Nghynllun Cynefin Cymru, er bydd terfyn canrannol os bydd arwynebeddau mwy wedi’u cyflwyno.

Nid ydych yn gymwys:

  • os ydych yn gwsmer sy'n cadw ceffylau (gan gynnwys pori ceffylau)
  • os ydych yn gwsmer coedwigaeth (gan gynnwys pobl sy'n berchen ar goetir yn unig)
  • os ydych yn grŵp o ffermwyr (gan gynnwys Cymdeithasau Cynhyrchwyr)

Tir Cymwys

Er mwyn i’r tir allu cael ei ystyried ar gyfer y cynllun, rhaid iddo fod yn dir yng Nghymru a bod o dan eich rheolaeth lwyr chi o 1 Ionawr i 31 Rhagfyr 2024.

Mae tir o dan eich rheolaeth lwyr chi:

  • os chi yw’r perchennog feddiannydd
  • os ydych yn denant â ‘meddiannaeth egsgliwsif’ o dan Ddeddf Tenantiaethau 1995 neu denantiaeth lawn o dan y Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986
  • os ydych yn denant â thenantiaeth lafar â’r un lefel o reolaeth â’r uchod
  • tir comin ag ‘un porwr’, wedi’i gofrestru fel parsel cae gyda’r RPW

RHAID ichi sicrhau bod y tir o dan eich rheolaeth lwyr chi dros gyfnod y contract rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr 2024.

Os nad oes gennych reolaeth lwyr am y 12 mis dros 1 Ionawr i 31 Rhagfyr 2024, rhaid ichi drefnu estyn eich tenantiaeth i gwmpasu’r cyfnod os ydych am i’r parsel ddod o dan y cynllun.

Os gwelwn wrth brosesu’ch hawliad am daliad, nad oes gennych reolaeth lwyr ar y tir yn y contract am gyfnod llawn y contract, caiff y tir ei dynnu o’ch contract ac efallai o dan rai amgylchiadau y cewch eich cosbi.

Dyma’r categorïau o dir sy’n gymwys ar gyfer y cynllun:

  1. tir o dan opsiwn cynefin fel rhan o gontract Glastir Uwch
  2. tir cynefin, nad yw o dan fesurau rheoli yn 2023, ond sydd wedi’i gofnodi ar fapiau ar dudalen Cynllun Cynefin Cymru gwefan MapData Cymru (heb gynnwys safleoedd dynodedig)
  3. tir sy’n cael ei reoli fel cynefin. (Mae potensial i’r tir hwn fod yn dir cynefin ar ôl gwaith rheoli)

Tir anghymwys

  • tir y tu allan i Gymru
  • tir comin â mwy nag un porwr
  • parsel cae sy’n cael ei bori ar y cyd
  • parsel cae sy’n cael ei ddefnyddio gan fusnes ffermio arall i hawlio taliadau (e.e. BPS)
  • tir sydd wedi’i ddatblygu e.e. safleoedd carafanau parhaol, cyrsiau golff
  • parsel cae sy’n llai na 0.1 hectar o faint
  • tir nad oes gan yr ymgeisydd reolaeth lwyr arno o 1 Ionawr 2024 i 31 Rhagfyr 2024
  • tir dynodedig (e.e. SoDdGA, Ardal Cadwraeth Arbennig, Ardal Gwarchodaeth Arbennig) nad yw’n rhan o opsiwn rheoli Glastir Uwch yn 2023

Gofynion y Cynllun

Categorïau Cynefin Cymru

Bydd rheoli tir Cynefin cymwys, gyda chymorth cynllun Cynefin Cymru, yn seiliedig ar 10 categori cynefin bras:

Opsiwn

Categori Cynefin Cynllun Cynefin Cymru

Opsiwn Blaenoriaeth

HS01

Glaswelltir Sych Parhaol heb Fewnbynnau

7

HS02

Cynefinoedd Gwlyptir wedi’u Hamgáu

4

HS03

Rhos yr Arfordir a Rhos Llawr Gwlad

5

HS04

Morfa Heli

2

HS05

Graean Bras Arfordirol â llystyfiant a Thwyni Tywod

3

HS06

Pori i Reoli Tir Agored

1

HS07

Coed, Prysgwydd (gan gynnwys Coridorau Glan-afon) a Choetir sy’n Bod

6

HS08

Planhigion Tir Âr

8

HS09

Creigiau a Sgri Mewndirol

9

HS20

Tir sy’n cael ei Reoli fel Cynefin

10

Bydd gofyn ichi barhau i reoli’r tir yn unol â gofynion y categori cynefin a ddisgrifir yn Atodiad A.

Bydd pob darn o dir cynefin yn perthyn i un o’r categorïau cynefin bras.

Os bydd un darn o Gynefin yn gorgyffwrdd â chynefin sydd o dan gategori arall, y categori sydd â’r flaenoriaeth uchaf fel yn y tabl uchod fydd yn cyfrif.

Pwysig: Bydd HS07 “Coed, Prysgwydd (gan gynnwys Coridorau Glan-afon) a Choetir sy’n Bod” yn cynnwys tir sydd ar hyn o bryd o dan opsiwn rheoli yn Glastir Uwch (fel y disgrifir yn y tabl isod) a dim ond cynefin coetir sydd wedi’i nodi o dan NH3 “Coetir Hynafol Sensitif (Amonia)”.

Opsiynau rheoli Glastir

Mae opsiynau rheoli Glastir cymwys wedi’u neilltuo i’r categorïau Cynefin a nodir isod:

Opsiwn Rheoli Glastir

Opsiwn Cynefin Cymru

Categori Cynefin Cynllun Cynefin Cymru

15, 22, 109, 120, 121, 122, 123, 124, 125, 126, 128, 129, 130, 131, 132, 133, 134, 148, 160, 161, 164, 165, 166, 167, 168, 171 & 175

HSW001

Glaswelltir Sych Parhaol heb Fewnbynnau

19, 139, 140, 141, 142, 143, 144, 145, 146 & 147

HSW002

Cynefinoedd Gwlyptir wedi’u Hamgáu

20, 115, 116, 117, 118 & 119

HSW003

Rhos yr Arfordir a Rhos Llawr Gwlad

21, 149 & 150

HSW004

Morfa Heli pori

25 & 151

HSW005

Graean Bras Arfordirol â llystyfiant a Thwyni Tywod

41 & 109

HSW006

Pori i Reoli Tir Agored

100, 103, 104, 106, 172, 173, 176, 420 & 421

HSW007

Coed, Prysgwydd (gan gynnwys Coridorau Glan-afon) a Choetir sy’n Bod

Safleoedd Dynodedig mewn Contract Glastir Uwch

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael y caniatâd sy’n angenrheidiol i gadw at ofynion Cynllun Cynefin Cymru ar safleoedd dynodedig sydd ar hyn o bryd o dan amodau Glastir.

Ni fydd angen caniatâd ysgrifenedig gan CNC eto arnoch i barhau i gynnal gweithgaredd y cawsoch gytundeb cynt ar ei gyfer yn ystod eich cytundeb Cynllun Cynefin Cymru.

Bydd gofyn ichi gadw at ofynion eich contract Glastir Uwch dros gyfnod 12 mis eich contract Cynefin Cymru.

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw’r awdurdod sy’n gyfrifol am reoleiddio Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGAau). O dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd), mae’n ofyn cyfreithiol cael caniatâd ysgrifenedig CNC i gynnal Opsiynau Rheoli Glastir ar dir sydd wedi’i ddynodi’n SoDdGA a gweithgareddau ar y rhestr ‘Gweithrediadau sy’n Debygol o Niweidio’r Budd Cymdeithasol’. O fewn Cynllun Cynefin Cymru, mae CNC wedi gwneud Penderfyniad Rheoleiddio i chi allu parhau â’r un gweithgareddau rheoli ar eich tir SoDdGA ag sydd ar restr opsiynau rheoli’ch Contract Glastir.

Bydd dal angen ichi hysbysu CNC yn ysgrifenedig os byddwch am newid unrhyw agwedd ar y gweithgareddau sydd wedi’u rhestru yn eich contract Cynllun Cynefin Cymru neu os byddwch am gynnal gweithgareddau newydd sydd ar y rhestr ‘Gweithrediadau sy’n Debygol o Niweidio’r Budd Cymdeithasol’.

Tir sydd wedi’i nodi’n Dir Cynefin

Mae’r tir cynefin wedi’i nodi ar yr haenau cynefin sydd wedi’u cofnodi ar DataMapCymru. Am ragor o wybodaeth am y math o gynefin a’i leoliad ar eich daliad, ewch i Cynllun Cynefin Cymru ar MapDataCymru.

Rhaid cynnwys pob tir cynefin sy’n dod o dan eich rheolaeth lwyr chi yn eich cais. Nid oes hawl gennych dynnu tir cynefin sy’n bodloni’r gofynion o ran bod yn gymwys o’r cais.

Glaswelltir Parhaol i’w reoli fel Cynefin

Mae ‘glaswelltir parhaol cymwys i’w reoli fel cynefin (HS20)’ yn dir sy’n bodloni’r diffiniad o dir cynefin isod:

  • bydd y tir yn laswelltir parhaol
  • ni fydd y tir wedi’i aredig na’i ail-hau, ac ni fydd wedi’i hau i adnewyddu’r borfa trwy ddrilio na’i hau ar y wyneb, yn y 10 mlynedd diwethaf
  • bydd llai na 25% o’r borfa’n rhywogaethau amaethyddol fel rhygwellt a meillion gwyn sydd wedi’u hau
  • nid oes fawr os o gwbl o wrtaith anorganig/tail buarth wedi’i roi ar y tir
  • nid yw’r tir yn gynhyrchiol – ddim mwy nag un toriad o wair neu silwair bob blwyddyn
  • mae yno amrywiaeth o flodau a glaswellt gwyllt sy’n nodweddiadol o’r math o bridd yn tyfu yn y borfa. Yn ystod y ffenest Datgan Diddordeb, efallai na fydd yn bosibl gweld rhai planhigion a glaswellt gwyllt yn y cae. Dylai ymgeiswyr asesu’r sefyllfa yn ôl eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r cae

Cod y Fferm Gyfan

Set o ofynion gorfodol yw Cod y Fferm Gyfan.  Rhaid cadw at y rheolau canlynol ar holl dir y daliad.

Peidiwch â llosgi llystyfiant ar dir creigiog nac ar safleoedd archeolegol.

Gwarchodwch a chadwch hen goed a choed aeddfed yng nghanol caeau ac mewn perthi (gwrychoedd) Mae'n bwysig cadw coed am eu bod yn rhan o gymeriad a natur y dirwedd ac yn werthfawr i fywyd gwyllt, hyd yn oed pan fyddant wedi marw neu'n heintiedig.

Peidiwch â niweidio coed, er enghraifft drwy drin y tir yn rhy agos at eu gwreiddiau. Diogelwch hwy rhag drifft chwynladdwyr. Peidiwch â thrin y tir o dan y canopi.

Os gwelwch fod coeden neu ran o goeden farw neu sâl yn beryglus, gallwch gael gwared arni. Ystyr peryglus yn yr achos hwn yw ei bod yn ddigon agos i lwybr cyhoeddus neu lwybr â chaniatâd neu ffordd gyhoeddus fel y gallai deunydd sy’n cwympo oddi arni gau’r llwybr neu ei bod yn ddigon agos i lwybr mynediad neu adeilad fel y gallai canghennau gwympo arnyn nhw a’u difrodi.

Gellir ystyried bod coed sy'n tyfu ar adeiladau fferm traddodiadol a choed ansefydlog neu sâl sy'n tyfu ar nodweddion archeolegol yn beryglus hefyd os oes posibilrwydd y gallai'r goeden gwympo a difrodi'r nodwedd hanesyddol.

Pan fyddwch yn torri coeden sy’n beryglus neu ran ohoni, bydd gofyn i chi dynnu llun ohoni a’i ddangos os gofynnir ichi wneud hynny.

Cadw adeiladau traddodiadol ac olion adeiladau.

Rhaid cadw adeiladau traddodiadol a’u holion, waeth beth yw eu cyflwr oni bai eu bod yn beryglus.

Ystyr peryglus yn yr achos hwn yw bod yr adeilad yn ddigon agos i lwybr cyhoeddus neu lwybr â chaniatâd fel y gallai deunydd sy’n cwympo oddi arno gau’r llwybr neu ei fod yn ddigon agos i lwybr mynediad neu adeilad fel y gallai deunydd sy'n cwympo oddi arno achosi difrod.

Pan fyddwch yn dymchwel adeilad traddodiadol neu ran ohono y bernir ei fod yn beryglus, bydd gofyn ichi dynnu llun ohono a’i gadw i brofi ei fod yn beryglus a dangos y llun os gofynnir ichi wneud hynny.

Rhaid cynnal arolwg ystlumod cyn dymchwel neu newid yr adeilad, rhaid cadw tystiolaeth bod yr arolwg wedi'i gynnal a’i ddangos pan ofynnir amdano.

Peidiwch â difrodi Heneb Restredig neu Nodwedd Amgylchedd Hanesyddol ar y daliad.

Gall difrodi olygu unrhyw rai o’r canlynol:

  • tarfu ar y pridd neu dyrchu’r uwchbridd
  • dympio neu storio deunydd ar ben y nodwedd, gan gynnwys creu storfa dros dro
  • cymryd deunydd gan gynnwys cerrig, pridd neu isbridd o'r nodwedd
  • arwyddion amlwg o erydu (colli a thyrchu uwchbridd neu isbridd) gan anifeiliaid a cherbydau neu waith amaethyddol
  • plannu coed ar y nodwedd (ac eithrio plannu coed ‘tebyg am eu tebyg’ yn lle coed eraill mewn tir parc dynodedig)
  • caniatáu i brysgwydd ddatblygu
  • aredig neu ail-hau
  • symud nodweddion unigol o garreg

Trawsgydymffurfio

Set o ofynion gorfodol yw trawsgydymffurfio y mae’n rhaid cadw atynt ar eich holl dir amaethyddol. Chi fydd yn gyfrifol am Drawsgydymffurfio am flwyddyn gyfan y cynllun.

Rhaid ichi gadw’r tir mewn Cyflwr Amaethyddol ac Amgylcheddol Da (GAEC) a chadw at y Gofynion y Rheoli Statudol (SMR).

Fe welwch fanylion y gofynion Trawsgydymffurfio ar wefan Llywodraeth Cymru: Trawsgydymffurfio 2023.

Gofynion o ran cadw cofnodion

Bydd gofyn ichi gadw dyddiadur gwaith ar gyfer pob parsel o dir cynefin neu laswelltir parhaol cymwys sy’n cael ei reoli fel tir cynefin (HS20) sydd wedi’i gynnwys yn y contract. Rhaid cofnodi o leiaf y canlynol yn y dyddiadur gwaith:

  • cofnod o unrhyw waith tocio’r glaswellt
  • cofnod o gyfnodau caeedig ar weirgloddiau a dyddiadau lladd gwair
  • cofnod gwasgaru calch
  • cofnod gwasgaru plaladdwyr angenrheidiol
  • cynnal a chadw terfynau caeau traddodiadol
  • unrhyw waith ar y tir cynefin sydd yn eich contract ar unrhyw ddiwrnod
  • ar gyfer categorïau o gynefin lle ceir gofynion o ran rheoli lefelau pori, rhaid cofnodi’r da byw a gyflwynir a’r dyddiad pan mae da byw yn cael eu symud o’r cae neu eu lleihau (HS02, HS03, HS05 a HS06)

Bydd templedi ar gyfer dyddiadur stocio pob opsiwn ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru

Os bydd Cyfoeth Naturiol Cymru’n credu bod y gofynion rheoli hyn yn cael effaith ddrwg ar y tir, bydd yn rhaid ichi gytuno ar newidiadau rheoli yn unol â gofynion CNC cyn y cynigir contract i chi.

Cyfraddau talu

Dyma’r cyfraddau talu ar gyfer y cynefinoedd a nodir o dan y categorïau cynefin canlynol:

Cynefin

Taliad yr ha

Planhigion Tir Âr

Rhos Arfordirol a Rhos Llawr Gwlad

Graean Bras Arfordirol â llystyfiant a Thwyni Tywod

Cynefinoedd Gwlyptir wedi’u Hamgáu

Morfa heli

Pori i reoli tir agored

Glaswelltir Sych Parhaol heb Fewnbynnau

Creigiau a Sgri Mewndirol

Rheoli Tir fel Cynefin

£69

Coed, prysgwydd a choetir sy’n bod

£62

Bydd cap ar uchafswm gwerth contract fel a ganlyn:

Arwynebedd

Gwerth Contract

0 – 200 ha o dir cynefin cymwys

100% o’r gyfradd dalu

200 - 400 ha of dir cynefin cymwys

50% o’r gyfradd dalu

400 ha + o dir cynefin cymwys

10% o’r gyfradd dalu

O gyrraedd unrhyw rai o’r trothwyon tapro, y gyfradd dalu uchaf a delir gyntaf.

Er enghraifft, mae ymgeisydd sydd â daliad ag arwynebedd o 500 ha yn cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb â 300 ha o dir cynefin, gyda 250 ha ohono’n HS06 Pori i Reoli Tir Agored a 50 ha ohono’n HS07 Coed, prysgwydd (gan gynnwys Coridorau Glan Afon) a Choetir sy’n bod.

 Gwerth y Contract

 

200 ha ar £69/ha

£13,800

50ha  ar 50% o £69 / ha

£1,725

50ha ar 50% o £62

£1,550

Cyfanswm y contract

£17,075

Adran C: tir mewn cynlluniau eraill

Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS)

Mae tir rydych yn hawlio BPS arno yn gymwys ar gyfer Cynllun Cynefin Cymru.

Nid yw Cynllun Cynefin Cymru yn cynnwys gofyniad i roi’r gorau i gynhyrchu ar dir (h.y. gwahardd stoc). O'r herwydd, ni fydd tir yr oedd stoc wedi’i wahardd arno cynt o dan gynllun Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014 – 2020 yr UE - Glastir Uwch ac sy’n rhan bellach o Gynllun Cynefin Cymru yn gymwys ar gyfer BPS yn 2024 os bydd stoc yn dal i fod wedi’i wahardd arno. Bydd angen bodloni gofynion cymhwysedd BPS mewn perthynas â choed/nodweddion anghymwys.

Cynllun Creu Coetir

Nid yw tir dan goed sy’n perthyn i unrhyw un o’r cynlluniau canlynol yn gymwys ar gyfer Cynllun Cynefin Cymru:

  • Creu Coetir Glastir – gan gynnwys Premiwm Creu Coetir Glastir, Taliad Cynnal Glastir – Creu Coetir a Phremiwm Creu Glastir
  • Grant Creu Coetir neu Creu Coetir – Grantiau Bach – gan gynnwys Taliad Cynnal Creu Coetir a Phremiwm Creu Coetir

Os oes gennych dir coediog o dan y cynlluniau hyn adeg cyflwyno’r Datganiad o Ddiddordeb, caiff ei arwynebedd ei dynnu o arwynebedd y Cynefin neu’r Glaswelltir Parhaol cymwys y gallwch ymgeisio ar ei gyfer.

Cynllun Troi’n Organig

Mae tir sydd ar hyn o bryd o dan gontract y Cynllun Troi’n Organig yn gymwys ar gyfer Gynllun Cynefin Cymru.

Tyfu ar gyfer yr Amgylchedd

Ar gyfer tir o dan y categori Planhigion Tir Âr, lle caniateir ichi drin a thyfu cnwd âr heb ei chwistrellu, byddwn yn tynnu ei arwynebedd o Gynllun Cynefin Cymru pan fyddwn yn dilysu’r hawliad os ydy’r tir hwnnw o dan gontract hefyd ar gyfer opsiwn Tyfu ar gyfer yr Amgylchedd,

Talu Ddwywaith

Peidiwch â gwneud cais i Gynllun Cynefin Cymru os ydych yn derbyn arian o ffynhonnell arall at yr un pwrpas rhag i ni ystyried eich bod yn cael eich talu ddwywaith ar gyfer yr un tir.

Os gwelir eich bod wedi cael arian o ffynhonnell arall yn ogystal ag o Gynllun Cynefin Cymru, gallai hynny arwain at eich cosbi’n ariannol neu ofyn i chi dalu yn ôl arian sydd wedi’i dalu i chi o dan gontract Cynllun Cynefin Cymru.

Adran D: gwneud cais ar gyfer Cynllun Cynefin Cymru

RPW Ar-lein

Rhaid Datgan Diddordeb ar gyfer Cynllun Cynefin Cymru drwy ddefnyddio Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein. Os oes gennych Gyfeirnod Cwsmer (CRN) eisoes, dylech fod wedi cael llythyr gyda’ch Cod Defnyddio arno fel y gallwch agor cyfrif. Os ydych wedi’i golli, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 (Llun – Iau 8.30am – 5pm, Gwener 8.30am – 4.30pm) a rhoi eich CRN i’r cysylltydd. Bydd Cod Defnyddio newydd yn cael ei anfon atoch.

I gofrestru manylion eich busnes am y tro cyntaf, mae angen ichi gwblhau’r ffurflen gofrestru ar-lein. Ewch i’r canllawiau ar sut i gofrestru am ragor o wybodaeth. Mae modd cofnodi’r rhan fwyaf o newidiadau i fanylion busnes ar-lein. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd angen hysbysu Llywodraeth Cymru am unrhyw newidiadau mawr. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid.

Ar ôl cofrestru, gallwch ddefnyddio eich cyfrif RPW Ar-lein. Mae'r Datganiad o Ddiddordeb ar gyfer Cynllun Cynefin Cymru ar gael yn yr adran 'Ceisiadau a Hawliadau' yn eich cyfrif.

Os oes gennych asiant yn gweithio ar eich rhan, bydd angen iddo gofrestru fel asiant gydag RPW.  Os nad ydych wedi gwneud hyn eto, dylech gwblhau copi ar-lein neu gopi caled o’r ffurflen Manylion Cwsmer Asiant / Undeb Amaeth (Cymru) ar unwaith. Mae’r ffurflen ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Ar ôl derbyn y ffurflen, byddwn yn anfon Cyfeirnod Cwsmer Asiant a Chod Defnyddio RPW Ar-lein. Hefyd, bydd angen ichi gwblhau Ffurflen Awdurdodi Asiant ar ôl cofrestru gydag RPW Ar-lein. Gweler ein canllawiau ar sut i gofrestru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gofrestru gydag RPW Ar-lein neu am gwblhau eich datganiad o ddiddordeb, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004. Byddant yn gallu eich cynghori a rhoi gwybod ichi ble gallwch fynd i gael cymorth digidol.

Mae rhagor o wybodaeth am RPW Ar-lein ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Adran E: Datgan Diddordeb a’r broses ddewis

Y Broses Ymgeisio

 Mae dau gam i'r broses ymgeisio ar gyfer Cynllun Cynefin Cymru.

  1. cyflwyno’ch datganiad o ddiddordeb drwy RPW Ar-lein
  2. ar ôl i'r ffenest ar gyfer datgan diddordeb ddod i ben, bydd proses ddewis yn cael ei chynnal. Os cewch eich dewis, bydd contract yn cael ei gynnig ichi drwy eich cyfrif RPW Ar-lein

Byddwn yn cyhoeddi dau nodyn atgoffa am Ddatganiadau o Ddiddordeb drwy eich cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau.

Ar ôl ichi gyflwyno Datganiad o Ddiddordeb Cynefin Cymru 2024 ac wedi iddo gyrraedd, bydd RPW yn archwilio bod deiliadaeth pob cae yn para am flwyddyn y contract. Bydd unrhyw barsel sydd heb ddeiliadaeth sy’n para o 1 Ionawr 2024 tan 31 Rhagfyr 2024 yn cael ei dynnu o’r Datganiad.

Atebwch yn brydlon unrhyw gwestiynau y bydd Llywodraeth Cymru am eu gofyn i chi am eich Datganiad o Ddiddordeb. Gallai peidio â gwneud o fewn yr amser a roddir olygu gwrthod cynnig contract i chi.

Cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb

I weld canllaw ar sut i gyflwyno Datganiad o Ddiddordeb trwy RPW Ar-lein, ewch i https://www.llyw.cymru/cynllun-cynefin-cymru-gan-defnyddio-rpw-ar-lein-i-wneud-cais

Tir sydd wedi’i gynnwys yn y Datganiad o Ddiddordeb

Byddwn wedi llenwi’ch ffurflen Datgan Diddordeb ar eich rhan gyda’r parseli lle ceir cynefin ynddynt neu a gafodd eu datgan yn laswelltir parhaol ar y Ffurflen Cais Sengl (SAF) 2023.

Bydd y parseli’n cael eu cynnwys os ydyn nhw’n:

  • barseli sy’n eiddo i chi
  • parseli rhent â deiliadaeth sy’n fyw ar 25 Medi 2023 a bod gennych reolaeth lwyr drostynt, parseli â chod deiliadaeth A a B, ac C hefyd (os yw hyd y denantiaeth yn 364 diwrnod neu fwy)

Arwynebedd Tir Pori Parhaol

Mae glaswelltir parhaol yn cael ei ddiffinio fel tir a ddefnyddir i dyfu porfa a phorthiant glas arall arno, naill ai’n naturiol (trwy hadu a hau’n naturiol) neu drwy ei drin (ei hau) ac nad yw wedi bod yn rhan o gylchdro cnydau’r daliad am bum mlynedd neu fwy.

Codau Cnydau Cymwys ar Laswelltir Parhaol i’w reoli fel Cynefin:

Cnwd/Disgrifiad o’r Tir

Cod y Cnwd

Glaswellt – parhaol – dros 5 mlynedd

GR2

Coed Conwydd pori – Glastir 176

CG1

 Traciau - pori

GT1

Rhos – pori

HE7

Grug

HE9

Morfa Heli pori

SM2

Twyni tywod

SD1

Bydd nodweddion parhaol naturiol yn y parsel glaswelltir parhaol yn cael eu cynnwys yn arwynebedd y Glaswelltir parhaol. Ond caiff arwynebedd nodweddion sydd wedi’u gwneud gan bobl eu tynnu o arwynebedd y glaswelltir parhaol cymwys ar y cais. Dyma nodweddion parhaol sydd wedi’u gwneud gan bobl:

Cnwd/Disgrifiad o’r Tir

Cod y Cnwd

Adeiladau/Buarthau

ZZ89

Arwynebau caled

ZZ92

Ffyrdd

ZZ94

Traciau – heb eu pori

ZZ97

Anamaethyddol

NO1

Tir na fydd yn cael ei gynnwys yn y Datganiad o Ddiddordeb

  • ni chynhwysir parseli nad oes cynefin wedi’i nodi arnynt a pharseli sydd heb eu datgan fel glaswelltir parhaol ar SAF 2023, er enghraifft, parsel sydd wedi’i ddatgan ar SAF 2023 gyda chnwd âr a heb gynefin wedi’i nodi ynddo
  • parsel lle daeth y ddeiliadaeth i ben ar 24 Medi 2023 nad yw’n denantiaeth sy’n cael ei hadnewyddu
  • parsel â thenantiaeth lafar (cod deiliadaeth C) o lai na 364 diwrnod

Categorïau Tir Cymwys yn y Datganiad o Ddiddordeb

  1. Tir sydd ar hyn o bryd o dan opsiwn cynefin o fewn contract Glastir Uwch:
    • bydd caeau cymwys yn cael eu nodi’n awtomatig ar y Datganiad o Ddiddordeb
    • bydd yr holl gaeau sy’n cael eu nodi yn cael eu cynnwys yn y contract. Ni fydd opsiwn i wrthod y caeau fydd wedi’u nodi
    • ar gyfer tir sydd o dan opsiynau rheoli Glastir na fydd yn cael ei nodi ar y ffurflen yn awtomatig (ddim yn cael ei reoli fel cynefin), bydd gan ymgeiswyr yr opsiwn i gyflwyno'r tir hwn yn y Datganiad o Ddiddordeb fel tir categori 3
  1. Tir cynefin, nad yw’n cael ei reoli fel cynefin, ond sydd wedi’i nodi ar y mapiau a gafodd eu cyhoeddi ar DataMapCymru (heb gynnwys safleoedd dynodedig):
    • bydd pob tir cynefin cymwys yn cael ei nodi’n awtomatig ar y ffurflen gais
    • bydd pob tir cynefin fydd wedi’i nodi yn cael ei gynnwys yn y contract. Ni fydd opsiwn i wrthod y tir cynefin cymwys
    • gallai’r cynefin orchuddio’r cae cyfan neu ran o gae
    • gallai mwy nag un darn o gynefin fod ar gae, gan gynnwys cynefinoedd gwahanol
    • os bydd tir cynefin wedi’i nodi’n rhan o gae, bydd gan ymgeiswyr yr opsiwn i gyflwyno'r tir cymwys sy’n weddill yn y cae fel tir categori 3. Mewn achos o’r fath, rhaid cynnwys holl weddill y cae
    • ni fydd safleoedd dynodedig yn gymwys
  1. Tir sy’n cael ei reoli fel cynefin. (Tir sydd â’r potensial i fod yn dir cynefin ar ôl ei reoli):
    • yn ogystal â thir cymwys 1 a 2, caiff ymgeiswyr ofyn am gael cynnwys tir yn eu Datganiad o Ddiddordeb y maen nhw’n ymrwymo i’w reoli fel cynefin. Wrth wneud, byddan nhw’n ymrwymo i gynnal y gofynion rheoli ar y tir hwnnw
    • rhaid cynnwys caeau cyfan yn unig
    • o ran y caeau sy’n cael eu cynnwys, ni chewch newid eu ffiniau dros oes y contract

I fod yn gymwys ar gyfer categori 3, bydd gofyn i ymgeiswyr gadarnhau bod y glaswelltir parhaol posibl ym mhob cae yn bodloni’r amodau isod:

  • bydd y tir yn laswelltir parhaol
  • ni fydd y tir wedi’i aredig na’i ail-hau, ac ni fydd wedi’i hau i adnewyddu’r borfa trwy ddrilio na’i hau ar y wyneb, yn y 10 mlynedd diwethaf
  • bydd llai na 25% o’r borfa’n rhywogaethau amaethyddol fel rhygwellt a meillion gwyn sydd wedi’u hau
  • nid oes fawr os o gwbl o wrtaith anorganig/tail buarth wedi’i roi ar y tir
  • nid yw’r tir yn gynhyrchiol – ddim mwy nag un toriad o wair neu silwair bob blwyddyn
  • mae amrywiaeth o flodau a glaswellt gwyllt sy’n nodweddiadol o’r math o bridd yn tyfu yn y borfa

Trwy gynnwys tir o dan y categori hwn, mae ymgeiswyr yn ymrwymo o bosibl i reoli’r tir hwn fel cynefin i’r tymor hir.

Rhan 2: canllawiau ar gyfer Cymdeithasau Pori Tir Comin

Adran F: Cynllun Cynefin Cymru – Tir Comin

Pwy sy’n gymwys

I fod yn gymwys ar gyfer Cynllun Cynefin Cymru – Tir Comin, rhaid i ymgeiswyr fodloni’r holl feini prawf isod:

  • bydd gennych gontract Glastir Tir Comin byw ar gyfer 2023
  • mae’r Gymdeithas Bore wedi sefydlu cyfrif banc neu y bydd wedi gwneud erbyn 31 Rhagfyr 2023
  • bydd gan y Gymdeithas Bori statws cyfreithiol cyn llofnodi contract Cynllun Cynefin Cymru – Tir Comin.

Pwysig: dim ond cymdeithasau pori sydd â chontract Glastir Tir Comin 2023 byw fydd yn gymwys i wneud cais i Gynllun Cynefin Cymru – Tir Comin. Os oedd gennych gontract Glastir Tir Comin ar gyfer blynyddoedd cynt a’i fod wedi dod i ben neu wedi’i ddiddymu, ni fyddwch yn cael gwneud cais i Gynllun Cynefin Cymru – Tir Comin.

Tir Comin heb gontract Glastir Tir Comin

Ni fydd cymdeithasau pori sydd heb gontract Glastir yn gymwys ar gyfer cynllun Cynefin Cymru.

Rydym wrthi’n ystyried pa fath arall o gymorth y gallwn ei gynnig i borwyr tir comin nad ydynt yn aelod o Glastir, er mwyn eu paratoi ar gyfer yr SFS, o bosib trwy eu helpu i greu a datblygu Cymdeithas Bori lle nad oes un yn bod, neu lle bo angen datblygu cytundeb rheoli.

Tir Cymwys

Mae’r tir canlynol yn gymwys ar gyfer dod yn rhan o gontract Tir Comin Cynllun  Cynefin Cymru:

  • Yr holl dir rydych yn derbyn arian ar ei gyfer ac sydd wedi’i restru o dan eich contract Glastir Tir Comin 2023, sy’n cynnwys:
    • tir sydd wedi’i gofrestru’n gyfreithlon fel tir comin o dan Ddeddf Cofrestru Tir Comin 1965 ac sy’n cael ei ddefnyddio gan fwy nag un porwr
    • tir heb ei amgáu sy’n cael ei bori gan fwy nag un porwr yr un pryd ac sydd â nodweddion tir comin (e.e. tir uchel heb ei amgáu, tir pori garw ac ati) ond nad yw wedi’i gofrestru o dan Ddeddf Cofrestru Tir Comin 1965

Ni chewch dynnu tir sydd wedi’i gynnwys yn eich contract Glastir Tir Comin 2023 o’r Datganiad o Ddiddordeb ar gyfer Cynllun Cynefin Cymru – Tir Comin oni bai ei fod bellach yn anghymwys ar gyfer y cynllun am y rhesymau isod.

Tir Anghymwys

Nid yw’r tir canlynol yn gymwys ar gyfer dod o dan gontract Tir Comin Cynllun Cynefin Cymru:

  • tir sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau anamaethyddol, gan gynnwys tir wedi’i ddatblygu, safleoedd carafannau sefydlog, meysydd parcio, meysydd carlamu, meysydd awyr, tir sy’n cael ei ddefnyddio fel storfa barhaol, adeiladau a buarthau, arwynebau caled, pyllau dŵr, heolydd, sgri/craig/meini, traciau heb eu pori, cyrsiau golff a chyfleusterau chwaraeon eraill
  • rhan o barsel cae
  • tir y tu allan i Gymru
  • tir nad oes gennych reolaeth arno am flwyddyn
  • tir nad yw o dan eich Contract Glastir Tir Comin 2023

Cynllun Cynefin Cymru – Opsiynau Rheoli Tir Comin

Bydd gofyn ichi ofalu am eich tir comin o dan yr un amodau â’ch contract Glastir Tir Comin 2023. Bydd hynny’n cynnwys yr Opsiynau Rheoli Tir Comin, unrhyw Opsiynau Rheoli Uwch, lefelau stocio ac unrhyw Atodiad Pori y mae CNC wedi’i drefnu. Ni chewch newid yr amodau hyn wrth ymuno â Chynllun Cynefin Cymru – Tir Comin.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael y caniatâd sy’n angenrheidiol i gadw at ofynion Cynllun Cynefin Cymru ar safleoedd dynodedig sydd ar hyn o bryd o dan o dan gontract Glastir Tir Comin.

Ni fydd angen caniatâd ysgrifenedig gan CNC eto arnoch i barhau i gynnal gweithgaredd y cawsoch gytundeb ar ei gyfer yn ystod eich contract Cynllun Cynefin Cymru.

Bydd gofyn ichi gadw at ofynion y caniatâd a roddwyd i chi ar gyfer eich contract Glastir Tir Comin dros gyfnod 12 mis eich contract Cynefin Cymru – Tir Comin.

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw’r awdurdod sy’n gyfrifol am reoleiddio Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGAau). O dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd), mae’n ofyn cyfreithiol cael caniatâd ysgrifenedig CNC i gynnal Opsiynau Rheoli Glastir ar dir sydd wedi’i ddynodi’n SoDdGA a gweithgareddau ar y rhestr ‘Gweithrediadau sy’n Debygol o Niweidio’r Budd Cymdeithasol’. O fewn Cynllun Cynefin Cymru, mae CNC wedi gwneud Penderfyniad Rheoleiddio i chi allu parhau â’r un gweithgareddau rheoli ar eich tir SoDdGA ag sydd ar restr opsiynau rheoli’ch Contract Glastir.

Bydd dal angen ichi hysbysu CNC yn ysgrifenedig os byddwch am newid unrhyw agwedd ar y gweithgareddau sydd wedi’u rhestru yn eich contract Cynllun Cynefin Cymru neu os byddwch am gynnal gweithgareddau newydd sydd ar y rhestr ‘Gweithrediadau sy’n Debygol o Niweidio’r Budd Cymdeithasol’.

Opsiwn 1: Rheoli Lefelau Stocio

Mae rheoli lefelau stocio yn golygu cynnal lefel stocio gynaliadwy gydol y flwyddyn ar y tir fydd yn dod o dan y contract. Bydd yn cynnwys lwfans ar gyfer ei bori yn y gaeaf.  Yr un fydd y lefel stocio’ch Cynllun Cynefin – Tir Comin â lefel stocio’ch contract Glastir Tir Comin – Tir Comin.

a. Y Lefel Stocio Safonol

Caiff y lefel stocio uchaf ei bennu fesul cyfnod o bedwar mis. Bydd y Gymdeithas Bori yn ymrwymo i gadw’r lefel stocio uchaf chwarterol neu lai bob dydd yn ystod y chwarter. Sylwch nad cyfartaledd yw’r lefelau stocio hyn, ond y nifer uchaf y cewch eu cadw ar unrhyw ddiwrnod.

Dyma’r cyfnodau chwarterol:       

  • 1 Ionawr i 31 Mawrth
  • 1 Ebrill i 30 Mehefin
  • 1 Gorffennaf i 30 Medi
  • 1 Hydref i 31 Rhagfyr

b. Y Lefel Stocio Hyblyg

Bydd y contract yn pennu lefel stocio uchaf cyfartalog ar gyfer y flwyddyn. Yn ogystal, caiff lefelau stocio cyfartalog eu pennu ar gyfer yr haf ac ar gyfer y gaeaf.

Caiff y Gymdeithas Bori fynd dros lefel y gaeaf neu lefel yr haf o hyd at 20% o gyfartaledd y flwyddyn, ond bydd y Gymdeithas Bori yn gorfod gostwng lefel stocio’r cyfnod pori arall er mwyn sicrhau bod lefel stocio’r flwyddyn gyfan yn cadw o fewn y cyfartaledd uchaf blynyddol.

Mae’r hyblygrwydd hwn yn caniatáu ichi adlewyrchu’r patrymau pori gwahanol sy’n digwydd ar dir comin mewn gwahanol ardaloedd ac ar uchderau gwahanol yng Nghymru.

Dyma gyfnodau’r haf a’r gaeaf:

  • cyfnodau pori’r gaeaf  -1 Ionawr - 31 Mawrth / 1 Hydref - 31 Rhagfyr
  • cyfnod pori’r haf - 1 Ebrill - 30 Medi

Pwysig: Mae gwerth 20% dros lefel stocio’r haf neu’r gaeaf eisoes wedi’i gyfrif.

Opsiwn 2: Cyfnod Caeëdig Dros y Gaeaf

Rhaid i’r Gymdeithas Bori gymryd yr holl dda byw oddi ar dir y contract rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth 2023 a rhwng 1 Tachwedd a 31 Rhagfyr 2023. Er mwyn cael llacio’r rheol hon er mwyn i ‘ferlod Mynydd Cymreig Adran A lled-wyllt’ sy’n cael eu rheoli gan Gymdeithas Gwella Merlod Mynydd Cymru a Chymdeithas Merlod y Carneddau gael aros ar y comin dros y cyfnod hwn, rhaid gofyn ar RPW Ar-lein.

Opsiynau Tir Comin Uwch

Bydd yn amod o Gynllun Cynefin Cymru – Tir Comin eich bod yn cadw at ofynion opsiynau Glastir Uwch eich contract Glastir Tir Comin 2023. Yr un eithriad yw opsiwn 402 – Llosgi dan Reolaeth. Nid yw’r opsiwn hwn ar gael ar gyfer Cynllun Cynefin Cymru – Tir Comin. Bydd holl ofynion eraill yr opsiynau hyn yn aros yr un peth. Gweler gofynion yr opsiynau isod:

Opsiwn 400 – Taliad rheoli ychwanegol; rheoli stoc

  • cydymffurfiwch â'r cynllun rheoli stoc yn y Contract Glastir Tir Comin 2023
  • bydd angen cadw Dyddiadur Stocio a’i ddangos pan ofynnir amdano

Peidiwch â:

  • gadael i'r stoc achosi niwed i nodweddion archeolegol, pridd sy'n agored i niwed neu lystyfiant sydd dan fygythiad trwy eu gorbori / tanbori / stablad (sathru)

Opsiwn 401 – Taliad rheoli ychwanegol; pori cymysg

  • rhaid i o leiaf 30% o'r Unedau Da Byw (UDB) fod yn wartheg pori yn ystod pob blwyddyn galendr
  • rhaid i o leiaf 15% o'r Unedau Da Byw (UDB) fod yn ddefaid pori yn ystod pob blwyddyn galendr
  • bydd angen cadw Dyddiadur Stocio a’i ddangos pan ofynnir amdano

Opsiwn 411 – Taliad rheoli ychwanegol; lleihau lefelau stocio

  • cydymffurfiwch â'r cynllun pori yn y Contract sy'n nodi'r gostyngiad ychwanegol mewn stoc sy'n ofynnol
  • bydd angen cadw Dyddiadur Stocio a’i ddangos pan ofynnir amdano

Gofynion y Cynllun

Rhaid i ddeiliaid contract Tir Comin fodloni gofynion canlynol y cynllun hefyd:

  • rhaid cadw at y safonau Trawsgydymffurfio. Mae manylion am Drawsgydymffurfio ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru
  • rhaid cadw at y Cod Tir Comin
  • rhaid cynnal yr opsiwn rheoli a ddewiswyd ac a ddisgrifir yng nghontract Tir Comin Cynllun Cynefin Cymru
  • bydd tir y contract o dan reolaeth lwyr yr ymgeiswyr er mwyn iddynt allu ysgwyddo ymrwymiadau’r contract
  • os nad oes ffiniau ffisegol i dir y contract, rhaid bod ffin y tir yn weladwy o sefyll ar y tir o ddechrau’r contract. Mater i’r Gymdeithas Bori yw penderfynu sut orau i farcio ffiniau allanol tir y contract, er enghraifft, torri rhimyn o dyfiant neu gosod marciau fel cerrig neu byst. Nid oes gofyn penodol ynghylch pellter y marciau hyn oddi wrth ei gilydd ond rhaid bod modd gweld un o’r llall. O dan rai amgylchiadau, bydd gofyn ymgynghori â sefydliadau fel Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Parciau Cenedlaethol neu Awdurdodau Lleol cyn marcio ffin tir y contract
  • rhaid i Gymdeithasau Pori sydd wedi dewis yr Opsiwn Rheoli Lefel Stocio gadw dyddiadur stocio dyddiol ar daenlen (spreadsheet) o symudiadau’r stoc i ac o dir y contract
  • rhaid i Gymdeithasau Pori sydd wedi dewis Opsiwn Cyfnod Caeëdig y Gaeaf gadw dyddiadur stocio ar daenlen sy’n dangos pryd mae’r da byw yn cael eu symud oddi ar dir y contract ar ddechrau cyfnod caeëdig y gaeaf a phryd mae’r da byw yn cael eu symud yn ôl i dir y contract
  • rhaid cadw cofnod ar daenlen o fanylion yr aelodau a phorwyr actif eraill tir y contract 
  • rhaid i o leiaf 80% o’r porwyr actif ar dir y contract fod yn aelodau gydol cyfnod y contract

Mae porwr actif yn golygu:

  • cominwyr sydd â hawliau pori ac sy’n troi stoc allan i bori ar y tir comin
  • cominwyr nad ydynt yn defnyddio’u hawliau pori ar y comin am eu bod wedi cytuno i dynnu eu stoc o’r comin fel rhan o gytundeb rheoli
  • cominwyr sydd newydd roi’r gorau i ddefnyddio’u hawliau pori ar y comin. Er enghraifft, o Oherwydd mesurau rheoli yn sgil clwy’r traed a genau
  • pobl sy’n pori tir sydd heb ei gofrestru na’i amgáu, yn dir sy’n gymwys i fod yn rhan o’r cynllun

Cod Tir Comin

Rhaid i bob Cymdeithas Bori gadw at y Cod Tir Comin. Cofiwch fod rhai o’r gofynion isod yn safonau Trawsgydymffurfio hefyd:

  • cadwch yr holl ffiniau traddodiadol gan gynnwys cloddiau, waliau cerrig, perthi/gwrychoedd a ffensys llechi
  • cadwch bob nodwedd archeolegol a hanesyddol gan gynnwys gwrthgloddiau, meini hirion, bryngaerau, tomenni claddu, cylchoedd cytiau, corlannau a chuddfannau hela grugieir
  • cadwch bob safle daearegol a nodwedd craig gan gynnwys pob clogwyn, brigiad, sgri a graean
  • peidiwch â gosod draeniau nac agor ffosydd newydd na newid/ailagor draeniau a ffosydd sy’n bod eisoes
  • peidiwch â thorri na chodi mawn na gwaddodion oni bai bod gan yr ymgeisydd yr hawl i wneud hynny
  • peidiwch â rhigoli’r pridd trwy ddefnyddio peiriannau mewn ffordd anaddas
  • rhaid cadw at y Rheoliadau Llosgi Grug a Phorfa wrth losgi. Peidiwch â llosgi gorgors. Rhaid cael caniatâd Cyfoeth Naturiol Cymru cyn llosgi ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Ardal Cadwraeth Arbennig neu Ardal Gwarchod Arbennig
  • cadwch unrhyw goetir a phrysgwydd brodorol, pyllau, crafiadau, afonydd a nentydd
  • ni chaniateir aredig, trin nac ailhau tir ac eithrio tir pori neu âr wedi’i wella
  • ni chaniateir gwasgaru calch, gwrtaith anorganig nac organig (gan gynnwys tail a slag) ac eithrio ar dir pori neu âr wedi’i wella
  • cydymffurfiwch â’r gyfraith o ran yr hawliau tramwy sydd ar y tir. Peidiwch â’u cau na rhoi rhwystr arnynt. Rhaid caniatáu mynediad ar droed ar bob tir sydd yn ôl y mapiau a baratowyd o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ar gael at y diben hwnnw
  • cydymffurfiwch â’r gofynion o ran rhoi porthiant atodol i anifeiliaid ar holl dir y contract

Porthi Atodol

Dim ond o dan amgylchiadau penodol neu eithafol y cewch roi porthiant atodol i’ch stoc. Os oes yn rhaid rhoi porthiant atodol, mae’n bwysig gwneud hynny heb niweidio’r llystyfiant, y pridd na’r cyrsiau dŵr mewn ffordd sy’n cynnwys:

  • gorbori
  • gorwrteithio’r pridd
  • sathru’r llystyfiant
  • stablad (gorsathru) y pridd gan anifeiliaid pori neu ei rigoli gan gerbydau sy’n cario bwyd i’r anifeiliaid
  • erydu’r pridd a llygru dŵr

Caniateir rhoi porthiant atodol i anifeiliaid os byddai peidio â gwneud hynny yn peryglu eu lles. Tywydd drwg ac anghenion anifeiliaid beichiog iawn yw’r sbardunau tebygol ar gyfer rhoi porthiant atodol i stoc.

Mae tywydd drwg yn golygu cyfnod pan fydd y llystyfiant wedi’i orchuddio gan eira neu’n dioddef cyfnod hir o rew caled, sychder neu law trwm. Caniateir porthi atodol os ydy’r borfa sydd ar gael i anifeiliaid yn ystod y cyfnod o dywydd cas yn mynd yn brin iawn, cyn belled â bod y porthiant yn cael ei roi heb niweidio’r amgylchedd ac nad oes perygl i les y da byw.

Bydd angen porthi’ch anifeiliaid pan na fydd y borfa sydd ar gael, o ran ei swm neu/na’i ansawdd, yn ateb gofynion maeth yr anifeiliaid pori. Gallai hynny godi yn achos mamogiaid sy’n drwm gan oen neu sydd newydd ŵyna ac sydd felly ag angen mwy o faeth nag arfer arnynt, pan fydd lefelau stocio’n uchel a/neu pan fydd mwy o ŵyn nag arfer yn cael eu geni. O dan rai amgylchiadau, gallwch osgoi’r angen am borthi atodol ar dir comin trwy ostwng y lefelau stocio ac yn achos defaid, trwy fynd â mamogiaid trwm gan ŵyn (tua 8 wythnos cyn ŵyna) o’r comin, yn enwedig os ydyn nhw’n disgwyl mwy nag un oen.

Prif ofynion

Dim ond porthiant o’r rhestr ganlynol y cewch ei ddefnyddio ar Dir y Contract a dylai’r swm a fwydwch fod yn addas i’r math o anifail sy’n cael ei fwydo:

  • gwair (i’w wasgaru)
  • gwywair (porfa wedi’i ladd ag o leiaf 60% ohono’n ddeunydd sych) (i’w wasgaru)
  • bwyd cyfansawdd
  • betys siwgr sych (ar ffurf cêc); ond nid lle gall ceffylau fynd at y bwyd
  • plociau bwydo a bwyd gwlyb mewn cynwysyddion addas

Wrth roi dwysfwyd, gofalwch fod yr holl anifeiliaid yn gallu cael at y bwyd a’i fwyta i gyd yr un pryd.

  • bwydwch eich anifeiliaid mewn lle gwahanol bob dydd
  • wrth ddewis ble i fwydo’ch anifeiliaid, mae’n bwysig iawn eich bod yn osgoi llystyfiant sy’n sensitif i niwed ac i orwrteithio. Llystyfiant fel:
    • gorgors
    • grug
    • llus a chorlwyni eraill
    • glaswelltir cyfoethog ei rywogaethau
    • coetir llydanddail brodorol (lle mae mwy na 50% o’r coetir yn goed brodorol)
    • chorsydd
  • peidiwch â bwydo’ch anifeiliaid ar safleoedd archeolegol, llethrau serth na llwybrau cyhoeddus nac wrth eu hymyl. Gofalwch fod o leiaf 10m rhwng y safle bwydo a chwrs dŵr
  • peidiwch byth â defnyddio cafnau bwyd na rheseli bêls (‘bale feeders’) ar dir y contract
  • ewch ag unrhyw blastig o’r comin ar ôl gwasgaru’r bwyd

Cyfyngiadau eraill

Dylai cwsmeriaid Cynllun Cynefin Cymru – Tir Comin ddeall y gallai fod cyfyngiadau ar borthi atodol

  • Fel rhan o amod dynodiad statudol e.e. SoDdGA
  • Gan berchennog y tir
  • Trwy arfer, yn ôl amodau Cymdeithas y Cominwyr

Gofynion o ran Cadw Cofnodion

Fel rhan o Gynllun Cynefin Cymru – Opsiynau Tir Comin, bydd gofyn ichi gadw dyddiadur stocio. Darllenwch y manylion isod:

Dyddiadur Stocio

Bydd gofyn i bob Cymdeithas Bori gadw dyddiadur stocio i’n cyrraedd erbyn 14 Ionawr 2025 (gall y dyddiad hwn newid) i ddangos ffigurau stocio go iawn y 12 mis blaenorol.

Bydd templedi ar gyfer dyddiadur stocio pob opsiwn ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Rydym yn cynghori Cymdeithasau Pori i ddefnyddio’r templedi hyn gan y byddan nhw’n hwyluso’r broses dilysu’ch dyddiadur stocio a’r hawliad.

Cyn eich talu, bydd archwiliadau gweinyddol yn cael eu cynnal ar ôl ichi gyflwyno dyddiad stocio’ch Cymdeithas Bori. Dim ond ar ôl cadarnhau’r holl ymrwymiadau sy’n rhan o’r contract y caiff taliad ei wneud.

Rhaid i’r Dyddiadur Stocio nodi’r opsiynau canlynol ar gyfer Rheoli Lefelau Stocio:

  • dangos union nifer y da byw ar dir y contract ar unrhyw ddiwrnod yn y flwyddyn galendr
  • dangos symudiadau stoc yr holl borwyr actif unigol i ac o dir y contract
  • dangos symudiadau stoc i ac o dir y contract, gan gynnwys symudiadau da byw pobl nad ydynt yn perthyn i’r Gymdeithas Bori
  • cofnodi anifeiliaid yn ôl eu categori (e.e. mamogiaid sych, ŵyn blwydd) fel bod ffactorau da byw yn cael eu hystyried. Os na fydd cofnod o gategori o anifail, bydd Llywodraeth Cymru’n cymryd mai’r uned uchaf a gedwir

Bydd gofyn i’r Dyddiadur Stocio nodi’r canlynol ar gyfer opsiwn Cyfnod Caeëdig y Gaeaf:

  • pryd mae’r da byw yn cael eu symud oddi ar dir y contract ar ddechrau cyfnod caeëdig y gaeaf
  • pryd mae’r da byw yn cael eu symud yn ôl i dir y contract ar ddiwedd cyfnod caeëdig y gaeaf

Unedau Da Byw

Defnyddiwch y tabl isod i’ch helpu i gyfrif y lefelau stocio wrth lenwi’ch Dyddiadur Stocio:

Da Byw

Unedau Da Byw (UDB)

Oen blwydd

0.09

Oen benyw/gwryw

0.09

Mamog ag oen

0.15

Mamogiaid sych (gan gynnwys mamogiaid cyfoen)

0.12

Hyrddod

0.12

Gwartheg hyd at 6 mis oed

0.00

Gwartheg dros 24 mis oed

1.0

Gwartheg 6 i 24 mis oed

0.6

Ceffylau

1.0

Merlod

0.5

Ebolion

0.00

Cyfraddau talu

Y cyfraddau talu yw:

Cynefin

Taliad yr ha

Tir Comin

£25

Taliadau Rheoli Ychwanegol

Taliad yr ha / UDB

Rheoli stoc

£15 (yr ha)

Pori cymysg

£12 (yr ha)

Lleihau lefelau stocio

£259 (yr UDB)

Ni fydd taliad ar gyfer llosgi dan reolaeth (Opsiwn 402 Taliad Rheoli Ychwanegol – Llosgi dan Reolaeth)

Adran G – gwneud cais ar gyfer Cynllun Cynefin Cymru – Tir Comin

RPW Ar-lein

Rhaid Datgan Diddordeb ar gyfer Cynllun Cynefin Cymru -  Tir Comin drwy ddefnyddio Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein. Os oes gennych Gyfeirnod Cwsmer (CRN) eisoes, dylech fod wedi cael llythyr gyda’ch Cod Defnyddio arno fel y gallwch agor cyfrif. Os ydych wedi’i golli, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 (Llun i Iau 8.30am i 5pm, Gwener 8.30am i 4.30pm) a rhoi eich CRN i’r cysylltydd. Bydd Cod Defnyddio newydd yn cael ei anfon atoch.

Mae Datganiad o Ddiddordeb Cynllun Cynefin Cymru - Tir Comin ar gael o adran “Ceisiadau a Hawliadau” eich cyfrif.

Os oes gennych asiant yn gweithio ar eich rhan, bydd angen iddo gofrestru fel asiant gydag RPW.  Os nad ydych wedi gwneud hyn eto, dylech gwblhau copi ar-lein neu gopi caled o’r ffurflen Manylion Cwsmer Asiant / Undeb Amaeth (Cymru) ar unwaith. Mae’r ffurflen ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Ar ôl derbyn y ffurflen, byddwn yn anfon Cyfeirnod Cwsmer Asiant a Chod Defnyddio RPW Ar-lein. Hefyd, bydd angen ichi gwblhau Ffurflen Awdurdodi Asiant ar ôl cofrestru gydag RPW Ar-lein. Gweler ein canllawiau ar sut i gofrestru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gofrestru gydag RPW Ar-lein neu am gwblhau eich datganiad o ddiddordeb, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004.  Byddant yn gallu eich cynghori a rhoi gwybod ichi ble gallwch fynd i gael cymorth digidol.

Mae rhagor o wybodaeth am RPW Ar-lein ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Adran H: datgan diddordeb a’r broses ddewis

Y broses ymgeisio

Mae dau gam i'r broses ymgeisio ar gyfer Cynllun Cynefin Cymru.

  1. Cyflwyno’ch datganiad o ddiddordeb drwy RPW Ar-lein.
  2. Ar ôl i'r ffenest ar gyfer datgan diddordeb ddod i ben, bydd proses ddewis yn cael ei chynnal. Os cewch eich dewis, bydd contract yn cael ei gynnig ichi drwy eich cyfrif RPW Ar-lein. 

Byddwn yn cyhoeddi dau nodyn atgoffa am Ddatganiadau o Ddiddordeb drwy eich cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau.

Atebwch yn brydlon unrhyw gwestiynau y bydd Llywodraeth Cymru am eu gofyn i chi am eich Datganiad o Ddiddordeb. Gallai peidio â gwneud o fewn yr amser a roddir olygu gwrthod cynnig contract i chi.

Cyflwyno datganiad o ddiddordeb

Y Gymdeithas Bori fydd yn cyflwyno’r cais.

I weld y canllaw ar sut i Ddatgan Diddordeb trwy RPW Ar-lein, cliciwch ar https://www.llyw.cymru/cynllun-cynefin-cymru-gan-defnyddio-rpw-ar-lein-i-wneud-cais

Tir sydd wedi’i gynnwys yn y datganiad o ddiddordeb

Yr holl barseli cymwys sydd wedi’u rhestru ar hyn o bryd yn eich contract Tir Comin Glastir 2023.

Pwysig: nid ydych yn cael dileu parsel o’ch Datganiad o Ddiddordeb. Os ydy neu os bydd parsel yn eich contract Glastir Tir Comin 2023 yn anghymwys o 1 Ionawr 2024, rhowch wybod i Lywodraeth Cymru trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein.

Manylion cyfrif banc

Nodyn Pwysig: ni fydd y cyfleuster oedd ar gael o dan Glastir Tir Comin i dalu aelodau unigol yn cael ei ddarparu o dan y Cynllun Cynefin Cymru. Bydd gofyn i unrhyw un sydd â chontract Glastir Tir Comin ac sydd am ymuno â Chynllun Cynefin Cymru – Tir Comin gadarnhau yn ei Ddatganiad o Ddiddordeb y bydd yn agor cyfrif banc ar gyfer y Gymdeithas Bori. Bydd angen i chi sicrhau bod cyfrif banc y Gymdeithas Bori wedi’i hagor a bod yr holl ddogfennau perthnasol (e.e. ffurflen BACS ac ati) wedi’u cyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn Rhagfyr 2024. Bydd y Gymdeithas Bori wedyn yn rhannu’r taliadau ymhlith y porwyr.

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y Datganiad o Ddiddordeb yn cael ei lenwi’n gywir a bod yr wybodaeth i gefnogi’ch prosiect yn gywir.

Rhan 3 – Cynllun Cynefin Cymru a Chynllun Cynefin Cymru – Tir Comin

Mae’r adrannau canlynol yn berthnasol i fusnesau unigol ac i Gymdeithasau Pori Tiroedd Comin. Felly, lle gwelir cyfeiriad at Gynllun Cynefin Cymru, golygir Cynllun Cynefin Cymru – Tir Comin hefyd.

Adran I: sgorio a dewis

Sgorio

Rydym yn egluro’r broses sgorio yn Atodiad B.

Pwrpas y sgorio yw caniatáu i Lywodraeth Cymru roi’r Datganiadau o Ddiddordeb yn eu trefn yn ôl yr arian sydd ar gael yn y ffenest Datgan Diddordeb hon.

Y sgôr isaf y gall ymgeisydd ei gael er mwyn ei ddewis yw 20 pwynt.

Caiff pob Datganiad o Ddiddordeb ei roi yn ei drefn yn ôl eu sgôr derfynol a chaiff y ceisiadau sy’n sgorio orau eu dewis, hyd at drothwy’r gyllideb, a chael cynnig contract.

Pan fydd dau ymgeisydd yn cael yr un sgôr a’u bod o’r un gwerth ac yr un safle ar y rhestr, mae Llywodraeth Cymru’n cadw’r hawl i naill ai ddewis neu wrthod y ceisiadau hyn, gan ddibynnu ar faint o gyllideb sydd.

Pan fydd gan Ddatganiadau o Ddiddordeb yr un sgôr ond bod eu gwerth yn wahanol, os bydd cyllideb y cynllun yn caniatáu hynny, yr un isaf ei werth fydd yn cael ei ddewis gyntaf.

Dewis datganiadau o ddiddordeb llwyddiannus a chynnig contract

Os caiff eich datganiad o ddiddordeb ei ddewis, cewch wybod drwy eich cyfrif RPW ar-lein.

Rhaid ichi dderbyn y contract o fewn 30 diwrnod calendr ar ôl dyddiad cynnig y contract ichi neu erbyn 31 Ionawr 2024, pa un bynnag sydd gynharaf, drwy bwyso ar y botwm glas ar dudalen hafan eich cyfrif RPW Ar-Lein. Rhaid ichi fodloni holl ofynion eich contract o 1 Ionawr 2024.

Os na fyddwch wedi derbyn eich contract o fewn yr amser gofynnol, bydd y cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.

Bydd manylion llawn ynghylch pryd y bydd rhaid ichi dderbyn y contract, a phryd y cewch hawlio taliadau yn cael eu nodi yn eich contract.

Byddwn yn cyhoeddi nodyn atgoffa drwy eich cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau ar gyfer derbyn contract.

Tynnu datganiadau o ddiddordeb yn ôl

Pan fydd busnes neu gymdeithas bori wedi cyflwyno cais, a oes modd ei dynnu'n ôl?

A. Oes, os bydd y ffenest datgan diddordeb ar agor

Cewch dynnu eich Datganiad o Ddiddordeb yn ôl drwy 'Fy Negeseuon' yn eich cyfrif RPW Ar-Lein; cewch ailgyflwyno Datganiad o Ddiddordeb cyn i'r ffenest cau 

B. Oes – ar ôl i ffenest datgan diddordeb gau OND cyn i'r busnes dderbyn y contract.

Gallwch dynnu eich Datganiad o Ddiddordeb yn ôl drwy 'Fy Negeseuon' yn eich cyfrif RPW Ar-lein ond ni chewch newid eich Datganiad o Ddiddordeb na’i ailgyflwyno.

Adran J: amodau a thelerau

Mae Cynllun Cynefin Cymru yn dod o dan sawl deddfwriaeth berthnasol (gweler Adran P). Rhaid i Lywodraeth Cymru a’r ymgeisydd/derbynnydd weithredu yn unol â’r ddeddfwriaeth honno.

Mae contract Cynefin Cymru yn cael ei gynnig yn unol â’r telerau ac amodau a fydd yn cael eu nodi’n llawn yn eich contract, gan gynnwys y telerau a’r amodau a nodir isod. Gallai peidio â bodloni telerau ac amodau’r contract arwain at ganslo’ch contract a/neu adennill yr arian sydd eisoes wedi’i dalu ichi, neu leihau cyfanswm y grant sy’n daladwy.

Amodau

Gwneir y dyfarniad ar sail datganiadau a wnaed gennych chi neu'ch cynrychiolwyr ar y Datganiad o Ddiddordeb a'r ffurflen hawlio ac mewn unrhyw ohebiaeth a gafwyd wedi hynny. Mae’n drosedd gwneud datganiadau anwir neu gamarweiniol.

Rhaid ichi fodloni unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol a osodir o dan gyfraith y DU.

Ni chewch newid y contract, heb gymeradwyaeth ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru.

Mae’n rhaid ichi gadarnhau nad ydych wedi gwneud cais am unrhyw gyllid cyhoeddus arall. Os yw’n dod i’r amlwg eich bod wedi derbyn cyllid cyhoeddus o ffynhonnell arall, gall hynny arwain at wrthod eich hawliad, adennill taliadau a chyflwyno cosbau.

Rhaid cadw cofnodion mewn perthynas â’r cais a’r hawliad am y grant hwn am o leiaf pum mlynedd ar ôl y dyddiad y daw’r contract i ben.

Mae’n rhaid ichi ganiatáu i gynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru, neu eu cynrychiolwyr archwilio tir y contract. Os gofynnir, rhaid ichi roi gwybodaeth iddynt a/neu adael iddynt weld y dogfennau gwreiddiol sy'n ymwneud â’r prosiect.

Mae’r wybodaeth a roddir yn y cais ac mewn dogfennau cysylltiedig yn dod o dan ofynion Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ganiatáu i'r Cyhoedd Weld Gwybodaeth, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, dylech fod yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl i gyhoeddi enw’ch busnes neu gwmni a chyfanswm y grant a ddyfarnwyd i chi.

Mae’r wybodaeth a ddarperir yn y Datganiad o Ddiddordeb yn dod o dan yr Hysbysiad Preifatrwydd. Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd  yn esbonio sut y mae Llywodraeth Cymru’n prosesu ac yn defnyddio’ch data personol a’ch hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.

Adran K: taliadau

Hawlio

Ar gyfer busnesau ffermio unigol

Rhaid hawlio taliad Cynllun Cynefin Cymru trwy SAF 2024. Gofalwch eich bod yn darllen ac yn deall llyfryn Rheolau Cais Sengl cyn cyflwyno’ch SAF.

Caiff taliadau Cynllun Cynefin Cymru eu talu i chi ar ôl i’ch hawliad gael ei ddilysu’n llwyddiannus ar y SAF. Ni fydd Llywodraeth Cymru’n eich talu nes ei bod yn fodlon eich bod yn ateb holl ofynion eich contract. Caiff eich taliad ei wneud i’ch cyfrif trwy drosglwyddiad electronig. Dechreuir eu talu ym mis Ionawr 2025.

Er mwyn cael taliad Cynllun Cynefin Cymru, rhaid ichi fodloni’r canlynol:

  • byddwch wedi derbyn contract Cynllun Cynefin Cymru o fewn yr amser a roddir ac wedi cadw at holl ofynion y cynllun
  • cyflwyno SAF erbyn 15 Mai 2024
  • datgan eich holl dir amaethyddol ac anamaethyddol ar eich daliad ar y SAF
  • cadw at holl ofynion y contract gan gynnwys Cod y Fferm Gyfan a Thrawsgydymffurfio
  • heb ffug greu’r amodau sydd eu hangen i gael taliad.
  • Gadael i Lywodraeth Cymru neu bobl eraill ag awdurdod archwilio’r holl dir unrhyw bryd ar ôl cael rhybudd, a darparu unrhyw ddogfen neu gofnod y gall Llywodraeth Cymru neu’r bobl eraill ag awdurdod ofyn amdanynt
  • rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru o fewn 30 diwrnod os bydd newidiadau’n digwydd fydd yn effeithio ar eich contract neu’r tir yn eich contract Cynllun Cynefin Cymru

Ar gyfer cymdeithasau pori

Ar gyfer Cymdeithasau Pori, bydd ffurflen hawlio ar gael ar RPW Ar-lein yn ystod yr un cyfnod hawlio â SAF 2024 a rhaid ei chyflwyno erbyn 15 Mai 2024.

Bydd taliadau Cynllun Cynefin Cymru – Tir Comin yn cael eu talu i chi ar ôl dilysu’r ffurflen hawlio a’r dyddiadur stocio’n llwyddiannus (byddwch wedi’u cyflwyno erbyn 14 Ionawr 2025). Bydd Llywodraeth Cymru’n eich talu pan fydd yn fodlon eich bod wedi bodloni gofynion y contract. Caiff y taliad ei dalu trwy drosglwyddiad electronig i gyfrif banc y Gymdeithas Bori. Cyfrifoldeb y Gymdeithas Bori yw rhannu’r taliadau ymhlith y porwyr yn ôl y gofyn.

Er mwyn cael taliad Cynllun Cynefin Cymru, rhaid i’r Gymdeithas Bori fodloni’r canlynol:

  • bydd wedi derbyn contract Cynllun Cynefin Cymru o fewn 30 diwrnod ar ôl cael cynnig y contract ac yn chadw at holl ofynion y cynllun
  • cyflwyno ffurflen hawlio erbyn 15 Mai 2024
  • cyflwyno dyddiadur stocio erbyn 14 Ionawr 2025
  • cadw at holl ofynion y contract gan gynnwys y Cod Tir Comin a Thrawsgydymffurfio
  • heb ffug greu’r amodau sydd eu hangen i gael taliad
  • gadael i Lywodraeth Cymru neu bobl eraill ag awdurdod archwilio’r holl dir unrhyw bryd ar ôl cael rhybudd, a darparu unrhyw ddogfen neu gofnod y gall Llywodraeth Cymru neu’r bobl eraill ag awdurdod ofyn amdanynt
  • rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru o fewn 30 diwrnod os bydd newidiadau’n digwydd fydd yn effeithio ar eich contract neu’r tir yn eich contract Cynefin Cymru

Hysbysiadau am y contract

Rhaid ichi roi gwybod i Lywodraeth Cymru o fewn 30 diwrnod calendr am unrhyw newidiadau i’r tir ac amgylchiadau all effeithio ar eich ymrwymiad o dan y cynllun, ac unrhyw newidiadau i’ch ymrwymiadau yn eich Contract. Gallai peidio â gwneud arwain at leihau’r cymorth neu wrthod ei roi. Bydd peidio â chadw at yr amser arwain at gosb. Rhaid rhoi gwybod trwy adran ‘Rheoli fy Nhir’ eich cyfrif RPW Ar-lein.

Cam-hawlio a chosbau

Gallai’ch hawliad gael ei leihau a gallech gael eich cosbi os byddwch wedi tan-ddatgan neu orddatgan tir, wedi torri un o reolau cynllun Cynefin Cymru neu os na fyddwch wedi bodloni’r gofynion trawsgydymffurfio.

Gorddatgan

Bydd cosbau am orddatgan yn cael eu rhoi os yw'r arwynebedd a ddatganwyd ar gyfer Cynllun Cynefin Cymru ar y Ffurflen Cais Sengl (SAF) yn fwy na'r arwynebedd a nodir. Cyfrifir cosbau gan ddefnyddio'r arwynebedd a ddatganwyd ar eich SAF sy'n derbyn yr un gyfradd gymorth (y cyfeirir ati fel grwpiau cnydau).  Yn achos Cynllun Cynefin Cymru, mae pob cyfradd dalu yn grŵp cnydau ar wahân.

Os yw'r arwynebedd yr hawlir arno o dan Gynllun Cynefin Cymru’n fwy na'r arwynebedd cymwys (e.e. mae nodwedd anghymwys wedi cael ei hychwanegu at arwynebedd y contract), os na chaiff hyn ei ddatgan yn Ffurflen y Cais Sengl yn y flwyddyn hawlio berthnasol, bydd unrhyw grant a delir ar gyfer yr arwynebedd anghymwys yn cael ei adennill.

Os yw'r arwynebedd yn fwy na naill ai 3% neu ddau hectar o arwynebedd y contract, bydd yr arwynebedd sy'n gymwys ar gyfer taliad yn cael ei leihau 1.5 gwaith y gwahaniaeth wedi'i nodi

Ni fydd y gosb yn fwy na 100% o'r symiau sy'n seiliedig ar yr arwynebedd a ddatganwyd.

Torri’r contract

Cynhelir archwiliadau gweinyddol ac ar y fferm i weld a ydych yn torri rheolau, ac os gwelir eich bod, cewch wybod trwy gyfrif RPW Ar-lein. Lle gwelir nad ydych wedi ysgwyddo ymrwymiad yn eich contract, bernir eich bod wedi torri rheolau’r cynllun, a byddwn yn lleihau a/neu’n atal eich taliadau gan ddibynnu ar ba mor ddifrifol, mawr a pharhaol oedd y tramgwydd. Fe welwch y manylion yn y safonau dilysadwy.

Os byddwn yn Cymru credu bod y tramgwydd mor ddifrifol nad oes modd ei gywiro, gallai hynny arwain at derfynu’ch Contract.

Rydym yn asesu tramgwyddau yn ôl safonau dilysadwy sy’n cyfateb i’r amodau ar gyfer ymuno â’r cynllun. Mae matrics wedi’i lunio i benderfynu ar lefel y gosb i’w rhoi. Mae’r matrics cosbau a’r safonau dilysadwy  i’w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru cyn rhoi’r contractau.

Trawsgydymffurfio

Bydd cyfrifoldeb arnoch i fodloni’r holl safonau Trawsgydymffurfio am y flwyddyn galendr lawn. Os na fyddwch yn bodloni’r Gofynion Rheoli Statudol neu’r safonau Cyflwr Amaethyddol ac Amgylcheddol Da, boed yn fwriadol neu drwy esgeulustod, gallech golli’ch taliad Cynefin Cymru neu ran ohono. Wrth benderfynu maint eich cosb, byddwn yn ystyried pa mor fawr, difrifol, parhaol ac ailadroddus y bu’r achos o anghydymffurfio.

Troseddau

Mae Rheoliad 13 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014 (Rhif 3222 (Cy.327)) yn pennu troseddau a chosbau mewn perthynas ag elfennau penodol o gyllid datblygu gwledig.  Mae’r Rheoliad hwnnw a’r troseddau hynny yn berthnasol i Gynllun Cynefin Cymru.  Mae troseddau'n cynnwys darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol, yn fwriadol neu’n fyrbwyll, mewn perthynas â chyllid datblygu gwledig; rhwystro arolygydd neu swyddog; a gwrthod darparu gwybodaeth ar gais.

Adran L: newid a throsglwyddo tir

Newid tir

Rhaid rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am newidiadau i gaeau o fewn 30 diwrnod ar ôl i’r newid ddigwydd. Mae’r newidiadau hynny’n cynnwys:

  • caeau nad oeddynt cynt wedi’u cofrestru gydag RPW (h.y. heb eu cynnwys ar y SAF o’r blaen)
  • rhannu caeau’n barhaol
  • uno caeau’n barhaol
  • caeau sydd â ffiniau newydd
  • caeau sydd â newidiadau i’w nodweddion parhaol

Rhaid ichi roi gwybod hefyd i Lywodraeth Cymru o fewn 30 diwrnod os bydd perchennog neu denant neu gytundeb tenantiaeth y tir yn newid.

Defnyddiwch yr adran ‘Rheoli fy Nhir’ ar eich cyfrif RPW Ar-lein i roi gwybod i Lywodraeth Cymru am y newidiadau hyn o fewn 30 diwrnod ar ôl iddynt ddigwydd.

Wedi ichi arwyddo’ch contract Cynllun Cynefin Cymru, os byddwch wedyn yn gwerthu neu’n trosglwyddo’ch tir neu ran ohono yn ystod cyfnod y contract heb roi gwybod i ni, gallech gael cosb ariannol a/neu efallai y bydd gofyn ichi dalu arian sydd wedi’i dalu i chi yn ôl i ni.

Ar ôl gwerthu neu drosglwyddo rhan o’ch tir, bydd unrhyw dir y byddwch yn ei gadw ac oedd yn rhan o’r contract gwreiddiol yn gorfod bodloni’r meini prawf gofynnol. Os na ddigwydd hyn, bydd yn rhaid i chi ad-dalu’r holl arian sydd wedi’i dalu i chi mewn perthynas â’r tir hwnnw gyda llog. Os byddwch yn trosglwyddo neu’n gwerthu tir sy’n ffurfio rhan o’ch contract, rhaid rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru yn ysgrifenedig o fewn 30 diwrnod calendr ar ôl i hynny ddigwydd. Gallech gael eich cosbi am beidio â rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru.

Trosglwyddo contract

Os caiff unrhyw dir ei drosglwyddo yn ystod oes y contract, rhaid rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru o fewn 30 diwrnod ar ôl ei drosglwyddo

Bydd cais i drosglwyddo contract Cynllun Cynefin Cymru oddi wrth y busnes sy’n dal y contract i’r busnes sy’n cymryd meddiant ar y daliad yn cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru yn ôl ei rinweddau. Fel rheol gyffredinol, byddwn ond yn ystyried trosglwyddo daliadau cyfan neu rannu a throsglwyddo daliadau cyfan. Ni fyddwn yn ystyried trosglwyddo rhan o gontract i gyd-fynd â gwerthu/trosglwyddo cyfran o’r tir sydd wedi’i gynnwys yn y contract. Er enghraifft, rhoi’r gorau i denantiaeth lle bo’r tir ond yn ffurfio rhan o’r contract.

Pan na fydd Llywodraeth Cymru’n cytuno i drosglwyddo contract, caiff y contract ei ganslo ac ni chaiff taliad ei dalu.

Pan fydd Llywodraeth Cymru’n cymeradwyo trosglwyddo contract a bod y tir yn dal i fodloni’r meini prawf gofynnol, rhaid i’r deilliad newydd gadw’r ymrwymiad ar y tir a drosglwyddwyd iddo am weddill oes y contract. Dylai’r darpar feddiannydd wybod am yr ymrwymiad cyn cytuno i gymryd y tir dan sylw.

Pan fydd Llywodraeth Cymru’n cymeradwyo trosglwyddo contract, sy’n cynnwys tir sydd wedi’i ddynodi’n SoDdGA ac oedd cynt o dan opsiwn rheoli Glastir Uwch, dylai’r meddiannydd newydd roi gwybod hefyd i CNC.

Cael rhagor o dir yn ystod cyfnod y contract

Os byddwch yn cael tir ar ôl cyflwyno’ch Datganiad o Diddordeb, ni chewch ychwanegu’r tir hwnnw at eich contract Cynefin Cymru.

Adran M: newidiadau i reolau’r cynllun

Newidiadau i’r ddeddfwriaeth (gan gynnwys dehongliadau newydd)

Gall deddfwriaeth newid o dro i dro a bydd yn ofynnol ichi gydymffurfio ag unrhyw newidiadau i’r cynllun ar ôl i Lywodraeth Cymru roi gwybod i chi amdano.

Newidiadau i reolau’r cynllun neu i’r contract

Mae’n bosibl y bydd angen inni wneud newidiadau i reolau’r cynllun a/neu eich contract am nifer o resymau. Er enghraifft, efallai y bydd angen inni ddiweddaru’r amodau rheoli ar sail y cyngor gwyddonol diweddaraf, neu ddiwygio rheolau’r cynllun er mwyn ystyried unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth. Byddwn yn cyhoeddi newidiadau ar wefan Llywodraeth Cymru ac yn cysylltu â chi’n uniongyrchol os oes angen.

Adran N: rheoliadau, monitro a chadw cofnodion

Mesurau rheoli

Rhaid i Lywodraeth Cymru orfodi rheolau Cynllun Cynefin Cymru.

Gallech gael eich dewis ar gyfer eich archwilio i gadarnhau’ch bod yn cadw at reolau’r cynllun, gan gynnwys cadw cofnodion. Gallai archwiliad gynnwys archwiliad ar y fferm a defnyddio Systemau Lleoli Byd-eang (GPS), lluniau o’r awyr a lluniau gan loeren. Bydd archwiliadau’n cael eu cynnal dros y flwyddyn ac yn ymdrin â’r holl ymrwymiadau y bydd modd eu harchwilio yn ystod yr ymweliad.

Bydd Llywodraeth Cymru a’r cyrff rheoli arbenigol yn ceisio sicrhau bod yr archwiliadau’n tarfu arnoch cyn lleied â phosibl, ond mae rhai archwiliadau’n gofyn am ymweliadau dirybudd, sy’n golygu na fydd yn bosibl eich hysbysu ymlaen llaw. Mae’n bosibl y byddwch yn cael mwy nag un ymweliad yn ystod blwyddyn galendr.

Os ydych yn gwrthod caniatáu ymweliad, yn rhwystro swyddog neu’n peidio â rhoi cymorth rhesymol, mae’n bosibl na fydd eich hawliad yn cael ei dalu, gallwn adennill taliadau a gallwch gael eich erlyn.

Monitro

Mae’n rhaid monitro pob dyfarniad grant a gwerthuso effaith y grant ar y busnes ar ôl cwblhau’r prosiect

Rhaid ichi ganiatáu i swyddogion Llywodraeth Cymru, neu eu cynrychiolwyr gynnal archwiliadau.

Cadw cofnodion

Rhaid ichi gadw’r holl gofnodion a gwybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddangos eich bod wedi darparu gwybodaeth gyflawn a chywir a’ch bod wedi cydymffurfio â’ch ymrwymiadau am bum mlynedd.

Bydd yn ofynnol ichi hefyd:

  • roi i Lywodraeth Cymru unrhyw wybodaeth am eich contract Cynefin Cymru a chyflwyno'r wybodaeth honno o fewn y cyfnod a bennir gan Lywodraeth Cymru
  • sicrhau bod pob cofnod a gwybodaeth arall, gan gynnwys data ar gyfrifiadur, mewn perthynas â'ch contract Cynefin Cymru ar gael i Lywodraeth Cymru, ei swyddogion awdurdodedig a’i hasiantwyr eu gweld
  • rhoi’r hawl i Lywodraeth Cymru gymryd dogfennau neu gofnod neu i wneud copïau neu godi darnau ohonyn nhw

Adran O; y weithdrefn apelio a chwyno

Y drefn apelio

Nid oes unrhyw sail dros apelio os bydd eich datganiad o ddiddordeb yn aflwyddiannus

Mae’r ‘Broses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig’ yn rhoi caniatâd ichi ofyn am adolygiad os ydych yn teimlo nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud penderfyniad cywir yn unol â rheolau’r cynllun.  

Mae dwy ran i’r broses apelio:

  • cam 1: adolygiad gan RPW
  • cam 2: adolygiad gan Panel Apelio Annibynnol (os ydych yn anfodlon â’r ymateb i Gam 1)

Mae’r Panel Annibynnol yn gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru, sy’n gwneud y penderfyniad terfynol, gan ddod â’r broses i ben.

Nid oes tâl am gynnal Cam 1 y broses ond mae tâl am gynnal Cam 2 – £50 am wrandawiad ysgrifenedig neu £100 am wrandawiad llafar.  Bydd y taliadau hyn yn cael eu had-dalu'n llawn os bydd Cam 2 yr apêl naill ai'n llwyddiannus neu'r rhannol lwyddiannus.

Rhaid i apeliadau, gan gynnwys y dystiolaeth ategol, gael eu cyflwyno drwy RPW Ar-lein o fewn 60 diwrnod ar ôl dyddiad y llythyr sy’n amlinellu'r penderfyniad rydych am apelio yn ei erbyn.

Mae croeso ichi apelio yn Gymraeg a byddwn yn ymateb i unrhyw ohebiaeth yn Gymraeg. Ni fydd hyn yn arwain at oedi wrth brosesu eich apêl.

Mae rhagor o wybodaeth am y broses apelio a sut i gyflwyno apêl trwy ddefnyddio’r ffurflen gais ar-lein ar gael gan y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid neu ein gwefan: Apeliadau Grantiau a Thaliadau Gwledig: canllaw.

Y Drefn gwyno

Ymdrinnir â chwynion o dan weithdrefn Llywodraeth Cymru ar gwynion. Cewch rhagor o wybodaeth am sut i wneud cwyn gan y Tîm Cynghori ar Gwynion:

Llywodraeth Cymru
Adeiladau’r Goron
Cathays Park
Caerdydd
CF10 3NQ

Ffôn 03000 251378

E-bost: complaints@llyw.cymru

Gwefan: Cwynion am Lywodraeth Cymru

 Cewch hefyd gysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

1 Ffordd yr Hen Gae
Pen-coed
CF35 5LJ

Ffôn 0300 790 0203

Gwefan: Ombwdsmon

Adran P: hysbysiad preifatrwydd -grantiau Llywodraeth Cymru

Sut y byddwn yn ymdrin ag unrhyw ddata personol a ddarperir gennych mewn perthynas â’ch cais am grant neu gyllid

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu amrywiol gynlluniau grant er mwyn helpu i gyflawni ein polisïau a chreu Cymru decach, fwy ffyniannus.

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych mewn perthynas â'ch cais am grant neu gyllid. Bydd y wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o'n gorchwyl cyhoeddus (h.y. arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru) ac yn ein helpu i asesu a ydych yn gymwys i gael cyllid.

Cyn rhoi grant ichi, rydym yn cynnal archwiliadau er mwyn atal twyll ac achosion o wyngalchu arian, ac i gadarnhau pwy ydych chi. Fel rhan o’r archwiliadau hyn, mae'n ofynnol inni rannu data personol amdanoch chi ag asiantaethau atal twyll trydydd parti.

Os byddwn ni, neu asiantaethau atal twyll, yn penderfynu eich bod yn peri risg o ran twyll neu wyngalchu arian, efallai y byddwn yn gwrthod darparu'r grant rydych wedi gwneud cais amdano, neu’n rhoi'r gorau i ddarparu'r grant presennol ichi.

Bydd yr asiantaethau atal twyll yn cadw cofnod o unrhyw risg o dwyll neu wyngalchu arian, a gall hyn arwain at eraill yn gwrthod darparu gwasanaethau, cyllid neu waith ichi.

Er mwyn asesu’ch cymhwysedd, efallai y bydd angen inni hefyd rannu gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â'ch cais â’r canlynol:

  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
  • Y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol
  • awdurdodau lleol Cymru
  • Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru
  • DEFRA
  • swyddfeydd amaethyddiaeth eraill Llywodraeth y DU.
  • awdurdodau rheoleiddio, megis Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, Awdurdodau Lleol, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a’r Heddlu

Hefyd, mae’n bosibl y byddwn yn rhannu’ch gwybodaeth â sefydliadau sy’n darparu hyfforddiant, yn trosglwyddo gwybodaeth ac yn rhoi cyngor a chymorth arloesi ar ran Llywodraeth Cymru er mwyn targedu cymorth yn briodol.

Gall eich gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, fod yn destun cais gan aelod arall o'r cyhoedd. Wrth ymateb i geisiadau o'r fath efallai y bydd gofyn i Lywodraeth Cymru ryddhau gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, i gyflawni ei rhwymedigaethau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 neu Ddeddf Diogelu Data 2018.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi manylion y symiau a delir i fuddiolwyr Cymorth Gwledig. Cyhoeddir data am bob buddiolwr ar wefan y gellir chwilio arni, a bydd yn cynnwys enw a lleoliad y ffermwr/rheolwr tir a manylion y symiau ac enw’r cynllun. Ond, ni ddatgelir enwau’r rheini sy’n cael llai na’r hyn sy’n gyfwerth â £1,250 mewn cymorthdaliadau. Cyhoeddir y data bob blwyddyn ar 31 Mai a bydd y data ar gael am ddwy flynedd o’r dyddiad a gafodd ei gyhoeddi. Bydd y wybodaeth ar gael ar wefan DEFRA yn: www.cap-payments.defra.gov.uk

Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol mewn ffeiliau yn unol â’n polisi cadw data. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cadw eich data personol am saith mlynedd ar ôl y dyddiad pan fyddwch chi, fel derbynnydd y grant, yn rhydd rhag holl amodau'r grant, a bod pob taliad wedi'i wneud. Os byddwch yn aflwyddiannus, byddwn yn cadw eich manylion am flwyddyn ar ôl rhoi’r data i ni.

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i wneud y canlynol:

  • gweld y data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch
  • gofyn inni gywiro gwallau yn y data hwnnw
  • gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan rai amgylchiadau)
  • gofyn inni 'ddileu' eich data’ (o dan rai amgylchiadau)
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am y wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a'r ffordd mae'n cael ei defnyddio, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: dataprotectionofficer@llyw.cymru

Manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH

Rhif Ffôn: 0330 414 6421

Gwefan: https://ico.org.uk/

Os oes gennych unrhyw  gwestiynau am y datganiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â'r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.

https://llyw.cymru/hysbysiad-preifatrwydd-grantiau-llywodraeth-cymru

Adran Q: deddfwriaeth

Mae Cynllun Cynefin Cymru’n cyflawni yn unol ag amrediad o ymrwymiadau ac amcanion y Llywodraeth. Mae'r rhain wedi’u rhestru isod ynghyd â’r ddeddfwriaeth a’r prosesau llywodraethu perthnasol.

Mae Cynllun Cynefin Cymru’n cael ei reoli gan Reoliadau Cyngor Cyfraith yr UE (REUL) a ddargedwir Rhif 1305/2013, 1303/2013 a 1306/2013, Rheoliad Gweithredu Rhif 808/2014 a Rhif 809/2014 a Rheoliadau Dirprwyedig 640/2014 ac 807/2014 (fel y cânt eu diwygio o dro i dro).

Mae Cyfraith yr UE a ddargedwir yn cael ei gweithredu yng Nghymru drwy’r gyfraith ddomestig ganlynol (fel y caiff ei diwygio o dro i dro), gan gynnwys drwy’r Rheoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021/400 (Cy.129):

  • rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014/3222 (Cy.327)
  • rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014/3223 (Cy.328)

Bydd cymorth ariannol ar gyfer ffermwyr, rheolwyr tir a sectorau gwledig cysylltiedig dros y tair blynedd nesaf yn ymateb i bedwar amcan strategol Llywodraeth Cymru, sef:

  • gwneud amaethyddiaeth yn fwy cystadleuol
  • cyfrannu at reoli adnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy fel y’i nodir yn Rhan 1 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016
  • gallu gwrthsefyll y newid i’r hinsawdd
  • sicrhau bod cymunedau ac economïau gwledig yn cael eu datblygu mewn ffordd diriogaethol a chytbwys, gan gynnwys creu a chynnal cyflogaeth

Yn ogystal, mae tri amcan trawsbynciol ar gyfer Cynllun Cynefin Cymru:

  • lliniaru effaith newid yn yr hinsawdd ac addasu iddi
  • arloesi
  • yr amgylchedd

Bydd eich prosiect yn cyfrannu at themâu trawsbynciol Llywodraeth Cymru, sef:

  • cyfle cyfartal a phrif ffrydio rhywedd
  • trechu tlodi ac allgáu cymdeithasol
  • y Gymraeg

Yn ogystal, bydd ceisiadau i Gynllun Cynefin Cymru yn ystyried amcanion strategol a thematig Llywodraeth Cymru.

Bydd gweithgareddau’n mynd i’r afael ag o leiaf un o flaenoriaethau canlynol Llywodraeth Cymru:

(1)  annog pobl i rannu gwybodaeth ac i arloesi ym maes amaethyddiaeth a choedwigaeth, ac mewn ardaloedd gwledig.

(2)  gwneud amaethyddiaeth yn fwy hyfyw a chystadleuol ar bob math o fferm ym mhob rhanbarth, a hyrwyddo technolegau fferm arloesol a dulliau cynaliadwy o reoli coedwigoedd.

(3)  hyrwyddo cadwyni cyflenwi bwyd trefnus, gan gynnwys prosesu a marchnata cynhyrchion amaethyddol, lles anifeiliaid a rheoli risg mewn amaethyddiaeth.

(4)  Adfer, cadw a gwella ecosystemau sy’n dibynnu ar amaethyddiaeth a choedwigaeth

(5)  hyrwyddo effeithlonrwydd adnoddau a chefnogi'r newid tuag at economi carbon isel sy'n gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd yn y sectorau amaethyddiaeth, bwyd a choedwigaeth.

(6)  hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, gwaith i leihau tlodi a datblygu’r economi mewn ardaloedd gwledig.

Sefydliad Masnach y Byd a Rheoli Cymhorthdal

  1. Mae cymorthdaliadau sy’n cael eu darparu o dan y cynllun hwn yn cael eu hystyried yn daliadau o dan raglen amgylcheddol, sy’n dod o fewn cwmpas Atodiad II o Gytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Amaethyddiaeth ac sydd wedi cael eu categoreiddio’n rhai ‘bocs gwyrdd’.
  2. ganlyniad, mae’r cymorthdaliadau hyn yn cael eu hesemptio o'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a'r UE a system rheoli cymhorthdal dros dro y DU.

Adran R: cysylltiadau

Ymholiadau – y ganolfan gyswllt i gwsmeriaid

Ar gyfer eich holl ymholiadau, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW Ar-lein

Gallwch ofyn cwestiwn drwy RPW Ar-lein ar unrhyw adeg.

Mynediad at swyddfeydd Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ag anableddau neu anghenion arbennig

Os oes gennych anghenion arbennig a’ch bod yn teimlo nad yw ein cyfleusterau yn diwallu eich anghenion, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004. Wedyn bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn cymryd pob cam posibl i diwallu eich anghenion.

Gwefan Llywodraeth Cymru

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am Amaethyddiaeth a Materion Gwledig, ewch i wefan Llywodraeth Cymru. Drwy fynd i'r wefan bydd cyfle ichi gofrestru i e-newyddlen yr Adran Materion Gwledig gael ei hanfon atoch drwy e-bost.

Gwlad

E-newyddlen Gwlad yw e-newyddlen Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth a phawb sy’n gysylltiedig ag amaethyddiaeth a chefn gwlad Cymru.  Mae’n cynnwys newyddion, canllawiau a gwybodaeth mewn fformat hygyrch, hawdd ei ddarllen.  I sicrhau eich bod yn parhau i glywed am y newyddion a’r datblygiadau diweddaraf gallwch gofrestru i dderbyn e-newyddlen Gwlad drwy fynd i: https://llyw.cymru/hysbysiadau neu https://llyw.cymru/cofrestrwch-ar-gyfer-newyddion-amaethyddiaeth-choedwigaeth-gwlad.

Atodiad A: Cynllun Cynefin Cymru: dosbarthiadau cynefinoedd: gofynion ac argymhellion

Opsiwn CCC Dosbarthiad cynefinoedd Blaenoriaeth

HS01

Glaswelltir Parhaol Sych heb Fewnbynnau

7

HS02

Cynefinoedd Gwlyptir wedi’u hamgáu

4

HS03

Rhos ar yr Arfordir ac ar Iseldir

5

HS04

Morfeydd heli

2

HS05

Graean bras arfordirol â llystyfiant a thwyni tywod

3

HS06

Rheoli Pori ar Dir Agored

1

HS07

Coed, Prysgwydd (gan gynnwys Coridorau Nentydd) a Choetiroedd presennol

6

HS08

Planhigion tir âr

8

HS09

Creigiau a sgri mewndirol

9

HS20

Rheoli tir fel cynefin

10

HS01 - Glaswelltir Parhaol Sych heb Fewnbynnau

Disgrifiad

Ystod o laswelltiroedd sur, niwtral, calchaidd neu fetelaidd, y rhan fwyaf ohonynt wedi’u hamgáu, heb eu gwella neu wedi’u lled-wella. Mae’r glaswelltiroedd hyn yn gynefin i amrywiaeth o laswellt a blodau gwyllt llai cynhyrchiol o safbwynt amaethyddol sy’n gysylltiedig â chyflwr pridd y glaswelltir penodol.

Amcanion

Cynyddu’r amrywiaeth yn y glaswelltir trwy ei bori a/neu ladd gwair.

Amrywio hyd y borfa, er mwyn cynyddu’r amrywiaeth o blanhigion brodorol, gan gynnwys blodau, sy’n gallu blodeuo a hadu.

Creu cynefin lle gall anifeiliaid brodorol, gan gynnwys infertebratau a ffyngau glaswelltir, fynnu.

Rhwystro planhigion amaethyddol, gan gynnwys rhygwellt a meillion gwyn, rhag tyfu a lledaenu, fel eu bod yn absennol neu heb fod yn fwy na 25% o gyfansoddiad y borfa.

Gofynion rheoli

Er lles y cynefinoedd hyn, rydych yn cytuno i beidio â:

  • aredig/troi’r cynefin, na’i ail-hau na’i wella
  • Ei lyfnu ag oged gadwyn na’i rolio rhwng 1 Mawrth a 30 Medi
  • gwasgaru gwrtaith anorganig nac organig arno fel tail buarth, slyri, slwtsh carthion na tail ieir
  • gwasgaru chwynladdwyr, pryfladdwyr, gwenwyn lladd malwod nac unrhyw blaladdwr arall ac eithrio i sbot drin rhywogaeth oresgynnol neu chwyn niweidiol yn ôl y gofyn.
  • plannu coed newydd heb ganiatâd ymlaen llaw
  • torri unrhyw goed yn y cae
  • peri na chaniatáu i chwyn rhywogaethau estron goresgynnol newydd i gydio neu ledaenu
  • gadael i dda byw sathru’r tir (hyn yn dderbyniol wrth fylchau caeau a mannau bwydo presennol, cyn belled nad oes mwy na 5% o’r gorchudd wedi’i sathru neu’n bridd moel).
  • gwasgaru calch ar laswelltir sur, calchaidd neu fetelaidd.
  • rhoi porthiant atodol i unrhyw dda byw, ac eithrio wrth fannau bwydo ar wynebau caled.
  • tocio mwy na 30% o’r brwyn neu chwyn mewn blwyddyn
  • gwasgaru unrhyw ddeunydd
  • storio deunydd neu beiriannau
  • llenwi pantau naturiol neu ailbroffilio amrywiadau naturiol yn y tir
  • llosgi ac eithrio yn unol â Rheoliadau a Chod Llosgi Grug a Glaswellt (2008), heb roi gwybod ymlaen llaw i RPW Ar-lein a chael ei gytundeb
  • adeiladu traciau, ffyrdd, buarthau, arwynebau caled neu strwythurau
  • gadael i brysgwydd ledaenu
  • gosod draeniau newydd. Rhaid cael caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw cyn clirio ffosydd.

Er lles y cynefinoedd hyn, rydych yn cytuno i:

Ar gyfer tir pori parhaol sy’n cael ei bori

  • ei bori i gynnal porfa o uchder amrywiol gydag o leiaf 75% o'r glaswelltir rhwng 5cm ac 20cm rhwng 15 Mai a 30 Awst
  • cynnal y borfa fel bod o leiaf 60% o’r glaswelltir rhwng 2cm a 10cm o uchder rhwng 1 Hydref a 31 Mawrth
  • dylai llai na 10% o’r gorchudd cyfan fod yn ddeunydd marw.
  • ni fydd glaswellt bras/tal yn dominyddu’r cae, heblaw am ddarnau na fydd yn fwy na 5% o’r glaswelltir

Ar gyfer glaswelltir sy’n cael ei reoli ar gyfer gwair

  • cymryd y da byw oddi arno erbyn 15 Mai
  • lladd a chywain cnwd gwair rhwng 7 Gorffennaf a 30 Medi
  • yn dderbyniol gwneud gwair neu wywair, ond nid silwair
  • dylech droi’r gwair/gwywair o leiaf unwaith cyn ei gywain
  • rhaid cywain y gwair/gwywair sydd wedi’i ladd o’r cae, hyd yn oed os yw wedi’i ddifetha gan law
  • cynhaliwch uchder y borfa ar ôl ei thorri, gan gadw 75% o’r glaswelltir rhwng 2cm a 10cm tan 31 Hydref
  • os ydych yn ei bori yn y gwanwyn, cynhaliwch uchder y borfa fel bod 75% o’r glaswelltir yn uwch na 5cm
  • dechreuwch bori’r adlodd o leiaf 4 wythnos ar ôl lladd gwair

Os ydych yn defnyddio’r tir i dyfu cnwd h.y. cnwd âٟr, porthiant neu arddwriaeth

Rhaid rheoli’r tir o dan y categori Planhigion Âr.

Argymhellion rheoli:

  • cymerwch y da byw oddi ar y tir os aiff yn rhy wlyb, rhag ei sathru a’i gywasgu
  • peidiwch â lladd gwair ar yr holl gaeau yr un pryd, rhag colli holl flodau’r fferm i gyd mewn diwrnod.
  • gadewch o leiaf traean o ymylon y caeau heb eu torri iddynt flodeuo a hadu
  • yn ddelfrydol, dylid pori glaswelltir niwtral â gwartheg neu geffylau yn hytrach na defaid
  • dyma’r dwyseddau stocio sy’n cael eu hargymell:
  • glaswelltir sur – 0.2-0.4 uned da byw/ha/bl
  • glaswelltir calchaidd – 0.25-0.4 uned da byw/ha/bl
  • glaswelltir niwtral – 0.5-0.7 uned da byw/ha/bl
    Pwysig: Awgrym yn unig yw’r cyfraddau stocio hyn a dylech eu hystyried ar y cyd ag uchder eich porfa, sef y targed y disgwylir ichi anelu ato i ateb y gofynion rheoli
  • gwasgarwch galch ar laswelltir niwtral os oes angen i gynnal pH y pridd rhwng 5.5 a 6

Dylai’r gwaith rheoli uchod arwain at y canlyniadau canlynol:

  • porfa amrywiol, ag ynddi amrywiaeth o flodau a glaswellt gwyllt brodorol, gan gynnwys rhywogaethau dynodi gan ddibynnu ar y math o laswelltir
  • porfa amrywiol ei hadeiladwaith, lle mae blodau’n cael hadu

Llacio posibl ar y gofynion

Moratoriwm ar y gofyn i gynnal uchder y borfa wedi cyfnod hir o dywydd drwg e.e. sychder, rhew neu eira.

HS02 - Cynefinoedd Gwlyptir wedi’u hamgáu

Disgrifiad

Mae glaswelltir corsiog yn cynnwys amrywiaeth o rywogaethau planhigion corstir brodorol.  Yn aml, brwyn a glaswellt y gweunydd yw'r prif rywogaethau dominyddol, ynghyd ag amrywiaeth o hesg, perlysiau a glaswellt, sy'n gynefin i amrywiaeth o anifeiliaid brodorol, gan gynnwys infertebratau.

Mae cymunedau corsydd, ffeniau a mignenni yn cynnwys amrywiaeth o gynefinoedd gwlyptir, megis cyforgorsydd iseldir, gorgorsydd, gwelyau cyrs a chymunedau corsydd, dros fawn dwfn (mwy na 40 cm yn gyffredinol).  Maent hefyd yn cynnwys trylifiadau, a all ymddangos ar fawn bas (>5 a <40cm mawn) neu briddoedd mwynol.

Nodau

Bydd y cynefinoedd hyn yn cael eu rheoli drwy ddulliau pori priodol, yn ddelfrydol gyda gwartheg a/neu geffylau/merlod, gyda'r nod o gynnal strwythur oedran/uchder amrywiol a chyfuniad o laswellt y gweunydd, rhywogaethau grug brodorol, hesg, brwyn, migwyn, glaswellt a pherlysiau. Dylai rheolaeth ganiatáu lefelau da o flodeuo a hadu.

Dylid rheoli glaswelltiroedd heb eu gwella sydd wedi'u hamgáu â chymunedau corsydd, ffeniau a mignenni, yn unol â'r cynefin y maent wedi'u hamgáu ag ef.

Ni fydd deunydd marw / sbwriel dail (deunydd marw nad yw'n gysylltiedig â phlanhigion byw) yn ffurfio darnau helaeth ac mae'n is na 20% o'r gorchudd cyffredinol.

Yn ardaloedd corsiog, dylai'r lefelau dŵr orwedd yn agos at yr wyneb drwy gydol y flwyddyn i helpu i fwsogl Sphagnum dyfu ac i fawn gronni’n barhaus.

Y gofynion rheoli

Er lles y cynefinoedd hyn, rydych yn cytuno i beidio â:

  • aredig/trin, ailhadu neu wella cynefin
  • llyfnu ag oged gadwyn neu rowlio rhwng 15 Mawrth a 15 Gorffennaf a chadw cofnod o hyn yn y dyddiadur gweithgarwch
  • gwasgaru unrhyw wrtaith anorganig neu organig fel tail iard fferm, slyri, slwtsh carthion neu tail cyw iâr
  • gwasgaru unrhyw chwynladdwyr, pryfleiddiaid, molwsgladdwyr neu unrhyw blaladdwyr eraill (ac eithrio trin rhywogaethau ymledol neu chwyn niweidiol yn y fan a'r lle, lle bo hynny'n briodol)
  • plannu unrhyw goed
  • achosi neu ganiatáu sefydlu chwyn rhywogaethau estron goresgynnol  newydd, neu ledaeniad chwyn presennol o'r fath
  • caniatáu i'r cae gael ei sathru (mae pyrth ac ardaloedd bwydo presennol yn dderbyniol, ar yr amod bod ardaloedd sydd wedi'u sathru ac sy’n foel yn llai na 10% o orchudd y tir)
  • gwasgaru calch
  • rhoi porthiant atodol i unrhyw dda byw (ac eithrio'r ardaloedd bwydo presennol sy'n bodoli eisoes) ond nid ar ardaloedd lle mai mawn yw'r pridd gwaelodol
  • lladd neu docio mwy na 30% o rywogaethau brwyn neu chwyn mewn unrhyw flwyddyn
  • lledaenu unrhyw ddeunydd
  • storio deunyddiau neu beiriannau
  • mewnlenwi pantiau naturiol neu ailbroffilio amrywiadau naturiol o dir
  • llosgi neu dorri deunydd ar dir cynefin
  • adeiladu unrhyw draciau, ffyrdd, iardiau, lloriau caled neu strwythurau newydd
  • caniatáu i brysgwydd ledaenu
  • gosod unrhyw systemau draenio newydd neu ddyfnhau unrhyw systemau draenio presennol.  Mae'n rhaid i chi gael caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw cyn clirio unrhyw ffosydd ar y cae a'r ffosydd ar y ffin sydd eisoes yn bodoli
  • rhagori ar y cyfraddau stocio ar gyfer y parsel tir ar unrhyw ddiwrnod penodol
  • pori mawndiroedd gwlyb rhwng 1 Tachwedd a 31 Mawrth

Er lles y cynefinoedd hyn, rydych yn cytuno i:

  • pori i gynnal ardaloedd o laswelltir corsiog ag uchder porfa amrywiol lle, yn ystod cyfnod yr haf (1 Mehefin i 30 Awst), mae o leiaf 75% o'r glaswelltir (ac eithrio brwyn) rhwng 10 cm a 50 cm
  • rheoli drwy bori sensitif i gynnal strwythur porfa amrywiol gyda llai na 10% o dir moel gwasgaredig a achosir gan sathru stociau. Bydd ardaloedd bychain o sathru mewn pyrth ac o amgylch cafnau dyfrio yn cael eu derbyn
  • ar gorsydd, ffeniau a mignenni (mawndiroedd gwlyb) - dim pori rhwng 1 Tachwedd a 31 Mawrth
  • cael gwared ar dda byw os yw'r amodau'n mynd yn rhy wlyb, er mwyn atal sathru a chywasgu
  • cynnal strwythur llystyfiant amrywiol gyda chlytiau agored, lle nad yw rhywogaethau fel grug a hesg yn uwch nag uchder pen-glin a chorlwyni yn amrywio o ifanc i arloesi i hen a dirywiedig
  • lle bo'n bresennol, ni ddylai rhywogaethau goresgynnol brodorol (e.e. rhedyn) ymddangos dros fwy na 5% o'r ardal sydd wedi’i hamgáu 
  • ni ddylai rhywogaethau estron goresgynnol (e.e. conifferau, Rhododendron, Jac y Neidiwr a chlymog Japan) fod yn bresennol

Argymhellion rheoli

Corsydd yr iseldir, ffeniau a thrylifiadau/mignenni
  • gwnewch yn siŵr  bod y cynefin yn cael ei bori gan wartheg, merlod neu ddefaid i:
    • gyfyngu ar ledaeniad prysgwydd
    • atal glaswellt talach (gan gynnwys Molinia), brwyn a hesg rhag dod yn drech na phopeth arall; a
    • chynnal neu wella cydbwysedd hesg llai a pherlysiau a mwsoglau gwlyptir.
  • ni ddylai unrhyw un o'r cydrannau talach allweddol (hy glaswellt, hesg a brwyn talach) ymddangos dros fwy na 75% o'r ddaear (ac eithrio darnau bach o ryw 20 x 20m) 
  • ar fawn bas, dylid cynnal gorchudd mwsogl cors Sphagnum ar fwy na 10% o’r gorchudd daear
  • lle mae gan ardal fwy na 50% o laswellt y gweunydd (Molinia), dylid pori o 1 Ebrill – 31 Hydref rhwng 0.30 uned da byw/yr hectar - 0.20 uned da byw/yr hectar
  • lle mae gan ardal lai na 50% o laswellt gweunydd (Molinia), dylid pori rhwng 1 Ebrill a 31 Hydref rhwng 0.01 LU/ha - 0.05 uned da byw/yr hectar
    DS: Mae'r cyfraddau stocio hyn i roi  arweiniad yn unig a dylid eu darllen ar y cyd â'r canlyniadau uchder porfa, sef y targed y disgwylir i chi ei gyrraedd yn y gofynion rheoli
  • dim ond pori ysgafn iawn y bydd ei angen ar fawndiroedd gwlyb sydd â gorchudd sydd eisoes yn gymysg o haenau a rhywogaethau, ac ni fydd angen eu pori yn y gaeaf 
  • anelwch at gael strwythur llystyfiant amrywiol gyda darnau rheolaidd heb fod yn uwch nag uchder pen-glin
Glaswelltir corsiog
  • cyfradd bori a argymhellir: 0.2-0.4 uned da byw/yr hectar/y flwyddyn
  • cael gwared ar dda byw os yw'r amodau'n mynd yn rhy wlyb, er mwyn atal sathru a chywasgu
  • gellir lladd/tocio hyd at draean o'r ardal o laswelltir corsiog mewn blwyddyn, er enghraifft, lle mae'r borfa wedi gordyfu. Dylid symud yr hyn sy'n cael ei dorri ymaith
  • gellir defnyddio dulliau rheoli dolydd gwair fel dewis arall yn lle dulliau rheoli porfa – dilyn amseriadau lladd a phori adladd o dan 'Glaswelltir sych parhaol'

Dylai'r camau rheoli uchod arwain at y canlyniadau canlynol :

  • porfa amlrywogaeth sy'n cynnwys amrywiaeth o rywogaethau blodau gwyllt brodorol a glaswellt amaethyddol llai cynhyrchiol
  • strwythur porfa amrywiol, lle mae blodau'n gallu hadu

Rhanddirymiadau posibl

Moratoriwm ar y gofyniad o ran uchder y borfa oherwydd cyfnod hir o dywydd garw e.e. sychder, tir wedi'i rewi a gorchudd eira.

HS03 - Coastal and Lowland Heath

Disgrifiad

Fel arfer mae rhos ar iseldir ac ar yr arfordir yn cynnwys amrediad o gynefinoedd grug, grug y mêl, grug croesddail, neu ficro-gynefinoedd eithin mân, gan gynnwys darnau byr o dir moel, brigiadau craig, prysgwydd, rhedyn a phantiau gwlyb. 

Nodau

Cynnal a chadw a rheoli'r gorchudd o gorlwyni, gan amrywio'r strwythur o ran oedran ac uchelder.

Cael uchder amrywiol o laswellt, lle mae amrywiaeth o rywogaethau planhigion brodorol, gan gynnwys perlysiau yn aml, ac yn gallu blodeuo a chynhyrchu hadau.

Cael cynefin lle gall anifeiliaid brodorol, gan gynnwys infertebratau, a ffyngau glaswelltir ffynnu.

Gofynion rheoli

Er mwyn bod o fudd i’r cynefin hwn, rydych yn cytuno i beidio â:

  • aredig/trin, ailhadu neu wella'r rhostir a'r llystyfiant cysylltiedig
  • llyfnu â chadwyn neu rolio
  • gwasgaru unrhyw wrteithiau anorganig neu organig fel tail buarth, slyri, carthion neu tail cyw ieir
  • gwasgaru unrhyw chwynladdwyr, pryfladdwyr neu unrhyw blaladdwyr eraill, ar wahân i smot-chwynnu rhywogaethau goresgynnol neu chwyn niweidiol, pan fydd hynny'n briodol
  • plannu unrhyw goed
  • achosi neu ganiatáu i rywogaethau estron goresgynnol neu chwyn niweidiol sefydlu neu ledaenu
  • gadael i'r ardal gael ei sathru (mae giatiau ac ardaloedd bwyta ac yfed presennol yn dderbyniol, ar yr amod bod yr ardaloedd sy'n cael eu sathru a’r ardaloedd moel yn llai na 5% o gyfanswm yr arwynebedd)
  • gwasgaru calch
  • rhoi porthiant atodol i unrhyw dda byw (ac eithrio ardaloedd bwyta presennol ar loriau caled)
  • gwasgaru unrhyw ddeunydd
  • storio deunyddiau neu beiriannau
  • llenwi pantiau naturiol neu ailbroffilio amrywiadau naturiol ar y dirwedd
  • llosgi, oni bai y gwneir hynny yn unol â Chod a Rheoliadau Llosgi Grug a Glaswellt (2008), sy'n cynnwys dim llosgi ar orgors, rhostir gwlyb, pantiau gwlyb a gwern, a hysbysu RPW Ar-lein ac yn cael eu cytundeb
  • llosgi deunyddiau a dorrwyd ar dir cynefinoedd
  • adeiladau unrhyw lwybrau, ffyrdd, iardiau, lloriau caled neu strwythurau newydd
  • gadael i brysgwydd ledaenu
  • gosod unrhyw ddraeniau newydd.  Rhaid ichi gael cymeradwyaeth ysgrifenedig ymlaen llaw cyn clirio ffosydd sydd eisoes yn bodoli.

Er mwyn bod o fudd i'r cynefin hwn, rydych yn cytuno i:

  • bori, yn ddelfrydol â gwartheg, ceffylau neu ddefaid i gynnal cydbwysedd y corlwyni
  • lleihau pori rhwng 1 Rhagfyr a 31 Mawrth
  • symud da byw os yw'r amodau'r ddaear yn dod yn rhy wlyb, i atal sathru a chywasgu
  • creu toriadau tân i reoli llosgi rhos sych wedi'i gynllunio, a diogelu rhag tanau damweiniol neu danau bwriadol
  • dim pori rhwng 1 Tachwedd a 31 Mawrth ar mawndiroedd gwlyb.

Argymhellion rheoli

  • cynnwys gwartheg yn y cymysgedd pori lle bo modd; gellir defnyddio merlod hefyd
  • mae pori merlod ar dir isel yn dderbyniol rhwng 1 Rhagfyr a 31 Mawrth.
  • cadw'r gorchudd prysgwydd a choed ar y lefelau presennol ac atal tresmasu pellach
  • rheoli rhywogaethau estron goresgynnol drwy eu dileu neu eu hatal rhag lledaenu
  • ni ddylai'r lefelau stoc fod dros neu o dan y cyfraddau canlynol ar rostir:
  • Unedau da byw     o i
    0.2 - 0.5 1 Ebrill  30 Mehefin
    0.1 - 0.25 1 Gorffennaf 31 Hydref
    0.0 - 0.05 1 Tachwedd 31 Mawrth

    DS: Canllaw yn unig yw'r tabl cyfradd stocio hwn, a dylid ei ddarllen ar y cyd â'r nodau a'r canlyniadau rheoli, gan roi sylw penodol i strwythur a gorchudd y llystyfiant sy'n rhan o'r targedau y mae'n ofynnol ichi eu cyflawni er mwyn cydymffurfio â rheolau'r cynllun.

Dylai'r rheoli uchod arwain at y canlyniadau isod:

  • gyda'i gilydd bydd grug, grug y mêl, grug croesddail neu eithin mân yn cyfrif am fwy na 25% o'r gorchudd tir
  • bydd oedran / uchder gorlwyni'n amrywio o ifanc / arloesol i hen / dirywiedig
  • ni fydd sbwriel dail yn ffurfio darnau estynedig ac mae'n cyfrif am <20% o gyfanswm y gorchudd
  • ar fawndir bas, bydd migwyn (Sphagnum) yn cyfrif am llai na 10% o'r gorchudd tir
  • dylai tyfiant prysgwydd / coed fod yn llai na 5% o orchudd y tir
  • bydd tir moel yn cyfrif am lai na 5% o arwynebedd y tir
  • mae fflora brodorol yn gallu blodeuo a hadu

Dirymiadau posibl

Defnyddio dwysfwyd / torthau mwynau

HS04 - Morfeydd heli

Disgrifiad

Mae morfeydd heli yn cynnwys llystyfiant â goddefiant i halen sydd o fewn amrediad y llanw. Mae'r llystyfiant hwn yn cynnwys planhigion morfa heli arloesol fel llyrlys a chordwellt cyffredin ar y ffin â'r môr/afon lanw a fydd yn cael eu gorchuddio gan y môr bob dydd bron. Yng nghanol y morfa heli bydd gwellt y morfa, a dylai hefyd gynnal amrediad o blanhigion sydd â goddefiant i halen fel sêr y morfa, troellig arfor a llyriaid arfor; dim ond yn ystod y gorllanw y bydd y rhan hon o'r morfa o dan ddŵr. Gall y morfa uchaf gynnwys planhigion fel brwyn a glas yr heli a hefyd planhigion sydd â goddefiant llai i halen sy'n gallu tyfu ar y mewndir fel peiswellt coch, maeswellt rhedegog a pheradyl yr hydref. Ar derfynau uchaf amrediad y llanw mae'n bosibl mai ychydig o weithiau y flwyddyn yn unig y bydd y morfa heli o dan ddŵr. Mae morfeydd heli hefyd yn darparu cynefinoedd pwysig ar gyfer adar, pysgod ac infertebratau.

Nodau

  • dylai fod amrywiaeth o fathau o lystyfiant morfa heli a fydd yn adlewyrchu lleoliad y llystyfiant yn yr amrediad llanw
  • yng  nghanol y morfa ac yn y morfa uchaf, dylid annog/creu neu gynnal:
  • morfa amlrywogaeth gydag amrediad o rywogaethau llysieuol sy’n gallu blodeuo a chynhyrchu hadau
  • amrediad o strwythurau llystyfiant a allai gynnwys mân glytweithiau neu ddarnau mwy o lystyfiant uchel/byr.
  • nid glaswellt bras/uchel neu ddarnau o laswellt â haen drwchus o 'thatch' (glaswellt marw) ddylai fod y prif lystyfiant

Gofynion rheoli

Er mwyn bod o fudd i’r cynefin hwn, rydych yn cytuno i beidio â:

  • addasu unrhyw gilfachellau, cletiroedd, pantiau neu ymyrryd ag unrhyw newidiadau dynamig naturiol fel newidiadau o ganlyniad i stormydd neu wyntoedd
  • pori rhwng mis Ebrill a mis Awst pan fydd pibyddion coesgoch, gïachod cyffredin neu gornchwiglod wedi sy'n bridio wedi cael eu cofnodi
  • aredig/trin, ailhadu neu wella'r cynefinoedd
  • llyfnu â chadwyn neu rolio
  • gwasgaru unrhyw wrteithiau anorganig neu organig fel tail buarth, slyri, carthion neu tail cyw ieir
  • gwasgaru unrhyw chwynladdwyr, pryfladdwyr neu unrhyw blaladdwyr eraill (ar wahân i smot-chwynnu neu glwt-chwynnu rhywogaethau goresgynnol neu chwyn niweidiol), lle mae’n briodol
  • plannu unrhyw goed
  • achosi neu ganiatáu i rywogaethau estron goresgynnol neu chwyn niweidiol i sefydlu neu ledaenu
  • gadael i'r ardal gael ei sathru (mae sathru ar bwys giatiau ac mewn ardaloedd bwyta ac yfed yn dderbyniol ar yr amod bod yr ardal sy'n cael eu sathru yn llai na 5% o gyfanswm yr arwynebedd)
  • gwasgaru calch
  • rhoi porthiant atodol i unrhyw dda byw (ac eithrio ardaloedd bwyta presennol ar loriau caled)
  • torri neu docio mwy na 30% o rywogaethau o frwyn neu chwyn mewn unrhyw un flwyddyn
  • gwasgaru unrhyw ddeunyddiau
  • Storio deunyddiau neu beiriannau
  • llosgi neu dorri unrhyw lystyfiant neu ddeunydd
  • adeiladau unrhyw lwybrau, ffyrdd, iardiau, lloriau caled neu strwythurau newydd
  • gadael i brysgwydd ledaenu
  • gosod unrhyw ddraeniau newydd
  • ailagor unrhyw ddraeniau sy'n bodoli eisoes

Er mwyn bod o fudd i'r cynefin hwn, rydych yn cytuno i:

Cynnal y porfa drwy bori ysgafn gan dda byw ac atal pori lle mae angen i sicrhau'r canlyniadau.

Fel arfer ni ddylid pori morfa heb ei bori os nad yw wedi cael ei bori ers dros 15 mlynedd.

Argymhellion rheoli

  • cynnal y morfa heli drwy bori ysgafn gan dda byw, gan gynnwys pori gan wartheg lle bo modd, ac atal pori pan fydd angen i sicrhau'r amcanion (uchod).  Pori hyd at 0.4 uned da byw fesul hectar rhwng 1 Mawrth a 15 Gorffennaf a hyd at 1.0 uned da byw fesul hectar am weddill y flwyddyn
  • ni fydd mwy na 5% o'r ardal yn cael ei sathru gan dda byw (mae sathru ar bwys giatiau ac mewn ardaloedd bwyta ac yfed yn dderbyniol ar yr amod bod yr ardal sy'n cael ei sathru yn llai na 5% o gyfanswm yr arwynebedd) 

Dylai'r rheoli uchod arwain at y canlyniadau canlynol:

  • bydd amrediad o rywogaethau llysieuol yn gallu blodeuo a chynhyrchu hadau
  • bydd llystyfiant byrrach, ag uchder rhwng 15cm a 5cm, yn gorchuddio o leiaf 20% o'r llystyfiant yn y morfa a'r clystyrau, a llystyfiant dros 15cm yn gorchuddio o leiaf 20% o'r morfa. Gall yr amrediad o strwythurau gynnwys ardaloedd di-dor neu fân glytweithiau o borfa arw
  • nid glaswellt bras/uchel neu ddarnau o laswellt â haen drwchus o 'thatch' (glaswellt marw) ddylai fod y prif lystyfiant.

Rhanddirymiadau posibl

Gellid ystyried rhanddirymiadau posibl os oes niferoedd uchel o wyddau gwyllt yn pori ar y morfa, gan greu tywarch byr iawn dros ardal eang.

Mae morfa heb ei bori yn dderbyniol os yw mynediad ar gyfer da byw wedi dod yn anymarferol, er enghraifft os yw cilfachellau yn atal mynediad.

HS05 - Graean bras arfordirol â llystyfiant a thwyni tywod

Disgrifiad

Diffinnir twyni tywod fel ardaloedd o laswelltir, gwlyptir neu rostir arfordirol sy’n gorwedd ar dywod neu bridd tywodlyd. Mae tirffurfiau twyni tywod yn amrywio o dwmpathau bach i gribynnau mawr a bryniau o dywod sydd wedi’i chwythu gan y gwynt. Mae pob system twyni tywod yn wahanol ond, fel rheol, bydd ystod o fathau o dwyni: o’r draethlin ar ymyl y traeth tua’r môr, i fosaig o dwyni symudol, i dwyni lled sefydlog â glaswelltiroedd twyni, a phan fo amodau’n caniatáu, llaciau twyni llaith. Gall twyni sydd tuag at gefn y system – i ffwrdd o’r draethlin – gynnwys grugoedd.

Gall cynefinoedd graean bras amrywio o’r mathau diffaith a symudol a geir mewn ardaloedd arfordirol egni uchel i fathau sefydlog â llystyfiant lle mae’r graean wedi dod yn sefydlog gan ei gwneud yn bosibl i blanhigion gytrefu dros nifer o flynyddoedd olynol.

Nodau

Caiff twyni tywod eu rheoli drwy bori yn bennaf, sy’n golygu bod porfa ag uchder amrywiol yn cael ei chynnal lle mae amrywiaeth o rywogaethau o blanhigion brodorol yn gyffredin – gan gynnwys perlysiau blodeuol, mae rhywogaethau amaethyddol megis rhygwellt yn absennol neu â gorchudd isel, ac mae anifeiliaid brodorol a ffyngau yn gallu ffynnu.

Ni ddylai graean bras â llystyfiant gael ei addasu a dylid gadael i swbstrad y graean bras weithredu mewn ffordd ddynamig pan fydd amodau naturiol yn caniatáu hynny.

Gofynion rheoli

Er mwyn bod o fudd i’r cynefin hwn, rydych yn cytuno i beidio â:

  • caniatáu i rywogaethau o laswelltau bras / tal ddod yn brif rywogaethau’r cynefin, ac eithrio rhywogaethau twyni megis moresg
  • aredig / tyrchu, ailhadu neu wella unrhyw gynefin
  • llyfnu’r tir ag oged gadwyn neu ei rolio ar unrhyw adeg o’r flwyddyn
  • gwasgaru unrhyw wrteithiau anorganig neu organig megis tail buarth, slyri, slwtsh carthion neu tail ieir
  • gwasgaru unrhyw chwynladdwyr, pryfladdwyr, molwsgladdwyr neu unrhyw blaladdwyr eraill, ac eithrio i drin rhywogaethau goresgynnol neu chwyn niweidiol presennol, pan fo’n briodol
  • plannu unrhyw goed neu rywogaethau o brysgwydd
  • peri i brysgwydd, coed neu chwyn niweidiol newydd ymsefydlu neu i brysgwydd, coed neu chwyn niweidiol presennol ledaenu, neu ganiatáu i hynny ddigwydd
  • caniatáu i’r cae gael ei sathru (mae gatiau presennol ac ardaloedd bwydo yn dderbyniol ar yr amod bod ardaloedd sydd wedi’u sathru ac sy’n foel yn cyfrif am lai na 5% o’r gorchudd)
  • taenu calch
  • dwysfwydo unrhyw dda byw (ac eithrio mewn ardaloedd bwydo presennol sydd â llawr caled)
  • torri neu docio rhywogaethau o frwyn neu chwyn
  • taenu unrhyw ddeunyddiau
  • storio deunyddiau neu beiriannau
  • mewnlenwi llaciau naturiol neu newid proffil naturiol y tir
  • llosgi deunydd sydd wedi’i dorri ar dir cynefin heb roi hysbysiad a chael cymeradwyaeth ymlaen llaw ar RPW Ar-lein
  • adeiladu unrhyw draciau, ffyrdd, iardiau, lloriau caled neu strwythurau newydd
  • mewnosod unrhyw ddraeniau newydd. Rhaid ichi gael cymeradwyaeth ysgrifenedig ymlaen llaw cyn clirio ffosydd presennol
  • rheoli, neu geisio rheoli cwningod o fewn ardaloedd o dwyni tywod a thraethau graean bras
  • symud tywod neu unrhyw agregau o’r twyni tywod neu o’r ardal o raean bras
  • cyflawni gwaith ailsymud twyni, oni bai ei fod wedi’i gynnwys mewn cynllun rheoli cymeradwy
  • newid proffil strwythur y graean bras, gan gynnwys unrhyw gribynnau
  • defnyddio cerbydau neu fadau ar gyfer chwaraeon neu weithgareddau hamdden
  • creu amddiffynfeydd môr neu gyflawni gwaith diogelu’r arfordir, oni bai ei fod wedi’i gynnwys mewn cynllun rheoli cymeradwy

Er mwyn bod o fudd i'r cynefin hwn, rydych yn cytuno i:

  • ar dwyni tywod, dylid pori ar ddwysedd stoc o rhwng 0.1 a 0.3 uned da byw yr hectar y flwyddyn
  • yn ddelfrydol, dylid rheoli drwy bori â gwartheg a/neu geffylau (yn ddelfrydol, dim ond yn y gaeaf y dylid defnyddio defaid) er mwyn cynnal porfa ag uchder amrywiol
  • mewn llaciau twyni llaith, dylid cynnal porfa fioamrywiol lle mae llai na 70% ohoni wedi’i gorchuddio â glaswelltau
  • dylid gadael i newidiadau arfordirol naturiol a dynamig ddigwydd, megis newidiadau yn sgil stormydd neu chwythiadau gwynt
  • efallai y bydd angen cael cynlluniau wrth gefn i sicrhau bod cerbydau’n gallu mynd i ardaloedd graean bras o dan amgylchiadau brys
  • dylid cynnal porfa sydd ag uchder amrywiol, gan gynnwys ardaloedd sy’n fyr (llai na 5cm) ac yn dal (mwy na 15cm).
  • dylai tir moel / tywod / cerrig crynion fod yn bresennol ar o leiaf 10% o’r ardal
  • ni ddylid gadael i arwynebedd na dosbarthiad coed / prysgwydd gynyddu

Argymhellion rheoli

  • gellir torri gwair pan nad oes modd pori am resymau ymarferol, neu er mwyn annog da byw i fynd i ardal nad yw wedi cael ei phori o’r blaen. Dylid sicrhau bod unrhyw ddeunydd sydd wedi’i dorri yn cael ei symud oddi ar y safle
  • ar safleoedd ar dwyni tywod lle mae llysiau'r gingroen yn fynych, gall fod yn ddefnyddiol gadael i ddefaid bori yno yn ystod y gwanwyn er mwyn lleihau faint o lysiau’r gingroen sy’n blodeuo a chyfyngu ar eu lledaeniad, ond rhaid monitro hyn yn ofalus

Dylai’r canllaw rheoli uchod arwain at sicrhau

  • bod planhigion llysieuol, planhigion unflwydd, a phlanhigion lluosflwydd yn gallu blodeuo a chynhyrchu hadau
  • bod swbstradau graean bras yn gallu gweithredu mewn ffordd ddynamig pan fydd amodau’n caniatáu hynny

Rhanddirymiadau posibl

Llosgi deunydd o wrychoedd (perthi, cloddiau) sydd wedi’u bondocio o ganlyniad i waith rheoli gwrychoedd.

HS06 - Rheoli Pori ar Dir Agored

Disgrifiad

Mae tir agored yn gymysgedd o gynefinoedd all gynnwys rhos mynydd, rhos yr ucheldir, gorgors, glaswelltir sur a chalchaidd yr ucheldir, prysgwydd cyfyngedig a choed gwasgarog, nentydd a llynnoedd a chreigiau a sgri.

Amcanion

Cynnal nodweddion naturiol y cynefin hwn, a allai fod wedi eu newid gan lefelau pori isel i ganolig, a pheidio â’i aredig, ei ail-hau na’i wasgaru â gwrtaith anorganig neu organig.

Cynnal clytwaith o gynefinoedd ar dir heb ei amgáu â strwythur llystyfiant amrywiol a darnau agored o rywogaethau fel grug a hesg. Ni ddylai eithin gael tyfu’n uwch na’ch pen-glin a dylai corlwyni (e.e. grug) amrywio o rai ifanc ac arloesol i rai hen a dirywiol, a bydd y borfa ar 75% o arwynebedd glaswelltir gwlyb a sych yn amrywio o ran ei thaldra o 10cm i 50cm ym misoedd yr haf. 

Cadw lefelau’r dŵr ar gors wlyb yn agos at y wyneb drwy’r flwyddyn er mwyn i’r broses o grynhoi mawn allu parhau.

Er mwyn cyflawni strwythur glaswellt amrywiol, lle mae blodau'n gallu hadu.

Gofynion rheoli

Er lles y cynefin, rydych yn cytuno i beidio â:

  • phori mawnogydd gwlyb rhwng 1 Tachwedd a 31 Mawrth
  • aredig, trin, ail-hau na gwella’r cynefin
  • llyfnu na Rholio’r tir
  • gwasgaru gwrtaith anorganig nac organig fel tail buarth, slyri, slwtsh gwrtaith a tail ieir ar y tir
  • gwasgaru chwynladdwyr, pryfladdwyr, gwenwyn lladd molwsgiaid nac unrhyw blaladdwyr eraill, ac eithrio i sbot-drin rhywogaeth oresgynnol neu chwyn niweidiol lle bo angen
  • pannu coed newydd heb ganiatâd ymlaen llaw
  • peri na chaniatáu i rhywogaethau goresgynnol neu chwyn niweidiol gydio neu ledaenu
  • caniatáu sathru’r pridd (heblaw wrth fylchau a mannau bwydo presennol cyn belled â bod y pridd moel neu wedi’i sathru yn llai na 5% o’r gorchudd)
  • gwasgaru calch
  • rhoi porthiant atodol i dda byw, ac eithrio mewn tywydd eithafol er lles yr anifeiliaid, yn y mannau bwydo a dyfrhau arferol, ond nid ar ardaloedd lle mai mawn yw'r pridd gwaelodol
  • tocio mwy na 30% o’r brwyn neu’r chwyn mewn blwyddyn
  • gwasgaru unrhyw ddeunydd
  • Storio deunydd na pheiriannau
  • llenwi pantau naturiol nac ailbroffilio amrywiadau naturiol yn y tir
  • llosgi, ac eithrio yn unol â Chod a Rheoliadau Llosgi Grug a Glaswellt (2008), sy’n cynnwys peidio â llosgi gorgors, rhos wlyb, llac a chors
  • adeiladu traciau, ffyrdd, buarthau, arwynebau caled nac adeiladau newydd
  • caniatáu i brysgwydd ledaenu o fwy na 10% o'r lefelau presennol
  • gosod draeniau newydd. Rhaid cael caniatâd ymlaen llaw i glirio ffosydd sy’n bod eisoes

Er mwyn bod o fudd i'r cynefin hwn, rydych yn cytuno i:

  • tynnu’r stoc os bydd cyflwr y tir yn mynd yn rhy wlyb, i osgoi sathru a chywasgu’r pridd
  • cynnal clustogfa 2m, sy'n rhydd rhag gwrteithiau, plaladdwyr a chalch, o amgylch nodweddion craig

Argymhellion rheoli

  • rhowch wartheg a/neu ferlod i bori’r tir, yn lle neu gyda defaid
  • peidiwch â rhoi da byw i bori’r tir rhwng 1 Tachwedd a 31 Mawrth
  • codwch goed conwydd a rhododendron sydd wedi egino’n naturiol ar y tir
  • torrwch borfa i greu rhwystrau tân, i’w ddiogelu rhag tanau damweiniol a bwriadol

Dylai’r gwaith rheoli uchod arwain at y canlyniadau canlynol:

  • ar fawnogydd bas, (>5 and <40cm), bydd mwy na 10% o’r gorchudd tir yn figwyn (Sphagnum)
  • ni fydd mwy na 5% o’r arwynebedd yn bridd moel
  • bydd rhywogaethau amaethyddol, fel rhygwellt a meillion gwyn, yn absennol neu’n gyfran fach iawn o’r gorchudd (llai na 25%)
  • porfa amrywiol ei hadeiladwaith, lle mae blodau’n cael hadu

Llacio posibl

Unrhyw lacio ar y gofynion uchod.

HS07 - Coed, Prysgwydd (gan gynnwys Coridorau Nentydd) a Choetiroedd presennol

Cynnal a chadw coetiroedd pori a thir parc

Disgrifiad

Mae coetir pori yn gynnyrch systemau rheoli tir hanesyddol ac maent yn cynrychioli strwythur llystyfiant, yn hytrach na bod yn gymuned blanhigion benodol.  Yn nodweddiadol, mae'r strwythur hwn yn cynnwys coed mawr, coed sydd wedi tyfu mewn mannau agored neu goed coedwig uchel (sy'n aml wedi'u tocio) â gwahanol ddwysedd, mewn matrics o fflora glaswelltir, rhostir a/neu goetir pori. Diffinnir coetir pori yn ardal sydd â gorchudd coed o lai na 30% ac mae cymeriad y coed yn debyg i rai sydd wedi tyfu mewn mannau agored a chanddynt gorunau dwfn llydan a boncyffion byr. Mae is-dyfiant y coetir yn brin neu'n absennol o ganlyniad i bori. Gwelir coetiroedd pori yn aml ar gyrion ucheldir gyda'r griafolen a'r ddraenen wen aeddfed yn drech na'r rhywogaethau coed eraill.

Yn y bôn, tir parc yw coetir pori sydd wedi'i sefydlu'n rhan o dirwedd gynlluniedig.  Mae sawl tir parc yn ymddangos ar y Gofrestr o Barciau a Gerddi Hanesyddol yng Nghymru.  Maent yn aml yn cael eu gwerthfawrogi gan gymunedau lleol ar gyfer gweithgareddau hamdden ac am eu pwysigrwydd o ran bioamrywiaeth a chadwraeth bywyd gwyllt.

Nodau

Coetir pori

Os reolir coetir pori yn llwyddiannus, bydd poblogaeth y coed yn cael ei chynnal a bydd cyflwr y llystyfiant daear yn cael ei gynnal neu ei wella.  Bydd nodau'r haen ddaear yn dibynnu ar y llystyfiant sy'n bresennol, gan y gallai hyn gynnwys glaswelltir, rhostir, mawndir a/neu rhedyn. Mae'r cynefin hwn yn arbennig o bwysig ar gyfer infertebratau sy'n byw mewn coed marw; mamaliaid bach, fel ystlumod; planhigion is, fel ffyngau, mwsoglau a chennau; a sawl rhywogaeth o adar.  Dylai'r dull rheoli anelu at gynnal yr adnoddau angenrheidiol er mwyn i'r grwpiau hyn o rywogaethau ffynnu. 

Yn ddelfrydol, bydd planhigion brodorol yn gallu blodeuo a hadu.

Tir parc

Cynnal a chadw nodwedd cynefin a thirwedd amrywiol sy'n cynnwys coed llydanddail ac egsotig sbesimen a phorfa sydd wedi'i phori'n ysgafn.

Cadw nodweddion nodweddiadol tir parc a reolir yn llai dwys, fel coed hynafol a phren marw. Bydd hyn o fudd i adar sy'n nythu mewn tyllau yn ogystal â chennau, ffyngau, pryfed ac infertebratau eraill.

Lleihau mewnbynnau amaethyddol ar laswelltir gwell i wella cyflwr y pridd a gwerth bioamrywiaeth y borfa.

Gofynion rheoli

Er mwyn bod o fudd i’r cynefin hwn, rydych yn cytuno i beidio â

  • aredig, trin neu ailhadu, oni bai bod y tir eisoes yn cael ei reoli'n rhan o gylchdro âr
  • cymhwyso unrhyw wrteithiau neu dail mewn coetir pori
  • cael gwared ar bren marw, gan gynnwys pren marw sy'n sefyll, oni bai bod angen gwneud hynny am resymau iechyd a diogelwch
  • cwympo coed, oni bai am resymau diogelwch
  • llyfnu neu rowlio
  • defnyddio plaladdwyr, ac eithrio chwynladdwyr i sbot-chwynnu coed neu glwt-chwynnu i reoli chwyn niweidiol, (lle bo'n briodol, Rhywogaethau Anfrodorol Ymledol (INNS), danadl neu rhedyn)
  • peri neu ganiatáu i chwyn niweidiol newydd sefydlu, neu i chwyn niweidiol sy'n bodoli eisoes ledaenu 
  • plannu coed, oni bai y ceir rhanddirymiad i wneud hynny
  • clirio unrhyw ffosydd sydd eisoes yn bodoli
  • llosgi llystyfiant neu ddeunydd arall heb hysbysiad na chytundeb ymlaen llaw ar RPW Ar-lein
  • darparu porthiant atodol heb hysbysiad na chytundeb ymlaen llaw ar RPW Ar-lein
  • cymhwyso calch, ac eithrio ar gyfer tir parc, lle bernir bod angen cynnal pH y pridd rhwng 5.5 a 6.5 a chyda hysbysiad a chytundeb ymlaen llaw ar RPW Ar-lein
  • trin, tarfu, caniatáu mewnbynnau a defnyddio Cynhyrchion Diogelu Planhigion (PPPs) o dan y canopi coed neu drwy ddrifft
  • gwneud unrhyw weithgaredd sy'n symud pridd
  • defnyddio cerbyd oddi ar y ffordd ar gyfer gweithgareddau chwaraeon neu hamdden
  • adeiladu traciau, ffyrdd, buarthau, lloriau caled neu unrhyw strwythurau newydd
  • storio deunyddiau neu beiriannau na'i ddefnyddio i barcio ceir
  • gosod unrhyw systemau draenio newydd

Er mwyn bod o fudd i'r cynefin hwn, rydych yn cytuno i:

Coetir pori

  • dylid cadw'r coed a'r prysgwydd gwasgaredig presennol.
  • dylid cadw pob pren marw boed yn sefyll neu ar y llawr.
  • dylid pori ar lefelau lle nad yw coed aeddfed yn cael eu dirisglo a dim ond hyn a hyn o dir moel sydd o amgylch gwaelod y coed (mae gan <10% o goed dir moel o amgylch eu gwaelod)

Tir parc

  • dylid cadw'r holl goed, oni bai bod angen cael gwared ar goed am resymau diogelwch neu eu rheoli o dan drwydded cwympo neu gynllun rheoli sy'n cydymffurfio â Safon Coedwigaeth y DU (UKFS)
  • os yw'r tir parc yn cael ei bori, gwnewch yn siŵr nad yw'r lefelau pori yn arwain at ddifa coed aeddfed, nid oes sathru, bod y fflora daear yn cael ei gadw a bod llai na 10% o goed â thir moel o amgylch eu gwaelod
  • dylid diogelu coed rhag difrod oherwydd amaethu, cywasgu, defnyddio peiriannau neu ddefnyddio agrocemegau, gan gynnwys gwrtaith, o dan ganopi'r coed
  • lle mae'n rhaid symud pren sydd wedi'i dorri, dylid gwneud hyn yn syth ar ôl iddynt gwympo er mwyn osgoi cytrefu gan bryfed neu infertebratau eraill.
  • dylid sicrhau bod unrhyw docio neu frigdorri yn cael ei wneud yn briodol gyda thoriad glân
  • dylid cynnal y borfa drwy bori gyda gwartheg, ceffylau, defaid neu geirw ar gyfradd nad yw'n fwy na:
    • glaswelltir sydd wedi'i wella      1.5 uned da byw/yr hectar/y flwyddyn
    • glaswelltir lled-naturiol              1.0 uned da byw/yr hectar/y flwyddyn
    • glaswelltir heb ei wella              0.7 uned da byw/yr hectar/y flwyddyn
  • symudwch dda byw ymaith os bydd amodau'r ddaear yn mynd yn rhy wlyb, er mwyn atal sathru a chywasgu
  • ymgynghorwch â CADW cyn cynnal gweithgareddau rheoli coetir

Argymhellion Rheoli

Ar gyfer coetir pori, bydd gwahanol gyfraddau stocio yn briodol ar gyfer y gwahanol fathau o lystyfiant daear.

Ceisiwch stocio ar gyfradd i sicrhau nad yw coed aeddfed yn cael eu dirisglo ac mai dim ond hyn a hyn o dir moel sydd drwy beidio â mynd y tu hwnt i'r cyfraddau hyn:

Glaswelltir               0.6 uned da byw/yr hectar/y flwyddyn

Rhostir                    0.4 uned da byw / yr hectar Ebr-Meh

                                0.2 uned da byw/yr hectar Gorff-Medi

                                0.01 uned da byw/yr hectar Hyd-Maw

Rhedyn trwchus      0.1 uned da byw/yr hectar/y flwyddyn    

Gwartheg neu ferlod yw'r da byw a ffefrir ar safleoedd sydd â chyfran uchel o rostir a rhedyn.

Dylid rheoli'r haen ddaear drwy ddefnyddio'r lefelau pori priodol i gynnal neu greu strwythur tameidiog neu dwmpathog ac i ganiatáu i blanhigion flodeuo.

Lle mae'r llystyfiant daear yn cynnwys rhedyn trwchus, gall pori yn gynnar yn y gwanwyn (Mawrth i Fai) gan ddefnyddio da byw trwm (gwartheg neu ferlod) helpu i leihau faint o redyn sydd yno.

Mae cyfran o brysgwydd yn fuddiol i ddarparu blodau a ffrwythau. Cadwch y prysgwydd presennol, oni bai ei fod yn lledaenu dros fwy nag 20% o arwynebedd y safle. Os yw'n uwch na'r lefel hon, caniateir dulliau i reoli'r prysgwydd i gadw nodweddion dymunol y cynefin.

Er enghraifft, gall torri/tocio fod yn dderbyniol lle mae brwyn neu rywogaethau chwyn yn ymledu'n arbennig o helaeth.

Er enghraifft, gall llyfnu ag oged gadwyn fod yn dderbyniol i dorri darnau trwchus o sbwriel dail.

Dylid cyflenwi dwysfwyd/torthau i alluogi pori lle byddai hyn yn fuddiol i reoli lleiniau garw neu drwchus o lystyfiant.

Dylai'r dulliau rheoli uchod arwain at y canlyniadau canlynol:

Gan ddibynnu a yw'r safle'n coetir pori neu'n tir parc, neu'n gyfuniad o'r ddau:

  • pren marw sy'n sefyll ac wedi cwympo nad yw wedi'i symud a fydd yn darparu cynefinoedd ar gyfer infertebratau
  • coed lled-aeddfed neu aeddfed ychwanegol i ddarparu parhad poblogaeth y coed
  • coed newydd eu plannu, wedi'u gosod rhwng ei gilydd yn gyfartal â chorunau agored neu ddarnau bach o adfywio gyda lle i ganiatáu i gorunau sy'n tyfu'n agored ddatblygu
  • prysgwydd sy'n tyfu'n agored yn y coetir pori
  • coed a phrysgwydd blodeuo fel y ddraenen wen, coed afalau surion a gellyg gwyllt a fydd yn darparu ffynonellau bwyd a neithdar ar gyfer bywyd gwyllt
  • glaswelltir neu rostir heb ei wella neu sydd wedi'i led-wella a reolir yn dda, wedi'i bori gan fridiau traddodiadol o wartheg mewn coetir pori a cheirw a bridiau traddodiadol o wartheg mewn tir pori
  • osgoi sathru ormodol o dan goed a tir moel o amgylch gwaelod y coeden
  • nodweddion hanesyddol ac archeolegol a gynhelir yn dda
  • nodweddion plannu tirwedd hanesyddol gynlluniedig a gynhelir yn dda

Rhanddirymiadau posibl

Clirio rhedyn ar safleoedd lle y mae rhedyn trwchus yn drech (dim fflora daear).

Plannu coed.

Cynnal a chadw perllanau traddodiadol    

Disgrifiad

Mae perllannau traddodiadol yn cael eu diffinio yn grwpiau o goed ffrwythau a chnau a blannwyd ar wreiddgyffion egnïol ar ddwysedd isel mewn glaswelltir parhaol ac sy'n cael eu rheoli mewn ffordd llai dwys. Mae yna lawer o amrywiadau rhanbarthol ar y thema hon, gan gynnwys perllannau afal, gellyg, ceirios, eirin, eirin damson, a pherllannau cnau Ffrengig.

Mae perllannau traddodiadol yn debyg i goetir pori a thir parc, a ddiffinnir gan eu strwythur yn hytrach na math o lystyfiant, a all gynnwys coed, prysgwydd, glaswelltir, pyllau, waliau, gwrychoedd a choed gwrychoedd.

Mae cynefin perllan traddodiadol o ansawdd yn cynnwys glaswelltir pori â choed ffrwythau o strwythur oedran amrywiol, gyda digonedd o bren marw a phwdr sy'n sefyll ac sydd wedi cwympo.

Nodau

Annog gwaith cynnal a chadw a / neu ddatblygu nodwedd gynefin a thirwedd amrywiol sy'n cynnwys coed ffrwythau safonol, glaswelltir cyfoethog o rywogaethau a ffiniau caeau traddodiadol.

Cynnal a chadw nodweddion nodweddiadol perllannau a reolir yn llai dwys fel pren marw a thyllau pydredd yn y coed.  Gall hyn gefnogi mwsoglau, cennau a ffyngau, yn ogystal ag infertebratau, adar a mamaliaid.

Cynnal a chadw’r glaswelltir i gadw neu annog rhywogaethau sy'n nodweddiadol o laswelltir niwtral, lle gall planhigion brodorol flodeuo a hadu.

Diogelu mathau traddodiadol o goed ffrwythau sy’n gynhenid i’r ardal.

Gofynion rheoli

Er mwyn bod o fudd i’r cynefin hwn, rydych yn cytuno i beidio â:

  • thocio uchelwydd (mae cynaeafu cynaliadwy yn dderbyniol)
  • aredig, trin y tir neu ailhadu
  • rowlio na llyfnu ag oged gadwyn
  • gosod unrhyw systemau draenio newydd
  • defnyddio unrhyw chwynladdwyr neu blaladdwyr oni bai eu bod yn unol â'r dulliau Rheoli Plâu yn Integredig (IPM). Mae torri yn ddull derbyniol o reoli chwyn
  • peri neu ganiatáu i chwyn niweidiol newydd sefydlu, neu i chwyn niweidiol sy'n bodoli eisoes ledaenu 
  • defnyddio unrhyw wrteithiau anorganig. Gellir defnyddio tail buarth sydd wedi'i chylchdroi'n dda (sydd wedi'i storio am o leiaf deuddeg mis) ar gyfradd o ddim mwy na 10 tunnell / yr hectar unwaith bob dwy flynedd.  Nid oes unrhyw wrtaith organig arall gan gynnwys slyri, slwtsh carthion na tail ieir yn dderbyniol
  • cymhwyso unrhyw slag basig, gwymon wedi'i galchu, slwtsh papur gwastraff neu wastraff oddi ar y fferm
  • defnyddio porthiant atodol heb hysbysiad na chytundeb ymlaen llaw ar RPW Ar-lein
  • llosgi, heb hysbysiad na chytundeb ymlaen llaw ar RPW Ar-lein
  • defnyddio golchiadau olew tar, gan fod y rhain yn lleihau gwerth bywyd gwyllt coed y berllan, heb hysbysiad na chytundeb ymlaen llaw ar RPW Ar-lein

Er mwyn bod o fudd i'r cynefin hwn, rydych yn cytuno i:

  • cadwch yr holl goed ffrwythau sydd eisoes yno
  • dylech atal difrod i goed gan dda byw neu beiriannau
  • cadwch bob pren marw yn y berllan (oni bai ei fod wedi'i heintio)
  • rheolwch y glaswelltir gan ddefnyddio:
    • pori dwysedd isel fel nad yw coed aeddfed yn cael eu dirisglo a bod y borfa yn parhau i fod yn uwch na 5 cm dros 90% o'r ardal neu
    • drwy ei dorri a symud ymaith yr hyn a dorrwyd ymarhwng 2 a 5 gwaith y flwyddyn
  • nid yw glaswelltau garw/tal yn dominyddu, ac eithrio mewn darnau bach ac ymylon caeau

Argymhellion rheoli

  • os cynhelir y glaswelltir drwy bori ysgafn, dylid stocio ar gyfradd nad yw'n fwy na 0.75 uned da byw/yr hectar/y flwyddyn. Porwch ar lefelau lle nad yw coed aeddfed yn cael eu dirisglo ac nid oes tir moel o amgylch gwaelod y coed
  • os cynhelir y glaswelltir drwy ei dorri, ceisiwch dorri ar amledd sy'n caniatáu i blanhigion yn y borfa flodeuo ond nad yw'n caniatáu i laswellt neu fieri twmpathog garw ledaenu. Rhaid symud y deunydd a dorrwyd o'r safle ar ôl torri
  • mabwysiadwch ddulliau Rheoli Plâu Integredig i reoli coed gan ddefnyddio cyn lleied â phosibl o fewnbynnau cemegol
  • gellir cymhwyso calch os oes angen i gynnal pH y pridd rhwng 5.5 a 6.5. ar dir parc
  • tociwch y coed ffrwythau, lle bo angen, i gynnal lefel resymol o iechyd a chynhyrchiant ac i atal coed rhag cael eu difetha gan wynt.
  • dylid stacio unrhyw bren marw sydd wedi syrthio neu bren wedi’i docio mewn lle lled-gysgodol yn y berllan.  Dim ond pren heintiedig y gellir ei symud ymaith neu ei losgi.
  • dylid cynnal a chadw darnau o fieri a danadl ond peidiwch â gadael iddynt ledaenu drwy dorri, lle bo angen.
  • mae ailblannu yn ddymunol mewn unrhyw fylchau mawr gan ddefnyddio coed safonol neu led-safonol (defnyddiwch wreiddgyffion M25, MM111 neu MM106 yn unig) ar leiafswm o 9 metr.  Defnyddiwch stoc o darddiad lleol a hen fathau lle bynnag y bo modd
  • mae tocio coed sydd wedi gordyfu a heb eu rheoli'n ddigonol mewn modd ffurfiannol yn ddymunol

Dylai'r dulliau rheoli uchod arwain at y canlyniadau canlynol:

Bydd hen goed (y rhai sy'n dangos nodweddion hynafol) a choed iau yn bresennol yn y drefn honno i ddarparu cynefin sylfaenol, a sicrhau hirhoedledd y berllan a chynnal ei statws fel un sydd mewn cyflwr ardderchog.

Bydd pren marw ac sy'n pydru yn bresennol er budd y bywyd gwyllt.

Bydd gan goed hŷn, sy'n arddangos nodweddion coed hynod, bren marw o fewn y coed eu hunain, y gellir eu hystyried yn bren marw sy'n sefyll.  Bydd strwythur oedran ifanc cyson a/neu ddim cynefin pren marw heb unrhyw brysgwydd yn gordyfu, neu heb fawr ddim ohono, yn arwain at berllan a fydd mewn cyflwr da.

Rhanddirymiadau posibl

O bryd i'w gilydd, efallai y bydd angen cael gwared ar goed sydd wedi'u difrodi'n ddifrifol neu wedi'u heintio'n ddifrifol. Dylid gosod rhai eraill yn eu lle.

Gellir torri'r llwybrau drwy'r berllan yn amlach.

Cynnal Prysgwydd (gan gynnwys coridorau nentydd)

Disgrifiad

Mae prysgwydd yn llystyfiant sy'n cynnwys yn bennaf llwyni o lai na 5 m o daldra fel arfer a gall fod yn gynefin sy'n datblygu neu'n gynefin sydd ar ei gorau. Mae'r rhywogaethau coediog dan sylw yn amrywiol, ond mae'r rhywogaethau mwyaf cyffredin yn debygol o gynnwys y ddraenen ddu, y ddraenen wen, yr eithinen Ffrengig a'r ysgawen.

Mae prysgwydd a reolir yn dda yn cefnogi amrywiaeth o fywyd gwyllt, gan ddarparu neithdar, hadau, ffrwythau, lloches a safleoedd nythu ar gyfer infertebratau, adar a mamaliaid.  Mae hefyd yn cynnig cynefin addas ar gyfer llawer o blanhigion blodeuol. Mae prysgwydd o oedran, rhywogaethau a strwythur amrywiol yn cefnogi'r ystod ehangaf o fywyd gwyllt.  Bydd y prysgwydd yn cynnwys ardaloedd o rywogaethau'r ddraenen ddu, y ddraenen wen, y griafolen a choed helyg.

Coridorau nentydd  a grëwyd ac sy'n cael eu cynnal o dan Glastir Sylfaenol a Glastir Uwch.

Nodau

Cadw'r holl ardaloedd presennol o brysgwydd brodorol ar lethrau arfordirol, glannau afonydd, twyni tywod, clogwyni calchfaen, ar waelod dyffrynnoedd ac yn yr ucheldiroedd.

Yn ddelfrydol, dylai planhigion brodorol allu blodeuo a hadu.

Gofynion rheoli

Er budd y cynefin hwn, rydych yn cytuno i beidio â:

  • gosod unrhyw ddraeniau newydd neu agor ffosydd presennol heb gymeradwyaeth ymlaen llaw
  • gwasgaru unrhyw wrtaith anorganig neu organig
  • gwasgaru unrhyw slag basig, calch, gwymon calchog na slwtsh papur gwastraff
  • bwydo porthiant atodol o fewn ardaloedd prysgwydd
  • peri neu ganiatáu i chwyn niweidiol newydd sefydlu, neu i chwyn niweidiol sy'n bodoli eisoes ledaenu 
  • llosgi, heb hysbysiad na chytundeb ymlaen llaw ar RPW Ar-lein

Er mwyn bod o fudd i'r cynefin hwn, rydych yn cytuno i:

  • os mewn categori cynefin glaswelltir, porwch ar raddfa nad yw'n fwy na'r hyn a bennwyd ar gyfer y glaswelltir oddi tano
  • os nad yw'r prysgwydd yn cael ei bori ar hyn o bryd, dylid cynnal / cadw'r dull rheoli hwn
  • cadwch yr holl goed safonol wedi'u gwasgaru drwy'r prysgwydd.

Argymhellion rheoli

Lle mae llwyni blodeuo trwchus, gall fod yn fuddiol creu mannau agored yn y prysgwydd i leihau arwynebedd y prysgwydd, gan gynyddu'r arwynebedd blodeuo er budd infertebratau peillio.

Mae torri yn ddull rheoli derbyniol i atal prysgwydd rhag lledaenu.

Dylai'r dulliau rheoli uchod arwain at y canlyniadau canlynol:

Mosaig cynefin ar raddfa tirwedd sy'n darparu amrywiaeth o strwythur llystyfiant a phontio rhwng coetir a glaswelltir, yn ogystal ag elfen unigol ynddo'i hun.

Rhanddirymiadau posibl

Gellir tynnu prysgwydd yn barhaol am resymau archeolegol a ganiateir.

Gellir caniatáu cael gwared ar brysgwydd lle mae'n lledaenu i gynefin â blaenoriaeth cadwraeth uwch.

Coetir

Disgrifiad

At ddibenion y cynllun hwn, bydd coetiroedd yn cynnwys y rhai sydd dan gontract yn Glastir Uwch yn 2023 a choetiroedd sensitif i amonia a ddangosir ar MapDataCymru.

Nodau

Cynnal a chadw coetir lled-naturiol hynafol a choetir lled-naturiol arall sy'n bodoli eisoes.

Sicrhau nad yw lefelau da byw yn niweidio coed a phlanhigion daear o fewn coetiroedd.

Mae cynefin coetir yn arbennig o bwysig i infertebratau; mamaliaid bychain, fel ystlumod a phathewod; planhigion is, fel ffyngau, mwsoglau a chennau; a llawer o rywogaethau o adar.  Dylai'r dull rheoli anelu at gynnal yr adnoddau angenrheidiol er mwyn i'r grwpiau hyn o rywogaethau ffynnu.

Ystyried sut y gellir rheoli'r coetiroedd hyn ar gyfer bioamrywiaeth, cynhyrchion pren, hamdden a rheoli da byw.

Gofynion rheoli

Er budd y cynefin hwn, rydych yn cytuno i beidio â:

  • chael gwared ar unrhyw bren marw, gan gynnwys pren marw sy'n sefyll, oni bai bod angen gwneud hynny am resymau iechyd a diogelwch
  • peri neu ganiatáu i chwyn niweidiol newydd sefydlu, neu i chwyn niweidiol sy'n bodoli eisoes ledaenu
  • bwydo porthiant atodol o fewn y coetir
  • defnyddio cynhyrchion amddiffyn planhigion ac eithrio i reoli rhywogaethau ymledol neu i reoli'r plâu a'r clefydau coed a nodwyd.
  • cynnal gweithgareddau symud pridd heb eu cymeradwyo yn y coetir
  • defnyddio'r coetir ar gyfer gweithgareddau cerbydau oddi ar y ffordd sydd heb eu cymeradwyo.
  • adeiladu traciau, ffyrdd, iardiau newydd, baeau/ardaloedd llwytho neu unrhyw strwythurau newydd o fewn y coetir

Er mwyn bod o fudd i'r cynefin hwn, rydych yn cytuno i:

  • dylid cadw at unrhyw gynllun rheoli sy'n cydymffurfio â UKFS, lle bo'n berthnasol
  • dylid cadw pob coeden mewn coetir oni bai bod angen cael gwared ar goed am resymau diogelwch neu eu rheoli o dan drwydded cwympo neu gynllun rheoli sy'n cydymffurfio ag UKFS  
  • os bydd coetir yn cael ei bori, sicrhewch nad yw'r lefelau pori yn arwain at ddifa coed aeddfed, nid oes sathru, bod y fflora daear yn cael ei gadw a bod llai na 10% o goed â thir moel o amgylch eu gwaelod
  • dylid diogelu coed rhag difrod oherwydd amaethu, cywasgu, defnyddio peiriannau neu ddefnyddio agrocemegau, gan gynnwys gwrtaith, o dan ganopi'r coed
  • dylid cadw mannau agored o fewn y coetir
  • dylid sicrhau bod unrhyw docio neu frigdorri yn cael ei wneud yn briodol gyda thoriad glân
  • dylid cadw pren marw, boed yn sefyll neu ar y llawr,  oni bai bod angen gael gwared arno am resymau iechyd a diogelwch

Argymhellion rheoli

  • Mewn coetiroedd pori, anogwch fflora daear brodorol i ddatblygu drwy lefelau pori priodol
  • Dylid caniatáu i goed adfywio yn naturiol yn y coetir lle bo hynny'n briodol

Dylai'r dulliau rheoli uchod arwain at y canlyniadau canlynol:

Bydd y coetir yn cael ei gynnal a'i chadw a/neu ei reoli er budd y fflora a'r ffawna ynddo, ac i goed adfywio'n naturiol.  Yn ddelfrydol, mae cyfle i ystyried rheolaeth hirdymor y coetir yn barod i gymryd rhan yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, lle bydd angen rheoli coetiroedd yn unol â Safon Coedwigaeth y DU (UKFS).

Rhanddirymiadau posibl

I ganiatáu unrhyw beth na chaniateir ar hyn o bryd ar gyfer iechyd a diogelwch a rhesymau lles pobl ac anifeiliaid.

HS08 - Planhigion tir âr

Disgrifiad

Planhigion tir âr brodorol sy'n gysylltiedig â gwaith trin tir âr presennol yn y caeau hyn a gwaith trin tir âr sydd wedi cael ei gofnodi yn y gorffennol rhwng 2000 a 2017. Gallai'r caeau hyn fod o dan gylchdro âr neu laswelltir.

Nodau

Cynnal amrywiaeth planhigion tir âr yng Nghymru. Dyma'r grŵp o blanhigion sydd yn y perygl mwyaf yng Nghymru. Mae rhagor o wybodaeth am gynefinoedd blaenoriaeth Adran 7 yng Nghymru ar gael ar Bioamrywiaeth Cymru.

Gofynion rheoli

Lle y bydd cnwd âr a heuir yn y gwanwyn (dim indrawn) yn cael eu sefydlu yn 2024:

  • dylid trin y tir rhwng 1 Mawrth a 15 Mai
  • dylid hau'r cnwd rhwng 1 Mawrth a 15 Mai
  • gellir sefydlu'r cnwd drwy aredig, dulliau trin traddodiadol a drilio neu fras-droi
  • rhaid cynaeafu'r cnwd ar neu ar ôl 1 Awst neu 14 wythnos ar ôl ei hau, p'un bynnag sydd hwyraf
  • cynnal clustogfa glaswellt o 2m o leiaf ar hyd gwrych, clawdd neu gwrs dŵr
  • dim ond y cnydau canlynol sy'n dderbyniol: Haidd, Gwenith, Ceirch, Rhygwenith, Rhyg, oni bai y gofynnir am ganiatâd ar gyfer dewis arall a'i gymeradwyo ar RPW Ar-lein

Er budd y cynefin hwn rydych yn cytuno i beidio â gwneud y canlynol:

  • defnyddio plaladdwyr neu chwynnu mecanyddol. Gellir defnyddio ffwngladdwr os yw'n cael ei roi ar yr hadau cyn eu hau
  • hau indrawn
  • hau o dan y cnwd

Ar ôl cynaeafu:

  • defnyddio'r ardal i storio unrhyw ddeunyddiau
  • cynnal unrhyw losgi

Lle y bydd cnwd âr sy'n bodoli eisoes yn cael ei gynaeafu yn 2024

Er budd y cynefin hwn rydych yn cytuno i wneud y canlynol:

  • peidio â defnyddio plaladdwyr neu chwynnu mecanyddol
  • peidio â sychu’r cnwd yn artiffisial cyn ei gynaeafu
  • cynnal llain 10m heb ei chynaeafu ar bwys un ffin tan 1 Awst

Lle y bydd glaswelltir yn cael ei gadw neu ei sefydlu yn 2024

Er budd y cynefin hwn rydych yn cytuno i beidio â gwneud y canlynol:

  • cynnal unrhyw drin cyn 1 Mawrth
  • defnyddio unrhyw blaladdwyr, ar wahân i smot-drin chwyn niweidiol pan fydd hynny'n briodol
  • plannu unrhyw goed newydd heb gael caniatâd ymlaen llaw
  • cael gwared ar unrhyw goed sydd eisoes yn bodoli
  • achosi neu ganiatáu i rywogaethau estron goresgynnol neu chwyn niweidiol sefydlu neu ledaenu
  • defnyddio'r ardal i storio unrhyw ddeunyddiau
  • cynnal unrhyw losgi
  • adeiladau unrhyw lwybrau, ffyrdd, iardiau, lloriau caled neu strwythurau newydd
  • gadael i brysgwydd ledaenu
  • gosod unrhyw ddraeniau newydd.  Rhaid ichi gael cymeradwyaeth ysgrifenedig ymlaen llaw cyn clirio ffosydd sydd eisoes yn bodoli

Dylai'r rheoli uchod arwain at y canlyniadau isod:

  • bydd y gwely hadau planhigion âr yn cael ei gadw (cedwir glaswelltir a chnydau âr presennol)
  • gall planhigion âr flodeuo a hadu (sefydlir cnydau âr a heuir yn y gwanwyn)

Dirymiadau posibl

Dyddiadau a chynaeafu sefydlu o ganlyniad i gyfnodau hir o dywydd anffafriol.

Plannu’r caeau yn 2023 â chnwd ar wahân i gnwd âr neu laswelltir.

HS09 - Creigiau a sgri mewndirol

Disgrifiad

Mae'r categori hwn yn cynnwys nodweddion craig, fel clogwyni, silffoedd, craig wedi'i datguddio a llethrau sgri yn ogystal a brigiadau creigiog. Fodd bynnag, nid yw'n cynnwys palmentydd calchfaen a chlogwyni arfordirol.

Mae brigiadau craig a sgri yn cynnal amrediad amrywiol o gymunedau planhigion. Mae rhai mathau'n cynnwys bryoffytau a chennau yn bennaf, gyda dim ond gorchudd gwasgaredig o blanhigion fasgwlaidd, fel Sedum. Nodweddion mathau nodedig eraill yw rhostir sych neu orchudd dwys o rywogaethau rhedyn, fel rhedyn persli neu flodau uchel fel coedfrwyn mawr. Mae'r math o graig yn cael dylanwad mawr ar gyfansoddiad y llystyfiant. Mae creigiau tra-fasig fel calch yn cynnal grŵp hollol wahanol o rywogaethau o brigiadau asidig.

Nid yw llawer o gynefinoedd creigiau, enwedig wynebau clogwyni, silffoedd craig, ceunentydd a chaeau o glogfeini yn hygyrch i anifeiliaid sy'n pori, ac nid ydynt yn cael eu rheoli. Mae'r diffyg hygyrchedd hwn yn darparu lloches ar gyfer llawer o blanhigion fasgwlaidd sy'n sensitif i bori, gan gynnwys coed brodorol a nifer o rywogaethau lleol a phrin. Mae sgri mân a brigiadau craig ac iddynt lethr bas yn fwy hygyrch ac mae'n bosibl y bydd pori yn cadw'r llystyfiant o dan reolaeth. Gall llosgi effeithio ar yr wynebau craig lle mae grug yn fwy cyfoethog.

Mae cynefinoedd craig a sgri yn gyffredin yn yr ucheldiroedd, ac maent yn cynnwys amrediad helaeth o fathau o graig sy'n amrywio o graig asidig i graig galchaidd iawn. Maent yn nodweddion arbennig o nodedig ac amlwg yn y tirweddau rhewlifol iawn yn Eryri yng Ngogledd-Gorllewin Cymru.

Y prif fygythiadau i greigiau a sgri yw gorbori da byw, llygredd yn yr atmosffer, erydu drwy weithgareddau hamdden, newid hinsawdd, rhywogaethau goresgynnol a boblogaethau geifr fferal

Nodau

Cynnal yr ardal o greigiau a sgri ac annog amrywiaeth o rywogaethau planhigion byr a fasgwlaidd, gydag ambell rywogaeth o brysgwydd a choed brodorol.

Gofynion rheoli

Er lles y cynefinoedd hyn, rydych yn cytuno i beidio â:

  • echdynnu craig neu sgri
  • llosgi llystyfiant ar ardaloedd o graig neu sgri
  • aredig/trin, ailhadu neu wella'r cynefinoedd
  • llyfnu â chadwyn neu rolio
  • gwasgaru unrhyw wrteithiau anorganig neu organig fel tail buarth, slyri na carthion, tail cyw ieir
  • gwasgaru unrhyw bryfladdwyr, molwsgladdwyr neu unrhyw blaladdwyr eraill, ar wahân i smot-chwynnu neu glwt-chwynnu rhywogaethau goresgynnol neu chwyn niweidiol, pan fydd hynny'n briodol.
  • plannu unrhyw goed newydd heb gael caniatâd ymlaen llaw
  • cael gwared ar unrhyw coed sydd eisoes yn bodoli
  • achosi neu ganiatáu i rywogaethau estron goresgynnol neu chwyn niweidiol sefydlu neu ledaenu
  • gadael i'r ardal rhwng y creigiau gael ei sathru (mae sathru ar bwys giatiau ac mewn ardaloedd bwyta ac yfed sydd eisoes yn bodoli yn dderbyniol ar yr amod bod yr ardal sy'n cael eu sathru a’r ardaloedd moel yn llai na 5% o gyfanswm yr arwynebedd)
  • gwasgaru calch
  • rhoi porthiant atodol i unrhyw dda byw
  • gwasgaru unrhyw ddeunydd
  • storio deunyddiau neu beiriannau
  • llenwi pantiau naturiol neu ailbroffilio amrywiadau naturiol ar y dirwedd
  • llosgi, oni bai y gwneir hynny yn unol â Chod a Rheoliadau Llosgi Grug a Glaswellt (2008) ac ar ôl cael cytundeb RPW Ar-lein
  • adeiladau unrhyw lwybrau, ffyrdd, iardiau, lloriau caled neu strwythurau newydd
  • gadael i brysgwydd ledaenu
  • gosod unrhyw ddraeniau newydd. Rhaid ichi gael cymeradwyaeth ysgrifenedig ymlaen llaw cyn clirio ffosydd sydd eisoes yn bodoli

Er lles y cynefinoedd hyn, rydych yn cytuno i:

  • lefelau digonol o reoli da byw er mwyn atal gorbori.
  • cynnal clustogfa 2m, sy'n rhydd rhag gwrteithiau, plaladdwyr a chalch, o amgylch nodweddion craig.

Argymhellion rheoli

  • rheoli er mwyn atal rhywogaethau goresgynnol fel rhedyn, rhododendron a choed estron rhwng sefydlu neu ledaenu (dylid croesawu presenoldeb, ac adfywio naturiol helyg, criafol a meryw)

Dylai'r rheoli uchod arwain at y canlyniadau canlynol:

  • bydd lefelau'r fflora cysylltiedig yn cael eu cynnal neu'n ehangu

Dirymiadau posibl

Symud creigiau er mwyn cynnal a chadw waliau cerrig ar eich daliad.

HS20 - Rheoli tir fel cynefin

Disgrifiad

Mae’n bosibl cynnig un neu fwy o gaeau pori ar gyfer eu rheoli fel cynefin. Dylai fod gan y tir hwn y nodweddion canlynol:

  • bydd y tir yn laswelltir parhaol
  • ni fydd y tir wedi’i aredig na’i ail-hau, ac ni fydd wedi’i hau i adnewyddu’r borfa trwy ddrilio na’i hau ar y wyneb, yn y 10 mlynedd diwethaf
  • bydd llai na 25% o’r borfa’n rhywogaethau amaethyddol fel rhygwellt a meillion gwyn sydd wedi’u hau.
  • nid oes fawr os o gwbl o wrtaith anorganig/tail buarth wedi’i roi ar y tir
  • nid yw’r tir yn gynhyrchiol – ddim mwy nag un toriad o wair neu silwair bob blwyddyn
  • mae amrywiaeth o flodau a glaswellt gwyllt sy’n nodweddiadol o’r math o bridd yn tyfu yn y borfa.
  • mae amrywiaeth o laswelltau’n tyfu ym mhob rhan o’r cae
  • mae’n bosib ystyried cae y mae cymysgedd cadwraethol o hadau wedi’u hau arno, cyn belled â’ch bod yn gofyn am gymeradwyaeth ar RPW Ar-lein

Amcanion

Cynyddu’r amrywiaeth yn y glaswelltir trwy ei bori a/neu ladd gwair.

Amrywio hyd y borfa, er mwyn cynyddu’r amrywiaeth o blanhigion brodorol, gan gynnwys blodau, sy’n gallu blodeuo a hadu.

Creu cynefin lle gall anifeiliaid brodorol, gan gynnwys infertebratau a ffyngau glaswelltir, fynnu.

Rhwystro planhigion amaethyddol, gan gynnwys rhygwellt a meillion gwyn, rhag tyfu a lledaenu.

Gofynion rheoli

I’r tir i gyd o fewn y dosbarthiad cynefinoedd yma, er lles y cynefinoedd hyn, rydych yn cytuno i beidio â:

  • aredig/troi’r cynefin, na’i ail-hau na’i wella
  • ei lyfnu ag oged gadwyn na’i rolio rhwng 1 Mawrth a 30 Medi
  • gwasgaru gwrtaith anorganig nac organig arno fel tail buarth, slyri, slwtsh carthion na tail ieir
  • gwasgaru chwynladdwyr, pryfladdwyr, gwenwyn lladd malwod nac unrhyw blaladdwr arall ac eithrio i sbot drin rhywogaeth oresgynnol neu chwyn niweidiol yn ôl y gofyn
  • cymryd cnwd silwair
  • cymryd mwy nag un toriad o wair y flwyddyn
  • plannu coed newydd heb ganiatâd ymlaen llaw
  • torri unrhyw goed yn y cae
  • peri na chaniatáu i chwyn niweidiol newydd gydio neu ledaenu
  • gadael i dda byw sathru y tir (hyn yn dderbyniol wrth fylchau caeau a mannau bwydo a dyfrhau presennol, cyn belled nad oes mwy na 5% o’r gorchudd wedi’i sathru neu’n bridd moel)
  • gwasgaru calch ar laswelltir sur, calchaidd neu fetelaidd
  • rhoi porthiant atodol i unrhyw dda byw, ac eithrio ar wynebau caled
  • tocio mwy na 30% o’r brwyn neu chwyn mewn blwyddyn
  • gwasgaru unrhyw ddeunydd
  • storio deunydd neu beiriannau
  • llenwi pantau naturiol neu ailbroffilio amrywiadau naturiol yn y tir
  • llosgi ac eithrio yn unol â Rheoliadau a Chod Llosgi Grug a Glaswellt (2008) a heb roi gwybod ymlaen llaw i RPW Ar-lein
  • adeiladu traciau, ffyrdd, buarthau, arwynebau caled neu strwythurau
  • gosod draeniau newydd. Rhaid cael caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw cyn clirio ffosydd.

Er lles y cynefinoedd hyn, rydych yn cytuno i:

Ar gyfer tir pori parhaol sy’n cael ei bori

  • ei bori i gynnal porfa o uchder amrywiol gydag o leiaf 75% o'r glaswelltir rhwng 5cm ac 20cm rhwng 1 Mehefin a 30 Awst
  • ei bori fel bod y borfa rhwng 2cm a 10cm rhwng 1 Hydref a 30 Mawrth
  • dylai llai na 10% o’r gorchudd cyfan fod yn ddeunydd marw
  • ni fydd glaswellt bras/tal yn dominyddu’r cae, heblaw am ddarnau na fydd yn fwy na 5% o’r glaswelltir

Ar gyfer glaswelltir sy’n cael ei reoli ar gyfer gwair:

  • cymryd y da byw oddi arno erbyn 15 Mai
  • lladd a chywain cnwd gwair rhwng 7 Gorffennaf a 30 Medi
  • yn dderbyniol gwneud gwair neu wywair, ond nid silwair
  • dylech droi’r gwair/gwywair o leiaf unwaith cyn ei gywain
  • rhaid cywain y gwair/gwywair sydd wedi’i ladd o’r cae, hyd yn oed os yw wedi’i ddifetha gan law
  • cynhaliwch uchder y borfa ar ôl ei thorri, gan gadw 75% o’r glaswelltir rhwng 2cm a 10cm tan 31 Hydref
  • os ydych yn ei bori yn y gwanwyn, cynhaliwch uchder y borfa fel bod 75% o’r glaswelltir yn uwch na 5cm
  • dechreuwch bori’r adlodd o leiaf 4 wythnos ar ôl lladd gwair

Argymhellion rheoli

Mae’r argymhellion hyn yn awgrymu camau rheoli ychwanegol er lles y cynefin:

  • cymerwch y da byw oddi ar y tir os aiff yn rhy wlyb, rhag ei sathru a’i gywasgu
  • yn ddelfrydol, dylid pori glaswelltir niwtral â chymysgedd o wartheg neu geffylau a defaid
  • gwasgarwch galch ar laswelltir niwtral os oes angen i gynnal pH y pridd rhwng 5.5 a 6.5
  • peidiwch â lladd gwair ar yr holl gaeau yr un pryd, rhag colli holl flodau’r fferm i gyd mewn diwrnod
  • gadewch o leiaf traean o ymylon y caeau heb eu torri iddynt flodeuo a hadu

Dylai’r gwaith rheoli uchod arwain at y canlyniadau canlynol:

  • porfa amrywiol, lle mae blodau’n cael hadu ac sy’n cynnwys amrywiaeth o flodau gwyllt brodorol a glaswelltau amaethyddol llai cynhyrchiol, a lle ceir meillion, bydd y rhan fwyaf o’r rheini’n feillion coch
  • porfa amrywiol ei hadeiladwaith, yn amrywio o ran ei huchder a’i thrwch trwy’r flwyddyn

Llacio posibl ar y gofynion

Moratoriwm ar y gofyn i gynnal uchder y borfa yn sgil cyfnod hir o dywydd drwg e.e. sychder, rhew neu eira.

Gan gynnwys caeau y cawsant eu hau â chymysgedd cadwraethol.

Atodiad B: sgorio datganiadau o ddiddordeb

Mae’r adran hon wedi’i rhannu’n ddwy ran. Mae’r naill ar gyfer busnesau unigol a’r llall ar gyfer tir comin. Darllenwch yr un sy’n berthnasol i chi.

Busnesau unigol

Pwyntiau ar gyfer opsiynau cynefin Glastir Uwch, cynefinoedd nad ydynt yn Glastir Uwch a thir sy’n cael ei reoli fel cynefin mewn daliadau unigol

Ar gyfer ymgeiswyr sydd â chontract Glastir Uwch, caiff rhai o opsiynau rheoli Glastir Uwch eu defnyddio i sgorio cynefinoedd eich daliad. Ar gyfer ymgeisydd nad yw ei dir o dan gontract Glastir Uwch yn 2023 a/neu sydd wedi cynnig rheoli tir fel cynefin, defnyddir yr haenau cynefin canlynol, a gyhoeddwyd ar Cynllun Cynefin Cymru ar MapDataCymru, gyda’u lluosyddion pwyntiau.

Haen cynefin

Lluosydd pwyntiau

Tir cynefin yn Glastir Uwch yn 2023

Tir Cynefin ddim yn Glastir Uwch yn 2023

Rheoli tir fel cynefin

Deddf Amgylchedd (Cymru): Adran 7 Cynefinoedd ar y tir o’r Pwysigrwydd Mwyaf

850

300

20

Erthygl 17 (Cyfarwyddeb Cynefinoedd) Nodweddion Cynefinoedd ar y Tir

850

300

20

Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)

850

300

20

Arolwg Cynefinoedd Cam 1 ar y Tir

850

300

20

NH3  Coetir Hynafol Sensitif (Amonia)

850

300

20

WOM21 Planhigion Sensitif Tir Âr

850

300

20

Bydd cynefinoedd yn cael eu sgorio fel a ganlyn

Sgôr haen cynefin = Arwynebedd yr haen Cynefin yn y parsel x pwyntiau (h.y. y pwyntiau lluosydd ar gyfer y categori priodol - 850/300/20)

Sgôr haen gwrthrychol = Swm (Arwynebedd Haen amcan sydd yn gorgyffwrdd x Pwyntiau Haen Amcan)

Cyfanswm Sgôr Cynefin = Swm y sgorau Cynefin ÷ Arwynebedd daliad

Cyfanswm Sgôr Parseli = Swm y Sgoriau Parsel ÷ Cyfanswm Maint Cae a sgoriodd

Cyfanswm Sgôr Cais = Cyfanswm Sgôr Gweithgaredd + Cyfanswm Sgôr Parsel

Fformiwla sgorio cynefinoedd

Enghraifft o sgôr (Cynefin)

(Arwynebedd opsiynau rheoli GA x lluosydd pwyntiau) ÷ Cyfanswm arwynebedd y daliad

Fferm 120ha GA gyda 45ha o opsiynau rheoli GA a 3.75ha o dir cynefin ychwanegol a 2.5ha o dir sy’n cael ei reoli fel cynefin.
(45 x 850 = 38,250) ÷ 120 = 318.75 o bwyntiau
(3.75 x 300 = 1,125) ÷ 120 = 9.38 o bwyntiau
(2.5 x 20 = 50) ÷ 120 = 0.42 o bwyntiau
Cyfanswm sgôr cynefin = (318.75 + 9.38 + 0.42) = 328.55 o bwyntiau

(Arwynebedd tir cynefin x  lluosydd pwyntiau) ÷  Cyfanswm arwynebedd y daliad

(Arwynebedd tir sy’n cael ei reoli fel cynefin x   lluosydd pwyntiau) ÷  Cyfanswm arwynebedd y daliad

Pwyntiau sgorio ychwanegol lle mae opsiynau rheoli Glastir Uwch, cynefinoedd nad ydynt yn Glastir Uwch a thir sy’n cael ei reoli fel cynefin mewn daliadau unigol yn gorgyffwrdd â haenau amcanion

Defnyddir yr haenau amcanion canlynol a’u sgoriau perthnasol i godi sgôr opsiynau cynefinoedd Glastir Uwch, cynefinoedd nad ydynt yn Glastir Uwch a thir sy’n cael ei reoli fel cynefin lle bo parsel neu ran o barsel yn gorgyffwrdd un neu fwy o’r haenau amcanion canlynol ar Cynllun Cynefin Cymru ar MapDataCymru:

Blaenoriaeth a sgorio ar gyfer haenau amcanion

Haen amcan

Safle

Pwyntiau sgorio

Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACAau)

1

100

Clustog 300m ar gyfer SoDdGA biolegol

1

100

Clustog 300m ar gyfer Gwarchodfa Natur Genedlaethol

1

100

NH3 Coetiroedd Hynafol Sensitif (Amonia)

2

90

Dalgylchoedd llynnoedd SoDdGA

2

90

Asesiad Cydymffurfio o ACAau Afonydd Cymru ar gyfer Targedau Ffosfforws

2

90

Parthau Perygl Nitradau (NVZs)

2

90

Rhwydweithiau Ecolegol â Blaenoriaeth (PENs)

3

80

Parciau Cenedlaethol

4

70

AHNE

4

70

Bydd haenau amcanion yn cael eu sgorio fel a ganlyn

Ar gyfer pob parsel: Arwynebedd Amcan Haen Gorgyffwrdd dros y cae unigol (C) * Pwyntiau Haen Amcan (D).

Sgôr gwrthrychol y Parsel [Haen gwrthrychol] (Cyfanswm E) / Cyfanswm Maint Cae’r parseli â sgoriwyd (Cyfanswm B)

A

B

C

D

E

Parsel

Maint y parsel   (ha)

Arwynebedd yr haen gwrthrychol sydd yn gorgyffwrdd â'r cae unigol

Pwyntiau haen gwrthrychol

Cyfanswm pwyntiau ardal gwrthrychol

Parcel 1

4.43

1.75

100

175.00

Parcel 1

5.10

3.65

80

292.00

Parcel 2

11.12

9.43

90

848.70

Parcel 2

5.37

2.19

70

153.30

Parcel 2

1.27

1.27

70

88.90

Parcel 3

12.63

11.57

90

1041.30

Parcel 4

3.27

1.26

100

126.00

Parcel 5

4.91

4.91

80

392.80

 

48.10

 

 

3118.00

Sgôr Derfynol

Y sgôr derfynol yw sgôr y cynefin (e.e. 328.55) + sgôr yr amcan (3118.00 / 48.10 = 64.82) = 393.37.

Tir Comin

Pwyntiau’r sgôr ar gyfer cynefinoedd ar dir comin cymwys

Ar gyfer ymgeiswyr sydd â chontract Glastir Tir Comin, defnyddir yr haenau cynefin canlynol, a ddangosir ar Cynllun Cynefin Cymru ar MapDataCymru, gyda’u lluosyddion pwyntiau perthnasol:

Haen cynefin

Lluosydd pwyntiau

Deddf Amgylchedd (Cymru): Adran 7 Cynefinoedd ar y tir o’r Pwysigrwydd Mwyaf

2000

Erthygl 17 (Cyfarwyddeb Cynefinoedd) Nodweddion Cynefinoedd ar y Tir

2000

Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)

2000

Arolwg cynefinoedd Cam 1 ar y Tir

2000

NH3 Coetiroedd Hynafol Sensitif (Amonia)

2000

WOM21 Planhigion Sensitif Tir Âr

2000

Bydd cynefinoedd yn cael eu sgorio fel a ganlyn

Fformiwla sgorio cynefinoedd

Enghreifft o sgôr (Cynefin)

(Arwynebedd cynefin x pwyntiau) ÷ Cyfanswm arwynebedd y comin

300ha o dir Glastir Tir Comin gyda 284ha o dir cynefin

Cyfanswm sgôr y cynefin = ((284 x 2000) = 568,000) ÷ 300 = 1893.33 o bwyntiau

Blaenoriaeth a sgorio ar gyfer haenau amcanion

Haen amcan

Safle

Pwyntiau sgorio

Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACAau)

1

100

Clustog 300m ar gyfer SoDdGA biolegol

1

100

Clustog 300m ar gyfer Gwarchodfa Natur Genedlaethol

1

100

NH3 Coetiroedd Hynafol Sensitif (Amonia)

2

90

Dalgylchoedd llynnoedd SoDdGA

2

90

Asesiad Cydymffurfio o ACAau Afonydd Cymru ar gyfer Targedau Ffosfforws

2

90

Parthau Perygl Nitradau (NVZs) (31 Mawrth 2017)

2

90

Rhwydweithiau Ecolegol â Blaenoriaeth (PENs)

3

80

Parciau Cenedlaethol

4

70

AHNE

4

70

Ar gyfer Cynllun Cynefin Cymru – Sgorio Tir Comin, bydd rhan gyntaf y broses yn cael ei chyflawni gan ddefnyddio’r arwynebedd taladwy (ha) o’ch contract Tir Comin Glastir yn 2023, fel a ganlyn:

Cyfanswm Arwynebedd Taladwy Tiroedd Comin x Pwyntiau sgorio lluosydd (2000) = Sgôr Ardal Daladwy

Er enghraifft:

300ha Tir Comin Glastir gyda 284ha o arwynebedd taladwy

Sgôr = 284 x 2000 = 568,000

Bydd ail ran y broses yn sefydlu'r pwyntiau haen gwrthrychol, fel a ganlyn:

Sgôr amcan = Swm o (Arwynebedd Gorgyffwrdd Haen Amcan x Pwyntiau Haen Amcan.)

Er enghraifft:

A

B

C

D

Haen amcan

Ardal o haen gwrthrychol yn gorgyffwrdd â'r comin

Pwyntiau haen gwrthrychol

Cyfanswm pwyntiau ardal gwrthrychol

Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACAau)

157.36

100

15,736.00

Clustog 300m ar gyfer SoDdGA biolegol

36.17

100

3,617.00

Clustog 300m ar gyfer Gwarchodfa Natur Genedlaethol

0

100

0

NH3 Coetiroedd Hynafol Sensitif (Amonia)

0

90

0

Dalgylchoedd llynnoedd SoDdGA

0

90

0

Asesiad Cydymffurfio o ACAau Afonydd Cymru ar gyfer Targedau Ffosfforws

0

90

0

Parthau Perygl Nitradau (NVZs) (31 Mawrth 2017)

0

90

0

Rhwydweithiau Ecolegol â Blaenoriaeth (PENs)

33.87

80

2,709.60

Parciau Cenedlaethol

300

70

21,000.00

AHNE

0

70

0

Cyfanswm

 

 

43,062.60

Cyfanswm Sgôr y Cais = Sgôr Arwynebedd Taladwy (e.e. 568,000) + Swm y sgorau Parseli (43,062.60) ÷ Cyfanswm maint caeau’r holl diroedd comin (300) = 2,036.88 pwynt.