Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair

Mae Cynllun Dysgu a Gwella Parhaus Llywodraeth Cymru ar gyfer Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2023-25 yn dwyn ynghyd gamau gweithredu i’w dilyn heddiw ac yn y dyfodol. Mae’r camau gweithredu hyn wedi'u cynllunio gennym i wella dealltwriaeth o'r egwyddor datblygu cynaliadwy yn Llywodraeth Cymru, ac i’w rhoi ar waith yn well.

Mae ymwreiddio'r egwyddor datblygu cynaliadwy yn helpu i sicrhau bod llywodraethiant sefydliad yn bodloni ei hamcanion llesiant yn y ffordd orau bosibl ac yn sicrhau bod yr amcanion hynny'n cael yr effaith fwyaf bosibl ar lesiant Cymru, heddiw ac yn y dyfodol. Mae hyn yn cael ei gyflawni drwy gymhwyso chwe ffordd o weithio: meddwl am yr hirdymor, integreiddio, cynnwys, cydweithio, ac atal.

Drwy ein gwaith parhaus i sicrhau bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn dod yn rhan annatod o’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio, rydym wedi nodi chwe thema sy'n dangos y rôl y dylai llywodraethau cenedlaethol ei chwarae i hybu’r agenda datblygu cynaliadwy. Mae hyn yn cynnwys rôl Gweinidogion Cymru, rôl y gwasanaeth sifil wrth gefnogi Gweinidogion i gyflawni dros Gymru, ein rôl i ddeall Cymru heddiw ac yn y dyfodol, ein rôl alluogi gydag eraill, a sut yr ydym yn newid diwylliant ein sefydliad er mwyn sicrhau bod llesiant cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol wrth wraidd ein penderfyniadau.

Mae’r Cynllun hefyd yn cynrychioli ymateb o sylwedd Llywodraeth Cymru i'r argymhelliad yn adroddiad adolygiad adran 20 Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru. Mae'r adolygiad gan y Comisiynydd yn rhoi cyfle amserol a gwerthfawr inni bwyso a mesur, myfyrio ar yr hyn yr ydym wedi'i gyflawni hyd yma, ac i'n helpu i fanteisio ar gyfleoedd newydd yn y blynyddoedd sydd i ddod. Cafodd y gwaith o ddatblygu a chyflwyno’r Cynllun ei wneud yn seiliedig ar bartneriaeth ac ymgysylltu, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu hyd yma at ei ddatblygiad.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol wedi bod yn fframwaith parhaus a defnyddiol ar gyfer datblygu cynaliadwy sydd wedi treiddio i bob agwedd ar y ffordd yr ydym yn gweithio. Mae'r fframwaith hefyd yn chwarae rhan hanfodol yn natblygiad Llywodraeth Cymru fel sefydliad. Mae’r Cynllun yn ein hatgoffa bod dysgu a gwella parhaus yn rhan o daith sy'n galw am ymrwymiad, ymdrech fwriadol, ac arweinyddiaeth barhaus er mwyn llwyddo. Drwy ein Cynllun a'r diweddariadau blynyddol yr ydym wedi ymrwymo i'w darparu, rydym yn cryfhau ein diwylliant gweithio cynaliadwy i sicrhau canlyniadau gwell i bobl Cymru, heddiw ac yn y dyfodol.

Jane Hutt, AS
Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Dr Andrew Goodall, 
Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru

Cyflwyniad

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i barhau i siapio beth mae’n ei wneud a sut mae’n mynd ati i gyfrannu cymaint â phosibl at y gwaith o gyflawni nodau llesiant hirdymor Cymru.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Cymru yn wynebu nifer o heriau cymhleth. Mae llawer o’r heriau hyn wedi’u hetifeddu o’r gorffennol, ond mae’n bwysig nad yw’r genhedlaeth hon yn eu gadael fel heriau i’r cenedlaethau nesaf. Dyna pam mae Cymru wedi gwneud ymrwymiad unigryw i lesiant cenedlaethau’r dyfodol. Drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (y cyfeirir ati o hyn ymlaen fel ‘Deddf LlCD’), mae gennym ddeddf sy’n ein helpu ni i gyd i weithio gyda’n gilydd i wella ein hamgylchedd, ein heconomi, ein cymdeithas a’n diwylliant. Er mwyn pobl, ac er mwyn ein planed. Heddiw, ac ar gyfer ein dyfodol.

Cymru yw’r wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu ar gyfer llesiant cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol mewn ffordd sy’n cyd-fynd â Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.

Mae Deddf LlCD yn rhoi saith nod llesiant i ni sy’n ceisio creu Cymru sy'n fwy cyfartal, llewyrchus, iach, cydnerth a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau mwy cydlynus â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. Mae’r Ddeddf yn sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

Y weledigaeth sydd wrth wraidd y Ddeddf yw y byddwn ni wedi gweithredu gyda’r tymor hir mewn golwg, wedi gweithio’n well gyda’n gilydd, wedi gweithredu’n gynnar ac wedi cydweithio â phobl a chymunedau ar y daith hon.

Ledled Cymru mae sefydliadau, pobl a chymunedau yn gweithio tuag at y saith nod llesiant cenedlaethol, sy’n rhoi gweledigaeth gyffredin ar gyfer y Gymru gynaliadwy rydym am ei gweld heddiw ac yn y dyfodol.  Mae ein Deddf LlCD yn darparu’r glasbrint i wireddu hyn.

Llywodraeth Cymru

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes hir o hyrwyddo datblygu cynaliadwy, ac ymrwymiad hirdymor i sicrhau mai datblygu cynaliadwy yw prif egwyddor drefniadol y llywodraeth. Felly, mae datblygu cynaliadwy (fel y mae’n cael ei ddiffinio yn Neddf LlCD) yn newid beth rydym yn ei wneud a sut rydym yn mynd ati i ddiwallu anghenion y cenedlaethau presennol heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

Ni yw’r unig weinyddiaeth yn y byd sydd â dyletswydd mor gynhwysfawr i hyrwyddo ac i ymgymryd â datblygu cynaliadwy. Ers i Ddeddf LlCD ddod i rym yn 2016, mae’r egwyddor datblygu cynaliadwy a’r ddyletswydd llesiant wedi effeithio ar bob agwedd ar ein sefydliad – o’n fframwaith llunio polisïau i’n prosesau rheoli perfformiad, ein disgwyliadau arwain a’n prosesau ariannol ac archwilio.

Pwrpas y ddeddfwriaeth yw sicrhau mai datblygu cynaliadwy yw prif egwyddor drefniadol y llywodraeth a chyrff cyhoeddus, ac felly dylai prosesau llywodraethu a gweithredu'r llywodraeth ynghyd â'r ffordd mae’n gweithio, a’n ffyrdd o ddatblygu polisi, wella’n barhaus er mwyn ymateb i’r gofynion hyn.

Pwrpas y cynllun dysgu a gwella’n barhaus

Mae gan y cynllun hwn y dibenion canlynol:

  • Mae’n ailddatgan mai datblygu cynaliadwy yw prif egwyddor drefniadol Llywodraeth Cymru, a’r camau y byddwn ni’n eu cymryd o dan ein dyletswyddau datblygu cynaliadwy a llesiant i ddyfnhau hyn yn y ffordd y mae’r Llywodraeth yn gweithio.
  • Mae’n disgrifio sut bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i arwain y ffordd i wneud datblygu cynaliadwy yn rhan annatod o'r ffordd mae’n gweithio.
  • Mae'n ymateb i Adolygiad Adran 20 o'r ffordd mae Llywodraeth Cymru yn gweithio, a gynhaliwyd gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn 2022.
  • Mae’n amlinellu ein dull ‘Llywodraethu Cynaliadwy’ i weithredu’n unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy ar draws meysydd allweddol y llywodraeth. Mae hyn yn cynnwys rôl Gweinidogion Cymru, gwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru, ein rôl ni i alluogi eraill a gwella dealltwriaeth o Gymru a’i dyfodol. Mae hyn yn seiliedig ar gamau gweithredu i sbarduno’r newid cynaliadwy sydd ei angen o ran diwylliant ac ymddygiad.
  • Mae’n egluro sut bydd y camau perthnasol yn cael eu cynnwys yn y rhaglen tair blynedd ar gyfer datblygu sefydliadol a’r llwyfan i sgwrsio â staff (LlC2025)
  • Mae’n nodi’r meysydd y byddwn ni’n eu blaenoriaethu rhwng 2023 a 2025 er mwyn cryfhau a dyfnhau’r ffordd rydym yn gweithredu yn unol â’r Egwyddor Datblygu Cynaliadwy.
  • Mae’n egluro sut byddwn yn monitro ac yn adrodd ar y newidiadau hyn, gan gynnwys rhannu’r hyn a ddysgwyd ag eraill sy’n rhwym wrth y ddyletswydd llesiant.
  • Mae’n disgrifio sut bydd y newidiadau hyn yn helpu Llywodraeth Cymru i barhau i gyfrannu cymaint â phosibl at y gwaith o gyflawni’r saith nod llesiant, a sicrhau Cymru wyrddach, gryfach a thecach.

Nid yw’r cynllun yn:

  • Amlinellu newidiadau i amcanion polisi’r llywodraeth, nac yn gwneud unrhyw ymrwymiadau i newid polisïau na strategaethau. Bydd y rhain i’w gweld yn y dogfennau polisi a strategaeth perthnasol a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru. Man cychwyn y gwaith hwn yw’r amcanion llesiant yn y Rhaglen Lywodraethu.
  • Cynnwys manylion y camau rydym yn eu cymryd i gyflawni ein hamcanion llesiant, sy’n cael eu hamlinellu yn Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru.

Ein dull gweithredu

Mae’r cynllun wedi’i strwythuro o amgylch Fframwaith Llywodraethu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru (gweler isod), a ddatblygwyd ar sail y canlynol ac sy’n rhoi sylw i hynny:

  • Meysydd Llywodraeth Cymru lle byddwn yn sbarduno gwelliant parhaus o ran gweithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy.
  • Y canlyniadau rydym yn ceisio eu cyflawni
  • Sut byddwn yn goruchwylio’r newid hwn ac yn ei wneud yn bosibl.
  • Sut byddwn yn monitro ac yn adolygu effeithiolrwydd y gwelliannau hyn.
  • Sut byddwn yn cyfleu’r hyn rydym ni’n ei wneud.

Fframwaith Llywodraethu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru

Egwyddor trefnu ganolog y fframwaith yw'r 5 ffordd o weithio:

  • Hirdymor
  • Atal
  • Integreiddio
  • Cydweithio
  • Cynnwys

Gweinidogion Cymru

Sicrhau bod y Llywodraeth yn cyfrannu gymaint â phosibl at y nodau llesiant drwy bennu a chyflawni amcanion llesiant:

  • Deall cyfraniad y Llywodraeth at y nodau
  • Y Rhaglen Lywodraethu (amcanion llesiant)
  • Cyflawni
  • Adolygu’r amcanion yn flynyddol
  • Cyfathrebu (Adroddiad Blynyddol)
  • Hyrwyddo datblygu cynaliadwy

Galluogi eraill

Galluogi eraill, eu harwain a dylanwadu arnynt i gyfrannu at y nodau llesiant:

  • Ein perthynas â phartneriaid cyflawni / cyrff a noddir
  • Dylanwadu ar eraill
  • Y trydydd sector
  • Busnesau
  • Y sector cyhoeddus
  • Canllawiau Statudol
  • Cyfathrebu
  • Hyrwyddo’n rhyngwladol

Deall Cymru

Galluogi penderfyniadau a pholisïau mwy cynaliadwy drwy ddealltwriaeth well o Gymru heddiw ac o’i dyfodol:

  • Olrhain cynnydd cenedlaethol yn erbyn y nodau (50 o ddangosyddion cenedlaethol)
  • Penderfynu ar faint y newid (Cerrig Milltir Cenedlaethol)
  • Adroddiad Blynyddol Llesiant Cymru
  • Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol (bob tymor)
  • Arolwg Cenedlaethol Cymru
  • Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi

Y Gwasanaeth Sifil

Gwella'r cymorth a'r cyngor i Weinidogion Cymru drwy ymgorffori'r pum ffordd o weithio.

Meysydd sicrwydd Llywodraeth Cymru:

  1. Cynllunio ac Adolygu Corfforaethol
  2. Cyflawni Gweithredol (gan gynnwys grant/caffael)
  3. Rheoli Asedau Ariannol
  4. Pobl a Diwylliant
  5. Rheoli Gwybodaeth a Diogelwch
  6. Risg a Chydymffurfiaeth Rheoleiddiol 
  7. Llunio Polisïau Integredig
Image

Mewnbwn

Mae natur datblygu cynaliadwy fel y brif egwyddor drefniadol yn golygu ein bod yn ceisio mynd ati’n barhaus i wella a dyfnhau’r ffordd rydym yn gweithredu Deddf LlCD, ac yn defnyddio’r arferion gorau a’r awgrymiadau diweddaraf.

Ers dyddiau cynnar Deddf LlCD yn 2016, mae rhanddeiliaid wedi mynd ati mewn ffordd adeiladol i herio Gweinidogion Cymru a gwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru ynghylch cyflymder y newid i wreiddio Deddf LlCD a’r newid mewn diwylliant mae’n galw amdano. Mae hyn wedi cynnwys:

Mae ymateb Llywodraeth Cymru i rai o'r adroddiadau hyn ar gael yma Ymatebion Llywodraeth Cymru i adroddiadau ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) Ymatebion Llywodraeth Cymru i adroddiadau ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) ar LLYW.CYMRU.

Sut cafodd y cynllun hwn ei lunio?

Cafodd y cynllun hwn ei lunio drwy gydweithio â chydweithwyr ar draws Llywodraeth Cymru sy’n arwain ar swyddogaethau allweddol.

Cafodd y cynllun ei lunio ar y cyd â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, ac mae’n defnyddio allbynnau eu hadolygiad Adran 20 o’r ffordd mae Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â datblygu cynaliadwy ac yn diogelu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion. Rydym wedi defnyddio ein gwaith ar yr adolygiad, ac wedi cynnwys y meysydd sydd i’w gwella a’r arferion da sydd wedi dod i’r amlwg drwy’r gwaith hwn.

Y cynllun hwn yw ein hymateb ffurfiol i adroddiad Adolygiad Adran 20 y Comisiynydd a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2022. Rydym wedi derbyn yr un argymhelliad sydd yn yr adroddiad hwn ac wedi darparu dogfen atodol sy'n amlinellu sut mae'r cynllun hwn yn mynd i'r afael â'r meysydd gwella a nodwyd yn yr adroddiad.

Y cynllun

Mae’r cynllun hwn yn nodi 51 o gamau gweithredu y byddwn ni’n eu cymryd rhwng 2023 a 2025 a fydd, yn ein barn ni, yn dyfnhau’r egwyddor datblygu cynaliadwy o fewn y Llywodraeth ac yn sicrhau’r canlyniadau isod.

Sut byddwn yn monitro cynnydd

Byddwn yn cyhoeddi adrodddiad blynyddol ar weithredu'r cynllun hwn. Caiff y gwaith hwn ei arwain gan yr Is-adran Dyfodol Cynaliadwy mewn cydweithrediad â thimau arweiniol ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru. Bydd ein dull gweithredu yn adeiladu ar y newidiadau a wnaed gennym i'r trefniadau adrodd presennol er mwyn sicrhau bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yn parhau i fod yn rhan annatod o'r ffordd rydym yn gweithio. Nodwyd yr is-adrannau arweiniol a byddant hwy’n gyfrifol am nodi, gweithredu a monitro’r camau sy'n berthnasol i'w hadran.

Byddwn yn defnyddio Grŵp Goruchwylio a Galluogi Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol presennol i fonitro cynnydd.

Y cynllun

Thema: Gweinidogion Cymru

Canlyniad

Sicrhau bod y Llywodraeth yn cyfrannu cymaint â phosibl at y nodau llesiant drwy bennu a chyflawni amcanion llesiant.

Monitro a mesur

Mae’r Rhaglen Lywodraethu yn nodi’r deg amcan llesiant a fydd, yn ein barn ni, yn gwneud y cyfraniad mwyaf tuag at y nodau llesiant. Mae camau penodol ar gyfer pob un o’r deg amcan llesiant. Mae’r rhain wedi’u nodi yn y Rhaglen Lywodraethu a byddwn yn adrodd ar ein cynnydd yn flynyddol fel sy’n ofynnol o dan y Ddeddf.

Allbwn (strategol)

Adroddiad Blynyddol Cynllun Gwella a Dysgu Parhaus LlCD 2023-2025

Cynnyrch presennol

Rhaglen lywodraethu

Thema: Gwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru

Canlyniad

Gwella’r cymorth a’r cyngor a roddir i Weinidogion Cymru drwy wreiddio’r pum ffordd o weithio ym mhopeth a wnawn

Monitro a mesur

Byddwn yn parhau i ddefnyddio, datblygu a gwreiddio perfformiad wrth gymhwyso'r egwyddor datblygu cynaliadwy yn Fframwaith Perfformiad Llywodraeth Cymru.

Mabwysiadwyd Fframwaith Perfformiad Llywodraeth Cymru fel y dull o fonitro perfformiad Gwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru yn 2019. Mae’r fframwaith yn seiliedig ar y Mynegai Effeithiolrwydd Gwasanaeth Sifil Rhyngwladol (InCiSE) ac fe’i mabwysiadwyd i gyd-fynd â strategaethau, blaenoriaethau ac amcanion Llywodraeth Cymru drwy ymgynghori â’r Bwrdd, uwch-reolwyr ac ymchwilwyr. Ar hyn o bryd, mae’n cynnwys 19 o themâu sydd wedi’u rhannu’n ddau grŵp – swyddogaethau (‘beth rydym yn ei wneud’) a phriodoleddau (‘sut rydym yn ei wneud’). Cyflwynir adroddiad ar berfformiad yn erbyn y fframwaith ddwywaith y flwyddyn i Fwrdd Llywodraeth Cymru.

Allbwn (strategol)

Adroddiad Blynyddol Cynllun Gwella a Dysgu Parhaus LlCD 2023-2025

Cynnyrch presennol

Cyfrifon cyfunol blynyddol Llywodraeth Cymru

Thema: Galluogi eraill

Canlyniad

Galluogi, arwain a dylanwadu ar eraill i gyfrannu at y nodau llesiant.

Monitro a mesur

Byddwn yn defnyddio Grŵp Goruchwylio a Galluogi Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol i fonitro cynnydd.

Mae Fforwm Rhanddeiliaid Cenedlaethol Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn chwarae rhan yma hefyd.

Allbwn (strategol)

Adroddiad Blynyddol Cynllun Gwella a Dysgu Parhaus LlCD 2023-2025

Thema: Deall Cymru

Canlyniad

Gwneud polisïau a phenderfyniadau mwy cynaliadwy yn bosibl drwy ddeall Cymru heddiw a dyfodol Cymru yn well.

Monitro a mesur

Byddwn yn defnyddio Grŵp Goruchwylio a Galluogi Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol i fonitro cynnydd.

Allbwn (strategol)

Adroddiad Blynyddol Cynllun Gwella a Dysgu Parhaus LlCD 2023-2025

Cynnyrch presennol

Llesiant Cymru
Tueddiadau’r Dyfodol: 2021

Thema: Newid diwylliant

Canlyniad

Sicrhau bod gweithio’n gynaliadwy yn rhan annatod a gweladwy o’n hymddygiad.

Monitro a mesur

Byddwn yn defnyddio Grŵp Goruchwylio a Galluogi Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol i fonitro cynnydd.

Allbwn (strategol)

Adroddiad Blynyddol Cynllun Gwella a Dysgu Parhaus LlCD 2023-2025

Thema: Gwneud iddo ddigwydd

Canlyniad

Mynd ati’n barhaus i sbarduno gwelliannau o ran gweithredu’n unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy drwy ymrwymiad a goruchwyliaeth amrywiaeth eang o swyddogion.

Monitro a mesur

Byddwn yn defnyddio Grŵp Goruchwylio a Galluogi Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol i fonitro cynnydd.

Allbwn (strategol)

Adroddiad Blynyddol Cynllun Gwella a Dysgu Parhaus LlCD 2023-2025

Thema 1: Gweinidogion Cymru

Canlyniad

Sicrhau bod y Llywodraeth yn cyfrannu cymaint â phosibl at y nodau llesiant drwy bennu a chyflawni amcanion llesiant.

Beth rydym ni wedi’i wneud y tymor hwn?

  • Cyhoeddi’r Rhaglen Lywodraethu (Mehefin 2021) sy’n amlinellu’r ymrwymiadau uchelgeisiol y byddwn ni’n eu cyflawni dros dymor y Senedd bresennol, ac yn cynnwys y deg amcan llesiant y bydd y llywodraeth yn eu defnyddio i gyfrannu cymaint â phosibl at saith nod llesiant Cymru a’r camau y byddwn ni’n eu cymryd i’w cyflawni.
  • Mae’r Datganiad Llesiant (2021), a gyhoeddwyd ochr yn ochr â’r Rhaglen Lywodraethu, yn egluro sut rydym wedi pennu ein hamcanion llesiant yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy.
  • Cyhoeddi adroddiad blynyddol ar gyflawni ein hamcanion llesiant (adroddiad blynyddol Mehefin 2022).
  • Sefydlu Fforwm Rhanddeiliaid Cenedlaethol Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ti gasglu safbwyntiau rhanddeiliaid ar rwystrau, cyfleoedd a materion allweddol yng nghyswllt gweithredu Deddf LlCD a rhannu arferion arloesol o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Beth fyddwn ni’n ei wneud yn 2023-2025?

1.1 Byddwn yn parhau i ymgorffori’r amcanion llesiant yn ein hadroddiad blynyddol ar y Rhaglen Lywodraethu. Arweinydd: Swyddfa’r Cabinet

1.2 Byddwn yn parhau i gynorthwyo'r Pwyllgor Gweithredol i ddefnyddio'r egwyddor datblygu cynaliadwy yn eu gwaith o gefnogi'r Ysgrifennydd Parhaol fel Prif Gynghorydd Polisi i'r Prif Weinidog. Arweinydd: Yr Is-adran Dyfodol Cynaliadwy

1.3 Byddwn yn parhau i gydweithio â’n rhwydweithiau rhyngwladol i rannu a dysgu gan lywodraethau eraill ar draws y byd – gan ganolbwyntio ar ein haelodaeth o Regions4 a rhwydwaith Llywodraethau’r Economi Llesiant. Arweinydd: Yr Is-adran Dyfodol Cynaliadwy, Cysylltiadau Rhyngwladol

1.4 Byddwn yn parhau i ymgysylltu â fforwm Rhanddeiliaid Cenedlaethol Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol er mwyn bwrw ymlaen â cham nesaf y gwaith o wreiddio dull gweithredu Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ledled Cymru. Arweinydd: Yr Is-adran Dyfodol Cynaliadwy

1.5 Byddwn yn ystyried ffyrdd i godi ymwybyddiaeth o amcanion llesiant cyrff cyhoeddus ledled Cymru, gan ddefnyddio gwaith monitro Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru. Arweinydd: Yr Is-adran Dyfodol Cynaliadwy, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

1.6 Byddwn yn cynyddu ymwybyddiaeth o Adroddiad Tueddiadau'r Dyfodol ymysg Gweinidogion ac uwch arweinwyr. Arweinydd: Yr Is-adran Dyfodol Cynaliadwy

1.7 Byddwn yn asesu natur gwerthusiad o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Arweinydd: Yr Is-adran Dyfodol Cynaliadwy

Thema 2: Gwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru

Canlyniad

Gwella’r cymorth a’r cyngor a roddir i Weinidogion Cymru drwy wreiddio’r pum ffordd o weithio.

Llunio polisïau

Beth rydyn ni wedi'i wneud?

  • Diweddaru ein canllawiau ar lunio polisïau i roi sylw llawn i’r goblygiadau a’r cyfleoedd ar gyfer llunio polisïau sy’n deillio o Ddeddf LlCD.
  • Integreiddio ein dull o asesu effaith gan ddefnyddio’r pedwar dimensiwn llesiant yn Neddf LlCD, a gwreiddio’r ffyrdd o weithio.
  • Amlinellu ein huchelgais ar gyfer y proffesiwn polisi, a datblygu cyfres o ffrydiau gwaith i feithrin proffesiwn polisi medrus, arloesol ac ymrwymedig i greu gwell polisi.
  • Ailymgysylltu â chymuned bolisi Llywodraeth Cymru i greu rhwydwaith sy’n dod â llunwyr polisïau ynghyd.
  • Datblygu Fframwaith Gallu Polisi sy’n cyd-fynd ag agenda Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol drwy nodi’r wybodaeth, y sgiliau a’r ymddygiad perthnasol sydd eu hangen ar lunwyr polisïau yn Llywodraeth Cymru i fod yn effeithiol ac i gynorthwyo Gweinidogion Cymru.
  • Sefydlu rhwydwaith o uwch hyrwyddwyr polisi ar draws y sefydliad i hyrwyddo a helpu i ddatblygu cynlluniau polisi effeithiol ac arloesol yng Nghymru.
  • Sefydlu Cyfres o Seminarau Polisi sy’n cynnwys astudiaethau achos a phrofiadau go iawn i helpu swyddogion polisi i ddysgu gwersi wrth fynd i’r afael â heriau sy’n codi wrth lunio polisïau.
  • Cyflwyno gweminar fanwl LlC2025 i gynnwys y sefydliad yn ein cynlluniau ar gyfer dyfodol y proffesiwn polisi a gallu polisi – gan atgyfnerthu rôl Deddf LlCD yn y broses o lunio polisïau da.
  • Amlygu arferion da wrth lunio polisïau drwy Wobrau Llywodraeth Cymru ac yn rhyngwladol fel rhan o’n hymrwymiadau i greu Cymru sy’n Gyfrifol yn Fyd-eang.
  • Datblygu hyfforddiant penodol i’r proffesiwn ymchwil i gyflwyno’r Ddeddf i ymchwilwyr newydd, a dangos sut a ble y gallai fod yn berthnasol yn eu rôl wrth iddynt gefnogi’r broses o lunio polisïau.

Beth fyddwn ni’n ei wneud yn 2023-2025?

2.1 Fel rhan o’r Fframwaith Gallu Polisi, byddwn yn gwella ein cefnogaeth ffurfiol ac anffurfiol i lunwyr polisïau er mwyn datblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u hymddygiad, gan gynnwys defnyddio’r pum ffordd o weithio. Arweinydd: Yr Is-adran Dyfodol Cynaliadwy ac Ymgysylltu a Datblygu Sefydliadol

2.2 Byddwn yn cyflwyno llwybrau datblygu i bobl aeddfedu a gwella eu sgiliau, eu gwybodaeth, eu hymddygiad a’u dealltwriaeth, gan gynnwys datblygu’r ‘lefelau’ gofynnol ar gyfer swyddogion polisi Llywodraeth Cymru – dysgu gwybodaeth sylfaenol, llunio polisïau'n fedrus, ac arbenigo ar lunio polisïau. Arweinydd: Yr Is-adran Dyfodol Cynaliadwy

2.3 Byddwn yn parhau i adolygu a diweddaru ein dull o asesu effaith polisi mewn ffordd integredig, gyda chymorth ein dull gweithredu ar gyfer Asesiad Effaith Integredig. Arweinydd: Yr Is-adran Dyfodol Cynaliadwy ac arweinwyr asesiadau effaith unigol

2.4 Byddwn yn parhau i adolygu a diweddaru adnoddau mewnol i gefnogi timau polisi wrth iddynt gynnwys, ymgysylltu ac ymgynghori â dinasyddion wrth lunio a chyflwyno polisïau. Arweinydd: Yr Is-adran Dyfodol Cynaliadwy ac eraill

Pobl

Beth rydyn ni wedi'i wneud?

  • Rydym wedi datblygu darpariaeth dysgu a datblygu polisi craidd newydd sy’n cyd-fynd â’r Ddeddf.
  • Rydym wedi ymgorffori’r Ddeddf yn ein rhaglen gynefino gorfforaethol sydd ar gael i bawb sy’n ymuno o’r newydd, gan gynnwys uwch arweinwyr.
  • Rydym wedi disodli ein system rheoli perfformiad personol gydag un sy’n seiliedig ar hyfforddiant cryfder a sgyrsiau rheolaidd (Sgyrsiau Dewch i Drafod)
  • Rydym wedi defnyddio’r Arolwg Pobl i weld beth yw dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth staff o’r pum ffordd o weithio.
  • Datblygu a darparu pecyn hyfforddi 2 ddiwrnod i uwchsgilio a chynyddu gallu polisi’r Gwasanaeth Sifil yng nghyswllt syniadau ar gyfer y dyfodol.
  • Rydym yn datblygu cymuned ar gyfer y dyfodol yn Llywodraeth Cymru, sy’n gysylltiedig â’r Gymuned Bolisi.

Beth fyddwn ni’n ei wneud yn 2023-2025?

2.5 Byddwn yn parhau i wreiddio’r Ddeddf yn ein cynllun gallu mewnol ehangach ar gyfer y sefydliad i gyd, a’n rhaglen Dysgu a Datblygu. Arweinydd: Ymgysylltu a Datblygu Sefydliadol a Dyfodol Cynaliadwy

2.6 Byddwn yn codi ymwybyddiaeth o’r Ddeddf gyda thimau corfforaethol a chyda chydweithwyr i ddatblygu dull gweithredu wedi’i deilwra sy’n adlewyrchu eu rolau (mae hyn yn faes i’w wella sy’n deillio o’r ymarfer archwiliad mewnol a gynhaliwyd yn 2021). Arweinydd: Yr Is-adran Dyfodol Cynaliadwy, a Gwasanaethau Corfforaethol

2.7 Byddwn yn parhau i ddefnyddio gwybodaeth o’n system gadarn ar gyfer rheolaeth fewnol i roi sicrwydd i’r Ysgrifennydd Parhaol, gan gynnwys diweddaru’r cwestiynau bob blwyddyn. Arweinydd: Cyllid Corfforaethol

2.8 Byddwn yn sefydlu Rhwydwaith Byw’n Gynaliadwy i’n helpu ni i ddysgu mwy am sut gallwn ni wneud dewisiadau mwy cynaliadwy, a helpu i leihau ein hôl troed carbon gartref ac yn y swyddfa. Arweinydd: Cynllunio ar gyfer Newid Hinsawdd

2.9 Byddwn yn cynnal cyfres o seminarau a sesiynau wedi’u teilwra ar gyfer Cyfarwyddiaethau ar Ddeddf LlCD er mwyn adnewyddu, ailymgysylltu ac adfywio. Arweinydd: Yr Is-adran Dyfodol Cynaliadwy

Y gyllideb

Beth rydyn ni wedi'i wneud?

  • Rydym wedi diwygio Grŵp Cynghorol y Gyllideb ar Gydraddoldeb (BAGE), ac wedi sefydlu’r Grŵp Cynghori newydd ar Wella ac Asesu Effaith y Gyllideb (BIIAG). Mae'r Grŵp Cynghori ar Wella ac Asesu Effaith y Gyllideb wedi bod yn adolygu’r ffordd rydym yn asesu effaith penderfyniadau ynghylch y gyllideb a’r Asesiad Effaith Integredig Strategol.
  • Yn ystod proses Cyllideb 2022-23 ac Adolygiad Gwariant Cymru, aethpwyd ati ar y cyd i gysoni cyllid â’r broses o gyflawni’r Rhaglen Lywodraethu sy’n cynnwys Amcanion Llesiant Llywodraeth Cymru. 
  • Gwnaethom gynnydd mewn gwahanol feysydd yng Nghynllun Gwella’r Gyllideb, fel y nodir yn y cynllun, gan gynnwys ar effeithiau carbon a natur, cyllidebu ar sail rhyw, effeithiau dosbarthiadol.
  • Cyhoeddwyd ein diweddariad ar ein Fframwaith Polisi Trethi.
  • Cyhoeddwyd ein Cynllun Gwaith Polisi Trethi ar gyfer 2021-2026.
  • Cynhaliwyd ein cynhadledd dreth flynyddol ar-lein i helpu i hyrwyddo agenda trethi Cymru.
  • Cyhoeddwyd y Strategaeth Buddsoddi yn Seilwaith Cymru, sy’n cael ei hategu gan ddull gweithredu â sylfaen sero ar gyfer gwariant cyfalaf i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur fel rhan o Adolygiad o Wariant Cymru 2022-25.

Beth fyddwn ni’n ei wneud yn 2023-2025?

2.10 Byddwn yn cyhoeddi Cynllun Gwella’r Gyllideb bob blwyddyn i ddangos y cynnydd a wnaed dros y 12 mis blaenorol, ochr yn ochr â’n dyheadau tymor byr a chanolig dros gyfnod treigl o 5 mlynedd, gan ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r pum ffordd o weithio i sbarduno gwelliannau parhaus i brosesau trethi a’r gyllideb.  Mae atal yn faes a fydd yn cael ei ystyried gan y Grŵp Cynghori ar Wella ac Asesu Effaith y Gyllideb yn ystod 2023 – gweler Cynllun Gwella’r Gyllideb am ragor o fanylion. Arweinydd: Y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth

2.11 Mae’r Strategaeth Buddsoddi yn Seilwaith Cymru yn cefnogi’r broses o sicrhau economi ddi-garbon, sy’n seiliedig ar bedair egwyddor datblygu cynaliadwy Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol er mwyn gwella llesiant economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru. Edrychwch ar Gynllun Gwella’r Gyllideb i gael rhagor o fanylion. Arweinydd: Y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth 

Thema 3: Galluogi eraill

Canlyniad

Galluogi, arwain a dylanwadu ar eraill i gyfrannu at y nodau llesiant.

Beth rydyn ni wedi'i wneud?

  • Datblygu set gynhwysfawr o ganllawiau statudol gyda rhanddeiliaid i helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu dyletswyddau llesiant o dan Ddeddf LlCD.
  • Gweithio ar y cyd â rhanddeiliaid i feithrin dealltwriaeth gyffredin o sut gellir sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gwneud cynnydd amlwg o ran y ffordd mae’n gweithredu Deddf LlCD, a sut gellir dangos hynny’n glir (Pawb Gyda’i Gilydd – Awgrymiadau ar gyfer gweithredu o Weithdai’r Flwyddyn Newydd ar Lesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2018)
  • Sicrhau bod y dull gweithredu ar gyfer y ddyletswydd llesiant yn rhan annatod o’r broses o baratoi Cynlluniau Tymor Canolig Integredig gan gyrff iechyd yng Nghymru.
  • Rydym wedi diwygio Llythyrau Cylch Gwaith ar gyfer cyrff cyhoeddus, ac wedi symud yn ddiweddar at lythyrau Cylch Gwaith Tymor y Llywodraeth sy’n cynnwys gofyniad i gyflawni’r ddyletswydd llesiant.
  • Datblygu Deddf LlCD yn ddull gweithredu ar gyfer Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru
  • Cynnal dau ddigwyddiad Cyfnewid Syniadau Cenedlaethau’r Dyfodol a oedd yn canolbwyntio ar rannu arferion gorau rhwng Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a dysgu gan bobl ifanc a’r pandemig.
  • Drwy gynrychiolwyr Llywodraeth Cymru ar Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, gwnaethom gysylltiadau ar draws Llywodraeth Cymru i fynd ati’n well i gysylltu polisïau cenedlaethol a darpariaeth leol. Trefnwyd cyfarfod rheolaidd rhwng yr Ysgrifennydd Parhaol a chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru ar Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Cynorthwyo’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus drwy grant cymorth rhanbarthol, digwyddiadau rhwydwaith, tystiolaeth bwrpasol a seminarau polisi i gefnogi’r gwaith o ddatblygu asesiadau llesiant lleol a chynlluniau llesiant lleol, a chael uwch weision sifil ar bob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

Beth fyddwn ni’n ei wneud yn 2023-2025?

3.1 Byddwn yn gweithio gyda’r fforymau cenedlaethol i gyd-ddylunio a datblygu’r gyfres nesaf o ddigwyddiadau Cyfnewid Syniadau Cenedlaethau’r Dyfodol. Arweinydd: Yr Is-adran Dyfodol Cynaliadwy

3.2 Byddwn yn gweithio gyda Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Cydgynhyrchu Cymru i adolygu’r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Cyfranogiad y Cyhoedd. Arweinydd : Yr Is-adran Gymunedau, Yr Is-adran Dyfodol Cynaliadwy

3.3 Byddwn yn gweithio gyda Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Cydgynhyrchu Cymru ar yr Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Cyfranogiad y Cyhoedd. Arweinydd: Yr Is-adran Dyfodol Cynaliadwy

3.4 Byddwn yn cynorthwyo Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a’u timau i ddatblygu a chyflawni eu cynlluniau llesiant drwy ddatblygu/addasu ymhellach ein ffyrdd o weithio fel Cynrychiolwyr Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i gynyddu’r pwyslais ar gamau ataliol hirdymor. Arweinydd: Perfformiad a Phartneriaethau Llywodraeth Leol

3.5 Rydym yn cynnal adolygiad o’r trefniadau cyllido ar gyfer Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus. Byddwn yn darparu gwybodaeth ac arweiniad i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar sail yr adolygiad hwn i ymgorffori'r hyn a ddysgwyd yn ddiweddar. Arweinydd : Perfformiad a Phartneriaethau Llywodraeth Leol

3.6 Rydym yn bwrw ymlaen ag argymhellion y Cynllun Adfer ar ôl Covid gan Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector ynghylch perthnasoedd, cymorth a gwirfoddoli. Byddwn yn adolygu cod ymarfer Llywodraeth Cymru ar gyllido, a pholisi Gwirfoddoli Llywodraeth Cymru. Arweinydd: Y Sector Gwirfoddol

3.7 Byddwn yn edrych ar gyfleoedd hyfforddi a chymorth ar gyfer Rheolwyr Perthynas i’w helpu i gryfhau’r broses o gyflawni’r Contract Economaidd. Nod y Contract Economaidd yw sicrhau bod ein cymorth i’r gymuned fusnes yn arwain at arferion busnes mwy cynaliadwy a chanlyniadau gwerth cymdeithasol ehangach. Arweinydd: Polisi Economaidd – Busnes a Rhanbarthau

3.8 Byddwn yn gweithio ar y cyd â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i ddatblygu Pecyn Cymorth Paratoi at y Dyfodol ar gyfer busnesau bach a chanolig, a fydd yn darparu canllawiau ar fanteision busnes Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol er mwyn cefnogi penderfyniadau busnes cynaliadwy. Arweinydd: Tîm Arloesedd SMART

3.9 Byddwn yn dylunio ac yn creu prototeip o ddulliau cyfnewid staff rhwng sefydliadau sy’n cefnogi’r broses o ddatblygu a darparu polisïau ar y cyd, ac yn dyfnhau ein dealltwriaeth o’r pum ffordd o weithio. Arweinydd: Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru ac Academi Wales, Datblygu Sefydliadol ac Ymgysylltu

Thema 4: Deall Cymru

Canlyniad

Gwneud polisïau a phenderfyniadau mwy cynaliadwy yn bosibl drwy ddeall Cymru heddiw a dyfodol Cymru yn well.

Beth rydyn ni wedi'i wneud?

  • Cyflwyno’r dangosyddion llesiant cenedlaethol cyntaf i fesur y cynnydd a wnaed i gyflawni’r nodau llesiant (2016), ymgynghori a diwygio’r dangosyddion i adlewyrchu profiad y pandemig (2022).
  • Cyhoeddi Adroddiad Llesiant Cymru, sef adroddiad blynyddol sy’n tynnu sylw at elfennau o newid yn y dangosyddion cenedlaethol, gyda gwybodaeth gyd-destunol i ategu hynny. Aseswyd yn annibynnol ei fod yn adroddiad â statws Ystadegau Gwladol, sy’n golygu ei fod yn cyrraedd y safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth.
  • Dod â’n gwaith ar gerrig milltir cenedlaethol, dangosyddion cenedlaethol ac Adroddiad Tueddiadau'r Dyfodol at ei gilydd i greu un rhaglen – Llunio Dyfodol Cymru.
  • Sefydlu llwyfan blog Llunio Dyfodol Cymru i gyfathrebu ac ymgysylltu â phobl a’u cynnwys yn y gwaith hwn.
  • Darparu adroddiad statudol Tueddiadau'r Dyfodol Cymru (y cyntaf yn 2017, a’r ail yn 2021) sy’n dwyn ynghyd y tueddiadau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol allweddol a allai effeithio ar Gymru yn y dyfodol, yn ogystal â rhai o'r ffactorau a allai ddylanwadu ar gyfeiriad y tueddiadau hynny. 
  • Sefydlu grŵp rhanddeiliaid Llywio Tueddiadau'r Dyfodol i oruchwylio a rhannu arferion yng nghyswllt syniadau ar gyfer y dyfodol
  • Rhannu’r hyn a ddysgwyd â Llywodraeth y DU ac eraill
  • Llwyddo gyda chais cymrawd polisi’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a fydd yn datblygu darn o ymchwil i helpu i gryfhau’r ffordd mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â’r dyfodol a rhagolygon.

Beth fyddwn ni’n ei wneud yn 2023-2025?

4.1 Byddwn yn gwella proffil, ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r dangosyddion a’r cerrig milltir cenedlaethol ynghyd ag adroddiad tueddiadau’r dyfodol yn Llywodraeth Cymru drwy gydweithio’n uniongyrchol â thimau a’r holl seminarau staff, a thu hwnt i Lywodraeth Cymru drwy flog Llunio Dyfodol Cymru. Arweinydd: Yr Is-adran Dyfodol Cynaliadwy, Swyddfa’r Cabinet, Y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi

4.2 Byddwn yn darparu rhagor o gyfleoedd i swyddogion sy’n gweithio ac yn arwain ar ragolygon a’r dyfodol i gysylltu â’i gilydd a dod yn rhan o rwydwaith yn Llywodraeth Cymru ac yng Nghymru yn ehangach. Arweinydd: Yr Is-adran Dyfodol Cynaliadwy

4.3 Byddwn yn darparu gwybodaeth fanylach am lesiant drwy adroddiadau thema Llesiant Cymru, gan adeiladu ar adroddiad 2022 ar lesiant plant a phobl ifanc. Arweinydd: Y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi

4.4 Bydd ein cymrawd polisi a noddir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol  yn datblygu darn o ymchwil i helpu i gryfhau’r ffordd mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â’r dyfodol a rhagolygon. Arweinydd: Yr Is-adran Dyfodol Cynaliadwy

4.5 Byddwn yn parhau i weithio gyda swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru sy’n arwain yr agenda dyfodol a rhagolygon yng Nghymru, er mwyn gwella sgiliau a datblygu capasiti a gallu wrth wneud penderfyniadau yng Nghymru gan ddefnyddio dulliau gweithredu sy’n ymwneud â’r dyfodol. Arweinydd: Yr Is-adran Dyfodol Cynaliadwy

4.6 Bydd Arolwg Cenedlaethol Cymru yn parhau i gasglu data cadarn i fesur 15 o’r dangosyddion llesiant cenedlaethol. Bydd cwestiynau newydd yn cael eu datblygu ar gyfer yr arolwg i fesur dau ddangosydd cenedlaethol newydd (47 a 50). Arweinydd: Y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi

4.7 Byddwn yn datblygu canllawiau sy’n disgrifio sut a phryd y gellir defnyddio dulliau cydgynhyrchu ar gyfer ymchwil a chasglu tystiolaeth er mwyn cynnwys pobl sydd â nodweddion gwarchodedig a chysylltiedig yn y broses o ddatblygu ymchwil, a gwella allbynnau a phenderfyniadau polisi dilynol. Arweinydd: Y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi

4.8 Byddwn yn creu prototeip o ddulliau cydgynhyrchu ymchwil ynghylch sut gellir casglu gwybodaeth i adlewyrchu’r model cymdeithasol o anabledd. Arweinydd: Yr Unedau Tystiolaeth a Chymorth Cydraddoldeb, Tlodi a Phlant

4.9 Byddwn yn datblygu canllawiau penodol i’r proffesiwn ymchwil ac yn diweddaru fframwaith sicrhau ansawdd ymchwil Llywodraeth Cymru er mwyn cael dealltwriaeth gysyniadol ac ymarferol glir o rwymedigaethau Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth o dan y Ddeddf a sut gellir eu gweithredu drwy’r broses ymchwil. Arweinydd: Y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi

Thema 5: Newid diwylliant

Canlyniad

Sicrhau bod gweithio’n gynaliadwy yn rhan weladwy o’n hymddygiad.

Beth rydyn ni wedi'i wneud?

  • Rydym wedi parhau i werthuso a datblygu ein rhaglen fewnol ar newid ymddygiad mewn ffordd gynaliadwy. Yn ôl yn 2012, ni oedd y llywodraeth gyntaf i sefydlu rhaglen o’r math yma sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac ymarfer.
  • Creu saernïaeth newid sy’n seiliedig ar dystiolaeth (saernïaeth dyfodol cynaliadwy) i helpu i ddatblygu’r broses o newid ymddygiad mewn ffordd gynaliadwy, gan alluogi staff i adolygu a diweddaru prosesau a gweithdrefnau ac i herio arferion hen ffasiwn.
  • Creu canllaw ar-lein ar newid ymddygiad, ar y cyd â rhanddeiliaid.
  • Rydym wedi sefydlu’r Grŵp Rhagolwg Strategol a’r Rhwydwaith Gwyddoniaeth/Deall Ymddygiad, y naill a’r llall yn gymunedau ymarfer sy’n ein galluogi i wella ein dealltwriaeth o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r ffordd mae’n cael ei rhoi ar waith.
  • Rydym wedi mynd ati i wneud cynaliadwyedd yn rhan fwy gweladwy o’n hymddygiad drwy’r Cynllun Paratoi at y Dyfodol, Arolwg Pobl i gasglu gwybodaeth, gwasanaethau newid ymddygiad a chymunedau ymarfer.

Beth fyddwn ni’n ei wneud yn 2023-2025?

5.1 LlC2025 yw ein rhaglen tair blynedd ar gyfer datblygu sefydliadol, ac mae’n llwyfan i sgwrsio â phawb sy’n gweithio yn Llywodraeth Cymru am y newidiadau a’r gwelliannau y mae angen i ni eu gwneud. Arweinydd: Grŵp y Prif Swyddog Gweithredu

5.2 Byddwn yn gwneud y canllaw newid ymddygiad yn fwy hwylus, drwy ddylunio Pecyn Cychwynnol a gofyn am adborth arnynt yn fewnol ac yn allanol. Arweinydd: Yr Is-adran Dyfodol Cynaliadwy

5.3 Egwyddorion y pum ffordd o weithio fydd yn dal wrth wraidd Fframwaith Perfformiad Llywodraeth Cymru. Arweinydd: Y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi

5.4 Bydd yr Arolwg Pobl ac arolygon eraill i staff mewnol yn dal i gael eu defnyddio i gasglu gwybodaeth am wneud y pum ffordd o weithio yn rhan annatod o ddiwylliant ein sefydliad. Arweinydd: Y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi

5.5 Byddwn yn datblygu ystod newydd o Gymunedau Ymarfer i gefnogi gwaith swyddogion Llywodraeth Cymru ac eraill wrth iddynt roi’r Ddeddf ar waith. Arweinydd: Yr Is-adran Dyfodol Cynaliadwy

5.6 Byddwn yn parhau i wella proffil, ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r Ddeddf drwy ein Strategaeth Cyfathrebu Mewnol, gan dynnu sylw at arferion da drwy astudiaethau achos, yng Ngwobrau Llywodraeth Cymru ac mewn digwyddiadau staff. Gwreiddio’r pum ffordd o weithio yn ein fframwaith gwerthoedd ac ymddygiad er mwyn iddynt ddod yn rhan o wead y sefydliad. Arweinydd: Datblygu Sefydliadol ac Ymgysylltu

Thema 6: Gwneud iddo ddigwydd

Canlyniad

Rydym yn mynd ati’n barhaus i sbarduno gwelliannau o ran gweithredu’n unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy drwy oruchwylio amrywiaeth eang o swyddogion a sicrhau eu hymrwymiad, a gallwn adrodd yn hyderus ein hanes o wella a dysgu.

Beth rydyn ni wedi'i wneud?

  • Sefydlu Grŵp Galluogi a Goruchwylio mewnol ar gyfer Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i gefnogi, galluogi ac ysgogi cyfeiriad ffrydiau gwaith mewnol Llywodraeth Cymru ac arwain ar hynny, gan gyfrannu at y gwaith o weithredu Deddf LlCD.
  • Sefydlu hyrwyddwr Bwrdd ar gyfer Deddf LlCD.
  • Adolygu’r ffordd rydym yn gwreiddio’r Ddeddf, a datblygu gwell fframwaith gweithredu strategol i lywio camau i wella’r ffordd rydym yn gweithredu’n unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy.
  • Comisiynu archwiliad mewnol o drefniadau gan grwpiau yn Llywodraeth Cymru er mwyn deall camau i wreiddio’r egwyddor datblygu cynaliadwy (2020)
  • Sicrhau bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol wedi’i gwreiddio yn Fframwaith Perfformiad Llywodraeth Cymru, gan gynnwys ystyried yn benodol sut byddem yn datblygu data perfformiad ar y pum ffordd o weithio.
  • Newid ein prosesau sicrhau mewnol (holiadur rheolaeth fewnol) i gasglu gwybodaeth gan Gyfarwyddwyr ynghylch sut maent yn gwreiddio’r ffyrdd o weithio ac yn cyflawni’r rhwymedigaethau o dan Ddeddf LlCD.
  • Adrodd yn ôl ar y camau a gymerir bob blwyddyn i wreiddio’r egwyddor datblygu cynaliadwy ymhellach yng Nghyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn digwydd ers 2017.
  • Rydym wedi cyflwyno’r Adnodd Adrodd Gwybodaeth Busnes (BIRT) i gymryd lle ein system adrodd flaenorol. Rydym wedi sicrhau mwy o ymrwymiad ymysg uwch weithwyr, ac wedi darparu rhyngwyneb mwy hwylus a greddfol i ddefnyddwyr.

Beth fyddwn ni’n ei wneud yn 2023-2025?

6.1 Byddwn yn cyflwyno adroddiad blynyddol ar weithredu'r cynllun hwn. Arweinydd a phartneriaid: Yr Is-adran Dyfodol Cynaliadwy

6.2 Bydd gweithredu’r cynllun hwn yn eitem flynyddol ar yr agenda, ac ar Agenda Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol y Bwrdd a’r Pwyllgor Gweithredol. Arweinydd: Yr Is-adran Dyfodol Cynaliadwy, Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd

6.3 Byddwn yn parhau i wreiddio agenda Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn Fframwaith Perfformiad Llywodraeth Cymru. Arweinydd: Yr Is-adran Dyfodol Cynaliadwy, Y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi

6.4 Yn y Datganiad Llywodraethiant Blynyddol a'r datganiad ar Gyfrifon Blynyddol, byddwn yn parhau i ddarparu gwybodaeth am y ffordd rydym yn cyflawni ein rhwymedigaethau yng nghyswllt Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Arweinydd: Yr Is-adran Dyfodol Cynaliadwy, Llywodraethu Corfforaethol

6.5 Byddwn yn adolygu Cylch Gorchwyl a threfniadau gwaith Grŵp Goruchwylio a Galluogi Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Arweinydd: Yr Is-adran Dyfodol Cynaliadwy

6.6 Byddwn yn datblygu prototeip wedi’i adnewyddu ar gyfer rôl Hyrwyddwr Bwrdd. Arweinydd: Yr Is-adran Dyfodol Cynaliadwy a Chyn-fyfyrwyr Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol

6.7 Byddwn yn cydweithio â’r holl Gyfarwyddwyr i’w helpu i ateb cwestiynau Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn yr Holiadur Rheolaeth Fewnol, ac yn edrych ar ffyrdd o ddadansoddi’r ffurflenni hyn i roi datganiad pendant ar wreiddio Deddf LlCD yn nhrefniadau’r Gyfarwyddiaeth (mae hyn yn rhoi sylw i faes i’w wella a nodwyd yn yr ymarfer archwiliad mewnol a gynhaliwyd yn 2021). Arweinydd: Yr Is-adran Dyfodol Cynaliadwy, Y Ganolfan Ragoriaeth Llywodraethiant Corfforaethol

6.8 Byddwn yn cynnal gwerthusiad ffurfiannol o’n system adrodd am wybodaeth fusnes (BIRT) ddechrau 2023 i werthuso profiad defnyddwyr a’i heffeithiolrwydd ers iddi gael ei gyflwyno. Arweinydd: Y Tîm Adrodd Gwybodaeth Busnes

Ôl-nodyn

Hoffem gydnabod cymorth, cefnogaeth a chyfraniadau dros gant o bobl sydd wedi ein helpu i baratoi’r cynllun hwn. P’un ai a ydych chi’n gyfrifol am gam gweithredu, yn arsylwr sydd â diddordeb neu’n rhywun sy’n creu newid, rydym yn hynod ddiolchgar.

Os oes gennych chi unrhyw adborth, awgrymiadau neu sylwadau ar y ddogfen hon, gallwch eu hanfon i Dyfodol.Cynaliadwy@llyw.cymru.

Termau allweddol

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Deddf LlCD) yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

Datblygu cynaliadwy

Mae datblygu cynaliadwy yn golygu’r broses o wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru drwy weithredu, yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, gyda’r nod o gyflawni’r nodau llesiant.

Nodau llesiant

Mae’r saith nod llesiant yn dangos y Gymru yr hoffem fod. Gyda’i gilydd, maent yn darparu gweledigaeth ar y cyd, ac yn disgrifio’r canlyniadau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol a fydd yn gwneud Cymru yn wlad fwy cynaliadwy. Dyma’r saith nod llesiant:

  • Cymru Iewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru iachach
  • Cymru sy'n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Yr Egwyddor Datblygu Cynaliadwy

Mae'r egwyddor datblygu cynaliadwy yn golygu gweithredu mewn ffordd sy'n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau. Mae hyn yn golygu ystyried y dyfodol yn yr hyn a wnawn heddiw.

Mae’r egwyddor yn cynnwys 5 ffordd o weithio y mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus eu hystyried wrth gymhwyso datblygu cynaliadwy. Sef:

  • edrych ar bethau o safbwynt yr hirdymor er mwyn sicrhau nad ydym yn peryglu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain
  • mabwysiadu dull integredig fel bod cyrff cyhoeddus yn ystyried yr holl nodau llesiant wrth benderfynu ar eu hamcanion llesiant
  • cynnwys amrywiaeth o bobl yn y penderfyniadau sy'n effeithio arnynt
  • gweithio ar y cyd ag eraill er mwyn dod o hyd i atebion cynaliadwy cyffredin
  • deall yr hyn sydd wrth wraidd problemau er mwyn eu hatal rhag digwydd

Dyletswydd Llesiant Unigol ar gyrff cyhoeddus

Mae gan rai cyrff cyhoeddus yng Nghymru ddyletswydd gyfreithiol i ymgymryd â datblygu cynaliadwy – dyma’r ddyletswydd llesiant yn Neddf LlCD. Wrth gyflawni’r ddyletswydd hon, rhaid i gyrff cyhoeddus bennu a chyhoeddi amcanion sy’n ceisio sicrhau eu bod yn cyfrannu cymaint â phosibl at y gwaith o gyflawni pob un o’r nodau llesiant, ac yn cymryd pob cam rhesymol i gyflawni eu hamcanion.

Dyletswyddau Gweinidogion Cymru o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu rhestru fel un o’r cyrff cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i Ddeddf LlCD. Felly, mae ganddynt yr un ddyletswydd llesiant â’r cyrff cyhoeddus penodedig eraill. Mae ganddynt gyfrifoldebau eraill hefyd o dan Ddeddf LlCD, sef y ddyletswydd i gyhoeddi canllawiau statudol ar gyfer y Ddeddf, dangosyddion cenedlaetholcherrig milltir ac i gyhoeddi Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol, cyfnodol, a fydd yn darparu tystiolaeth o gynnydd a phwysau yn y dyfodol i helpu’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau. Rhaid iddynt hefyd gyhoeddi adroddiad Llesiant Cymru, sef adroddiad blynyddol ar y cynnydd a wnaed i gyflawni’r nodau llesiant drwy gyfeirio at y cerrig milltir a’r dangosyddion cenedlaethol.