Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Cyhoeddwyd Ein Cynllun Lles Anifeiliaid i Gymru (AWPW) ar 4 Tachwedd 2021. Mae'n disgrifio sut y byddwn yn cyflawni'r pedwar ymrwymiad yn ein Rhaglen lywodraethu a blaenoriaethau eraill ar gyfer lles anifeiliaid.

Ein nod yw i bob anifail yng Nghymru gael bywyd o ansawdd da. Mae hyn yn amcan strategol yn ein Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru, sy’n llunio’r sylfaeni y mae ein Cynllun Lles Anifeiliaid pum mlynedd wedi ei ddatblygu arnynt. 

Mae'r canlynol yn disgrifio'r hyn gafodd ei wneud yn yr ail flwyddyn. Adroddiad yn crynhoi’r cynnydd a wnaed yn y flwyddyn gyntaf

Crynodeb

Mae cynnydd da wedi'i wneud o ran cyflawni’n blaenoriaethau ar gyfer lles anifeiliaid:

  • Mae gwaith ar bolisïau gorfodi a thrwyddedu Lles Anifeiliaid yn parhau i fynd yn ei flaen gyda chais am dystiolaeth wedi’i gwblhau yn 2023 i weld a yw’r rheoliadau sy'n bod eisoes yn dal i fod yn ddigonol.
  • Fe wnaethom lansio ymgynghoriad 12 wythnos ar drwyddedu sefydliadau lles anifeiliaid, a gweithgareddau ac arddangosfeydd anifeiliaid ar 8 Rhagfyr 2023. Mae hyn yn cefnogi’n gwaith i ddatblygu Model Cenedlaethol i wella’r broses o reoleiddio lles anifeiliaid. 
  • Mae prosiect Gorfodi'r Awdurdodau Lleol, sydd wedi ei ail frandio fel Trwyddedu Anifeiliaid Cymru wedi ei sefydlu, gydag 11 o swyddogion gorfodi rhanbarthol, dau swyddog cymorth a dau gydlynydd systemau yn eu lle
  • Erbyn mis Rhagfyr 2023 roedd pedwar cwrs hyfforddi wedi eu cynnal i 58 o swyddogion ledled holl Awdurdodau Lleol Cymru, gyda 14 o’r swyddogion hyn yn cwblhau’r gofynion ychwanegol i fodloni’r cymhwyster ar gyfer gwerthwyr anifeiliaid anwes. 
  • Yn dilyn ymgynghoriad ar ein cynigion, rydym ar y trywydd iawn i gyflwyno rheoliadau a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i ladd-dai osod camerâu CCTV ym mhob ardal lle mae anifeiliaid byw yn bresennol, yn ystod gwanwyn 2024. 
  • Rydym wedi bod yn gweithio gyda llywodraethau eraill i edrych ar y defnydd o gewyll wedi'u cyfoethogi ar gyfer ieir dodwy, a chratiau geni ar gyfer hychod. 
  • Cyflwynwyd Bil Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw) i Senedd y DU ym mis Rhagfyr. Cytunodd y Gweinidog mewn egwyddor i ymestyn gwaharddiad  allforio byw ar gyfer lladd neu besgi i Gymru, a gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol, ar gyfer y darpariaethau sy’n dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, ar 19 Rhagfyr. Mae’r Bil yn symud yn ei flaen yn sydyn a daeth i ddiwedd camau Tŷ’r Cyffredin heb ei ddiwygio.
  • Rydym yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban ar gynigion i wella lles anifeiliaid wrth eu cludo, sy’n cynnwys gwaith ymgysylltu dwys gydag arbenigwyr yn y diwydiant a sefydliadau lles anifeiliaid.
  • Ym mis Hydref 2023 fe wnaethom gynnal Uwchgynhadledd aml-asiantaeth ar Berchnogaeth Ci Cyfrifol. Mae cyfres o weithdai dilynol yn cael eu trefnu, a’r cyntaf wedi ei chynnal ym mis Chwefror 2024. Mae Datganiad Ysgrifenedig yn manylu ar ganlyniadau’r uwchgynhadledd.

Adran 1: Ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu

Ymrwymiad 1: Datblygu model cenedlaethol ar gyfer rheoleiddio lles anifeiliaid, gan gyflwyno cofrestr ar gyfer sefydliadau lles anifeiliaid, bridwyr masnachol anifeiliaid anwes neu anifeiliaid ar gyfer saethu, ac arddangosfeydd anifeiliaid

  • Yn hanner cyntaf yr ail flwyddyn rydym wedi gorffen cyfnod o gasglu tystiolaeth, wedi ysgrifennu at Awdurdodau Lleol a mudiadau allweddol y trydydd sector yng Nghymru, drwy Rwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru (AWNW) a Grŵp Lles Anifeiliaid Anwes Cymru (CAWGW), i benderfynu a yw deddfwriaeth sy’n bodoli yn ateb y gofyn.
  • Fe wnaeth yr atebion i’r alwad hon i gasglu tystiolaeth ein helpu i baratoi dogfen yn amlinellu lle’r oedd angen cryfhau’r ddeddfwriaeth, Fe wnaeth hyn nodi gweithgareddau a sefydliadau penodol, gan gynnwys steilwyr cŵn, cerddwyr cŵn, arbenigwyr ar ymddygiad cŵn, hyfforddwyr milgwn, llochesi, canolfannau achub ac arddangosfeydd adar ysglyfaethus. 
  • Yn dilyn cydweithio agos â’n rhwydweithiau lles anifeiliaid ac Awdurdodau Lleol , fe wnaethom lansio ymgynghoriad cyhoeddus am 12 wythnos ar 8 Rhagfyr 2023, o’r enw Trwyddedu sefydliadau lles, gweithgareddau ac arddangosfeydd anifeiliaid. Mae’r ymgynghoriad yn dod i ben ar 01 Mawrth 2024 a dyma’r cam cyntaf o ran datblygu Model Cenedlaethol ar gyfer rheoleiddio lles anifeiliaid. 
  • Mae’r Prosiect Awdurdodau Lleol a gafodd ei ail frandio fel ‘Trwyddedu Anifeiliaid Cymru’ wedi ei sefydlu bellach ac mae wedi datblygu dull cydweithredol o ran safonau, arferion gorfodi a chyngor ar y canllawiau statudol sy'n cefnogi deddfwriaeth bresennol.
  • Mae'r Prosiect Gorfodi Awdurdodau Lleol wedi helpu i archwilio safleoedd bridio cŵn ac mae wedi sbarduno cynnydd sylweddol: 
    • Hyfforddi 58 o swyddogion ar draws yr holl Awdurdodau Lleol;
    • Hyfforddi un ar ddeg arolygydd rhanbarthol, dau swyddog cymorth a dau gydlynydd systemau sydd bellach wedi ymgymryd â'u swyddi.

Ymrwymiad 2: Gwella'r cymwysterau i arolygwyr lles anifeiliaid er mwyn codi eu statws proffesiynol

  • Mae ein Prosiect Trwyddedu Anifeiliaid wedi datblygu proses ar gyfer estyn a chryfhau'r hyfforddiant ar gyfer holl swyddogion gorfodi trwyddedau Awdurdodau Lleol, i’w hymestyn wrth i reoliadau trwyddedu newydd gael eu cyflwyno. 
  • Hyd yma mae 11 swyddog gorfodi rhanbarthol, dau swyddog cymorth a dau gydlynydd systemau wedi cychwyn ar eu swyddi, gan greu lefel uwch o arbenigedd i gefnogi Awdurdodau Lleol gydag achosion cymhlethach.
  • Mae arian grant wedi ei sicrhau ar gyfer tair blynedd arall, a’r archwilwyr yn cael effaith wirioneddol. Mae swyddogion wedi cynnal 391 archwiliad gan arwain at gyhoeddi 58 Hysbysiad Gwella o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 

Ymrwymiad 3: Gwneud teledu cylch cyfyng yn ofynnol ym mhob lladd-dy

  • Rydym wedi ymgynghori ar gynigion i wneud CCTV yn ofynnol yn yr holl ladd-dai cymeradwy, mewn ardaloedd lle mae anifeiliaid byw. Roeddem eisiau deall yr effaith y bydd ein hymrwymiad yn ei chael ar fusnesau unigol, yn enwedig lladd-dai llai sy’n darparu gwasanaeth hanfodol i ffermwyr ac sy’n cyfrannu at gadwyni cyflenwi bwyd lleol, cynaliadwy. 
  • Cyhoeddwyd crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ym mis Mai 2023. Cafwyd 16,014 o ymatebion. Roedd hyn yn cynnwys 71 o ymatebion unigol a 15,943 o ymatebion oedd yn union yr un fath fel rhan o ymgyrch gan yr RSPCA. Roedd 86% o ymatebwyr unigol a 100% o’r rhai ymatebodd fel rhan o’r ymgyrch yn cytuno y dylid gosod camerâu CCTV mewn lladd-dai.
  • Rydym ar y trywydd iawn i gyflwyno rheoliadau i wneud CCTV yn ofynnol ym mhob lladd-dy yn ystod gwanwyn 2024. 
  • Rydym wedi gweithio gyda'r Asiantaeth Safonau Bwyd (FSA) sy’n monitro ac yn gorfodi rheoliadau lles anifeiliaid mewn lladd-dai. Bydd yr FSA yn defnyddio CCTV fel rhan o’i rôl gorfodi bresennol mewn lladd-dai.

Ymrwymiad 4: Cyfyngu ar ddefnyddio cewyll ar gyfer anifeiliaid a ffermir

  • Rydym yn gweithio gyda gweinyddiaethau eraill i ystyried sut i wella eto safonau lles anifeiliaid fferm uchel trwy archwilio'r modd y defnyddir cewyll wedi'u cyfoethogi ar gyfer ieir dodwy, a chratiau geni ar gyfer hychod. 
  • Rydym yn edrych ar sut a lle maent yn cael eu defnyddio yn ogystal ag ar effeithiau lles systemau presennol ac amgen. Rydym yn ystyrlon iawn o’r effaith ar y diwydiant, o ystyried yr heriau y mae’r sectorau moch a ieir yn eu hwynebu ar hyn o bryd . Rhaid inni ystyried argaeledd masnachol systemau amgen hefyd, yr effaith ar ddefnyddwyr, yr amgylchedd, a masnach.
  • Mae Cynllun Gwaith y Pwyllgor Lles Anifeiliaid ar gyfer 2023 – 2024 yn cynnwys prosiect er mwyn edrych ar safonau lles cadw ieir dodwy mewn systemau di-gewyll nad oes ganddynt fynediad i’r tu allan (systemau ysgubor)

Adran 2: Gwaith ar Bolisi yng Nghymru

Canllawiau Statudol Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021

  • Cyhoeddwyd ein canllawiau statudol ar werthu anifeiliaid anwes yn 2021. 
  • Erbyn mis Medi 2023 roedd cyllid Llywodraeth Cymru wedi galluogi cynnal pedwar cwrs hyfforddi i 58 o swyddogion ar draws yr holl Awdurdodau Lleol a darparwyd deunydd gyda’r gofynion trwyddedu i werthwyr anifeiliaid anwes. 
  • Bydd Trwyddedu Anifeiliaid Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol, a phartïon eraill sydd â diddordeb i ddatblygu modiwlau unigol ymhellach ar gyfer meysydd eraill o drwyddedu anifeiliaid wrth iddynt ddatblygu. 

Gwneud diweddariadau pellach i ganllawiau statudol Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014

  •  Fe wnaeth Trwyddedu Anifeiliaid Cymru gynnal gweithdy gyda bridwyr trwyddedig ym mis Mehefin 2023. Cafwyd adborth ac awgrymiadau o’r gweithdy ynghylch ymarferoldeb a dichonoldeb gwelliannau posibl i’r canllawiau cyfredol. 
  • Mae’r gwaith yn cyd-fynd â’r argymhellion o’r Uwchgynhadledd Perchnogaeth Ci Cyfrifol a gweithdai dilynol. 

Trwyddedu Arddangosfeydd Anifeiliaid a Sefydliadau Anifeiliaid

  • Rydym wedi lansio ein hymgynghoriad ar drwyddedu sefydliadau lles anifeiliaid, gweithgareddau ac arddangosfeydd anifeiliaid, ar 8 Rhagfyr 2023. Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg am 12 wythnos ac yn dod i ben ar 1 Mawrth 2024.
  • Rydym yn dal i weld diddordeb cynyddol mewn rasio milgwn ac mewn cydnabyddiaeth o hyn wedi cynnwys cwestiynau ar ei ddyfodol yn yr ymgynghoriad uchod.
  • Unwaith y bydd yr ymgynghoriad wedi dod i ben rydym yn bwriadu ystyried yr holl ymatebion a gafwyd gan y cyhoedd, yn ogystal â’r alwad benodol am dystiolaeth (a gynhaliwyd gydag Awdurdodau Lleol a Sefydliadau’r Trydydd Sector drwy Rwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru (AWNW) a Grŵp Lles Anifeiliaid Anwes Cymru (CAWGW), er mwyn penderfynu ar flaenoriaethau trwyddedu. 
  • Mae’r ymgynghoriad hwn yn ffurfio rhan gyntaf o waith datblygu Model Cenedlaethol ar gyfer rheoleiddio lles anifeiliaid. Disgwylir y bydd y Model Cenedlaethol yn ymestyn trwyddedu i weithgareddau anhrwyddedig sy’n ymwneud ag anifeiliaid ac yn diweddaru’r fframwaith drwyddedu ar gyfer gweithgareddau eraill nad ydynt yn cael eu rheoleiddio’n gadarn. 

Microsglodynnu Cŵn a Chathod

  • Mae gwaith ar berchnogaeth ci cyfrifol wedi amlygu materion yn ymwneud â’r cynllun microsglodynnu cyfredol ar gyfer cŵn. Bydd cynigion i'w gwneud yn orfodol microsglodynnu cathod a chathod bach hefyd yng Nghymru yn cael ei ystyried unwaith y bydd y ddeddfwriaeth gyfredol ac unrhyw seilwaith o ran cronfeydd data yn cael eu hystyried yn effeithiol.

Codau Ymarfer

  • Bwriad ein codau yw annog pawb sy’n gyfrifol am anifeiliaid i gadw at y safonau gofalu uchaf. Maen nhw'n esbonio beth y dylai rhywun ei wneud i fodloni'r safonau gofal y mae'r gyfraith yn gofyn amdanynt. 
  • Rydym wedi sefydlu Gweithgor gyda gweinyddiaethau eraill y DU i alinio a diweddaru’n codau ymarfer. 

Adran 3: Cydweithredu ar Bolisi y DU/Prydain Fawr

Y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) sydd wedi methu 

  • Nod y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) yw darparu diwygiadau pwysig i anifeiliaid a ffermir, anifeiliaid anwes ac anifeiliaid eraill a gedwir, ac roedd yn faes gwaith sylweddol yn ystod blwyddyn 2 yr AWP. Yn anffodus, cafodd y Bil ei sgrapio gan Lywodraeth y DU ym mis Mai 2023. 
  • Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU er mwyn symud rhai elfennau o’r Bil yn eu blaenau, gan gynnwys yr elfennau ar allforio byw, smyglo cŵn bach a phoeni da byw. 

Lles Anifeiliaid wrth eu Cludo

  • Cyflwynwyd y Bil Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw) i Senedd y DU ym mis Rhagfyr. Cytunodd y Gweinidog Materion Gwledig mewn egwyddor y dylid ymestyn y gwaharddiad rhag allforio byw i ladd neu besgi i Gymru a gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar 19 Rhagfyr. Mae’r Bil yn datblygu yn sydyn a daeth i ddiwedd camau Tŷ’r Cyffredin heb ei ddiwygio. 
  • Rydym yn cytuno â'r farn na ddylid cludo anifeiliaid oni bai bod hynny'n angenrheidiol a dylid cadw amser teithiau mor fach â phosibl. Bydd allforion at ddibenion heblaw lladd neu besgi, megis ar gyfer bridio neu i fynd i gystadlaethau a sioeau, yn parhau i gael eu caniatáu. Ni fydd dofednod yn dod o dan y gwaharddiad.
  • Mae tystiolaeth wedi dangos y gall teithiau hir iawn achosi straen gwres, dadhydradu, ac anafiadau corfforol i anifeiliaid sy'n cael eu cludo. 
  • Rydym yn parhau i weithio gyda Llywodraethau’r DU a’r Alban ar gynigion i wella lles anifeiliaid wrth eu cludo. Bu ymgysylltu sylweddol â rhanddeiliaid, gan gynnwys arbenigwyr yn y diwydiant, a sefydliadau lles anifeiliaid. 

Adran 4: Gwaith arall nad yw wedi’i gynnwys yn Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru

Gwahardd Cŵn XL Bully 

  • Ym mis Medi 2023, cyhoeddodd Prif Weinidog y DU waith brys i ddiffinio a gwahardd cŵn XL bully yn dilyn cyfres o ymosodiadau. 
  • Yn ddiweddarach, diwygiodd Llywodraeth y DU Ddeddf Cŵn Peryglus 1991 er mwyn ychwanegu cŵn XL Bully at y rhestr o fridiau cŵn sydd wedi’u gwahardd yng Nghymru a Lloegr.
  • O 31 Rhagfyr 2023 ymlaen bu’n rhaid i berchnogion mathau o fridiau Bully XL gydymffurfio ag amodau llym. Mae hyn wedi cynnwys sicrhau eu bod yn rhoi eu ci ar dennyn a safnffrwyn yn gyhoeddus, a pheidio bridio eu ci, ei werthu, ei gyfnewid, cefnu arno na’i roi yn anrheg.
  • O 1 Chwefror 2024 ymlaen daeth yn drosedd meddu ar gi o fath XL Bully os nad oedd eithriad wedi ei gyflwyno ar gyfer y ci.
  • Rydym yn cydnabod yr angen i weithredu yn y maes hwn ond rydym hefyd yn ymwybodol bod unrhyw gi yn gallu bod yn ymosodol.  
  • Ym mis Hydref 2023 cynhaliodd Y Gweinidog Materion Gwledig uwchgynhadledd ar Berchnogaeth Ci Cyfrifol: Gweithredu ar gŵn peryglus. Mynychodd cynrychiolwyr o Awdurdodau Lleol a’r Heddlu, yn ogystal ag aelodau ac arbenigwyr o’r Trydydd Sector er mwyn trafod materion penodol am berchnogaeth, sy’n allweddol o safbwynt sicrhau bod cŵn yn cael y gofal a’r hyfforddiant cywir, a’u bod o dan reolaeth 
  • Roedd argymhellion o sesiwn gweithdy’r Uwchgynhadledd yn cynnwys :
  • Sut mae Heddluoedd yn blaenoriaethu digwyddiadau sy’n ymwneud â chŵn ac yn adrodd amdanynt 
  • Diweddaru Rheoliadau Bridio Cŵn a sicrhau eu bod yn addas ar gyfer y dyfodol 
  • Cyflwyno dull ffurfiol o gofnodi ymosodiadau gan gŵn/poeni da byw.
  • Ystyried hysbysiadau rheoli cŵn.
  • Nodi cyllid ar gyfer gwaith ymchwilio a deall grŵp Bridio Anghyfreithlon a Throseddau Cyfundrefnol Difrifol Cymru gyfan, ar ôl mis Mawrth 2024 
  • Cynhaliwyd uwchgynhadledd ddilynol ym mis Chwefror er mwyn i fynychwyr ail gyfarfod a bydd digwyddiadau pellach yn digwydd drwy 2024 er mwyn sicrhau nad yw momentwm yn cael ei golli.

Lles Anifeiliaid ar adeg eu lladd 

  • Rydym yn parhau i weithio gyda gweinyddwyr y DU ar gynllun diwygio ar gyfer lles wrth ladd yn dilyn adolygiad Defra, sef Adolygiad Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Lloegr) 2015.
  • Mae Cynllun Gwaith y Pwyllgor Lles Anifeiliaid ar gyfer 2023 – 2024 yn cynnwys y prosiectau canlynol:
    • Difa dofednod ac ewyn nitrogen – archwilio’r defnydd o ewyn sy’n ehangu ar gyfer difa dofednod ac adolygu ei agweddau lles anifeiliaid.
    • Ceffylau ar adeg eu lladd – asesu ymchwil parhaus ar faterion ymddygiadol sy’n ymwneud â thrin ceffylau cyn eu lladd mewn lladd-dai.

Ymgysylltu â’r Pwyllgor Lles Anifeiliaid 

Mae’r Pwyllgor Lles Anifeiliaid (AWC) yn cynghori’r Llywodraeth ar les anifeiliaid sy’n cael eu ffermio, anifeiliaid anwes ac anifeiliaid gwyllt a gedwir gan bobl. 

Rydym yn comisiynu ac yn cytuno ar ymchwil ochr yn ochr â’r Llywodraethau datganoledig eraill. Mae papurau a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Pwyllgor Lles Anifeiliaid yn cynnwys:

Ysbaddu a thocio cynffonnau ŵyn 

  • Gofynnwyd i’r Pwyllgor Lles Anifeiliaid ystyried goblygiadau lles ysbaddu a thocio cynffonnau ŵyn. Fel sy’n cael ei arfer ar hyn o bryd, mae’r ddau beth yn achosi niwed lles sy’n cynnwys poen ar y pryd a phoen parhaus. Dylai ffermwyr defaid ystyried yn ofalus os oes angen y naill driniaeth, gan drafod â’u milfeddyg. Os yw’n angenrheidiol at ddibenion rheoli, yna rhaid cynnal y driniaeth yn unol â’r gyfraith. 
  • Os mai defnyddio cylch rwber neu ddyfais arall i dorri ar lif y gwaed i’r sgrotwm neu gynffon yw’r dull a ddefnyddir i ysbaddu neu docio cynffonnau, dim ond i anifail nad yw’n hŷn na saith diwrnod oed y ceir rhoi’r driniaeth. 
  • Rydym wedi bod yn gweithio gyda Defra a Llywodraeth yr Alban i ystyried casgliadau ac argymhellion Y Pwyllgor Lles Anifeiliaid, yn ogystal ag ymchwil gan Goleg Gwledig yr Alban ar ddyfeisiadau prototeip newydd. Rydym yn chwilio am bolisi cyson ar draws Prydain er mwyn sicrhau’r canlyniadau lles gorau i ŵyn.

Ymgyrchoedd estyn allan a chyfathrebu Llywodraeth Cymru 

Rydym wedi cyhoeddi deunydd tymhorol ac amserol ac wedi cefnogi ymgyrchoedd lles anifeiliaid ehangach gan gynnwys poeni da byw, gofalu am anifeiliaid anwes a da byw mewn tywydd eithafol a pherchnogaeth anifeiliaid anwes cyfrifol.

Roedd ein presenoldeb yn Sioe Frenhinol 2023 yn canolbwyntio ar berchnogaeth anifeiliaid anwes cyfrifol ac fe geisiwyd ymgysylltu â’r cyhoedd drwy amrywiaeth o weithgareddau a darparu taflenni gwybodaeth a deunyddiau addysg oedd yn addas i blant. Gan weithio ochr yn ochr â Trwyddedu Anifeiliaid Cymru, fe wnaethom ymdrin â phynciau fel dewis y math cywir o gi i’ch amgylchiadau, bridio cŵn yn anghyfreithlon, gorfodi, a pherchnogaeth gyfrifol. 

Fel rhan o’r ymgyrch hon, fe wnaethom gyhoeddi tudalennau penodol ar y we ar berchnogaeth ci cyfrifolpherchnogaeth gyfrifol ar gath. Fe wnaethom weithio gyda’n cydweithwyr yn y trydydd sector i gyfeirio at ddeunydd perthnasol gan gynnwys Dogs Trust, Blue Cross, yr RSPCA, a Cat’s Protection.