Neidio i'r prif gynnwy
Cynnydd o ran ein blaenoriaethau

Datgloi economi Cymru

Datgloi potensial economi Cymru, a chreu swyddi da sy’n talu’n dda.

Y bwlch cynhyrchiant a chyflogau 

Mae’r siartiau yn dangos dau fesur o ran economi Cymru: y bwlch cynhyrchiant gyda’r DU a’r twf real mewn cyflogau.  

Mae’r siart cyntaf yn dangos y Gwerth Ychwanegol Gros fesul awr a weithiwyd yng Nghymru o gymharu â’r DU, sy’n fesur o gynhyrchiant llafur. 

Mae gwerth o 84.9 (lle mae gwerth y DU = 100) yn dangos bod yr allbwn fesul awr a weithiwyd yng Nghymru yn 84.9% o gyfartaledd y DU yn 2023. 

Mae’r ail siart yn dangos newidiadau blynyddol mewn enillion yng Nghymru a’r DU ar ôl ystyried chwyddiant.  

Mae gwerthoedd positif yn dangos bod enillion yn cynyddu’n gynt na phrisiau, tra bod gwerthoedd negyddol yn dangos bod chwyddiant yn tyfu’n gynt nag enillion. 

Eglurhad ynghylch data y bwlch cynhyrchiant a chyflogau

Disgrifiad o siart bwlch cynhyrchiant: Mae’r siart bwlch cynhyrchiant yn dangos bod cynhyrchiant yng Nghymru yn parhau i fod yn is na chyfartaledd y DU drwy gydol y cyfnod a ddangosir. Ar y cyfan, mae cynhyrchiant Cymru o’i gymharu â’r DU wedi bod yn gyson ac roedd yn 84.87 yn 2023. 

Daw’r data o’r tablau cynhyrchiant is-ranbarthol a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Dosberthir yr ystadegau hyn fel ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad. Mae data cynhyrchiant ar gael ar hyn o bryd hyd at 2023. 

Disgrifiad o siart twf real mewn cyflogau:  Amrywiodd twf real mewn cyflogau yng Nghymru a’r DU rhwng mis Gorffennaf 2019 a mis Gorffennaf 2026. Cyrhaeddodd y twf y brig ym mis Gorffennaf 2021, sef tua 5.1% yng Nghymru a 4.6% yn y DU, cyn troi’n negyddol ym mis Gorffennaf 2022 (-3.4% yng Nghymru a -2.4% yn y DU). Gwelwyd bod twf wedi adfer yn ystod y blynyddoedd dilynol. Ym mis Gorffennaf 2026, cynyddodd cyflogau real tua 1.3% yng Nghymru o gymharu â thua 1.1% yn y DU.  

  • Daw’r data ar enillion o system Gwybodaeth Amser Real Cynllun Talu wrth Ennill Cyllid a Thollau EF, a gyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae’r mis diweddaraf yn seiliedig ar amcangyfrif fflach, gyda thua 15% o’r cofnodion cyflogau wedi’u hamcangyfrif. 
  • Caiff twf real mewn cyflogau ei gyfrifo drwy addasu twf enillion gan ddefnyddio’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr, gan gynnwys costau tai perchen-feddianwyr. 
  • Caiff yr ystadegau hyn eu dosbarthu yn ystadegau swyddogol ardystiedig. 

Gweld y cynhyrchiant isranbarthol ar y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Gweld yr enillion a'r chyflogaeth o Wybodaeth Amser Real y Cynllun Talu Wrth Ennill, wedi ei addasu'n dymhorol ar y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Pam mae twf cynhyrchiant yn bwysig 

Mae twf cynhyrchiant yn bwysig er mwyn hybu gwell safonau byw i bobl Cymru yn y tymor hir. Mae economi sy’n elwa ar dwf cynhyrchiant iach yn creu mwy o werth o’r sgiliau, yr amser a’r adnoddau sydd ar gael iddi. Mae hyn yn helpu busnesau i dyfu, creu swyddi a chodi safonau byw. 

Gall gwell twf cynhyrchiant arwain at ganlyniadau cadarnhaol, fel:

  • cynnydd mewn cyflogau ac incwm aelwydydd 
  • mwy o gyfleoedd i bobl ddod o hyd i waith diogel a chyflog da 
  • busnesau yn ei chael hi’n haws datblygu, buddsoddi a chystadlu 
  • lefelau uwch o arloesi, entrepreneuriaeth a thwf a gweithgarwch busnesau 
  • mwy o fuddsoddiad preifat mewn cymunedau, trafnidiaeth, ynni a seilwaith digidol, ac asedau sy’n hybu twf 
  • twf economaidd cyflymach ledled Cymru

Gall ddenu buddsoddiad, cryfhau economïau lleol a darparu sylfaen gryfach ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a ffyniant hirdymor‌. Gall cynhyrchiant isel olygu bod busnesau yn wynebu anhawsterau i fod yn gystadleuol, ceir llai o gyfleoedd i ddod o hyd i waith a thwf arafach mewn cyflogau. 
 

Sut rydym yn mynd ati i wella’r economi 

I hybu twf cynhyrchiant a gwella safonau byw ledled Cymru, mae’r Llywodraeth yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • sefydlu Asiantaeth Ddatblygu Genedlaethol i Gymru i helpu busnesau Cymru i arloesi a thyfu 
  • ceisio cynyddu’r arian sydd ar gael ar gyfer twf busnesau drwy ddefnyddio Banc Datblygu Cymru 
  • buddsoddi mewn sgiliau a hyfforddiant sy’n gweithio i bob dysgwr, gan ddefnyddio’r Archwiliad Sgiliau a’r Uwchgynhadledd Sgiliau, i adlewyrchu cyfleoedd swyddi go iawn a chefnogi ein nodau cynhyrchiant 
  • buddsoddi mewn rhwydweithiau trafnidiaeth a band eang digidol, yn ogystal â deall gofynion rhwydweithiau ynni i gefnogi twf economaidd hirdymor 
  • cadw mwy o wariant cyhoeddus yng Nghymru i gefnogi busnesau Cymru

Gyda’i gilydd, nod y camau gweithredu hyn yw haneru’r bwlch cynhyrchiant rhwng Cymru a’r DU mewn 10 mlynedd er mwyn creu economi gryfach a mwy cynhyrchiol sy’n sicrhau cyflogau uwch, a gwell safonau byw ledled Cymru.

Hysbysiadau diweddaraf

Dilynwch ni